Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
.LLITH MR. PUNCH.
LLITH MR. PUNCH. FONEDDIGION,-Ar ol pythefnos o ddiogi, a sorri ar fy swydd iel gohebydd, dyma fi yn dechreu d'od "ataf fy hun," a hyny heb i chwi na neb arall ofyn i mi. 0 herwydd, rhwng cromfachau ielly, ni roddwn i ddim catiad o 'baco am yr hwn y rhaid ei gosi," a'i ddwbio gyda sebon meddal, ar ol digio o honoch ef. Na, rho'wch i mi ddyn a ddigio ac na phecho" ar ol digio, ac yna y mae rhyw siawns y gellir cael ychydig o'r Dyn yn hwnw. Hynyrna fei tippyn o apology, dros oedi cyhyd heb anfon llith. Bellach ni a awn yn mlaen i gofnodi y NEWYDDION PWYSICAF A DIWEDD- ARAF 0 BONTNEWYDD A MANAU EREILL. -Bu Mr Stephan mewn ymdrech a physg- odyn mawr, tuag wyth ugain o bwysau ond methodd ei ddal, er fod ganddo drwydded i hyny hefyd. Gwerthir "cig ffres yn y Bontnewydd bob dydd Sadwrn, trwy, y flwyddyn! Ac os nad eir i'w brynu ar "wîb ulw," nis geilir ei gael am bris yn y byd hyd y Sadwrn di- iynol, gan nad oes yma neb yn ei gynnyg ar werth, ond yn unig ar ddydd Sadwrn, fel pe byddai ei fwyttawyr oil yn ymprydio ar y rhan araii o'r wytnnos Mae B- Penlon yn dai i gario yn mlaen ei harfer- iad drwg o ymosod ar ei chymmydogion diniwed, am yr hyn nas gwyr neb ond y hi a'i hewythr o'r Ty Cynnes. Mae gwraig y yn cymmeryd arni ei bod yn myned i'w gwely yn gynnar bob nos, ond, yn lie hyny, yn arfer dirlodd y ganwyll, a myned i ffenestr ei hystafeil- wely, i wylio pawb el heibio yn hwyr, er mwyn cael testyn i "gleccian" ar bobi. Mae y "N. W. N, G. Railway" wedi cychwyn o'r diwedd, ond ofnir y bydd iddynt sefyll etto cyn cyraedd i Fedd- gelert. Mae Barcut Rhostryfan wedi myned yn ddall bost, oddiwrth y dychryn- dod a gafodd yn mis Awst, pan gollodd ei ysglyfaeth yn ymyl yma. Ofnir am ei adferiad i'w swydd. Ond credir y bydd iddo gael y swydd o werthu yr H- C- ar heolydd tref Caernarfon, yn lie y gwrth- odedig, Thomas Jones, aruan! Mae lVloelwynfab yn dechreu gloewi ei "ffidil" tuag at fyned i'w chwareu yn Eisteddfod Pwlllieli yn 1875. Mae Gwas Mr Punch yn debyg o gael pwdin i'w ginio y N adolig nesaf, gan ei fod wedi myned yn ffrind a phawb yma, oherwydd ei wasanaeth gwerthfawr i'r trigolion. Mae rhai o drigolion Mon, "iviain Cymru," wedi diystyru y gwaharddiad hwnw-" Ña theflwch eich gemau o flaen y moch," a'r canlyniad fu i'r moch gyflawni y bygyth- y iad sy'n dilyn hyny, sef eu sathru dan eu traed," a "throi a rhwygo yr esgeuluswyr. Mae cyfiawnder yn gwaeddi ar rai o berchenogion anifeiliaid yn y gymmydog- aeth hon, cedwch eich anifeiiiaid rheibus gartref, ac na adewch iddynt fyned i feusydd a gerddi eich cymmydogion i ddinystrio eu cynnyrch." Bu R— J- yn eistedd ar frigyn coeden i wylio y pysgod yn yr afon islaw; ac erbyn iddo ddyfod i lawr tua chymmydogaeth bon y goeden, pwy oedd yno ond Mr Stewart, y ceidwad, yn eistedd ar gangen o'r un pren, yn eu wylio yntau Anfonir llythyrau dienw at bersonau cyhoeddus, yn yr ardal hon, oddiwrth bersonau diegwyddor, er mwyn ceisio pysgotta galwadau," er cael arian i'w llogellau, a hyny