Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
DIM OND DISGWYL.
DIM OND DISGWYL. (Cyfieithiad.) Cyfanisoddwya y gta ganlynol gan foneddwr yn America, yr hwn a ddigwyddodd ymweled ag elusendy un diwrnod. Wrth y drws eisteddai hen wr gwalltgwyn. Gofynodd y boneddwr iddo pa beth yr cedd yn ei wneud yno. Dim ond disgwyl," ebai'r hen wr. Dim ond disgwyl i'r cysgodion Fyn'd yehydig bach yn hwy, ? Dimjond disgwyl i'r pelydrau Ddiffodd byth i ddychwel mwy, Nee i nos y byd fyn'd ymaith • Draw o'm calon lawen gynt, Ac i s6r y nef dywynu Drwy y cyfnoa ar fy hynt. Dim ond disgwyl, dim ond disgwyl. Dim ond disgwyl i'r medelwyr 4 Gludo adre'r ysgub fd, Cyn i'r haf-ddydd lithro ymaith Tra fo gwynt y gaua'n fud 0 fedelwyr, brysiwch gasglu Addfed oriau'm calon diist, Canya blodau'm hoes sy'n gwywo, Ac hiraethu 'rwyf am Grist. l, Dim ond disgwyl, dim ond diagwyl. Dim ond disgwyl i'r angylion Agor dorau'r nef yn llawn, Wrth ba rai 'rwyf wedi disgwyl Amser maith yn unig iawn Braidd na tbybiwn mod yn cly wed Peraidd leisiau'r neful lu, Galwent arnaf i ymddattod, "D Ac ehedeg attynt fry. Y Dim ond disgwyl, dim ond disgwyl. Dim ond disgwyl i'r cysgodion Fyn'd ychydig bach yn hwy, Dim ond disgwyl i'r pelydrau i- Ddiffodd byth i ddychwel mwy Yna draw o'r t'wllwch dudew Cyfyd haul tragwyddol fyd, I oleuo'm henaid llawen l'w orpbwysfa. nefol glyd. •• s Dim ond disgwyl, dim ond disgwyl. • 1 PASQUIN.
ENGLYN
ENGLYN Cyflwynedig i Mr P. Griffiths, Ffestiniog. Gyferbyn gwr go fyrbwyll-ei nwydau E'nodir gwr gorphwyll; Da odiaeth yw gwr didwyll, Goreu o bawb gwr o bwyll. BLEDDYN.
BEDD Y DYN TYLAWD.
BEDD Y DYN TYLAWD. Nis gwelir yn wir golofn wen,-gostus Gistfaen, i'w dywarchen Ni cha'i barch; na uwch ei ben, Ni thorwyd "dwy llythyren." ARFON.
ODLIG NEWYDD.
ODLIG NEWYDD. 0, pwy a ddichon ganu'n ffraeth, I'r bod a wnaeth y bydoedd A seinio'i fawl rhyfeddol faith, Yn nifyr iaith y Nefoedd ? Myfi. nid wyf ond pryfyn gwael, Fy Arglwydd hael isy'n gwybod Er profi nodded pur fy Nuw, Anhyfawl yw fy nhafod, 'Rwyf fi'n friwedig dan fy nghlwyf, A gwanaf wyf o'r gweiniaid, Oud nerthoedd cadarn, cariad cu A ddeil i fyn7 f'enaid. Nid allaf draethu'r clod yn rhwydd, A haeddaif Arglwydd tirion; ■ Ei fawl a gaiff lochesu'n glau, Yn nirgel giliau'r galon. Elaenau Ffestiniog. FAll.
EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR.
EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR. MARWNAD I'R DIWEDDAR MRS CAMPBELL, DIWEDDAR BRIOD Y GWIR BARCHEDIG ESGOB BANGOR, Derbyniwyd pump o gyfansoddiadau ar y testyn hwn, sefyr eiddo Tudur Aled," "Cwyniedydd," Ap Deiniol," Cymro Galarus," a Galarwr Galarus, "Cymro Galarits.Y mae y cyfan- soddiad hwn yn cynnwys 170 o linellau. Y mae ynddo lawer o linellau gweiniaid, gormodiaith, a diffyg chwaeth.-F. E. Mae pethau fel hyn yn ein drysu o hyd > II A'r dagrau yn golcbi aelwydydd ein tref'' Wrtb weled ar elor yr un wnai eiu caru" < A'r ochenaid yn dianc o'r fron gyda brys" Nes agor ffynonnau peillt ddagrau y fron A'r fynwes oedd yn liou a lanwyd & thvistyd Y dydd pan y cwympodd i'r beddrod wnaeth hon « Doethineb yu ddiau yw tewi i gnawd Ofdd fawr ei rhinweddau, ychydig ei ch'im, "c A'i myg anrhydeddu wnai morwyn a gwaa." Y mae hyn yn llawn' ddigon i ddangos nad yw hwn ond cyfansoddiad Iled egwan, cyffredin, a clianolig. Ap Deiniol. Y mae y cyfansoddiad hwn yn cynnwys 236 o linellau. Y mae yn rhagflaenu y farwnad ddeg o linellau Seisnig o waith y prif-fardd Seisnig Dry- den, y rhai ydynt dlysion, ac yn briodol iawn fel rhagdraith i bryddest farwnadol. Nid chwaethus nac uchel ydyw y llineliau agoriadol:— «' Mae'u deilwng rhoi anrhydedd i arwy^JW^j^n ° A nijui, heirdd ddarlutiiau o ho i eiiWOg>ou gwlad Na ftied neb y prydydd am wneuthur darluu gla 0 foDeddiges fagwyd ar fiouau gwlad y gar. Ni raid argymmeil Av.eu (fel bjdd em beirdd }• d'weyd), Mae'u barod am ei gorchwyl yn dugwylcacl et wneud. Yn disgwyl cael cyfansoddi maiwiiad, mae'n debygol. Prin y mae y llinellau canlynol yn deilwng o'r testyn "Pa beth, meddaf, ydyw'r trymder A ddisgvnodd ar y llys ? Ai nid eiiya siorniait-brekidt,w),d Ddarfu'm cludo yn fy mrys ? Na, mae lhywbeth yn ddijjygwl lJYDa deimlid pob peth < yw SiiVr awe], liriuid, alarus, Y gyfrinaeh yn fy Dgblyw. Wedi marw dyna eiriau Glywir yma ar bob liaw, Do, bu farw Mra Campbell, Dyma arcboll, dyma fraw, Dyma galoa dinaa gyfan Bron ymddryllio dan y gyrdd. A chwith i'w hunig ferch yw ccfio Mai gair gwag am byth yw mini Y mae yr engreifftiau hyn yn Ilawn ddigon i ddangos fod y syniadau yn rhai cyffredin iawn. Y mae gan yr awdwr tua'r diwedd Gan y Cardottyn ar alaw "Y Gwenith Gwyn." Tudur Aled.Y mae y eyfansoddiad hwn yn cynnwys oddeutu 259 o lineilau. Lied gyffredin a chanolig o ran syniadau ydyw y cyfansoddiad hwn etto. Y mae yn adrodd gwirioneddau ystrydebol heb ddim yn darawiadol yn yr ymadroddion ond y mae math o undonedd canolig o ran iaith ac ymadrodd yn nodweddu yr holl gyfansoddiad.—F. E. j Ond o'r nefiroedd mawrion sydd Yn cael e101 dwyn i'r bedd bob dydd, lihyw un bennodol mawr ei bri Sy'n destyn galar gdn gen i, Sef Mrs Campbell, 0 na bawn Yn medru rhoi desgrifiad llawn O'i rhagoriaethau mawr bob un Mewn teilwng fodd o honi ei hun." Un engraifft arall:— Pa fodd gwnaem ymgynnal yn ngwyneb ei cholli ? Pwy gaem mor deimladwy i wrando ein cwyn ? Rhy anhawdd desgrifio mor fawr ein trueni, 0 Angeu, pe gwnaet oddi arnom ei dwyn; Mae dyfnder ein tlodi a llais ein gobeithion, A'n hamryw drallodion sy'n peri dwfn loea, I gyd yn cyduno & theimlad ein calon I wneud y deisyfiad-I