Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
-Y BWTHYN GER Y LLI\I
Y BWTHYN GER Y LLI\ Dyddian mQbyd heda-nt heihio- Golygfeydd hen amser gynt;— Fel breuddwydion maent yn hofran, A diflann ar eu hynt. Dyddian oeddynt heb ofldiau, Tra fy nghalon lawen i A groeBawaïr dydd dilynol, Yn y bwthyn, y bwthyn ger y 111'. TyhiatweJed bloden tlysion Gylch y drws is aw y bryn, Ae islavr- mae'r draethell feellan Lie y <&sglai6 gregin gwyn; Tybiaf gjywed mam yn sibrwd AnWll blentyn ydwyt ti!" 01 rwy'n teimlo bire'm bywyd Yn y bwthyn, y bwthyn ger y lli', Beth, os treiglodd amser droswyf— Henaint ddaeth— fy mhen sy' wyn; Ni bydl i mi byth anghofio F'anwyl lanerch tan y bryn; 'A phan ddaw fy anadl olaf, Pan ymadael raid i mi, Fy nytnuniad yw cael huno Yn y bwthyn, y bwthyn ger y lli'. HYWEL LT.WYD.
" HENDEB Y LLYTHYEEIT."
HENDEB Y LLYTHYEEIT." >• GAN Y PARCH. L. MEREDITH. Yr oedd Paul, drwy y blynyddoedd, tredi gweled a chlywed cymaint o drafod ar yr un hen fater sych, moel, diffrwyth, a di-nodd, yn mhlith yr Iuddewon Pharise- aidd a gwrtligiliedig, nes yr ydoedd wedi laru yn llwyr arno. Nid rhyfedd gan hyny ei fod yn anog y dychweledigion at Grist- ionogaeth i "wasanaethu mewn newydd-deb buchedd, ac nid yn hender y Uythypen." Daeth y fraich ddiweddaf lion o'r fraw- ddeg ar draws fy meddwl gyda grym rhyf- eddol wrth ddarllen ysgrif R. L. HERBERT ar II Bynciau y dydd," yn y DRYCH am Tach. 11. Henffych well meddwn, cawn rywbeth newydd y tro hwn bethbynag; ac mewn gwirionedd, felly fu am ran o'r ys- grif; ond yn anffodus, methodd a dal i'r diwedd. Mae ysgrif-bin y brawd fel ceffyl a yrir ar hyd ffordd a ruts dyfnion iddi- wrth gyraedd bon ei glustiau a'r ffrewyll, a thynu yn yr awen yn lied rymus, fe wna ymdrech am fynyd neu ddau i adae] y rut; ond cyn teithio nemawr bellder, mae'r ol- wynion yn eu holau drachefn, a'r hen geff- yl yn ei lwybr arferol rhyngddynt. Madd- euer i mi am ryw gydmariaeth anfarddonol fel hon, tra Vyuuwjf yn ychwanegu gair etc o eglurhad ami. Nid ar y ceffyl y mae y bai. Cyfrmftcli y drafferth yw, fod y teithiwr sydd yn gyru yr anifail yn teithio ffordd breifat, yn lie yr heol a'r brif-ffordd a gedwir mewn cywair gan yr awdurdodau cyhoeddus. Cyngorwn Mr. H. i wneyd scrap-book o'r holl êrttlyglau a anfonodd i'r DRYCH am y deg neu ddeuddeg mlynedd diweddaf, ac yna, edrych drostynt cyn ys- grifenu drachefn. Nid peth boneddigaidd yw dal ati i ysgrifenu yr un peth drosodd a throsodd, a gorfodi y darllenwyr i fwyta potes eildwym" o hyd, o hyd. Y mae hyny yn rhy debyg i'r hyn a syrthiodd i ran yr ysgol-feistr dyddiol, pan y cafodd gig yr hen geiliogwydd o'i flaen gynifer o weithiau. O'r diwedd, wedi i'w amynedd redeg i'r pen, dyma fo, ar archiad y wraig dda ar iddo "ofynbendith," yn teimlo yn ddigon blin i dori allan fel hyn: Gander young and gander old, Gander warm and gander cold; Gander tender, gander tough, Of gander. Lord, we've had enoughl" Fel prawf mai 14 yr un gan a gan y Gog" "Cog" Mr. H*—drwy y blynyddoedd, dyfynaf frawddeg neu ddwy o'i lythyr di- weddaf: Nid ymrwymo am eu hoes i beidio dysgu dim ond yr hen gredoau," &c. Nid beth a ddywed rhai o'r hen dduwiii- yddion," &c., ond beth a ddywed yr Ar- glwydd"—" Swnio yr hen Shibbolaethau gynt," &c. Yn awr, olygyddion, gadewch i mi ofyn yn onest a difrifol, pa gynifer o weithiau yn ehwaneg yr ydych am orfodi y cysodydd i bigo ei lythyrenau o gynifer o wahanol gonglau i roi argraffiad i syniadau fel yr uchod? Da chwi, cymerwch dru- garedd ar fysedd y creadur, drwy eu hys- trydebu (y llythyrenau-nid y bysedd), a'u cadw ar law yn barod, os rhaid eu cyhoeddi yn ddiddiwedd. 