Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Eglwys Annibynol Grove Street. PREGETHIR, Nos Sabboth, Mai 13egs 1900, GAN PROFF. THOMAS LEWIS, M.A., B.D., Coleg Aberhonddu. Capet WesSeyaidd Boundary St. East, LIVERPOOL. Cynelir Cylchwyl Flynyddol yr Ysgol Sabbothol, SABBOTH, MAT 13eg, 1900. Pregethir am 10 30 ac am 6 o'r gloch gan y farch. DAVID JONES, Abermaw, ac am 2-30 p.m. yn Saeane gan y Parch JOHN WARD, Liverpool Wesleyan Mission. J^IVERPOOL & NORTH WALES. REGULAR DAILY SAILINGS (SUNDAYS included). Paddle Steamer SHOWr ON leaves Prince's Stage a"; 10-45 a.m (weather and circumstances permitting), for Llandudno, Beaumiris, Han-jor (with a connection for Menai Bridge) due back 7-15 P. m. Allowing about Three Hours Ashore at Llandudno. For fares and all further particulars apply to the Liverpool and North Wales Steamship Co., Ltd T G BREW, Secretary, 2) Water street. Liverpool. Tel. No 6366 FOR FLOOR OILCLOTHS, LINOLEUM, AND LACE CURTAINS, BETTER YALUE IMPOSSIBLE., SWANSON'S, 119, 121, Wavertree Roa d, WALTHAM WATCHES are the best Timekeepers in the World. NONE SO ACCURATE NONE SO DURABLE. NONE SO CHEAP. Price in Silver from ftla upwards inRolledGold 50s in lCct. Gold „ 8 Is „ in 18ct. Gold „ 98 „ SCHIERWATER & LLOYD, Special Retail Agents, 29 Church Street, Liverpool. Telephone No. 2339 Telegrams—Marquees ESTABLISHED HALF A CENTURY. HOWARD'S CART & WAGON SHEETS, Tarpaulins, Horse Clothing, Nose Bags. Tents, Marquees Temporary Awnings. TEMPORARY BALL-ROOMS Lighted, Decorated, Parquet Floor laid. 35, REDCIOSS STREET, LIVERPOOL. Writ or send for Quotations.
[No title]
Y Sabboth diweddaf, agorwyd capelnewydd Wea leyaid y Groes, Llanasa. Adeiladwyd yr hen gapel yn 1816, ac yr oedd o wneuthuriad anarferol, gan y safai y pwlpud mewn math o ffynon," a'r seddau yn codi yn risiau uwchlaw iddo, i'r nenfwd. Y pregethwyr a weinyddent y Sabboth diweddaf oeddynt y Parchn Edward Humphreys; Evan Jones, Dinbych a David Morris, Aberffraw. Y mae Mr John Evans, yr hwn oedd yn orsaf- feistr am flynyddau yn Deganwy, wedi ymneillduo 'ar flwydd-dal, a Mr R H Edwards, gorsaf-feistr Hen Golwyn wedi ei osod yn ei le. Yna ceir y cyfnewidiadau canlynol -Mr T J Griffiths, Dol- yddelen i Hen Golwyn Mr Hall, Kinnerton i BbTyddelen a Mr Patrick, un o swyddogion gorsaf Bangor, i Kinnerton. Oherwydd ei absenoldeb yn Neheudir Affrica met ha Mr Robert Wynne, Garthewin, Abergele, lanw'r swydd o Uchel-Sirydd dros sir Ddinbych am y flvvyddyn hon, ac anfonwyd cais at y Milwriad John Iligson, Plasmaioc, yr uchel-sirydd presenol, tgádw-'r swydd am fiwyddyn arall. Y mae yntau .vedi ail-benodi Mr David Jones, cyfreithiwr, Llanrwst, yn is-Sirydd, a'r Parch John Morgan, rheit'ior yr un dref, yn gaplan.
