Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

HUNAN-GOFIANT MWNCI

News
Cite
Share

HUNAN-GOFIANT MWNCI ANWYD fi ar letlir Craig Gibraltar. k Pa ddyddiad na pha flwyddyn nid wyf yn cofio, yn herwydd bach iawn oeddwn pan aned fi, ac nid ydym yn cyfrif ein hoedran wrth y blynyddoodd, end wrth y tymhorau. Yr wyf, fel rheol, wedi teithio ilawer gyda'r tymhorau, felly nis gallaf ddyweyd sawl tymhor haf sydd wedi myned heibio. Fy namcaniaeth i, a barnu wrth lesgedd fy aelodau, y w fy mod tuag ugain oed. Gallaswn, a'r cyfansoddiad cadarn y'm bendithiwyd gan fy rhieni ag ef, fod yn wisgi hyd yn nod yn awr onibai anfanteision lawer ddaeth i'm rhan. Pan aned fi fy nhad oedd llywydd y Graig, oblegid efe oedd y trechaf mewn brwydr, a chofiwch i gyd mae trechaf treisied, gwanaf gwichied, yw yr egwyddor lywodraethol genym ni adre'. Yn hyn y gwelwch nad ydym wedi dadblygu mewn ystyr foesol ond ychydig yn uwch na dynion. '71 Fy mam oedd y lanaf ar y Graig, a pherchid hi yn fawr gan rlaai tuallan i'r cylch perthynasol. Gyda'r fath dad a mam genyf, yr oodd yn berffaith naturiol i mi, oedd wedi ngwisgo a'u lhagoriaethau, cael parch a rhyddid i' arfer fy ngalluoedd i niweidio y brodorion ieuainc. Nid am fy mod i yn ei ddyweyd yr wyf am i chwi gredu yr ad- roddiad canlynol, ond am ei fod yn wir. Crwydrais un boreu yn bellach nag arfer oddicartre' cyfarfyddais, wrth ddycliwelyd, a mwnci ddau neu dri tymhor hynach na fi. Pan welodd y cuau oedd genyf, ymosododd arnaf ac ymdrechodd cu dwyn oddiarnaf cyn pen hanner dau fynyd, ag un o'r troion y dysgodd fy nhad -i mi, lloriais ef fel pe byddai golaiu,-ei drwyn oedd goch gan waed, a'i ystumiau fel mwnci mewn ffit. Wedi myned adre' adroddais yr hanes wrth fy rhieni, ac er iddynt, wrth fy nglieryddu am grwydro, wisgo gwg, canfyddais wen foddhaol yn llechu oddibano a'r noson hono, pan oedclynt yn tybio fy mod yn cysgu, clywais fy nhad yn dyweyd wrth fy mam fy mod yn fab addawol, ac yn debyg o ddod yn olynydd iddo, a theihvng ohono. Pe bai gofod yn caniatau, gallwn adrodd 11awer hanesyn digri', pa fodd yr oeddym yn mwynhau ein liunain, a'n troion ysmala, campau rhyfedd, a'r defnydd chwareus y gwnaerit o'n cynffonau. Rhaid ymfoddloni ar adrodd am un amgylchiad a erys ar fy nghof tra fyddaf byw, er fy mlinder. Fel y gwyr pawb, yr ydym ni fel cenedl yn cael ein cyhuddo o ddiffyg gwroiddioldeb-taw efelychwyr ydym, ond gallwn daflu'r oy. huddiad yn ol i wynebau dynion. Ymdrechu profi wna dysgedigion yr oes hon eu bod yn ddisgynyddion yr epa, ac i'r perwyl o brofi y berthynas gwelais, yn nhymhor fy ieuenetyd, lawer o ddynion yn sylwi yn fanwl ar ein harferion, fel y gallent argyhoeddi byd o ffyliaid eu bod wedi disgyn o'r mwnci. Un ii)soii, wedi i ni orfod ffoi oddiar ffordd y b bl hyn, cynnaliwyd cynnadledd, ac e vythr i mi, brawd fy mam, oedd y siaradwr penaf yn y gynnadledd hono. Efe roddodd y rheswm a enwais dros ein bod yn cael ein Laflonycldu gymaint. Ymddangosodd y rhai mwyaf penwan fel yn falch o hyn, a phan welodd fy ewythr hyn trodd atynt. a dy wed- odd wrthynt nad oedd y milflwyddiaut mor agos ag y tybient, ac na wawriai chwaith hyd nes y byddai i dclynion goleddu syliiaclau uwch am danom ni. Adroddodd liefyd wrthym y syniadau diraddiol hyn o eiddo dynion, Honent eu bod yn ddeiliaid llyw- odraeth foesol, yr hon oedd gymaint yn uwch na'r reddt yr oeddym ni yn ddeiliaid iddi, ac fod eu deddfau ysprydol yn uwch na'r rhai naturiol, ond profwyd yn y gyn. nadledd hono fod llawer o bethan yn ffurf ein llywodraeth oedd yn tybio moesoldeb. Os mai deiliaid greddf ydym, gallwn ym- gysuro ein bod mor, os nid mwy, ufudd iddi nag y mae dynion i'w deddfau hwy. Truen. usrwydd sydd yn dilyn toriad y naill fel y llall. Olrheinier blinderau dynion, a cheir mai yr achos o hyny yw anufudd-dod, tra yr ydym ni, wrth gydnabod ammodau ein bod- olaeth, yn mwynhau ein hunain ar geinciau'r gwydd heb ofal am yfory i flino'n bron. Collais beth o'r araeth trwy fod adsain Bule Britannia" yn boddi llais fy ewythr. Oild wedi i'r Prydsinwyr dewi, clywais ef yn dyweclyd y gallai Rhufeinwyr ganu mor ffyddiog a hwythau. Pan oeddwn tua thri tymhor oed, daliwyc1 fi trwy ddichell, dygwyd fi i Loegr, addysg- wyd fi i ddawnsio. Gan fy mod yn un sylwgar, chafwyd fawr drafferth i'm dysgu i gerdded, dawnsio, &c. Gwisgwyd fi a chot goch, llodrau gleision, a chapan tri-lliw, a chyda'r hurdy-gurdy mwyaf di-gerdd bu'm yn foddion i dynu dagrau o iawenj (Id o 11 lygaid llawer o blant yn Nghymru, America, a Lloegr. Cof genyf un diwrnod, yr haf diweddaf, fod mewn pentref heb fod gant o filldiroedd o swyddfa Papur Pawb, a darfu i mi gael fy nghynffon wedi ei thynu'n lied drwsgl gan hogyn bach, ac wrth amcldiffyn