0 berthynas i'r "DOCTOR" DUDLEY, ymddengys nad yw Mr. H. wedi cadw trywydd o hono. Mae'n debyg mai J. L. Dudley yw un o'r tri o weinidogion Cyn- ulleidfaol yn ninas Milwaukee," y cyfeiria atynt. Wn i ddim pa un a yw Mr. D. yno yitj&wr ai peidio—ynddiweddary dychwel odd, os v. Ond gwn hyn, i'r gwr hwn roi prawf ar y theory benrhydd yma sydd yn 1^'by dragywyddol gan Mr. H.; ac fe dda^ddd y prawf yn gyffelyb, ar gynllun eangaA, ag y daliodd yr un ddamcaniaeth yn Marion, Iowa, ond yn llawer hwy nag y daliffid yno. Sefydlwyd Mr. Dudley yn I fugail ar eglwys luosog. gyfoethog a dylan- wadol y "Plymouth Congregational" yn Milwaukee. Ymddengys fel pe buasai Rhagluniaeth ddwyfol wedi penderfynu rlioddi chwareu teg am unwaith i'r pen- rhyddid crefyddol ac athrawiaethol hwn, y cenir ei "ding dong" ddiddarfod gan Her- bert, i gael cyfle llawn i redeg gyrfa llwydd- iant, os oedd llwyddiant yn bosibl iddo.- Penderfynodd gweinidog talentog, athry- lithgar y Plymouth Congregational Church i ddryllio pob rhwymau, a thaflu pob rlieff- ynau oddiwrtho. Ymaith a'r hen gre- doau," meddai. Ceir clywed swn gwahan- ol i'r "hen Shibbolaethau gynt" o bwlpud Plymouth Church. Daeth yn fwy pen- rhydd y naill fis a blwyddyn ar ol y llall, nes o'r diwedd i'r fath bregethu fyned yn ormod i'w ddioddef. Cododd calonau y bobl i fyny mewn gwrthryfel pan wel- sant hyd yn nod dalent ac athrylith yn defftyddio esgynlawr cysegredig y pwlpud i faeddu a gwawdio arch Duw. Daeth gyrfa Dudley, druan, i'r pen yno. Mae eg- lwy& Plymouth wedi laru ar eilunod, ac yn dyfod yn ol at ei chariad cyntaf. Gwers fel yna^yw yr un a ddysgir gan hanes y "Doctor" Dudley. Cymered bugail. y dd^adell gymysg yn Geneva addysg. Da $TOj'f m^ -n-kl-dead^ll o Gymry ydynt. Br cymaint o bregethu ar y pwnc penrhyddid" y mae Mr. H. wedi ei wneyd trwy y DRYCH ar hyd y blynyddoedd, ac er cynifer sydd wedi llyncu gwenwyn dan rith ei beleni siwgr, nid yw yr effaith niweidiol mor enng, wedi'r cwbl, ag y gallasai fod. Gall- ai gardota drwy holl America benbaladr am eglwys a chynulleidfa Gymreig o'r un lliw ag ef eihun,a methu ei chael. Mae hyn o effaith, ar ei plien ei hun, yn ddigon i gynhyrfu carwyr athrawiaeth iachus,mewn gorhoen ddiolchgar, i roi adgyfodiad new- ydd i'r hen floedd Gymreig, "Bendigedig." Er cymaint o BERCH PROFFESEDIG AT Y BEIBL a ddelir gan Mr. H., mae wedi llwyr ang- hofio yr hyn a ddysgir yn y Beibl wrth wasgu am "ymdrech i fyw yn dduwiol" fel safon cymeriad. Yr hyn a ddywed y LLYFR yw hyn—" Y cyfiawn a fydd byw TRWY EI FFYDD." Nid heb ei gred-heb ei ffydd-ond trwy ei ffydd." Gall fod yn sicr hefyd nad yw rhyw dramatic perform- ance o gofleidio y Beibl yn gyhoeddus, a'i alw yr "Hen Lyfr bendigedig," &c., yn cuddio dim ar effeithiau dinystriol blyn- yddoedd o ymdrMh i ddirmygu ffydd y bob] yn nwyfol ysbrydoliaeth "Gair yr Ar- glwydd." Ni a drown oddiwrth ddyn at Dduw- "Fel hyn y dywed yr Arglwydd: Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynwch am yr hen lwybrau lie mae ffordd dda, a rhod- iwchynddi." "Ie," medd Paul, "yr hyn- afgwr," wrth Timotheus: "Fy mab anwyl, aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ym- ddiriedwyd iti am danynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; ac i ti er yn fachgen wy- bod yr Ysgrythyr lan, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy y ffydd yn Nghrist Iesu. YR HOLL Ys- GRYTHYR sydd wedi ei rhoddi gan Ysbrydol- iaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder." Sterling, Ill. LEWYS GLYN DYFI.