Boed iddi hir oes.' Gwasanaethed y pennillion hyn fel eng- reifftiau o'r holl farwnad drwyddi, y rhai nid ydynt deilwng o urddasolrwydd y testyn. Galarwr Galarus.Y mae y farw- nad hon yn cynnwys oddeutu 286 o linell- au, ac y mae hi o nodwedd ychydig uwch o ran teilyngdod na'r cyfansoddiadau a nodwyd, ond ei phrif nodwedd yw ei chyffredinolrwydd gyda golwg ar y gwrthddrych. Buasai yn hawdd yn gwneud y tro ar ol unrhyw foneddiges arall. Y mae hi yn amddifad o chwaeth a thynerwch, a choethder iaith a syniad rai prydiau, yn enwedig pan y cofier mai marwnad ydyw ar ol boneddiges urddas- ol.-F. E. A fyn glod bid farw yw iaith y ddiareb, Ar ol ein marwolaeth bydd molawd i'w gael; Fe fydd yr aunuwiol yn llawn o dduwioldeb, Y meddw ya sobr, a'r cybydd yn hael Gwir glod gal'n harwres yn ystod ei bywyd, Bob ameer fe'i rhifid yn un ddifrycheulyd; Yn hunan-ymwadol, earedig, a diwyd, Hyd lwybrau uniondeb y cerddai heb ffael." Ac y mae chwaeth y llineliau canlynol yn amheus iawn:- Wrth wel'd y drist dyrfa yn dilyn ei harch, A thestyn pob un bedd ei rhinwedd, 'Roedd arnom flys marw, pe caem y fath barch, Er myned i'r beddrod i orwedd." Y mae y bardd yn rhoddi darluniad o hen was i'r foneddiges yn cyrchu i'r fyn went at ei bedd i alaru ei golled, ac yn priodoli iddo alar-gan. Y mae yn rhoddi darlun- iad o Gristion galarus fel yn gwneud yr un peth ac y mae gwraig dlawd, alarus, yn gwneud yr un peth. Y mae mynychu y darluniadau hyn yn ddiammheu yn: wendid mewn cyfansoddiad, ac yn an- farddonol. "Civyniedydd.Y mae y cyfansoddiad hwn yn cynnwys 168 o linellau, ac y mae yn gyfansoddiad gwych iawn. Y mae y mydraeth yn esmwyth, ac y mae'r iaith a'r syniadau yn goethion a chwaethus ac os nad ydyw yn rhedeg yn uchel iawn, y mae yn rhydd oddiwrth ormodiaith, chwyddiaith, ac ami feiau ereill sydd yn anurddo y cyfansoddiadau ereill. Ym- ddengys yr awdwr hwn yn fwy cydna- byddus a hanes y diweddar Mrs Camp- bell. Y mae yn cyfeirio at yr amser a gyd-dreuliwyd gan yr Esgob a Mrs Camp- bell yn Merthyr Tydfil;- Adgofloi am amser a dreuliwyd Yn Merthyr yn more yr oes Mewn melus gymdeithas â,'ch gilydd, Heb flinder, na siomiant, na chroes Daw'r llwybrau a'r dolydd i'r meddwl, Daw'r ardd, a daw'r blodeu i go', I ennyn dy hiraeth am dani, A gwlychu dy ruddiau ar dro." Yna y mae yn cyfeirio at ymweliad y cholera a Merthyr yn'y flwyddyn 1849, a'r" cymmorth a roddodd Mrs Campbell i'w gwr y pryd hyny :— "Pan deitkiodd y geri angeuol Fel angel dinystriol ar hynt, A bwriodd ei gry UJ man llymedig I fedi'r trigolion fel £ d, Heb arbed na graddau nac oedran Yn Meithyr a'r cylchoedd i gyd." Ac w.ele bennjll tlws iawn Os distaw y bupdd aqa dymmor, Qs crogudd ei tlielyn yn wyl Ar helyg hen afun y gaethgjmf, Mae hpddyw yu canu mewn hwyl U«cb, uwcb, mae ei thannau'n pereeinio, A iaitbau ddyrchafa ei lief, Mewn mawl a cblodforedd i'r Iesu FLi'u gwaedu i'w cliodi i'r rief." Y mae yr awdwr hwn yn tra rhagori ar ei gydymgeiswyr" mewn chwaeth, tynerwch, a choethder iaith a syniadau. Y mae yn dal at ei destyn, ac yn amlygu mwy o gydnabyddiaeth a gwrthddrych ei farw- nad, ac iddo ef y rhoddir y-fiaenoriaeth ac y dyfarnir y tlws a'r wobr. H UGH OWEN (Meilir).
