Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Golofn Dlrwest. j
Golofn Dlrwest. j Diolch i Canon Robson a dau neu dri o barchedig. i --ion Ymneillduol, y mae Cynghor Trefol Birkenhead wedi pleidleisio trwy gryn fwyafrif mai annymunol i neb o'i aelodau & chanddo fuddiant yn y fasnaeh feddwol gael eu penodi o hyn allan ar y Pwyllgor Gwylio, sef y pwyllgor yn mhob Cynghor Tref sy n .arolygu'r tafarnau. Pan alwodd If gwyr uehod rai misoedd yn ol syiw'r dref at y ffaith fod dau o aelod- au'r pwyllgor yn dal cysylltiad-un ohonynt yn gywilyddus o agos-ar Fasnaeh, ac yn apelio atynt 1 ymddiswyddo ar dir eu hanrhydedd personol, cythruddwyd Mri Deakin a Mason yn enbyd, a ,chymerasant fenthyg y was,, i ddweyd wrth y gwyr am beidio ymhel a gwaith a bywoliaebh j pobl eraill lawn mor werthfawr i'r dref _a hwythau (!) -sylw a gadarnhaodd unwaith eto haeriad mynych y dirwestwyr fod y Fasnxcb, gan nad pa mor dda fo dyn pan aiff iddi, yu pylu ei welediad moesol wrth lynu gyda hi. Cafodd egwyddorion bragwriaeth ormod o denyn yr ochr hon i'r Ferswy er's blynyddau; cysur yw meddwl eu bod yn cael peth llai bob blwyddyn er pan ffurfiwyd y Cynghrair Dirwestol yma, ac fod yr Undeb hwn a'i ysg-rifenydl pybyr wedi cyrhaedd y -disgwyliadau uwchaf a goledd d am dano adeg ei gyehwyniad. Y mae yn perthyn i Gymdeithas Lwyrymwrthodol Gweitbwyr y dref hefyd aelodau dygn a dewr iawn tros eu hachos, a chefais lawer tro achos i gywilyddio am ddifrawder a chywilydd o efengyl dirwest pan yn olywed rhai o'r cenadon hya, wedi diwrnod o I galedwaith, yn troi allan i'r farchnadfa a manau .sefyllian eraill, i "ddweyd eu proflid" gan gymhell eu cydweithwyr, baldorddus a choeglyd yn fynycb, i ymuno a seiat sobrwydd. Mor hawdd pregethu a phroflesu mewn capei ao eglwys, olJd mor anhawdd gwneud yr un o'r ddau lie bo'r cynulliad heb fod yn eydymdeimlo a'n syniadau. Wir, y mae gan Ddir- west ferthyron tan gamp yn y cylchoedd mwyaf distadl. distadl. Dyma ddechreu buddugoliaeth arall i Ddirwest. Ym*eClwb Pel Droei We3t Ham—ua o gyrion y Brifddinas—wedi ei droi yn limited liability com- pany, gyda chyfalaf o ddwy fil o bunau, mewn pedair mil o gyfranau degswllt; a rhaid i bob chwareuwr o mil o gyfranau degswllt; a rhaid i bob chwareuwr o hyn allau ardystio ► i hun yn llwyrymwrthodwr. Hyd yma arfer y campwyr yn y cbwareu hwn ydyw ¡ ymprydio ychydig o flaen pob ymdrech, ac yna ym- roi i'w gloddest fel cynt; gyda'r canlyniad mai byr ydyw eu hoedl fel chwareuwyr blaenllaw, gan eu bod yn treulio eu nerth allan. Ond bydd ympryd gyson, Sefydlog ar ffurf ymwrthodiad yn vchwanegiad blyn- yddoedd at eu heinioes, ac yn foddion i feithrin gwydnwch yn eu hesgeiriau. Y mae Mr A F Hills —hyrwyddwr diflin Cau ar y Sahboth yn Lloegr- wedi cytuno i gymeryd mil o gyfranau, yn nghyda rhoddi benthyg maes i'r chwareu dros y tymhor nes- af. Bu Chwareu lawer rhy hir yn ngafael