[No title]
-Cyffesodd Charles Heald, clerc i Cochrane, McLean & Co., New York, ei fod wedi dladrata$30,000, yr amser a aeth heibio. —Dedfryd Thomas Dully yn New York yr wythnos ddiweddaf, am ymosod yn Ilof- ruddiog am heddgeidwad, oedd deng mlyn- edd yn Mhenydfa y Dalaeth. —Wythnos i'r Sadwrn diweddaf, saeth- odd Orrin Marshall ei wraig i farwolaeth yn Stoughton, Mass.; ac wedi ei gaethiwo yn y carchar, llwyddodd i ddianc nos Fawrth ganlynol. Deuwyd o hyd iddo dranoeth mewn ystafell yn Rhif. 82 Pleas- ant St. wedi cyflawni hunan-laddiad.
YR ANRH. HENRY WILSON.
YR ANRH. HENRY WILSON. Cofnodasom yn y rhifyn rljweddaf hanes marwolaetli y gwron nodedig Henry Wil- son, Is-arlywydd y Talaethau Unedig, yn 63 mlwydd oed. Alae yi- arwydd o alar ar ei ol yn gyff redinol drwy y wIail, yn mhlith pob plaid. Bu yn ffyddlonyn ei ddydd dros annibyniaeth a rhyddid. Llafuriodd yn galed dros ryddhad y caethion, a chaf- odd weled cwblhad ei ddj mu»jad. Ganwyd Henry Wilson (ovefror 16eg, 1812, yn ngwersyll y "Sipsi^s," ar fin y ffordd ger Farmington, Nejt. Hampshire, a'i enw gwreiddiol oedd Jerry Colbath; ond wedi irldo syrund i Massachusetts mab- wysiadoild yr enw Henry Wilson. Pan yn wyth oed cymerwyd ef glfh ffarmwr yn y gymydogaeth, fel breintwas, am un mlynedd ar ddeg, i ddysgu amaethydd- iaeth. Yr oedd ei feistF yn ddyn addfwyn ac elusengar, ac anfonodd y bachgen ieu- anc, oedd yn gweithio yn galed, i'r ysgol ar adegau nad oeddynt yn brysur gyda llafurio y tir, ac yn fuao. dadblygwyd chwaeth darllen ac efrydu yn y bachgen ieuanc. Yr oedd yn sychedu am wybod- aeth, yr hyn a ddylanwadodd ar gyfreith- iwr yn y lie i roddi gwasanaeth ei lyfrfa helaeth iddo. Dyma lie y dechreuodd feithrin yr hyn a ddaeth mewn blynydd- oedd diweddarach yn gynauaf toreithiog o wybodaeth addfed. Dywedodd droion yn ystod ei fywyd, ei fod yn credu yn sicr iddo ddarllen yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu yno, dros gant o gyfrolau bob blwyddyn. Erbyn ei fod yn un ar hugain oed yr oedd wedi dyhysbyddu yr holl lyfr- au yn y llyfrfa. Daeth amser ei brentis- iaeth i fyny, a plienderfynodd ymadael a Farmington, er mwyn cael gweled mwy o'r byd; ac wedi rhoddi ychydig ddillad a nifer o lyfrau yn nghyd, tafiodd y pecyn dros ei ysgwydd a cherddodd yn heinif i Natick, Massachusetts. Wedi edrych oddi amgylch yno, daeth i'r penderfyniad o gyflogi i ddysgu a gweithio gwaith crydd, a dal at y gwaith hwnw hyd nes yr enillai ddigon i dalu am ysgol dda iddo ei hun. Cymerodd iddo dair blynedd o lafur caled i gwblhau hyn, a dychwelodd i'w hen gartref yn Nhalaeth New Hampshire, ac aeth i'r athrofa yn Strafford, wedi hyny i Wolls- borough, ac yna i Concord. Cyfarfu ag anffawd annymunol yn awr, drwy i'r dyn, yr hwn oedd yn cadw yr holl arian oedd Wilson wedi gynilo yn yr amser a nodwyd, dori a myned yn fethdalwr, a chollodd yntau ei arian. Wedi hyn