Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

PREGETH I BREGETHWYR

News
Cite
Share

PREGETH I BREGETHWYR [GAN UN O'R STUDENTS LLUNDEINIG.] Un o'n breintiau ni'r students, ar achlys- uron arbennig, yw cael gwrando ar araith neu bregeth gennych chwi, bregethwyr; a mawr y pleser a'r budd roddir ini drwy eich cynyrchion dysgedig ac amserol. Ond peth dieithr ac anaml yw i student geisio eich annerch chwi; er hynny, credaf fod yr arngylchiad yn un addas, a gwn y maddeu- weh fy hyfdra pan ddeallwch mai eich lies eich hunain sydd gennyf mewn golwg wrth draddodi'r cyngor. Dim ond ar un adeg o'r flwyddyn yr ydym yn cael yr anrhydedd o groesawu y fath nifer o ddoniau dieithr i'n rnysg yn y brifddinas, sef ar adeg Cymanfa'r Pasc; ac mae'r rhagolygon am y fath dorf o wran- dawyr yn fy nghalonogi i fynd i hwyl wrth eich annerch. Mae'n wir mai dyfod yma i bregethu ar achlysur neillduol yr ydych, ac hwyrach fod rhai o honoch yn cael y fraint honno am y tro cyntaf yn eich hanes er hyn oil na ddigalonwch, canys nid pobl ddifater hollol yr ydych yn myned i'w hannerch. Yn wir, os oes rhai o honoch wedi bod yma droion yn flaenorol nid yw o un gwahaniaeth, eithr teimlaf fod fy nghena- dwri yn llawn mor bwysig i'r amlaf ei ym- weliadau yn ogystal ag i'r gwr sydd yn troedio heolydd Llundain am y waith gyntaf yn ei hanes. Nid pobl ddifater, ddywedais, ydych yn myned i'w hannerch. Na, nac ychwaith nid pobl anwybodus; a dyna'r wers gyntaf ddylid ei hargraffu ar feddwl y rhai ddeuant yma i bregethu'r efengyl. Rhaid i chwi ddeall mai nid yr un bregeth a grea argraff ffafriol yma ag a ddeil y prawf wrth gynull- eidfa wledig. Mae llawer i "asen wyllt o bregeth—chwedl Hiraethog-yn creu argraff anghyffredin ar hyd a lied Cymru; eto sydd yn hollol anaddas i gynulleidfa yn Llundain, a'r pwnc felly yw, pa fath bregeth a ddyleeh ei thraddodi. Ychydig iawn yw nifer y pregethwyr ydynt yn abl i drefnu eu pregethau i ateb yr amgylchiad. Ond y mae hyn yn hollol angenrheidiol os am ddyfod yn bregethwr mawr! Mae'r pysgotwr mwyaf llwydd- n y iannus bob amser yn dewis ei blyfyn i ateb i liw'r dwfr, ac mae'r pregethwr dylanwadol yntau yn trefnu ei nwyddau ar yr un cyallun Ond sut bregethau sydd a mynd" arnynt wrth gynulleidfa yn Llundain ? Dyna bwnc sy'n hawddach ei ateb drwy enwi'r ffaeleddau yn y gorffenol. Cymerwch, er engraifft, bregethau y City Temple ar adeg dathlu Gwyl Ddewi. Er yr adeg y cych- wynwyd yr Wyl genedlaethol hon prin y cydnabyddir fod mwy na dau o'r pregethwyr erioed wedi creu argraff ffafriol ar y gynull- eidfa, a'r rheswm pennaf am hynny yn ddiau ydyw, fod gormod o'r naws enwadol neu'r ysbryd hynafol ynglyn a'r hyn a ystyr- iant yn genadwri. Y tair elfen sydd yn nodweddiadol o gynulleidfa Lundeinig ydynt-ieuengrwydd, dysg, a chenedlaetholdeb. Mae'r mwyafrif o'r gwrandawyr yn bobl ieuainc sydd wedi dyfod i'r ddinas naill ai i berffeithio eu hymchwiliadau efrydol, neu i herio eu gofyn- ion mwyaf cydymgeisiol mewn masnach. Mae'r cyntaf—yr efrydydd-wedi cael golwg eang ar fywyd drwy ymgydnabyddu a llen- yddiaeth oreu y cyfnod, yr hyn a ddysgir iddo yn ein prif ysgolion a'n colegau. Ac nid dosbarth hawdd i bregethu iddynt ydyw'r dynion