Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

., , Y TRI HYN, ILEWIS, WIL,…

News
Cite
Share

Y TRI HYN, I LEWIS, WIL, A JACK. GAN WMFFRE DAFYDD. PEN. III. Y MAE Wil erbyn hyn wedi dyfod yn ddyn mawr iawn yn y byd yma. Y dyn mwyaf o lawer ynddo yn ddiau yn marn Wil ei hun. Hana Wil o hen deulu, ond nid hen iawn chwaith; gall ei gymydog Joseph olrhain ei achau lawer yn mhellach yn ol nag ef, pe b'ai fater am hyny. Rhyw Syriad ar ddarfod am dano oedd tad cyntaf Wil, ducyn bychan yn byw ar dduciaeth fechan. Cafodd ffafr yn ngolwg cymydog goludog, yr hwn a helaethodd ei derfynau, ac a ychwanegodd at ei awdurdod. Daliodd pob un o'r teulu o genedlaeth i genedl- aeth eu llygaid a'u hamrantau i edrych yn uniawn o'u blaen; craffent a dalientarbob adeg a mantais i eangu terfynau eu hetifeddiaeth, ac ychwanegu grym eu hawdurdod, drwy unrhyw foddion teg neu hagr, cam neu gymhwys. Cododd un Nimrod ofnadwy o honynt, yr hwn oedd heliwr cadarn ar y ddaear, yr hwn y gwnaethfyr awff-lenoryddt. Carlyle eulun-dduw 0 hono ar gyfrif ei rempau gwrhydrus. Peth rhyfedd na buasai efe, Carlyle, wedi gwneud arwr o'r gwr drwg ei hun cyn hyn, a galw ar bawb i blygu mewn edmygedd ger ei fron ef, tad holl ryfeloedd a rhyfelwyr y byd. Y mae Wil yn tynu mewn gwth o oedran bellach, ac yn dipyn o ryfelwr o'i febyd. Yr oedd efe yn fachgen gyda'i dad pan yr oedd y Napoleon cyntaf yn ei bwnio ac yn ei banu, fel y crybwyllwyd yn y bennod o'r blaen. Yr oedd gwyniau rhyfel yn'gweithio o hyd yn esgyrn Wil er yr amser hwnw hyd yn awr. Haera rhai fod calon Wil yn well na'i ben ef. Gall hyny fod, am a wyddom ni; ar yr un pryd, rhaid cofio fod cysylltiad agos iawn rhwng pen a chalon dyn. Y mae Wil wedi cymeryd un meddwl i'w goryn 'a'i galon, neu rywle, sydd wedi gwreiddio yn bur ddwfn ynddo, a'i wneud yn bur bengam-bendew, sef y meddwl a'r gred fod ganddo hawl oruwchnaturiol a dynol i'r sefyllfa y mae ynddi, ac i wneud yn ol ei ewyllys ei hun a, phawb a pliobpeth o fewn ei derfynau. Nid oes neb dan haul yn credu yr athrawiaeth hon mor gadarn a diysgog ag y creda efe hi; byddai gan hawdded tynu'r lefiathan allan o For y Gogledd a bach pysgota brithyll ag fyddai tynu'r idea hon o ben Wil a bach rheswm. Y mae Wil yn grefyddol iawn hefyd; pa un ai yn ei ben ynte yn ei galon y mae ei grefydd yn trigo, ni cheisiwn benderfynu; fodd bynag, y mae Wil yn grefyddol yn neillduol felly pan fyddo yn trin ei nodwydd. Pa un a fydd efe yn gofyn bendith ar ei fwyd, ac yn talu diolch am dano, nis gwyddom; y mae yn wastad yn gofyn bendith ar ei nodwydd, beth bynag, ac yn talu diolch am bob graddau o lwyddiant a gaffo ar waith hono. Gall Wil ladd a llarpio miloedd o ddynion, llosgi a difrodi dinasoedd a threfi, anrheithio gwlad, a chreu trueni, newyn, a heintiau, dan ganu Salmau yn grefyddol dros ben. Ymddengys oddiwrth ei epistolau ei fod yn credu yn ei galon fod rhagluniaeth y nef wedi ei godi a'i anfon i gyflawni gweithredoedd crefyddolla duwiol felly ar y ddaear. Er ei holl grefydd, y mae Wil yn drachwantus. Nid yw y gorchymyn hwnw sydd yn gwahardd i ddyn 'chwennych dim a'r sydd yn eiddo ei gymydog' yn erthygl yn ei gredo a'i grefydd ef, y mae yn ymddangos. Ychydig flynyddau yn ol taflodd olwg drachwantus ar winllan fechan o eiddo cymydog gwan iddo, yr hon oedd ar der- fynau ei etifeddiaeth ef. Aeth y blys yn rhy gryf iddo ymattal. Ceisiodd dynu cweryl rhyngddo a'r cymydog gwan, a gwnaeth ryw gysgod o esgus i wneud ymosodiad arno; a rhag i'r bai orwedd i gyd ar ei ysgwyddau ef) llwydd- odd i berswadio ei gymydog Joseph i ymuno ag ef; ac allan yr aeth y ddau