Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
ADRAN Ml. PWffS.I
ADRAN Ml. PWffS. I Gwialen i Gafn yr Ynfyd. Haner Gair yn ddiaron i G-all. < PENSTLIAID NEWYDDIADUROL. Mae Mr. Pwns yn ei yrfa drwy y byd wedi cyfarfod a llawer math o benbwl. Tra yn ieuanc, credai nad oedd y penbwl i'w gael, ond mewn pyllau o ddwfr llon- ydd ar finion y ffyrdd, a gogleisiwyd ei gywreinrwydd lawer gwaith tra yn edrych ar y penbyliaid yn ysgwyd eu cynffynau, wrth wibio yn ol ac yn mlaen drwy y dwfr. Nid hir, pa fodd bynag, y bucyn cael allan fod llawer iawn o benbyliaid deudroed ar y ddaear. Mae y rhai hyn bob amser yn awyddus am roddi eu bysedd mewn busnes na pherthyn iddynt. Tybiant eu hunain yn alluog i lanw unrhyw swydd; a rhyw fodd neu gilydd y maent yn hoff iawn o eistcdd mewn cadair olygyddol. A chym- eryd yn ganiataol fod rhai yn cael eu geni yn benbyliaid, ac yn mynu bod felly ar hyd eu hoes, nid peth eyffredin ydyw fod neb yn cael ei eni yn olygydd newyddiad- ur, a pliin ysgrifenu ar ei glust; neu yn deiliwr, a nodwydd ddur yn ei law, a gwniadur am ben eifys; neu yn gyfreith- iwr, doctor neu bregetliwr; rhaid my ned yn brentis i ddysgu y galwedigaethau uchod, drwy hir ymarferiad. Ond er y cwbl ceir ami i benbwl yn neidio i'r gadair olygydd- ol o'r gweithdy, o swyddfa y cyfreithiwr, o fysg poteli yr apothecari, neu o'r maes oddiwrth yr aradr, y gaib a'r rhaw, lie y treuliasant y rhan helaethaf o'u hoes. Mae y rhai hyn yn credu y gallant drawsnewid eu, hunain wrth eu hewyllys, i fod yn olygyddion perffaith heb addysg nac ymar- feriad. Yn y dyddiau hyn, os bydd gan ddyn arian a swm da o hunanoldeb, a digon o anadnabyddireth o hono ei hunan, bydd yn debyg iawn o dreio ei law gyda newydd- iadur. Nid yn ami y mae dynion yn ddigon penbylaidd i fyned yn gryddion, yn seiri, yn ofaint, neu yn oriadurwyr, heb brentis- iaeth ac ymarferiad; ond neidir ar un- waith yn olygydd newydd spon, all ready ,,y made! Os nad ydyw y fath haerllugrwydd yn brawf o benbyleiddrwydd, nid ydyw Mr. Pwns yn gwybod am ddim arall a brofa hyny; oblegid y mae pob golygydd z, gwir alluog o fewn y wlad, wedi gwasan- aethu blynyddoedd meithion i gyfaddasu ei hun. Mae yn hawdd adnabod y penbwl, er iddo ffugio y cymeriad golygyddol. Wrth euffrwythau (papyrau salw a dienaid) yr adndbyddir hwynt. -8t
ATIIRONWYR PENBAWD.
