Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Cryblnlon

News
Cite
Share

Cryblnlon Mae yr hen lenor a'r bardd galluog Meiriadog, Llanfaircaereinion, newydd gael pen ei flwydd yn 89 oed, a dyma fel yr englynodd ar yr schlysar Ar rif oed heddyw 'rwyf ii-yn wyth Dear a naw o flwyddi; Angau a'i dranc, erafanc erri Yn ymyl ddaw'n boen imi. Bu Mr Moss. A.S., yn anerch ei etholwyr yr wythnos ddiweddaf yn Rhos, ar y Mesur Addysg, dywedai fod y Llywodraeth bresenol yn taflu miliynau o arian i ffwrdd, ac na feddyliodd erioed gael byw i weled Llywodraeth ddigon beiddgar i drethu bcra y bobl. Mewn llytbyr a anfocodd i ddatgan ei ddy- muniadau da yn nglyn a gosodiad careg sylfaen eglwys newydd Gymraeg yn Ngholwyn Bay yr wytbnos ddiweddaf, dywedai yr Anrh Lawrence A Brodrick, brawd yr Ysgrifenydd Rhyfel- Byth er pan gefaia y fraint o fod mewn cys- ylltiad A, Gogledd Cymru y mae genyf gydym- deimlad a. dymuniad y Cymry i addoli yn eu hiaith eu hunain." Drwy garedigrwydd Mr Asshton-Smith, taflWyd yr ystafell lie y preswyliai y TywysOg a'r Dywysoges ytiddynt yn ystoi eu hymweliad a'r Faenol yn agored i'r cyhoedd am rai dyddiau i'r amcan o gasglu at gynorthwyo Cyradeithas y Bywydfad a Chartref St Marc (CaerDarfon). Sicrhawyd 60p i'w rhanu rhwng Ysbyttai Mon ac Arfon; Cynaliwyd cyngherdd perthynol i Ddosbatth Corawl Bwcle, dan arweiniad Mr Wilfrid Jones, a than nawdd Ysgol Bwrdd y Wyddgrag, ddydd Mercher diweddaf, yn y Central Hall, pryd y datganwyd oratorio "Judas Maccabeus." Yr oedd y neuadd yn orlawn, a'r canu yn rhagorol* Yr unawdwyr oedd Mri Maldwyn Humphreys, Emlyn Davies, Miss Florrie Williams a Miss Florrie Jones. Mae gan y Parch Hugh Price Hughes frawd o'r enw Mr J Arthur Hughes, yr hwn hefyd sydd yn llawn o yspryd cyhoeddus a diwygiadol. Yn ddiweddar ymddiswyddodd o fod yn Ysgrif- enydd Cynghor Tref Barry, fel gwrthdystiad yn erbyn gweithrediadau y Cynghor. Yn fuan wed'Jn etholwyd ef yn aelod o'r Cynghor, ac yn y cyfatfod dilynol cyntaf gwnaed ef yn gad- eirydd. Mr Alfred Thomas, A.S., wrth agor Nodacbfa Coleg y Bedyddwyr, yn Nghaerdydd ddydti Mercher, a ddywedodd yr edrychai yn mlaen at yr amser pan y byddai i'r holl enwadau yn Nghymru ymuno i gael un coleg lie y paratoid yr holl ymgeiswyr am y weinidogaeth. Dywedai EFgob Lerpwl, y dydd o'r blaen, wrth draethu ar brinder ymgeiswyr am ordein- iad, na wnaeth un eglwys lai nag Eglwys Loegr tuag at dalu i'w gweinidogion a dwyn i fynu aelodau o'u teuluoedd am urddau sanctaidd. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gweinyddol Eis- teddfod 1903, sydd i'w chynal yn Llanelli, pen- derfynwyd gofyn i'r Brenin a Thywysog a Thywysoges Cymru i fod yn noddwyr, a Mr Carnegie i fod yn un o'r llywyddion. Mae glowyr Pennsylvania ar streic ac yn bygwth galw allan y peirianwyr a'r pympwyr yr hyn a barai i'r glofeydd gael eu boddi. Dy- wedir fod y sefyllfa yn fygythiol, ac i gythrwfl dori allan mewn amryw fanau, ac i lawddrylliau gael eu tanio. Mae y gweinidog enwog, y Parch