Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
SsfSfgp^g- *± WB&JtLT JYJ&WS&jlT&n. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y. r
Y LILI OLAF.
Y LILI OLAF. Wele ael y lili olaf—yn drom ¡ O flaen drych y gauaf; f A'i gwyl wen, a'i gwisg lanaf, Lwyda ar ol blodau'r haf. Ac i rwymau'r clai, pengrymu-y mae- Mwyach nid yw'n gwenu; Gwelw yw'r ên, a gwen gu Ei thegwch yn gwaethygu. I wared at ei chwiorydd-yr a Yn rhwym i'r dinystrydd; Llwch y llan yn fuan fydd Eu gwely gyda'u gilydd. Lie trig y darfodediaaeth.— ni wel Un oes oruchafiaeth; Priodol, yn 61 a wnaeth, Ei alw yn farwolaeth. Hydeville, Vt. IONORON GLAN DWYRYD. -4
GWLAD Y SEINTIAU.
GWLAD Y SEINTIAU. LlytTiyr o Ddinas y Llyn Hallt- Carcharu p Proffwyd Brigham Ei 19eg wraig- Y prawf-Ei ryddhad-Brigham Young yn ben ar yr eglwys a'r llywodraeth wladol- Y Deml fawr- Yr addoliad- Yr ordinhad- Canoedd o Gymry- Y Llyn Hallt-Echrys- lonrwydd Mormoniaeth, &c. DINAS Y LLYN HALLT, Tach. 16, 1875.— Diau yr hoffai eich darllenwyr gael ychyd- ig o hanes y terfysg mawr fu yma yn ddi- weddar mewn cysylltiad a charchariad pen yr Eglwys Formonaidd a phrif Broffwyd ""Seintiau y dyddiau diweddaf," fel yr hoffant gael eu galw. Peth pwysig oedd carcharu proffwyd anffaeledig, drwy yr lawn y gwnaed llawer o wyrthiau; ac yr oedd y Seintiau oil yncredu y buasairhyw allu goruwch naturiol yn agor drysau y carchar, er gwaethaf swyddogion a milwyr Uncle Sam; ac y buasai yr Apostol Brig- ham Young yn rhodio yn wr rhydd, drwy heolydd godidog Jerusalem Newydd, Seint- iau y dyddiau diweddaf. Ond bu raid i'r apostol ymddarostwng i fod yn gaeth i'r ddeddf wladol, ac ni ddaeth yr un angel j'w waredu. Mae yn wir ei fod yn awr yn fhydd, a hyny yn unol a deddfau y Tal- aethau Unedig, yr hyn sydd yn profi fod y godinebwr mawr ei hun yn cael chwareu teg yn ngolwg y gyfraith. Cofir fod Ann Eliza Young, y bedwaredd ar bymtheg o wragedd Brigham Young, wedi rhoddi cyfraith arno am ysgariad, a thai blynyddol i'w chynal tra y bydd byw, o herwydd iddo ei gadael, a gomedd dar- paru ar gyfer ei hangenrheidiau bydol. Bu y prawf o flaen y Ilys yn \c yn mlaen dros amser maith; a chan fod\ Seintiau yn gwneyd gwahaniaeth rhwng amod priodas eglwysig a gwladol, honant nad oedd gan y gyfraith hawl i ymyraeth a phriodas eglwysyddol. Er fod gan Brig- ham Young tua thri ugain a phump o wragedd ysbrydol, ni phriododd ond un, yn ol telerau y ddeddf wladol. Nid oedd neb yn synu llawer fod y wraig Ann Eliza yn teimlo yn eiddigus, gan mai hi oedd y 19eg, ac felly yr oedd 46 o wragedd ieuang- ach na hi, yn hawlio serch a chariad y proffwyd. Bernir mai dyma oedd gwreiddyn y mater. Er syndod cyffredinol i bawb, yn Formoniaid ac yn genedloedd, rhoddodd y Llys ei ddyfarniad yn ffafriol i'r ordderch- wraig hon, a gorchymynwyd i'r proffwyd dalu iddi rhyw naw mil o ddoleri yn flyn- yddol, a holl gostau y gyfraith! Yr oedd dyfarniad o'r fath yn cydnabod cyfreith- lonrwydd a rhwymedigaeth y briodas ys- brydol a fu rhwng Ann