Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
ABERYSTWYTH.—Yr ydym yn deall fod Dr. Charles, Aberystwyth, yn awr yn Llundain gyda golwg ar ddwyn achos Prifysgol Cymru o flaen sylw y Llywodraeth am grant. Hyderwn yn fawr y bydd iddo lwyddo yn ei ymdrechion dros ei wlad, >
CORRIS.
News
Cite
Share
CORRIS. Dydd Llun cyfarfyddodd Mr. John Griffiths, Glan* deri, ft damwain yn chwarel y Cauwern. Tra yr oedd yn paratoi careg fawr i fyned i'r peiriandy, syrthiodd careg fawr o'r tu cefn arno, gan ei ysigo a thori ei goes. Daeth 5 o Feddygon o Machynlleth, yn nghyda John Rowlands, i weini arno.
EBENEZER, LLANDINORWIG.
News
Cite
Share
EBENEZER, LLANDINORWIG. Cynnaliwyd cyngherdd yn y capel uchod nos Fercher y 15fed o Chwefror. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Owen Jones, gweinidog y lie, gan yr hwn y cawsom anerchiad pwrpasol; yna galwodd ar Gor y Fachwen, dan arweiniad Mr. Owen Jones, Tyddynisaf, a'r Eryri Glee Society, dan arweiniad Owen Jones, Smith, Ebenezer. Dyma'r waith gyntaf i'r cor hwn ganu yn gyhoeddus, a chanasant yn ardderchog. Dyben y cyngherdd hwn oedd, cynnorthwyo ychydig ar Mr. John R. Hughes, Ebenezer, yr hwn sydd yn analluog i ddilyn ei alwedigaeth er's 8 mis, trwy iddo dori ei glun yn y chwarel; a da genym ddeall i'r elw droi allan yn llwyddiannus. sef Cll 3s. 5c., wedi talu'r costau. Y Cfwb Du.-Da genym ddeall fod y Gymdeith- as Ddirwestol yn myned yn mlaen yn llewyrchus droa ben. Nos Sadwrn, y 18fed o Chwefror, cynnaliodd yr aelodau gyfarfod cyhoeddus yn nghapel Macpelah, dan lywyddiaeth Richard W. Price (R. ap Rhys). Cafwyd anerchiad gan Taliesin Eryri a'r Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, yn hynod o effeitliiol, ac areithiodd Mr. Hugh R. Jones, Ebenezer, a Mr. David R. Jones (Cwmfab), Cwmyglo, yn wir dda; a chaiwyd Dadl y Dirwestwr a'r Gwrthddirwestwr gan Cwmfab ac Evan E. Morgan (Deiniol), Ebenezer. Canodd Mr. Richard Roberts a'i frawd—aelodau o Gor yr Aelwyd, Bethesda, amryw weitliiau yn ganmoladwy iawn, a'r Cor Dirwestol, dan arwfciniad Mr. John Roberts, Dysgwylfa, yr hwn sydd yn hynod o ffyddlon gyda'r ysgogiad Dirwestol. Diau mai dyma'r cyfarfod mwyaf llewyrchus a gafwyd etto. Mae yn dda genym weled y meddwon eu liunain yn dyfod allan i faes y frwydr i ymladd yn erbyn y gelyn meddwdod.- ARFON.
TANCHWA YN NGIrWM RHONDDA.
