Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

YMHEBGBRAETH YR EHANGDEE.…

News
Cite
Share

YMHEBGBRAETH YR EHANGDEE. YR AIL LITH, 0 FUIsHOM." Y mae yn anmchonadwy sylwi ar y ffurfafen ar noswaith dawel, glir, heb i'r medclwl gael ei daraw a syndod at y llu- oedd aneirif o ser sydd yn daenedig dros ei wyneb aiiiilie,, iyliol ymhob cyfeiriad. Y mae y crebwyll yn gwrthod cyfaddef yn ddirwystr ar unrbyw dystiolaeth amgen na phrawf pendant, mai heuliau mawrion ac ardderehog ydyw yr -oil o'r pelenau serenog—a'u bod, i bob tebygolrwydd, yn ganolbwyntiau i ddosbeirth 0 fydoedd mor eang a pherffaitli a'r un yr ydym ni yn perthyn iddo. Crefydd ei hun a ymat- talia, fel pe byddai yn beth annuwiol i fawrhau yn ogymmaint allu annherfynol yr Hollalluog, a mynegi mawredd aruthr- ol y Creawdydd yn anfeidroledd ei weith- redoedd. Ond beth a ddywedwn os ydym yn rhy- feddu at hyn, pan y datgudclia llygaid treiddgar y pell-ddrych glystwr o ser am bob un a genfydd y llygad noeth—pan ymhell—ymhell draw yn mor di-lan yr ehangder, y gwelir brielau 0 emau seren- og yn y fath bellder, fel nas gall rhifnod- au arferol ei osod allan. Y mae y inyfyr- dod am hyn yn arullirol yn wir, ond y mae er hyny yn llavvn o adeiladaetli a chysur. Yr ydym yn cael ein dyrchafu pan feddyliom ein bod wedi ein cynnys- gaeddu a'r galiu i amgyffred hyn oil. Y mae yr enaid yn angori yn ei alluoedd ei 0 hun, ac yr ydym yn addoli ac yn gogon- eddu y Bod goruchel a roddodd y fath wybodaeth i ddyn. Y mae yn debyg mai y peth cyntaf a dynodd sylw y sylwedyddion boreuaf o'r ffurfafeii, pan yn ystyried cynlluniad a threfn y ser, ydoedd y cydffurfiad o hon- ynt ag sydd yn cyfansoddi y deuddeng cydser, y rhai, hyd heddyw, sydd yn dwyn yr enwau a roddwyd iddynt yn oes- oedd boreuaf y byd. Ganddynt hwy y mae y ffurfafen yn cael ei rhanu i wahan- Ql barthau, y rhai ydynt yn gwasanaethu, oherwydd cywirdeb eu terfynau, er nodi sefyllfa unrhyw seren neiilduol. Y mae y ser y cael eu trefnu neu eu dosranu yn bum' dosbarth, sef ser sefydlog, ser coll- -L edig, ser cyfnodawl, a ser newydd. Y cyrph nefoi a gyfansoddant y clystwrau a elwir y nifwlion, a llifeiriant disglaer y Llwybr Llaetliog. 1 Y mae y Llwybr Llaethog yn ffurfio un o ymddangosiadau prydferthaf y ffurfafen. Cwbl amgylchyna y nefoedd, ac adle- "wyrcha yn dirion arnom oddiwrth ddim llai na 18,000,000 0 heuliau. Y maent oedd "YIF0S0^ mewn gwahanol sefyllfa- 'fel iias gallwn ond .yn wanaidd fel iias gallwn eu goleuni, cyfrwng eu mesunaa, au 0 ddeg i fil 0 flynyddoedd i gyrhaedd ein daear ni. Dyma ran o'r gwirioneddau pwysig a ddatguddiwyd i ni gan y ddau Herschell, y rhai, gyda zel a ffyddlondeb, nas gallai unrhyw rwystrau eu gorchfygu, sydd wedi chwi archwilio pob parth o'r cylch anferthol hwn. Credai