Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. GYDA'R BRENIN.—Aeth torf o'r Cymry mwyaf blaenllaw i Gymru yr wythnos hon er mwyn rhoddi croesaw i'r Brenin ar ei ymweliad a'r hen wlad. Hwyrach y daw rhai o honynt yn Syrod yn ol. Y WESLEYAID.-Mae cynhadledd fawr y Wesleyaid Cymreig i'w chynnal yn Llundain eleni, ac yn ystod rhai Suliau yn Ngorffenaf ceir clywed prif ddoniau yr enwad yn y capelau Cymreig yma. EISTEDDFOD 1909.-Mae Cymry'r ddinas yn dra brwdfrydig tros gael yr Wyl Genedl- aethol yma yn 1909. Ceir gweled a lwydd- ant i enill clust yr Orsedd yn Abertawe y mis nesaf. RAMBLERS KING'S CROSS.—Mae gan Stan- more rhyw atdyniad swynol i aelodau yr uchod. Nid rhyfedd, felly, i gynnifer droi allan yno 'nawn Iau diweddaf. Misses Katie Davies a Lily Jones oedd yn arwain y tro hwn, a phrofasant eu hunain yn rhai cymhwys iawn pan gofiwn y fath ddarpar- iadau helaeth wnaed ar ein cyfer ganddynt. Caed nawnddydd hapus yn y wlad, ac ar waethaf y cwynion am yr hin teimlai pawb eu bod wedi cael pleserdaith ddyddorol ac iachusol. J. R. WALHAM GJZEEN. INTos Sul cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol ar ol y diweddar Mr. Robert Jones, J.P. Daeth cynulliad da ynghyd. Canwyd yr emynau yr oedd Mr. Jones yn hoff o honynt. Chwareuwyd y Dead March" gan Mr. Idris Lewis, R.C.M. Pregethodd Parch. J. E. Davies, M.A. (Jewin Newydd), yn rymus ac effeithiol oddiar y geiriau hynny yn Nehem. vii. 2. adnod, Canys efe oedd wr ffyddlon, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer." Cyfeiriodd gyda theimlad dwys at le gwag y brawd anwyl heno yn yr eglwys. Yr oedd yn wr ffyddlawn, yn meddu cymeriad hardd. Fel y dyn Dawiol yn y testyn, yr oedd Mr. Jones yn ddyn o ymddiried, un gonest, un oedd wedi myfyrio liawer ar hyd ei oes yn y Bibl. Yr oedd wedi gwasanaethu crefydd am amser maith gyda ffyddlondeb mawr. Dyn galluog, caredig a boneddigaidd. Mae enw da yn rhywbeth nad oes dim colli i fod arno, a chymeriad prydferth wedi ei sancteiddio gan ras Duw. Mor hawddgar oedd ei gymeriad mewn hawddfyd, ond yn yr anialwch yn anrhaethol mwy hardd. Yr oedd yn ofni Duw a'i holl galon. Cafwyd gwasanaeth dwys ac a hir gofir. LL. FALMOUTH ROAD.-Nos Iau, Mehefin 27ain, cynhaliwyd cyfarfod terfynol Cymdeithas y Bobl Ieuanc, o dan arweiniad medrus y Parch. S. E. Prytherch. Daeth nifer liosog ynghyd, ac yn ol arferiad cyfarfodydd ter- fynol, cafwyd te a bara brith heb ei fath cyn dechreu y cyfarfod. Dilynwyd hyn gyda rhaglen faith o ganu ac adrodd. Yr oedd yr artist's yn rhai adnabyddus i Gymry Llundain, a gwnaethant eu rhan mor ar- dderchog fel bu i'r naill a'r llall o honynt ail ymddangos. Oherwydd hyn aeth y cyf- arfod yn llawer meithach na'r trefniant. Caed ychydig seibiant tua hanner y cwrdd, pryd y rhanwyd pob math o ffrwythau a melusion, a rhaid llongyfarch y bobl ieuanc am eu darpariadau penigamp ar gyfer y gynulleidfa. Y cantorion oeddent Misses Mary a Maggie Davies, Messrs. Gwynne a James Davies. Gwnaeth Miss Jennie Jones, Boro', hefyd ei rhan wrth y berdoneg i bob boddlonrwydd. Dyledus ydym hefyd, fel Cymry Llundain, i Mr. Eddie Evans, "Yr Adroddwr," am ei barodrwydd parhaol- i wasanaethu ei genedl, a hynny mewn dull deheuig a chwaethus. Ar ol canu "Hen Wlad fy Nhadau," o dan arweiniad Mr. James Davies, aeth pawb adref wedi ei lwyr foddloni, a'n dymuniad yw am gyfarfod tebyg yn fuan eto. J. H. CLWB Y BEL.—'Does fawr o siarad am y bel droed ar yr adeg yma o'r flwyddyn fel rheol, ond mae eleni yn eithriad. Wrth weled y tywydd oer yma yn parhau, debygem, galwyd pwyllgor arbennig o aelodau clwb y bel droed Cymreig Llundain ynghyd nos Fercher diweddaf, pryd y caed cynulliad boddhaol yn eu hystafelloedd yn Holborn. Mater pennaf y cwrdd oedd trefnu gogyfer a'r flwyddyn nesaf. Deallwn eu bod wedi sicrhau cae rhagorol yn ardal Canning Town, rhyw chwarter awr o'r ddinas gyda'r tren. Mae'r cae newydd hefyd yn llawer mwy cyfleus na'r hen gae yn Hendon, a disgwylir y ceir cynulliadau mawr yno yn ystod y gauaf nesaf. CADBEN N EWYDD. Y n yr un cyfarfod etholwyd Mr. Llewelyn Bowen yn ysgrif- ennydd y cae, ac arno ef a Mr. Trick, yr ysgrifennydd cyffredinol, y gorwedd llwydd- iant yr anturiaeth am y flwyddyn sydd i ddod. Bu raid ethol cadben newydd hefyd am y flwyddyn gan fod Mr. Harding wedi ymddiswyddo o'r gofal. