Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD 1909. LLUNDAIN I WNEUD CAIS. I ble yr aiff yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1909 ? Dyna bwnc fydd raid ei bender- fynu yn Abertawe ar adeg yr wyl ym mis Awst. Mae nifer o drefi eisoes yn awyddus .am dani, a sonir fod lleoedd fel Llandrindod, Aberystwyth, a Chaerfyrddin, yn gweithio yn egniol er sicrhau arian digonol i gyfarfod a gofynion Cymdeithas yr Eisteddfod. Ond o'r lleoedd sydd i wneud y cais eleni saif Llundain ar ben y rhestr. Gwnaeth hi -ei chais cyntaf yn Aberpennar ddwy flynedd yn ol, ac ar yr amod fod Abertawe i'w chefn- ogi eleni tynodd yn ol yn ffafr y dref honno. ^Gwnaeth Llandrindod gais taer yn Nghaer- narfon y llynedd am yr wyl yn 1908, gan feddwl y buasai safle ddaearyddol tref y ffynonau yn rhoddi rhyw fath o hawl iddi gynnyg am dani yn y Gogledd neu'r De. Er hynny tynodd Llandrindod yn ol yn ffafr Llangollen ar y dealldwriaeth fod pobl Llan- gollen i roddi rhyw gymaint o gefnogaeth i'w cais hwythau yr haf presennol. Ond am y lleoedd ereill ni chaed son am danynt o'r blaen. Mae'n wir fod Aberystwyth wedi siarad droion am wneud cais am yr wyl, ond dyna i gyd. Mor bell ag y mae Caerfyrddin yn myned ni fu yno Eisteddfod ar radd eang ers tua chan mlynedd. Ni cheisiodd -erioed am yr wyl genedlaethol er pan ei cynhaliwyd tan y rheolau presennol, ac ar ol aros eyhyd, gall yn hawdd aros am rai blyn- yddau eto cyn ennill y fath anrhydedd. Dydd Llun diweddaf caed cyfarfod ar- bennig yn yr Arbitration Rooms, Chancery Lane, tan lywyddiaeth y Parch. J. E. Davies (Rhuddwawr). Yno yn ei gefnogi oedd torf o feirdd a llenorion y ddinas, ac yn eu plith y Finsent, Elfed, Machreth, Meirionfab, Ap leuan, Pwyntil Meirion, Hartwell, Llanarth- ion, Philip Brychan, Y Temlydd, Alaw Stepney, Actonian, Ap Cenech, D. R., Parch. Crowle Ellis, Mr. Edwin Evans, Mr. D. Rhys, Mr. C. J. Evans, ac amryw enwogion a charwyr lien ein cenedl. Ar gynygiad Machreth, ac eiliad Alaw Stepney, pasiwyd yn unfrydol fod cais yn ae1 ei wneud i sicrhau Eisteddfod 1909 i Lundain, ac yna penodwyd pwyllgor i gario'r mudiad i lwyddiant. Ffurfiwyd pwyllgor arbennig i gario'r .gwaith ymlaen, a chaed addewidion am tua phum' cant o bunnau tuag at y gronfa cyn ymadael a'r ystafell. Mae Mri. W. E. Davies, D. R. Hughes, ac E. Vincent Evans wedi addaw casglu enwau y cefnogwyr, ac os oes rhai o'n darllenwyr am ymuno a'r mudiad, ac yn awyddus am roddi'r gefnogaeth ddyladwy iddo boed iddynt ymohebu ar fyrder ag un o honynt i ■64, Chancery Lane, W.C.

[No title]

A BYD Y GAN.

SISWRN Y GOLYGYDD.