Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

I Harwolaeth y Parch S Lloyd…

Marwolaethau

Marwalaeth Resynus Ffermwr.

[No title]

Y Mesur Addysg

Cyfrlfoldab Ceidwaict Cwasttai

Syr Wilfrid Lawson a'r Mesur…

News
Cite
Share

Syr Wilfrid Lawson a'r Mesur Addysg- LLYWYDDAI Syr Wilfrid Lawson nos Fawrth mewn cyfarfod mawr a gynelid yn v Drill Hall, Carlisle, i wrthwynebu Mesur Addysg y Llywodraeth. Dywedodd pe galwesid y cyfarfod i'r amcan o ddyrchafu un enwad uwchlaw enwad arall ni ddaethai efe iddo. Diamheu fod a wnelo y cwestiwn & phob enwad, ac yr oedd arno eisiau cyfiawnder i'r oll. Yr oedd yn amlwg fod y mesur yn annghyfiawn oherwydd taflai ysgolion en- wadol ar y trethi heb ddarbod rheolaeth drwy y bobl. Dywedodd Arglwydd Rose- bery, prophwyd gorchuddiedig gwleidydd- iaeth, y dyn cyfrin, y dyn o bersonoliaeth swynol, a nawddsant y dyn yn yr heol, fod y mesur wedi ei gyfaddasu i'n hamddifadu o addysg wirioneddol ac effeithiol ac i ddi- ffrwytho addysg genedlaethol am genedl- aethau i ddyfod. Os nad oedd y fath fesur yn ddrwg nis gallai efe feddwl am unrhyw fesur yn ddrwg. Priodolasai yr anhawsder crefyddol heddyw i'r cytundeb marwol yn 1870. Credai Mr Chamberlain yn y dyddiau hyny yn egwyddorion Cynghrair Birming- ham. Ysgrifenodd i ddweyd ei fod eto yn credu ynddynt, ond deallai nad oedd pobl y wlad hon yn eu hoffi. Yr oedd Mr Chamberlain fel y gwleidyddwyr American- aidd, a ddywedodd, wedi gwneud araith, Dyna fy syniadau i, ond os nad ydych yn eu hoffi, fe'u newidiaf." Ni fu i neb erioed dyngu yn fwy diamwys i'r jumping-cat Inag y gwnaethai Mr Chamberlain yn y llythyr hwnw. Amddiffynodd Arglwydd Hugh Cecil y mesur drwy ddweyd fod ysgol- on enwadol yn troi allan Gristionogion da. Ni chredai Syr Wilfrid mewn Cristionogion a wneid hefo peirianau. Mewn gwirionedd, yr oedd y mesur wedi ei osod ar sylfaen bwdr.

Advertising

Marwolaeth dyn dysgedig mewn1…

Syr H Campbell Bannerman a…

Y Cymraeg a'r Tafarnwr.

Streio Clowyr yr America.

Helynt y Penrhyn.

[No title]