Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y DYN CECRUS.
Y DYN CECRUS. MBI. GOL.—Yr oedd mewn cymydogaeth yn agos i'r lie yr oeddwn yn byw yn Nghy- mru ddyn na adwaenid ef braidd gan neb wrth ei enw priodol, ond wrth yr enw Cec- ryn. Cafodd y llysenw hwn am ei fod mor hunanol, croes-dynol a dadleugar gyda phob dim. Nid oedd neb yn y gymydog- aeth a allai ei argyhoeddi, os cymerai un- rhyw beth yn ei ben, ond mynai ei ffordd er gwaethaf pawb. Un diwrnod, fel yr oedd bagad o ddynion yn sefyll ar gongl un o'r heolydd, gwelent ef yn dynesu tuag atynt, penderfynasant yn y fan beidio dy- weyd dim yn groes i'w syniadau, beth byn- ag fyddai yr ymddiddan a gymerai le wedi ei ddynesiad. Pan welodd nas gallai gael dadl, grwgnachodd a clierddodd i ffwrdd yn siomedig iawn. Yr oedd bob amser yn hynod siriol yn ei foesgyfarchiadau, a gall- esid meddwl wrth hyny mai efe oedd y dyn hawddaf ei drin yn yr holl wlad, ond gallesid ar unwaith ddeall wrth ei wyn- ebpryd ei fod yn un o'r own sydd yn arfer a lladd defaid, gan mor guchiog y taflai ei olygon wrth fyiied heibio. Mae y cymer- iadau uchod yn brithio llawer ardal y dydd- iau presenol, yn enwedig y rhai hyny lie mae tri neu bedwar o ohebwyr yn anfon i'r newyddiaduron y digwyddiadau a gym- erant le yn awr ac eilwaith, a hyny mor syml a dirodres, heb organmol un blaid, na rhedeg eraill i lawr; ond cerdded megis canol y ffordd, a dweyd y gwir mor agos ag y gallant, heb feddwl y byddai i neb genflgenu wrthynt am hyny. Ond och! mae rhyw un liunanol iawn gerllaw, ac eisiau dangos ei hun—dechreua ysgriblo ac adolygu y gwirioneddau a gyhoeddwyd— tyn liwynt yn gandryll oddiwrth eu gilydd, yn ol ei dyb ef-pletha frawddegau eglur iddo ei liun, ond mor dywyll a'r fagddu i'r rhai sydd yn hysbys o'r hyn a gymerodd le; ceisia osod ei hun yn dalach o'i ysgwydd- au i fyny mewn gwybodaeth na'i gymyd- ogion. Dywed mai atlirodwyr yw awdur- on yr hyn a ymddangosodd, ac mai anwir- edd oedd y cyfan. Ceisia ddangos ar g'oedd gwlad ac o tlaen golygwyr, mai efe yw yr unig un iddynt ymddibynu arno am y gwir o'r lie y mae yn byw. Chwytha ei hun i fyny yn y modd yna, a dywed yn ei galon, Os llwyddaf i argyhoeddi y cyhoedd fy mod yn gymaint dyn, beth waeth genyf am gymeriad neb, mwy nag anrhydedd newyddiadur, os llwyddaf yn fy amcan.— 0, y dyhiryn cecrus, pwy bynag wyt, cof- ia. mai dy yraddygiad gartref sydd yn ffurf- io cymeriad i ti oddicartref. Am hyny. Gad y rhyfyg, gwna dy ran, A'r clod fydd i ti'n gyfan. 31.
A VVKIAI) YSTAFELLOEDD CYSGU.