ATIIRONWYR PENBAWD. Mae rhyw swyn hudolus yn yr enw athronydd, ac mae cynifer yn bedyddio eu hunain a'r enw hwnw yn awr, nes ydynt yn byddaru Mr. Pwns yn lan; ac mae rhai o honynt wedi cael testyn wrth eu bodd i draethu arno, ar ol i'r blaned Gwener fyned mor hyf a chroesi gwyneb yr haul. Dy- wedant yn awr ein bod yn cyflymu tua'r haul, yn ol tystiolaeth Gwener; ac y bydd- wn yn twymno ein traed a'n dwylaw ar ei wyneb tanllyd yn mhen 1440 o flynydd- oedd. Dyma newydd da i drigolion Can- ada a Minnesota; canys ni raid iddynt ofni rliewi eu trwynau, eu clustiau a bodiau eu traed. Ond y mae un athronydd Cymreig wedi darganfod nas gall hyny gymeryd lie. Er fod y ddaear yn hunan-symudydd hyd y perihelion a'r aphelion, rhaid i awdwr natur redeg i'w dal rhag iddi fyned i'r haul o un pwynt, neu redeg i ffwrdd i'w chrogi o'r pwynt arall! Onid ydyw athroniaeth pen bawd yn fantell ardderehog i guddio an- wybodaeth o ddeddfau Kepler a Newton? Dyma athroniaeth yr athronydd diweddaf hwn: -Y mae hyn yn ein harwain i ddysgwyl y gwnai y ddaear barliau i redeg at yr haul wedi cyraedd y perihelion—neu yr agos- rwydd y mae ato y dydd byraf; ac o'r tu arall, y gwnai barliau i ddianc rhag yr haul wedi cyraedd apheMon—neu y man pellaf oddiwrtho hir ddydd haf. Ond yn lie hyny, wedi i'r ddaear gyraedd man neill- duol yn ei liagosrwydd at yr haul, declireua ymbellhau oddiwrtho; ac wedi myned i bellder neillduol, declireua ddychwelyd eil- waith.—Nis gwyddom am unrhyw ddeddf mewn natur yn meddu ar allu deublyg croes i'w gilycld; o ganlyniad, rhaid i ni gydnabod ymyriad uniongyrchol Duw." Onid buddiol fyddai cael ar dcleall yn mlia le y cafodd y ddaear y gallu hwnw a'i cipiai i l'fwrdd, oni bai "ymyriad union- gyrchol Duw?" Ai rhyw beirianwaith an- mherffaith ac anglielfydd ydyw y dosbarth heulawg, weithiau yn myned o hono ei hun, a phryd arall yn ufuddhau i "ymyr- iad dwyfol?" Ystyrid unrhyw beiriant celfyddydol, megis agerbeiriant neu awr- lais, yn dra anmherffaitli pe byddai raid i'r awdwr redeg ato bob hyn a hyn o am- ser, i'w roddi yn ei le, a'i ail gycliwyn. Byddai hyny yn fwy o anfri i'r awdwr nag o glodforedd. Ond waeth tcwi, rhaid i'r byd gael athroniaeth penbawd, ac mae digon yn barod i'w. chyfranu, y dyddiau hyn, fel yn yr amser a aethheibio.
PIGWS MALI 0 VERMONT.
PIGWS MALI 0 VERMONT. We], Vir. Pwns anwyl, a Judi eich gwraig, Cewch dipyn o hanes dewr feibion ygraig; Mae'n anodd cael tatws, na chabaits, na phorc, Yw cwynfan cliwarelwyr Vermont a Nev, York; Dim son am ymenyn—da cael bara syeh, A'r bil heb ei dalu yn swyddfa y DRYCHj Er hyny a phobpeth, fe gawsom ni wledd Lenyddol ragorol heb ddiweinio'r cledd; Eisteddfod yr Undeb Nadolig, wrth gwrs, Bil rhai yn bur flodns i lenwi eu pvvrs. Traethodwr rhagorol, fe cura nirw i gyd, Yw'r dyn Middle Granville, 'n enwedig am hyd, 'Roedcl pedwar yn cario ei draethawd i'r post, Ond druan o hono-ni thalodd y gost. A chyn y Nadolig 'oedd un o Fairliaven Am gario y gwobrau i gyd ar ei gefn, Na wnae o ddim cynyg bytli eto mor sly Yn 'Steddfod fach hono y Fourth o July; Ond O! er ei ond, ni chafodd ond un, Gobeithio ei fod yn ei haeddu ei hun; Ond beth am ei "Lythyr at Tweed," aetli yn foed, I lynclyn difancoll fel yntau i'r coed. Ond I-r er gwacthaf y ring gafodd rai, Os cadd o nhw'n onest 'doedd arno fawr fai; Ond gwell fyddai iddo fo ofyn i'w ffrynd, I b'le mae rhai gafodd o i gyd wedi mynW Eleni mewn difri ble'r aeth It-d 0., Fe glywais ei fod o yn lilain o'i go, Aeth J r ac O-g o'i flaen ar y Dwr, 'Ran hyny mae R-d yn myn'd yn hen wr. 0 ie, fe'i cafodd gan G-111 yn lan, Mae G-m yn fistar ar bawb am y gan; Ac am y dadganu mi glywais fod G-n Yn dysgu Cor newydd, un gwell na Cor Llan; Ond gwell i mi dewi, dim rhagor o stwns Tan welai chi eto, ynte Mr. Pwns. BAIIDD GWICHIAD.
