Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Oer a gauafol oedd Sul y Blodau drwy Ddeheudir Cymru, er hynny tyrrai'r miloedd i addurno beddau eu hanwyliaid yn ol arfer y wlad. Mae'r Parch. J. Davies, gynt o Shirland Road, yn dychwelyd i Lundain erbyn yr ail Saboth o Fai. Cymer ofal o'r eglwys yn Wood Green, am y pedwar Saboth olaf o'r mis hwnnw. Mae'r eglwys yn Racine, Wis., yn teimlo yn chwith o'i golli ar ol gwasan- aethu yn ffyddlon iddi am tua phum mlynedd.
Y MERCHED A DIRWEST.
Y MERCHED A DIRWEST. ARAITH GAN MR. EDGAR JONES, A.S. 0 dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Merched Cymreig Llundain, cynhaliwyd eyfarfod tra llwyddiannus yng nghapel Castle Street nas Iau, y 17eg o'r mis hwn. Mae'r Gymdeithas wedi ei sefydlu ers rhai blynyddau yn ein plith, ac wedi gwneud gwaith canmoladwy iawn i hyrwyddo achos sobrwydd ymblith ein cydgenedl yn y ddinas, a hwn oedd y cynulliad blynyddol pryd y rhoddid sylw arbennig i waith y gorffenol a bwriadau y dyfodol. Dyddordeb pennaf y cyfarfod eleni ydoedd fod y pwyllgor wedi cael addewid gan Mrs. D. Lloyd George i gymeiyd y llywyddiaeth a cban Mr. Edgar Jones, yr aelod Seneddol newydd dros Ferthyr, i draddodi anerchiad am y waith gyntaf i'w gydgenedl yn y brif ddinas. Yn anffodus daeth rhwystrau teuluol ar ffordd Mrs. Lloyd George yn gymaint a bod ei phriod talentog wedi ei ddal gan anhwyldeb, ac i'w feddyg ei gynghori i gymeryd yehydig ddyddiau o seibiant yn nhawelwch hafaidd glan y mor yn Brighton, lie yr aeth y ddau rhyw ddiwr- nod yn flaenorol. Ond er cael siom ynglyn a phresenoldeb gwraig y Canghellor, llwyddodd y pwyllgor i ddenu Lady Herbert Roberts i lanw'r bwlch a chafwyd noson hynod o ddyddorol i wrando ar yr areithiau argyhoeddiadol a draddodwyd. Gan mai noson y merebed ydoedd, ac amryw gyfarfodydd ereill yn y ddinas ni chaed ond presenoldeb un o'r gweinidogion Cymreig, sef y Parch. D. Tyler Davies, Clapham, yr hwn a gymerodd awenau agoriadol y cynulliad i'w ddwylaw. Yr oedd Lady Roberts-a rhoddi iddi ei theitl newydd-yn hollol gartrefol yn y gwaith, gan ei bod fel ei theulu yn un o'r gweithwyr mwyaf cyson dros yr achos Dirwestol ar hyd ei hoes. Dywedodd fod y Gymdeithas wedi gwneud gwaith edmygol er adeg cychwyn y mudiad, ac ystyriai fod yr adeg bresennol yn un hynod fanteisiol iddynt i ledaenu yr egwyddorion a garent mor fawr. Nis gellid gobeithio cael dim oddiar law y Senedd ar hyn o bryd, ond hyderai y deuai'r dydd yn fuan pryd y gwelid rhai o awgrymiadau y Mesur Trwy- ddedol yn cael eu gosod ar ddeddflyfr ein gwlad. Apeliai at yr eglwysi i lynnu wrth yr achos, ac i fod ar eu heithaf i fod yn gen- hadon sobrwydd ymysg yr ieuenctyd ddeuent yma yn flynyddol. Eu gwaith cyntaf oedd sierhau pob merch yn yr eglwysi i fod o'u plaid, ac ond cael hyn byddai'r gwaith o ennill y brodyr i'r un daliadau yn beth cymharol hawdd. Araith Mr. Edgar Jones, A.S. Cafodd yr aelod ieuanc hwn groesaw cynnes iawn pan yn cyfodi i annerch y cyn- ulliad, a phrofodd ei hun ar unwaith yn feistr ar ei bwnc yn ogystal ag yn areithydd o'r dosbarth blaenaf. Eglurodd fod rhai blynyddau er y bu yn siarad yn gyhoeddus ar y pwnc Dirwestol yn bepnaf, eto yr oedd yn dal at ei hen egwyddorion fel llwyr ymwrth- odwr cadarn o dan bob amgylchiad. Yr oedd yn llawen ganddo weled y fath gyn- nydd yn achos Dirwest yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf hyn. Hyd yn oed yn ei oes fer ef yr oedd ymddygiad y cyhoedd tuag at achos