A VVKIAI) YSTAFELLOEDD CYSGU. Y mae y pwnc hwn yn haeddianol o law 1'1' mwy o sylw nag a dehr iddo yn bresen-' o t. Mae'n wir fod deddfau iechyd wedi ac yn cael eu hastudio yn fanwl gan wyddon- wyr mewn gwahanol wledydd; ond hydyn hyn ychydig iawn o gynydd sydd wedi cy- meryd lie yn mhlith y Cymry yn y cyfeir- iad liwn. Byddai yn fantais (mewn ystyr clymorol beth bynag) pe telid mwy o sylw i wyddoniaeth, a llai i dduwinyddiaeth; ac ond odid nad trwy yr iawn-ddefnyddiad o'r bywyd presenol y byddem yn alluog i fwvnhau yn well v bywyd sydd yn ol. Pe byddai i unrhyw ddau berson a fydd- ant yn cysgu yn yr un ystafell bwyso eu hunain cyn myned i orphwys, ac wedi hyny yn union ar ol codi caent eu bod yn ysgafnach o tua phwys. Mewn rhai amgylchiadau collir dau bwysneu ychwan- I y eg, ond tuag un pwys a gollir ar gyfartal- edd. Gwneir y pwys hwn o fater i fyny o ronynau carbonic acid, a mater anifeilaidd pydredig, y rhai ydynt yn hollol wenwyn- ig. Bwrir hwy allan o'r corff mewn rhan drwy yr ysgyfaint, ac mewn rhan drwy y chwysdvllau, a gwasgerir rhan o honynt drwy awyr yr ystafell, a sugnir y rhan ar- all gan ddillad y gwely. Pe llosgid un owns o wlan-cotwm, cynyrchai ddigon o fwg i lenwi ystafell; ac ond parhau i wneyd hyny bob haner awr drwy y nos, cedwid yr ystafell yn llawn o fwg yn barhaus, os 9 na byddai ifenestr agored neu ryw ffordd arall iddo fyned allan. Er mor anymunol fyddai ystafell fyglyd o'r fath, ni byddai haner mor niweidiol a'r un owns ar bym- theg o fater gwenwynig a fwrir allan o'r corff. Tra nad yw y mwg sych yn cael ond ei gymeryd i mewn i'r ysgyfaint, mae y mater gwenwynig a fwrir allan o'r corff yn cael ei anadlu yn ol i'r ysgyfaint, ac yn cael ei sugno i mewn drwy y cliwysdyllau dros bob rhan o'r corff. Dengys hyn y pwysig- rwydd o gael awyriad da i vstafelloedd cysgu, ac o ofalu am fod holl ddillad y gwely wedi eu hawyru yn dda cyn ei bar- otoi i neb orweddynddo.
CARONDELET, MO.
CARONDELET, MO. Dymunwn eich hysbysu ein bod wedi cael amser dedwydd yn y lle hwn yn ddi- weddar,drwy gael ein breintio a phresenol- deb y lienor coethedig, y pregethwr hy- awdl, a'r ffaraethbert Ednyfed. Llawer o ddisgwyl fu am y dyn, ac mewn pryder yn ofni y buasai yn ein siomi drachefn, gan ei fod wedi gwneyd rai troion; ond o'r diw- edd cyrhaeddodd ar y 30ain o Hydref. Y dydd canlynol, pregethodd i ni yn Saesneg (gan fod cymaint o'r Saeson yn bresenol) y boreu a'r hwyr. Yr wythnos ganlynol cawsom bregeth Gymraeg, a dwy ddarlith, un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg. Tes- tyn, "Queer People." Darlith ddyddorol dros ben, addysgiadol, ac yn llawn o ddi- grifwch. Y mae y bobl wedi dioddef cryn dipyn oddiwrth yr hyn a alwant hwy yn dumb chills, yr haf diweddaf; ac yn wir yr ydym yn credu fod ymweliady Parch. Fred Evans a'r ardal wedi bod yn effeithiol i wellau rhai o'r dioddcfwyr, yn enwedig y rhai oedd yn gwrando y ddarlith ar Queer people; gan hyny y prescription goreu allwn feddwl am dano i rai pobl yn y chills ydyw mynu gwrando Mr. Evans yn darlithio ar y testyn uchod. Gallaf eu sicrhauy gwnaiff les iddynt ysgwyd ymaith bob chill wrth cliwerthin ac na siglant ond hyny. Caf- wyd cynulliad lluosog yn mhob cyfarfod. Cymerodd Mr. James Beynon y gorchwyl mewn llaw o werthu tocynau y ddarlith, y rhai oedd yn 50 sent yr un, a gwnaeth oddeutu $65 neu $70. Y Sabboth canlyn- ol pregethodd y boreu a'r hwyr i dyrfa fawr, yn ganmoladwy. Boreu Llun, yr 8fed, aeth ymaith, wedi rhoddi perffaith foddlonrwydd. Arosasai yn hwy oni bae ei fod yn ofni y dumb chills. Sabboth, Tach' 14eg cawsom gyfarfod i sefydlu ein bugail newydd, y Parch. Mr. Elmer, diweddar o St. Joseph, Mo. Preg- ethwyd y bregeth sefydliadol gan y Parch. Mr. Burnii gligame, D. D., St. Louis; a siars i'r gweinidog a'r eglwys gan y Parch. Mr. Yeaman, D. D., St. Louis; ac y mae wedi dechreu yn ei faes newydd. Y mae yma lawer o gyfeiliornadau; maes i weith- io; gormod o fynychu y saloons, a hyny ar y Sabboth, fel mae gwaethaf ymodd; o ganlyniad, anwyl frodyr, ymostyngwn ger bron ein Duw mewn gweddi am i'r gwir- ioneddau i fod yn effeithiol i ddwyn pech- aduriaid yn ufudd ac yn ewyllysgar at draed y Gwaredwr. Y mae Glee Party wedi ei sefydlu yma o'r newydd, dan arweiniad Mr. W. Jones, diweddar o Joliet, Ill. Organydd, William Francis. Mae yn y lie dalent gerddorol, ond eu casglu at eu gilydd. Yn awr dis- gwyliwn ganu da dan arweiniad y cerddor Jones—amser a ddengys. Tach. 16. AMRTWI&. ——
PHILADELPHIA, PA.