FFEITHIA U AC A WGRTMIADA…
FFEITHIA U AC A WGRTMIADA U. Awgryma Sioncyn" mai yr achos ei bod hi mor dywyll ar y Gwerinwyr yn yr etholiad diweddaf yn swydd Washing- ton, N. Y., oedd, fod yr Haul wedi troi i'r ochr arall. Er pan ddechreuodd yr amser caled yn Nevada, y maent wedi codi y pris am ladd Chinead i saith dolar! Y mae Wil Bili Ffwdan yn brysur ysgrifenu traethawd ar "Ddefnyddiolcleb Cynffon," a chan ar Y ffolineb i fechgyn ieuainc ddynwared corn simdde wrth smoc- io." Y mae Wil yn gynghorwr heb ci fath. Daliwell sylw. "Peidiwch a declireu meddwl, Heb weithio myn'd yn fawr; Mae'n anliaws dringo i fynu Na dringo ar i lawr. Peidiwch a dechreu caru, Os mynweh fyw'n hen lane; A pheidiwcli dechreu canu, Neu'n siwr mi ewch ar stranc." —Rhydderch. .Dywedir fod cynffonau yn gwerthu yn llawer uwch na phenau mewn llawer ar- dal y dyddiau hyn: am fod mwy o'u heis- iau ar strike .Mae Mr. Pwns wedi derbyn goheb- iaeth o'r Ddinas Fyglyd yn dwyn y teitl "Goruchwyliaeth y Johnis;" ond erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth, creda mai gadael y pwnc yn llonydd yw y doethaf. Rafflo hen gaseg goch a hen drol mewn saloon," oedd un o bechodau Cymro ar nos Galan, mewn lie heb fod gan mill- dir o St. Louis. A dywedir i ni fod diacon perthynol i'r Hen Gorff yn cymeryd cryn ddyddordeb yn y raffle, ac yn cynorthwyo gwr y ty i elwa ar y drinks. Priodol, gan hyny, y gofyna ein gohebydd, "Pa le y mae rheolau y M. C., mewn perthynas i hapchwareuon llygredig? A ydynt o dan glo?" Am y tro, cymerir trugareddar ber- clienog y gaseg goch, ac ar y Cymry a bryn- asant docynau erbyn y "noson lawen;" ond os clyw Mr. Pwns am amgylchiad cy- ffelyb bydd iddo argraffu enwau y pechad- uriaid mewn llytliyrenau duon, eglur- Haner gair i gall." .Desgrifiad campus or rliagrithiwr yw hwn. Yr awdwr yw R. P. Williams, Pittsburgh, Pa.: Gwr a'i don yn araf deg—a'i agwedd Yn egwan bob adeg; Moli'r gwir y'mol ei geg Chwyno er twyllo chwaneg. Hynod, 'does ond dodi' hwna-mor ddwl A meddwl fod nina Heb ddeall ei ddichell? na, Hana o'r d-l liyna. Dy nodau gau annedwydd-wnant dy frad A'th fwriad fe dderfydd; A thrall od yn bod y bydd I boeni dy enaid beunydd. YSGOLHEIGES GLASOROL.—Aeth y ffraeth- bert Sidney Smith un tro i ymweled a bon- eddiges uchelfrydig a chlasurol ei haddysg, a gofynodd iddi a oedd yn mlilith ei blod- au Septe/miispsoriasis. "Nac oes yn awr; rhoddais ef y gauaf diweddaf i Arclxesgob Canterbury, a tharddodd allan yn arddereh- og yn y gwanwyn," oedd ei hatebiad.— Septennis psoriasis ydyw enw meddygol yr Ymgrafu saith mlyneddol! LLYMAIP YN DDIKG':L.—Un noswaith yn lied liwyr dychwelodd Mr. —— o'r cyfar- fod dirwestol, a chan fod pawb wedi myn- ed i orphwys, yn ol ei dyb ef, penderfyn- odd gymeryd llymaid yn ddirgel; ond y mae yn debyg iddo gymeryd amryw, canys clywid ef wrth fyned i'w wely yn canu y penili canlynol: Little drops of toddy, Little grains of spice— Don't they make a body Feel so awful nice."
