Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Hide Articles List
19 articles on this Page
BANGOR.
News
Cite
Share
BANGOR. Oedwyd tren am awir tra ar ei ffordd o Aber i Fangor nos Lun, o achos i'r peiriant dori i lawr. Cynhaliwyd trenghol-iad yn Mangor ddydd Llun ar gorff un Mrs Northedge, yr hon a fu farw mewn canlyniad1 i nwy-wenwyniad.
GYFFIN.
News
Cite
Share
GYFFIN. Oddeutu banter awr wedi saith foreu Iau cly- wodd priod1 Mr George Owen, 2, Bryn Terrace, ei phlentyn aaith mlwyddi oed o'r enw George Henry yn gwaeddi yn y llofft. Pan aeth yno cafodd ei fod wedi llosgi yn ddifrifol, a bu farw mewn canlyniad dranoeth. Cymerodd ei ddill- ad isaf dan.
LLANELWY.
News
Cite
Share
LLANELWY. Yn eu cyfarfod, ddydd Gwener, penderfynodd Gwarcheidrwaid Llanelwy roddii swllt yn ychwan- egol o allan-gynorthwy yn ystod y Nadolig. Cafwyd £23 5s. am Feibl Cymraeg yr Esgob William Morgan mewn arwerthianrt yn Llundain y dydd o'r blaen.
LLANFAIRFECHAN.
News
Cite
Share
LLANFAIRFECHAN. Yn Llys Methdali.a.d Bangor, ddydd Iau, holwyd Francis Griffith, cigydd o Lanfairfechan. Gwnai ei holl ddyledion 61,775, a chyfrifid ei ddiffyg yn ol ^613. Priodolai ei fethiant i golledion ar farchnad anifeiliaid Manceinion. Cauwyd yr archwiliad..
LLANRWST.
News
Cite
Share
LLANRWST. Sicrhaodd eglwys y BIBdyddwyr yn Mhenuel wasanaeth y Parch Iorwerth Jones ("Gwilym Ddu"), Maes,teg, i bregethu am bedair noson o'r drydedd wythnos yn y flwyddyn newydd. Cyn'helir y farohnad yr wythnos nesaf ddydd Mercher, yn lie ddydd 'Mawrth, o achos Gwyl y Banc. Yn yr U-chel-Lys, ddydd Gwener, rhoes y Barnwr Warrington ddyfarniad o blaid Cyngor Dosbarth Llanrwst, gyda'r costau, yn yr achos yn mha un y gofynai Cwmni Trydan Llanrwst am ddatganiad o hawl i gael dwfr at eu gwas- anaeth yn yr hwyr. Mynai'r Cwmni nad oedd gan y Cyngor hawl ar y dlwfr ond yn ystod oriau y dydd. Cynhaliwyd cyfarfod o Gymdeithas1 Ddiwyll- iadol Horeb nosi Iau, o dan lywyddiaeth y Parch Phillip Price, pryd y cymerodd dadl lear "A ddylai proffes o grefydd gynwYls llwyrymataliad oddiwrth ddiodydd meddwol?" Agorwyd ar yr ochr nacaol gan Misses Maggie Roberts a Nita Parry, ac ar yr ochr gadarnhaol gan Misses Blodwen Mills, Lizzie Jones, a Selina Jones. Cafwyd papurau rhagorol iawn ar y ddwy ochr, a dygwyd ffeithiau cryfion o'r ddwy ochr. Cymerwyd rhan ymhellach yn y ddadl gan Mri Oaradioc 'Mills, Dr. Owen, Herbert Hughes, John Powell, Arthur Owen, John Roberts, a'r Llywydd. Ar gynygiad MT A. Parry, yn cael ei ei eilio gan Mrs Thomas, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch y Gymdeithas i'r chwiorydd am eu papurau rhiagorol.
PENMAENMAWR.
News
Cite
Share
PENMAENMAWR. Penderfynwyd ar" 12fed o Ionawr fel y dydd- iad ar ba un y byddi i'r Diwygiwr ymweled ag yma. Cynhelir y moddianau yn addoldy Jeru- salem, a cheisir gael gan y Diwygiwr ymfoddloni i dri cyfarfod gael eu cynal.
TREFFYNNON.
