Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Y X-LTI-F. G YDG YNG OMFA.
Y X-LTI-F. G YDG YNG OMFA. Bu gweithrediadau y Gydgyngorfa yr wythnos ddiweddaf yn amrywiol; eithr ni chymerodd ond un peth Ie oedd yn bwysig i'r holl wlad, sef y ctdeddf newydd a bas- iwvd i ddiwygio cyfraith y tariff, ond y mae yr Arlvwydd heb ei llaw-npdi ar yr adeg yr ydym yn ysgrifenu. Bernir nad oes amheuaeth na fydd iddo ei cliadarnhau a'i law-nodiad. Rhoddir toll ycliwanegol ar ddefnyddiau dillad cotwm, cymysgedig a gwlan; ac hefyd ar sidan. Mae y nwyddau hyn yn cynwys dros $8,000,000 mewn gwerth yn flynyddol; a chan y gellir eu gwneyd yma, bernir y dylid trethu nwydd- au tramor, lie mae pobl yn gweithio am gyflog mor isel, er amddiffyn cyflogau car- trefol, a chodi arian tuag at gynal y llyw- odraeth. Mae y ddeddf newydd yn codi yr hen doll ar win o Ffrainc 40 y cant; a chan nad ydyw y gwin yn costio yn Ffrainc ond 20c. y galwyn, a chan fod 90 y cant o doll arno o'r blaen, a 40 yn rliagor dan y ddeddf newydd, bydd y doll yn gyÏarta1 i 200 y cant, yn ol y gwerth. Mae y free traders yn chwytliu bygythion erchyll o herwydd y doll hon. Codir y dreth ar bi chromate potassa l%c, y pwys. Gwna hyn y doll ar y sylwedd uchod a ddefnyddir i liwio, yn 50 y cant. Gwnaed amryw eraill o gyfnewidiadau yn y ddeddf, nad oes ofod i fanylu arnynt yn awr. Caed amryw o ddadleuon ar bwnc Louisiana, cyflog yr Arlywydd, y dull i ethol yr Arlywydd, arfogaeth ein hamddiffynfeydd, &c.
....... NODION PEBSONOL.
NODION PEBSONOL. Y MAE Cymru newydd golli un arall o'i phrif lenorion. Nos Lun, Ion. 4, bu farw Mr. THOMAS STEPHENS (Carnodyn,) Merth- yr—awdwr y gyfrol alluog, "Literature of the Kymri." Gwnaeth Mr. Stephens wasanaeth nid bychan yn ei ymdrecliion i ddyrchafu a gwneyd yn hysbys i'r byd drysorau a llenyddiaeth Gymreig. Ei oed- ran oedd 54. FEL y gwelir mewn colofn arall, enill- wyd cadair y Gordofigon yn Liverpool, ddydd Nadolig gan fardd ieuanc, lied ad- nabyddus—Mr. WILLIAM THOMAS (Gwilym Glanffrwd,) o Ddeheudir Cymru. A GANLYNydyw tystiolaeth yr Anrhyd. New. Booth, Llywodraetliwr California, am lyfr newydd y Parch. J. J-. POWELL, Cloverdale, Calif.: REV. JOHN J: POWELL—Bear Sir: Accept my thanks for iøpy of your book, "The Golden State and its BesourYou are certainly entitled to very great credit for the amount of information you have embodied in so small a compass—for accuracy of statement, and convenience of arrangement and classif-catioli.-Yours respectfully- New Booth. Mae y llyfr hefyd wedi cael cymeradwy- aeth llawer o bapyrau California; ac y mae rhagolygon am ei werthiant mor ffafrio1 fel y mae Mr. Powell yn myned i Nevada, gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfr cyffelyb am y Dalaeth hono. NID bychan oedd ein syndod pan dder- byniasom y nodyn canlynol oddiwrth y Parch. H. O. ROWLANDS, Wliitestown: "My wife died this A. M. at her home (West- ford, N. Y.) Married Oct. 8, '74; widowed Jaii y 22, '75. Dark, dark, dœl'kl" MAE y pregethwr ieuanc JOHN JONES, Lake Emily, Wis., wedi ymgymeryd a bugeiliaeth eglwys luosog a gweithgar y T. In C. yn Pine River. Ei gyfeiriad yw Wild Rose, Waushara Co., Wis. DYMUNA Pwyllgor Eisteddfod Wisconsin wneyd yn hysbys y cyfrifon canlynol: Der- byniadau, $703; taliadau, 544; gweddill yn llaw y Trysoi,ydd yr hwn swm a drosglwyddir i law trysorydd pwyllgor etlioledig 1875. Yr ydym ni, sef Pwyllgor Eisteddfod 1874, yn dymuno cyflwyno ein diolchgarwch i Gymry Milwaukee am eu haelioni a'u gwasanaeth clodadwy tuag at yr Eisteddfod ddiwecdaf, ac yn erfyn am eu cydweithrediad yn y cyffelyb fodd tuag at y nesaf, yr hon yn ol yr arwyddion presenol, a fydd yr Eisteddfod fwyaf mawreddog a gyualiwyd erioed yn Amer- ica.