Family Notices
a ANnY D LEwrs-Rbagfyr 24, yn Coalburgh, 0., merch i Mr. Evaii Lewis a'i briod; gelwir ei henw hi Hannali. BRIO I) WYI)— CRAIG—-POWELL.—Hydref 38, yn nhy E. Griffiths, Ysw.. Cae Hope, Bark Kiver, Wis., gan y Pciveh. John Williams, Genesee, Waukesha, Mr. Cassias M. C. Craig a Miss Mary Powell. PAIIRY—WILLIAMS—Rhagfyr 30, yn nhy Mr. William D. Williams, tad y brlodasferch, Gene- see, swydcl Waukesha, Wis., gan y Parch. John Williams, Mr. James J5. Parry a Miss Winifred Wil- liams. Paradwys yw p iodi—un asen Oedd yn eisian ar Parri; Anrhydeddus yw hyny;— Diamheu yn awr-dyma hi. DANIEL JAMES. DAVIES—HUGHES—Ion. 6, yn iiliy y brlodasferch, Mr. a Mrs. li. C. Davies, Judson, \finue., gan y Parch. W. M. Jones, Mr. John M. Davies, o St. Paul, a Miss Libbie S. Hughes, mercli l'r diweddar Barch, John Hughes, Nant, N. Y., u chwaer y Parch. D. Hughes, Hangor, LaCrosse, Wis. WAT KIN—JONES—Ionawr 14, yn nhy rhieui y briodasferch, John D. ae Elizabetii Jones, gan Prof. t\ O. Marsh, Demiison Universith, John Watkin, M. D., a Miss Julia Hannah Jone*, oil o Granville, Ohio. MARKS—SNYDER—Ionawr 15, yn Nanti- coke, Pa., gan y Parch. J. P. Harris, Mr. Daniel F. Marks a Jennie Snyder, ill dau o Wilkes-Barre. OWENS—ROBERTS—Ionawr 9, yn Chica- go, in., gan y Parch. Moses Williams, yn ei dy ei hun, Mr: Griffith M. Owens a Miss Jane Ann Rob- erts, ill dau o Chicago.* MORRIS—DAVIES—Yn Picatonica, Wis., gan y Parch. John Davies, yn ei dy ei hun, Mr. John Morris a Miss Eliza Davies. THOMAS—HUGHES—Yn Picatonica,Wis., gan y Parch. John Davies, yn ei dy ei hun, Mr. Wil- liam Thomas a Miss Jane Hughes. EVANS—DAVTES—Yn Picatonica, Wis., gan y Parch John Davies, yn ei dy ei hun, Mr. John Evans a Miss Margaret Ann Davies. .JONES-JONES- Yn Picatonica, is yn nhy tad y briodasferch, gan y Parch. John Davies, Mr. John 1.1. Jones a Miss Jane Jones. FRANCES—MEYRICK—Ionawr 9, yn Ma- hanoy City, Pa., gan y Parch. W. D. Thomas, Mr, Phillip Frances a Miss Annie Meynck, y ddau o'r He uchod. LLOYD—BEVAN—Ionawr 11, yn Ma- hanoy City, Pa., gan y Parch. W. D. Thomas, Mr. Evan Lloyd a Mrs. Mary Bevan, y ddau o'r lie uchod. POWELL—LLYWELYN—Rhagfyr 24, yn Mahanoy City, Pa., gan y Patch. W. D. Thomas, Mr. James Powell a Miss Annie Llywelyn, y ddau o Shenandoah. BIT F-I B IV- LEWIs-Ionawr 1, Mrs. Lewis, anwyl briod Mr. David Lewis, o ardal Fish Creek, Wis,, ar ol dau ddiwrnod o gystudd trwm, sef clefyd y galon, yn 42 mlwydd oed, gan adael priod yn nghyd a naw o blant yn amddifaid I alaru eu colled ar ol priod a mam dyner, gofalus a chrefyddol. Claddwyd ei rhan farwol wrth gapel yr Annibynwyr yn y lie uchod, lie y bu yn aelod ffyddlon am lawer o flynyddoedd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. H. M. Pugh, O. Jenkins a D. Hughes. M. C. JENKINS. JONES—Rhagfyr 19, yn Milwaukee, Wis., yn 28 mlwydd oed, Mr. Morgan Jones, o'r gastric fever a'r dysentery. Cafodd gystudd trwm am bed- air wythnos. Claddwyd ef dranoeth, pryd yr heb- ryngwydei weddillion gan dyrfa luosog, gyfeillionac eraiil, i'r gladdfa yn Forest Home. Gweinyddwyd wrth y ty ac wrth y bedd gan y Parch. Mr. Case, gweinidog y Wesleyaid Saesneg yn Fondulac, Wis. Brodor oedd o blwyf Cwmystwyth, D. C. Daeth i'r wlad hon tuag wyth mlynedd yn ol. Gudawodd wraig i alaru ei cholled ar ei ol-ni buont yn briod ond tua blwyddyn a chwe mis. And now I sit so still and sad, 'Tis more than I can bear; My evening meal I eat alone, For thou, thou art not there." J. LL. DAVIES.