News
Cite
Share
TREFFYNNON. Mewn cyfarfod o Gyngor Dinesig Treffynnon, nos Lun, dewiswyd Mr H. T. Taylor, Hoylake, yn arolygydd, am gyflog o ^105 y flwyddyn. Ym- geLsiai 70 am y swydd.
---------__-__-Newyddion yr…
News
Cite
Share
Newyddion yr Wythnos. Trefnodd yr aelodau Seneddol Cymxedg i wysio Cynadledd Genedlaethol yn Nghaernarfon er penderfynu y polisi Cymreig newydd yn y Senedd newydd. Anfonwyd i anog ar fod i'r gynadledidi gael ei gohirio yn wyneb ymweliadi y Diwygiwr a'r dref yr wythnos nesaf. Dyma atebiad y Gwir Anrhydeddus Lloyd- George :—"Ni byddai i mi, ar un cyfrif, ymyr- aeth a chenadaeth Mr Evan Roberts, yr hon wyf yn ystyried yn llawer mwy pwysig nag unrhyw gynadledd wleidyddol, ac yr wyf wedi cymeryd cam eisoes, g-yda llawn gydsyniad. Cadeirydd y Blaid Gymreig, i ohirio y Gynadledd hyd yr wythnos ganlynol." Ddydd Llun cymexadwyodd y Brenin benod- iadau, a dyddiad y dadgorfforiad (sef yr 8fed o Ionawr). fel y cyflwynid hwynt i'w sylw gan y Prif Weinidog. Bu dirprwyaeth o'r dynion diwaith gyda'r Prif Weinidog a Mr John Burns (Llywydd Bwrdd LIywodraeth Leol). Adroddir y cynygir gwell- iant i ddeddf Mr Balfour ac y gwneir darpar- iaeth ar gyfer y rhai sydd allan o waith o arian y wlad. Nos Lun saethwyd y Rhingyll Dan Kelly, eilliwr, yn ddamweiniol yn Magnelfa tref Caer- narfon. Aeth ergyd i'w wddf ac y mae mewn cyflwr difrifol. Yr oedd deugain mil o bobl yn bresenol ddydd Saclwrn, pan y gorchfygodd y peldroedwyr Cym- reig rai New Zealand. Hwn oedd y tro cyntaf i'r olaf gael eu gorchrfygu yn y wlad hon, er iddynt ymryson a 27 o glybiau. Mewn Heddlys arbenig, ddydd' Llun, traddod- wyd J. P. Hughes, Caergybi, i sefyll ei brawf yn y Brawdlys ar y cyhuddiad o drywanu W. P. Evans, ddydd Sadwrn. Eidicligedd oedd wrth wraidd y digwyddiad. Cymerodd claddedigaeth tad a mab le yn Nghaernarfon ddycfE Sadwrn. Cyflawnodd y tad hunanladdiad ddydd Mercher, a bu farw'r mab ddydd Gwener, a thybir mai afiechyd yr olaf fu'n achos i iseldier y tad'. Cynhaliwyd cyfarfod pellach o Bwyllgor y Di- waith yn Sir Gaemaclon ddydd Sadwrn, pan yr élldiroddwyd fod 750 allan o waith. Fe ofynir i'r Cyngor Sirol bloeidleisio pum cant o bunau er mwyn rhoddi gwaith i'r rhai hyn i adgyweirio'r ffyrdd. Yn Heddlys Caernarfon, ddydd Sadwrn, tradd- odwyd Harry Parry, Cwmyglo, i sefyll ei brawf yn y Brawdlys ar y cyhuddiad o drywanu gwyl- iwr afon. Mewn cyfarfod o Gyngor Dinesig Colwyn Bay y dydd o'r blaen, darllenwyd llythyx oddiwrth y gangen leol o Undeb Dirwestol y Merched yn argymbell y Cyngor i gyhoeddi hysbyslend yn dan'gos y niwed wnia alcohol. Cydsyniodd y Cyngor. Mae'r Parch. Thomas Charles Williams, Porth- aethwy, w-edi ei gymeryd yn wael eilwaith. Y pethau roddasant fwyaf o lawenydd- i Mr. Lloyd-Georgel ynglyn a'i ddyrchafiad1, ebai, oedd y llongyfarchiadau dderbyniodd gan ei wrth- wynebwyr. Bu farw y bardd a'r lienor R. J. Derfel yn Manceinion, yn 8iain