PHILADELPHIA, PA. PHILADELPHIA, Tachwedd 14eg.—Y mae awydd ysgrifenu i'r DUYCII wedi disgyn arnaf cyn lieddyw, ond rhywfodd ymatal- iais, gan ddisgwyl gweled rhyw un mwy galluog yn ymgymeryd a'r gorchwyl Dylai rhywun ysgrifenu .llythyr dyddorol i'ch newyddiadur poblogaidd bob wythnos o hen ddinas enwog Philadelphia. Y mae yma ddigon o ddefnyddiau, ac fe fydd yma ddigonedd am y flwyddyn ddyfodol, yn gymaint a bod y ddinas hon wedi der- byn yr anrhydedd, fel y lie mwyaf cymwys yn y Talaethau i arddangos y Dathliad Can- mlwyddol. Diameu y bydd yn dda gan y Cymry drwy y Talaethau, gael ychydig o hanes yr arddangosfa. Gan obeithio y cymer rhywun cymwys yr awgrym ac y caiff darllenwyr y DRYCH weled ysgrifau dydd- orol oddi yma yn ol llaw, fel y gallont fwynhau yr amgylchiad yn yr hanes am dano, os na allant ei weled a'u llygaid. Os caniata eich gofod, rhoddaf i chwi ychydig o hanes cyfarfod Cymreig a gyn- aliwyd yma ar yr lleg cyfisol, dan nawdd y gymdeithas Gymreig, sef y Cambrian Society of Philadelphia." Cymdeithas ieuanc ydyw hon, oddeutu chwe' mis oed; ond y mae yn cryfhau tu hwynt i ddis- gwyliadau y mwyaf ffyddiog, er fod rhai yn proffwydo ei marwolaeth yn ei baban- dod. Yr oedd y pwyllgor wedi cyflawni ei ran gyda ffyddlondeb neillduol, trwy ddewis ystafell helaeth a chysurus, i gynal y cyfarfod, ac hefyd sicrhau gwasanaeth y "Mozart Society," yn nghyd ag amryw gantorion eraill. Hefyd, cafwyd anerch- iadau gan y Parch. Reese C. Evans, N. J., yn yr iaith Gymraeg, a chan y Parch. Henry Neill, D. D,, Philadelphia, yn yr iaith Saesonaeg. Yr oedd y canu, yr ar- eithio, a'r adrodd, yn bob peth a allasem ei ddymuno; a'r cynulliad yn llawer uwch- law ein disgwyliad. Yr oedd yr elw yn myned i drysorfa y gymdeithas, tuag at leddfu anghenion y Cymry a all fod mewn eisiau. Llywyddwyd y cyfarfod yn dra medrus, gan Is-Lywydd y Gymdeithas, sef W. T. Williams, Esq., yr hwn er nad yw yn alluog i siarad yr iaith Gymraeg, sydd yn meddu calon Cymro, ac yn ymhyfrydu yn nghymdeithas yr hen genedl, o ba un yr hanodd. Yr ydwyf yn gwybod fy mod wedi myned eisoes yn rhy faith, er y buas- ai yn dda genyf roddi amryw bethau eraill ger bron eich darllenwyr; ond rliag disgyn yn ddyfnach i'r pecliod sydd mor barod i amgylcliu gohebwyr lieol, terfynaf. Yr eiddocli,—Crynwr.
