Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
THE 1 CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. I GUARANTEED BY THE I Ifrfrerpflfll antr 3Coubott aub (Blabt Insurance (to- I Assets exceed iii,ooo,ooo. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS. I LOSS OF PROFITS. I ni v Special attention is called]to the Company's FORE- I MOST" Personal Accident.& Disease Policy, which I WRITE FOR provides for Free Medical Attendance of Assured's B own Doctor, in addition to the usual Compensation I PROSPECTUS for Accidents and Diseases. I Office for THE LIVERPOOL &LONDON & GLOBE for LIFE — INSURANCE. Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager & Secretary. THE "STANDARD" MILK CAN. The ean with a Reputation. ■ngrajj^BB SpeciallOffer- Half Pints, 6/6 doz. ■feSifl Pints, 7/- il « Quarts 13/ o* ii-, uT,i, c- Larger sizes in proportion. The Old-fashioned Hand-made Milk Can that will last. Prompt Deliveries on the Shortest Notice. Write for Catalogue DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON.
----------Y PULPUD A GWLEIDYDDIAETH.
Y PULPUD A GWLEIDYDDIAETH. Un o gyhuddiadau parotaf yr Eglwys a'r Toriaid yn erbyn yr Ymneilltuwyr ydyw, eu bod yn defnyddio eu pulpud yn hollol at ddibenion gwleidyddol. Er adeg yr Ethol- iad Cyffredinol y mae'r wasg Seisnig wedi ei .britho gan lythyrau yn ail-adrodd yr hen achwynion, ac yn honni mai'r unig ddys- geidiaeth a glywir yn yr addoldai Ymneill- tuol gwledig ydynt, areithiau gwleidyddol ar bynciau hollol amddifad o unrhyw egwyddor grefyddol. Yn wir, a barnu oddiwrth don ddolefus rhai o'r gohebwyr hyn, gellid tybio fod dydd trancedigaeth ein Ymherod- raeth wrth y drws, ac mai'r pregethwr Ymneilltuol fydd yn gyfrifol i'r cenedlaethau a ddel am y galanas torcalonus hwn. Ond er cymaint y cwyno, ac er amled y cyhuddiadau, y mae'n syndod ar cyn leied o brofion y seilir yr achwynion hyn. Gall i ryw benboethyn Radicalaidd roddi myneg- iant i ryw frawddeg neu syniad anoeth, ac yna rhaid cyhuddo'r holl enwadau am drosedd un person anghyfrifol! Pe def- nyddid yr un rheol at rai o areithiau y mawrion eglwysig, neu hilion ein pendefig- aeth, mae'n sicr gennym y byddai'r canlyn- iad yn dra anffafriol i'r blaid Geidwadol; a'r hyn sydd yn syndod i ni ydyw, fod y fath sylw yn cael ei roddi i'r cyhuddiadau llipa gan newyddiaduron a ddylent fod yn fwy doeth a Rhyddfrydig eu hysbryd ynglyn a mater o'r fath. A chaniatau fod ambell i Ymneilltuwr, neu Eglwyswr, yn rhedeg i eithafion ar rai adegau, y mae'n gwestiwn dyrus pender- fynnu pa le y mae Gwleidyddiaeth yn gorffen a Chrefydd yn dechreu. A chym- eryd gwasanaeth yr Eglwys wladoJ, fel engraifft, yr hwn a seilir ar y Llyfr Gweddi Cyffredin, y mae'r holl awyrgylch ynglyn ag ef yn wleidyddol! Ar sylfaen wladol y mae'r holl gyfundrefn wedi ei gosod, ac os yw'n ddiogel gweddio dros ein Senedd a'n Deddfroddwyr, ai pechod ynom yw sylwi ar rai o'r deddfau a ddaw o'u dwylaw ? Ym- hellach, a oes rhai o'r diwygiadau cymdeith- asol, a ddadleuir drostynt heddyw gan arweinwyr crefyddol, nas gellir eu cyfiawn- hau yn ol dysgeidiaeth yr Eglwys Gristion- ogol ? A ydyw pwnc sobrwydd, er engraifft, yn bwnc mwy gwleidyddol pan yr ymdrinir ag ef gan Ryddfrydwyr na phan y ceisia'r Ceidwadwyr ddiwygio'r fasnach feddwol ? Ai gweithred ddyngarol a chrefyddol ar ran y Ceidwadwyr ydyw rhoddi cynorthwy i'r diwaith, tra mai gweithred wleidyddol a materol ar ran y blaid arall yw rhoddi blwydd-dal i'r hen a'r methedig ? Yn wir, pan edrychir ar yr holl gwynion hyn y maent yn sawru o'r rhagrith mwyaf Phari- seaidd, ac yn brawf nad oes gronyn o'r ysbryd Cristionogol ynglyn a'r rhai a ledaen- ant y fath gyhuddiadau. Y ffaith am dani ydyw, mae'r arweinwyr Ymneilltuol wedi ceisio cadw yn rhy bell oddiwrth bynciau diwygiadol o'r fath. Pe buasent wedi rhoddi mwy o sylw i weithredu gwirioneddau y Bregeth ar y Mynydd a dysgu'r bobl sut i ddechreu eu nefoedd ar y ddaear, buasai llai o'r rhagrith pleidiol yma yn cael ei ysgrifennu yn erbyn y pulpud heddyw! Yr hyn sydd wedi andwyo ein pulpud ydyw'r awydd gwasaidd sydd yn ein pregethwyr Ymneilltuol i efelychu yr offeir- iadaeth ymhob dim. Oni bae am yr awyr- gylch wleidyddol ynglyn a'r pulpud—sef y gwrthwynebiad hanfodol i gysylltu'r Eglwys a'r Wladwriaeth—ni fuasai Ymneilltuaeth mor gadarn heddyw ac mae'n flin gennym weled rhai o'r arweinwyr mor ddiasgwrn- cefn a cheisio ymddiheuro" ar ran rhai o'n diwygwyr cymdeithasol pennaf. Eisieu rhagor o'r ysbryd milwriaethus yn erbyn y crefyddwr esmwyth sydd arnom, a mwy o bregethu yn erbyn y traws a'r cyfoethog-y rhai a ddegymant y tlawd a'r aughenus ac a orthrymant bob dosbarth fel y, gwnai'r mawrion yn oes y Gwaredwr gynt. Mae'n amlwg y gwnai'r Wasg Doriaidd heddyw gondemnio y Diwygiwr o Samaria yn yr un dull ag y condemniant bob diwyg- iwr cymdeithasol yn ein hoes ni! Dysgawd- wyr gwleidyddol yw pob un a geisia lesoli cyflwr presennol ei gyd-ddyn, ond athraw ysbrydol, mae'n debyg, yw'r gwr a fyn ein hyfforddi i fod yn foddhaus yn ein sefyllfa, gan gredu mai i hon y galwyd ni gan y Tad Nefol! Y fath athrod ar Gristionogaeth! A goreu po gyntaf y dihuna'r arweinwyr Ymneilltnol i bregethu mwy o'r wleidydd- iaeth hyn, os gwleidyddiaeth ydyw, canjs dyna'r unig ysbryd crefyddol sydd i'n diogelu a'n cymhwyso i ystad well yn y byd a ddaw.