[No title]
Hysbysir mai Mr Lloyd Jones, Taly- sarn, sydd wedi ei ddewis yn llywydd undeb y chwarelwyr.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. ABERCARN.—Nos Wener cyn y di- weddaf, yn y New Inn, Abercarn, agorwyd ymchwiliad pwysig o flaen y trengholydd, W. H. Brewer, Ysw., i farwolaeth Thomas Morgan, naw mlwydd oed, yr hwn a frathwyd gan gi ar yr 28ain cynfisol. Yn ol y dystiolaeth, yr oedd y bachgen wedi dioddef yn chwerw oddiwrth y brathiad, ac wedi marw mewn canlyniad. Gohir- iwyd yr ymchwiliad er cael tystiolaeth feddygol ar y pwngc. CAERDYDD. Digwyddodd damin ddychrynllyd yn y Bute Docks, y lie hwn, ddydd Iau cyn y diweddaf, i ddyn enw yr hwn sydd anadnabyddus, trwy iddo gael ei daro i lawr gan agerbeiriant, mewn canlyniad i'r hyn y cafodd ei ddryllio yn ddarnau. Cymmerodd yr anffawd le yn ngwaelod yr East Dock. Tua naw o'r gioch, aeth yr agerbeiriant rhif 12 dros bont, yn cael ei gyru gan ddyn o'r enw Kenrick, fel arfer. Wrth groesi y bont, sylwodd Kenrick fod ysgydwad wedi cym- meryd lie, yr hyn a wnaeth iddo feddwl fod y peiriant wedi gwrthdaro yn erbyn rhywbeth ar y rheiliau. Yr oedd y peir- iant ar y pryd yn myned gydag arafweh. Wedi myned ychydig latheni dros y bont, dychwelodd Kenrick yn ol i weled beth a allasai fod yr achos o'r ysgydwad. Gwelodd ar hyn fod corph dyn wedi cael ei godi o'r lie y bu ysgydwad. Syrthiodd un o'r dynion sydd yn gweithio yn y llongborth, ychydig funydau wedi i'r peiriant basio, ar draws coes dyn. Pan welodd y dyn yr olygfa ddychrynllyd, aeth ar hyd y rheil i edrych am y rhanau ereill o'r corph, a chafodd ef yn wasgar- edig ar hyd y Ilinell. Dygwyd y corph i'r dead-house i aros trengholiad. CWNRHONDDA.—Dydd Llun cyn y diweddaf, yn y Rhondda Inn, cynnhal- iwyd trengholiad, o flaen Mr Thomas Williams, ar gorph un Hugh Williams, sinker, yr hwn a gafodd ei ladd yn mhwll Pendennis y dydd Sadwrn cyn hyny. Nid oedd y trangcedig yn briod. Yr oedd tua deg ar hugain mlwydd oed. Dych- welwyd rheithfarn o Farwolaeth ddam- weiniol." v MOUNTAIN ASH.-Hysbysirfod y frech goch yn ymledaenii gyda nerth dy- chrynllyd yn y lie hwn. Y mae eisoes wedi gwneud hafog ofnadwy yn mysg y dosbarth ieuengaf o'r trigolion. Dywedir nad oes diwrnod yn myned heibio heb fod dau neu dri o angladdau yn cymmer- yd lie. ELY, GER CAERDYDD.—Tra yn brysur gyda rhyw orchwyl yn melin flawd y lie nwn, aeth dillad genethig o forwyn, o'r enw Anne Edmunds, yn rhwym wrth un o'r gwerthydoedd. Taflwyd hi i lawr, yna tynwyd hi i mewn i'r peiriant, a gwasgwyd hi mewn modd arswydus. Uymmerwyd hi yn uniongyrchol i'r meddygdy; ond er pob ymgeledd, gan mor anuaele y niweidiau a gawsai, yn en- wedig i'w phen, bu farw ddydd Gwener cyn y diweddaf, yn ddwy flwydd ar bym- theg oed. ABERDAUGLEDDYF.