Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
PENNOD XXIV.
News
Cite
Share
PENNOD XXIV. AGORYD Y GALON. j Yn hwyr y noson hono, noson y prawf, safai boneddwr oedranus a'i gefn at ddrws bychan oedd yn ochr carchar Trefaelog, pan y daeth mercli ieuanc i fyny ato gan ofyn I a allai hi gael myned i mewn i'r carchar. Trodd yr hen foneddwr ei ben ac edrych- odd yn sefydlog am rai eiliadau ar y ddynes heb ddyweyd dim, I I Yr wyf wedi eich gweled cliwi yn rhywle o'r blaen," meddai o'r diwedd. A ydych yn colio pregethu ar ganol yr ysgwar yn y dref yma dro yn ol ?" Ydwyf, syr; ai cliwi yw y boneddwr arhosodd i wrando ar geffyl yno." Ie; both sydd ariiocli eisieu yn y carchar ?" Mae arnaf eisieu gweled Olwen Prydderch, y fercli ieuanc gafodd ei chon- demnio i farw heddyw carwn gael aros efo hi os bydd caniatad. A oes genych cliwi ryw awdurdod yn y carchar, syr?" "Oes; yr wyf yn ustus lieddnvel), ae iiii allaf gael caniata.d i cliwi i fyned i mewn. Ond a ydych chwi yn adnabod y fercli hon?" Ydwyf, syr; mae modryb i mi wedi priodi owythr iddi—John Prydderch, Glyn- ogwy. Ond yr ocddwn i i ff wrdd yn nghanol Lloegr ac ni clilywais yr un gair am y trwbl yma mown pryd i allu dod yma cyn heddyw." Ond sut y cawsocli cliwi wybod fod yr eneth wedi ei chollfarnu os mai newydd gyrliaedd i'r eyrau hyn yr ydycli?" Gwelais fy ewythr ar ol y treial, syr. Mae ef wedi myn'd adref er's oriau, ac mae'1' bechadures druaa yna wedi cael ei gadael yn unig, a phawb wedi troi eu cefnau arni. Er mwyn pobpeth syr, gadewch i mi fyn'd i'w gwel'd." Beth! A oes genych ddigon o ddewrder i aros drwy'r nos yn y carchar ? Mae'r eneth yn ystyfnig a gwargaled, a phrin y mae yn ateb neb pan ofynir rhywbetli iddi." Ond fe all Duw beri iddi agor ei clialon i mi; ac efallai fod ganddi rywbctli i'w ddy- weyd y dylesid cael ei wybod." Ond mae'r treial drosodd." Yclyw, syr, yr wyf yn gwybod hyny, ond nid yw'r frawdlys drosodd am rai dyddiau eto, a phe y buasid yn cael rhyw oleuni newydd ar y petli efallai y gwrandav/ai y barnwr ac y cymcrai hyny i'w ystyriaeth." Edrychwch yma, ferch ieuanc," meddai yr hen foneddwr yn sydyn, gan gymeryd mwy o ddyddordeb yn Miriam Ellis—dyna pwy ydoedd y fercli-ilag o'r blaen, a wyddoch chwi rywbetli am yr lielynt yma a ydych chwi wedi clywed rhywbetli na chafodd ei wneyd yn hysbys yn y llys heddyw ?" Naddo, syr chlywais i ddim mwy nag a hysbyswyd yn y Ilys." "Ond yr ydych yn ymddangos i mi yn debyg iawn i fel pe taech wedi clywed ncu yn amheu rhywbeth, ac eisieu myn'd at y garchares i gael ycliwaneg o oleuni arno." Nid wyf yn gwybod dim, syr, mwy nag y mae pawb yn ei wybod crbyn hyn ond mae synwyr cyffredin yn dyweyd fod yn rhaid fod yr eneth yn gwybod mwy am y digwyddiad na neb arall, a chan ei bod wedi cadw pobpeth mor ddistaw ac wedi gwrthod taflu dim goleuni ar y mater, mae hyny yn peri i mi dybio fod ganddi rywbeth y mae yn chwenych ei gelti-rliyw sccret y dymunai iddo gael ei gladdu gyda hi. Carwn fod o ryw les iddi a chael arwain ci mhcddwl at yr [unig Un fedr faddeu iddi; ac liefyd, os 3es ganddi rywbeth y dylai yr awdurdodau gael ei wybod mewn pryd cyn gweinyddu y gosp eitliaf ami, yr wyf yn lied sicr y gallaf ci plierswadio i ddatguddio." 11 Wel, o'r goreu, dewcli i fewn, ynte. Gwn fod genych agoriad i ddatgloi ealouau."