YMOFYNIAD AM
YMOFYNIAD AM DAVID JONES, yr hwn a adawodd Rock- wood, Tenn., yn Awst diweddaf. Dyn tua a1 oed ydyw, o ymddangosiad tywyll, gyda chraith ar ei wefus, a danedd lied fawr. Mesura 5 troedfedd a 7 modfedd. Diang- odd oddi yma, gyda gwraig Henry C. Davies a dau o blant, a'r hanes diweddaf a gafwyd am danynt oedd o Herlington, Ky. Enw y wraig yw Margaret, dynes 28ain oed; oedran y bachgen yw 10, ae eiddo y ferch 8. Bydd gair o'u hanes yn dra derbyniol gan Henry C. Davies, neu Richard Francis, Rockwood, Roane Co., Tennesee. 4. 75 EVAN F. MORGAN, neu fel y gelwir ef gan rai Frank F. Morgan, mab Hopkin Morgan, Carbondale, Pa. Dyn tnag 28ain oed yw, gyda gwallt goleu a llygaid duon; a'r lie y clywyd oddiwrtho ddiweddaf oedd o Paris, 111., yn mis Mawrth 1874. Teimla ei dad yn bryderus yn ei gylch, a bydd yn ddiolchgar am air o'i hanes. Cyf- eirier Hopkin Morgan, Carbondale, Luzerne Co., Pa. 5. 75
Advertising
The AMERICAN NEWSPAPER DIRECTORY is an epi- tome of newspaper history. It is also regarded as an official register of circulations. This feature, re- quires the closest scrutiny to prevent it from lead- ing to abuses. The plan, adopted by the publishers of the DIRECTORY, to secure correct and trustworthy reports, is rigid in its requirements and adhered to with impartiality. Successful publishers, who have something to gain by a comparison, are generally prompt, not only to send reports in conformity, but give Messrs. George P. Rowell & Co. such informa- tion as enables them to weed out unsubstantiated statements of pretenders in journalism. The popu- larity of the book, and the general confidence in its accuracy and good faith are attested by the immense body of advertisements it receives. A NERCHIAD ARNOLD & GRIFFITHS, I'W CWSMBRIAID. Dowch yn awr gyd-ddinasyddion, Rliowcli wrandawiad ar ein can. Can's nyni, yn wir, yw'r cryddion Fedrwn foddio mawr a man. Pwy ar wyneb daear, fedr Wneyd esgidiau fel nyni?— Cystal gwaith a chystal lledr, A rhagorion arnl-ri' ? A'n botaspti!-maent yn swynol, Ac yn gwir deilyngu serch, Ac y maent yn dra phriodol Er mwyn enill cariad merch. Gall teilwriaid a chyfreithwyr, Ac amaethwyr dewr ein gwlad, A doctoriaid doeth, a theithwyr, Yma gael botasau rhad. Dyma'r He i'r gwragedd glanwaith Gael esgidiau o bob rhyw: Ac os prynant yma unwaith, Yma prynant tra b'ont byw. Y mae genym ni helaethrwydd 0 esgidiau hardd i blant; Gallem flitio'r oil yn ebrwydd Pe b'ai genych haner cant. Nid y'm ni am ddweyd celwyddau Wrth un dyn o fewn y wlad I hyrwyddo gwerthu'n nwyddau- Ond yn wir y maent yn rhad. Brysio wnaed yr hyfryd foreu Pan ddaw pawb, yn dorf ddi-ri', I bwrcasu'r nwyddau goreu- h Sydd i'w gwerthu genym ni. Store Boblogaidd Botasau ac Esgidiau ARNOLD & GRIFFITHS, 10 BLEECKER ST., UTICA, N. Y. Telir sylw neillduol i Fotasau Qw&twm Bon- eddigemu a Boneddigion. Yr eiddoch yn gywir, ARNOLD & GRIFFITHS, 10 Bleecker St., Utica, N. Y. CAMBRIAN HOTEL, ;4 LIBERTY STREET, UTICA, N. Y. Ysiablau, Sheds, Gicair, Ceirch a■ digonedd o le i Weddoedd, Geffylau, &e. Dymuna Seth Lloyd roddi ar ddeall i'r Cymry yn mhob man, ei fod newydd wella yr Hotel ysblenydd uchod, ychydig o ddrvsau i'r gorllewin o'i hen dy, ac y mae yn barod yn awr i roddi pob cymwynasau aneenrheidiol i wneyd ymfndwyr a theithwyr yn gy- nfílS" Dealled y ffarmwyr fod ganddo ystablau ar- dderchog, a chant bob peth a ddymunant. Cedwir ar law yn barliaus y CWRW GOREU, her. a newydd, a gwirodyddo bob math. J" fl^'JOperday. Agents wanted. All class- 40D III <)ZU es of working people of bo h sexes, young and old, make more money at work for us, in their own localities, during their spare moments, or all the time, than at any thing else. We offer em- ployment that will pay handsomely for every hour's work. Full particulars, terms, &c.. sent free'. Send lis your address at once. Don't delay. Now is the time, Don't look for work or business elsewhere, until you have learned what we offer. G. STINSON & Co., Portland, Maine. A I>VEEfTIS8N< Cheap: Good; Systematic. I All persons who contemplate making contracts with newspapers for the insertion of advertisements, should send 25 cents to Geo. P. Rowell & Co., 41 Park Row, New York, for their PAMPHLET-BOOK (ninety-seventh edition), containing lists of over 2,000 newspapers and estimates, showing the cost. Ad- vertisements taken for leading papers in many States at a tremendous reduction from publishers'' rates. GET THE BOOK. NEW YORK THIBUNE. The Leading American Newspaper. THE BEST ADVERTISING MEDIUM. Daily,$10 a year. Semi-Weekly. $3. Weekly,$2. POSTAGE FREE TO THE SUBSCRIBER. Specimen Copies and Advertising Rates Free. Weekly, in cclubs of 30 or more, only $1, postage paid. Address THE TRIBUNE, N. Y. 2-12'75 E. O. JONES & CO., RHWYMWYR LLYFRAU 0 bob math. Paper Boxes, Blank Books, &c., Yn cael en gwneyd ar archiad. 166 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. (Stewart Block.) D. S.—Y gwaith o'r fath oreu, ac am y prisiau mwyaf rhesymol. 475 PROSPECTUS OF THE New York Weekly Herald. JAMES GORDON BENNETT, PROPRIETOR. BROADWAY AND ANN STREET. POSTAGE FREE. Annual Subscrption Price$2.00. CLUB RATES. Three Copies, pea annum 5 Five Copies, 8 Ten Copies, 15 Tweny Copies, 25 An extra copy will be sent to every club of ten or more. Additions to clubs received at clnb rates. These rates make the WEEKLY HERALD the cheap- est publication in the country. Terms cash in advance. Money sent by mail will be at the risk of the sender. A generous portion of the WEEKLY HERALD will be appropriated to Agriculture, Horticulture, Flori- culture, Pomology and the management of domestic animals. Particular attention will be paid also to the Reports of the Markets. The aim will be to make the WEEKLY HERALD su- perior to any other agricultural and family newspa- per in the country. Every number of the WEEKLY HERALD will con- tain a select story and the latest and most important news by telegraph from all parts of the world up to the hour of publication. During the session of Congress the WEELKY HER- ALD will contain a summary of the proceedings and the latest news by telegraph from Washington, Po- litical, Religions, Fashionable, Artistic, Literary and Sporting Intelligence; Obituary Notices,, Varieties, Amusements, Editorial Articles on the prominent topics of the day, a review of the Cattle and Dry Goods Markets, Financial and Commercial intelli- gence and accounts of all the important and inter- esting events of the week. The price of subscrip tion, whenever practicable, should be transmitted by Post Office Orders. It is the safest mode of transmitting money by mail. At small Post Offices in the country where Post Office Orders cannot be obtained, money may be re- mitted in Registered Letters. Advertisements, to a limited number, will be in- serted in the WEEKLY HERALD. THE DAILY HERALD. POSTAGE FREE. Annual Subscription Price$12.00—Always in Advance. Write the address on letters to the NEW YORK HERALD, in a bold and legible hand, and give the name of each subscriber, of Post Office, County and State so plainly that no errors in mailing papers will be liable to occur. 