ar draul darostwng cymmeriadau y rhai nad ydynt yn holloi glir oddiwrth y pechod o bysgotta pysgod mawr heb drwydded. Hefyd, gwneir twrf yn nghylch pysgodyn mawr" a fu yn iodgio mewn perllan afalau am un noson, er's amser maith, ond sydd erbyn hyn wedi ei hen dreulio (digested) yn ngrhombil 19 rhywun neu rywrai; ac am hyny i ba ddyben yr ant i faeddu baw" yn ei gyich, bellach Y mae hyny mor afres- ymol ag ydoedd dywediad "Wil Fron- heulog," er's talm, yr hwn, pan yn cerdd- ed gyda glan yr afon, yn nghwmni y rhai oeddynt yn hoff o bysgotta, a waeddai, duar anwyl! fuo dest i mi weled pysg- odyn mawr gynddeiriog yr wan!" Mae yr hen felinydd wedi "cyfansoddi" englyn i bont newydd Mr J. Ll. Jones. Dodwn ef yn y llith, gan fawr obeithio na bydd i'r Archfardd godi cynhwrf oblegid fod ynddo efelychiad o'i arddull ef 0 farddoni." Dyma fo PcDtioewydd'splenydd yw hon—i gario ltbyw gewri tips afon, Llirxhod y weilgi fel milgi, Odd'ytoa i'r mor heli! RHEN FELINYDD." "Y BYD YN ERBYN Y Gwir, TRA- MOR TRA- BR.YTHON/' &c.—Bydded hysbys i bobol 'Lloegr, Cymru, Llanrwst, ac Ynys Enlli, y cynnelir eisteddfod fawr- eddog a brexihinol yn Llanbidynodyn, pan fo'r haul yn Haw natur, a'r stingy wedi ei newid ei standing, pryd y cyfrwyir y rhai salaf ar y testynau canlynol: — 1. Atbrod, ar helyntion boreu oes y dyn hwnw na chlywodd neb erioed son am ei gyffelyb. Gwobr, tair ffiolaid o gnau Ffraingc, a phwys o flacking. 2. Awdl Farwnad er coiiadwriaeth am y diweddar Miss Liberal, yr hon a fu farw o'r decline, ac a gladdwyd yn meddrod ei phriod Mr Humbug. Gwobr, Tanki," a blychaid o'r addewidion goreu erioed, y rhai a roddir gan ei charedigion sy'n galaru ar ei hoi! 3. Tri englyn (talcen sgwar) i'r creadur 1 rhyddfryc-tig hwnw" sydd yn amcanu myned yn "fawr," ar draul rhwbio a dwbio gwynebau ei ffrindiau a sebon meddal, a'u sychu gyda thowal wedi ei wau o'r hyn a elwir ffilsyn ffalsach," a hunan-les. Gwobr, nothing at all. 4. Can ddesgrifiadol o'r helyntion hyny fyddont yn destyn ymddiddan'gwragedd wrth yfed te, ynte ?" Gwobr, footless stocking ivithout a leg, b.y., ",Dim byd," yn ol R. S. P. Cyhoeddir y gweddill o'r testynan ar ol i'r eisteddfod fyned heibio, pryd y ceir hysbysrwydd pwy fydd y beirn- iaid, &c. JOHN SIR GAERNARFON JONES, (0004) Ysg. Mwgwdol. Wel, rhaid terfynu y llith. Dyma dwrw Dalydd yn dyfod i lawr yr allt oddiwrth Llanwnda, ac efe a fydd heibio yma yn chwap gyda hyn, a gwae i ni os byddwn hanner eiliad ar ol yr amser iddo ef gael gafael yn y bag, canys efe a'i melltena gyda chyflymdra o tua dwy filldir yr awr oddiyma i Gaernarfon, yr hyn sy'n ei wneud yn ddychryn i'r holl gymmydog- aeth Ac, wrth gwrs, rhaid i bawb roddi darn go dda o'r ffordd iddo, onide efe a faluria y cyfan yn grybibion ulw! Cofiwch fi at dd—1 y w-g, a dy- wedwch wrtho am fod yn ofalus wrth gylchio y llith bresennol, rhag ofn iddo ei chracio a cholli y nocld (meddwl) sydd ynddi; ac efe a gaiff Christmas box genym. GWAS MR PUNCH. O.Y.