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad gyda gofid, a phenodwyd Mr. J. F. Williams yn olynydd iddo, a Mr. Maddocks yn is-gadben am y tymor. Y GWYLIAU.—Dyma ddyddiau y gwyliau wedi dod eto ar ein gwarthaf. Ni waeth beth fo cyflwr yr hin mae rhai o honom yn gorfod myned i'r wlad am seibiant yn ystod Gorphenaf ac Awst. Ond os bydd llawer o'r Cymry Llundeinig yn y wlad yn hir boed iddynt gofio am y CELT a sicrhau copi o hono yn wythnosol. Gellir ei gael o'r Swyddfa yn rheolaidd ond llanw yr archeb a osodir ar ein tudalen olaf. COLOFN JAMES HUGHES.—Nid yw'r holl gostau ynglyn a'r golofn hon eto wedi eu llwyr glirio. Os oes rhywrai heb anfon eu hatling i'r gronfa mae pob croesaw iddynt wneud hynny ar fyrder fel ag i gau y gronfa ar unwaith. I WLAD YR HAF.—Mae ein gohebydd cerddorol, Pedr Alaw, wedi myned ar daith i Russia yr wythnos hon. Hwyrach mae'r tywydd oer yma sy'n gyfrifol am y daith, a'i fod yn awyddus i dreulio gweddill yr haf yn hinsawdd dymherus Siberia DAVID EVANs.-Da gennym ddeall fod y cantor poblogaidd hwn wedi llwyddo i zn y ennill y Swansea Eisteddfod Prize yn y R.A.M. yr wythnos hon. OOFFA JAMES Huws.-Ar ol seremoni dad- orchuddiad y gof-golofn yn Bunhill Fields yr wythnos ddiweddaf—o'r hyn y caed adrodd- iad yn ein rhifyn diweddaf—cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yr un noson yng nghapel Jewin Newydd i draethu hanes y mudiad ac i adgofio'r to presennol am waith James Hughes tros ei genedl fel bardd ac esboniwr. Yn absennoldeb y Parch. P. H. Griffiths, yr hwn oedd wedi myned i'r wlad ar y neges pruddaidd o gladdu ei chwaer, cadeiriwyd gan Mr. R. Thomas, Baker Street. Cym- erwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin Parch. Hugh Jones, D.D. (W.); Parch. J. Williams (Brynsiencyn); Parch. Elfet Lewis (A.) Parch. F. Knoyle, B.A. Parch. J. Thickens Parch. J. Wilson Roberts; Mr. Herbert Roberts, A.S.; Mr. Timothy Davies, A.S. a'r Ysgrifennydd, Mr. D. R. Hughes. YR AREITHIAU.-Hanesyddol oedd nod penaf yr areithiau. Hybysodd y Parch. J. E. Davies y deuai cyfrol goffa o'r hen' Esponiwr allan cyn diwedd y flwyddyn, a'i fod wedi llwyddo i ddod o hyd i lawer o. ffeithiau am fywyd a gwaith James Hughes nad oeddent wybyddus i'r lliaws. Rhoddir ei farddoniaeth hefyd yn y gyfrol, a chan fod lago Trichrug yn fardd lied gynyrchiol diau y bydd yn gyfrol drwchus hefyd. Un o fechgyn dyffryn Aeron oedd yr Esponiwry wedi ei eni yn Neuadd-ddu, plwyf Ystrad,. tan gesail mynydd Trichrug, oddiwrth yr hwn y cymerodd ei enw barddol. Preswyliai yn Llundain am yr hanner cyntaf o'r ganrif o'r blaen, ac 'roedd ei waith trcs Grefydd a Chymreigiaeth yn y ddinas y cyfnod hwnnw yn cael ei arddangos heddyw yn nifer lliosog y capelau Cymreig sydd gennym. TALU PARCH iddo fel esponiwr, fel gwr doeth, ac fel lienor a bardd oedd cenhad- aethau John Williams ac Elfed, a dwy araeth a hir gofir oeddent hefyd. Edmygu ei fywyd fel esiampl i bobl ieuainc yr oes hon oedd baich areithiau Mri. Herbert Roberts a Timothy Davies. Gwerthfawrogi ei ddiwynyddiaeth wnaeth y Dr. Hugh Jones, Llangollen, ac ail-adroddiad hirfaith o'r cwbl gaed gan y Parch. J. Thickens. Dy- wedai'r Ysgrifennydd, Mr. D. R. Hughes, fod yr hen garreg fedd wedi ei gosod ar fur capel Jewin, ac y bwriedir eto cael carreg arall i fod yn fath o goffa i'r Parch. D- Charles Davies ac Owen Thomas—enwogion ereill fuont yn gweinidogaethu yn y lie.

[No title]

Y " Geninen " am Orphennaf.