—Parch. H. P. Howells, Llywydd; R. O. Davies, Is-Lywydd; R. J. Owens, Trys- orydd; R. W. Ellis, Ysg. Oof.; W. E. Powell (Gwilym Eryri,) Ysg. Gohebol. ENILLODD y Parch. JOHN M. THOMAS Summit Hill, Pa., bedair o wobrau trym- ion y fiwyddyn ddiweddaf, sef "Anerchiad Ymadawol Parry," &c., yn Youngston. "Prif hynodion eenedl y Cymry" yn Slian- andoali; batle y genedl Gymreig," &c., yn Eisteddfod Ganolbarthol Nadolig, a "Moes- garwch cenedl y Cymry," &c., yn Eistedd- fod Nadolig diweddaf yn Youngstown. Y mae hyn gyda gwobrau eraill yn chwy- ddo y swm dros gan dolar. Wel done yr hen weinidog ffyddlon. Gwnaeth hyn gydag arwain cor a Band of Hope perthyn- ,ol ilw faes llafur, yn nghyda gweinidog- aethu hefyd yn ffyddlon mewn dwy eg- lwys. Llwydd mawr a'i dilyno.— Meurig. CYFARVYDDODD y Parch. W. D. WIL- LIAMS, Oberlin College, 0., a damwain ar yr 8fed cyfisol, a'r diwrnod canlynol bu rhaid iddo fyned o dan Surgical operation. Am dros dridiau, nid oedd ond y gobaith gwanaf o'i adferiad; ond erbyn hyn y mae y peryglon wedi gwasgaru, ac arwyddion adferiad yn cynyddu mor gyflym fel y disgwylir y bydd yn alluog i ddychwelyd i'r Coleg yn y gwanwyn.—Gohebydcl. An yr 22aino Ragfyr, bu farw WILLIAM HUGHES (Mersey Mon), yn. ei breswylfod, 13 Burleigh-road, South Everton, Liver- pool. Yr oedd yn dipyn o fardd a lien r; a bu yn gohebu llawer i'r Herald Cymracg. HYSBYSIR fod y Parch. D. EVANS, M. A., wedi penderfynu ymadael o Ddolgellau i ymgymeryd a'r swydd o Brif-atliraw Ysgol Waddoledig Gelligaer, D. C.
.......... G IVE, -IT-HFA…
G IVE, -IT-HFA OL--LIIA SNA C-UOL. Os nad a glowyr a gweithwyr haiarn Deheudir Cymru i weithio, bygythia y meistri atal eu gweithfeydd yn liollol a chau allan 100,000 o ddynion. Dymunem hysbysu chwarelwyr Mid- dle Granville y caniateir iddynt gyhoeddi unrhyw ffeithiau sydd ganddynt mewn atebiad i lythyr Mr. Jones. Ond disgwyl- iwn iddynt "fod yn fyr ac i'r pwrpas"- cyfyngu eu hunain o fewn haner colofn o le. Ilynod o farwaidd y mae gweithfeydd glo Talaeth Illinois wedi bod. Gwaith Barclay, Swydd Sangamon, mae'n debyg ydyw y goreu yn yr amgylchoedd ar hyn o bryd.—Glowr. .Drwg iawn genyf orfod hysbysu fod llawer oweithvvyr Vienna, 0., wedi gorfod myned i'r tlotdy, o herwydd caledrwydd yr amseroedd. Y mae canoedd yn Swydd Trumbull yn dioddef o eisiau bwyd.— Gwerfyl. Mae y tair felin rolio yn Ironton, 0., yn sefyll, ac nid oes nemawr o argoelion yr ail-gychwynant yn fuan.—J. J. D. Yr ydym ar strike yma yn Audenricd, Pa., er dechreu y flwyddyn, o herwydd fod y meistri am ostwng ein cyflogau 15 cent, yr liwn sydd yn afresymol. Gan na fu fawr o lewyrch ar y gwaith yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, y mae yma lawer mewn angen mawr. Ond fe fydd yma frwydro caled cyn y boddlonwn ar lai na basis 1874.-Pltilos. .SWYDD CLAY, IND.— Difywyd iawn ydyw y gweitlifeydd yn Brazil a'r amgylch- oedd; ac y mae llawer o lionynt yn sefyll yn hollol. Yn y rliai sydd yn gweithio, y mae rhybuddion i fyny am ostyngiad o 10 cent. Y pris a delir yn awr yw 75 cent y dunell, yn lie$1.00 tua blwyddyn yn ol. Y mddengys nad oes gan y gweitliwyr ddim i'w wneyd ond ymostwng neu ddioddef newyn; ni atebai un dyben i ni fyned ar strike yn bresenol. Disgwyliwn glywed fod ein brodyr yn Swydd Tioga, N. Y., wedi cytuno a'u meistri; sut bynag y mae yno, ofer yw i neb o honynt ddyfod i lofeycld Indiana ar hyn o bryd.