y Ddiod a'i chymdeithion hyll; diolch am rhyw gymaint o argoel fod y cen yn disgyn oddiar lygaid ieueaatyd y wlad. Megys gardd flodeuog yn nghanol diffaethweb yd- oedd pregetb ficer Portsea i etholwyr Plymouth o'i ,chymharu ag eiddo*r cyffredin 0 wyr y Sefydliad pan yn traethu ar ddirwest yn union o flaen etholiad, Dan?osodd werth pleidlais, a'r pwys o'i defnyddio i hyrwyddo yr amca- ion goruchaf a llesolaf ac nid i ioddio chwim y blaid hon neu arall. Gofidiai yn arw fod Eglwys Loegr yn cael ei hystyried fel yn dal yhyw gyfathrach a'r Fasnach, a galwai ar ei haelodau i ysgwyd ymaith y gwarthrudd, oblegyd yr oedd bellaoh yn ormod o'r dydd i fasnaeh yn y byd gael dweyd eu dyledswydd wrth yr etholwyr. Rhagor o inerth i dy benelin, O ardderchooaf ficer 0 fregedd neu rywbetb gwaeth, anfonodd Cym deithas Trwyddedigion Tafarnol Rhanbarth Carlisle fylchlythyr at Syr W Lawson yn erfyn arno fyned i )fv Cyffredin a phleidleisio yn erbyn Mesur Mr Souttar, sydd i'w gytl wyno Mehefia 20fed, a'i amoan i wahardd gwerthu'r diodydd meddwol i blant. Nid yw Syr Wilfrid yn anad neb yn fyr o'r ddawn i ateb ythyrau o'r fath, ac fe gribodd y Gymdeithas uchod a'i choeg resymau i'r byw. Oad fe all y Priflywydd wneuthur pethau rhagorach na chribo a thalu'r pwyth; a chyn diwedd ei atebiad, ceir cyflead cryno o resymau tros bleidio'r mesur. yn nghyda chyffyrdd- iad tyner am y plant a'u peryglon. Rhaid fod y neb -a ofynai i Syr Wilfrid wrthwynebu mesur o'r fath wedi anmhwyllo, a chydwybod y neb a geisiai ei ddymchwelyd wedi ei serio yn anobeithiol. J II AITSH. .n-
Barddoniaetn.
Barddoniaetn. AR OL. (Efelychiad). HINDDA ar ol storom, Mwyniant wedi loes; Cartref ar ol crwydro, Coron ar ol croes. Melus ar ol chwerw, Heulwen wedi gwlaw Canu ar ol wylo, Cysur ar ol braw. Eiw ar ol colled, Medi wedi hau; Gorphwys ar ol blinder, Fel gwnaf ei fwynhau. Heddwch ar ol rhyfel, Cariad wedi cas; Bywyd ar ol marw, Rhyfedd, ryfedd ras Ar ol hir ymboeni, Cael am byth fwynhad Uniawn ydyw'r llwybr Adre' i d^ fy Nhad. T. RKES JONES. YIYN DIOLOHGARWCH AM Y CYNHAUAF (Buddugol) Dy haelioni, Arglwydd grasol, Sydd yn amgylchynu'r byd, Dyry'th ofal lhagluniaethol Destyn diolch i ni gyd Rhoddi wnaethost etc 'lem Yn ein gsnau newydd gan, Trugareddan dirifedi- Mawr yw'n rhwymau, Arglwydd glan. Rhoddaist fara i'r bwytawr, Ac i'r hauwr rhoddaist had, 'Ti yn unig yw'n Cynaliwr, Derbyn genym wir fawrhad Dysg i ni, ar bwys Dy roddion, Lwyr ymroddi yn D y waith, Ac er rhwystrau para'n ffyddlon Nes cyrhaeddom ben y daith. Prcsoot. R. E. LLOYD. -0- Mewn cyfarfod 0 Fwrdd Ysgol Prestatyn nos iFercher, hysbyswyd fod Mr Edward Hunt, Prestat- yn, wedi gadael 5p. yn y flwyddyn er budd plant Ysgol Bwrdd y dref. Cododd cwestiwn ar y defn- ydd goreu i wneud o'r arian, ac awgrymwyd eu defnyddio i dalu traul un plentyn yn Ysgol Ganol- a-add Rhyl. Penderfynwyd ymgynghori a Mrs Hunt.
