Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

DANVILLE, PA.—Eglwys y Bedyddwyr.— Y mae gan amgyIchiadau eu dylanwad ar leoedd ac ar fasnach yn ei hafrifed gyfeir- iadau. Os bydd yr amgylchiadau yn dda, gwelir masnach yn llewyrchus, dedwydd- wch ar bob aelwyd drefnus, a llwyddiant tymorol yn adloni meddyliau. Dadblygant eu dylanwad ar grefydd. Gwelir eglwysi yn gwanhau drwy wasgariad yr aelodau ar hyd a lied ein cyfandir; ac o herwydd tlodi eu hamgylchiadau mae y tueddiadau oedd gynt yn gryf a gwresog i addoli y Goruch- af, yn oeri a llesgau. Llwfrhant yn ngwyneb aflwyddiant tymorol. Felly mae amgylchiadau tlawd y lie hwn wedi ac yn gadael i raddau y dylanwad arno. Y maent wedi dylanwadu arnom ni fel eg- Iwys. Gwelwyd ni yn fywiog a llewyrch- us unwaith, ond o herwydd arafwch y gweithfeydd, y mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lie, Digalon iawn ydym wedi bod, o herwydd fod nifer luosog wedi ein gadael, ac wedi myned i leoedd eraill. Mae rhai hefyd wedi myned i'r wlad hono, lie na fydd gofid mwy. Ond mae yn eg- lwys yn dechreu adfywio, a buan y gwelir hi eto yn gwisgo agwedd well. Nid oes genym yr un gweinidog arnom hyd yn hyn. Nid yw Athrofa Lewisburg yn mhell o Danville, a daethym i'r penderfyn- iad y buasem yn ceisio gan y myfyrwyr Cymreig ein gwasanaethu. Mae yn yr Athrofa a nodwyd wyth o fy- fyrwyr Cymreig. Penderfynwyd yn un- frydol nos Sabboth, pythefnos i'r diwedd- af, ein bod yn dewis y tri canlynoi, Meistri Thomas Prosser Morgan, James Francis Richards, Wm. Frost Davies. Meddyliwyf ein bod wedi bod yn wir ddoeth yn ein de wisiad. Yr wyf wedi clywed yr oil o hon- ynt, felly mae genyf fantais i farnu. Gan nad yn mha beth bynag y gall atlirofeydd eraill ymffrostio ynddo, gallwn ni fel Bed- yddwyr ymffrostio fod genym dri dyn ieu- anc yn yr athrofa uchod sydd yn glod i'n henwad, y rhai y mae eu henwau yn wir adnabyddus, ac yn dra uchel yn ngolwg holl eglwysi Bedyddiedig Luzerne County a lleoedd eraill. Y mae eu cymwysder yn fawr i'r weinidogaeth mewn cymeriad a thalent. Y mae eu traddodiad yn wir ar- eithyddol, eu harddull yn odidog, ac mae eu cartrefolrwydd yn yr athrofa yn ar- ddangos eu bod yn ymwneyd a gwaith sydd wrth fodd eu calon. Nos Sabboth pythef- nos i'r diweddaf, bu Mr. Richards yn preg- ethu yma i gynulleidfa luosog, ac yr oedd y brawd talentog yn ei liwyliau arferol.— Cawsom bresenoldeb Duw trwy y dydd, ac arwyddion amlwg o'i arddeliad ar y wein- idogaeth. Un o\ Gorlan. I—n « »,

LLAWER MEWN YCHYDIG.

[No title]

PRYDAIN FAWR A'R IWERDDON.

Y GWRTHRYFEL YN BPAEN.

G WEITHF AOL-lJfASN A CHO…