dychwelodd i Natick, at fainc y crydd i weithio yn galed eto, er cael arian i dalu am addysg. Efryd- odd yn y cyfamser, a daeth yn fuan, yn mhlith ei gydnabod, yn ddadleuydd enwog ar faterion gwladol, a phob pwnc politic- aidd, ac yr oedd yn awr yn 26 mlwydd oed. Ymhyfrydai mewn dadleuon gwleid- yddol, a daeth yn fuan y dyn mwyaf nod- edig yn nghylchoedd Natick, fel gwron gwladwriaethol; yn ffraeth ei barabliad, yn rymus ei iaith ac yn anorchfygol fel rhesymwr. Yr oedd pawb yn rhagddy- wedyd y clywai ac y teimlai y wlad oddi- wrth ei athrylith yn fuan, ac felly y bu. Yn 1840, yr oedd y Cadfridog Harrison yn ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth ar docyn y Whigiaid, a chyneuodd hyn deimladau Wilson ieuanc i'r fath raddau nes y cymer- odd y maes i ddadleu dros ei etholiad. Aeth drwy New Hampshire a Massachu- setts i areithio yn wresog dros etholiad Harrison, a theimlodd y wlad oddiwrth awch a grym ei athrylith. Traddododd dros dri ugain o ddarlithiau yn ystod y swydd-geisiad hwnw, a chafodd ei ethol ei hun i Gynulldy Deddf-wneuthurfa Mas- sachusetts. Ail etholwyd ef yn 1841; ac yn 1844 a 1845 cafodd ei ddyrchafu i Sen- edd y Dalaeth. Yn 1846 gwnaed ef dra- chefn yn aelod o Dy y Cynrychiolwyr, pryd y gwrthwynebodd ledaeniad caeth- iwed i Texas, gyda grym a gwroldeb mawr; ac yn 1848 cafodd ei anfon i gynrychioli y !,y Dalaeth i Gynadledd Genedlaethol y Whig- iaid yn Philadelphia, pryd y penodwyd y Cadfridog Taylor yn ymgeisydd am yr Ar- lywyddiaeth. Methodd gydsynio a gwaith y gynadledd yn gwrthod y Wilmot Pro- viso, dadgysylltodd ei hun oddiwrthi a dy- chwelodd adref. Prynodd y Boston Repub- lican, papyr y "Free-soil Party," a golyg- odd hwnw am oddeutu dwy flynedd. Cafodd ei ethol drachefn yn y fl. 1850 i Ddeddfwneuthurfa Massachusetts, a bu ei wasanaeth yn fawr a phwysig i achos cyf- iawnder a rhyddid; ac yn 1855 cafodd ei ethol i Senedd y Talaethau Unedig, i'r eis- teddle a waghawyd gan yr Anrhydeddus Edward Everett, enw yr hwn oedd yn nodedig fel ysgolhaig coeth, a gwleidydd- wr o'r radd uchaf. Cafodd Massachusetts ei gwawdio tu yma a thu draw i'r mor am ddiraddio ei hun, a sarhau y Senedd Gen- edlaethol drwy anfon crydd i'w chynrych- ioli yno! Ie, haerid fod anfon y fath grefftwr distadl i eistedd yn nghadair wag y doethawr urddasol Edward Everett yn anmharch i'w gymeriad fel gwron ac ysgolhaig aruchel! Ond ni fu y crydd yn hir yn y Senedd cyn iddi deimlo ei bresen- oldeb, a dechreuodd sylfaeni caethwas- iaeth ei ddawn a'i athrylith. I y Traddododd ei ddarlith fyth-gofiadwy ar ddiddymiad deddf y caeth ffoedig, a dilead caethiwedo Randir Columbia; ac yn fuan daeth yn un o arweinwyr y blaid wrth- gaethiwol yn y Senedd. Yn 1856, pan ym- osododd Preston S. Brooks, o South Caro- lina, ar Mr. Sumner, condemniodd Wilson y weithred, fel ymddygiad barbaraidd, llwfr a llofruddiog, ac am hyny anfonodd