GO' GLYNOGWY
News
Cite
Share
ond nid ymdvodd i siarad nemawr efo'r uu olionyut; actli ar ci union i'r ystafell a gedwid ar ei gyfer, yn yr hon yr arferai wneyd ei holl waith ysgrifenu, darllen, &c., pan adref. Goleuwyd y lie iddo gan un o'r morwynion, yr lion wed'yn, a aeth ymaith wedi ciel gorcliymyn i baratoi rhywbetli iddo yn fwyd. Cerddodd Einion at ei hen ddesc a gwelai ami fwndel o lytliyrau, oil wedi eu cyfeirio ato ef ei him. Yn uchaf yr oodd llytliyr oddiwrtli dwrnai yr ystad yn ei hysbysu y galwai y cyfreithiwr yno ar ddiwrnod neillduol gydag ewyllys ei ddi- weddar daid i drefnu ar gyfer troi y medd- iannau drosodd yn rheolaidd i feddiant Einion. Yna, o dan lythyr y twrnai, gwel- odd lythyr wedi ei gyfeirio ato ef yn llaw- ysgrifen Mr Prys, y Person, ac ar yr amlen n y y gair Brys." Beth ydi'r mater efo fy hen ffrynd, Mr Prys, tybed," ebai Einion wrtho ei hun, gan agor y llytliyr. Aetli yn nes at y goleuni er mwyn gallu gweled y llawysgrifen yn well, a phe y buasai yn yr ystafell yr adeg hono rywun i sylwi ar y dyn ieuanc hwn tra yn darllen y llythyr, gallasai weled ei wyneb- pryd yn troi yn welw, ei law yn crynu, ac yntau bron cwympo i'r llawr gan y cyffro enynwyd yn ei fynwes gan gynnwysiad y llythyr, Dyma oedd :— Yr wyf yn anfon y llytliyr yma, gan obeithio y cewch ef yn ddioed ar eich cyr- liaeddiad adref, oblegid gan na vvyr neb ddim o'ch cerdded yn ddiweddar heblaw cich bod wedi myned oddiwrth eich catrawd yn y Werddon er's wythnosau, felly nid oedd neb yn gwybod pa bryd y deuwch adref, ac efallai y byddaf finnau yn Nhrefaelog pan gyrhaeddwch. Yr wyf yn cael fy ngalw yno gan y ddyledswydd fwyaf poenns a gofidus cldaeth i'm rhan erioed ac y mae yn iawn i chwithau gael gwybod yn ddioed yr hyn sydd genyf i'w ddyweyd wrthych. Nid wyf am geisio dyweyd yr un gair o .gerydd arnocli yn y llythyr hwn, oblegid byddai unrhyw eiriau ereill o'm heiddo yn ym- ddangos yn rhai gwanaidd a diystyr wrth ochr y geiriau y rhai y mae yn ddyledswydd cu dyweyd wrtliych yn awr. A dyma hwy ■—Mae Olwen Prydderch yn y carcliar, ac i gael ei phrofi yfory ar y cyhuddiad o lofruddio ei phlentyn." Syrtliiodd Einion wysg ei gefn ar gadair yr oedd ei wyneb can wyned a'r galchen. Taflodd edrychiad ofnus o'i gwmpas fel pe yn ofni gweled swyddogion y gyfraith yn dod yno i'w gymeryd ef at Olwen i'r carchar. Yno yr eisteddai fel un mewn breuddwyd pan ddaeth y forwyn ag ymborth iddo ni chymerodd yr un sylw ohoni, ac yn ol ei thystiolaetli hi wrth ei chyd-forwynion ar ol myn'd i lawr, yr oedd Eirion y mynydau hyn yn edrych "fel po wedi gwel d drych- iolaeth neu yspryd ei hen daid yn yr ystafell." Ond efallai mai gweled rhag- arwyddion yr oedd fod dialydd y gwaed yn ymlid yn galed ar ei ol a bron a'i ddal. Pwy wyr beth a welodd yn ystod yr banner awr neu fwy y bu yn eistedd yn y fan hono fel dyn wedi marw, a'r llythyr agored yn ei law ? Tybed yr