ieuainc hynny sydd wedi gorfod chwilio am reswm neu achos i bopeth ynglyn a'u haddysg athrofaol. Nid llai eu gallu yw yr ail ddosbarth-y dosbarth dysg- edig. Prin y mae yn angenrheidiol egluro mai nid y graddedigion athrofaol yw'r unig ddosbarth dysgedig yn y byd. Yr hyn a feddyliwyf wrth ddysgedig ynglyn a mas- nach yn Llundain ydyw'r bobl ieuainc hynny sydd a'u llygaid yn agored a'u medd- yliau yn effro i bob mudiad newydd ac yn weledyddion priodol o "arwyddion yr am- seroedd." Os nad yw'r gradd o B.A. wrth gynffon enw y masnachwr neu'r anturiaeth- wr ieuanc llwyddiannus yn y brif-ddinas, peidiwch a meddwl mai gwr di-ddysg ydyw. Gellwch fentro fod yr hwn sydd yn llym a beirniadol—neu yn keen, fel dywed y Sais- mewn masnach, yn wr sydd yn cario yr un nodweddion i farnu eich pregethau chwi, a phrin y gallaf feddwl am yr un dosbarth, a haedda'r enw dysgedig" i'w deffinio, na'r dosbarth hwn. Eto mae'r nodwedd genedlaethol" yn amlwg ymhob eglwys. Daw'r aelodau o bob rhan o Gymru. Mae'r De a'r Gogledd yn un, a mwy na hyn, mae'r gwahaniaethau enwadol yn absennol. Ceir yr Anibynwr a'r Bedyddiwr, yn ogystal a'r Wesleyaid, yn yr eglwysi Methodistaidd, a phob enwad arall yn yr eglwysi ereill, fel mai peth gwrthun iawn ydyw pregethu ar glilni enwadol mewn lleoedd o'r fath. Eglwysi Cymreig yng nghyntaf, ac yna cynulliadau enwadol yn yr ail le, ydyw eglwysi Cymreig y ddinas. Gwelwch, felly, fod yn bwysig i chwi adnabod y tir cyn dechreu ei drin i dderbyn yr had da geisir ei hau gennych, ac os cofiwch am y tair elfen hyn a chyfaddasu eich sylwadau i gyfarfod a'r anghenion, mae'n ddilys gennyf y bydd eich ymweliad o wir les i'm cydgenedl yma. Yn nesaf, cofiwch mai tref masnach ydyw Llundain. Y canlyniad o hyn ydyw, fod llawer o'r arferion masnachol yn dylanwadu ar ein heglwysi. Trefnir oriau'r moddion i gydfyned a galwadau'r masnachdy. Ofer disgwyl cynulliad am chwech o'r gloch ar noson waith, pan nad yw'r masnachdai yn cau eu drysau cyn saith ac anhawdd cael cynulliad lliosog cyn unarddeg foreu'r Sul pan y gwyddoch fod cannoedd o'r aelodau yn cadw eu siopau yn agored hyd hauner nos y Sadwrn blaenorol. Ac wedi i chwi amgyffred yr arferion hyn a oes angen eich argyhoeddi o'r pwysigrwydd i draddodi pregeth fer! Os gelwir am wasanaeth dau n o honoch yn yr un odfa, cofiwch beidio rhagymadroddi am dros bum munud, ac yna roddi hanner awr o bregeth. Os mai dim ond un o honoch fydd yn gwasanaethu, yna gall y gynulleidfa eich goddef am dri- chwarter awr os oes gennych genadwri gwerth ei thraddodi. Pobl y rheol a'r amser ydyw mwyafrif ein hieuenctyd. Rhaid iddynt fod yn eu lletydai erbyn adeg neilltuol, ac os bydd i chwi eu cadw yn rhy hwyr yn yr addoldy, yna cadwant draw ar bob achlysur cyffelyb yn y dyfodol. Mae pregethau hirion yn achos mwy o enciliadau na dim y gwn i am dano, a'r syndod yw na fuasai ein heglwysi wedi deall hyn ers llawer dydd. Yn olaf, cofiwch mai nid y cyfoethogion yn unig ydyw'r duwiolion. Mae rhai gwir seintiau i'w cael ymysg yr aelodau cyffredin, am hynny boed i chwi deimlo yn hollol gartrefol yn ein plith, gan ein cyfrif oil yn frodyr a chwiorydd yn yr Arglwydd.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.