Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

LLITH DAFYDD EPPYNT.

News
Cite
Share

LLITH DAFYDD EPPYNT. YSTRAD-TEIFI, CANT A HANNER 0 FLWYDDI YN OL.—Fel y canlyn parth ofergoeledd y lie a'r pryd, o lythyrau Anna Beynon, yr hon gyda Haw ydoedd yn credu yn gadarn yn athrawiaeth Drych- iolaeth, Canwyllau Cyrph, &c. Dywedais ofergoeledd; beth bynag ni chymmeraf arnaf fyntumio mai ofer a dychymygol ydyw y cyfryw athrawiaeth yn hollol. Mae y cyfwng sydd yn gorwedd rhwng dau-fyd a'r tywyllwch trwch yn d6 drosto, tevia incognita ydyw. Mae dau eithafion; coelio gormod, a choelio rhy fach. Gwel- ais hymn rymus owaith hyd yn nod Jenkin Jones o'r cyfnod hwn, gwedi ei chyfan- soddi i'w chanu mewn cwrdd gweddi a gedwid mewn tyyn Llandyssul, a aflonydd- id, neu a dybid felly, gan y peth a elwir Yspryd. Fel hyn y dywed Anne Beynon ar y matter "Fe welodd Betti, ein morwyn ni, deulu Mali'r Alltgoch oddeutu tair wythnos cyn iddi farw. Yr oedd Betti yn myned tua thy ei thad ar noswaith lied dywyll. Ar hyd ffordd-eglwys Alltgoch yr oedd yn c myned, ac yn teimlo yn eithaf calonog, Y ac yn canu Fe aeth Gwen i ffair y Fenni, Eisiau crochan pridd oedd ami," &c. < Yn ddisymmwth tywyllodd y cyfan o'i chylch a theimlodd ei hunan yn cael ei gwasgu yn rhyfedd, ac fel yn cael ei chodi oddiwrth y ddaear, a'i chario'n mlaen fel mai prin y teimlai ei thraed yn cwrdd i'r llawr. Dibenodd ganu yn y fan, a chafodd ofn arswydus. Nid oedd yn gweled un cydewyn mwy na phe buasai yn mola buwch ond yr oedd yn gwybod oddiwrthi ei hun, ac yn clywed rhyw si a thrydar dyeithr iawn o'i chwmpas. Yn mhen tro hir tarawodd wrth rhywbeth, a deallodd ei bod wrth glwyd y fynwent. f. Syrthiodd i lawr mewn dychryn ar y ] ddaear, a gwelai rhyngddi a'r awyr ddyn- ion yn myned heibio ar ol eu gilydd, ac yn y man dyna elor a phedwar o tani yn myned i fewn, a lluaws ar ol hyny. Cododd ei swpper i gyd yn ol yn y fan hyny ac yna ceisiodd godiae ymlusgo i dy ei thad. Yr oedd wedi cael ei chario fwy na milltir dros y ffordd. Bu yn galed iawn arni i gyrhaedd ty ei thad, ac wedi myned i fewn i'r goleu cafodd lewyg, a bu yn farw am tua chwarter awr. Bu gartref yn sal am dri diwrnod cyn gallu dyfod yn ol. Yr oeddem yn ofni y diwrnod cyntaf ei bod hithau wedi myned i blith y tylwyth teg, fel Gweni Blaenycwm, ond aeth Siencin yno ar gefn y gaseg fal, a chafodd hi yn y gwely yn sal." Etto, cicio y bel droed Dydd Nadolig rhwng bro a blaenau.- Y r wyf yn cofio pan yn hogyn fy mod yn myned gyda y llu i bea bangc Penrhiwfawr, lie bwnd y bel i'r awyr, ac fod Jushua Davies, offeiriad Llanwenog, yn dyfod allan o'r Eglwys yn ei wisg wen i geisio perswadio y bobl a ydoedd yn llu mawr yn myned heibio i adael y bel a dyfod i:r. gwasanaeth Nadolig ond gan mwyaf yn ofer. Fel hyn ar athrawiaeth y cicio yn 1720:- Bu plwyfi Llandysil a Llanwenog yn cicio pel droed am y goreu dydd Nadolig diweddaf. Yr oeddent wedi bod yn parotoi am fisoedd, a daeth canoedd yn nghyd i odrych arnynt. 