—Jack oW North. QUINCY, MASS, Ion. 21.-Gwan iawn yd- yw hi yn y chwarelau granite yma ar hyn o bryd. Y mae y rhew a'r eira wedi cau i fyny y chwarelau braidd i gyd, fel na ellir gweithio nemawr er's tair wythnos neu lis. Cyflog y chwarelwyr yw o. $1.75 i$1.25 y dydcl; ac wrth fod y chwarelwyr yn metliu gweithio, y mae ceryg y stone cutters yn darfod, a liwythau yn analluog i enill mwy na $2.00 y dydd. Yn wir y mae llawer o honynt yn gweithio am$1.50, o herwydd iselder y prisiau; felly nid ydynt yn en 11 ond tua haner yr hyn oeddynt yn gael dair blynedd yn ol, ac nid yw y meistriaid yn hitio fawr pa un a weithiant ai peidio. 0 na ddeuai amser gwell. -Ap DaAdd. BANGOR, PA., Ion. 15.—Ychwarelau.—Y mae amryw o chwarelau wedi eu hagor yn y eylchoedd hyn; oncl Ellmyniaid anwybod- us gan mwyaf ydynt euperclienogion. Tua declireu y flwyddyn ataliwyd bron yr oil o'r chwarelau er mwyn cael gweled pwy fuasai yn myned i weithio am $1.10 y dydd; a chan fod yma ddwy genedl sef Cymry a Saeson, yr oeddynt am y cyntaf i dderbyn y y gostyngiad. Y Cymry pa fodd bynag, gawsant y clod (?) am ddeclireu. Y peth sydd yn fy synu fwyaf yw mai y rliai a allasent beidio a gweithio oeddynt y rhai cyntaf i weithio, a'r rhai anghenus ydynt y rhai a safant allan fel dynion. Os ydyw y Saeson yn barod i weitliio am gyflog bych- an, a gobeithio nad yw yr amser yn mhell pan y cawn eu gosod ar eu penau eu hun- ain, fel y gwnaed yn Chwarel y Cae. Cym- ered y merched hefyd rybudd i beidio ym- yryd gormod a lmwliau eu gwyr.— Un o'r lie. SWYDD TRUMBULL, 0., Ion. gweitlifeydd yn segur o hyd yn Coalburgh: ac ni enillir ond cyflogau bycliain yn y lofa sy'n gweithio.—Er fod Church Hill yn rhagori ar ardaloedd eraill Swyddi Trum- bull a Mahnoing, o herwydd fod y glo yn fwy marc] in ad ol, eto marwaidd iawn ydyw masnach yno.—Mae glowyr Brookfield wedi dechreu y fiwycldyn 1875 mewn segurdod, ac nid oes ond gobaitli- gwan y cant ail ddeclireu gweitllio am gryn amser, gan fod y fasnach haiarn mor wan.—Dinasydd. SHARON, PA., Ion., 16eg.—Yr hyn sydd yn cadw i fyny fasnach y lie hwn ydyw'r ddwy felin haiarn y rhai pa fodd bynag ydynt heb weithio ond ycliydig y mis hwn na'r mis diweddaf.—Dinasydd. PITTSBURGH, PA., Ion. 23ain.—Ddeclireu yr wythnos hon aeth pedwar neu bump o'r cwmniau cyfoethocaf yma mor wyneb gal- ed a chynyg i'r dynion $4.50 y dun ell am bydlo, sef 50 cent yn llai na'r cynyg blaen- orol, a$1.00 yn llai na cliyiygiad ypuddlers yn y compromise cyn y 1 ock out." Ond da genyf allu hysbysu nad yw y mwyafrif o'r cwmniau wedi myned mor afresymol. Y tebygolrwydd yw y ciiffiai y puddler*$5.00 pe yr elent i weithio; ond ymddengys eu bod yn benderfynol o barliau i hawlio ^5.50 -Pitcldlei-. WILKES-BARRE, PA.—Mae strike gyffred- inol yma yn mhlith mwnwyr y L. & W. B. C. Co., yr hon sydd yn debyg o barhau yn hir am fod y ddwy blaid yn benderfynol o beidio gildio—"trecha treisied" yw hi y dyddiau hyn; os na bydd iddynt ddod i gytundeb buan, rhaid y gwelir llawer yn dyoddef, a buddiol fydd i bob un gynilo goreu y gall. Y mae y mwnwyr vn mio ar National Union bron yn gyffredin >1 drwy yr holl Swydd, a da maent yn gwneyd. Y mae y Cwmni glo a'r rheilffyrdd wedi ymuno yn gorfforiaethau mawrion, ac yn herio eystadleuaeth, a thrwy ymuno a'u •nlydd y mae gobaith i fwnwyr y wlad lion ddyfod i sefyllfa i'w cyfarfod ar dir llwydd- ianus.-Gohebydd.,
(HJh)giah rr Mlasg.