—Hysbysir fod ys- beiliad nodedig o feiddgar wedi ei am- canu yn y lie hwn un o'r dyddiau di- weddaf. Tra yr oedd y Cadben Wood yn rhoddi gwledd ddanteithiol i'r dynion sydd yn ngwasanaeth cwmni y dociau newyddion, aeth lladron i mewn i'w westty, a chymmerasant emau Mrs Wood allan or gist haiarn yn mha un y cedwid hwy. Cyfrifid- fod eu gwerth tua phum' mil o bunnau. Yn ffodus, pa fodd bynag, aflonyddwyd ar yr ysbeilwyr tra ar ganol eu dyhirwch, a bu raid iddynt ddiangc gan adael y pethau gwerthfawr ar eu hoi. Gobeithiwh fod y drwgweithredwyr wedi eu dwyn i'r ddalfa,.a'u bod yn derbyn eu gwobr yn ngholeg y sir, Gl,YNNEPD.—Dydd lau cyn y diweddaf digwyddodd damwain ofidus yn y lIe uchod. Ar ol bod yn yfed mewn tafarn- dy, dychwelai dyn o'r enw Thomas Rees tua chartref, rhwng saith ac wyth o'r gloch yn yr hwyr. Wrth geisio myned ar draws llinell y ffordd haiarn, daeth y tren heibio gan ei daraw a'i ladd yn y fan. Yr oedd ei gorph wedi ei ddryllio mewn modd dychrynilyd. LLANELLI.-Boreu ddydd Sadwrn di- weddaf, pan yr oedd y tren hanner awr wedi wyth ar ei ffordd o Lanelli i Lanym- ddyfri, cymmerodd damwain le oddeutu hanner y ff-ordd rhwng yr orsaf a'r llong- borth, trwy i un o'r cerbydau redeg oddi- ar y liinell. Yn ffodus, arosodd y tren, ac mae yn dda genyf ddyweyd na dder- byniodd neb unrhyw niwed. BRYNMA.WR.—Yn llys yr heddgeidwaid ynrIle hwn, ddydd Llun, gwariodd y Meistri Powell a Savine y rhan fwyaf o'u hamser wrth wrando ar yr achos o ysbeil- iad ac ymosodiadau ar y ffordd fawr. Ymddcngys fod dyn o'r enw Richard Williams, haulier, wedi gwneuthur ymgais at ysbeilio Mr Evan Evans, Gilwern, o'i eiddo, ac wedi gwneuthur ymosodiad arno pan yr oedd yn ceisio'amddiffyn ei hun. Trosglwyddwyd y carcharor i sefyll ei brawf yn y brawdlys chwarterol nesaf. MERTHYR.—Cyhuddwyd un William Richards o fod yn ddyhyyn crwydrol, ac am gysgu allan, oherwydd nad oedd gan- ddo foddion i gadw ei hun. Daliodd Heddgeidwad Parry ef boreu ddydd Mer- cher diweddaf yn cysgu yn yr engine-house, Abernant. Cafodd y fraint o fyned i'r carchar am ddeg diwrnod. CAERDYDD.—Cafodd dyh o'r enw John Cooper ei ddwyn o flaen ei well o dan y cyhuddiad iddo ymdrechu cyflawnihunan- laddiad. Pan aeth y Prif Swyddog Ring i mewn i'w dy, cafodd ef yn hongian wrth raff gerfydd ei wddf wrth drawst yn y cefn. Mae y dyn hwn yn penderfynu cario allan ei amcan dinystriol. Rhyfedd i'r fath eithafion y mae y diodydd meddw- ol yn gyru rhai dynion. IEUAN AWST.
GWEDDILL GWEITHIAU CALEDFRYN.