mlwydd oed. Mae priodas i gymeryd lie rhwng chwaer ieu- engaf y Brenin Edward a'r Brenin Alfonso, o Ysbaen. Gwerthwyd oddeutu d'wy fil o foch yn ar- ddangosiad blynyddol Gwrecsam ddydd Llun. Cyhuddid hen wreigan o'x enw Ellen Wil- liams, yn Ngwrecsam, dydd Llun, o ladrata dilledyn, a dirwywyd hi 15s. Gan nad oedd ganddi arian i dalu gwnaeth Clerc yr Ynadon hyny. Wrth an-erch yn Mryste, nos Lun, dywedodd Arglwydd Hugh Cecil y byddai raid i'r Undeb- wyr o-edd o blaid Masnach Rydd ddal i fyned o amgylch i draethu ar y pwnc cyhyd ag y byddai i 'Mr Chamberlain ddal ati gyda'r ochr arall. Nid oedd yn wir fod Mr Chamberlain a Mr Bal- four yn cytuno ar y pwnc. Cynaliwyd cynadledd yn yr Amwythig, ddydd Mawrth, IMr J. Herbert Roberts, A.S., yn gy- nullydd, i ystyried pa gamrau i'w cymeryd ynglyn a gwelliantau dirwestol yn yr etholiad cyffredinol. Tynwyd allan faniffesto. Ddydd Iau traddodwyd Mrs Callaghan, Caer- gybi, i sefyll ei phrawf yn Mrawdlys Mon am ffugio arian-nodyn a thaleb am £8 12S. 6c. Aeth i ariandy gyda nodyn pertihynol i un Maggie Jones, a derbyniodd yr arian. Ddydd Iau cynhaliwyd trengholiad yn Nghaer- narfon ar gorff Mr Thomas Harris, yr hwn a grogodd ei hun y ddwrnod cynit. Bu yn gofalu am y bookstall yn yr orsaf am ddeng mlynedd ar hugain. Mae Mr D. Rhys Jones, prifathraw Ysgol y Cyngor yn Nghwmystwyth, wedi ei benodi yn ysgolfeistr yn nhrefedigaeth y Cymry yn Mhata- gonia. Yn IMangor, ddydd Iau, cyhuddid J. R. Prit- chard, Llanberis, o gael bwyd a llety drwy dwyll. Yn un lie dywedodd mai "heddgeidwad claf ar seibiant" ydoedd. Tiaflwyd yr achos allan, mewn Llys diweddarach. Mae eglwys newydd wedi ei hadeiladu yn Nghaergybi a gelwir hi Sant Elbod. Agorwyd hi ddydd Iau gan yr Esgob, a phregethwyd ar yr achlysur gan Canon Williams, Tyddewi. Ddydd Iau dewiswyd Mr David Davies, Llan- dinam, fel yr Ymgeisydd Rhyddfrydol dros Sir Drefaldwyn, y sedd a aeth yn wag drwy farwol- ae,th Mr Humphreys-Owen. Gobeithiai y Ceid- wadwyr ei sicrhau fel eu hymgeisydd, ond ym- ddiengys ei fod o olygiadau Rhyddfrydig. Mewn cyfarfod o aelodau o Gyngor Sir Caer- narfon, dywedwyd fod ffigyrau wedi eu derbyn o wyth o wahanol ddosbaxthiadau yn dangos fod 655 allan o waith, tra nad oedd y ffigyrau wedi eu derbyn o ddosbarthiadau eraill. Penderfyn- wyd darparu gwaith ar eu cyfer. Wrth anexch yn Llundain apeliai Arglwydd Rosebery at y blaid Ryddfrydol i wneyd ei goreu i sicrhau i'r Llywodraeth bresenol y fath fwyaf- rif ag a'u galluogai, nid yn unig i fod yn ani- bynol ar y blaid Wyddelig, ond i gael buddu- goliaeth i achos Masnaoh Rydd. Bu Arglwyddr Stanley o Alderley yn anerch yn Nghaergybi. Dywedai mai un peth oedd yn ei daro ef yn Nghymru yn fwy na dim arall oedd ymdrechionr rhieni tlawd i roddi addysg dda i'w plant a'r aberth, mawr wneid gandldynt er mwyn sicrhau hyny iddynt. Cyfeiriodd at fachgen o dloty yn Mon oedd wedi enill ysgoloriaeth mewn ysgol