Ar Flnfon y Ddyfrdwy.
Ar Flnfon y Ddyfrdwy. Bu Methodistiaid Corwen yn ethol rhagor 0 flaenor- iaid y nos o'r blaen. Etholwyd tri o wvr da e-I gtir, sef Mri Wm Jones, Fronhyfryd Wm Jones, London' Road, a D Charles Lloyd, Waterloo House. Yr olaf, j mae'n debyg, yw y blaenor ieuengaf yn aghylch y Cyfarfod Misol; y mae yn yr olyniaeth Fethodist- aidd, oblegyd ei dad oedd y diweddar flaenor ym- roddgar, Mr Owen Lloyd, ac yr oedd y diweddar Barch D tfydd Ditfis y Bermo yn daid iddo. Son am Fethodistiaid Corwen, y maent wedi dech- reu adeiladu eu hysgoldy newydd, a rhai ohonynt yn breuddwydio a s m am godi organ newydd a sefydlu llyfrgell yn nglyn a'u capel. Mr Botwood yw enw organydd newydd Eglwys Crist, Bala, a dywedir ei fod yn gerddor o'r radd flaenaf. Bu'r Dr Pan Jones, Mostyn, ar daith bregethu a chasglu drwy'r minion yma yr wythnos ddiweddaf' Bu'r Annibynwyr yn weddol hael iddo. Bwriada gweddw y diweddar Mr T E Ellis roddi colofn ar ei fadd yn mynweafe Cefnddwysarn. Oher- wydd hyn, tybia pobl y Bala y dylai'r gofadail gen- edlaethol fod yn eu tref hwy. Mae meddwi ar gynydd ffordd yma. Yn ynadlys diweddaf y Bala, dirwywyd tii am y peehod hwn, a throsglwyddwyd trwydded Gwestty'r Bull i Mr W R Jones, Bettwsycoed. Bu cyngherdd pur wych gan ddoniau lleol yn Ys- goldy Genedlaethol y Bala nos Wener. Elai'r elw da at y Church House. Mewn pwyllgor a gynaliwyd ddydd Mawrth yn y Bala, yr Arglwydd Raglaw yn y gadair, pender- fynwyd ffurfio catrawd sirol o Wirfoddolwyr. Gd- awyd i'r Cadeiiydd wneud y trefniadau angenrheidiol gyda Swyddfa Rhyfel, Dyma un arall o garitors y Bala wedi myn'd i 'ddyffryndir hen ffryndiau,' sef Ellis Roberts y bugler Yr oedd ya gerddor ac offrrynwr gwych efe fyddai'n udganu o flaen y barnwyr~yn y brawd- lysoedd a bu'n aelod o gor yr Eglwys =im 48 mlyn- edd. Chwith colli cyfaill mor ddyddan. Cynaliodd Clwb Merehed Llanfor eu gwledd flyn- yddol ddydd Iau. Lloarwyd Seindorf Llandderfel i'w lloni Etholwyd Dr White Jones a Dr Williams yn feddygon y gymdeithas. Ddydd Gwener, rhoddodd Miss Ellis. Cynlas, wledd i blant Cefnddwysarn, a bu cyfarfod difyr yn yr hwyr. Ni bu yr un o Warcheidwaid Undeb Corwen yn bresenolyn mhob cyfarfod a gynaliwyd llynedd. Y datgeiniaid yn Eisteddfod y Bala y Llnngwyn fyddant Miss May John, Mr Gwilym Richards, a Mr Ll R Bowen, Abertawe. GWYN. --0--
Nodion o Uwchaled.