Advertising
GLOVES A SPECIALITY. The Most Complete Stock of Ladies' an children Gloves in Liverpool MILES' PATENT SEAMLESS GLOVES, 31111 per pair, made from the finest French skins. Endless variety of Rehable Makes of Kid and Suede Gloves for Ladies at 1161, 1/11, 2/6f, and 2/11 per pair. -1 Strong and Useful English Laabher'^Glove; for Girls, Boys, or Infants at l/0f, 1/61. and* IiIli per pair. IHENRY MILES & CO 25 and 25A, CHURCH STREET, (Opposite Pro Cathedral) LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfouir UN copi yn ddidraul trwy y Post dID 12 mis, 5/6—Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, lie Blaendal yn unig. o At Eln Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth reolaidd gyrhaedd zV Swyddfa cyn canol dydd Llun, neu ni ellir ei chyhoeddi yn y rhtfyn canlynol Y GYSTADLEUAETH AR GYFIEITHU 0 RUSKIN. Mia Afon ydyw'r buddugol. Ymddengys y feirn- iadaeth yn ein nesaf. ConnaWs i^aay.—Rhy ddiweddar yn ein cyrhaedd, a bydd vn rhy henlyr wythnos nesaf. Danfoner yn brydloaach. Yliiltolydd.-Yr ydym wedi dweyd o'r blaen fod y Prifathraw Edwards wedi cwblhau Cofiant ei dad, Dr Lewis Edwards, er's misoedd cyn marw; ac wedi trosglwyddo y llawysgrif i'r cyhoeddwr. I ba ddyben y dywediryn wahanol gan 01. y misol- yn ceiniog y cyfeiriwch ato, nis gwyddom, ac ni a wyddom hefyd. Pethau fel hyn sydd wedi ei wneud na roddir fawr bwys ar yr hyn a ddywedo. L) r G^mro. DYDD IAU, MAI 10, 1900. CYNWYSIAD: Can o waith Die Dywyll." Nodion o Gwm a Dol. Hanes y Rhyfel. Trysorau y diweddar Mr Nicholas Bennett. Y Newyn yn yr India. Dail Te. Llythurau 'Rhen Ffarmwr. Achosion y Rhyfel. Casgliad y Can Mil. Y Ffrwydriad yn Utah Cymry wedi eu lladd. Gweddillio. Datgeiniaid Eisteddfod Genedlaethol 1900. ° Y Senedd a Thwyll.
UWCH Y CORSo
UWCH Y CORSo TEITHIO ar siglenydd y mae Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn barhaus, ac nid yn fuan yr annghofir yr un y ba arni os nid ynddi nos Wener ddiweddaf. Tueddol fu. asem i dosturio wrthi yn ei henbydrwydd, oni buasai mai hi ei hun sydd gyfrifol am y sefyllfa. Er dechreu yr helynt blin yn Ne Affrica, cyfres o fwnglerwch ar ol bwnglerwch ydyw ei hanes. Yn raddol daw'r wlad i sylweddoli y trybini i ba un yr arweiniwyd hi iddo gan gyfaredd gogoniant y cledd, ac i'r graddau y syl. ol weddola hyny y cyll ei hymddiriedaeth yn y Llywodraeth. Fel pob euog, rhaid taflu y bai ar arall, ac yn hyn eto dengys y Llywodraeth hon ei hanallu a'i han- onestrwydd. Mae ambell i achos yn myn'd yn waeth wrth ei amddiffyn. Un felly mewn modd neillduol iawn ydyw gwaith y Llywodraeth yn cyhoeddi brys-lythvrau Arglwydd Roberts ar ym- ddygiadau y Cadfridogion Buller a Warren yn Neheu Affrica, ac yn arbenig mewn cysylltiad a'r trychineb ar Spion Kop. Anaml o drugaredd y cyflawna unrhyw Lywodraeth weithred mor anesgusodol Chwech wythnos ar ol derbyn y llythyrau, a phan oedd y rhyfel ar ei chanol, wele swyddogion Swyddfa y Rhyfel, a chyda chydsyniad aelodau eraill y Wein- yddiaeth yn cyhoeddi cyhuddiad y Maes lywydd o fwnglerwch ar ran swyddogion milwrol eraill. Tfra ddyben, nis gwyddai'r I I wlad, ond yr oedd yn ddigon mawrfrydig i dybied fod gan y Weinyddiaeth rhyw resymau cedyrn na farnai yn ddoeth eu nodi ar y pryd. Ond wele, nos Wener dygwyd y mater gerbron Ty'r Cyffredin a chafwyd allan beth oedd y "rhesymau" Anturiwn ddweyd na