Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

-----__-_____.__---MEIRION…

News
Cite
Share

MEIRION A'R GLsANNAU. Dydd Nadolig cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Llanfachreth, y Parchn. IR. H. Watkins, Dinorwig, a J. Lewis Williams. Aberystwyth, yn pregethu. Nos Iau, Rhag. 23, bu y Parch. J. Puleston Jones, IM.A., Pwllheli, yn darlithio yn Llidiardau, ger y Bala, ar Cylymau Cymdeithas." Cafwyd darlith ragorol, a rhoed iddo wrandawiad astud ac aiddgar. O'lrheiniodd Mr. Jones ar hyd .yr oesau o'r flwyddyn 1100, gan nodi allan y prif bwyntiau oedd yn cylymu cymdeithas I yn y cyn-oesoedd, a'r hyn hefyd sydd yn gwlwm cymdeithas yn yr oes bresennol. Yr oedd yn ddarlith llawn o addysg a chynghorion.. Y cadeirydd ydoedd y Parch. J. Eifl Hughes, a chaed ganddo anerchiad pwrpasol. Gwnaed y diolchiadau gan Mri. Evan Davie's, Tentre, a John Roberts, Cyn- ythog Ganol; a chaed gair ymhellach gan y Parchn. W. Jones, ParCj a J. Eifl Hughes. Mae clod darlith y Parch. Joseph Jenkins, Blaenau Ffestiniog, ar John Jones, yn. ymledu. Cafodd hwyl anghyffredin yn Nhregaron, lie y mae pawb yn adnabod John Jones. Dydd Nadolig caed dau gyfarfod gweddi yn yr Abermaw. Un am saith o'r gloch y bore yn Peniel, a'r Hall am ddeg yn Siloam. Yn yr olaf y Parch. E J. Parry oedd yn arwain. Caed anerchiad pert a phwrpasol gan y Parch. Edwin Jones. Dymunol oedd gweled y Boy Scouts' yn bresennol. Yn hwyr yr un dydd: cynhaliwyd cyngerdd er budd achos y Bedyddwyr. Llywyddwyd eleni gan y Parch. J. Gwynoro Davies. Perfformiwyd cantata- y geiriau gan y Parch. D. Adams, B.A., a'r gerddor- iaeth gan y Parch Peter Hugh Lewis,. Mr. Lewis ei hun oedd yn arwain, a dywedir na chaed gwell cyngerdd erioed o'r blaen ar y Nadolig Nos Lun dilynol caed cyfarfod amrywiaethol yn ysgoldy Caersalem. gan Obeithluoedd. Unedig yr Abermaw. Y cadeirydd oedd Mr. Rhys Jones, Park Road. 'Caed anerchiad buddiol gan Mr. Hugh Davies, Pwllheli. Y gweinidogion oedd yn gwaisanaethu yngnghyfar. fod pregethu y Calan eleni oedd y Parchn. Joseph Jones, B.A., Aberhonddu, a J. Lewis Williams, B.A. Aberystwyth, Anfynych o drugaredd y gwelwyd ystormydd tebyg i'r rhai gafwyd yr wythnosi ddiweddaf Llifodd yr Wnion a'r Fawddach dros eu glannau nes gwneud Dyffryn y Fawddach fel mor. Torwyd yroeilffordd rhwng Dolgellau a Llynpenmaen un diwrnod, a rhwng Llyn IPenmaen ac Arthog y diwrnod a rail, a bu raid caely motors a'r cerbydau i gludo'r teith- wyr. Ataliwyd .y tren rhwng Dolgellau a Drwsy- nant, hefyd, gan goed oedd wedi eutorrig,an yr ystorm. Ddechreu yr wythnos hon, yr oedd popeth fel arfer. Llongyfarchiadau i Syr Owen M. Edwards! Nid yw efe yn fwy parchus yn unman ag ym Meirion. Da gennym glywed fod Mr. J. E. Evans-Jones, clerc yn Swyddfa Mr. R. Guthrie Jones, Cyfreithiwr, Dolgellau, mab ieuangaf (Mr. E. E. Jones, Bethel House, wedi cael comisiwn. ym myddin y tiriogaeth- wyr.

Family Notices

CYFARFODYDD MISOL.