sobrwydd wedi cyfnewid yn ddirfawr. Ddeuddeng mlynedd yn ol ed- rychid arno ef a'i gyfoedion megys ffyliaid neu grancod eithafol. Erbyn hyn yr oedd pawb o bwys yn y deyrnas wedi eu denu yn bleidiol i ddirwest, ac yr oedd y ffyliaid a'r crancod bellach i'w cyfrif ymhlith y rhai nad oeddent yn ystyried eu hunain yn gall yn y blynyddoedd o'r blaen. Mae'r medd- ygon wedi dechreu cyhoeddi eu hanathema uwchben yr arferiad o ddiota, ac mae'r awdurdodau swyddogol blaenaf yn tystio dros hirhoedledd y rhai ydynt yn llwyr- ymwrthodwyr. Gwir mai nid y Senedd oedd i sobri'r byd yn hollol, er y dis- gwylient gynorthwy yr aelodau yno o blaid yr achos. Ar hyn o bryd rhaid peidio dis- gwyl dim oddiar eu dwylaw, gan fod popeth yn St. Stephen megys wedi ei gloi. 0 dan yr amgylchiadau, eu dyledswydd hwy fel dirwestwyr oedd myned o amgylch i addfedu barn y cyhoedd ar y pwnc, ac ar ol gwneud hyn yn effeithiol deuai'r deddfu yn beth hawdd. Dangosodd Mr. Jones ei fod yn berfiaith hyddysg yn ei bwne, ac yr oedd yr araith o'r dechreu i'r diwedd yn deilwng o'r goreuon o'n haelodau, a theimlai'r dorf eu bod wedi cael cenhadwr effeithiol ac athrylithgar i'w plith ymherson yr aelod ieuanc dros Ferthyr Tydfil. Yn ddilynol i hyn rhoddwyd anerchiad dysgedig gan Miss Florence Belgarnee, boneddiges sydd wedi gweithio llawer dros yr achos ymyd y Sais, ac mewn amryw o wledydd dros y moroedd. Wedi cael alawon Cymreig gan Mrs. Blodwen Jones a Mr. G. Evans, cododd Mrs. Joseph Leete i ddiolch i'r areithwyr am eu presenoldeb, ac am y geiriau calonogol roddwyd ganddynt i aelodau y Gymdeithas. Eiliwyd hyn gan Mrs. Wyn Roberts, Ciap- ham-ysgrifennydd gweithgar y gan gen yn- Llundain.
TY'R GLEBER.
TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFL] Myned o ddrwg i waeth mae pethau yn Nhy'r Cyffredin, a'r achos o'r cyfan yw diffyg penderfyniad. Mae'r Weinyddiaeth megys pe heb wneud ei meddwl i fyny ar unrhyw gynllun. Heddyw cynygia un peth ac yfory fe'i tyn yn ol. Y dydd wedyn cyhoedda drefnlen arall y bydd pawb yn ei beirniadu, a bydd raid ymwadu a honno eilwaith cyn y daw'r wythnos i ben. Mr. Asquith ei hun sydd yn gyfrifol am yr holl fwnglerwaith! Pe buasai wedi glynnu wrth ei ddatganiad yn yr Albert Hall byddai pawb yn ei gefnogi, ond yn awr mae ei ganlynwyr yn y wlad ac yn y Ty wedi colli pob ymddiriedaeth ynddo, ac nid oes ond dinystr yn aros y blaid. Yn ol y sibrydion diweddaf ceir etholiad arall ar fyrder. Nid yw hyn ond chwareu i ddwylaw'r gelyn, ac mae'n eglur y collir amryw seddau y tro nesaf ac y daw'r Tori- aid yn ol i'w hen swydd. Ar ol hyn bydd gwaith y Senedd yn myned ymlaen yn hwylus, a phrawf y cyfan mai diffyg pender- fyniad y blaid Ryddfrydol fu'r achos o'r gwendid yn hollol. Y mae'n flin gan bawb am absenoldeb Mr.. Lloyd George yr wythnos hon, ac am yr anhwylder y mae yn dioddef oddiwrtho. Diau mai pryderon y swydd sydd wedi achosi'r clefyd, ond hyderaf y bydd wedi cael llwyr wellhad erbyn y bydd y Ty yn cydgyfarfod ar ol gwyliau'r Pasc. Efe yn ddiau yw y person mwyaf pwysig yn y Weinyddiaeth ar hyn o bryd, ac yn ol pob arwyddion y mae yn gorfod ymladd yn galed am bob symudiad o'i eiddo. Nid gwr i aberthu egwyddorion ar allor cynlluniau plaid ydyw Mr. Lloyd George, a byddai yn well ganddo weled y Gyllideb yn cael mynediad helaeth drwy Dy'r Arglwyddi ar fyrder na gorfod aros nes ceir y pender- fyniadau trefniadol presennol ar ddeddflyfr y wlad. Yn ystod yr holl firi yma cydrhwng y
NODIADAU LLENYDDOL.