News
Cite
Share
TANCHWA YN NGIrWM RHONDDA. PAN yn ysgrifenu yr wythnos ddiweddaf yn nglyn &'r Mesur sydd wedi ei ddwyn i'r Senedd i reoleiddio gweithiau mwn, ychydig feddyliasom y buasai genym yr wythnos hon i gofnodi y danchwa ofnadwy sydd wedi cymeryd lie nos Wener diweddaf yn Ngbwm Rhondda. Mae Cwm Rhondda yn un o feusydd glo oyfoethocaf Deheudir Cymru. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd y lie ond anhygyrch mewn cymhariaeth; ond trwy agoriad y gweithiau hyn, y mae wedi dyfod yn un o'r manau mwyaf poblog ei drigolion, y rhai a ddi- bynant agoa yn hollol ar y glofeydd hyn. Nid yw ond fel doe gan gannoedd o'n darllenwyr gofio tanchwa ofnadwy y Cymer, lfynyddau yn ol. Dyna un o'r dam- weiniau mwyaf alaethus a gymerodd le erioed yn ein gwlad. Mae y danchwa ddychrynllyd a gymerodd le yn Ferndale yn fyw ar gof Iluaws ein darllenwyr; ond bron cyn i ruddfanau gweddwon ac amddifaid Ferndale ddystewi ar ein clustiau, dyma etto y newydd blin a thorcalonus yn ein cyrhaedd am ffrwydriad yn ngwalth glo Pentre Ystrad, ac o gylch deugain o fywydau gwerthfawr wedi eu colli! Mae y gwaith yn eiddo y Meistriaid Kelly a Cory a'u Cwmni o Gaerdydd, ac arferid rhoddi y gair uchaf iddo fel gwaith yn cael ei awyru yn dda. Tua deg o'r gloch nos Wener diweddaf, ysgydwyd holl dai y gymydogaeth fel pe buasai daear- gryn wedi cymeryd lie, adisgynai y ceryga-'r priddfeini yn gawodydd ar benau y tai. Brysiodd lluaws o bobl at enau y pwll, a deallwyd yn union fod tanchwa wedi cymeryd lie. Mae y pwll wedi ei suddo i'r wyth- ïen bedair troedfedd, er mai y wythïen ddwy droedfedd a naw modfedd a weithir yma fwyaf. Cymerodd y danchwa le mewn talcen ryw 400 o latheni yn ddeheu- ol ar y wythïen lie y gweithient. Mae 300 o ddynion yn arfer gweithia yn y pwll, ond gan mai yn y nos y cymerodd y ddamwain Ie, nid oedd yno ond 36 yn y gwaith. Lladdwyd y rhai hyn oil gan y ddamwpji— naill ai llosgwyd hwy i farwolaeth, neu ynte mygwyd hwy i farwolaeth. Yr oedd rhai o'r cyrff pan gafwyd hwy wedi llosgi yn ddychrynllyd, nes y buasai yn anhawdd i neb gredu mai dynion oeddynt; ac yr oedd golwg mor resynol ar un yn arbenig, fel yr oedd ei organau mewnol yn y golwg. Gellir ffurfio ryw syniad am angerddoldeb y gwres, oddiwrth y ffaith fod oriawr arian un o'r dyniou wedi toddi yn ei logell. Yr oedd yr holl waith oddifewn wedi ei chwalu, a'r lie mor llawn o nwy afiach, fel nas gallesid myned yn' mlaen i chwilio am y cyrff. 0 gylch dau o'r gloch boreu dydd Sadwrn, penderfynodcl y goruchwyliwr tanddaearol, Mr. W. Rosser, a'i fab William, a dau arall, loan Edwards a Joseph Thomas, anturio i lawr i'r pwll i chwilio am y cyrff, ac er gweled pa mor helaeth y bu y dinystr; ond bron erbyn fod y dynion hyn i lawr yn y gwaelod, methodd W. Rosser, y mab, a Joseph Thomas a dal-mygwyd hwy i farwolaeth, ac ni chafodd y lleill ond prin dianc a'll heinioes ganddynt. Yr oedd