aeth ei orplienol fel pano- rama heibio llygaid ei feddwl ? A welodd efe ei hun yn hudo geneth gyffredin, o deulu parchus ar ystad ei daid, gan ci llithio a'i denu i ddrygioni drwy beri iddi wag- freuddwydio ei fod ef Yllci charu mewn gwirionedd ? A welodd efe ei hun, wed'yn, tra clan effaith diodydd mcddwol, yn ym- ffrostio wrth ci uytt-Hwycldouion milwrol ei fod wedi llwyddo i enill yr enetli hono i'w garu ddigon bron i roddi ei ciuioes i lawr drosto '? A ocdd efe yn cofio y cerydd gafodd gan ei gyd-swyddogion am ymddwyn felly tuagat un y gwyddai o'r goreu na phriodai efe niohoui bytli ? A welodd efe ci hun yn gaclael ei gatrawd, yn dod drosodd i Gymru mewn dillad gwladwr cyffredin, yn crwydro o fan i fan fel p8 yn chwilio am rywun, ac yn y diwedd yn cyfarfod y rhywun yma ? Beth bynag a welodd, non beth bynag ddychymygai oedd yn ei weled, yr oedd arwyddion amlwg o fraw ac arswyd ar Einion pan gyfododd oddiar y gadair fel pe newydd ddadebru o ryw liunllef-dychryi-i- llyd. Erbyn hyn, yr oedd yn dri o'r gloch y boreu—boreu Gwener, y diwrnod ar pa un yr oedd Olwen i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad o lofruddio ei phlentyn — a'i blentyn yntau. Yr oedd gan Einion gyd- wybod wedi y cyfan, ac yn awr dechreuodd hono ruo yn ddychrynadwy cerddai y dyn o gwmpas yn ei ystafell, gan geisio meddwl beth fyddai oreu iddo wneyd, ond methai a meddwl. Methai gysylltu y nai'l syniad wrth y llall; yr oedd ei ymenydd fel pe ar ddyrysu, ac yn ei benbleth bwriodd ei hun ar esmwythfainc gan obeithio gallu cysgu ychydig, ac y byddai ei feddwl wed'yn dipyn cliriach a'r ystorm wedi cilio i ryw raddau. Methodd gael hun i'w amrantau; troi a throsi, cyfodi a cherdded yn ol a blaen— dyna ei bancs am y gwcddill o'r nos, a phan wawriodd y boreu yr oedd Einion heb gysgu moment, heb fwyta yr ymborth oedd ar y bwrdd o'i flaen, ac edrychai fel corph marw wedi ci drydaneiddio. Yr oodd y ffaitli mai efe a ddenodd Olwen oddiar hvybr rhinwedd a moesoldeb i ddechreu yn ddigon i roddi cyfrif am lawer o'r cyffro yma oedd wedi ci feddiannu, ond nid am yr oil. Rhaid fod rhywbetli mwy na liydyn nod hyny yn peri i Einion ymddangos mor anesmwyth a chyffrous. Yn gynnar iawn yn y boren, gorchymyn- odd i'w was ddwyn ei geffyl at y drws, ac aeth ymaith ar garlam heb ddyweyd wrth neb i pa le yr oedd yn myned. Credai rhai o wasanaethyddion y ty mai i Drefaelog yr oedd eu mheistr ieuanc wedi myned, i glywed y prawf neu i geisio bod o ryw gym- horth i'r garchares yn nydd ei blinder tra y dadleuai ereill ohonynt nad oedd dim perygl ei fod wedi myned yn agos i Drefaelog, ac na ddangosai ei hun yn y cyffiniau ond gan lleied ag a allai hyd nes i'r helynt yma fyned drosodd. Beth bynag, ymaith yr aeth Einion ac ni ddychwelodd y diwrnod hwnw, ac fel yr ydym wedi gweled eisoes yn y bennod o'r blaen, ni wnaeth ei ymddangosiad o gwbl yn y llys yn ystod prawf Olwen.