(HJh)giah rr Mlasg. THE GOLDEN STATE AND ITS RESOURCES, By John J. Francisco: BacoN, and Company, Book and, Job Printers, 1874. Llyfr 12 plyg ydyw yr ucliod, yn cynwys 219 o dudalenau, wedi ei gasglu gan Gym- ro, sef y Parch. JOHN J. POWELL, Clover- vale, California. Symudodd Mr. Powell i'r Dalaeth euraidd o Carbondale, Pa., tua'r flwyddyn 1855, os ydym yn cofio yn iawn. Fel y gwelir oddiwrth wyneb ddalen y llyfr, cynwysa grynodeb dyddorol, a budd- iol iawn, o hanes adnoddau California.— Ymddengys mai meddwl y gair California ydyw, "Y ffwrnesboetli," oddiwrth y dclau air Yspaenaidd Oalientafornidla. Yn nech- reu y llyfr, rhoddir -desgrifiad o ddargan- fyddiad y Dalaeth a thalfyriad o'r hanes hyd yr amser y deuwyd o hyel i aur ar yr American River, yn 1848. Cynyrchodd y darganfyddiad hwn dros 111 o filiwnau o ddoleri o aur at wasanaeth y byd. Ugain mlynedd yn ol, tybid nad oedd dyffryn- oedd California ond tir diffrwytli am saith gant a haner o filltiroedd un ffordd, a thua chant y ffordd arall; ond heddyw y maeyr un dyffrynoedd yn cael eu galw gyda phriodoldeb, y gerddi ffrwythlonaf ar wyneb y ddaear. Yr amser llwnw deuai llongau i borthladd San Francisco, yn llwythog o ymborth i'r bobl; ond yn awr y mae adnoddau amaethyddol y Dalaeth wedi eu dadhuddo i'r fath raddau,nes y rhaid ca, I lleng o longau i gludo cynyrch y ddaear i borthi miliwnau mewn gwledydd tramor. Nid oes engraifft i'w chael yn hanes y byd o gynydd cyfartal i'r eiddo California. Mae yr awdwr wedi dosbarthu ei lyfr yn ddestlus, ac mae ei sylwadau yn fyrion, tarawiadol ac i'r pwy'nt. Dylai y llyfr hwn fod yn meddiant pob un sydd yn awyddus am hanes gwlad yr aur, neu yn bwriadu ymfudo yno. Dyma Hylforddwr i'r Ym- fudwr, yn cynwys, yn mhlith pcthau eraill y manylion am gyflogau pob math o weitli- wyr—ansawdd y tir, yr hinsawdd, cyn- yrchion amaethyddol, yr aur gloddiau a'r gwahanol fathau o fwnau; y coedwigoedd, anifeiliaid doflon, bwystfllod gwylltion, helwriaeth, pysgod, afonydd, llynau, myn- yddoedd, porthladdoedd, rheilffyrdd, dinas- oedd, llaw-weithfeydd, melinau, gweitli- feydd haiarn, factories, addysg, crefydd, cymdeithasau eluscngar, gwalianol enwad- au crefyddol, dyfodol y Dalaeth, &c. Ac nid y rhai ydynt yn meddwl am ym- fudo i California yn unig a ddylcnt brynu y llyfr. Dylai Cymry Gororau y Tawelfor hefyd brynu y llyfr er cefnogaeth i'r awd- wr; canys hwn mae'n debyg yw y llyfr cyntaf o'r fath a gyhoeddwyd gan Gymro. Gellir ei gael drwy anfon $1 50 i R. T. ROBERTS, U. S. Mint, San Francisco. BLODAU YR OES A'R Y'SGOL— Cyhoecldiad misol at wasanaeth ieuenctyd Gymreig Am- erica, gan y Parch. M. A. Ellis, JJf. A., Bangor, Pa., a'r Parch. T. G. Edwards, Gynonfardd, Wilkesbarre, Pa. T. J: Grif- fiths, Utica, Argraffydd. Mae y "BLODAU" am Ionawr o'n blaen yn fwy prydfertli eu hymddangosiad, a pliereiddiach eu harogl nag oeddynt yn nglianol yr haf, er fod Ionawr eleni wedi cloi pob peth mewn rhew ac eira. Mae y golygwyr newyddion wedi trefnu y BLOD- AU yn ddestlus, a chasglu ainrywiaetli yn nghyd, er adloniant a buddioldeb i'r plant —hen ac ieuainc, bycliain a mawrion. Os bydd y golygwyr yn alluog i gyflawni eu haddewidion, yn eu cyfarchiadau at y rhieni a'r plant, teilyngant y gefnogaeth ffyddlonaf oddiwrtli holl dculuoedd Cym- reig America, o bob enwad crefyddol. Yr unig ffordd i roddi prawf teg ar eu gallu a'u ffyddlondeb ydyw, derbyn y BLODAU, a ffurfio barn ar ddiwedd y flwyddyn. Mae y Parch. Mr. Ellis wedi cael llawer o