[No title]
News
Cite
Share
COLWYN. Nos Lun diweddaf, cafwyd darlith gyn- nwysfawr yma ar egwyddorion ac amcanion 'Cymdeithas Heddwch,' gan y Parch. S. R.; ac yn ei diwedd, ar gynnygiad y cadeirydd, y Parch. Mr. Morgan, (B.), cymeradwywyd yn un fry dig y penderfyniad canlynol:—' Fod y cyfarfod hwn yn gofidio am fod ein llywodr- aeth yn bwriadu trymhau ein Sefydliadau Milwraidd, a thrwy hyny ychwanegu eleni bron dair TlJiliwn-sef £ 2,800,000— at eu treuliau gorthrymus presenol, pan y gallai y llywodraeth yn hawdd, drwy ddylanwad ei chynghor a'i hesiampl, annog Ilywodraethau eraill Ewrop i ysgafnhau eu trethoedd rhyfel; ac ar yr nn pryd, wneud en gwlad yn fwy diogel, yn fwy defnyddiol, yn fwy anrhyd- gddus, ac yn fwy dedwydd.' ? 7'; LLWYNGWRIL. Y mae Llwyngwril o fewn plwyf Celynin; ond gan fod hen Eglwys Llangelynin wedi dadfeilio, ac mai yma y mae Eglwys y plwyf yn bresenol, ystyrir Llwyngwril fel y lie pwysicaf, ar ryw ystyr, yn y plwyf. Y mae plwyf Celynin yn un o'r plwyfydd cyfoethocaf yn Meirionydd, yn ymestyn dros arwynebedd mawr o dir bras, toreithiog. Ondymddengys nad oedd sefyllfa a manteision addysg y plwyf yn cyfarfod a'r galwadau, fel y penderfynwyd mynu Bwrdd Addysg yn y plwyf. Gwrth- wynebid hyny gan yr Eglwyswyr, a dydd Mawrth, cymerodd etholiad Ie, ac ennillodd pleidwyr y Bwrdd fuddugoliaeth anrhydeddus. Safai y pleidleisiau fel y canlyn:— Dros y Bwrdd. Yn erbyn. Arthog 63 13 Llwyngwril 44 25 Rlioslef ain. 18 24 125 62 Mwyafrif dros y Bwrdd 63. ABERTEIFI. Da genyf glywed fod Mr. W. Glynarthen Jones, o Goleg Caerfyrddin, wedi ateb eglwysi Trewyddel a Chippin yn gadarnliaol, a bwr- iada ddechreu ar ei weinidogaeth mor fuan ag y byddo modd. Yr uchelsirydd dros y sir hon eleni ydyw S. H. Jones Parry, Ysw., Tyllwyd, a'r is-sir- ydd ydyw R. D. Jenkins, Ysw. Dydd Llun diweddaf dechreuwyd gweithio y pellebyr yma, ac y mae yn rhyfeddod i lawer, gobeithio na bydd y reilffordd yn hir yn ei ddilyn. LLANELLI. Capely Dock.- Cynnaliwyd cyfarfodydd sefydliad y Parch. D. Lewis (Dewi Medi), yn eglwys y Dock, nos Lun a dydd Mawrth, Lhwef. 20 a'r 21. Nos Lun, dechreuodd y Parch. Mr. Edwards, Gower;. a phregethodd y Parchn. J. B. Jones, B A., Penybont (i'r gweinidog); a J. Davies, Caerdydd. Bore dydd Mawrth, am 10, dechreuodd y Parch. T. Johns; pregethodd y Parch. J. Davies, Caerdydd, ar I Natur Eglwys;' gofynwyd am yr arwydd arferol oddiwrth yr eglwys a'r gweinidog gan y Parch. T. Davies, Siloah; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan y Parch. J. Thomas, Bryn; a phregethwyd i'r eglwys gan y Parch. T. P. Evans, Ceinewydd. Am 2, dechreuwyd gan y Parch. Mr. Jenkins, Cydweli; a phregethodd y Parchn. W. E. Jones, Treforris; a T. Davies, Llandeilo. Am 612, dqchreuwyd gan y Parch..T. Davies, Siloah; a