Eliza a'r proffwyd; ac felly yr oedd Llys y Talaethau Unedig yn cyfreithloni amlwreiciaeth, gan mai hon oedd y bedwaredd wraig ar bymtheg, yn nhy yr apostol! Gwrthododd y diffyn- ydd a thalu yr arian, yn ol gorchymyn y Llys, ac am hyny taflwyd ef i garchar. Faint bynag o ddrygioni ac anlladrwydd sydd yn perthyn i Brigham, rhaid i bawb gyfaddef ei fod yn ddyn yn meddu talent- au ysblenydd, ac o ddealldwriaeth cyflym a chryf. Dywedodd y byddai yn sicr o gael ei ryddhan, wedi i'w achos gael ei ddwyn o flaen llysoedd uwch, ac felly y bu. Pan ddadleuwyd ei achos o flaen BarnYdd anmhleidiol oedd yn deall y gyfraith, rhydd- hawyd ef yn ddiatreg; ac mae yn dra theb- yg y bydd yn rhaid i Ann Eliza dreulio gweddill ei hoes, heb naw mil o ddoleri yn flynyddol oddiwrth Solomon y dyddiau di- weddaf hyn. Dyn mawr ydyw Brigham Young, ac nis gall neb ameu hyny yn awr, wrth edrych ar Ddyffryn y Llyn Halen, sydd fel gardd baradwysaidd yn bresenol; a'r ddinas fawr ysblenydd hon a ddygwyd i fedolaeth drwy offerynoliaeth y proffwyfi. Nid oedd yma pan ddaeth Brigham i'r lie ond diffaeth- wch erchyll, yn meddiant bwystfilodrheib- us; eithr heddyw wele dros gan' mil obobl yn y dyffryn. Mae Brigham Young yn rheoli pob peth yn y Nefoedd a'r Ddaear mewn cysylltiad a Mormoniaeth, a rhaid mesur a phwyso y cyfan yn unol a rheolau yr Eglwys. Hysbyswyd fod y proffwyd mawr ei hun i bregethu y Sabboth diweddaf am ddau o'r gloch, a phenderfynais fyned i'r Deml. Wel dyma Deml mewn gwirionedd, a'r ad- eilad mwyaf ardderchog ar y cyfandir hwn. Mae yn taflu pob capel ac eglwys arall i'r cysgodion yn llwyr. Dyma le i ddeng mil o bobl i eistedd yn gysurus i wrandaw preg- ethu yr athrawiaeth Formonaidd bob Sab- both! Mae y saerniaeth ar y deml yn fwy celfyddgar nag ar un adeilad arall yn y wlad; ac mae y nen yn gorchuddio mwy o lawr heb golofnau, na Thy y Cynrychiol- wyr yn Washington. Mae cynllun, medr, .cywreinrwydd a pherffeithrwydd celfydd- yd i'w weled yn adeilad y Deml, na welir yn un man arall. Ceir yma y crefftwyr goreu o blith y Cymry, y Saeson a'r Germaniaid; eithr nid llawer o Wyddelod a Ffrancod a geir yn eu plith. Mae yma ganoedd lawer o Gym- ry, yn enwedig o'r Deheudir, ac amryw o'r Gogledd-o Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Drefaldwyn. Aethum yn gynar i'r Demi, a chefais le i eistedd yn gyfleus i edrych oddiamgylch. I)echreu- odd yr organ chwareu nes llanw yr holl adeilad & swn taranllyd. Mae yr organ yn rhyfeddod ynddi ei hun, a'r fwyaf ar y cyfandir. Gallwn feddwl ei bod o 30 i 40 o droedfeddi o uchder. Canwyd hymnau, a dechreuodd yr apostol bregethu heb gymeryd ei destyn o un lie neillduol- Siaradodd ar bethau yn gy- ffredinol, gan j anog ufudd- j dod i'r deddf- i au, a lion gyf- j arch odd ei I bobl, nadi oedd yn eu j plith ddrwg-1 weithredwyr, 1 carchardai, a penydfeydd, t na thai try-I thyllwch. Ar g ol canu, de-1 chreuwyd cy-I franu yr or- |j dinhad o% Swper yr Ar- glwydd, a'r fath olygfa ni a'r fath olyg- fa ni welais