Nodion o Uwchaled. Droi> Iau, cynaliodd Dr J R Hughes, trengholydd sir Ddinbych, ymehwiliad i farwolaeth Robert Wil- liam, plentyn Mr Wm Williams, Cwraipenmer Ym- ddengys i'r bychan, yn absenoldeb ei fam, fyned yu rhy agos at y tan. ac aeth ei grys nos yn fflamau. Bu farw tranoeth oddiwrth etfeithiau'r tan. Dyfarn- wyd mai'n ddamweiniol y bu'r farwolaeth, ond gwasgwyd ar rieni y pwys o feddu fire guard, yr hyn fuasai wedi achub bywyd y bychan yn yr amgylchiad I hwn. Hyd yn h yn, y mae Gwarcheidwaid Undeb Cor- wen wedi naethu cael meddyg i'r rhanbarth hwn, a g("fyair i Dr. Davies barhau i gyflawni'r swydd hyd nes y llwyddant. Ceir rhai o'r Clybiau Cyfeillgar yma, yn yr un try- bini. Y gwir am daai yw fod y parth hwn o'r cread mor ddiarffordd. a'i breswylwyr mor iach, fel mai gobaith gwan am gynysgaeth fras sydd i feddyg yma. Mae Eisteddfod y Ceryg yn dynesu, a'r sibrydion am dani yn llwytho'r awelon. Mae'r beirdd yn syn- fyfyriol a'r cantorion yn bryderus, a pha argoel well am Iwydd Eisteddfod na hyny ? Cyflogir datgeiniaid gwych i berseinio, ac y mae pawb biau gerbyd am redeg sgyrsion hefo'u pedwar carnolion o bell ac agos y dwthwn hwnw. Dal yn oer mae mynwes Anian ffordd yma, ac nid yw'r egin mor wyrddlas ag y disgwylid. Disgwylir gweled newydd wedd ar y ddaear dan fwynder Mai, ond cwyno oherwydd y tymhor diweddar y mae'r ffermwyr. GOHEB. o.
Llythyr Lerpwl
Llythyr Lerpwl [Gan SYLLDRBM.J DATHLU CALANMAI. D YDD dyddorol yw y Sadwrn cyntaf o Fai yn y ddinas. Pwy bynag a fyo weled meirch golygus, deued i Lerpwl ar y dwthwn hwn. Nid oes odid ddinas yn y byd, all ddangos eu rhagorach. Mawr yw balchder y llanc sy'n gyru'r wedd wrth dywys y meirch drwy'r heolydd yn ngwydd y miloedd ed- rychwyr. Siawns na fa wrthi gydol y noson gynt yn glanhau a gloewi eu blew a'u carnau, yn plethu eu mwng a'u cynffonau, ac yn torchi rubanau a blodeu hyd-ddynt i'w haddurno. A bron na thybir nad yw'r meirch yn ymwybodol o'u pwysigrwydd, gan hardded yw eu hosgo tra pranciant ar y pel- mynt, eu Llygaid fal dwy ellygen Llymion, byw, 'n llacau'n ei ben. Bydd yntau'r tywysydd mewn c6b o lian gwyn, cap ar ei goryn, godreu ei glos wedi eu torchi, a phar o esgidiau trymion ar ei draed, yn teimlo fel teyrn fel y tystia'r wen foddhaus sy'n ymestyn o'i ael i'w en lydan. Cynrychiolid tri chyfnod yn yr olygfa ddydd Sadwrn, neu yn hytrach dair agwedd ar gynydd a manteision diwedd y ganrif. Ceid yma feirch, ager, a thrydan. Oherwydd hyn, yr oedd yr olygfa yn ddyddorol i'r sawl a synia am a fu ac a ddychy- myga am a ddaw. Bydd yn rhaid aros yn hir cyn y medr gwlad hebgor gwasanaeth meirch; ond bron na ellir prophwydo y gwelir trydan yn cymeryd lie yr ager, a pha ddyfais oroesa'r tiydau. anhawdd dy- falu. Amlygir mawredd a phosiblrwydd y meddwl dynol yn barhaus, ac yr oedd y weledigaeth ddydd SaSwrn yn gyfle rhagorol i hyny. Ymgynullodd adranau yr orymdaith yn eu lleoedd penodedig erbyn dau o'r