Syr William Herschell, ar ol cwblhau ei ran ef o'r gwaith, ei fod wedi treiddio i ddyfnder- oedd eithaf y Llwybr Llaethog, a myneg- odd y gallai ddilyn clystwr o ser gyda'i bell-ddrych, yr hwn oedd wedi ei gyn- llunio i'r perwyl hwnw yn unig, gan belled yn ol fel y cymmerai 330,000 o flynyddoedd i'w goleuni deithio hyd at y ddaear. Ond er y dichon i ni ryfygu, rhaid i ni amheu y mynegiad hwn, gan nad oedd yr unrhyw bell-ddrych, yn yr unrhyw law feistrolgar yn ddigon treiddgar i ddosranu neu ddosbarthu nifwlion Orion. Ac ni wiw i ni anghofio fod goleuni, yr unig fynegai sydd genym i'r parthau an- chwiliadwy hyny, yn ymdaenu ac yn dad- gysoddi yn ei daith; a chan ei fod yn dyfod 0 bwynt mor bellenig, byddai i'w donnau disglaer gael eu llwyr chwalu yn y gwagle. Fel hyn yr ydym yn gorfod credu fod cydser a dosbeirth newydd 11a fydd i'w goleuni byth gyrhaedd ein byd ni yn trylenwi yr ehangder rnaith; ac er fod „ dyn yn cael y fraint 0 dremio ar ddirfawr- edd y greadigaeth, nas gall byth weled ei therfynau. Bydded i ni yn awr ystyried y ser sefydlog, y rhai a ffurfiant brif nodau y ffurfafen. Oblegid fod ei symmudiadau, gan faint eu pellder aruthrol, o'r braidd yn ganfyddadwy, y maent bob amser wedi myned 0 dan yr enw ser sefydlog, er mWYll gwirionedd fod cyfnodau eu cylch- droadau yn adnabyddus a phennodol. Ehaid i gannoedd o iiloedd 0 flynyddoedd fyned heibio cyn i hyd yn nod y cyfnod lleiaf ddyfod i derfyndod ac yna, fel yr < araf dreigla cylch amser, bydd i'r fwyaf cyflym o'r ser" sefyclJog gwblhau un cylch- dro o amgylch ei chanolbwynt. Y mae eu symmudiadau yn cael eu cyfarwyddo gan yr un egwyddor ag sydd yn Hurtio deddf fawr ein dosbarth ni—dymgyrch- iad. Y mae pellder 61 cygni, y seren sefydlog agosaf, mor anferthol fel y cym- mer ei goleuni, er yn teithio 18,000,000 mewn un diwrnod, ddeng mlynedd iddy- fod hyd attom ni. Y Uiosog-ser, fel yr anturiaf eu galw, ydynt y dosbarth rhyfeddol hwnw ag y mae ymchwiliadau divveddar yn profi eu bod yn ddeuplyg, triphiyg, ac hyd yn nod .f" yn bedwar-plyg—hyny yw, dwy, tair, neu bedair 0 ser yn ymsudclo i'w gilydd oblegid eu pellder, ac yn ymddangos i'r golwg megys un. 0 dan drem dreiddiawl Hers- chell, modd bynag, gwahanwyd y bydoedd agos-gyssylltiedig hyn i glystyrau o heul- iau yn cyichdroi yn eu gyrfaoedd neill- duol gyda chywirdcb perffaith a chyd- goxdiad prydferth. Y mae eu cylehdro- adau yn ymestyn dros y cyfnodau mwyaf eang ag y gall y meddwl dynol eu ham- gyffred. Cwblha Zeta, seren ddeuplyg yr Hercules ei chylchdaith mewn pymtheng mlynedd ar hugain, tra y mae pentwr pedwar-plyg yn yr Harp yn cynnwys dau bar 0 heuliau troellog yn cymmeryd dim llai na miliwn 0 flynyddoedd i wneuthur hyny. Er mor rhyfeddol y dichon y lliosog-ser ymddangos, y mae y ser colledig