—Ar ol anfon ein llith ddiweddaf, daeth "telegram" attorn o D. T. yn hys- bysu fod "Yr Hen Gorph" wedi esgeu- luso cyflawni ei ddyledswydd a'i addewid o fyned i dy tlawd i gadw wylnos," lie yr oedd plentyn wedi marw. Dywedir mai yr achlysur o'r oediad ydoedd fod y brethyn llawr (floor-cloth) wedi ei godi. Hefyd, hysbysir fod y gweinidog wedi peidio myned yno i godi'r corph." Os yw yr uchod yn ffaith, gwrided Shoiz.- Ynfydion-o bob dosbarth a berthyn i'r hil ddynol, dyma y dosbarth anhawddaf ei oddef mewn cymdeithas. Daethom i gyfarfyddiad ag un o'r cyfryw yn ddi- weddar mewn ty cyhoeddus yn y gym- mydogaeth lie yr ydym yn trigo. Ac, ar 01 bod yn ei gwmni am tua dau funyd. deallasom i ba ddosbarth y perthynai, a'i fod newydd gael ei daraw y tu ol i'w ganolbwynt a dyrnaid o soig neu, mewn geiriau ereill, wedi cael smell fach o'r ddiod frag, yr hyn oedd wedi naturioli yr olwg arno i'r fath raddau nes ydoedd efe yn edrych yn hollol fel efe ei hun—yn ynfyd Ond os oedd yr olwg arno yn ynfyd yr oedd ei ymadroddion yn profi ei fod felly mewn gwirionedd, "canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau." Ond nid awn i ail adrodd ei chwedlau di- flas. Digon yw dyweyd mai ei unig am- can ydoedd ceisio dyrchafu ei hun ar draul darostwng ereill. Ymffrostiai lawer yn ei Saesneg; ond yr oedd ei holl eng- reifftiau o'i allu i siarad Saesneg yn profi ar unwaith mai ymffrost wag ydoedd, canys yr oedd yn rhoddi ei droed ynddi bron bob yn ail gair A phan ofynwyd iddo dewi a gwneud swn drwg felly, yn nghlyw pobl, gwrthodai, ac ed- liwiai nad oedd yno neb yn deall Saesneg yn well nag ef! Hefyd, ymffrostiai ei fod yn llenor a bardd, ac mai ei enw barddonol ydoedd Dwl-ynfyd Langc o Lanfair;" ac, yn wir, i'n tyb ni, efe a ddewisodd enw pur briodol am dano ei hun, canys cafwyd allan y tro hwn ei fod yn cyfatteb yn hollol i'r ddau ansoddair sydd yn yr enw, sef "dwl" ac ynfyd," beth bynag am y rhan ddiweddaf o'r enw. Efe ei hun a wyr pa un ai llangc o Lan- fair ydyw, ai ynte rhywbeth arall oddi- yno. Ac wrth feddwl am dano daeth y llinellau canlynol i'n meddwl If Dwl-ynfyd langc o Lanfa'r Sy'n waeth ei swn na begar Ar ol cael smell o'r ddiod gref Fe wna l'hyw lef aflafar Pan bydd o mewn cwmpeitii, Uwchben y pot a'r bieci, Mae am i bawb o fewn y lie Ei 'styried e' a'istoii. Er iddo fod mor benwan Ag adrodd stori drwstan All neb woeud cynlibn mwy na phen 0 honi, o'i ben o'i hunan Wei, bydded iddo weithiau Ymdrechu ciu ei boprau A pheidio bod (tel nod i saetb), Yn waeth nay ef ei hunan. GWAS MR. PUNCH.
TAN TANDDAEAROL YN SHEFFIELD.
TAN TANDDAEAROL YN SHEF- FIELD. Hysbysir fod tan tanddaearol wedi tori allan mewn dwy o heolydd yn Sheffield, a bod yr heolydd a thuag accer o dir cyf- agos yn un goelcerth o fflamau yn mud- gynneu. Ymddengys fod rhai o'r ffyrdd newyddion yn cael eu gwneud gydag ysbwrial o'r ffwrneisiau bron yn chwil- boeth, a'r canlyniad ydoedd iddo droi allan yn fflamau, pa rai ydynt etto heb eu diffoddi. Ymdrechwyd eu diffoddi drwy dywallt dwfr ar yr oddaith, ond llyngcid yr oil i tyny, gan droi yn dawch poeth dros y fan. Yn ffodus nid oes neb hyd yn hyn wedi derbyn unrhyw niwed.