gloch. Y nodwedd am- lycaf ynddi ydoedd ei hamrywiaeth. Ceid yndó-Í feirch, wagetii, a cherbydau o bob math perthynol i'r Gorphoraeth, cwmniau'r reilffyrdd, darllawyr, a chynrychiolid gwahanol ganghenau masnach. Yr oedd ambell arddangosiad yn gelfydd, arall yn chwaethus, ac arall yn ddigrif. Ataliwyd y draf- nidiaeth yn yr heolydd yr elai'r orymdaith hyd- ddynt o un hyd bump o'r gloch. Tyrodd degau o filoedd o bobl i weled yr olygfa, a chawsant syniad da am fawredd masnach y ddinas. CRONFA'R BEDYDDWYR. Fel yr enwadau eraill, y mae gan y Bedyddwyr 'Cymreig eu cronfa hwythau i ddathlu diwedd y ganrif. Ymdrechant gynull 50,000p. Yn naturiol, teimla Bedyddwyr Cymreig y ddinas hon ddyddor- deb yn y mudiad. Prawf o hyn yw y cynulliad llu- osog a ddaeth i gapel Bousfield Street nos Fa wrth, lie y cynelid cyfarfod i hyrwyddo'r gronfa. Cymer- 1 wyd y gadair gan Mr John Owen, Richmond Ter- race. LIuddiwyd y Parch D Davies, Brighton, i fod yn bresenol, ond caed cyfarfod rhagorol serch hyny. Y prif siaradwr oedd y Parch Morris, I Treorci, a llwyddodd i gyneu brwdfrydedd Yll nghalonau'r dyrfa. Cymerwyd rhan hefyd gan y gweinidogio n lleol, ac yr oedd ton obeithiol yn eu hanerchiadau. Effaith y cwrdd ydoedd cynull addewidion am oddeutu 200p tuag at y groufa. Addawodd y Cadeirydd gan' punt Dyna ddechreu da, ac er nad yw'r ddeadell yn y ddinasfyn gref iawn mewn rhif na chyfoeth, dilys y cyflawna ei rhan yn deilwng. AM YR ACJR BRAID YMOROL. Mae'n anhawdd i hyd yn nod gybydd fyw'n hapus y dyddiau hyn gan faint y gofynion am roddion, ac y mae gwyr hael yn cwyno dan y drefn. Dywedai Mr William llathbone y dydd o'r blaen nad oedd Lerpwl-yr ail ddinas yn yr Ymherodraeth—yn gWDeud ei rhan yu deilwng o gwbl tuag at Gronfa Newyn yr India. Bu'r ddinas yu ddihareb am ei haelioni yn mhob achos o gyfyngder, ond y mae yn fyr o gyflawni ei thraddodiadau yn yr amgylchiad hwn. Nid yw hyn yii rhyfedd. Gan luosogrwydd y galwadau am gymhorth oherwydd y cyfyngderau ,,y achoswyd gan y rhyfel, bron nad yw haelioni wedi myn'd yn hesp. Gellir hysbyddu calon a llogell y mwyaf caredig trwy eu trethu'n ormodol, a dyna briodola am gwyn Mr Rathbone-y caredicaf o fon- eddwyr Lerpwl. BYR A CHWTA. Yn nghyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibyii- wyr Cymreig, a gyneiir eleni yn Mhorthinadog, traddodir anerchiad ar Wladgarwch Cristionogol gan ein cymydog, y Parch H P Thomas. Yn ol yr arfer, daw rhai o weinidogiou America i Sasiwn y Sulgwyn eleni eto.
o Etholiad Portsmouth
o Etholiad Portsmouth CTMEHODD yr etholiad hwn, a achlysurwyd trwy ymddUwyddiad yr aelod Rhyddfrydol, Mr Ciough, le ddydd Iau. Yr ymgeiswyr oeddynt Mri T A Bramsdon, R., a J H Majendie, C. Mynegwyd y canlyniad ychydig wedi un ar ddeg yr un noson, fel y canlyn Bramsdon, R 10,301 Majendie, C 9,691 Mwyafrif Rhyddfrydol 610 Y mwyafrif Rhyddfrydol yn 1895 ydoedd 711; yn 1892, 473; ac yn 1886 yr oedd y mwyafrif Un- debol yn 1,271.