erioea o r Dlaen, a thebyg na welaf byth. Yr oedd yno bentyrau mawrion o fara wedi ei falu yn fan-ddarnau; a chariwyd hwnw ar ddysglau mawrion, gan ddau neu dri dwsin o swyddogion eglwysig i'r ael odau, y rhai a gyfranogasant o hono. Wedi hyny gwelwn ddwfr glan grisialaidd, yn cael ei dywallt i gostreli pridd (jugs), yna rhanwyd hwnw i'r aelodau oil. Dy- wedodd y proffwyd fod dwfr gldii fel y daeth o law Awdwr natur, ac felly yn bur, ac addas i'w weinyddu yn yr ordinhad. Mae y cenedloedd yn defnyddio gwin yn Ilawn o alcohol meddwol, i ffugio cymuno. Hona rhai fod gwin anfeddwol yn bodoli, ond twyll ydyw hyny; canys mae ffrwyth y winwydden yn feddwol ar ol sefyll ych- ydig oriau. Dywedai yr apostol Mormon- aidd fod y Cenedloedd yn defnyddio gwin i gymuno am ei fod yn goch, ac felly yn debyg i waed o ran ei liw. Os dyna sydd eisiau, gwell iddynt ddefnyddio sudd y red beet! Cyfrenir yr Ordinhad bob Sab- j both yn y Demi, a chan fod y dorf yn j rhifo miloedd, cymerir amser maith i wneyd hyny. Ymddengys fod y Mormon- iaid yn addoli gyda difrifoldeb dwys iawn. Mae y Llyn Heli yn un o brif ryfedd- odau y byd ar amryw o ystyriaethau. Ei hyd ydyw 60 o fllltiroedd, ac mae o 25 i 30 o filltiroedd o led, a'i ddwfr fel y grisial, ond yn hallt. Mae dwy o afonydd mawr- ion yn rhedeg iddo, sef y Jordan a'r Bear, eithr nid oes yr un yn rhedeg allan o hono. Heblaw yr afonydd a nodir y mae llawer o ffrydiau o'r mynyddoedd yn arllwys iddo; ac ar dywydd gwlyb cyfytf amryw droed- feddi. Mae ei ddyfroedd yn mwgdarthu BRIGHAM YQUNG. mor fuan, fel y daw i'w wastadedd arferol mewn byr amser. Gall pob dyn nofio ar y llyn hwn; ac os eisteddir ar y dwfr ni suddir yn Is na'r breichiau, ond eto nid ydyw yn hawdd nofio, ynddo, o herwydd yr anhawsier i gadw y rhanau ysgafnaf o'r corff dan ddwfr. J Er fod llawer yn byw yn dda yn Utah, nid gwynfyd ydyw ar bawb, fel y dywed- odd Mr. Henry T. Williams, golygydd amaethyddol y New York Independent, yr hwn a dalodd ymweliad a Brigham Young, ac a gyhoeddodd ganmoliaetb iddo yn y papyr hwnw. Darfu i olygydd y Salt Lake Tribune, papyr gwrth-Formonaidd, adolygu gwaith Williams yn llym, a dangos ansawdd pethau yn wahanol. Dywedodd Williams fod y Cymdeithasau cyd- TEML FAWR SEINTIAU Y DYDDIAU DIWEDDAF. weithredol wedi talu 20 y cant, a diwallu y bobl a nwyddau rhad; ac na fu amlwreiciaeth yma er'sdwy flynedd. Darfu i'r dyn hwnw guddio y gwir er dyr- chafu Brigham Young, Mahomet mawr y Gorllewin. Ni soniodd am y gamlas a wnaed drwy ei orchymyn i gludo cerig at y Deml, yr hon, sef y gamlas, a gost- iodd i'r bobl$50,000; ond wedi ei gorphen caed allan fod y pen agosaf i'r ddinas yn uwch na'r llall, fel na redai y dwfr, hyd yn nod mewn ufudd-dod i orchym- yn proffwyd Seintiau y Dyddiau Diweddaf. Hefyd, ni Boniodd am y wal a wnaed i amddiffyn y ddinas, yr hon a gostiodd i'r bobl $35,000. Talasant hefyd $50,000 am wneyd factory siwgr, drwy orchymyn yr Arglwydd, ond ni thalodd yr Arglwydd sent byth yn ol i'r.trueiniaid. Aeth