0 anfodd nhad yr es i yno, ac fe ballodd yn un gwedd a gadael i Siencin fyned. Hen greadur pengam ofnadwy yw nhad ac yr wyf yn meddwl ei fod yn myned yn fwy pengam bob dydd. Y mae bron fy halai i ddyweyd geiriau cas wrtho ambell dro. Nid oes dim yn iawn yn ei olwg onct y peth y mae'r Bibl a Lewis, Dinascerdin, yn ei ddyweyd. Yr oedd llawer wedi maesu yn barod erbyn y bel droed, a myned a bwyd a diod gyda hwynt yno a dyna redeg a chicio, a swn a gwaqddu oedd yno. Un ochr yn ennill 'natwr, a'r llall bryd arall; ond Llandysil oedd yn cario fynychaf. Rhoddwyd heibio chwareu am awr haner dydd, i gael bara a chaws a chwrw, a phob un mor llawen a'r gog. Yn fuan wedi dechreu chwareu 0 y prydnawn, aethant i gwympo. maea a'u gilydd, a rhegu, a throedio eu gilydd. Yr oedd rhai o honynt wedi meddwi, a'r lleill wedi yfed gormod, ac yr oedd golwg ofn- adwy arnynt yn curo eu gilydd; a'r merblied vn rhedeg a s-,recliian, ac yn C> ceisio achub eu brodyr a u cyfeillion; ohd waeth beth wnelai neb, ymladd yn mlaen yr oeddent fel bulldogs. Yr wyf yn meddwl iddynt fod wrthi am awr, nes 1 wyr Llan- wenog orfod cilio. Yr oedd Evan, BwWh- gwyntwedi yfed ar y mwyat i amddiflyn i lit I hun, a chawsai haner ei laddom buasai i Sioned ei chwaer a finau ei lasgo oddi- yno. Fe wedwyd fod un bachgen 0 Lan- wenog wedi ei ladd, fe fu'n fariv am 10, ond daeth ato ei hun, ac y mae wedi gwella. Cafodcl Twm Penddol ei gicio yn lied adrwg oblegyd ei fod yn rhy feddw 1 ofalu am dano ei hun. Llawer o siarad sydd am y frwydr yn mhob man, ac y mae'r ddau blwyf yn bygwth myned yn nghyd a hi eto, gyda ffyn ryw, amser yn yr hat'. Maent yn dyweyd fod be0.jt:Y Llan- wenog yn rhai cethin gyda'r bislwm. Yr oedd Siencin ni ar swper y nos hgnc(q dyweyd li i chwi nhad am fy stopio i fyned yno. Mae fy nghvoen yn gyfan a'm pen yn iacli yn awr." Yr oedd yn gas genyf ei glywed. Y* mae Siencin yn ormod o hen wlanen o lawer. Buasai yn dda genyf fod yn fachgen yn ei le i gael ymladd dros y plwyf. Fe rows Sali Blaenycwm eitha' crasfa i fachgen o Lan- wenog. Yr oedd yn ei daro a'i dwrn nes oedd ei waed yn pistyllio bob ergyd. Bu 11 y Mr Lewis, y gweinidog, yn gweyd yn hallt iawn am y peth yn Pantycreuddin ar ol hyny, ac yn llefain fel babi yr un pryd, a nhad a mam, a'r hen bobl, yn llefain gydag ef; ac y maent wecli bod yn cadw cwrddau gweddi yno droion ar ol hyny i weddio dros y bobl ifainc ond nid wyf yn gweled y bobl ifainc un mymryn yn well ar ol iddynt weddio drostynt. Rhaid i mi derfynu bellach. Y mae wythnos er pan ddechreuais ysgrifenu y llythyr hwn, ac yr wyf yn ofni y byddweh yn dyweyd wrth ei ddarllen, fy mod yn myned yn ddwlach o un tro i'r llall. Eich serchus chwaer, ANNA BEYNON." YSTADEGAU EGLWYSIG.