flyn- yddoedd o brofiad fel dysgawdwr plant bycliain; ac mae efe a'r Parch. Mr. Ed- wards yn dysgu plant mawrion yn awr er's llawer dydd. Profa cynwysiad y rhifyn hwn fod ynddynt gymwysderau i gyf- z,Y lawni gwahanol swyddogaethau yr antur- iaetli a ddeclireuasant. Nid ydym yn meddwl fod eisiau rhoddi llawer iawn o bwysigrwydd ar wreiddwldeb cynwysiad y BLODAU canys nid llawer sydd yn meddu athrylith a all greu. Mae crynoi a cliyf- addasu darnau byrion, ffraeth a choethed- ig, yn ddigon o waith i'r crebwyll ffrwytli- lonaf, ac mor wreiddiol ag v mae yn rlies- ymol dysgwyl. Yr ydym yn"meddwl hefyd fod Trysorfa y Plant yn Nghymru y cy- lioeddiad goreu fu erioed yn yr iaith Gym- raeg, at wasanaeth plant a phobl ieuainc; ac os ail gyhoedda y golygwyr y darnau goreu yn y BLODAU, gwnant wasanaeth i ieuenctyd Cymry America. Dymunwn iddynt lwydcliant mawr yn eu hanturiaeth newydd. PUBLIC LEDGER ALMANAC, 1875—Geo. vV. Childs, Publisher, Chestnut Street, Phil- adelphia. Mae cyhoeddwr anturiaethus y Public Ledger, sef y newyddiadMi1 a ganfyddir braidd yn mliob ty yn Pennsylvania, wedi dwyn allan Almanac liynod o liardd a chynwysfawr, am y flwyddjai hon eto. Prydferthir y wyneb-ddalen ag arluniau yn gosod allan nodweddion pedwar tymor y flwyddyn; ac mae yr ymylon wedi eu goreuro yn y modd harddaf. Ceir yn yr Almanac amrywiaethau ystadegol, gwlad- wriaetliol, crefyddol, cartrefol a tliramor; ac nid yn ami y ceir y fath swm o wybod- aeth angenrheidiol a buddiol o fewn cylch mor fychan. Cynwysa 59 o dudalenau, a chyhoeddwyd il0,000 o gopiau o hono, i'w rhoddi yn rliad i dderbynwyr y Public Ledger.
[I FYNY I IONAWR 8ED, 1875.]
O Baner ac Amaerau Cymru, Yr Herald Cymraeg, Y Goleuad, Y Dy«-ysogaeth, Y Tyst a'r Dydd, Seren Cymru, Y Gwladgarwr, Y Fellten, Y Dydd, Caer- narvon & Denbigh Herald a'r North Wales Chron- icle, y rbai dderbynir yn wyhnosol; ac eraill a dderbynir yn achlysurol, [I FYNY I IONAWR 8ED, 1875.] DEHEUDIR CYMRU —Cafodd W. Phillips, heddgeidwad, Pencader, galenig werthfawr ar ddeclireu y flwyddyn, sef dau fab a merch, —Mae Mr. T. Morris, o goleg y Bala, I 1 9 wedi ymgymeryd a bugeiliaeth eglwys A. Bryn Seion, Dowlais. -Dengys adroddiad sydd wedi ei gy- hoeddi fod costau y Custom House yn Aber- ystwyth yn £ 805 yn 1870, tra na chasglwyd yr un gemiog; a bod y costau yn Beaumar- is yn £1,125, tra nad oedd y swm a gas- glwyd ond £ 2! —Y mae dros haner cant o lofeydd newydd yn awr yn cael eu sincio yn sir Forganwg. Mewn rhai amgylchiadau y mae yn agos i £ 100,000 wedi eu gwario, ac yr ydys wedi bod wrthi am bedair neu bum' mlynedd. Profodd un o'r anturiaeth- au, hyn yn llwyddianus yr wytlmos ddi- weddaf, gan i Nixon, Taylor, a'i Gyfeillion, ddyfod o hyd i wythien bedair troedfedd o lo ager. Yn Nyffryn Merthyr, ar ol chwe' blynedd o weithio, cafwyd hyd i lo wedi myned 400 o latlieni i lawr i'r ddaear. -Aeth y tren ar linell y London a N. Western, yn agos i Gorseinion, ger Aber- tawe dros ddyn o'r enw John Lloyd, brodor o Lanelli, gan ei dori yn ddarnau. Casg- lwyd y gweddilhon i sach, acliludwyd hwy i Commercial Inn, Abertawe. Ymddengys mai myned i Morristown yr oedd y truan, a'i fod yn gweithio fel plumber yn ngweith- iau fferyllol Mr. Bowen. Tra yr oedd Mr. Hopkin Bevan yn cerdded ar hyd Pont yr Hebog, yn Llanelli, y dydd o'r biaen, llithrocld ar y dlew, atlior- odd ei fraich. —Cynaliwyd nifer anferth o fan eistedd- fodau ar adeg y Gwyliau. Yr oedd un Aberaeron yn eu curo yn dipiau. Bocs sebon oedd yr