y cwbl yn golled. Dyna y Neuadd-dy ary Colorado, a gostiodd i'r bobl ugein- iau o filoedd, ac a oedd i'w gwneyd oil yn gyfoethog; ond yn awr gellir prynu cyfranau y sefydliad dwyfol hwnw am ddwy sent ar y ddolari Amser yn ol yr oedd Brigham yn llaw,yr arglwydd mewn modd neill- duol, a chafodd ddatguddiad fod Ymerodraeth y Seintiau i gyraedd o Diriogaethau Prydain i Mexico, ac yn 800 o fllltiroedd o led. Danfonodd amryw gwmniau o wyr ieuainc i Idaho, gyda gorchymyn oddiwrth yr Arglwydd iddynt briodi merchaid yr Indiaid, a'u dychwelyd yn raddol at y Seintiau; ond yn y cyfamser dychwelodd rhyw ychydig a ddiangas ant oddiwrth yr Indiaid, heb eu Ilofruddio. Felly ni flodeuodd Seion yn Nyffrynoedd Lemhi. Mae y sefydliadau a ddechreuwyd ar y Green Hirer, Sal- mon River, San Bernardino, Arizona, &c., oil wedi troi allan yn fethiant llwyr, er fod yr Apoetol wedi eu dechreu. Llofruddiwyd canoedd o ymfudwyr yn y dyffryn- oedd hyn er pan ddaeth y Mormoniaid i'r lie; a phwy a anghofla gyflaflan Mountain Meadow? Collodd tri chant o ymfudwyr eu bywydau tra ar eu ffordd o Fort Laramie i'r dyffryn hwn, drwy newynu a chael eu llarpio gan y bleiddiaid, eto yr oeddynt yn symud yn unol a gorchymyn yr Arglwydd, drwy enau ei broffwyd Brigham! Ewch i'r lleg Ward o'r ddinas hon, a chewch yno ddwy wraig o Loegr yn cerdded ar eu boncyffion, yn weddill coffawdwriaethol am ysbrydoliaeth Brigham Young; a dim ond 500 o ber- sonan wedi eu lladd neu eu gwneyd yn cripples am en hoes drwy speculation Brighamt Hefyd y mae yn cadw rhyddid ymadrodd, rhyddid y tugel a rhyddid y wasg oddiwrth y bobl. Mae moesoldeb y seintiau yn warthua yn ngolwg pobl eraill. Dyma ddynion yn ddigon gwrol i briodi eu mam-yn-nghyfraith, a'u merched-yn-nghyfraith hefyd! Hefyd y mae yma rai Seintiau yn byw gyda mam a thair neu bedair o'i merched, a'r cwbl yn wragedd i'r un dyn! Ië, mae yma Esgob uchel yn ngbymeradwyaeth Brigham, yr hwn sydd yn byw gyda dwy o ferched ei frawd, y rhai a rifir yn mhlith ei wragedd! Nid oes genyf amser yn bresenol i alw sylw at fathau eraill o anfoesoldeb yn mhlith y Mormoniaid. Ceir yma ferched ieuainc wedi eu gwneyd yn druenus am eu hoes—teuluoedd wedi eu dwyn i fyny mewn amlwreiciaeth, a'r plant wedi eu handwyo-pobl wedi eu hysbeilio ya enw yr Arglwydd, a'u dwyn i dlodi-y gweddwon a'r amddifaid a dwyllwyd o'u meddianau gan yr urdd a elwir "Trefn Enoch." Beth am y carcharorion a laddwyd gan y Navoo Le- gion, a'r gwylwyr a ysbeiliwyd o'u meddianau, yn nghyd a'r rhai a erlidiwyd o'r diriogaeth? Hefyd coflr am wragedd y Morrisiaid a laddwyd, o herwydd Iddynt sefyll yn erbyn rhoddi eu gwyr i farwolaeth; ac os bydd rhyw un yn awyddus am hanes manylach o anfadrwydd blaenoriaid Seintiau "y Dyddiau Di- weddaf, anfoner i swyddfa y Salt Lake Tribune." Dyna dystiolaeth person a ddylai wybod am amgylchiadau Utah. Wedi i ni gael amser i edrych o'm deutu a sylwi ar arferion y trigolion, dichon y bydd genyf rywbeth gwerth ei ysgrifenu i'r DRYCH. GOHEBYDD.