chondemniwyd Gweinyddiaeth ond anfynych, o'i genau ei hun,o annoeth- ineb ac o ystrywiau gwaeth i geisio drygu cadfridog dewr sydd er's misoedd, tan an- hawsderau dirfawr, yn sefyll ei dir pan na fuasai Arglwydd Roberts ei hun hwyrach ddim yn gallu gwneud yn amgen. Am- ddiffynai Mr. Wyndham, Is-Ysgrifenydd Rhyfel, ac un o'r dadleuwyr goreu a fedd y Toriaid, ei gyd-weinidogion gyda'i fedr ar- ferol ond aflwyddiant anarferol; ac ni feddai Mr Balfour gefnogwyr digon gwrol i geisio eu hamddiffyn-i'r gwrthwyneb, o'r blaid Doriaidd ei hun y cafodd y feirniad. aeth lemaf. Ond yr ystryw waethaf o'r cwbl a ddaeth i'r amlwg yn y ddadl ydoedd y cais a wnaed i gael gan Syr Redvers Buller ail ysgrifenu yr adroddiad a ddanfonodd i Arglwydd Roberts er mwyn camarwain y cyhoedd parth yr hyn a gymerodd le, ac y mae'n glod i'w ben a'i galon ddarfod iddo wrthod. Yr oedd yr ymgais yn un annheil- wng, a iawn y dywedodd Syr A. Acland- Hood-Tori a milwr-mai y rheswm i Buller wrthod ydoedd, "y digwyddai fod yn foneddwr." Pa reswm ydoedd ceryddu swyddog yn gyhoeddus o fl en y byd mewn argyfwng mor ddifrifol a hwn, ac ar yr un pryd ei adael yn ei swydd ? Na feier Argl. Roberts am ei feirniadaeth-yn hytrach, edmyger ef, a llawenhaer fod genym Faes Lywydd digon gonest a di dderbynwyneb i ddatgan ei feddwl yn groew wrth Swyddfa Rhyfel am y swyddogion oedd dano ond beth oedd yn galw am gy- hoeddi y cyfryw adroddiad ger gwydd y byd? Methiant truenus fu cais y Weinydd- iaeth i roddi esboniad. Ceisient daflu y bai ar Arglwydd Roberts, ond gwyr pawb fod y boneddwr hwnw chwe' mil o filidiroedd i ffwrdd, ac nad oes a fyno ef o gwbl a. chy- hoeddi y llythyrau; a gorwedd y cyfrifol- deb yn hollol wrth ddrws Swyddfa Rhyfel. Llefarodd Arglwydd Rosebei-Y vii. gryf ac argyhoeddiadol yn Nh yr Arglwyddi ar annghyfiawnder y Llywodraeth tuag at Syr Redvers Buller, a'r un modd Mr Asquith yn Nhy'r Cyffredin. Ond condemniwyd y Weinyddiaeth yn llymach, fel y dywedas- om, gan ei phleidwyr ei hun na chan ei gwrthwynebwyr. Yr oedd Mr Maclean, yr aelod Toriaidd dros Gaerdydd, yn nod- edig o lawdrwm arni. Os nad oedd Syr Redvers Buller yn gymhwys i arwain y fyddin yn Natal, dylesid ei alw adref ar bob cyfrif, a rhoddi gwr cymhwys yn ei le ond os nad oedd ganddynt wr arall i lanw ei swydd, eu dyledswydd ydoedd rhoddi iddo bob cynorthwy er cynal ei freichiau a chadarnhau ymddiried ei wyr ynddo. Y mae gwaith y Llywodraeth yn ceisio gan y boneddwr hwnw ysgrifenu adroddiad gau ac anwireddus am anffodion y Tugela a Spion Kop, er mwyn cysgodi ei bwngler- wch hi, yn anfri mawr arni er nad yw ond engraipht arall o'r dull y dyga bethau yn mlaen er cyn y rhyfel. A phaham y dy- noethir anffawd Spion Kop, a chuddio an- ffawd Magersfontein, er gwaethaf ymdrech yr Aelodau Ysgotaidd i gael eglurhad ar yr olaf ? Awgrymwyd yn lied groew mai yr achos ydoedd i Arglwydd Methuen gael gorchymyn i ryddhau Rhodes costied a gostio. Nid beirniadu, condemnio, a di- swyddo Cadfridogion dewr sydd eisiau, ond diswyddo y Llywodraeth a ddarostyng- odd Brydain yn ngolwg cenedloedd gwar- eiddiedig eraill y ddaear ar gyfrif ei meth- iantwch a'i haflwydd gyda'r rhyfel hwn er's saith mis bellach, ac sy'n debyg o barhau am rhyw yspaid yn mhellach. Felly, y ma'r Weinyddiaeth drwsgl bresenol uwch y gors hyd yn hyn, ond nid oes ddewin all ddweyd pa mor fuan y bydd tani.
