Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Teimlai'r Gol. yn chwerw iawn tuag at Y Finsent •'ddechreu'r wythnos hon. Efe, mae'n debyg, oedd yn gyfrifol am i'r fath haid afreolus o feirdd dalu ym- weliad a'r neuadd olygyddol yr wythnos hon. Soniwch am Eisteddfod, ac fe ddihunir y beirdd fel nythaid o gaccwn. Dyna wnaeth y Finsent. Galwodd yr hil farddol ynghyd i benderfynu lleoliad Eisteddfod 1909, ac mor sicr oedd y beirdd fod y mater wedi ei benderfynu eisoes, fel y daethant yn llu gyda'u cynyrchion o flaen ei uchelder yng nghadair olyg- yddol y CELT. Yr oedd pob un yn awyddus am i'w genhadaeth ef gael ei gwrandaw ar fyrder, fel bu raid i'r Gol. i'w cystwyo yn lied ffyrnig cyn y tawent a son. Ac er i un neu ddau wneud ymgais i ddechreu, gwelodd y <Gwr Doeth nad oedd eu cynyrch yn werth gwrando -arnynt. Yng nghanol y siom a'r dadleu syrthiodd llygad y Llinos ar y Siswrn mawr orweddai ar y bwrdd, a "chan i'r offeryn hwnnw fod yn foddion i dorri pen ei araith yr wythnos gynt, hylldremai'r bardd o Harrow yn lied sarug arno, ac wedi cael ei wynt ato dyma fe yn esgor ar y cynyrch a welir mewn colofn arall. Wedi i'r Llinos hawlio gwrandawiad wele Huwco JLlwyd yn ceisio barddoni i bastwn y Gol., a orweddai gerllaw. Ond gyda'i fod wedi gorphen ei bedair llinell cyntaf, wele'r pastwn yn cael ei ddef- myddio gydag arddeliad far ei benglog llwyd. Pro- testiai Ysgrifennydd Eisteddfodol Hammersmith yn erbyn hyn, a dywedai mai ar ben gwr du'r wasg y dylid ei osod, gan i hwnnw wneud y fath lu o wallau yn ei hysbysiad ef yr wythnos ddiweddaf. Cymerodd y Gol. yr awgrym, a chan mai gwr "Cymwynasgar yw bob amser, gwnaeth addef y dylid cydymffurfio a'r sylw, a tharawodd y gwr du nes bo Awnnw yn rhuo fel tarw tair-blwydd. Methwyd a chael distawrwydd y tro hwn i ganu ""Hen Wlad fy Nhadau," a bu raid diweddu gyda'r lien gais arferol o'r gadair olygyddol am i bawb fod fflior fyr a blasus gyda'u cynyrchion bob amser.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. At Olygydd y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. IOAN FEDYDDIWR. Pa faint, tybed, o ddarllenwyr y CELT sydd yn 'derbyn y Deonglwr ? Faint o honom sydd wedi sylweddoli (neu wedi darganfod yn hytrach) rhyw- beth mwy am loan Fedyddiwr nai fod wedi bod yn yr vanialwch yn bwyta locustiad a mel gwyllt ? Yn y Deonglwr" am y mis hwn cyhoeddir pregeth a dra- "ddodwyd yn ddiweddar ar foreu Sul yn Falmouth Road gan y Parch. S. E. Prytherch ar y ddwy adnod gyntaf yn Luc iii. Dengys Mr. Prytherch tu hwnt i bob dadl na ddarfu i loan (fel ag y mae y dyb gyffredin) dreulio ei flynyddoedd rhagarweiniol mewn unigedd digym- deithas hollol, ond ei fod yn perthyn i sect o gref- yddwyr a elwid yr Esseniaid. Nid hawdd, yn wir, yw amgyffred y ffaith y rhenid cymdeithas yn y <lyddiau tywyll hynny i wahanol sectau, ond rhydd Mr. Prytherch hanes y sect honno, a dangosa hefyd Y gwahaniaeth oedd cydrhwng y sect honno a loan Fedyddiwr. Darfu i loan dderbyn y cwbl goreu oedd gan yr Esseniaid i'w roddi iddo darfu iddo -dyfu yn fwy na'r Sect. Yr oedd hyn yn glod i enw loan, ac y mae yn wers amserol i ninnau i dyfu yn uwcll. na Sect neu Enwad. Mae y bregeth yn cael ei rhanu yn ddau ben- (1) Perthynas loan a'i oes. (2) Perthynas loan a Christ. Mae hi yn bregeth gwerth ei darllen am ei bod yn un 'nlor amserol, mor addysgiadol, ac mor ddyrchafiadol. -I)arllenwch hi. J. H.
[No title]
Sibrydir fod un o eglwysi cyfoetliocaf y Cyinry yn Lerpwl wedi gwneud tro sal iawn yn ddiweddar. Y mae tipyn o ddyled ar y "Capel, ond gallasai amryw o'r aelodau dalu'r cyfan eu liunain heb deimlo'r baich. Ond galwyd cyfarfod, a phenderfynwyd yn hytrach dynu 70p y flwyddyn allan o gyflog y gweinidog—un o brif ysgolheigion a phregetJiwyr yr enwad. Penderfynodd trigolion Niwbwrch a'r ardaIoedd cylchynol yn Mon ddangos eu SWerthfawrogiad o roddion parhaus Mr. PrItchard Jones, y cyn-uchelsirydd, trwy gael Cerflun pres o hono. Gosodwyd y gwaith i'r cerflunydd Mr. Goscombe John, a bydd y uraul yn 1700, yna bwriedir ei gosod i fyny flaen y sefydliadau daionus godwyd gan Pritchard Jones dro yn ol at wasanaeth. yr ardal.
