Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Arglwydd Penrhyn a'i Chwarelwyr.

News
Cite
Share

Arglwydd Penrhyn a'i Chwarelwyr. YMWELIAD Y DDIRPRWYAETH. DDYDD Llun, ymwelodd dirprwyaeth o weithwyr Chwarel Bethesda ag Arglwydd Penrhyn er gosod eu cwynion gerbron a chael atebiad iddynt. Cyn rhoddi'r atebiad ffurfiol i'r cwynion, sylwodd y pendefig fodyn rhaid i bob cwyn fyned trwy law ei brif oruchwyliwr nas gallai ganiatau i un- rhyw bwyllgor na dyn unigol ymyryd rhwng y gweithwyr a'r perchenogion yn y chwarel mai nid gelyniaeth at Undeb y Chwarelwyr oedd yn peri iddo ddweyd hyn, oblegyd yr oedd y ffaitb eu bod yn aelodau yn brawf fod ganddynt arian wrth eu cefn. Yna rhoes yr atebiad a gaulyn i'r cwynion gyflwynwyd i'w sylw:- Safon Cyflog.—mai 4s yw safon y cyflog dydctiol, ceir rhai dynion yn enill 5s 3o y dydd a rhai dros 6s. Ni allaf godi'r safon, ,oblegyd nid yw llawer o'r chwarelwyr yn werth mwy na 4s y dydd. Gosodir bargenion iddynt ar deierau ffafriol, a'u hangymwysder yw'r rheswm na enillant gyflogau gwell. Rhaid i mi wrthod codi'r safon i 5s 6c. Gofynwch am 4s 6c y dydd pan fydd y gweithwyr yn metbu cyrhaedd safon y fargen. Byddai hyny yn gcsod pris ar segur- bod, ac nis gallaf ei wneud. RybeU-yr.—Yn Ebrill, 1893, dywedodd Mr Young y rhoddid bargeinion i rybelwyr, ac addawodd roddi gwaith iddynt mor hir ag yr oedd yn bosibl. Deallaf fod tua 90 o rybelwyr wedi cael myned yn fargeinwyr er yr adeg hono. Gofynwch am fargeinion misol iddynt: nid yw ystad y chwarel yn caniatau i ni wneud hyn. Yn mheilach gwell gan rai rybelwyr beidio cy- meryd bargen ceir eraill wedi gadael bargein- ion er mwyn myned yn rybelwyr, tray mae eraill yn rybelwyr na chymerai y bargeinwyr hwy yn bartneriaid. Am y rhesymau hyn y mae'n anmhosibl i mi roddi bargeinion i'r holl rybel- wyr yn ol eich dymuniad. Nid wyf yn gweled tir dros godi 10 y cant yn nghvflogau'r rhai weithiant yn y melinau, sef gofaint, seiri coed a maen, peirianwyr, &c. Perbynia'r seiri meini 4s 2tc y dydd, yr hyn sy'n gyfartaledd teg am waith sefydlog. Rhaid cofio hefyd i'r oil dderbyn y codiad o 5 y cant a wnaed yn Rhagfyr 1895. Gosod Bargeinion.—Rhaid i mi alw eich sylw at annghywirdeb yn eich deiseb pan ddywedir genych fod y gyfundrefn o osod bargeinion a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn "achosi llawer o ddrwg-deimlad yn inysg y dynion, a'i fod yn annghytiawn at luaws ohonyiit. Hysbysir fi fod y gyfundrefn bresenol mewn grym er 1882, felly nid teg yw awgrymu fy mod wedi achosi y drwgdeimiad hwn, ac yr wyf yn gwrthdystio'n gryf yn erbyn y fath awgrym. Mewn atebiad i'ch cwynion dymunaf ddywed: (a) A chydnabod fod y bargeinion yn amrywio mewn maint, beth sydd a wnelo hyny a'r mater ? (b) Nad wyf yn gweled grym yn eich cwyn yn erbyn "canolwr (middleman.) Gall y geiriau "canolwr," "anngyfiawnder," a "cholled i'r cyflogwr" swnio'n arwyddocaol ar glyw pobl nad ydynt yn gwybod y gwir, ond yn ofer y disgyna'r geiriau hyn ar fy nghlustiau i. (c) Pan y eeisiwch wneud allan fod bargeinion yn "cael eu gosod i ddynion anmhrofiadol,"a bod "llawer 0 weithwyr medrus a phrofiadol yn gorfod dibynu ar eu salacb," rhaid i mi alw sylw at y ffaith fod y rhan fwyaf o'r bargeinion ar graig ddrwg, ac y mae'n amlwg fod an cyfarwydd a chraig ddrwg yn fwy cymhwys i gymeryd bargen o'r fath nag eraill, ac nis gallaf gydnabod fod y bargeinwyr yn anmhrofiadol gyda'r gwa'th a osodir iddynt. (d) Dywedwch fod y gyfundrefn bresenol yn achosi colled i'r cyflogwr trwy fod dynion anmhrofiadol yn dyfetba y llechfaen. Yr wyf mewn safle i'ch gwrtbddweyd, yn gymaint a bod mwy o lechi wedi eu cynyrchu dan y gyfundrefn bresenol na chynt. Ar y cyfan, y mae'n anmhosibl rhoddi ystyr i'ch iaith ar fater y bargeinion arall na chyhuddiad ysgubol yn erbyn effeithiolrwydd y rheolwyr, ac nis gallaf lai na gweled fod teimlad cudd ar waith yn y cynhyrfiad presenol, a da fyddai i chwi a'ch cyd-weithwyr gadw yn glir oddiwrtho. Ansicrtvydd cyflog.—Dywedwch Yr ydym wedi gwneud ymchwiliad mor ofalus ag y gallem i'r gwyn gyffredinol yn mysg ein cydweithwyr parth cyfarta.ledd isel ac ansicrwydd eu henillion. Yr ydym yn cael fod nifer mawr o weithwyr cym- hwys yn analluog i gyrhaedd safon cydnabyddedig cyflog y ""chwarel, ac hefyd yn methu eriill lp yr wythnos, sefyllfa a deimlir yn ddwys gan y dynion yn wyneb bywiogrwydd presenol y fasnach." Dy- wedwch hefyd pe gwnawn ymchwiliad y cawn fod llawer mwy o sicrwydd i'r gweithwyr dderbyn gwobr am eu llafur mewn chwareli eraill na hori. Gofynodd Mr Young i chwi ei gyflenwi a'r manyl- ion i gadarnhau eich honiad. Y cwbl wnaethoch oedd cvflwyno yr hyn a alwch yn rhestr cyflogau isel 24 criw, yn cynwys 71 o ddynion allan o agos i 1,400 a weithiant. Nid yw'r rhestr chwaith vn dangos enillion y dynion am fwy na mis, oddigerth mewn saith o achosion, chwech am ddau fis, ac un am dri mis. Wedi archwilio eich rhestr yr wyf yn cael (a) mewn pedwar achos eich bod wedi gorgyfrif nifer y dynion weithiant yn y criw. (b), Fod cam- gymeriadau a diffygion yn cgholofn y dyddiau gollwyd." Effeithia hyn, wrth gwrs, ar gyfartal- edd y cyflog enillwyd. (c) Wrth archwilio, ceid fod y rhestr yn gamarweiniol ar bwyntiau eraill, dengys y llyfrau fod cyflogau tair rhan o bedair ohonynt yn uwch na'r safon am y chwe' mis, a cheir fod dynion un criw a nodir genych wedi derbyn cymaint a 5s 8c y pen bob dydd yn yr oil o'r chwe' mis. 0 berthynas i'r rhai sy'n methu enill lp yr wyth- nos, dau