Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Teimlai'r Gol. yn chwerw iawn tuag at Y Finsent •'ddechreu'r wythnos hon. Efe, mae'n debyg, oedd yn gyfrifol am i'r fath haid afreolus o feirdd dalu ym- weliad a'r neuadd olygyddol yr wythnos hon. Soniwch am Eisteddfod, ac fe ddihunir y beirdd fel nythaid o gaccwn. Dyna wnaeth y Finsent. Galwodd yr hil farddol ynghyd i benderfynu lleoliad Eisteddfod 1909, ac mor sicr oedd y beirdd fod y mater wedi ei benderfynu eisoes, fel y daethant yn llu gyda'u cynyrchion o flaen ei uchelder yng nghadair olyg- yddol y CELT. Yr oedd pob un yn awyddus am i'w genhadaeth ef gael ei gwrandaw ar fyrder, fel bu raid i'r Gol. i'w cystwyo yn lied ffyrnig cyn y tawent a son. Ac er i un neu ddau wneud ymgais i ddechreu, gwelodd y <Gwr Doeth nad oedd eu cynyrch yn werth gwrando -arnynt. Yng nghanol y siom a'r dadleu syrthiodd llygad y Llinos ar y Siswrn mawr orweddai ar y bwrdd, a "chan i'r offeryn hwnnw fod yn foddion i dorri pen ei araith yr wythnos gynt, hylldremai'r bardd o Harrow yn lied sarug arno, ac wedi cael ei wynt ato dyma fe yn esgor ar y cynyrch a welir mewn colofn arall. Wedi i'r Llinos hawlio gwrandawiad wele Huwco JLlwyd yn ceisio barddoni i bastwn y Gol., a orweddai gerllaw. Ond gyda'i fod wedi gorphen ei bedair llinell cyntaf, wele'r pastwn yn cael ei ddef- myddio gydag arddeliad far ei benglog llwyd. Pro- testiai Ysgrifennydd Eisteddfodol Hammersmith yn erbyn hyn, a dywedai mai ar ben gwr du'r wasg y dylid ei osod, gan i hwnnw wneud y fath lu o wallau yn ei hysbysiad ef yr wythnos ddiweddaf. Cymerodd y Gol. yr awgrym, a chan mai gwr "Cymwynasgar yw bob amser, gwnaeth addef y dylid cydymffurfio a'r sylw, a tharawodd y gwr du nes bo Awnnw yn rhuo fel tarw tair-blwydd. Methwyd a chael distawrwydd y tro hwn i ganu ""Hen Wlad fy Nhadau," a bu raid diweddu gyda'r lien gais arferol o'r gadair olygyddol am i bawb fod fflior fyr a blasus gyda'u cynyrchion bob amser.

Gohebiaethau.

[No title]

PULPUD YR WYTHNOS.

----PUBLISHERS' NOTE.

Advertising

[No title]