ar ol y see me below yn un chwerw a chosbawl, a'r cyflog yn liai a'r oriau'n hwy o'r herwydd, neu ryw bennyd boenus o'i bath. A phan ymhen blynyddoedd y clywais am ei farwol- aeth a minnau bellach mewn tref arall, ac yn ddedwydd allan o'i balfau hirion, mi a ddychlemais ac a glwciais ynnof fy hun Eitha gwaith dyna yntau wedi cael see me below oddiwrth ei feistr du a bydd ei seiat o yn boethach a hwy ei chosb na'm seiat i."—O'r Brython. Ceninen Gwyl Ddewi. Os oes gan y Sais ei National Dictionary of Biography, y mae gan y Cymro ei Geninen Gwyl Ddewi, yr hon sydd yn fath o gofiadur blynyddol am ymadawedigion enwog ein cenedl. Yn y rhifyn am eleni, sydd newydd ddod o'r wasg, ceir ysgrifau dyddorol ar rai o ddewrion Cymru gynt. Ceir cofiant edmygol o'r Canon Walter Thomas, gan y Parch. T. Smith, Dewi Sant, Paddington; llinellau coffa am Gwilym Teilo, gan y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin ysgrif ar Edward Jones, Bardd y Brenin, gan y Parch. T. Price Evans; Parch. Richard Roberta, gan Tecwyn Evans, B.A. ynghyd a llu o ysgrifau ereill gwerth eu cadw mewn cof. Mae un ysgrif o ddyddordeb arbennig i ddarllenwyr y CELT, sef ysgrif goffa Mr. David Samuel, M.A., am y diweddar T. E. Jacob, y llenor coeth a'r ysgolor gwych fu'n ysgrifennu i'r papur hwn flynyddau yn ol o dan yr enw Cyril Bede." Gwyr Mr. Samuel ei hanes fel efrydydd yn dda, a rhydd fan- ylion am ei yrfa yn Aberystwyth a Rhyd- ychain. Ond ar ol ei ddyfodiad i Lundain ni chlywai ond yn anaml oddiwrtho, a thyn y lien yn dyner ar benod olaf ei hanes. Canmlwyddiant y Journal Nid oes ond dau newyddiadur yng Nghymru wedi byw am gan mlynedd, sef Cambrian, Abertawe, a'r Journal, Caer- fyrddin. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd yr olaf yn dathlu ei ben canmlwyddiant gyda rhifyn dwbl teilwng o'r papur a'i yrfa lewyrehus. Ar y 3ydd o Fawrth, 1810, y daeth y rhifyn cyntaf allan yn nhref Caerfyrddin ond y syndod yw nad oes un copi o'r rhifyn cyntaf ar glawr. Yn y rhifyn canmlwyddol ceir ysgrifau ar hanes y dref a'r ardal, a'r hyn wnaed ynddi dros lenyddiaeth y genedl yn ystod y ganrif sydd wedi myned heibio. Ysgrifau galluog a gwerthfawr ydynt i gyd. Yr un tant anhynod ydyw ysgrif Mr. Jones Cremlyn, ymgeisydd Ceidwadol tros ran- barth o Sir Gaerfyrddin yn yr etholiad diweddaf. Nid yn ami y gwelir y fath gynyrch snobyddol mewn papur yng Nghymru. Gwrandawer, er engraifft:— Nothing will persuade me that a man who is of good birth and education will not, as a statesman and adminis- trator, prove himself immeasurably superior to a man of humble origin who cherishes none of those noble sentiments and lofty ideas that animate a superior race. Ac eto yng ngwyneb datganiad o'r fath yr oedd Jones Cremlyn mor haerllug a dweyd y gwnai well Seneddwr na Mr. Lloyd Morgan Wfft i'r fath snobyddiaeth