phregethodd y Parchn. T. P. Evans, Ceinewydd; a Dr. Rees, Abertawe. Yr oedd y cyfarfodydd yn anarferol dda drwyddynt -y canu yn rhagorol, y gweddio yn daer a grymus, y pregethu yn hwylus a nerthol, a'r cynnulleidfaoedd yn lluosog iawn. Yr oedd y cwbl fel yn arddangos boddlonrwydd nefoedd a daear i'r undeb. Ac yn wir, gallem feddwl fod yr uniad yn un cymharus rhwng gweinidog ieuanc ac eglwys ieuanc,—y gweinidog yn bregethwr da, yn ddyn gweithgar, ac o gymeriad pur; a'r eglwys o honi hithau yn liawn gwres, gweithgarwch, cariad, a bywiogrwydd ieuenctyd; ac ond cael cydweithrediad, gyda bendith Duw, bydd iddynt gyflawni gwrhydri ar faes y rhyfel ysbrydol. Gobeithiwn y cant gyd- redeg gyrfa lwyddiannus am flynyddoedd lawer. Undeb canu cynnulleidfaol Annibynwyr Llanelli d PAeH&re.—Cynnatiwyd ail gyfarfod cyhoedhus yr undeb uchod yn Siloah, Llanelli, nos Sadwrn, Chwef. ISfed. Canwyd amryw o donau o lyfr Stephen a Jones, gan y corau perthynol i'r undeb, sef Capel Als, Siloah, Bryn, Docknewydd, a Jerus- alem, Penbre. Llywyddwyd gan y Parch. J. Davies; ae arweiniwyd gaa Mr W. Hughes. Yn ystod y cyfarfod traddochvyd anerchiadau pwrpasol gan y Parchn. J. Thomas, D. Lewis, a T. T. Johns. Nid yw yr undeb end peth newydd etto yn Llanelli, ond y mae y cynnulleidfaoedd .sydd yn d'od yn nghyd i'r cyfarfod cyhoeddus ei bod yn cael sylw heiaeth, a bod y lluaws yn teimlo dyddordeb yn y mudiad. Bwriedir cynnal y cyfarfod cyhoeddus Desaf yn y Bryn, yn mhen tua deufis. Mae amryw o gorau undebol wedi eu ff urflo yn y Ile yma yn bresenol ar gyfer cystadleuaetli. Gobeithiwyf na fydd i'r cantorion roddi eu holl fryd ar y cyfryw ac esgeuluso parotoi ar gyfer yr undeb cynnulleidfaol. Cofiwn mai canu addoliadol ddylai gael ein prif sylw a'n gofal, ac yna canu corawl a chystadleuol os bydd amser yn caniatau.—G. GRIFFITH, Ysgrif- enydd yr Undeb. CYFARFOD CENADOL BLYNYDDOL DOSBARTH ISAF SIR GAERFYRDDIN, A gynnaliwyd yn Llanboidy ar yr 8fed a'r 9fed o Chwefror. Llywyddwyd y Gynnadledd, yr hon a ddechreuodd am 11 y dydd cyntaf, gan y Parch. S. Evans, Hebron. Penderfynwyd—1. Fod y Parch. R. Morgan, Bethlehem, yn cael ei dderbyn yn wresog i'r Undeb, trwy gymeradwyaeth Undeb Gorllewinol Morganwg. 2. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Aber- gwilly; y Parch. J. Lewis, Henllan, i bregethu ar Foesoldeb." 3. Darllenwyd llytliyr oddiwrth Gy- manfa Ddirwestol ac attaliol Deheudir Cymru. Cyn- nygiwyd gau y Parch. W. Thomas, Soar, ac eiliwyd gan y Parch. R. Morgan, Bethlehem, fod y cyfarfod hwn yn mawr lawenhau fod ein llywodraeth yn pen- derfynu dwyn mesur o flaen y Senedd nesaf i reoleiddio trwyddedau tafarndai, ac yn mawr hyderu y cynnwysa y ddwy adran ganlynol:—Yn (1). Rhoddi hawl i gymydogaethau i derfynu y fasnach feddwol yn hollol trwy fwyafrif. (2). I osod hollol attalfa arni ar