--0-Eisteddfod Cenedlaethol…
--0- Eisteddfod Cenedlaethol Merthyr, 1901 MEWN cyfarfod blaenorol, penderfynodd Pwyllgor Cerddorol Eisteddfod Merthyr gynyg gwobr o 50p am gyfansoddi cantawd, pa mi oedd i gael ei chr- hoeddi mewn pryd i'w chanu yn yr Eisteddfod ond nos Fawrth, trwv fwyafrif, tynwyd y penderfyniad yn ol ar y tir nad oedd digon o amser i barotoi a dysgu y darn. Rhoddodd Mr Dan Davies rybudd y bydd iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg eu bod yn gofyn i Dr Joseph Parry, fel un o blant Merthyr, ysgrifenu gwaith newydd i'w berfformio yn yr Eis- teddfod. Dywedodd yr Ysgrifenydd Cyffredinol fod Dr Parry wedi addaw ymgymeryd a'r gwaith, os gwahoddir ef, am 50p.
-0--Dyffrya Clwyd.
-0-- Dyffrya Clwyd. DINBYCH DAL i briodi y maent y ffordd yma yn barhaus, ac y mal:l'n syndod y fath nifer o'r bobl fawr sydd wedi myn'd i fyd y briodas er's rhyw fis bellach. Yr ydym yn cael y pleser o gofnodi un eto yr wythnos hon, ao un a dynodd lawer o sylw a eiarad, am fod y ddeu- ddyn o safleoedd uchel ac a berchid yn gyffredinol. Y par hapus oeddynt y Parch Edward James Davies, B.A., fu yn giwrad yn Ninbych ac yn awr sy'n rheithor yn Garthbeibio, ger Trallwng, a Miss Mal ian Margaret, merch hynaf yr ls-Filwriad Hughes, yr Ystrad. Dydd Llun y cymerydd yr amgylchiad dy- ddorol le yn West Kirby, a dywedir fod yno gynulliad lluosog o wahoddedigion. Gweinyddwyd gan y Parch Daniel Davies, Dinbych, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch Edwin Wolfe, ciwrad Bolton. Y mae i'r par ieuanc ddymuniadau goreu eu cyfeillion yn Nyffryn I Clwyd. Y mae ein hymgeisydd Rhyddfrydol newydd, Mr Clement Edwards, wedi bod yn ymweled a ni yr wythnos hon, a bu wrthi yn brysur yn introducio ei hun i'r etholwyr, a chredaf iddo wneud argraph rag- orol arnynt Nos Wener, traddododd anerchiad campus yn y Clwb i nifer fawr o'r aelodau ac eraill. Mr Miller, llywydd y Clwb. oedd yn y gadair. Caf- odd dderbyniad croesawgar, a datganodd yntau ei farn yn glir ac yn groew ar wahanol bynciau y dydd, gan brofi ei bun yn Rhyddfrydwr i'r earn. Drwg genym ddeall am farwolaeth Mr Thomas Jones, fu am rai blynyddau yn ysg >lfeistr yn Ysgol Genedlaethol Meliden yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn, achladdwyd ef yn mynwent yr Eglwys Wen ddydd Mercher. Ganwyd Mr Jones yn Ninbych, ac yr oedd yn frawd i Mr William Jones y Postman. Dygwyd ef i fynu yn athraw dan y diweddar Mr John Jones, yn Ysgol Genedlaethol y dref, a bu wedi hyny yn feistr Y sgol Prion. Treuliodd rai blynyddau yn Reading a York, ond dychwe!odd rai blynyddau yn ol i Ddyffryn Clwyd, lie y breuiiodd ei ddyddiau olaf. RHUTHIN. Yr