esgynlawr, ac yr oedd y gwobrwyon yn wertli £ 2 10s. 0 Llais y Wlad. J —Mae chwarelwyr dosbarth Dinorwig a Deiniolen, gan ddilyn esiampl eu brodyr yn Ffestiniog, wedi anfon i Ysgrifenydd Mygedol y Brifysgol (Mr. Hugh Owen) y swm o 25p., fel eu cyfraniad at ysgoloriaeth i'w roddi yn flynyddoi i'r ymgcisydd goreu o'r dosbarth liwnw. —Anrhegwyd y Parch. H. Griffiths, di- weddar weinidog yr Eglwys Gynulleidfaol I Seisnig yn Aberhonddu, a thysteb o 90p., gan nifer o'i edmygwyr yn y dref. Mae y Mr. Griffiths wedi ei benodi yn un o ysgrif- enyddion cartrefol y Feibl Gymdeithas. M10 IvTHYR. —Mwrwolaelli, sydyn. Dydd Sadwrn, Ionawr ail cymerodd dwy farwol- aeth ddisymwtli le yn Mertliyr. Y cyntaf ydoedd Richard Davies, 48 oed, giowr. Dydd Iau, daeth o Gilfacligocli, lie y pres- wyliai, i vi erthyr, i gladdedigaeth; ac wedi hyny aeth o amgylch y dref i edrych am gyfeillion, ac ymddangosai yn berffaitli iach. Tua phump o'r glocli, pan ynyfed te, syrthiodd yn ol yn y gadair. ni d'dywedodd byth air, a bu farw yn y fan. Yr ail yd- oedd un John Rees, 33 oed, puddler, Naty- gwenith Street, Merthyr. Ymddangosai yn berffaitli iach, ac yfai hycl ddeg o'r gloch nos Iau; aeth i'w weJy am unarddeg gyda'i wraig. Tua dau o'r glocli y boreu, cymer- wyd ef yn glaf, a bu farw. MARWOLAETH ERCHYLL.— '^oreu dydd Mawrth y 29ain cynlisol, aeth got o'r enw Fredericks Lane, yn gweithio o dan y London & South Wales Coal Company, i'r peiriandy-dy ar lan y pwll cvn disgvn, pryd y rlioddodd ei law ar y rheiliau a amgylcliynant y deint-rodau (cog-wheels), a thynwyd ef i mewn iddynt ar eiliad. Caf- odd y rhan isaf o'i gorff ei ddrvllio mewn modd djrchiynllyd, mewn gair, torwyd ef yn ddarnau. Yr oedd yr olwg arno yn dor- calonus. Gosodwyd ef ar stretcher i'w ddwyn gartref. Ar y ffordd daliai i weddio yn daer dros ei wraig a'i blant, a chan ofyn i'r dynion oedd yn ei gario i'w droi ar ei ochr, a bu farw. Y mae wedi gadael gwraig dir- ion a piled war o blant amddifaid i aiaru ar ei ol.
....... GOGLEDD CYMRU.
GOGLEDD CYMRU. -.Alao y Parch. J. H. Hughes) leuan o Leyn), ar ymgymeryd a gofal eglwys A. Cefnmawr. —Rhoddodd R. Sorton Parry, Y. H., Eryl A.rran, Bala, g'iniaw ardderchog i uwchlaw triugain o hen wyr a gwragedd dros driugain oed, yn Neuadd y dref. ° Yr oedd y ciniaw wedi cael ei barotoi gan Mr. a Mrs. Owen, White Lion, Royal Hotel; ac yr oedd Mr. Parry yn bresenol ei hun yn gwasanaethu ar yr hen bobl. —Llwyr losgwyd ysgubor a beudy a swm I mawr o wellt a gwair ar ffarm GwnMll Fawr, tua milldir a haner o Gynwyd, °'er Corwen, y dydd o'r blaen. Bernir i'r ton gael ei acliosi drwy i hogyn o was ddef- nyddio canwyll yn ei law i borthi yr anif- eiliaid. —Rlianwyd dau fustach mawr sef rhodd flynyddol Mr. H. R. Hughes, Arglwyddd I Raglaw sir Fflint, rhwng tua dau gant o deuluoedd yn nghymydogaetli Abergele. —Cafwyd corff hen wr rhwng deg a thri- ugain a phedwar ugain oed, or enw Thom- as Jones, ger Halkin, sir Fflint, wedi marw mewn maes rhwng Pentre Halkin a Halkin Hall. —Cyffrowyd trigolion Treffynon boreu dydd Nadolig gan y newydd fod dyn wedi marw yn y Spring Gardens, ynymyl swydd- fa argraffu Mr. P. M. Evans. Dyn ieuanc ydoedd o'r enw John Morgan Richards, 25 oed; ac yr oedd wedi bod o amgylch y dref yn nghwmni eraill yn canu carolau; ac ymddengys i'r cwmni ymwahanu tua phed- ly war yn y boreu, ac yn y fan y cafwyd y dyn ieuanc hwn wedi marw. —Syrthiodd plentyn bychan dwy flwydd oed, yn Towyn, Meirionydd, i badellaid o ddwfr berwedig oedd ei fam wedi ei adael ar lawr y ty, ac ofnid fod ei fywyd mewn perygl, mewn canlyniad i'r llosgiad a dder- byniodd. Y mae yma amryw yn dyoddef wrth ysigiad yn eu haelodau ar ol syrthio ai' J rliew yr wythnos ddiweddaf.