Brooks her ato i ddyfod i'w gyfarfod i ym- ladd gornest. Atebodd Mr. Wilson, ei fod ef bob amser wedi edrych ar ymladd gor- nest yn un o weddillion iselaf barbareidd- dra, a waherddir gan ddeddfau moesol a gwladwriaethol, fel trosedd atgas a chosb- adwy. Ac heblaw hyn, awgrymodd ei fod ef yn barod i amddiffyn ei hun os gwneid ymosodiad arno. Ar olyr atebiad treiddgar ucliod, cafodd lonydd gan danfwytawyr y Talaethau caethwasiol o hyny allan. Tra- ddododd y Seneddwr Hammond, o South Carolina, araith hirwyntog i amddiffyn llafur caethwasiol yn y De; ond atebwyd ef yn nerthol gan Mr. Wilson, yr hwn a brof- odd tu hwnt i bob amheuaeth ragoroldeb llafur cyflogedig y dosbarth gweithiol yn y Gogledd; a dangosodd fod cyfiawnder a diogelwch cymdeithas yn gofyn fod i'r gweithiwr gael ei gyflog teil wng. Argraff- wyd yr araeth hon, a chafodd ei gwasgaru dros yr holl wlad, a daeth y bobl i ddeall nad oedd Mr. Wilson wedi anghofio y dos- barth o'r hwn y tarddodd, ac ystyrid ef o hyny allan yn amddiffynydd gwrol a medr- us i'r gweithwyr a'u hiawnderau. Gellir dweyd gyda phriodoldeb ei fod yn Seneddwr, yn un o gyngorwyr blaenaf yr Arlywydd, ac yn filwr gwirfoddol yn ystod y rhyfel. Bu yn llwyddianus i ffurfio deddf y gwirfoddolwyr, drwy yr hon y codwyd pum' can' mil o wyr i fyned i faes y frwydr; ac yn ystod gohiriad y Senedd yr oedd yn awyddus am fod o ryw wasanaeth i'w wlad. Cynghorodd y Cad. Scott yr Arlywydd i benodi Wilson yn sWyddog milwrol dan y Cad. McClellan; a chan ei fod wedi efrydu milwriaeth, nid gwaith anhawdd oedd ei wneyd yn General. Dechreuodd ar ei swyddogaeth dan McClellan; ond gan fod awyddfryd mawr i ail ffurfio y fyddin ar ol brwydr Bull Run, darfu Seward, Chase, Cameron, ac eraill, lwyddo i gael gan yr awdurdodau anfon Wilson i godi Catrawd o wirfoddolwyr yn Massachusetts, ac felly y gwnaeth. Wedi hyn daeth y Seneddwr Wilson yn General Wilson, a chyda'r 22 catrawd o sharpshooters aeth i Washington, ac oddiyno i faes y gwaed i Virginia. Wedi gwasanaeth buddiol ac anrhydeddus,rhodd- odd y Cad. Wilson ei swydd filwrol i fyny mewn trefn i gymeryd ei eisteddle yn y Senedd yn y Gydgyngorfa. Bu yn llafurus iawn yn ystod y blynydd- oedd dilynol i adferu y wlad i drefn ar 01 difrod y gwrthryfel; a chan mai efe oedd un o ffurfwyr y blaid Werinol, safodd yn ffyddlon i'w hegwyddorion yn ngwyneb pob rhwystrau, a daeth allan yn fuddug- oliaethus o un o'r rhyfeloedd cartrefol er- chyllaf a welodd ybyd erioed. Cafodd ei ethol drachefn i'r Senedd yn 1871; ond yn 1872 etholwydef yn Is-Ar- lywydd y Talaethau Unedig. Ddarllenydd, dyna gofnodiad am ychyd- ig allan o lawer o weithrediadau cyhoedd- us yr Anrh. Henry Wilson, yr hwn drwy ddiwydrwydd a gyrhaeddodd y grisyn uch- af o nodedigrwydd ac anrhydedd gwlad- wriaethol. Yr oedd Mr. Wilson yn aelod eglwysig gyda'r CynulleidfaQlwyr, ac yn ddirwestwr selog.
HEN ADGOFION.