EISTEDDFOD LLANDYSSUL.
EISTEDDFOD LLANDYSSUL. Ni fu yn Llandyssul eisteddfod o'r bIaen ers mwy nag ugain mlynedd, ac ni fydd hiraeth ar neb, allwn feddwl, am weled un yma etto am bymtheng mlynedd arall, os na fydd rhyw argoelion am iddi gael ei chario allan dippyn, ie, getyn hefyd, yn fwy trefnus a rheolaidd na'r un ddiweddaf. Yr oedd yr eisteddfod hon yn hollol yn nghrafangau y Bedyddwyr, a bydd yr elw etto yn myned at yr achos, fel y dywedir; hyny yw, i droi rhod ddwr y Bedyddwyr yn y lie. Cymmerwyd y gadair gan Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, Bronwydd, ac yr oedd yn ymddangos i mi yno fel pysgodyn ar dir sych. Nid rhyfedd hyny ychwaith, pan yr ystyriom fod y fath gruglwyth o annibendod fei looking-glass o'i flaen. Yr oedd "edrych yn y drych hwn dro yn ddigon i yru y barwnig o'r Bronwydd i ystad neu ffit o ddiflasdod. Yr oedd tocynau tri swllt, dau swllt, a swllt, ac felly gellid disgwyl fod gwahan- iaeth cyfattebol o fewn y babell ond, yn lie hyn, yr oedd petliau yma blith-dra- phlith bendramwnwgl, ie, dibyn-dobyn, fel y dywedir—perchenog y tocyn swllt yn eistedd wrth ei fodd ar eisteddle y tocyn tri swllt, a pherchenog yr un tri swllt yn fynych yn gorfod sefyll ar ungoes fel plentyn anufudd yn yr ysgol gynt, heb Ie i roddi y llall i lawr, a chael ei wthio yn ddidrngaredd o fan i fan, pob un ar ei eitliaf yn gwthio ei hun i'r sedd flaenaf, a neb yn ei rwystro. Hynod iawn na fuasai y pwyllgor wedi gosod rhyw ffin rhwng y naill ddosbarth a'r llall. Dechreuwyd ar y program am y dydd Z, am hanner awr wedi unarddeg, a buwyd yno tan chwech o'r gloch yn y prydnawn, heb damaid na llymaid. Yr oedd beirn- iaid y canu yn achwyn yn dost ar y drin- iaeth ymprydiol; nid heb achos. Nid wyf yn cofio gweled eisteddfod o'r blaen mewn pabell gyhoeddus yn amddi- fad o hen arwydd-eiriau Cymreig. Nid oedd yma yr un faner, oddigerth yr un oedd o flaen y twlc lie y gwerthid y tocyn- au, ar yr hon y gwelid y geiriau Tickets sold here." Ennillwyd gwobrwyon am draethodau gan IVIri D. Davies, Clynmelyn, Pencader Daron Jones, Llundain; a'r Parch. Davies, gweinidog y Bedyddwyr, L.lan- dyssul; ac am farddoniaeth gan Dewi Hefin, Llanwnen; Daron Jones, a Cariv Cynon. Ennillwyd ar y prif ddarnau corawl gan gorau Bargod Teifi, a Llan- dyssul. Arweinid y ddau gor hyn gan Mr D. Peters a Mr Evans. Cynhaliwyd cyngherdd yn yr hwyr, a chymmerwyd rhan ynddo gan Mr C. Vidior Harding, Caerfyrddin; Gwilym Cynon, Llinos y De, Eos Owendraeth, Eos Emlyn, &c. Gorphenwyd am tua deg o'r gloch. Wrth edrych ar y rhestr uchod, nis gellir pasio heibio yn ddisylii- enwau Mr Daron Jones a'r Parch. Davies, y rhai oedd- ynt yn aelodau o'r pwyllgor, ac yn dewis y testynau ar y dechreu ac yh derbyn y gwobrwyon yn y diwedd. Nid oes achos ymhelaethu ar hyn, oblegid fe wel pob dyn bedyddiol yr. afresymoldeb o'r fath gamwri. Beirniadwyd y traethodau a'r farddoniaeth gan y Parchedigion canlyn- ol: -William Thomas, M.A., T. James, M.A., T. Williams, a J. R. Morgan (Lleurwg). Fel hyn, terfynwyd un o'r eisteddfodau mwyaf annhrefnus ag a gyn- nbaliwyd ar dir sych erioed. Yr oedd yr elw yn myned at gapel Ebenezer, Llan- dyssul. MORGAN JONES.
YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM.
YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM. Ers rhai nosweithiau yn ol y mae cyn- nhyrfiadau afreolus wedi bod yn Salisbury Park, Gwrecsam, mewn canlyniad i chwedl a daenid am ymddangosiad ys- bryd." Yr oedd sibrwd fod yr "ysbryd yn gwneud ei ymddangosiad yn nosawl, a'i fod yn llamu dros y cloddiau gyda chwimrwydd i-i-iyfcddo.1, Mewn canlyniad i'r chwedl hon ymgasglai y dosbarth isaf o'r trigolion gerllaw y lie bob nos, gan aflonyddu pawb a aethent heibio, ac ar brydiau ymosod arnynt yn greulawn. Nos Sadwrn terfynodd prangciau y dyhirod hyn drwy ymosodiad annyuol a wnaeth- ant ar ddyeithrddyn. Digwyddai gwneuth- urwyr berwedyddion o Brymbo fyned heibio'r fan yn fuan wedi nos, a chodwyd dolef mai efe ydoedd yr ysbryd." De- chreuwyd annos own atto, a bu agos iddo gael ei dynu aelod oddiwrth aelod ond yn ffodus cyrhaeddodd yr heddgeidwaid, a a llwyddasant i'w achub yn amserol. Pen- derfynodd yr ynadon ar fod i wysiadau gael eu dwyn allan yn erbyn arweinwyr y cythrwfl.
[No title]
-T- YR ARTH A'r LLWYNOG.—Yr oedd arth yn arfer ymffrostio o gariad mawr at ddyn, gan ddywedyd na ddarfu iddi erioed larpio neu ddarnio dyn wedi iddo farw. Sylwai y llwynog, gyda gwen, Buaswn yn meddwl mwy o'ch proffes o gariad pe na rwygech efbyth pan yn fyw."—Yr Addysg: —Gwell cadw dyn rhag marw, na'i eneinio ef wedi iddo f,,trw.-Ultivecilait, ,Esop, gan Glan Alun.
LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN…
LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN LLUNDAIN. Mewn cymmydogaeth isel'a adnabyddir fel Francis-row, Llundain, cyflawnwyd cyflafan arswydus foreu Sul diweddaf. Yr oedd dyn a dynes o'r enwau William Bishop a Mary Anne Ford yn cyd fyw ers tua phum mlynedd, ac yn fynych yn ymrafaelio a'u gilydd. Wedi ymfeddwi ohonynt nos Sadwrn, cyrhaeddasant eu Hetty yn gynar foreu Sul, pryd y cymmer- odd ymrafael le yn nghylch swm p arian, yr hyn a arweiniodd i ymladdfa ffyrnig rhwng y ddau. Rhedodd y ddynes am nawdd i dy cyfagos, ônd daeth Bishop ar ei hoi, llusgodd hi allan, a baeddodd hi yn arswydus. Wedi cyrhaedd ohonynt drachefn i'r lletty adferwyd distawrwydd, ac ni chlybywyd mwy yn eu cylch hyd tua chwech o'r gloch foreu Sul, pan aeth Bishop, gan dybio fod rhywbeth o'i le gydai gydymaith, i chwilio am chwaer iddi. Wedi i bobl ereill a lettyent yn yr un ty ddyfod i mewn gyda meddyg, yr oedd y druanes yn gwbl farw, ac yn ol pob tebygoltwydd wedi trengu ers rhai oriau. Ni cheisiodd Bishop ddiangc, ond rhoddodd ei hun i fyny yn dawel i'r hedd- geidwaid, a chymmerwyd ef i'r carchar, lie y cyhuddwyd ef o lofruddio y drangc- edig.
LLOFFION CYMREIG.