PYNCIAU Y DYDD.
PYNCIAU Y DYDD. Nid oes bnd pump ar hugain o flwyddi eto i ddod yn y ganrif hon, ond prin y gall neb ddychymygu maint a nifer y GWYRTHIAU NEWYDDION a gyflawnir eto ynddi cyn yr egyr y flwydd- yn 1900. Gwnaed pethau anhygoel ynddi yn ystod y chwarter hwn o honi sydd ar derfynu. Caf- wyd modd i fynegu new- yddion Llun- dain yn Chi- cago yn mhen dwsin o fyn- ydau ar ol iddynt ddig- wydd. Dysg- wyd sut i an- fon llongau mawrion dros dirSuez o Ew- rop i India. Ac yn awr sonir am droi Y DIFFAETH- WCH MAWR YN FOR! Mae cynllun yn awr yn cael sylw yn Ew- rop i wneyd Sahara mawr Affrica yn lie i bysgod a llongau nofio, trwy droi dyfroedd y Wer- ydd i lenwi yr anialdir sych, mawr, "gwag, erchyll" hwnw! A phwy a all fynegu beth fydd dylanwad hyny ar hin- sawdd ac ar sefyllfa wareiddiol a chrefydd- ol y gwledydd cylchynol ? Dymunol iawn hefyd yw gweled DARLITHIAU GWYDDOREGOL yn cael sylw y lluaws yn Mrydain ac yn y wlad yma. Dywedir fod miloedd yn gwrando ar Prof. Proctor yn traddodi ei ddarlithiau seryddol yn rhai o brif ddinas- oedd ein gwlad y tymor hwn. A thra y cyhoedda yr athraw poblog hwnw ei fod yn hollol gydsynied It Tyndall a Spencer o barthed i greadigaeth trwy ddadblygiad (evolution), da genym hefyd ei fod yn eglur dystio nad oes dim mewn syniadau gwydd- oregol felly yn milwrio yn y radd leiaf yn erbyn crefydd bur-ond y dichon i'r syn- iadau hyny fod yn gynorthwyol i'r addol- iad goreu o Dduw, a'r moesoldeb puraf yn mysg dynion. Nid oes achos i neb ofni y bydd i archwlliadau i weithredoedd dwy- law Duw arwain neb i ameu bodolaeth y Creawdwr, na dyledswyddau moesol dyn- ion. Pa faint bynag o naturioldeb, ac o gysylltiad rhwng achosion ac effeithiau a ganfyddir gan ddynion fel Tyndall, Dar- win, a Hnxley, yn holl ryfeddodau a new- idiadau y byd anianyddol, diau y bydd yr Achos Mawr Cyntaf o'r cwbl yn ddirgelwch hyd byth i ddynion ar y ddaear. Ac hefyd y pery dynion i edmygu ac addoli y Dirgel Achos Hwnw tra byddo natur ddynol yn bod. Yn wir, nid oes neb parotach na'r gwyddorwyr hyn i gydnabod gyda gwyl- der dwys fodolaeth y fath ddirgelwch add- oladwy. Cydnabyddant, gyda'r enwogion gynt, nas gallant wrth chwilio "gael gafael ar Dduw "-ei fod uwchlaw eu deall hwy. Mae tuedd naturiol mewn darlithiau fel yr eiddo Prof. Proctor i eangu syniadau dyn- ion am ryfeddodau Duw. Engraifft, para draetha yn nghylch GENEDIGAETH A MARWOLAETH Y DDAEAR;: Dengys fod y blaned hon sydd yn gartref i ni yn bodoli filiwnau o flwyddi cyn i un- rhyw beth byw ymddangos arni. A bod tebygrwydd sydd agos yn sicrwydd y chwyrnella yr hen ddaear yma am filiwnau lawer o flwyddi eto ar ol iddi ddyfod yn fynwent hollol, pan na bydd modd i un- rhyw beth fyw am fynyd arni. Cyfrifa. gwyddoregwyr nad yw oes fyw y ddaear ond megis mynyd, o'i