—Goheb- ydd. -T,trodd cerbydres blentyn i Richard Williams, platelayer, Aber Crossin0- tra yr oedd yn chwareu ar y llinell, ac a'i lladd- odd yn y fan. Yr oedd ei fam yn llygad- dyst or amgylchiad torcalonus. 11 y Y mae dociau newyddion Caergybi wedi cael eu dechreu. —Dangosodd Capt. Williams, Parkiau, ei garedigrwydd arferol tua'r Nadolig, trwy ranu deg tunell o'r glo goreu rhwng deugain o dlodion Cricieth, heb gjmieryd unrhyw sylw o'u credo crefyddol. I'r rhai ag oedd yn dewis hyny, rhanodd bum' punt mewn arian newydd-fathedig. zll B" riada nifer o gyfeillion ac edmyg- wyr J. J. Evans, diweddar aroljrgwr gallu- og chwarel Dorothea, Nantlle, ei anrhegu a I nifer o lestri arian, yn nghyd a darlun o hono ef ei liun, o'i wraig a darlun o Mr. Williams, Glanbeuno, perchenog chwarel Dorothea—ar ei ymadawiad i Bethesua. CARNARFON.—Cwympodd Mr. Robert Pritchard, Chapelcourt, ar y rhew y dydd o'r blaen a derbjmiodd niwaid trwm yn ei ben a'i ochr. Er pob cymorth meddygol bu farw, yn 78 inlwydd oed. Yr oedd yn Wesleyad selog, a gwasanaethodd am am- ser maitli fel ceidwad y drws, yn nghapel Ebenezer. z;1 RHUDDLAN.—Eisteddai Robert Hughes, Marsh Inn, yn ei dy prydnawn dydd Nad- olig, ac ymddyddanai yn llawen fel arfer a'i gyfeillion, pryd yn ddisymwtli y syrth- iodd oddiar ei gadair, a bu farw. Yn y pen. tref hwn hefyd, y dydd canlynol, cafwyd hen wraig 83 oed, o'r enw Sarah Morris, wedi llosgi i farwolaetli yn ei thy. Bernir mai ei dillad a gymerodd dan.
Helyntion Spaen*.
Helyntion Spaen*. MADRI, Ion. 2Gain.-Rhodclodd y Breuin Alfonso allan ddwy genadwri ar y Sabboth y 24ain cyflsol. Cyfeiria un at ddinasydd- ion Basque a Navarre, gan ddweyd ei fod yn dra awyddus am heddwch, ond ar yr un pryd bydd iddo ryfela am ei iawnderau. Dywed mai efe ydyw cynrycliiolydd y gwaed Breninol y darfu i'w tadau dyngu 11w o ufudd-dod ei fod ef yn Babydd, ac yr amddiffynir hawliau yr eglwys—os rhoddant arfau i lawr, maddeuir iddynt. Cyfeiria y genadwri arall at y milwvr. Ad- olygodd y Brenin 40,000 o filwyr ar y Sab- both yn Peralta. Mae si ar led fod Al- fonso a Don Carlos yn debyg o gymodi a'u gilvdd. Rhoddwyd gorchymyn allan i saethu i farwolaetli holl gyfeillion y Car- listiaid a ddelir ag arfau yn eu dwylaw, yn agos i linellau y rlieilffvi,(-Id.Dywedir fod arian wyr Llundain wedi gwrthod rhoddi menthyg rliagor o arian i'r Carlistiaia.— Mae Spaen wedi cytuno i dalu i Germani am y llong Gustave a'i llwyth, ac iawn hefyd am y sarhad. Dywedir y bydd i'r llywodraethau tramor gydnabod Alfonso yn Frenin mor fuan a y cant livsbysiad swvddogol o'i ddyrcliafiad i'r orsedd. Mae y Brenin yn anvr yii blaeiioriy fyddin o, leddol. °
Arwyddion rhyfel yn y Dvryrain.
Arwyddion rhyfel yn y Dvryrain. CONSTANTINOPLE, Ion. 26ain.—Mae cyn- rychiolwyr y galluoedd tramor yn y ddinas hon, yn gwneyd yr oil a allant i atal rhyf- el rhwng Twrci a Montenegro; ond ofnir na lwyddir. Gorchjanynodd llywodraeth Montenegro i'w holl ddeiliaid mewn gwled- ydd eraill ddychwelyd adref yn ddioed, ac anfonwyd 12,000 o filwyr i derfyn Twrci. Hysbysir fod Rwsia yn debyg o bleidio Montenegro yn erbyn Twrci. Mae yr ang- hydfod rhwng y ddwy wlad o natur hynod ddyryslyd, rhwng llinell y t-erfynau, liawliau ac iawnderau gwladwriaetholaclirefyddol.
Ffrainc.