y Sabbath trwy yr holl deyrnas. Oherwydd amgylchiadau annysgwyliadwy, methwyd a chynnal cynnadledd gy- hoeddus yn y prydnawn. Cafodd y gweinidogion gyfleusdra i ymddyddan ar amrywiol bethau pwysig ,y rhwng y cyfarfodydd cyhoeddus. Ar ol y cyfarfod pryd- nawnol yr ail ddydd, ymgynnullasant i'r addoldy, ac yn y gyfrinach hono bu ymddyddan difrifol ar gymeriad y weinidogaeth yn eu plith-y pwys mawr iddo fod yn uchel ac urddasol, uwclilaw drwgdybiaeth. Amlygai pob un o honynt, ddymtmiad cryf i Proff. Morgan barotoi erbyn Cynnadledd Abergwilly, y papur oedd wedi fwriadu ddarllen yn nghynnadledd Llanboidy. Ymddyddanwyd hefyd ynghylch natur y bertliynas sydd yn bodoli rhwng gweinidogion y cyfundeb a'u gilydd—a pha rai yw y dyledswyddau sydd yn oblyg- edig yn y cyfryw berthynas tuag at weinidog yr efengyl. Pa sylw a ddylai gweinidogion y cyfundeb fel y cyfryw gymeryd. Ni ffurfiwyd un penderfyniad arno, ond dymunwyd ar eglwysi y cyfundeb a'r gweinidogion i dalu sylw difrifol iddo, oblegid dwyn y pwnc dan sylw yn nghynnadledd Abergwilly. Cymeradwyid cynnyg Mr. Miall, yn y senedd bresenol, i ddadgysylltu yr eglwys a'r llywodraeth. CYFARFODYDD CYHOEDDUS. Dydd cyntaf, am 2, gweddïodd Mr. Jenkins, Cana; a phregethodd Mr. Rogers, Pantteg, a Mr. Thomas Bwlchnewydd. Am 6 gweddiodd Mr. Thomas, Soar; pregethodd Mr. Jones, Lacharn, a Mr. Jenkin, Cana. Am 10 yr ail ddydd gweddïodd Mr. Jones, Ffynon Bedr; pregethodd Mr. Jones, Abergwilly, a Mr. Morgan, Beth- lehem. Ar ol y pregethau, gweinyddwyd yr ordinhad o y Swpper yr Arglwydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. Evans, Hebron, a Mr. Thomas, Bwlchnewydd. Anetchwyd y cymunwyr a'r gynnulleidfa gan Mr. Jenkins, Cana; Mr. Jones, Abergwilly; a Mr. Morgan, Bethlehem, &c. Am 2, gweddïodd Mr. Evans, Hebron. Pregethodd Mr. Thomas, Llansilio; Mr. Davies, Blaea- ycoed; a Mr. James, Carfan. Am 6. gweddiodd Mr. William Morris, Moriah. Pregethodd Mr. Rogers, Pantteg; Mr. Jenkins, Cana; a Mr. Jones, Fynnonbedr. Gorphenwyd trwy weddi gan Mr. William James, Moriah. Gadawodd y cyfarfod argraffdclymunol ar yr eglwys a'r gynnulleidfa; cyfrifem y pregethu yn rhag- orol; ychwanegai y cymundeb yn fawr at ddylanwad y cyfarfod. Yr oedd yn elfen newydd o ddylanwadau grymus. Pit beth yw y rheswm na fuasem yn gwein- yddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn mhob cyf- arfod chwarterol ? Oni fuasai cael portreiad o flaen ein llygaid <» lesu Grist wedi ei groeshoelio' yn debyg o aijael dylanwad da ar y gweinidogion, ac ar y gwran- dawyr?—J. LEWIS, Henllan. O.Y.—Daeth y rhan fwyaf o gyfrifon yr eglwysi i law, a dysgwylir ycwbl yn fuan. Yrydymyn ddiolch- gar iawn i'r brodyr a'r eglwysi sydd heb weinidogion, am eu parodrwydd yn anfon y cyfrifon morgyflawn ac amserol. Cant ymddangos yn y ffurf a olygir yn fwyaf buddiol i'r eglwysi.