---o-OWKS v Syn.I
-o OWKS v Syn. I Achosion y Rhyfel, NID yw pawb, fel y myn rhai, yn rhoi anair i'r Boeriaid ar 01 byw am dymhor hir yn eu plith. Tarawais ar Gymro ieuanc o Lerpwi yma a fu yn byw yn Transvaal am flynyddau. Dywedai nad oedd yr un amheuaetb na wyddai'r Llyw. odraeth yn Llundain fod y Boeriaid yn ymalf. ogi o leiaf byth er Rhuthrgyrch Jameson, ond ni chymorent nemawr sylw o hyn er eu rhy buddio yn fynych. Yr oeddynt yn gwbl hy- darus mai gwaith byr fyddai darostwng haid fach o wladwyr anystywallt felly. Y balchder difraw hwn fu'r achos o wrthod cynghorion Syr Win. Butler, rhagflaenydd Syr Redvers Bailer fel cadlywydd yn Neheu Affrica. Yr oedd Syr William ya deall y gelynion, ac yn adnabod y wlad, yn well na'r un swyddog milwrol arall, a gwrthododd ymdaith i warchod terfynau y Transvaal rhag i'r Boeriaid eu croesi bob fyddin fan lleiaf o haner can mil. Diofalweh anesgus- odol Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury a bar- odd y rhyfel yn y dechreo ei bwnglerwch wed'yn ydyw'r achos na fuasai'r Prydelniaid yn Pretoria yn mhell cyn hyn ac heb golli chwait- er y bywydau a gollwyd eisoes, heb son am a gollir eto ac os nad yw Etholwyr Prydain wedi g)An wirioni, hwy groesawant y cyfle cyntaf i'w thaflu allan. Pa on ai pwyll ynte Etholiad Cyffredinol ddaw yn ol atynt gyntaf, amser a ddengys. Rhydd Cymro arall sydd yn awr yn byw yn Lerpwl ond a dreuliodd flynyddau yn y Trans- vaal, engraipht o'r dull chwithig y mae Swydd- fa Rhyfel yn prynu ac yn danfoa ceffylau i'r gad. Rhaid i bob anifail fod yn hyn a hyn o uchder, tra y buasent yn gymhwysach at y gwaith sydd o'u blaen pe o leiaf dair modfedd yn llai; ac yn He meirch graenus, llyfndeg, porthiauus, tebyg i geflylau moethus a welir yn tynu cerbydau y bonedd, dylesid prynu rbyw greaduriaid yageifn, bycbain, buandroed, darn debyg i'n "merliwns y mynydd ni, y rhai sy'n gynefin a flar galed, allant gysgu allan yn y gauaf ac mewn dryghin, heb fod ddim gwaeth. Dyna'r math sydd gan y Boeriaid, ac y maent o help mawr iddynt. Tra ninau hebddynt, a'n hanifeiliaid godidog yn marw wrth y miloedd, gan y ealedwaith o ddriugo'r llechweddau, yr hinsawdd Dad yw yu dygymod a hwy, a'rporth- iant prin ac annghynefin iddynt. Y mae cyn- ffonau meirch y Boeriaid yn ddigon hir i gyr- haedd bron hyd y llawr, ac yn dra gwerthfawr i chwipio y pryfaid a'r gwybed sydd yn eu poeoi mor erwin yn y wlad hono. Aeth ein cyfaill i lawr i un o'r dociau yn Lerpwl i weled llwyth lloDg o geffylau-o wyth cant i fii-yn cychwyn i'r Cape, ac er ei syndod gwelai fod cynffon pob ceffyl wedi ei thori o fewn tua throedfedd i'r bôn-y rhawn a fuasai mor waa- anaethgar i'r creadur chwipio ei boenydwyr pan gyrhaeddai ben ei daith, wedi ei gymeryd yrn- aith bron yn llwyr. Yr oedd yn ddrwg gan y dyn yn ei galon edrych ar y creaduriaid diainddiffyn ac ni tedrai yn ei fyw beidio credu y byddai'r un o'r creaduriaid hardd fyw dri mis yn Neheadir Affrica. Bwnglerwch o'r fath yma a fu yn difa meirch y fyddin Brydeinig, ac yn rhwystro Arglwydd Roberts i ymdaith yn mlaen. Hawdd iawn ydyw condemnio swyddogion milwrol, a chy- hoeddi condemniad y Maeslywydd ar ddiffygion y cadlywyddion eraill. Y mae'r bai yn llawer nes adref. Y Llywodraeth a'n