sirol. Pasiwyd tri penderfyniad Dwysig mewn cyfar- fod y Gymdeithas athrawon; Sir Caernarfon. Yr oedd y cyntaf i'r perwyl eu bod yn llawanhau fod nifer fawr o aelodau y Gymdeithas yn, rhoddi cymaint o'u hamser yn ystodi nosweith- iau'r gauaf i gyfranu addysg yn rhad i blant a phobl ieuainc. Cynwysai yr ail fod cais yn cael ei wneyd at y Pwyllgor Addysg ar iddynt drefnu fod arhol- iad sirol yn cymeryd lie am fynediad i mewn i'r ysgolion sirol, yn ogymaint a bod plant na ddy- lent yn cael eu cymeryd i mewn ar hyn o bryd. Dywedai'r try dydd fod' y dull presenol o hys- bysru clercod y gwahanol bwyllgorau addysg o g,anlynia:dau arholiadau neillduol yn anfoddhaol, a'u bod yn gofyn i'r Awdurdodi Addysg hysibysu y prifathrawon yr un adeg a'r clercod. Enillwyd medal aur y Bwrdd Canolog Cym- reig eleni gan Percy James Leonard, Trefdraeth. Ymysg wyth eraill crybwyllwyd. enwau Hilda J. 1M. Jones ac Edwin J. Owen, y ddau o Ysgol Ganolraddol Ffestiniog, fel yn haeddu sylw arbenig. Dywed y "Gorlan" mai un o'r pethau rhyfedd ynglyn a'r rhai syddlallan o waith yn Llundain. yw mai yno, y roynantaros er cynyg gwaith iddynt yn y wlad. Nid ar antur y dywed hyn. Un o'r pethau rhyfeddaf (medd wedyn) ynglyn a Methodistiaeth Llundain yw fod yr enwad heb un achos Seisnig yn y ddinas o gwbl. Heblaw hyny, ndd oes un gynulleidfa Gymreig yn addoli yn yr iaith Seisnig yn mhrif ddinas y byd.
Awgrymiadau i Benau Teuluoedd."
News
Cite
Share
Awgrymiadau i Benau Teuluoedd." (Hints to Heads of Families, by the Rev. T. E. Owen, B.A., Llandyfrydog, Anglesey). Conwy: R. E. Jones a'i Frodyr. Pris, 6c. Difynir a ganlyn o golofn adolygiadol yr "Herald Cymraeg" "Adargraphiad yw hwn o bamphledyn a gy- hoeddwyd yn 1801, ond ar y sydd mor brin fel nad oes ond un copi o'r argraphiad gwreiddiol y gwyddis am dano. Brodor o Gonwy oedd yr awdwr, lie y ganwyd ef yn 1765, a gwnaed ef yn Rheithor Llandyfrydog yn 1794. Ymosodiad ydyw'r pamphledyn ar Fethodistiaeth f,el yr oedd yn nyddiau'r awdwr, a chafodd y faeth groesaw- iad fel y cyhoeddwyd tri argraphiad o hono o fewn dwy flynedd. Cyffelyba Fethodistiaid Cymru i Jacobiniaid Ffrainc, a dywed eu bod yn perthyn yn agos, i'r Anarchiaid a'r Athedst- iaid ar y Cyfandir. 'Pan fo meddwl dyn fydd wedi cael ei lithio oddiwrth yr Eglwys Sefydleddg at Fethodist- iaeth yn dechreu canfod canlyniadau drwg ei ragrith a'i wyllt-grefydd, dechreu hefyd amheu purdeb pob crefydd a rhwydd ywr cyfnewid- iad o gyflwr o amheuaeth i un o anffyddiaeth noeth,' ebe'r awdwr. "Yna a yn mlaen i ddyweyd fod dau o 'bre- gethwyr mwyaf eithafol ac anwybodus y Metho- distiaid yn Nghymru, Elias a Lloyd,' wedi myned i'r Werddon adeg y Gwrthryfel yno, ac wedi pregethu yno i'r milwyr Seisnig bobpeth ond teyrngarwch, 'ac os na cheisiasent droi'r milwyr oddiwrth eu ffyddlondeb i'r brenhin, gwnaethant eu goreu i'w tynu o Eglwys Loegr.' "Dadleua nas gall Methodistiaeth ac union- grededd