wythnos hon y cynelir Rhedegfeydd Caer, a dywedir y bydd nifer o urddasolion pwysig yn aros yn y CasteU yma gyda'r Milwriad Weat- Y flwydd- yn ddiweddaf, fe gofir, y talodd Tywysog Cymru ymweliad a. ni, a bu yma y fath yspleddach.. Pwy noson, cynaliwyd cyngherdd llwyddianus yn y Drill Hall «au blant yr Ysgol Genedlaethol, ac yr j cedd y neuadd yn rhy fechan i gynwys y bobl a ym- gynullodd Yr oedd yn gyfarfod dyddorol o'r dech- reu i'r diwedd, a haedda'r athrawon glod am eu llafur gyda'r plant. Nos Fawrtb bu farw yr hybarch Mr Robert Hughes, masnaehydd tfrwythau, &c, mewn oedran teg, wedi bod yn orweddiog am rai wythnosau. Claddwvd ef yn mynwent Rhewl, ddydd Gwener. o Boreu ddydd Iau, cafwyd chwarelwr o'r enw Robert Thomas, Penmachno5 yn farw mewn chwar- el fechan ar ochr y ffordd rhwng Bettwsycoed a Rhaiadr y Wenol, wedi ei haner gladdu gan ddarn- au o'r graig. Aethai yno nos Fercher i godi rhyw geryg, a chan na ddychwelodd aeth un o'i feibion i chwilio arn dano, a chafodd ef fel y dywedwyd. Tybir i'r graig syrthio arno.
> Hewyddioii Cymreig.
Hewyddioii Cymreig. Hysbysir fod Syr II M Stanley, A.S., yn bwiiadu rhoddi ei sedd-N orth Lambeth -i fynu ar un- waith neu adeg yr etholiad cyffredinol. 11 Y mae Mr E. K. Muspratt, Seaf.irth Hall, wedi cyfranu 50p. at adeiladu ysgol ganolradd newydd Treffynon. Yn nghyfarfod blynyddol Cyughor Do. barth Gwledig Gwrecsam ddydd Iau, ail etholwyd Mr Arthur Evans, Bronwylfa, yn gadeirydd. Mewn cyfarfod arbeoig o Gynghor Dosbarth Gwledig Prestatyn nos Fercher, penderfynwyd mai 3s y bunt fydd y dreth am y llvvyddyn hon. Yr wythnos ddiweddaf ymunodd plastrwyr Ban- gor a'r ardal i wneud cais at y meistriaid o geiniog yr awr o godiad yn eu cyflogau, sef o 7c i 8c. Gyd- ag un eithriad, caniatawyd y cais. Dirwywyd tri dyn o Bwcle i 5s a'r costau yr un ddydd ULi gan ynadon Caergwrle am gainddarlunio eu hunain fel fceithwyr bona fide yn nhafarn White Lion, Penymynydd, uos Sul Dywedir fod y Parch D E Jenkins, gweinidog eglwys y Methodistiaid Seisnig. Porthmadog, wedi derbyn gal wad i ymweled a'r Unol Daieithiau ar daith bregethwrol, a'i fjd yn cychwyn yr wythnos hon. Penderfynodd Cynghor Dosbarth Gwledig Bwcle yn eu cyfarfod ddydd Mercher wneud cais arall i gael holl Bwcle i mewn i Undeb Peuarddlag. a chy- tunwyd i anfon cais at Fwrdd y Llywodraeth Leoi i'r perwyl hyny. Bwriada Cynghor PIwyf Cefti Mawr wario yn agos i 14,000p. ar garthffosydd yn Rhosymedre, Cefn Mawr, Acrfair, Newbridge, a'r ardaloedd, yn cynwys prynu fferm y Dolydd ain -i,0()0p. Bwrdd y Llywodraeth Leol oedd yn gwasgu arnynti wneud hyn. Hysbyswyd yn Nghynghor Connah's Quay nos Fercher, fod Mr