Ffrainc. PARIS, Ionawr 26.-Cymerodtl dadleuon brwd le yn y Senedd yr wythnos ddiwedd- af ar y mesurau cyfansoddiadol; a daeth M. Jules Favre allan yn ei holl hyawdledd arferol, gan hawlio sefydliad gweriniaeth delerau cedyrn a dealladwy. Talodd deyrnged uchel o ganmoliaeth i'r cyn- Arlywydd Thiers, a ciiondemniodd y Bona- partiaid mor rymus fel y gorfu i'r cadeir- ydd ei alw i drefn. Creodd hyn gwnwrf anarferol. Mae un blaid dros gadarahau a nodi allan awdurdod yr Arlywydd, a sefydlu y weriniaeth yn gidarii a diysgog, tra y mae y blaid arall yn erbyn cynys- gaethu MacMalion a dim mwy o awdurdod na'r hyn sydd yn angenrheidiol i gadw trefn. Mae y blaid hon yn hoffi Brenin- iaeth, neu ymerodraeth.
Itali.
Itali. RIIUPAIN, Ionawr 26.— Glaniodd y Cad. Garibaldi yn Civita Veecliia, a chafodd y derbyniad mwyaf gwresog. Arweiniwyd ef drwy y dref a ffaglau a llusernau. Pan ddaeth i mewn i Rufain, aeth y Maer a'r swyddogion trefol i'w groesawu; ac yr oedd yr heolydd yn llawn o bobl. Tynwycl y ceffylau o Idiwrth y cerbyd, a llusgwyd ef gan y bo ol, yn nghanol banllefau gor- foleddus. °
..... ANRHEG 0 AER.
[GYDA YPELLEBYR TANWERYDDOL.] Lbngddrylliadau a chotti bywydau—Bygicth troi ciitiiiiil allan 0'1' glofeydd a'r jf wrneis- ÙUf, haiarn yn Neheudir Cymru—Marwol- aeth Canon líingsley-Rhyjel ar dori allan yn y dwy rain—Spaen, Ffrainc, &c. Prydaiii Fawr. LLUNDAIN, Ion. 26ain.Mae arwyddion fod yr agerlong Brydeinig Berar, Capt., Sarbam, oedd yn rhwym o Odesa i Gaer- dydd, wedi suddo gyda phawb oedd ar ei bwrdd, ugain mewn rhifedi. Hefyd y mae newyddion wedi eu derbyn fod yr agerlong Brydeinig Thombay, oedd yn rhwym o Gaerdydd i Bombay, wedi myned i lawr gyda'r holl ddwylaw, 29ain mewn rhifedi. Mae holl feistri y gweithfeydd haiarn, a pherchenogion y glofeydd yn Neheudir Cymru yn bygwth cloi yr holl weithfeydd os na fydd i'r gweitliwyr fyned i weithio am y prisiau cynygedig. Os rhoddir y pen- derfyniad mewn gweithrediad, teflir dros z_1 gan mil o ddynion allan o waith. Bu y Parch. Charles Kingsley, a adnabyddid z7 wrtli yr enw Canon Kingsley, farw y Sab- both diweddaf. Dywedir-nad oes gobaith am wellad y Tywysog Leopold.-Caed tywydd oer yn Mlirydain yr wythnos ddi- weddaf.
ETHOLIAD SENEDD WYIl
oes yn y Senedd, o herwydd iddo fod yno mor hir. Ond ysgubodd y don Ddemoerat- aidd dros Michigan, ac etholodd Seneddwr mwy cymedrol yn ei le, sef J. P. Christi- ancy, oddiwrtli yr hwn y mae y Gwerinwyr a'r Democratiaid yn dysgwyl llawer. Etholodd Indiana JAMES E. MCDONALD, Democrat; Pennsylvania, W. A. WALLACE, Democrat; Ohio, A. G. THURMAN, Demo- crat, ail etholiad; Maryland, W. P.WIIYTE, Democrat; Missouri, FRANK COCKRELL, Democrat, yn lie y nodedig Carl Scliruz; Main, HANIBAL HAWLIN, Gwerinwr; Dele- ware, T. F BYNARD, Democrat, ail ethol- iad; Nevada, WILLIAM SHARON, Gwerin- wr; Mississippi, B. K. BRUCE, Gwerinwr; New Jersey, T. F. RANDOLPH, Democrat; Texas, SAMUEL B. MAXY, Democrat; Vir- ginia, ROEERT E. WITHERS, Democrat; Vermont, G. F. EDMUND, Gwerinwr; Con- necticut, WILLIAM W. EATON, Democrat; California, NEWTON BOOTH, Gwerinwr. Bydd tymor 25 o Seneddwyr yn rhedeg allan y 3ydd o Fawrth nesaf, ac o honynt y mae 17 yn Werinwyr, 5 yn Ddemocrat- iaid a 3 yn Werinwyr Rhyddfrydol. Ym- ddengys yn ol agwedd pethau yn awr, y bydd gan y Gwerinwyr 16 o fwyafrif yn y Senedd nesaf.