griw yn yr holl chwarel sydd heb wneud hyn, er yn dod yn lied agos at lp. Am y ddau griw hvnv wele adroddiad ddaeth i'm llaw Rhif 302 Nid oes un gweithiwr da yn y criw hwn; mae nn wedi niweidio ei gyfatssoddiad trWy vfed,' ac wedi cael ei ddirwyo a'i gau allan droion." Am y llall—"Rhif 266: Dyma griw gwael iawn-heb fod yn gryf eu cyfansoddiad nac yn abt i enill yr hyn a wnai eraill mewn lie cyffelyb.' Ceir pedwar criw eraill ychydig gwell, ond nad ydynt wedi cyrhaedd y safon o 4s y dydd, sef rhif 371, 331, 190, 132. Er hyny, y mae cyfartaledd cyflog dydd- iol y chwe' criw hvn fel y canlyn am y chwe' mis Hiweddaf:—P>h f 371, 3s 4c; 331, 3s /Jc 190, 2 4 3s gc; 132 3s S'fc; 1, 3s 7c; 45, 3s 10s. Dengys y cyfrifon hyn fod eich cwynion, nii yn unig yn annghywir, ond yn chwerthinllyd. Rybel,tvyr.-(a), Ceir fod y dosbarth hwn yn gwneud cystal ac weithiau well cyflogau na'r cyfar- taledd o fargeinwyr, felly n;s gellir desgrifio eu sefyllfa fel yn hollol anfoddhaol." (b), Annghywir yw dweyd fod y "poundage yn eu plith yn ffigiwr penodol bron wastad." Yr oedd 14 o wahanol poundages y mis diwedda*, ac mae'r prisiau delir iddynt wedi cynyddu llawer yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. (cl), Nid wyf yn barod i wneud unrhyw gyfnewidiad yn y gyfundrefn o roddi poundage ar flociau gymerir i'r felin. Nid wyf yn barod i wneud unrhyw gyfnewidiad yn y g) fundrefn dan yr hon y gweithia'r chwarelwyr, Anrasol i'r eithaf yw'r anfoddlonrwydd ddangos- wch yn ngwyneb codiad y cyflogau. Yr wyf yn wirfoddol wedi codi pump y cant dair gwaith yn eich cyflogau yn ystod y pedair blynedd a haner diweddaf; ac y maent yn uwch heddyw o agos i 30 y cant nag oeddyr.t yn 1887, er fod y safon o 4s y dydd yn aros heb ei gyfnewid. Er i mi ddangos parodrwydd i ymwneud a chwi gyda'r tegwch mwyaf, nid ydych chwi ddarfu ar- wyddo'r ddeiseb hon yn cywilyddio dangos eich anniolchgarwch. Nid wyt yn credu fod yr hyn ddywedwch yn ddatganiad o wir deimlad yr oil o'm gweithwyr, ac fel prawf o hyn y mae genyf bleidlais o ddiolchgarwcb a basiwyd yn mhob bone yn y chwarel wedi i mi wneud- y codiad diweddaf yn eich cyflogau. Bu'r ddirprwyaeth gydag Arglwydd Penrhyn, Mr Young, a M.r D. Pritchard, y goruchwylwyr, am agos i bedair awr. Cyfansoddid y ddirprwy- aeth gan saith o chwarelwyr, ac yn y swyddfa yn Mhorth Penrhyn y cymerodd y drafodaeih le. Ar ol gorphen, bu'r ddirprwyaeth a Mr D. R. Daniel, tretnydd, a Mr W. J. Williams, ysgrifen- ydd Undeb y Chwarelwyr, mewn cynghor, ond nid yw eu gweithrediadau yn hysbys.

:o :----Nodion Amaethyddol,

Marchnadoodd.i

- *U I - Gohebiaeth.

(o) Cau Clofeydd Brykinallt.

[No title]

Enwogion Awst.

o Lleol.

PWLPUDAU CYMREIG, Awst 23.…

Advertising

Family Notices