Elwyn Thomas, Casnewydd, wedi bod yn analluog i bregethu er canol Mawrth, ar ol tori i lawr drwy or-lafur. Caniataodd yr eglwys iddo dri mis o orphwys, ac ychwaneg os bydd eisiau. Erys yn awr yn Bournemouth. Mewn llythyr o'i eiddo yn y Drych, dywed y Parch Hugh Hughes (W), Abergele Er eu holl ymffrost parthed cynghorau yr Eglwysi Rhyddion, yr ydym mewn amrai gyfeiriadau yn myned yn fwy sectaraidd bob blwyddyn, ac nid yw y cyughorau hyn amgen na'i bwysleisio yn fwy. Hyderaf na fydd i Gymry America byth ein dilyn ya y diffyg hwn." Dyma englyn o waith yr Athraw John Morris Jones sydd yn engraipht o'r englyn Cymreig tarawgar, syml, a diledryw, a wnaeth rywbryd i Mr Lloyd-George:— 0, na fae i minau fot—ie, fll. Neu fwy, i'w rhoi drosot; Gwirionedd a geir ynot, A thi yw'r gwr na thry 'i got. Yr Athraw Morris Jones, hefyd, a ddywedai yn ei ffordd wreiddiol ei hun yn ddiweddar: Cyn y troaf fy nghot, a gadael Ymneillduaeth, af yn ol i sir Fon at fy mam i gadw siop, ac ar y sign dodaf—"J. Morris Jones, M.A. (Oxon.), grocer, &c." Mae y Parch Dr Cynhafal Jones, Colwyn Bay, wedi rhoi rhybudd o'i fwriad i ymddi- swyddo o weinidogaeth yr eglwys Fethodistaidd yn y lie hwnw yn Medi nesaf. Ordeiniwyd ef yn 1866. Yn nghyfarfod misol Cynghor Dosbarth Dinesig Prestatyn, ddydd Iau, mabwysiadwyd treth o 4s y bunt am y flwyddyn ddyfodol. Am- cangyfrifid treuliau y flwyddyn yn 2,253p 8s 8c, o ba rai yr oedd yn ofynol codi l,467p 5s 9c drwy dieth. Mae priodas wedi ei threfnu rhwng Mr Hamish Cioss, mab y diweddar Filwriad James Cross, Y.H., Widnes a'r Wyddgrug, a Miss Lily Constance, pedwaredd ferch y diweddar John Pinckney, Great Durnford, Salisbury. Mae mwy o ddyfalu nag arferol gyda golwg ar pwy a etholir i gadair Undeb yr Annibynwyr Cymreig y flwyddyn nesaf. Tro Gogledd Cymru am gadeirydd ydyw, a chymer yr ethol- iad le yn nghyfarfodydd blynyddol yr Undeb a gynelir yn Ngbaernarfon yn nechreu Mehefin. AMMANFORo,—Capel y Gwynjryn.-Mae An- nibynwyr Ammanford wedi penderfynu sefydlu eglwys a chodi capel newydd, yn ychwanegol at y fam-eglwys a gyferfydd yn y Christian Temple. Cymaint oedd llwyddiant yr hen eg- lwys fel nad oedd yn y capel le ond i rhyw 24 heblaw nifer yr eglwys ei bon, Ddydd Iau, Mai 15, gosodwyd i lawr sylfaen Capel y Gwynfryn," ar lecyn gyferbyn & chartref ac ysgol y prif-fardd Watcyn Wyu, pryd y gwasau- aethid gan y Parchn J C Evans (gweinidog y Christian Temple), Watcyn Wyn, J Evans, Bryn; T John, Llanelli W Bo wen, Peny- groes W Davies, Llandeilo; Nantlais Jones (M.C.). Gosodwyd y meini coffa gan Mri Hy Herbert, Brynmorlais, a John Davies, Com- merce House, Ammanford. Casglwyd 600p

Nodacbfa Annibynwyr Trinity…

Dariuniau yr Heddgeidwad Jones.

Coieg Aberystwyth.

Damwain ddifrifol I fab' Eifionydd

-0--Arwerthiant.

Cais am fywyd Ymherawdwr Awstria.

Golygfa gyffrous yn y Wyddgrug.

Dail To (Hen a Newydd).

[No title]

Advertising

I PWLPUDAU CYMREIG, Mehefin…

[No title]

ICRYFBAIR LLYSIEUOL GWE RTHFAWR.

Advertising