J. K. Freme, perchenog ystad Plas Wepre, wedi addaw anrhegu y Cynghor a thir i godi ysbytty arno, a 500p. tuag at yr adeilad. Yr oedd Mr Summers, Gwaith Haiarn Pont Penardd- lag, wedi addaw cynorthwy sjlweddol hefjd. Pen- derfynwyd galw cyfarfod i ystyried y cynygiad. Yn Llys Ynadon Dolgellau yr wythnos ddiwedd- af, hawliai nifer o weithwyr symiau o arian oddi- wrth GWilloi Gwaith Copr Glasdir, oedd yn ddy- ledus iddynt fel cyflog. Addefai y Cwmni fod swm yr hawliau yn gywir, ond croeshawlient swm oddi- ( wrth bob dyn am dor-cytuudeb. Yr oedd rheolau newyddion wedi eu gosod i fynu yn y gwaith yn hawlio i'r gweithwyr roddi pythefnos o rybudd pan yn ymadael, ac ni wnaed hyny. Dyfarnodd y fainc o blaid y gweithwyr. Ddydd Iau, cynaliwyd cyfarfod o Gynghor Wes- leyaid Mon ac Arfon yn Methesda, tan lywyddiaeth y Parch John Hughes, Bangor. Pasiwyd pender- fyniad cryf yn datgan eu hannghymeradwyacth o araith a phleidlais Mr Wm. Jones, A.S., yn Nhy y Cyffrediu o blaid sefydlu Prifysgol Babyddol yn yr Iwerddou, gan ei fod yn myned yn erbyn egwydd- ..Irion cydraddoldeb crefyddol. Pasiwyd hefyd bea- derfyniadau o ofid am y golled i addysg a chrefydd Cymru yn marwolaetb y Prifathraw Edwards, Bala ac o blaid y mesur sydd i'w ddwyn o flaen y Senedd yn gwahardd gwerthu diodydd meddwol i blant dan 1(; oed.
Advertising
EisteddfodGenedlaetliol Lerpwi 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadau, o'r RHESTR 0 DESTYNAU, Pris 6ch, trwy y post 7c. I'w cael o Swyddfa'r "Cymro," 8, Paradise Street. Yn awryn barod, pris 6ch, trwy y post 7c. LLANLLONYDD: Ei ddau Efaill, a rhai o'i bobl eraill. Gan LLYFRBRYF. I'w cael o Swyddfa'r Cymro, 8 Paradise Street. Y MAE Gorchestion Beirdd Cymru, neu FLODEU GODIDOWGRWYDD A WEN, 0 Gasgliad RHYS JONES, qida Nodiadau gan -CYNDDELW, Yn cynwys Oywydd y March," dam i'w gyfieithu yn Eisteddfod 1900, AR WERra YS SWYDDFA-R "CiTMRO," PRIS 3/- o sRDDor :AE rH q J O II N JONES, i Wholesale and jretail Stusio Seller 8BT HSSD A., 3f OBT H W A. L 3 S. ordwla ar law y Stoo Fwyaf Amrywiaetshol ya ¡ Nzhymru o ¡ GAHSDrOW (SONGS; OYMB.EH]. j I aa fel rheol danfinir pob archeb gyda throad y ■ on \nfoner am y Catalogue yn cynwys trna 50n o wa.ha<> Ganeuon
[No title]
Yn Ngwestty y Castell, Conwy, ddydd Gwener, cynygiodd Mri Robt a Rogers Jones, Llanrwst, eiddo ar werth yn Bangor Road, Uppergate Street, a Pool Lane, Conwy, a gwerthwyd y cyfan yn un lot am l,500p., i Mr Henry Thomas, Conwy. Yn nghyfarfod blynyddol Cyaghor Dosbarth Gwyrfai, a gyrjaliwyd yn Nghaernarfon ddydd Sad- wrn, dewiswyd Mr J Morris Williams, Nantlle, yn gadeirydd, a Mr Closs, Llanberis, yn is-gadeirydd, am y flwyddyn.