yn gosod ger ein bron beth mwy dychymygawl fyth. Y waith gyntaf y canfyddwyd colli seren ydoedcl yn y flwyddyn 1790, pan y sylwodd Syr William HersDhell-daear- yddwr y fflirfafen-fod ua yn Hercules yn absennol, yr hon, er chwilio am dani gyda'r offerynau mwyaf treiddgar, ni welwyd 0 hyny hyd yn awr. O'r amser hwnw y mae seryddwyr wedi bod yn fwy gwyliadwrus, ac y mae amryw achosion cyffelyb wedi cael eu nodi. Y mae y ser colledig, fel eu gelwir hwynt, ar ol ym- chwiliad dyfal i'w symmudiadau, wedi eu ffurfio yn ddosbarth arbenig, a thybir yn awr nad ydynt yn cyichdroi yn eu gwa- hanol gylchdeithiau, ac y bydd iddynt ymddangos drachefn wedi cwblbau 0 honynt eu gwahanol gyfnodau, feallai ymhen miloedd 0 flynyddoedd. Gellir cymmliwyso yr unrhyw egwyddor i symmudiadau y ser cyfnodol, y rhai, yn wir, trwy yr unrhyw arddangosiadau, er mewn graddau llai, sydd yn taflu goleuni ac egiurdeb ar y dirgelwch hwn. Seren ddisglaer yn Medusa, o'r enw Argol, ydyw yr engraifft mwyaf nodedig o'r dos- barth cyfnodol, gan ei bod yn cwblhau ei cbylchdro mewn ychydig oriau. Ereill, a ymddangosent fel yn lleihau mewn maintioli, yn ngwahanol raddau eu cylch- droad, am fwy na blwyddyn, pan y deu- ant drachefn i ddisgleirio yn eu llawn ogoniant. Rhai a huddir yn hollol am ennyd, feallai-fel yn dra rhesymol y bernir—trwy gyfryngiad cyrph tywyll, planeclau a lleuadau y dosbeirth gwibiog hyny. Fel y cilia un dosbarth o ser o'r golwg am ysbaid, neu y diflanent o'r ffurfafen, y mae llygaid treiddgar y seryddwr yn ysgubo yn barhaus dros ddyfn- deroedd 31" ehangder uwchben, ac ar brydiau yn cael eu cadwyno gan ymddang- -:liq seren newydd, o'r hon nid oes un- -l 1? blaenorol ar ddalenau gwyddomaeth. t tiolaoth ammwys ac ansicr y cynoesoeau, i ni ond crybwyll, fel engraifft o'r dosbarth hwn, seren newydd tra hynod a ymddang- osodd oddeutu canol yr unfed ganrif ar hymtheg, ac a fu yn weledig am ddwy flynedd, yn ystod y rhai y cynnyddodd i'r fiith raddau yn ei dis-leirdeb fel. o'r di- wedd y daeth yn weledig ganol dydd. Ond, yn raddol, diflanodd ei llewyrch, ac yn ngwanwyn 1575 ciliodd o'r golwg yn hollol, ac ni welwyd moni byth mwy. Y mae planedau cyffelyb wedi yrnweled a'n cylch ni er y pryd hyny-teithwyr 0 gylchoedd ereiH-yn ymddangos dros ychydig amser, yna yn encilio o'r golwg yr un modd ag y daetliant; ac fel hyn yn profi yn ddiymwad yr hyn a anturiais ei gyhoeddi, sef pa mor bell bynag y plyn- gh\n i ddyfnder tywyll y cylcij, nas gall dyn byth gyrhaedd terfynau aruthrol y greadigaeth. Dirgelion pellaf y cread, ag sydd o fewn cyrhaedd ein modd ion presennol 0 ym- chwiliad, ydynt y nifwlion; ac yn ddiau dyma y gwrthddrychau mwyaf rhyfeddol, mewn llawer ystyr, yn y nefoedd fry. Am amser maith yr oeddynt yn drech na galluoedd eithaf y