gydfodoli; bod yn rhaid cyfyngu yr Anghenfil neu ynte y peryglir yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Y feddygini'aeth a gynygid gan Reithor Llandyfrydog, gan' mlynedd yn ol, yw'r feddyginiaeth a hoff-ai rai o'i frodyr o bosibl ei chymhwyso heddyw. Dyma ddywed 'Gosoder i lawr bob math o gymdeithasau dirgel (y Seiadau Methodistaidd a olygid), ac na chaniateir i'r un pregethwr wasanaethu mewn unrhyw gapel ond yn unig i'r un y bydd ganddo drwydded arbenig i weanyddu ynddio, -ac na chaffed hyd yn nod yno nes y rhoddo efe brofion digonol ei fod yn feddianol ar ddysg a chymhwysder.' "Gwel yr awdwr ei fod yn cyfyngu ar ryddid y deiliaid, ac yn troseddu Deddf Goddefiad. 'Ond,' ebe fe, 'os yw'r rhyddid a'r goddefiad hyny yn rhoi cyfleusdra i dori fy ngwddf, nid yw o un budd.' "Terfyna drwy ddyweyd fod y Methodistiaid fuont unwaith mor wrthwynebol i'r Dissenters, erbyn hyn, yn cyduno a hwynt, ac hyd yn nod yn cyfnewid pwlpudau a hwy, 'ac yn awr,' ebe'r gwr da, 'cynaliant gyfarfod blynyddol yn mhob sir, yr hwn a elwir Y Sassiwn Fawr, a'r hwn nid yw ond cymysgedd o bob ryw fath o sectariaid.' "Gwelir fod gwybodaeth Rheithor Llandyfr- ydog mor eang a'i gariad brawdol. Gwna'r llyfryn lawer i ddangos yn ngwyneb pa fath rwystrau y sefydlodd Y Tadau Fethodistiaeth yn Nghymru-ac mae ei gyhooddii yn awr, ar fin etholiad a benderfyna gwestiwn Dadgysylltiad yn amserol."
Y Gorlan."
News
Cite
Share
Y Gorlan." Cylchgrawn yn cychwyn ei yrfa gyda'r fiwy- ddyn newydd yw'r "Gorlan," yn cael ei gy- hoeddi o dan nawdd Eglwys Charing Cross Road, Llundain, a than olygiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Er mai ei fwriad yw gwasan- aethu Eglwys Charing Cross, oeir yma un tu- dalen ar bymtheg yn llawn dyddordeb i bob Cymro a Chymraes. Yn y rhifyn cyntaf hwn ceir llythyr maith a gwerthfawr ysgrifenwyd gan 'Mr Evan Roberts yn ystod wythnos gyntaf y Diwygiad rhyfeddol yn Nghaslwchwr, a cheir nodion blasus gan y Golygydd hynaws. Hefyd neillduir congl i eglwysi neu gorlanau eraill. Gellir cael "Y Gorlan" drwy'r llythyrdy am fiwyddyn am ddeunaw ceiniog.
Congl yr Awen.
News
Cite
Share
Congl yr Awen. AR FARWOLAETH WILLIE GRIFFITHS, .mab Mr Richard Griffiths, Dilledydd, Llanrwst. Ai gwall a fu y golted ?—Na. arfaeth Ddiderfvn, 'rwy'n gweled, Oreu gras, a dyna'r gred Fanwl i Willie fyned. Yn ei ing 'roedd mor ddengar-yn wastad Ddistaw a goddefgar Yn swn gwaith cadd Iesu'n gar. Am Willie mae trwm alar. Ond gorwedd mewn bedd y ba-yn y llwch A'r tristwch a red trosto Ni ddaw anaf i'w ddihuno O'i ola'gryd, i'w wely -ro. ROBERT WILLIAMS, Saer, Tan Lan, Llanrwst. Dyma wr wedi marw-i'w lwvddiant Ymladdodd yn arw A chywrain chwant a chwrw. A rhwydd yn concrodd nhw. JOSEPH ROBERTS, mab Mrs Roberts, Union Bach, Llanrwst, Onid dedwydd o'i ivendidau-ffoi byth Wnaeth Joseph bach gynau, I deg oes sydd wedi 'i gwau A Duwdod at ei dadau. Llanrwst. R. E.