GWEDDILL GWEITHIAU CALED- FRYN. FONEDDIGION,-Cyhoeddodd Caledfryn ei hun gyfres o'i weithiau flynyddoedd cyn ei farwolaeth, yn cynnwys ei holl awdlau, ei gywyddau, a'i englynion, y rhai ydynt oreuon yr iaith Gymraeg. Mae dau ohebydd o'r blaen wedi dyweud ychydig ar y matter dan sylw, sef Math- afarn" ac "Un o Feibion Mon." Yr ydwyf yn cydolygu ag Un 0 Feibion Mon y byddai yn werthfawr iawn cael golwg a'r ei draethodau a'i ddarlithiau, ac yn enwedig ei bregethau penigamp, y rhai oeddynt danllyd ac awenyddol dros ben, yn ei draddodiad ef ei hun o honynt. Ni chrybwyllodd yr un o'ch gohebwyr am gael allan ei feirniadaethau. Caledfryn y bardd mawr oedd, a Chaledfryn y pre- gethwr enwog, a Chaledfryn y darlitbiwr hyawdl. Ni fynai fod dim barddoniaeth mewn pryddest os darfu iddo ddyweyd "mai cruglwyth o eiriau chwyddedig bombastic," oedd pryddest y diweddar Eben Fardd ar yr Adgyfodiad. Fe wyr pob bardd a beirniad diragfarn am bryddest Yr Adgyfodiad, ei bod hi yn aruchel a mawreddog dros ben megys y gwnaeth y diweddar Creuddynfab sylw- adau beirniadol a manwl iawn arni. Credaf, Mri. Gol., y maddeuwch i mi am fyned gam o'r llwybr i nodi y man frych- au bychain oedd i'w gweled yn ffurfafen fawr ddisglaer Caledfryn. Drwg genyf ddeall fod yr oil o'r M.S.S. yn barod i'r wasg er cymmaint o amser—er's y flwyddyn 1869. Yr oedd i'r prif-fardd gyfeillion a honant iddo bobpeth yn ei ddydd. Gwalchmai oedd gyfaill ffyddlon iddo, ac wedi bod braidd yn gymmydog iddo-Caledfryn yn Llanrwst, a Gwalch- mai yn Nghonwy. Hwfa Mon hefyd Caledfryn oedd y cwbl yn ei ymgom bob amser, yn ormodol felly. A'r Annibyn- wyr oil o ran hyny. Yr oil o'r M.S.S. yn barod i'r wasg er 1869 Mae hyn yn gywilydd i enwad gwir barchus fel yr Annibynwyr; gwnaeth y diweddar brif- fardd Caledfryn lawer o les i'r enwad, pregethodd lawer trwy holl Gymru, a gwahanol barthau Lloegr. Pregethu 0 ddifrif y byddai ef, ac nid ryw hanner cysgu. Byddai rhyw ddylanwad mawryn wastad yn dilyn ei bregethau yr oedd yn meddu ar y fath hyawdledd nes y byddai yr annuwiolaf yn arswydo dan ei bregeth- au. Gobeithiaf y bydd i rai o enwad parchus yr Annibynwyr gymmeryd y M.S.S. o law Ab Caledfryn," hwy oedd bia'r bardd, a hwy o ran hyny bia'r holl brif-feirdd o Caledfryn hyd y dydd heddyw. IDWAL.
Y PUIF FARCHNADOEDD CYMREIG.
