Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Yr oedd yn llawen gennyf ddarllen yr wythnos ddiweddaf fod y Llyfrgell Genedl- aethol yn myned ymlaen mor galonogol, ac fod llawer o drysorau hynafol ein llenydd- iaeth eisoes wedi eu casglu i Aberystwyth. Er hynny, gwaith araf fydd dwyn yr adeilad newydd i ben, a chymer flynyddau lawer i wneud y lie yn addas i efrydwyr. Yn y cyfamser gall y rhai sydd ynglyn a'r Llyfr- gell wneud gwasanaeth llesol pe cy hoed dent restr o'r hen lyfrau sydd eisoes wedi eu cael neu sydd o ddyddordeb i haneswyr. Yr unig lawlyfr llyfryddol sydd gennym ydyw casgliad Gwilym Lleyn, ond gwyddis fod hwnnw yn anghyflawn iawn, a byddai yn werth cael llyfr safonol, dyweder am yr hyn a gyhoeddwyd ynglyn a Chymru yn ystod canrif gyntaf yr argraffwasg ym Mhrydain. A oes rhai o'n llyfryddwyr a gymer at y gorchwyl ? Cywiro gwall. Yysgrifenna "Neander" o Aberdar i gywiro yr hyn ymddangosodd yn y rhifyn diweddaf ynglyn a Chomedau. Rhoddais ddyfyniad o bryddest gan fardd Cymreig yn disgrifio'r Corned, gan osod Islwyn fel yr awdwr. Dywed Neander mai Emrys a'u pia, ac mai dyfyniad o'i awdl ar Y Gread- igaeth" ydoedd y llinellau. Gan fy mod yn ysgrifennu'r cywiriad, fel y gwnes fy nodiad cyntaf, yn unigedd glan y mor, ymhell o gyrraedd fy'm llyfrgell, yr wyf yn ddiolchgar i'm gohebydd am ei gywiriad, a rhodded i Emrys ei eiddo, canys yr oedd yn un o feirdd goreu ei oes ar lawer ystyr. Safon newydd i Feirdd. Mae pob miri eisteddfodol cydrhwng y beirdd yn ddyddorol iawn pe ond am y dat- ganiadau rhyfedd a wneir gan feirdd a beirniaid. Ceir engraifft o hyn ynglyn a helynt Cadair Criccieth. Yr wythnos o'r blaen cyfeiriais at awdl Bwlch-Aberglaslyn, o waith Cybi," yr hon a ddyfarnodd Eifion Wyn yn anheilwng o anrhydedd y Gadair. Yn ei lith condemniol o'r awdl dywed Eifion Wyn Ni roes yr awdl unrhyw gymorth i mi i amgyffred mawredd a gogoniant yr olygfa ym Mwlch Aberglaslyn. A pha ryfedd, gan na fu Cybi, ar ei addefiad ei hun, erioed ar gyfyl y lie Wrth hyn gallwn gasglu nas gall bardd ddisgrifio ei wrthddrych heb iddo ei weled yn bersonol. Dyma safon newydd, yn ddiau, a byddai yn ddoniol gennyf glywed, dyweder yr Athro Morris Jones, yn condemnio rhai o awdlau y Lloer," am na fu'r beirdd yno, neu rywun yn bychanu Dinystr Jerusalem am na fu Eben Fardd erioed yn y ddinas honno Canmoliaeth amheus. A ydyw'r beirdd Cymreig yn darllen gweithiau eu gilydd ? Y mae'n amheus gennyf. Danfonodd Cybi ei awdl fechan i lolo Caernarfon, a Dyfed ac ereill, gan ofyn iddynt draethu eu barn arni fel cyfansoddiad. Gwnaeth rhai o honynt hynny yn dra chef- nogol, ond wedi deall fod yr awdl yn an- fuddugol mewn Eisteddfod leol, wele hwynt fel malwod yn tynnu eu cyrn i fewn ac megys yn ameu cywirdeb eu datganiad cyntaf Os oedd yn werth eu sylw ar y cychwyn, yn sicr nid oedd y ffaith ei bod yn anfuddugol yn ddigon i newid eu barn, canys y mae ami i awdl anfuddugol yn un dda ac yn aros ar gof a chadw cenhedlaethau lawer. Rhaid i'r beirdd yma ymarfer mwy o ysbryd anibynol a .magu tipyn o asgwrn cefn gogyfer a'r dadleuon-wedi- barn yma

-----CYMRAEG Y PULPUD.

[No title]

CYFARFODYDD.

Am Gymry Llundain.