Family Notices
GAN W YD— JONES—Tacliwedd 12, yn Doylestown, Ohio, merch i Mary a Francis Jones; gelwir ei henw yn Mary Ann. JONES—Tacliwedd 14, yn West Bangor, Pa mab i Mr. Daniel W. Jones a'i briod; gelwir ef Hugh. Dy enw bellach Daniel-a gedwir Trwy gadwen ddiogel; A Dan. pwy a wyr nad el Y bach yn deyrufab uchel. West Banc/or. R. W. MOBBIS. WATIVINS—Tacliwedd 14, yn Tower City, Pa., mab i Mr. W. H. Watkins a'i briod; gelwir ef David Morgan. PRIODWYD- EVERETT—GRIFFITHS—Tacliwedd 16, yn Steuben, N. Y., yn nhy Mr. G. Griffiths, tad y briod- asfereh, gan y Parch. Edward R. Hughes, yn mhres- enoldeb oddeutu 60 o wahoddedigion, Mr. Fraak Everett, wyr i'r diweddar Hybarch Dr. Everett, a Miss Jane Esther Griffiths, y ddau o Steuben. JONES-LLOYD-Tachwedd 17, yn Utica, N. Y., gan y Parch. Horatio N. Dryer, yn ei dy ei hun, Mr. liobert W. Jones a Miss Sarah J. Lloyd, y ddau o'r lie uchod. Yn haelwych bo'r ddau wiwlan—i'w gilydd o galon bur weithian; Mor o lwydd yn rhwydd fo'u rhan Yn hollol o hyn allan. CYFAILL. IVTLLIA LNIS-JONEs-Tacli wed d 24, yn Fairhaven, Vt., gan y Parch. R J. Mathews, yn cael ei gyriorthwyo gan y Parch. Griffith Jones, Mr. Wil- liam T. Williams a Miss Gracie Jones, y ddau o'r He uchod. B U FAR It — PARRY—Tachwedd 16, yn Granville, N. Y., yn 20 mlwydd oed, Mrs. Parry, anwyl briod Mr. Evan J. Parry, ar ol rhoddi genedigaeth i un bych- an (y cyntaf-anedig), er holl ymgais y meddygon. Bu farw y bychan hefyd yn mhen ychydig fynydau wedi ei eni. Yr oedd Mrs. Parry yn fereh 1 Mr. John M. Jones, Farnamsville, ac ni fethaf wrth ddweyd, y gall gwragedd yr ardal ddysgu gwers oddiwrth ein chwaer ymadawedig yn y pethau canlynol: gwar- chod gartref yn dda, dyma un o'i phrif ragorion; di- absen am bawb, yr oedd yn hynod yn y peth hwn; eadw ei thy yn lan, trefnus a chysurus i'w gwr, ac yn meindio ei busnes ei hunan. Cydymdeimiwn yn ddwys a'n cyfalll-cafodd gollea anrhaethadwy. Claddwyd Mrs. Parry yn Fairhaven y dydd Mercher canlynol gan luaws o gymydogion, ac yn wir golygfa ddifrifol oedd edrych ar y fam a'i phlentyn yn yr un arch. Dymuna ein cyfaill gyflwyno ei ddiolchgar- wch i bawb am eu caredigrwydd yn yr amgylchiad difrilol. JONEs-Tachwedd 21, yn bum mis oed, Anne Jane, plentyn Mr. John M. Jones a'i briod, Main St., Shenandoah, Pa. Claddwyd hi ddydd Mawrth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. V. Griffith. REEs-Hydref 30, yn Freedom, Catta- raugus Co., N. Y.. Mr. John W. Rees. Ffarmwr cyf- rifol o'r ardal hon ydoedd Mr. Rees, ac ystyrid ef fan bawb yn ddyn gonet-t, didwyll ,a dirodres. erchid ef yn fawr gan ei holl gymydogion. Bu yr ymadawedig yn aelod ffyddlon, diwyd a ^weithgar, ymadawedig yn aelod ffyddlon, diwyd a f:weithgar, am amryw liynyddau yn eglwys y Bedyddwyr yn y lie hwn. Llanwodd y swydd ddiaconaidd am y naw mlynedd olaf o'i oes, a rhoddodd y boddlonrwydd llwyraf i'r holl frawdoliaeth tra yn ei swydd. Teim- la yr eglwys, a'r gymydogaeth yn eylfredinol, hiraeth a cholled fawr ar ei ol. Gadawodd ein brawd weddw a phump o blant, tad oedranus, a chylch helaeth o berthynasau i alaru eu coiled ar ei ol. Cydymdeim- lwn yn fawr a'r hen frawd Thomas Rees, y tad yn ei alar dwys; nid oes ond tua dau lis er pan gladdodd ei anwyl briod, ond cyn bod v dagrau wedi sychu ar ei ruddiau, wele angau yri symud John ei fab i fyd ar- all. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. Jones, Minnesota; Williams. Wilkes-Barre. Pa., ac Everyingham, gweinidog y Bedyddwyr Saesneg yn Sandusky. Heddwch i'w lwch hyd y dydd y cyfyd y saint ar ddelw eu Prynwr. JOHN LEWIS. PROSSER-Hydref 24, yn New Albany, Ind., yn 68 mlwydd a 2 fis oed, Thomas Prosser,. mab Thomas ac Ann Prosser, o blwyf Llandefeiliog fwch, sir Frycheiniog. Pan yn dra ieuanc ymsymudodd yr ymadawedig i Blaenavon, D. C., ac efe eto ond 13eg oed. Dewisodd iddo ei hun ffordd y bywyd i'w throedio trwy y byd, a chofiodd ei Greawdwr yn mor- eu ei ddydd. Ymunodd ag eglwys yr Annibynwyr, lie y bu am ysbaid yn aelod ffyddlon. Yna gwelwyd ef yn aelod o eglwys Ebenezer, Pontypool, am 12 mlynedd, ac yn parhau yn weithiwr difeli yn ngwin- llan ei Feistr. Yn 1859 penderfynoddymfudo i'r wlad hon. Daeth i Danville, Pa., lie y cyfarfyddodd ag amryw o'i hen gyfeillion a'i frodyr oedd yn arfer cyd- addoli ag ef yn yr He* Wlad, megys y diweddar J. B. Cook a William Cook, ac eraill o Blaenavon, D. C. Yn mhen ychydig symudodd i Columbia, Pa., yna i Newburgh, Ohio, hyd y flwyddyn 186B, pan y symudodd am y tro diweddaf i New Albany, Ind., lie y bu hyd awr ei ymddatodiad. Dioddefodd gystudd blin am 9 mis. Ar y 25ain ymgasglodd nifer fawr o'i gyfeillion a'i gymydogion at y ty i'r dyben o gludo yr hyn oedd farwol o'r ymadawedig tua'r gladdfa i orwedd mewn tawel fedd hyd ganiad yr udgorn di- weddaf, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Cul- mer, yn absenoldeb y gweinidog, Dr. Dickson. Y mae yn ddymunol gyda ni allu coffhau am fywyd yr ymadawedig, ei fod wedi parhau yn ffyddlawn ac ymdrechgar o'r dechreu i'r diwedd, a'i amcan bob amser oedd cyraedd perffeithrwydd, yr hyn yn ddiau y mae wedi gyraedd erbyn heddyw. Gadawodd weddw a phlant (rhai o honynt yn berchen teulu- oedd mawr) i alaru ar ei ol; ond nid ydynt yn galaru fel rhai heb obaith. Anwyl gydgenedl, dymarybudd eto, am hyny byddwn barod I gyfarfod a'n Duw. WH. FRANCIS.
Advertising
Sylwch Bawb CYFLEUSDRA I WNEYD ARIAN Yr un Ghwareu Teg i Bawb. $890 YN CAEL EU RHANU YN OL CYNLLUN YR ART UNION. Bydd y Drawing yn cymerydlle yn DUFFY'S HALL, PLYMOUTH, PA., NOS FERCHER, RHAGFYR 22, 1875. Y GWOBKWYON FEL Y CANLYN: Un Rodd mewn greenbacks. $500 Un Rodd mewn greenbacks$500 2 200 3 100 4 50 5 25 6 10 7 5 Bydd y Drawing yn cymeryd lie o dan arolygiaeth y boneddigion canlynol:—Benj. Hughes, Ysw., Hyde Park; yr Anrh. John J. Shonk, Plymouth; T. M. Williams, Ysw., Wilkes-Barre. Tocynau Unigol 50 cents. Llyfr yn cynwys 12 o Docynau$5 00 Yr elw at dalu y ddyled ar gapel y Bedyddwyr Cymreig yn Plymouth. Llywydd-Y PARCH. E. JENKINS. Ysgrifenydd—THOMAS W. DAVIBS. Trysorydd—W. DIETRICK, 9-34 Cashier Plymouth Savings Bank. J. S. & M. PECKHAM, NO'S 22 & 24 CATHARINE STREET, UTICA, N. Y. GWNEUTHURWYR STOVES O'r fath oreu, a gynygiant ar werth ambrisiau hynod o isel wahanol fathau o COOKING AND HEATING STOVES I losgi coed neu lo. 47'75-2m ALLAN O'R WASG YR ARW EIN YD D CYFLYM! I ddysgu darllen Cymraeg ar gynllun newydd, byr a chyflym, at wasanaetli yr Ysgol Sabbothol—70 cents y dwsin. Hefyd, CARDIAU YN CYNWYS Y PEDAIR GWEBS GYNTAF, i'w rhoddi yn nwylaw plant bychain-45 cents y dwsin. Sample Copy o'r llyfr, 10 cents yr un. Anfoner at SAMUEL WILLIAMS, Market St., Wilkes-Barre, Luzerne Co., Pa. 47'75-3m L. B. WILLIAMS, G WA WL-ARL UNYDD, UWCHBEN 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerir pob math o arluuiau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf vV. H. PHILLIPS, 'U8TUS HEDDWCH, Room 6, Exchange Buildings, Utica, N. Y. [4'75tf j^ISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COUNSELLORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESON. LLINELL Y WIIITE STAR. Agerlongau yn cario Llythyrgodau y 1: u. 0 NEW YORK BOB DYDD SADWRN. 