Y PUIF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERGELE, Medi 19.-Gwenith, o 14s 0 c i 15s Oc yr hob; haidd, 10s 6c i 12s 6cyr hob; ceirch, 9<1 Ooi 10s öc,yr hob; ila, Os Oe i Os Uc yr hob; blawd ceirch, 388 (jc 40s Oc y <240 pwys. ABEBYSTWXTH, Medi 12.-Gwenith, 6a 6c i 7s Od y mesur; haidd, 5s 6c i 68 Oc; ceirch, 4s 3c i 5s Oc y mesur; ymenya fires, 18c i 2Je y pwys; ymenyn hallt, 14c i 15e y pwys; ednod, 4s Uc i 58 Oc y cwpl pytatws, Os Oc i Os Uc y canpwys. BANGOR, Medi 18.-Gwenith, 42s Oc i 44a 0c y chwarter; haidd, 30s Oc i 3Ss Uc; ceirch, 23s Oc i 25s Oc Oiawd ceiica, 36s Oc i 37s Oc y 240 pwys; ymenyn fhelL a 18c i iy0 y pwys cig eidion, o 8c l JOc y pwys cig defaid, o go i 10c y pwys; eig lloi, o 7c i (;y pwys. (JAURJSAKFON, Medi 19.—Gwenith, o 41s Oc 44s 0c y chwarter haidd, 28,1 Oc i 32800 y chwarter ceirch, o 22s 6c i 24s Oe y chwarter; bia" d ceiich, o 37s Oc i 39s Oc y 240 pwys. CAERGYBI, Medi 19.—Ych gig, 7c i 10c y pwys; dafad gig, 8c i 10c y pwys llo gig, 7e i 8c. y pwys much gig, 7c y [Jwys; ymenyn Hies, lIe i 17c y pwys wyau, 7 am 6c cwniogod, He yr un, ieir, 21c i 22c yr UU cywioD, 12c i 15e F un; pytatws, 12 i 13 pwys am 6c moch bach, 12s i 17s yr un. DINBYCH, Medi 16.—Gwenith, 15s 00 i 16s Oe yr hob; haidd, 13s Oc.i 14s Oc yr hob ceircb, o 8s 6c i 9s 6c yrhob; ymenyn ffres, Is 7c i Is 8c y pwys-; tybiau bychain, Is 5ct i is 5c y pwys. LLANERCHYMEDD, Medi 16.—Gwenith, 49a 0c i 50s Oc y chwarter haidd, 36s Oc i 36s Oc y chwarter; ceirch, o '23s Oc i 24s Oc y chwarter blawd ceirch, 35s i 358 Oc y 240 pwys; pytatws, o 4s 6c i Os 0c y 100 pwys; ymenyu fires, Is 3c i Os Oc y pwys; cig eidion, o 1:1;: 9c y pwys cig defaid, 8e i 10c y pwys hams cartref goreu, o Os 1 Dc y pwys. LLANRWST, Medi 15.—Gwenith, 18s Oc i 19s Oo yr hob haidd, 12s Oc i 13s Oc yr hob; ceircb, o 9s Oc i lOsOc yrhob; blawd ceirch, 22s 6c i 23s Oc yr hob pytatws, 9s Oc i 9s Oc yr hob; yinenvu ffi-es, o Is Se i Is 9c y pwys; cig eidiou, 8c i 9c y pwys cig daiad, o 80 1 10c y pwys, rWLLHELI, Medi 9.-Haidd, 22s i OOs y 220 pwys ceirch, 38s blawd ceitch, Os y 240 pwys; Indrawn, 00s y chwarter cig eidion, 9c i 10c cig datad, 9c i 10c y pwys; ymenyn fires, o 15c i 16c y pwys; lkstri, (iop i OOc y pwys. LLANGEFNI, Medi 17.—Gweuith, 40s Oc i 43s Oc y chwarter; haidd, 36s Oc i 32s 00 y chwarter ceirch 22s 6c i 218 Oc y chwarter blawd ceirch, 36s Oc i rf8s Oc y 240 pwys pytatws, 4s 6c y 100 pwys ymenyn tires, Is 4c i Is 4c y pwys; cig eidiou, o 8c i 10c y pwys cig dafad, o 9c i 10c y pwys. Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan'y Percbenog, KENMUIB WHITWOETJI DOUGLAS, Argraffydd, &c., Heol Fawr, Banger,dydd Gweuer, Medi 25, 1874.
HIR A THODDAID
HIR A THODDAID A tyf ansoddwyd ar ol derbyn llytbyr oddiwrth Elidirfab. ■t ii rhoddi gwahoddiad i mi i Lanberis. Am roi gwahoddiad im' wr gwiw haeddol Ddod i'r Elidir, frodir hyfrydol, Nodaf ei chynnwys, deuaf i'w cbanol I urddas enwog ei gerddi swynol; I ardal ddedwydd, a.'r dolydd hudol, A'i manau'n seirian, pob munyn sirio], A fiuau'n benderfyiaol-rhodcli hynt; Ei doniau ydynt, ei beirdd deniadol. Medi 18, 187 4. OOWBMBD.