—Mae yr ys- tadegau canlynol gwedi eu cymmeryd o'r Quarterly Review diweddaf, a gellir ym- ddiried i'w cywirdeb, canys casglwyd a rhoddir hwy trwy awdurdod. Nid oes llawer o goel yn fynych i'w roddi ar haer- iadau a tkystiolaethau moelion, ond bydd ffeithiau ystadegol (statistical facts) yn bethau y gellir ymddiried ynddynt. Dy- wedir yn fynych fod yr Eglwys yn cyn- nyddu yn gyflym yn y deyrnas, gan ad- ennill y ddynoliacth, ac yn fwy felly yn y deng mlynedd diweddaf nag unrhyw gyf- nod yn ei hanes. Yr ystadegau dan sylw a ddengys wirionedd yr haeriad. Rhoddir yn y gofres ganlynol nifer yr eglwysi ne- wyddion am bob deng mlynedd yn y ganrif bresennol, sef am y deng mlynedd yn dibenu yn 1810, adeiladwyd o eglwysi newyddion, 43; 1820, 96; 1830, 308; 1840,600; 1850,929; 1860,820; 1870, 1,110. Dealler fod y rhestr bon yn cyn- nwys yn unig nifer yr eglwysi newyddion, heb gymmeryd i mewn yr eglwysi a ad- eiladwyd neu a adnewyddwyd. O'r cyf- ryw y mae rhif anferth, yn fwy felly o lawer na nifer yr eglwysi newyddion. Adeiladwyd hefyd yn 1830-1870 6,520 o bersondai. Yr ydoedd traul yr eglwysi newyddion hyn yn cyrhaedd y swm o i8,ooo,ooop. Mae i ychwanegu at y draul i ail adeiladu rhai o'r eglwysi cadeiriol, yr hon, yn 'ol yr ystadeg rhagddywededig, sydd yn cyrhaedd 400,000p, fel yn ngeiriau y report, y bydd treulion blyn- yddol mewn adeiladu yn unig yn cyr- haedd y swm mawr gwirfoddol o 20,000,000p, mwy na holl gyfanswm yr enwadau sectarol a'u gosod ynghyd. Ychwaneger at hyn etto fod y swrn o 6,000 yn cael ei danysgrifio yn flynyddol, i gyfarfod a'r cyfryw swm oddiwrth yr Ecclesiastical Commissioners er mwyn cynnal y fintai ychwanegol o offeiriaid ag sydd yn ofynol er gwasanaethu yr eglwysi newyddion hyn. Ond nid hyn yw yr oil, canys mae yr ysgolion cenhedlaethol neu eglwysig yn costio yn flynyddol, mewn rhoddion gwirfoddol i'r Eglwys, 416,464P, pan y mae ysgolion yr Ymneilld.uwyr, a'u gosod ynghyd, yn costio iddynt ddim 48,771P. Mae yr ys- tadeg hon yn dangos ymhellach nifer yr ysgolion a adeiladwyd gan yr Eglwys a'r Ymneillduwyr, rhwng, dyweder 1839- 1872, sef fel y canlyn:—Yr Eglwys, 4,888, ar y draul o 3,932,745p British Schools, 295, traul 23 i,656p, yr hon draul, gyda Haw, a wneir i fyny gan Eglwyswyr yn gystal ag Ymneillduwyr, canys ysgol- ion anenwadol y'u cyfrifir. Etto, ysgolion Wesleyaidd, 130; y draul, I 54,400P. Etto y Pabyddion, 73 y draul, I I I,482P. Dangosir ymhellach ar bwys y ffigyrau hyn fod y darpariadau (accommodation) go- gyfer a'r plant yn sefyll fel hyn :—Yr Eg- lwys, 1,751,697 yr enwadau Ymneillduol, .0 bob dosbarth, 543,538 School Board, 125,050. Dyma ffeithiau ystadegol a ddangosant i'r neb a fyno, neu ni fyno, weled nad oes gyfundeb yn y byd, yn gwneud cymmaint, 11a hanner cymmaint a'r Eglwys yn mhlaid dyrchafiad dynoliaeth. Hyn yw trosol-lever-moesol mawr y byd. A dyma yr Eglwys y ceir dynion eithafol y man enwadau yn cyngheirio i'w dym- chwelyd, Syr Ddynion