HEN ADGOFION. GAN Y PARCH. B. W. CHIDLAW. CLEVBS, 0., Tach. 8, 1875. MR. J. W. JONES, Drych Office, Utica. ANWYL SYR: Trwy garedigrwydd John Owens, gynt o Fon, yn awr yn Cincinnati, cefais gyfleusdra i ddarllen Yr Herald Cymraeg, Hyd. 8, 1875," ac ynddo un o'ch llythyrau dyddorol ar America, a chyfeir- iad at "hen lyfr Cymraeg" a ddangoswyds gan fy nghyfaill anrhydeddus, y Barnwr- H. G. Jones, Philadelphia, yn Eisteddfod Pennsylvania. Dros gan' mlynedd yn 01 cyhoeddwyd yn Philadelphia amryw lyfr- au crefyddol yn yr iaith Gymraeg, ac yn eu plith "Cydgordiad Egwyddorol o'r Ys- grythyrau, "-folio, yn cynwys dros ddau gant o dudalenau, "gan Abel Morgan, gweicidog yr efengyl, erlles i'r CyHiry,^ wedi ei gyflwyno at "yrArdderchogDa- fydd Lloyd, Ysw., Barnwr Talaeth Penn- sylvania;" ac allerchiad gan "Enoch Mor- gan, a John Cadwalader." Meddianais ddau gopi o'r gwaith enwog hwn-un a. roddwyd i mi gan Abner Francis, Ysw., wyr i Dafydd Francis, Paddy's Run,, a'r llall gan fy nhad yn nghyfraith, EzekieJ Hughes, Ysw., at ba un y mae cyfeiriad parchus yn eich Ilythyr. Yn y gwanwyn 1796 daeth dros gant o Gymry, ar y llong: "Maria," o borthladd Bristol i Philadel- phia, ar ol mordaith o dros dri mis. Yn eu plith yr oedd prif sefydlwyr Ebensb#rg ,i Pa., sef y Parch. George Roberts, y Parch. Rees Lloyd, ac eraill; Edward Bebb, Eze- kiel Hughes, William a Morgan Gwilym, Dafydd Francis, Francis Nicholas a John Vaughan-y Cymry a ddaethant gyntaf i ddyffryn y Miami yn 1797. Ar ol prynu ei dyddyn, yn cynwys 1,2* o gyfeiriau, ar wastadedd godidog ar lan y Miami, bymtheg milldir o Cincinnati, a, dwy o afon Ohio, yn y North Bend, pres- wylfod yr enwog Gadfridog, W. H. H. Harris, a Llywydd yr UnQl Dalaethau, aeth Mr. Hughes yn ol i Gymru; ac yn 1802, wedi priodi Margaret Bebb, Bryn- aerau, Llanbrynmair, dychwelodd i'w gabia yn anialwch y Gorllewin. Bu Mrs. Hughes farw cyn pen blwyddyn wedi ei dyfod i'r America. Dywedir mai dynes landeg, add- fwyn, ddoniol a duwiol oedd Mrs. Hughes, a bu ei marwolaeth yn achos galar cyffredin trwy y sefydliad, ac yn golled fawr i'w phriod galarus. Yn 1806 ail briododd Mr. Hughes a Miss Mary Ewing, merch i yip- fudwyr o Dalaeth Pennsylvania—Heitm crefyddol, ac yn meddu tyddyn helaeth YIt y gymydogaeth. Ganwyd i Mrs. Hughes wyth o blant-pedair merch a phedwar mab. Mae dau fab wedi marw; un wedi gadael plentyn ar ei ol. Yr oedd Ezekiel Hughes yn ddyn o gyneddfau grymus, addysg dda, ac yn meddu jsbryd caredig a chymydogol. Derbyniwyd ef yn aelod crefyddol gan yr hybarch John Roberts, Llanbrynmair. Yn 1822, rhoddodd Mr. Hughes gyfer o dir a chan' dolar at godi capel ar ei dir. Mae y capel a'r fonwent yn aros hyd heddyw, a rhan luosog o hil- iogaeth yr hen batriarch yn grefyddol ac yn dal perthynas a'r eglwys Bresbyteraidd. Mae dau o'r wyrion, sef Ezekiel Hughes a John Roberts Chidlaw yn Henuriaid (Ruling Elders) yn eglwys y Presbyteriaid yn y gymydogaeth. Bu farw Mr. Hughes yn y flwyddyD 1851,. yn llawn o ddyddiau, yn addurn i gym- deithas wladol a chrefyddol, a gosodwyd
Advertising
liTY^ A Wj&AjRtr jsr&wsz>ji.2>&zi. E ST A BfclSHfE D 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.