PULPUD YR WYTHNOS.
PULPUD YR WYTHNOS. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria Street- 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddington- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0 a 6.30, Mr. W. liar Edwards. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. W. H. Davies. 6.30, J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.45, Francis Knoyle, B.A. 6.30, P. H. Griffiths. Wilton Square.. 10.30, R.O.Williams. 6.30, E. W. Pearce. Falmouth Road 10.45, J. Wilson Roberts. 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 10.45, J. Emlyn Jones. 6.30, David Oliver. Shirland Road.. 10.45, David Oliver. 6.30, J. Emlyn Jones. Holloway 10.30, E. W. Pearce. 6.30, R. O. Williams. Hammersmith 11.0, P. H. Griffiths. 6.30, Francis Knoyle, B.A. Stratford. 11.0, D. James. 6.30, J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0, Mr. T. Huws Davies, B.Sc. 6.30, Parch. J. E. Rees. Walham Green 11.0, J. Thickens. 6.30, Cuthbert Thomas. Willesden Green 11.0, Cuthbert Thomas. 6.30, J. Thickens. Lewisham 11.0, J. E. Rees. 6.30, Mr. T. Huws Davies, B.Sc, Tottenham 11.0, Parch. J. E. Davies. 6.30, W. H. Davies. Walthamstow 11.0, Supply. 6.30, Mr. A. Richards. Wood Green 11.0, Mr. A. Richards. 6.30, Supply. Ealing, Swift Assembly Rooms, High Street- 3.0, Ysgol Sul. 6.30, Dr. Egryn Jones. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, Myfyriwr o Gaerfyrddin. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Myfyriwr o Gaerfyrddin. 6.30, Parch. J. Machreth Rees, Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, East Ham, Sibley Grove- 11.0, 3 a 6.30, Parch. Llewelyn Bowyer. Battersea Rise- 11.0, Parch. E. T. Owen. 6.30", 11 Capel Bethel, Willenhall Road, Brookhill Road, Woolwich- 11.0 a 6.30, Mr. D. G. Williams. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Parch. Herbert Morgan, B.A. Capel Moorfields," Little Alie Street, Aldgate 11.0 a 6.30, Parch. R. R. Williams. Tottenham- 11.0 a 6.30, Parch. E. Arberth Evans, A.T.S. Y WESLEYAID. City Röad- 11.0, Parch. Thomas Jones. 6.30, Mr. Barker. Brunswick, Balcombe Street, Dorset Square, W. 11.0, Mr. Edwards. 6.30, Parch. T. Jones. Poplar, Duff Street- 3 0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. Edwards.
----PUBLISHERS' NOTE.
PUBLISHERS' NOTE. The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Reader or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Bookstall, so that they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week.
Advertising
SALES AND WANTS. In the case of all accepted advertisements not accompanied with a remittance in full FOCRPENCE per line per insertion will be charged. Postal orders to be made payable at 211, Gray's Inn Road. Half-, penny stamps received for sums under one shilling. Telephone No. 11854 P.O. Central. Offices 211, GRAY'S INN ROAD, LONDON, W.C. 12 words. Once 6d. Three times 1/- 20 „ „ 3d. „ „ 1/6 28 „ „ II- „ „ 2/- 36 „ 1/3 „ „ 2/6 Every additional 8 words „ 3d. „ „ 6d SITUATIONS VACANT & WANTED WANTED, Young "Woman, used to Dairy Business. Good reference required. Apply 24, Upper Marylebone Street, Portland Road, W. B265-13 WANTED, Young Woman (25) as Housekeeper and serve in shop. Good Reference. Apply, after 6 (evening), 84, Clifton Road, Clapton. B273-20 AIRY.-Young Woman Wanted for Housework and to assist in business. Apply 47, Denmark Hill, Camberwell. B276-20 WANTED, Young Lady for Provision Shop; must be used to the trade; good reference required. Apply 315, Evelyn Street, Deptford. B277-20 OUNG Woman Wanted as Housekeeper, and to Y assist in Shop occasionally. Must have good references.—Apply 270, Hornsey Road, Holloway Road, N. B289-13 WANTED, a strong Young Man for cart milk Round. Must have good references. Apply 167, Well Street, Hackney. B293-27 MISCELLANEOUS. THE" KELT" in Cardiff. The public of Cardiff and district are informed that they can get the "KELT" every Friday at Miles', Queen's Arcade, and at the Branch Office, 3, Cwmdare Street, Cardiff, B100 VIJRITE for Catalogue, Second-hand School and Y\ College Textbooks.—Empire Book Depot, 1A, Frederick Street, Cardiff. B280-13 I^OR Up-to-date Shop Fittings consult J. W. Wisbey, Shop-Fitter, John Street, Cardiff. 291-13 WHEN visiting Cardiff go to Griffiths' Temperance Hotel, Caroline Street. Ty Cymreig. 292-13 ASTROLOGY. RELIABLE HOROSCOPES.—Marriage, business changes, &c. Send 1/1, birthdate, for test. Mention paper, and I will add 2 years events FREE. —MADAME PEOCTOR, 17, Wharton Street, Cardiff. B268-100 TRUSCOTT & WILLIAMS, Dairy Agents and Valuers, 11, BOND COURT, WALBROOK, E.G. Telephone No. 123-59 Central. Those wishing to buy or sell should call or write to the above address. WELSH pmiim At "Celt" Office.
[No title]
Cyfeirier pob Gohebiaeth a fwriedir i'n colofnau, "The Editorpob Hysbysiad, a phob Archeb, "The Manager" a'r oll i'r Swyddfa, Celt Office" 2iif Gray's Inn Road" Loudon, W.C.