0 LIVERPOOL BOB DYDD IATJ. Pris yn y Caban o $70 i $100, mewn aur. Steerage $30, mewn arian papyr. AGENTS YN UTICA—GAIN L. FAY, 1 Bagg's Hotel. a P. J. MCQUADE, Steam Woolen Mills. 18'ly "YSWIKIANT BYWYDAU AC EIDDO. DEWISWCH Y CWMNI A JJ GOREU. SEF Y LONDON ASSURANCE COFORATION .$15,000,000 SECURITY, New Haven, 330,000 CITY, Providence. 200,000 NATIONAL, New York 400,000 HOME. New Jersey 250,000 EQUITABLE LIFE INS. Co., New York. 30,000,000 C. K. GRANNIS, Goruchwyliwr, 138 Genesee St., Devereux Block, Utica, N. Y. Yn yr hwn y gellir rhoddi pob ymddiried. 4'75 D O D R E R N YN MAHANOY CITY, PA. Y mae JOHN BRADLEY yn gwneyd pob math o Ddodrefn yn y modd goreu, ac yn eu gwerthu am y prisiau iselaf. Jgp— Telir sylw neillduol i ANGLADDAU, a gwneir COFFINIAU yn y modd goreu. Coflwch ei store 50 CENTRE ST., MAHANOY CITY, PA. GRIFFITH & RAYHILL, CYFREITRWYR A DADLEUWYR, (Attorneys and Counsellors at Law) RHIF. 178 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. Mae Mr. Griffith yn talu sylw neillduol i gasglu dy- ledlon, &c.; a Mr. Rayhill yn cymeryd gofal achos ion troseddawl (criminai business). Swyddfa yn agored o 8 i 12 yn y boreu, ac o 1% i 6 yn y prydnawn. 44tf iwawi aiwm L- 0- MUNDY- (SEFTDLWYD 1865.) Dyvia y Lle i gael y Lluniau Goreu yn Utica. Cymerir Copiau o Hen Arluniau vn y dull goreu a phrydferthaf. Gwerthir pob math, o Fframiau o'r gwneuthuriad goraf a harddaf. RHIF. 11 BROAD STREET. 2'75 A.r y Llawr Cyntaf. YN BAROD! EISOES YN BAROD POB PETH YN BAROD! MOR FUAN! AR GYFER Y GWYLIAU DYFODOL. PRYNWCH EICH ANRHEGION YN AWR. Gwell Mantais i Ddewis Nwyddau a Phrynu am Brisiau Isel. ROFFEE a gynghora ei gyfeillion a'r cyhoedd brynu yn awr y nwyddau a fwriadant roddi yn an- rhegion y Nadolig a'r Calan. Cant well cyfle i ddewis pob math o bethau yn ol y prisiau cyfliredin. RHESTR 0 RAI O'R NWYDDAU YN MASNACHDY ROFFEE, 113 GENESEE STREET, UTICA. NWYDDAU FFANSI—Black Walnut Desks, Work Boxes o'r un defnydd, Brackets hardd, Black Walnut Stands, Fframiau prydferth, Byrddau, Dress- ing Cases, Prenau Gwelyau a Bureaus. TEGANAU-Y Wyddor ar Flociau, Mapiau ar Flociau, Lluniau ar Flociau, Anifeiliaid wedi eu ffurfio oddarnauo bren, Music Holders, Byrddau i chwareu Backgammon, Byrddau Parcheesi. DOLLS—Babi Dol Cwyr, Rubber Dolls, &c. CLOCIAU GWARANTEDIG o$1 i $2. ALBUMS CERDDOROL-Albums 90c, $1, $1 25, $1 50,$2 50 a $3 50. CERDDOROL-Accordeons, Crythau, Concertinas, Guitars, Ceg-Organ, Tamborines. FFURS— Ffurs i Blant$1 00 Ffurs teg 2 00 Capiau Ffur i blant 75c a 1 00 BAGIAU LLEDR—Ladies' and Gents' Traveling Bags $1 00, $2 25,$2 50,$3 00, $3 50, $4 50, $5 00, $6 50,$7 50,$8 00, $8 50. LAMPAU-50 cents.$1 00,$2 00,$2 50. NWYDDAU GWYD«.