chydmaru a'i hoes ddifywyd. Ac 0, mor fychan yw cyfnod hanesyddol dynion o ychydig flwyddi, mewn cydmariaeth i'r hyn a dystia Anian am oes greadigol Duw! Yn ol tystiolaeth y bydysawd, mae cryn lawer o debygrwydd na bu dechreuad, ac na bydd diweddiad i waith creadigol yr Hwn a breswylia dra- gywyddoldeb." Maddeuer i mi am ychwanegu gair neu: ddau yn nghylch GWYLDER GWYDDOREGWYR, a'u parodrwydd i addef byehander eu gwy- bof.a.vth, Tystia Prof. Proctor nas gall efe- na noli seryddwyr y byd ddeall ond y nes- af peth i ddim am ameanion mawrion Duw yn ei weithredoedd. Er engraifft-ym-- ddengys fod ein haul ni yn gwasgar mwy o oleuni a gwres nag sydd ddigonol i ang- enion y Solar System hon, a hyny gant a deg ar hugain o filiwnau o weithiau! Hyny yw, mai un ran o 130 millions o wres a gol- euni yr haul a dderbynir gan holl blanedau a Ileuadau y cysawd hwn. A bod yr holl filiwnau eraill o ranau y goleuni a'r gwres aruthrol hwn yn ymddangos i ddeall byr dynion fel gwastraff! Ond, chwedl Proc- tor, pwy sydd ddigon deallus i fedru dweyd nad oes amcanion i'r gwres a'r gol- euni heblaw a allwn ni ddirnad yn awr?- Dynion fel Newton a Humboldt a Her- schel a Tyndall a Spencer a Proctor, sydd barotaf o bawb i ddywedyd gyda'r Apostol Paul, fod ffyrdd Duw yn anolrheiniad- wy." A phan gyhuddir y dynion o wadu Duw, ac o ddiffyg ysbryd crefyddol, mae yn rhaid fod ganddynt "ras mawr" i beidio gwylltio wrth eu camgyhuddwyr. A pha bryd bynag y ceir yr enwogion hyn yn ddi fater am syniadau culion dynion anwybod- us yn nghylch crefydd, nid yw hyny mewn un modd yn profi fod y fath ddynion yn ddigrefydd, mwy nag y profa dirmyg Pro- testant o ddefodau Pabaidd, fod y Protest- ant hwnw yn ddigrefydd. Diau mai FEL Y BYDD Y DYN Y BYDD EI DDUW. Os bychan a chrebychlyd a chnawdol fydd dyn, Duw bychan a chrebychlyd a chnawd- ol fydd ganddo. Ac os eang a dyrchafed- ig ac ysbrydol ei syniadau fydd dyn, Duw felly fydd ei Dduw. Nid Duw yn ol syn- iadau bachgen anifeilaidd, dwl, oedd Duw dyn fel Dr. Chalmers. Ac nid Duw yn ol syniadau rhai o honom ni dduwinyddion bychain gwasaidd, yw Duw dynion sydd yn dknad mil mwy na ni am weithredoedd diderfyn yr Anfeidrol. Dichon i ddyn fel Tyndall wadu bodolaeth Duw yn ol fy nghredo bach gwyrgam i, ac ar yr un pryd yn addolwr gwir Dduw sydd fil rhagorach na fy nghredo goreu i yn nghylch Duw.- Ac er mwyn gochel camgymeriadau, mae rhai dynion enwog wedi gomedd galw eu Dnw yr un enw ag y mae dynion llai na hwy wedi arfer wrth son am eu Goruchaf; er ar yr un pryd fod y fath ddynion a gyf- rifwyd yn Atheistiaid, yn gredinwyr dif- rifol mewn Duw ardderchocach nag a add- olid gan y cyffredin. Pwnc go fawr yw hwn-Beth yw y syniad ardderchocaf o Dduw yn mysg dynion heddyw? Dyma un o bynciau pwysicaf y dydd. R. L. HERBERT.