4'75 QRIEL CELFYDDYD J. B S ill I T 11, Yn ol i'w Hen Brif Safle, NO. 56 GENESEE STREET. Marble Block, Utica, N. Y., Lie y bydtyn dda ganddo weled ei holl hen gwsmer- iaid, a chynifer a rai newyddion ag allant alw. YR YDYM YN BAROD* I WNEYD Y GWAITH GOREU. Ail dynir hen Negatives yn rhad. Nid ydym yn cadw neb ond gvveithwyr profladol. Yr ydym yn gwneyd Lluniau i'w Paentio ag Indian Ink neu Crayon, LLAWN FAINT, y rhai a weithir mewn Ink, neu Liwiati, yn ol y dymuniad. 23?" Yr ydym yn tain sylw neilluol i gopio hen Luniau, neu Gerfiadau, Cerfluniau, Cynllitniau nen Ddarluniadau. Pob maintioli o'r mwyaf i'r lleiaf, Berlin Heads, Rembrants, Cameo Medalions a Vignettes. Minette, Card Pictures tlws,$1 (M y dwsin. Pedwar o Bon-Tons prydferth (ar alcan) am 50 cents. Yr ydym yn gwneyd Haul Luniau, ac yn Copio i Werthwyr. Amrywiaeth o Fframiau ar law. Gwneir Fframiau i lanw arehiadau. Os oes arnoch eisiau gwaith da a rhas, gahych i'w gweled. Yn awr ydyw yr yr amser i gael Fframiau i'ch holl Ariuniau. 2 74tf J. B. SMITH. s LANT. BANG A'N DULL 0 WERTHU. Best A Sugar 10)4 New Raisins. 12 New Currants 8 New Citron 41 New Pri-tties 14 Best Saleratus. 8 Best Starch 8 Dizon's Stove Polish 5 Washing Crystals 3 Tip-top Molasses 60 (Good as yon can buy at 65, 70 or 75) Vice Drip Syrup 75 Best Tomatoes, per can. 20 Camden Sugar Corn, per can.. 20 Soaps cheaper than dirt. Kerosene Oil 15 5 gallons for 60c. Best No. 1 Mackerel per kit.2 00 10 lbs. kits Mackerel. 85 Best Codflsh, gis Best Rio Coffee 25 Best New Orleans Molasses" 85 Broken Leaf Japan 40 Tio-top Green, Black and Jap". 75 Splendid Green, Black and Jap 75 Extra choice Green and Black. 1 00 The very best Japan 1 00 The very best Eng. Breakfast. 1 00 Yr ydym yn gwerthu Te o 15 i 25c y pwys yn is nag un 31asnaelidy Te arall yn y ddinas. Dim. Vhromot a Darluniau. Yr ydym yn parhau i gerdded oddiam- gylch gydag ysglodyn mawr ar ein hysgwydd. Tala yn dda i bawb dde)io yn y masnachny hwn. 1'74 BUTLER & HAMILTON. $i. ONEPKICETOALL. The New York WORLD. THE DEMOCRATIC PAPER OF NEW YORK. THE CHEAPEST AND BEST POSTAGE PREPAID By US. The Weekly World, One Year, One Dollar. An extra copy to getter-up of club of ten. The Semi-Weekly to getter-up ot club of twenty. The Daily to getter-np of club of fifty. All the news of the past seven days is given in the weekly edition of The World (Wednesdays), which contains, in addition to the news, many special features prepared expressly for it. The Grange Department nives each week the latest news of the order and of the Patrons. The agricultural department presents the latest experiments and ex- periences of practical culturiste, lull reports of the Parmei8' lub of the American Institute, letters from practical farmers. and interesting discussions of profitable farming. The page for the family fur. nishes interest and amusement for the fireside dui. ing the long winter evenings, Pnll and trustworthy live stock, country produce, and general produce market reports show the state of trade. The Semi-Weekly World, One Year, Two Dollars. An extra copy to getter-up of club of ten. The Daily to getter.up of club of twenty five. The Semi-Weekly contains (Tuesdays and Fridays) all the contents of the Weekly, one /or two first-rate Noyels during the year, and all the cream of the Daily World. THE WORLD" AND ITS WORX. [Bingnamton Leader.] Those of our Democratic friends