— Pitchers Gwydr 9tc Goblets, y dwsin. $] 00 Glass Sets (teg) 75c CAGES ADAR—Lliwiedig ac o Bres. MENYG—Menyg Kid i Foneddigesau, Menyg Dyn- ion, Menyg gyda fur tops, Ladies' Castor Gauntlets 50 cents JEWELRY—Black Jewelry, Fine Plated Jewelry, Modrwvau, Bracelets a Sets, Gents' Watch Chains. STEREOSCOPES A GOLYGFEYDD—Wedi eu lliwio$1 00 a$2 00 y dwsin. NOTIONS—Tidies, Napkins, Corsets, Wrappers a Drawers wedieu gwau, Capiau wedi eu gwaui blant, Capiau Merino a Boneti, Bootees, Leggings, Scarfs, Mittens. Bodices Plant. TEGANAU CELFYDDYDOL—Bachgen mewn Sigl-gryd, Badwr, Velocipede a Trotter. SPICE BOXES—Crumb Pan and Brush, Crumb Brushes, Clothes Brushes, Hat Brushes, Tooth Brushes, Uclgyrn i blant chwareu. NWYDDAU METEL— Sets o Gyllyll a Ffyrc [Te] $1 00 Sets o Gyllyll a Ffyrc LCiniaw] 1 00 Chwech o Gyllyll hardd [Te] 1 00 Chwech o Gyllyll hardd [Ciniaw]. 1 00 Llogell-gyllyll, Cyllyll a Ffyrc at garfio 50c a $1 00 y set. TEGANAU RUBBER. Basgedi Ffansiol. Sleighs i Blant$1 00 a $1 50. •> Opera Glasses am brisiau isel. 6 o Lwyav Te, gwarantedig, ar fetel gwyn wedi ei orchuddio ag arian $1 00 3 o Lwyau Dessert eto. l 00 3 o Ffyrc Dessert eto 1 00 3 o Lwyau Bwrdd eto.. 100 3 o Ffyrc canolig 100 Cwpanau Plant, plated ar fetel gwyn. 1 00 Modrwyau Napkin [plated] 50 Modrwyau Napkin Arian 100 Castors, Chromos, Stereoscopes, Easels mewn vel- vet ac wedi eu goreuro. Drych 10x17, German plate, am $1 00. Drych 10x17, gwydr Americanaidd, am 75c. Drychau Llaw, Drychau Gwisgo, &c. Pellwydrau (Telescopes). Amrywiaeth mawr o Deganau Tin am haner y pris- iau arferol. Gostyngiad mawr i fasnachwyr yn y wlad. KS^X'ofler y Rhif.—133 Genesee St. 48-51 KiiliRcry! Millinery! Millinery! Foneddigesau! Deuwch ac archwiliwch etn nwyddau cyn prynu mewn lleoedd eraill. Yr ydym yn gwerthu VELVET HATS am 25c.: eto wedi en trim- io am 50c.,$1,$2 ac uchod Velvet Plumes, Biodau, Rubanau, &c., &c., am brisiau cyfatebol. CLOAKS! CLOAKS! CLOAKS! SJJITS SUITS SUITS Yr ydym yn cadw ar law yr amrywiaeth mwyaf o bob math o CLOAKS a SUITS o'r ft'asiynau diweddar- af, ani brisiau yn amrywio o$3 00,$4 Of),$5 00 ifyny hyd$40 00. Y r ydym yn Tori a Giuneyd Cloaks ar Archeb. Gwerthir hcfychldefnyddiau at Clocks a Dresses wrth y liath. Fur back, Spitzenbergen a Tufted Beavers, gyda Trimmings i gyfateb, gan G. D. LONGSHOIRE A'IGWI 57 FRANKLIN SQUARE, UTICA, N. Y. Masnachdy Cyfanwerth a Manwerth. Llyifrau Llyfrau NWYDDAU YSGRTFENU, &C. GILBERT & SALISBURY, 117 GENESEE STREET, UTICA, A gadwant y stock fwyaf o Lyfrau yn nghanolbarth New York. Cynwysa Feiblau o bob maint a phris. Llyfrau Ysgolion o bob math. Llyfrau Ilanesyddiaeth pob gwlad. Llyfrau Du'winyddol, &c. Amrywiaeth mawr o Lyfrau at wasauaeth Ysgol- ion Sul, a Llyfrgelloedd Ysgolion Dyddiol. Gweithiau yr holl Feirdd Seisnig o enwogrwydd, hen a diweddar. Y mae genym hefyd nifer mawr o bethau tlysion i'w rhoddi yn anrhegion Nadolig ac at "Christmas Trees." Yr ydym yn gwerthu yn rhad, ac y mae ein nwyddau o'r fath oreu. BENJ. D. GILBERT, WM. K. SALISBURY. 178 Genesee Street, Utica, N. Y. ANFONIR LLYFRAU I UNRBYW GYFEIRIAD GYDA'R MAIL AR DDERBYNIAD EU PRIS. DYMA Y FFORDD FWYAF HWYLUS I'B CYMRY I GAEL LLYFR- AU SEISNIG AR WAHANOL GANGENAU. 4ti DODREFN. Y CASGLIAD GOREU A RHATAF 0 DDODREFN 0 BOB MATH. Mattrasses a Phlu am brisiau is nag mewn un lie arall yn Nghanolbarth New York. JOHN A. DAVIES. 51, 52 a 53 Franklin Square, Utica, N. Y. Gyferbyn a'r Arcade newydd; a 39 Ileol Seneca. Its 11111, COR. PACIFIC AND KEARNY STS., SAN FRANCISCO, OALIF. 0. F. BECKER, PROPRIETOR. The Prescot House is a second class Hotel, but as good as any first class hotel in the city. Containing 110 fine commodious rooms. Everything new.. Quietest house in San Francisco. Has a fine coach running to and from all the Boats and Railroad-De- pots free of charge. 120- A favorite stopping place for respectable Welsh visitors. 41