pell-ddrych, a thybid mai pentyrau 0 sylwedd anelwig oeddynt mewn cwrs 0 gydsylweddiad i ddosbeirth newydd. Ond, beth bynag a ddichon philosophyddion freuddwydio, nid yw y greadigaeth, pan cliwilir hi yn ddyfal, mewn unrbyw fan yn dangos olion 0 gwrs arweiniol. Y nifwlion lliosog yn Orion, ar y rhai yr oedd y dybiaeth uchod yn cael ei sylfaenu, a ddadblygwyd gan ad- lewyrchydd hynod Arglwydd Rosse, ac wele ser ydynt, ac fel hyn y mae trefn a pherffeithrwydd prydferth natur yn cael eu profi a'u hegluro. Hyd ymyl eithaf yr ehangder diderfyn ceir oil yn rheol- aidd, sefydlog, cadarn, a pherffaith. Y mae nifwlion Orion yn bwnv eu goleuni arnom o bellder anamgyffredadwy, gan y cymmer ddim llai na 60,000 o flynydd- oedd i deithio hyd attorn ni. Aruthrol ydyw yr ystyriaeth fod llinell o oleuni, mor fechan i'n golwg ni, yn deilliaw oddi- wrth filiynau 0 heuliau, ac yn cyfansoddi ffrydlif 0 lewyreh mor annherfynol a'r Llwybr Llaethog ae, os edrychwn o am- gylch ar y prif nifwiion ereill, ymsaetha y gwirionedd dwys i'n meddyliau nad yw, er hyny, gyda'r oil o'i filiynau o heuliau disglaer, ond megys rhan fechan neu frycheuyn yn y greadigaeth. < Nis gallwn wneuthur ymchwiliad pell- ach, canys yr ydym weithian wedi cyr- haedd y terfyngylch rhyfeddol nad yw yn ddichonadwy ei groesi; ac wrth edrych yn ol ar y gagendor anfesurol, nis gallwn lai na rhyfeddu at gyrhaeddiadau gwydd- oniaeth. Oddiwrth y fath ystyriaeth, gallwn yn awr gyda phriodoldeb droi attom ein hunain, ac ymddiddan a'n calon, a thewi. Yr ydym yn canfod ar- dderchowgrwydd a gogoniant ein Creawd- ydd hollaliuog i'r fath raddau enfawr fel, os ydym yn feddiannol ar deimladau goreu dynoliaeth, y bydd i'n calonau gael eu llanw a dyfal-barch, ac y bydd i ni blygu y glin mewn addoliad gwylaidd ger ei fron Ef. Haul ar haul, dosbarth ar ddosbarth, mewn ufudd-dod i un ddeddf gyffredinol, a ysgubent mewn trefn ddidor ac ardderchog 0 amgylch gorsedd euraidd y Goruchaf, ac y mae Efe yn gofalu yn dadol a rhagluniaethol am danynt oil. Bydded i ni yn awr droi oddiwrth beth- au mawrion y ffurfafen at bethau bychain y ddaear—o'r nefoedd fry i'r byd yr ydym I yn preswylio ynddo-attom ein hunain— at y distadlaf o'r man chwilod a ddat- guddir i ni gan y chwydcl-wydf mwyaf galluog. Yr unrhyw ydyw 0 hyd. Po fwyaf yr ymchwiliwn i natur, mwyaf yr achos a gawn i ryfeddu, caru, mawrhau, ac addoli y Bod anfeidrol yr hwn a lun- iodd ac a drefnodd y cyfan er ei ogoniant ei hun a'n cysur a'n diddanwch ninnau. Os derbyniol genych, bydd i mi anfon llith i'r Llais clodwiw yn fuan etto, yr hon a flfurfia y drydedd ar ryfeddodau gwyddoniaeth. ZENO. Caergybi, Medi 15fed, 1874. F [Bydd llithoedd dyddorol ein gohebydd yn dra derbyniol.—GOL.]

LLANIDAN.

-.------------.."__._"-----.-_-DAMWAIN…