LLOFFION CYMREIG. Leolinus, ceffyl perthynol i Syr Richard Bulkeley, ydoedd yr ail yn rhedegfeydd St. Leger yr wythnos ddiweddaf. Gofidia trigolion Conwy a'r amgylch- oedd oherwydd y dull yn mha un y barn- odd pwyllgor eisteddfodol Pwllheli yn ddoetii ymddwyn at y telerau ar ba rai yr amcenid gochel ymraniad, ac y mae eu sel eisteddfodol wedi ei ailenyn i'r pwynt uchaf. Bwriedir cynnal cyfarfod pwysig ar y pwngc yn Nghonwy ddydd Sadwrn. 0 Cwympodd mwnwr o'r enw Robert Roberts i ddyfnder o ddeg-ar-hugain o llatheni, yn mwnglawdd Talargoch, a der- byniodd y fath niweidiau fel y bu farw yn ebrwydd. Hysbysir am suddiad y llestr Virtue, perthynol i Mr Owen, Caergybi, tra ar ei mordaith gyda llwyth o halen o Gloucester i Truro. Achubwyd y dwylaw gan bysgod- long, a glaniwyd hwy yn Bridgewater. Fel yr oedd Dr. Roberts, Penygroes, yn gyru ei gerbyd adref, dychrynodd y march a throdcl yn holloi aflywodraethus, fel mai diangfa gyfyng a gafodd y meddyg rhag 0 angeu. Y dydd o'r blaen cododd Mr G. Powell, Gladstone Terrace, Wyddgrug, bedair o bytatws, perthynol i un gwlyddyn, yn pwyso ar gyfartaledd bwys a chwarter yr un. Cynnygiwyd dwy o brif chwarelau Dyiiryn Nantlle, y Taldrws a'r Croesor, ar werth yn Manchester yr wythnos ddi- weddaf, ond ni chafwyd cymmaint ag un cynnygiad am danynt. Penderfynodcl pwyllgor Eisteddfod New- port adeiladu cofgoLofnau heirdd er coff. adwriaeth am y tri llenor adnabyddus, y Parch. D. Rees Stephens, loan Emlyn, a Nefydd. Cyfiawnir y gwaith gan Mr A. H. James, cerflunydd, Newport. Tra yr oedd hen wr yn croesi y rheil- ft'ordd ger Aberdar yr wythnos ddiweddaf tarawyd ef i lawr gan yr agerbeiriant, a lladdwyd ef yn y fan. Cymmerodd y seremoni ddyddorol o orseddu Esgob newydd Ty Ddewi le ddydd Mawrth, yr wythnos diweddaf, yn ngwydd- fod cynnulleidfa yn rhifo tua mil o ber- sonau. Hysbysir fod y cnwd pytatws yn anar- ferol o doreithog yn Ynys Mon eleni. Enilhvyd amryw wobrwyon pwysig yn arddangosfa amaethyddol Manchester a Lerpwl, yr wythnos o'r blaen, gan am- aetliwyr Cymreig. Annerchodd Mr Henry Richard gyfarfod cyhoeddus yn Geneva ar ddiddymiad riiyfel. Mr Perkins ydoedd y barnwr dirprwyol yn llys manddyledion Conwy ddydd lau, a'r prif gynghaws ydoedd yr un a ddygai William 8ultth, lapidary, Llandudno, yn erbyn y Band (Jommittec. Dyfarnwyd i'r erlynydd y swm o 35p. o iawn, yn cynnwys y costau. Cwympodd AVilliam Williams, Tanyr- hwylfa, Penmaenmawr, o ben tas yd, a. derbyniodd y fath niweidiau fel y trengodd yn mhen ychydig ddyddiau. Ar y cyhuddiad o ladratta mewn mas- nachdy yn Nhrefriw, traddodwyrd un Maria Evans i sefyll ei pbrawf yn y brawdlys nesaf. Cynnaliwyd dim llai nn, phedwar treng- holiad yn Rhosymedre yr un diwrnod, ac y mae amledd damweiniau angeuol yn y gymmydogaeth yn arswydus. ]- Dywedai goliebydd fod Temlwyr Da Peiiihyndeudraethyn gweithio yn rhagorol ar gyfer y gymmanfa duirwestol sydd i'w chynnal yno yr wythnos nesaf. Gwelwyd un o'r aelodau mwyaf selog yn "rowlio n barilau o gwrw at un o dafainau y lie yr wythnos ddiweddaf.