[No title]
WARRIOR RUN, PA.-Mewn perthynas i'r gwaith yma, nid ydym yn cael gweithio ond ychydig. Nid ydym yn cael byth braidd waith Ilawn, ac nid wyf yn medd- wl y bydd i ni byth glirio ein gofynwyr, y rhai sydd wedi gwneyd eu goreu pan oedd- ym yn ymladd a'n harch-arglwyddi am saith mis; ac mae ynresyn na baem yn cael gwaith, fel y gallem eu talu, ac yr wyf yn gwybod, Mri. Gol., y buasai yn dda gan I eich derbynwyr pe buasai gwell amser yn dyfod, fel y gallent dalu am y DRYCH; ond byddwch ymarhous, cewchycwbl cyn hir; a diolch i chwi am eich caredigrwydd yn aros cyhyd wrthym yma. Mae pobl Warrior Run yn adfywio eto at y gauaf. Mrae yr Ysgol Dduwinyddol wedi cael ei hail ddechreu unwaith yn rhag- or, ac mae golwg lewyrchus arni; ond fel mae gwaethaf y modd, nid ydynt yn son dim am y cyfarfod llenyddol oedd yn arfer cael ei gynal y gauaf diweddaf; ac yn wir nis gwn beth yw yr achos na buasent yn ail gychwyn y cyfarfod bach yma, canys cym- erai llawer ran ynddo na byddai yn edrych yn dda iddynt wneyd dim yn yr Ysgol Dduwinyddol. Mae nhw'n dweyd mai gor- awydd am bysgod ydoedd yr achos i'r ddau gyfarfod fyned i lawr; ac os ydynt yn dweyd y gwir, mae yn ddigon pell erbyn hyn oddiwrtli amser pysgota, fel ag y gell- ir cael y ddau eto, Da genyf pe byddai i'n diaconiaid weled gwerth ynddo, fel ag y gallent roddi awgrym i'n pobl ieuainc i ddyt'od iddo, yn lie bod, fel mae nhw'n dweyd, nad ydyw ddim gwerth, gan nad ydyw Mr. —— byth yn rhoddi ei bresenol- deb ynddo. Gallaf finau ddweyd y gall llenyddiactli fod yn dda, er i'r personau hyny weled dim gwerth ynddynt; a char- wn weled y ddau gyfarfod, er lies y dynion ieuainc talentog sydd yma, canys mae yn resyn i'w talentau gael eu cuddio yn y ddaear, o herwydd diffyg ffyddlondeb yn ein diaconiaid.—Garwr Llenyddkceth.
YMOFYNIAD AM
YMOFYNIAD AM JOHN POWELL, mab y diweddar John Powell, gynt o Bontlotyn, Rhymni, swydd Morgan: wg. Clywyd ei fod yn rhywle yn y West. Y mae ei dad wedi cyfarfod a'i ddiwedd ar yr 8fed o'r mis presenol, yn agos i Minersville, Pa. Dymuna Wil- liam ei frawd arno ef, neu bwy bynag a ddichon fod yn gwybod rhywbeth o'i hanes, anfon nodyn yn ddi- oed i'r cyfeiriad a ganlynWILLIAM POWELL, Mi- nersville, Scnuylkill Cu., Pa. 48 /OHN E. ROBERTS; fy mab. Dyn sengl 32 oed, o brydwedd tywyll, gwallt du crychlyd, a llygaid duon, tua pum troedfedd a naw modfedd o daldra. Ymadawodd o Atwater, Portage Co., Ohio, yn Mai diweddaf. Pan y clywyd oddiwrtho ddi- weddaf yr oedd yn Maysville, Mich., ac yn cwyno o herwydd gwaelder ei iechyd. Ysgrifenais i'r lie a nodwyd, ond methais a chael gair o'i hanes. Gan ei fod yn adnabyddus a rhanau o Wisconsin oddiar pan y bu allan yno rai blynyddoedd yn ol, ac wedi bod yn fyfyriwr am beth amser yn ngholeg Ripon, tn- eddir fl i gredu ei fod wedi troi ei wyneb tuag yno eto. Os gwyr rhai o Gymry caredig Wis., neu Mich., neu rywun arall ryw beth am dano, bydd gair o'i hanes yn dra derbyniol gan ei dad. Cyfeirier— ESAY ROBERTS, Box 67, Salineville, Columbiana Co., Ohio. 48