New Year's Day Eisteddfod…
News
Cite
Share
New Year's Day Eisteddfod at Colwyn Bay. THIRTEENTH ANNUAL FESTIVAL. At Colwyn Bay the advent of the New Year will be hailed with poetry and music. As usual, the "Dydd Calan" Eisteddfod will be held in the Victoria Pavilion, and the day's programme is one which should attract a large number of people to the town, while affording pleasure to the residents also. A carved oak chair for the bards and a silver crown for the musicians figure among the awards, and the money prizes represent a large total. The brass bands will take part in the quick march contest on the Pier at 12.30, and shortly afterwards the first session will be 'opened in, the Pavilion by Councillor Joseph Dicken, J.P. (Chairman of the District Council), While the evening President will be Councillor John Williams. Both meetings will be conducted by the brothers "Tegid" and "Pen- llyn," whose names are familiar as household words in Eisteddfodic circles. The bardic chair is offered, with a guinea prize, for an ode on "Llyfr y Bywyd" ("The Book of Life"), and five compositions have been received. Six poems have been sent in on the subject "Blodau'r Fyn- went," and "Y Wylan" (-"The Sea Gull") has inspired no fewer than sixteen ba-rdic pens. All the poetry will be adjudged by "Llew Tegid." As many as six brass bands will submit their playing to the judgment of Mr Richard Stead. Mr Caradog Roberts will adjudicate upon the vocal music, and will have to decide upon the merits of eleven choirs, 1i.,¿, quartette parties, and a number of duettists and soloists. In the miscellaneous section the adjudicators are Miss Euston, Albert Road, Old Colwyn; "Llew Tegid," and Mr T. Schofield, Colwyn Bay. A feature of the proceedings will be the contribu- tions of Miss Glyn Williams, a gifted vocalist and elocutionist from Birkenhead. The days pianoforte accompanist will be Mr Bryan War- hurst, orgtanist of St. John's Church, Old Col- wyn. As in former years, the Eisteddfod is being promoted by a strong Committee, who have en- thuaiastic amd capable officials in Mr J. O. Jones, 15, Church Walks, Old Colwyn (Treasur- er), and 'Messrs. R. Jones, Gwylfa, and D. O. Evans, 12, Church Walks, Old Colwyn (Secre- taries). Last year's festival produced a profit of about £ 50, and it is confidently anticipated that a like amount will be realised on Year's Day.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ONYS 8 'Of. .0, ..en '01 of"e f.S 100, 401r PATENT -To 13E USED Cm AlTT WITH MILK. W1EW
Advertising
Advertising
Cite
Share
A UNIQUE OFFER. FROM SATURDAY, DECEMBER 12TH, 1905, And until further notice, I have decided to give those of my COLWYN BAY supporters who buy at my Jeweller's Shop A SPEOIAL DISOOUNT OF 25% on all cash purchases. In face of the recent sharp rise in the market price of silver, this OFFER IS UNIQUE, and I am only able to make it because of the large stock which I secured when the price of the metal ruled low. To those who wish to give A OHRISTMAS PRESENT, the advantage of 25 per cent. discount is obvious therefore. "JOHN HOMAN, STATION ROAD, OOLWYN BAY. FOR.. GOOD HONEST VALUE ALL ROUND IN GROCERIES & PROVISIONS, CHRISTMAS FRUITS, CAKES, &c., &c.) TRY T. ROBERTS, STATION ROAD, COLWYN BAY. CURRANTS 2td.,3d. FINEST VALENCIA RAISINS, 3d., 4d. SULTANAS 4d., 5d. LEMON PEEL 4M. NOTE THE ADDRESS:— STATION ROAD. Telephone 35. UCKLEY S CELEBRATED CHRISTMAS OAKES. MINCE PIES, PLUM PUDDINGS, CRACKERS, FANCY CHOCOLATE BOXES. WITHINGTON HOUSE, BIJOU I -1 COLWYN BAY. CAFE.
ABERGELE.
News
Cite
Share
ABERGELE. 0 achos afiechyd, ymddiswyddodd y Parch. J. H. Davies o fod yn fugail eglwysi Ewloe Green a Llaneurgairi, a derbyniodd alwad rodd- wyd iddo i fugeilio un eglwys y Presbyteriaid yn AbeTgele.
