Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

News
Cite
Share

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. RHODDWYD cycbwyniad i yrfa yr wythnos hon yn yr hen Ddyff, yn yma gyda gwvliaa te a bara britb. Un yn y Rhos yma a'r llall yn Coed- poeth. Y naill gyda'r Dippars a'r Hall gyia'r Methodus. Casglwyd ysgolion Seion, Rhos, Penuel, Poncie, Mount Pleasant, ac Aberderfyn at eu gilydd prydnawn Lion, a gorymdeithiwyd trwy brif heolydd y Rhos gyda llawer o rwysg. Baner amryliw gan bob ysgol, a'r plant yn swyno'r awyr gyda'u hacenion melus, a'r oil yn cael eu blaenori gan y Seindorf Bres. Yr oedd bwn yn arddangosiad teilwng iawn o'r Bedyddwyr yma—dros ddwy fil o bobl yn yr orymdaith, a golwg llawen a siriol arnynt oil a mwy na'r cyfan yr oedd yn dywydd sych, a'r huan yn gwenu yn braf arnynt Ar ol y cerdded mawr nes oedd pawb yn chwys dyferol a'r corn gwddf yn sychedig iawn, ymwahanodd. y gw-hanol ysgolion, ac ymneilb duodd pob ysgol i'w chongl ddewisedig ei hun i ddiwallu a disychedu y dyn oddimewn, a gwnaethaot gyfiawnder a'r trugareddau. Yn yr hwyr, aethant oil yn un a cbytun i gynal cyfarfod i gapel Penuel, dan lywyddiaeth y Parch E. Mitchell. Nid oeddwn yno, ond clywais eu bod wedi cael cyfarfod rhagorol, cann da, ac anerchiadau hyawdl. Heblaw hyny, rhanwyd nifer mawr o dystysgrifau i'r rhai llwyddianus yn arholiad cyffredinol Ysgolion cl Bedyddwyr Cymru. Y te parti arall oedd yn Methel, Coedpoethf lie y bu llu mawr, yn fycban a mawr, yn gwledda ei hochr hi yr un prydnawn, a dywedant eu bod wedi cael arlwy eitbriadol o dda yno. Llwyddais inau a'm deurod i gyrhaedd yno erbyn tua saith o'r gloch i glywed yr Aiphtiaid wrthi, ac yr oedd capel Bethel yn weddol lawn erbyn i mi gyrhaedd. Un o fechgyn Maelor oedd yno, Mr R. Bryan, yn traddodi darlith ar Olion yr Aipht a fu," ac yn siwr i chwi, ni cbafodd wraudawiad mor astud erioed yn unman nag yn Methel, tra'n son mor ddifyr ar wlad y tywyllwch mawr, yr ami- dduwiaeth a'r gorfchrwm caled. Yr oedd yn ddyddorol i'w ryfeddu, ac yn addysgiadol dros ben. I ychwanegu at ddyddordeb y ddarlith, yr oedd brawd y darlithydd, Mr E. Davies Bryan, Cairo,—yr hwn sydd yn treulio ycbydig seibiant yn yr Hen Wlad, wedi ymwisgo mewn gwisg frodorol yr Aipht, a golwg urddasol iawn arno a chyfnither iddynt, Miss Evans, Gwrecsam, wedi ei gwiso mewn gwisg tywysoges Pharo- aidd, ac yr oedd ei bvmddangosiad hithau yn rasol i'w rvfeddn. Heblaw hyn, llenwid y gadair gan Mr John Edwards, Johnstown.. Ytri orawd, fel y gwelir, yn blant wedi eu dwyn i fynu yn y capel bwn, a chawsant dderbyniad croesawus oddiar ddwylaw eu hen gyfeillion calon-gynes. Mae teulu Tom Bowdwr yn fyw o hyd, ao ambell waith yn dy'od i gryn drybini yma. Helynfc garw wedi bod yr wythnos ddiweddaf yn Mharc Wynn- st,ay-y cipar wedi ei ddarn ladd, a hwythau, rhai wedi eu dal a'r Heill wedi dianc, Fel hyn y mae, a digon tebyg na all Syr Watkin na neb arall ddifodi y teulu hwn o'r wlad. Mae yn dda gan fy nghalon i weled fod ambell un o weinidogion yr Hen Gorph, er mai anaml iawn ydynt, yn gallu ysgrifeuu Cymraeg coeth a darllen- adwy, a b-)d un o leiaf o'r rhai hyny yn trigianu ac yn bugeilio yn Nyffryn Maelor. Cyfeirio yr wyf at y Parch Griffith Owen, Rhos- ddu, yr hwn sydd newydd gyhoeddi Cofiant i'r Parch Cadwaladr Owen, Dolyddelen. sef ei dad. Dyma ychwanegia-d da at lenyddiaeth Gymreig. Mae wedi ei vsgrifenu yn naturiol dros ben Gwyr Mr Owen yn dda, sut i foddio chwaeth Gymreig. Mae yn Gymro da, a chanddo arddull ystwyth, yn nghyda chyfoeth o iaith wrth gefn i hyny. Mae yn iechyd i galon dyn gael darllen cofiant i'r pregethwr grymus o Ddolvddelen. Ac iechyd i galon ei fab am ei lafur yn casglu yn nghyd yr ad- gofion byw hyn. Dvlasai y gyfrol hon gael derbyn- iad cynes ar aelwydydd Cymru. nid yn unig am ei bod yn dwyn i lawr i ni hanes mor fyw o un o'r pregethwvr mwyaf poblogaidd a welodd Cymru, ond hefyd ar gyfrif teilyngdod lleuyddol y llyfr. Piti fod yr argraphwyr wedi bod mor drwstan a rhoddi dau liw o bapur ynddo. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.

--0--Cystadleuaeth Corawl…

--0--Y Fasnach techi.

[No title]

Newyddion Gymreig,¡

0 Fanceinion i Aberystwyth.|

0 Barddoniaeth.