llusgodd i'r rhyfel, ac sydd yn ei dwyn yn mlaen mewn dull mor blentynaidd, sydd i'w beio, ac y dylid eu diswyddo gyntaf. Casgliad y Can Mil. BUAIDD yn araf, mae'n ddrwg genym glywed, y daw yr addewidion i law. Yr ydym yn llwyr argyhoeddedig fod y symudiad yn y dwylaw goreu a chymhwysaf at y gwaith o osod yr achcs gerbron y wlad, a'r un mor argyhoeddedig fod di. gon o gyfoeth yn y Corph i wneud y swm i fynu yn rhwydd a didrafferth. Felly nid yw hwyrfryd- edd yr aelodau i gyfranu at yr achos yn codi oddiar anallu yr hyrwyddwyr nac anallu arall o da y cyfranwyr. Gorfodir pobl i gredu, gan hyny, nad yw'r amcanion yn apelio yn rymus at galonau, a thrwyddynt hwy at logellau, y bobl. Cymwynas & phleidwyr y symudiad ydyw dweyd fod lluaws yn ambeu ai nid yr Acbosion Seisnig ydyw'r hyn a elwir y Forward Movement; a bod yr Achoeion hyn yn cael llawn cymaint o help yr eglwysi Cymreig ag a haeddant eisoes mewn Ilawer man. Dywedir befyd mai "for- ward movement ydyw'r Hen Gorph ei hun, ac nad oes angen o gwbl am y symadiad ond rhoddi egwyddorion sylfaenol yr enwad mewn grym. Gofidir na fuasai blaenoriaid y Drysorfa hon wedi dathlu dechreu canrif newydd hefo casgliad tuag at sefydiu yr hyn y mae mawr angen am dano mewn enwad mor luosog a phwysig, sef Cartref i'w Blant Amddifaid a'i Hen Aelodau Methiantus, fel sydd gan enwadau eraill heb feddu rhif na cbyfoeth y Methodist- iaid Calfinaidd. Clywsom fod amryw blant am- ddifaid yn Lerpwl yn cael eu dwyn i fynn yn Orphanages y Pabyddion, a gwyddom am hen aelodau Methodistaidd wedi gorfod llechu yn nghysgod Elusendai Eglwysig rhag myned i'r Tylotty, ac na chant yn y sefydliadau y maent ynddynt gyfleusdra i fwynbau breintiau yspryd- 01 eu henwad eu hunain. Y mae ugeiniau eraill yn Nghymru, a gyfranasant hyd eu gallu ar hyd eu hoes, nes y goddiweddwyd hwy gan henaint a thylodi, ac nid oes ganddynt ddim i'w wneilcl ond gofyn help y plwy neu fyned i'r tylotty. Fe gydnebydd pawb nad yw hyn, a'i gymeryd hyd yn nod o'i safle fydol ac isaf, yn deilwng o brif enwad crefyddol Cymru. C1) Y Newyn yn yr India- Nis gall gwlad fawr gyfoethog fel Prydain fyned i ryfel hyd yn nod hefo gwlad fechan yn Nghanolbarth Affrica heb i ranan ohoni ddyoddef o'r herwydd yn fawr. Tra yr ydym yn gwario dwy filiwn yn yr wythnoa ar y rhyfel yn un cwr o'r deyrnas, y mae agos i chwe' mil- iwn o'n cyd ddeiliaid mown cwr arall yn dyodd- ef oddiwrth newyn, ac yn trengu wrth y can oedd bob wytbnos o eisiau bwyd. Chwe miiiwn Girnairit a phoblogaeth Cymru a Scotland gyda'u gilydd, a thref fawr fel Lerpwl wedi ei thaflu i mewn. Y mae nifer y rhai sy'n dyoddef newyn ya India yn filiwn mwy na phoblogaeth Canada, ac yn lluosocach na thrigolion du a gwyn Awstralia, Zealand Newydd, Cape Colony, a Natal, gyda'u gilydd. Criotachlyd gywilyddns a fu y Llywodraeth i helpu y trueiniaid anghenns ac y mae'r elus- engar a'r hael yn y wlad hon wedi eu godro gy- maint gan Gasgliadau y Rhyfel o bob math-y gweddwon, yr amddifaid, gwragedd a phlant y milwyr a adawant ar ol, ac a faasent mewn cyf- yngder pe yn gorfod dybynu ar a gawsent gan awdurdodan eu gwlad am ymladd eu brwydrau -fel na fedrant fforddio cyfranu tuag at achos mor deilwn a gwaredu eu cyd-ddeiliaid rhag marw o newyn.