who desire to subscribe for a New York Paper will find none that equals The World in ability, or that so fearlessly and clearly advooates Democratic principles. In the news'from all parts of the world, it is complete, and its editorials on all subjects are vigorous and logical, To the farmer it is invaluable; teaches him many things that tend to promote his best in- terests which he sorely needs nis eyes ohened to. The World is now doing a great work in behalf of the Democratic party, and should be fully sustained. A THOROUGH HEWSPAPEB. [Manchester Union.] The World, in point of ability, enterprise and in. fluence, stands at the head of the Democratic press in this country. Address "THE WORLD," 52-5'74 35 Park Row, New York. MAE Y MEDDYGON ENWOG i D. G. a P. H. THOMAS, 166 HEOL GENESEE, UTIOA, N. Y. (STA, WART BLOCK.) Wedi cael profiad malth a helaeth vn Utica, ae wedi enill y cymeriad uchaf iddynt eu hunain fel Meddygon a Llaw-feddygon (Surgeons). Gall y Cytnry gael eu gwasanaeth uniongyrchol drwy alw yn eu swyddfa, yn y cyfeiriad uchod. 25'ly TIR AR WERTH. Mae Mr. JAMES A. WHITAKEB yn cynyg ei ho* eiddo yn Arvouia Osage County, Kansas, ar werth— yn cynwys ei ffarm ddiwylliedig, oddeutu 600 o er. Sysylltiecig a phentref Arvonia, oil daa Frfi8 ucbaf- *yda tfay dai ysgubor, cysgod* y ?ynon 0 ddwfr Parha<J8, dwy filltir o fence Svrio na11 y u' Perllan y11 cy«wys dros 1 000 o goed, gyda 83 o erwan o dir coed da Mae y ffarm hon yn un o r rhai goreu yn Kansas ac mae yno un Cheese Factory newydd dan ucbaer Ilofft, yn alluog i wneyd caws oddiwrth 8000 wartheg. Ae beblaw sr eiddo u, hod y mae Mr. Whitaker yn cynyg ei haner cyflawn o bentref Arvonia, He mae tua 1 400 o lotian i adeiladu arnynt, eto heb ea gwerthu. Hefyd y mae ganddo 1,800 o erwau y dir newydd, yn gorwedd yn nehylchoedd agosaf y pen- tref. Wellir tadael rhan heiaeth o'r arian prynu I aros heb eu talu dro s hir an ser. Mr Wbitaktr wedi cael cvfiecsdraeto i fyned i gario V MW.. tasnacb WHOLESALE GROCERY yn crilcago, a dyna yrheswm ei fod yn cynyg eiddo mor werthfawr am brislau nodedig o 'sel Mae rh; wun yn siwr o gael bargen fawr. 53-74
CREFYDD Y CLTSANU.
CREFYDD Y CLTSANU. CAMBRIA, Wis.-Mae yn dda genyf, Mr. Pwns, eich gweled mor lygad-graff—eich golygon yn treiddio i bob cwr or Talaeth- au Unedig, Cymru a Lloegr, a Llanrwst hefyd. Ac nid yn unig i ddatguddio twyll, ond i gofnodi hefyd bob gweithred rin- weddol. Da iawn oedd genyf weled y crybwylliad am y dull newydd sydd gan- ddynt yn Iowa i gael arian at dalu dyled eu haddoldai, sef trwy gynal ffeiriau a gwerthu cusanau. Nid oeddwn yn gweled yn deg iddynt godi mwy ar Hen Lanciau; eto nis gallaf lai na llawenhau wrth feddwl am fy anwyl hen frodyr yn cael cusanu am un- rhyw bris. Byddai yn dda iawn genyf pe bae pobl Cambria yma yn dilyn eu hes- iampl; yna byddai rhyw siawns i'r Hen Lane gael ambell gusan wed'yn. Gan fod yn anhawdd i Hen Lane beidio canu wrth sylwi ar y fath ddiwygiad, yr wyf yn anfon i chwi yr ychydig linellau hyn: Dyma ydyw duwiol anian, Crefydd bur yn tarddu allan- GwneuthurfEair a gwerthu cusan, Pan fo'r Arglwydd eisio arian; Rhaid fod cusan felly'n santaidd, Byth a bery yn ei rinwedd; Pob hen lane tra fyddo yma, Gin am gusan merched Iowa. Pryd daw'r byd i efelychu Cynal crefydd trwy gusanu? Bellach, frodyr, peidiwch hepian, Nes daw'r pris i "ddeg arhugain." Am hyn 'rwyf i o'r braidd yn synu, Fod eu pris mor rad a hyny! Dylasent werthu heb ddim cynwr', Llawer uwch na chusan bradwr! -Hen Lane o Cambria. --40.