labwst mawr, ac ymosodasant ar y truan gwan, a dygasant ei winllan oddiarno trwy drais, tra yr oedd yr holl gymydogion yn crio cywilydd arnynt. Yr oedd Jack Fraichgref, yn neillduol, wedi brochi yn erwin, ac yn bygwth estyn allan ei fraich yn erbyn y treiswyr; ond meddyliodd wedi hyny mai doethach fuasai iddo beidio; a gwell yn ddiau oedd yr ail feddwl na'r cyntaf. Nid hir y bu Wil ar ol hyny heb dynu cweryl â. Joseph. Yr oedd y ddau yn llawn o ysbryd y Diotrephes hwnw-'yn chwennych y blaen.' Wil am fod yn feistr ar Joseph, a Joseph ar Wil. Ond nid aethai Joseph i ymladd chwaith, pe cawsai lonydd. Hwnw oedd y tro cyntaf i Wil dynu ei nodwydd allan, a gwneud prawf o honi. Prophwydai a dymunai y cymydogion yn o gyffredin mai Wil a gawsai y gwaethaf yn yr ornest; ond cyn pen y pythefnos wedi iddi ddechreu yr oedd Wil wedi gyru ei nodwydd trwy gnawd Joseph, druan, a'i bwytho mor galed fel y bu raid iddo fegio am ei fywyd. Siomwyd Lewis Siasbot yn neillduol yn llwyddiant Wil i faeddu Joseph; gobeithiai Lewis yn ei galon mai Joseph fuasai drechaf. Llwyddasai Wil trwy addewidion teg a gwen- iaith i gael gan Lewis adael rhyngddo ef a Joseph, a pheidio ymyraeth yn y cweryl; a chymerodd yntau ei berswadio yn rhwydd, am ei fod yn hyderu yn gryf y buasai Joseph ei hunan yn fwy na digon o fatch i Wil. 0 hyny allan cadwai Lewis ei lygad ar Wil, a Wil ei lygad ar Lewis. Priodol y gellir cymhwyso yr hyn a ddywed y prophwyd Daniel am ryw ddau frenin gynt at y ddau hyn-'A chalon y ddau frenin fydd ar wneuthur drwg, ac ar yr un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia.' Oedd, yr oedd gwneuthur drwg y naill i'r Hall yn nghalon ac yn llon'd calon y ddau, a thwyll a chelwydd lon'd eu geneuau hefyd; ac fe dorodd y drwg allan yn llifeiriant ofnadwy o'r diwedd. Pe na wnaethentddrwg i neb ondawnaiynaill i'r Hall, gallesid gadael iddynt yn llonydd a dystaw; ond eraill sydd yn dyoddef oddiwrthynt: gwnaethant ddrwg i fyrddiynau ar fyrddiynau o ddynion—drwg na all neb byth ei draethu na'i ddirnad-drwg y bydd ei effeithiau niweidiol, yn dymmorol a moesol, yn ymestyn yn mlaen i oesau a chenedlaethau i ddyfod. 'Un pechadur a ddinystria lawer o ddaioni.' Wele pa faint o ddaioni a ddinystriodd y ddau bechadur hyn! Afreidiol yn awr fyddai adrodd hanes yr ymornest ofnadwy a fu rhwng Wil a Lewis, gan ei fod yn hysbys i bawb. Gwyddys fel yr aeth Lewis allan, mewn llawn hyder rhyfyg, i ymosod ar Wil yn nerth ei Siasbot, a miloedd o ffyliaid Paris yn ei hysio yn mlaen, ac fel yr aeth Wil allan i'w gyfarfod gyda'i nodwydd, ac y pwyth- odd ac y stitchiodd ef. Yn rhwym, draed a dwylaw, yn mhwythau a stitches Wil, y mae Lewis, druan, yn aros hyd heddyw. Ofna ei gymydogion y bydd Wil yn anhaws ei drin ac i fyw yn agos ato nag erioed ar ol hyn. Dysgwylia ef y bydd arnynt oil ei ofn, ac na feiddiant mwyach wrthwynebu ei ewyllys a'i amcan mewn dim, na fydd raid iddo wneud dim ond dangos a bygwth ei nodwydd arnynt er peri iddynt gilio o'i ffordd ac ymgadw o'i lwybr; ond dylai gofio fod rhagluniaeth fawr wedi darostwng llawer gwalch o'i fath yn ddigon isel ei ben cyn hyn, ac na chaniata hi ddim iddo yntau swagro yn hir yn y byd yma heb roddi ei bach yn ei ffroen, a'i ffrwyn yn ei weflau. Fel brenin Babilon gynt, yr hwn a 'aberthai rwyd, ac a losgai arogldarth i'w fallegrwyd,' felly mae Wil yntau yn awr, yn barod i aberthu ac arogldarthu i'w nodwydd; 'canys trwyddi hi y mae ei ran yn dew, a'i fwyd yn fras.' Ni a adawn Wil ar hyn o bryd. Rhoddir ychydig o hanes Jack y tro nesaf.

" r L CWYMP PARIS. •

YR ELUSENDY..

| Emrgtotaetftati. ; ^