ffolion! bendara, nid cywion ieir mo'r byd. Yr hwn sydd yn y nefoedd a chwardd, yr Arglwydd a'u gwatwor hwynt," a llawer nes ynla o ran nyny a chwardd ac a watwor; a chyda golwg ar y trueiniaid melldigedig hyny a roddant eu pres i gynnal i fyny gadrwysg a phastwynyddiaeth yn erbyn y cyfryw sefydliad daionus, a dyngarol, a dwyfo). Wel, yn ngeiriau grymus Dafydd y crydd, os ceir dynion yn dewis gwneuc1 âsynoc1 o honynt eu hunain marchoger hwynt a threther hwynt i hewl. Gosodir siars yma ar y gwr ffraeth, nid amgen Moses y Gof, i beri darllen yr ystadeg uchod i wyr Abergwesyn gwedi gosod yn gyntaf ei pheriboethion yn y cyff (vice), yn ngeiriau doniolgamp y Byr, Pe ceuid ei dor brid braff, Ai'n liw ',us ar litt, Asan." GADAIR EPPYNT.—Sibrydir fod yn mryd beirdd, &c., y Gadair hon i adferu Derw- yddiaoth fel gwelliant ar sectyddiaeth efo ei gair C) sswyn-motto-" Da ymaengyda'1' efengyl." Bydd gorsedd, neu a siarad yn ysbrydol, seiat fisol Dderwyddol yn cael ei hagor ar y Tri-chrug, Dafydd y Bidell, yn rhinwedd ei urdd, fei bardd Cadeiriol a hawl yn y gadair. Yr wyf yn deall y cyn- nygir yn y cychwyn wobr o t20 i'r gwr a ddyfeisio yr offeryn goreu a mwyaf pwr- pasol i ddal dyn yn gadarn ddiysgog, b'ydded Eglwyswr neu Buritanwr, sef tra y darllener ddwy ochr y ddalen gan beri iddynt wrando yn ddefosiynol, y pro and con i bob dadl. Bydd rhaid i'r offeryn fod o wneuthuriad cadarn, ond ysgafn fel y gellir ei oblygu mewn llogell. Gyda golwg ar enw yr offeryn, rhaid cael llais gorsedd ar hyny. Yn ol barn Dafydd Cadwaladr, rhodder "arno yr enw Cyff-gof," er mwyn anrhydedd ac anfarfoldeb i'r gwr o of a ddyfeisiodd y cynllun. Yn ol ereill, galwer ef Cyff rhagfarn, yn Lladin collare asinorum, sef yn llythyrenol Cyff mul; ond y mae yn briodol cael barn gorsedd ar fater yr enw. Ac er prawf o gadernid y goler, doder hi yn gyntaf am gorpws Da- fydd Brydydd Byr, canys y bardd hwn a fynai mewn seiat yn ddiweddar ddwyn barn dysgyblaeth ar neb a ddarlleno Llais y Wlad neu gwnaer prawf o'r cyff ar Dwm y Wesley Gwyllt, gan ddarllen iddynt ar y pryd, dyweder, llith o Wil Brydydd y Coed neu yr erthyglau ar y Seiat yn yr "Haulac os deil yma, gellir anturio ar y cenedloedd. A boed felly y bo. ORDEINIO.-Ar yr 20fed o'r mis hwn ordeiniwyd gan Esgob Llandaff, yr offeir- iaid—John Bowen Jones, Edmund Price, B.A., George Thomas, B.A. Etto yn Dde- aconiaid—W. Davies, Evan Davies, B.A,, Th. Hill Lowe, M.A., a Thomas Williams. Etto ar yr un dydd gan-Esgob Tv Ddewi yn Eglwys Crist, Caerfyrddin, Offeiriaid- David Davies, G. H. Davies, David Sim- kins, D. Jones, J. T. Powel, B.A., W. Thomas, W. Williams, B.A. Etto Deacon- iaid-r-Alban Alban, B.A., A. G. Edwards, B.A., D. Evans, W. R. Lloyd, B.A. R. P. Fennet. Traddodwyd pregeth gan yr Esgob i'r urddogion oddiwrth Actau vi. 3 o DAFYDD EPPYNT.

YR HYN A GLYWAIS.

CICIO DYNES I FARWOLAETH.

TYDDEWI. -.