Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Gwreichion.

News
Cite
Share

Gwreichion. IT UN prydnawn, pan oedd yn tebygu i wlaw,go- fynai cymydog i ffarmwr, Mae'n debyg eich bod yn ofni iddi wiawio, John Parry ?' Ofni gwlaw,' ebe Parry, 'na, mi leiciwn yu y ngalon pe b'ai hi'n gwlawio trwy'r nos, er fod gen i ddau give o yd yn barod i'w gario. Mae'r ddaear yn llefain am wlaw.' IT Galwodd trafaeliwr ar fusnes yn y Gwallgofdy V dydd o'r blaen, a digwyddodd weled hen gydnabod iddo yn mhlith y lloerigion. Helo,' ebe'r drwg ei hwyl, Er's faint ydech chi yma, ?' Er doe,' atebai'r ymwelydd. he sy miter arnoch chi ?' g sfynai y gwirion eilwaith, fel pe buasai'n llawen- ychu o'i gydymaith ond pm atebodd y trafaeliwr —' 'Does dim byd y mater arna i pe cawn i fyn'd oddiyma gan y warders yma.' Yr ydw i 'run fath a chi'l1 union—yr ydw i'n gallach na nhw i gyd hefo'u gilydd pe cawn i ddim ond myn'd o'u gwin- edd nhw rwsut. Waeth i chi neud y'ch hunan yn hapus, yma byddwch chi beilach.' IT Ar yr un ymweliad gwelodd un arall a ad- waenai, ac ebe fe wrtho, 'Helo, ffrynd, y chi sydd yma?' Ie,' ebe yntau yn ddigon call, ac y mae'n dda gen i fod chi'n 'peini i mi—er's faint ydeoh chi yma?' 'Fr heddvw,'ebe'r ymwelydd, pan ych- wanegodd y Hoerig, dan chwerthin yn galonog, Felly yr oedd hi gyda minau—ar visit i wel'd y He y dois ine yma, ond mae'r cnafon wedi nghadw i yma heb symud fer er's tair blynedd. Tragwydd- oldeb ydi heddyw diawled y 'Sylum yma. Un- waith y dowch chwi ewch chi byth o'a gwinedd nhw.' Erbyn hyn yr oedd yr ymwelydd yn dech- reu amheu ei hunan, ac yn Uygadu am y drws. IT Yr ydw i'n rhoi mis o rybudd i ymadael, mam,' ebai morwyn Brynffynon dranoeth wedi iddi ddyfod i'w lie. Sut hyny ?' ebe'r feistres yn syn- edig, tydech chi ddim wedi bod yma i wybod leieiwch ai peidio eto.' Ydw, imm, yr ydw i'n gwybod nad alia i byth ddyodde y c'oc ffasiwn newydd (larwm) yna sy'n fy rhwystro i gysgu yn y bore O'r gore,' ychwanegai y feistres, mi gymera i y larwm i ffwrdd, Mary, i chi gael codi ohonoch y'ch hun.' Cododd y feistres tranoeth, cyneuodd dan, glanhaodd y ty, &c., a phan oedd y brecwest drosodd daeth Mary i lawr naw o'r gloch I IT Rhoddodd y wraig dda ei brecwest i Mary (er nad oedd yn ei haeddu) ac a ddywedodd wrthi, Yn awr, Mary, mi ellwch chi fyn'd rwan. Nid i gysgu yn y bore yr oeddwn i yn eich cyflogi.' IT Ychydig o Wyddelod sy'n dyfod i Gymru y blynyddau yma i weithio'r cynbauaf rhagor oedd yn yr amser a fu. Daeth bagad ohonynt i Garth gynan yn amser Griffiths, a chysgent ar draws eu gilydd yn ngwellt yr ysgubor, a beth ddarfu'r di- reidus Dafis y Llan ond rhoi perfeddyn dafad yn llawn gwaed yn y gwn a saethu'r cynwys trwy dwll y glicied am eu penau nes oeddynt yn waed vr oil, Wedi clywed yr ergyd rhuthrasant allan a meddyliasaut oil eu bod wedi eu lladd wrth weled v gwaed. Wedi dyfod atynt eu hunain, modd bvnag, a difwyno yr afon ger law, ffoisant o'r ardal heb eu cyflogau na pheth. Pobpeth a rydd dyn am ei einioes. IT Y dydd o'r blaen dywedai gwr y Llwyn wrth ymwelyddes o wyres fechan oedd yn arcs yno er's ychydig ddyddiau, I E(lie,' ebe fe, 'edrychwch ydi y ceffyl yn y trap i ni gychwyn i'r shou ddangos.' y fechan at y drws, ac a ddaeth yn ol gan .'ywedyd, Na, tydi o ddim yn y trap, taid, ond "He o'n sefyll rhwng dau bolyn yn ei ymyl 8'1 Dywedwah chwi a fynoch, y mae rhyw was- firldiwcb rbyfedd yn perthyn i amaethwyr Cymru. Y dydd o'r blaen cymerodd un gardod cildwrn 0 sofren am beidio dangos merl/n oedd ganddovn yr arddangosfa amaethyddol yn erbyn un my lord,' ac enillodd my lord y brif wobr—dair gwaith gymaint a'r gardod cildwrn-y buasai'n sicr o'i henill onib'ai am ei waseiddiwch. Pa bryd yr enilla y ffermwyr eu hannibyniaeth, dywedwch? IF Yr oedd Tom Evans yn cadw cwmpeini i ferch y Plas er's blynyddau, a dywedodd ei dad wrtho un noson, Pam na phriodwch chi, Tom?' i Mi leiciwn, y nhad, ond yn anffortunus iawn y mae atal deyd arni hi.' 'Beth ydio ?' gofynai y tad pryderus, pryd yr atebodd Tom, Fedr hi ddim deyd, Gwnaf.' ? Weles i rioedshwn beth, y mae gwraig y Tierthen yn tretio'r gwr fel ci,' ebe cymydoges y el dydd o'r blaen. Beth ? yn ei guro fo ?' gofyuai y Hall Nage, yn ei anwesu ac yn lolian gyda fo.' IF Jac, awn i ddim allin ar y fordaith yma tawn i chi,' ebe'r capten wrth un o'i ddwylaw. 4 Pam, capten ?' ebe hwnw yn bur sarhaus. 'Wel, Jac, yn tydech chi mor dew.' Os ydw i'n dew, ydech chi'n meddwl deyd nad alia i ddim .handlo'r t'haff cystal a dyn tene ?' Nid hyny ydi'r pwnc, Jac,—onid yden ni'n rhwym i'r Cannibal Islands?' ychwanegai y capten tan weau, a chymerodd Jac yr awgrym-llongwr tir sych fu wedi hyny am hir amser. CYFARWYDD.

BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.

NocSion o'r Ddinas

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

-0--Arwest Farddonol Clan…

Dyffryn Clwyd,

Gwyddoniaeth.

--i o--1-Ar Finion y Ddyfrdwy.

[No title]

-0-YFWYR TE-DALIWCH SYLW.