CONWY.
News
Cite
Share
CONWY. Yn Ynadlys Ffestiniog, ddydd Iau, rhwymwyd John Jones, 3, Swan Court, Conwy, yn y swm o ddeg punt i fod o ymddygiad da. Ei drosedd oedd cadw llenyddiaeth anweddus ar ei stall ddydd Ffair Calan gauaf. Dirwywyd Mary Ann Rowlands, 3, Lower High Street, Conwy, ddeg swllt a'r costau am drosedd cyffelyb. Nos Lun cafwyd darlith ddarlundadol, gan Mr W. Hughes, ar "China a'r Chineaid," ynglyn a Chymdeithas Ddiwylliadol y Tabernacl (W.) Yr oedd cynulliad mawr o aelodau yn bresenol. Llywyddwyd gan y Parch. O. Madoc Roberts.
CYFFORDD LLANDUDNO.
News
Cite
Share
CYFFORDD LLANDUDNO. IMae rhaglen pedwaredd Eisteddfod flynyddol Anibynwyr y Junction allan o'r wasg, a chynygir gwobrwyon rhagorol i feirdd, llenorion, adrodd- wyr, a datganwyr. Cynihelir yr Eisteddfod ddydd Gwener y Groglith,Ebrill 136g, 1906, a gellir cael rhaglen gan yr Ysgrifenyddion (drwy'r llythyrdy, i%c.)—'Mr H. Jones, Drapery Stores, a Mr Isaac W. Jones, Glyn Marl. Mae beirniaid rhagorol ar gyfer pob cangen. Mewn cyfarfod o'r gange-n, leol o Sefydliad Dirwes'tol v Rheilffordd adroddwyd fod 90 o'r deucant o weithwyr y rheilffordd yn yr ardal yn llwyrymwrthodwyr.
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
FFESTINIOG. Yn y Blaenau, ddydd Iau, dirwywyd Owen Jones saith punt a'r costau, neu ddau fis o gar- chariad, am ddal gleisiaid yn yr afon Ddwyryd wedi i'r tymox gau. Cyhuddwyd ef ymhellach o ymosod ar ddau geidwad afon, a dedfrydwyd ef i bedwar mis o garcharladi am hyny. Wedi i guard tren, y boreu o'r blaen, roddi arwydd fod pob peth yn iawn, cychwynodd y ddau beiriant o-edd yn gysylltiedig a'r gerbydres, ac aethant can belled a Roman Bridge cyn deall fod y tren wedi ei adael ar ol. Heb eu cysylltu a'r cerbydau yr oedd y ddau beiriant. Mae Mr. D. J. Davies, cyn-reolwr Chwarel y Prince Llewelyn, Dolwyddelen, ac wedi hyny Chwarel Buddug, Arfon, wedi ei benodi yn brif oruchwyliwr Chwarel Glynrhonwy, Llanberis. Mae Biedyddwyr Seion wedi sicrhau gwasan- aeth y Parch. Charles Davies, Caierdydd, i ar- wain tri 0. gyfarfodydd yn niwedd mis Chwefror. Drwg g'enym orfod cyhoeddi marwolaeth y Parch. Ddr. N. Cynhafal Jones, gweinidog IMethoddstaidd, Ffestiniog. Bu yn fugadl yn Mhenrhyndeudraeth, Llanidloes, a Cholwyn Bay. Bu yn olygydd "Y Drysorfa" am siaith mlynedd. Yr oedd newydd gyhoeddi argraffiad newydd o "Theomemphus" Williams, Panty- celyn, ac ychydig flynyddcedd yn ol cyhoeddodd' gyfrol ragorol 0. farddoniaeth o'i waith ei hun yn dwyn yr enw "Messiah." Ddydd Gwener, yn Chwarel y Rhosydd, syrthiodd darn o graig ar draed Mr David Edwards, West End, a'i bartner, ond diangasant hebeu niweidio rhyw lawer.
LLANDUDNO.
News
Cite
Share
LLANDUDNO. 0 achos y ddyled fawr sydd yn gorphwys ar yr achos yn Siloh dychwelodd y Parch. H: Bar- row Williams /30 o'i gyflog i gronfa yr adeil- adiu, a deallwn ei fod yn bwriadu gwneyd hyny yn flynyddol nes y clirir y ddyled.