Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GOllEBIAETHA U.
News
Cite
Share
GOllEBIAETHA U. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifeirwyr).
,LLE GENEDIGAFJTH SYR JOHN…
News
Cite
Share
LLE GENEDIGAFJTH SYR JOHN RHYS. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—M'ewn llythyr yn y 'Cymro am yr wythnoa ihon dywed D. E. i Syr John Rhys gael' ei eni a'i ;fagu yn y llanerch lie y codwyd y cewri Dr. Lewis Edwards, Thomas1 Edwards, Ieuan Gwyllt, Robert (Roberts, icynddylan a 'Principal Prys." Nid yw hyn yn gywir. Ym Mhpnterwyd, tua deng milltir o Ben- llwyn y ganwyd y Prifathro enwog, a nodweddion y bobl fegir ar lethrau 'Plumlumon a ddangosodd drwy ei oes. Am y cewri eraill nid ydyw fawr o wa- haniaeth,a ydyw yn gywir a'i peidio, ond mae'n sin- mai yng Nghapei Dewi y g.anwyd Cynddylan. Pa fodd yn y byd y cadwodd Goginan Dafydd. ab Gwilym, a Phontarfynach Dafydd Morgan y Diwyg- iwr heb i D.E. eu rhoddi ymysg cewri Penllwyn sydd yn anesboniadwy. Mae'n wir fod yr iaith igymraeg yn un gyfoethog, ond etc os desgrifir dynion sydd wedi cyrraedd rhyw gymaint o enwogrwydd lleol neu enwado1 fel 'cewri' carwn wybod pa fodd i ddesgrifio dynion fel, D. ap 'Gwilym, John Elias, Pencerdd Gwalia, John Rhys a Lloyd George heb fyned yn groes i grefydd a'u galw yn dduwiau.' Yr eiddoch, &c., MOEL DIHEWID. C OF I ANT DR. CHARLES EiDWARDS. AT OLYGYDD Y CYMRO. ■Syr,—Yn eich ,Gair at y Darllenwyr yr wythnos hon da gennyf weled y gellir disgwyl cyfres o ysg- rifau hynod o ddyddorol dan y penawd Oriau Ham- dden gyda Dr. Edwards," yn y Cymro y flwyddyn nesaf. Diameu y bydd yn dda gan eich darllenwyr eu gweled a'u darllen, ac yn ychwanegol at y dydd- ordeb a deimlir ynddynt ar y pryd byddant yn fodd- ioa i osod ar gof a ch,adw lawer o bethau gwerth- fawr yn dal cysylltiad a'r gwr enwog hwnnw. Ond tra yn gwerthfawrogi pob tywysen y gellir ei lloffa o bob eongl tueddir fi i ofyn onid ydyw yn hen bryd, 'belLach i ni gael cofiant teilwng iddo? Mae agos i un ar bymtheg o flynyddau wedi myned heibio er pan gymerwyd ef ymaith o'n plith, ac yn y cyfamser y ,mae y naill ar ol y HaD 0"11 rhai allasent oroddi eynoxthwy sylweddol gyda gwaith o'r fath wedi ei ddilyn i dir distawrwydd. Nid wyf yn sicr a oes 'un yn aros yn awr o'.p hen gyd'-efrydwyr yng ngholeg y Bala, os oes, maent mewn üedran teg, a goreu po gyntaf i gael ganddynt eu hatgofion am dano, yn y cyfnod hiwnnw. !Pa nifer sydd yn aros a allent roddi atgofion am ei weindogaeth yn eglwys Wind- sor Street, Liverpool? Ac y mae ei fyfyrwyr cyntaf yng Ngholeg Aberystwyth erbyn hyn yn ychydig, ac yn myned yn jlai eu nifer o flwyddyn i flwyddyn. Mae yn amlwg os nad eir ynghylch y peth yn fuan y bydd y neb y syrth y gwaith i'w ran dlan lawer o an- fantaig i wneud cyfiawnder a'i goffadwriaeth. Syn- ais weled y sylw mewn adolygiad ar gyfrol a ym- ddantgosodd yn ddiweddar fod yr awdures wedi gallu ysgrifennu hanes y Brifysgol igymreig heb ond prin grybwylliad1 am Dr. Charles Edwards. Pan geir hanes cyflawn ac awdurdodedig, ac y mae yn hen bryd ei gael, diau y ceir (gweled mor ddyledus ydyw Cymru i Brifathro cyntaf ty Co'eg a roddes i Jawr sylfaen y Brifysgol. Pwy a ymgymer a'r gwaith; hwn? Pwy a rydd gychwyn i'r symudiad? Ofnwn mai ofer disgwyl wrth y teulu, onite buasai rhywbeth wedi cael ei wneud: ymhell cyn hyn. Ac nid mater i'r teulu ydyw o i-an hynny—dyn cenedli ydoedd Dr. Charles Edwards, ac y mae cenedl gyfan yn disgwyl- am gofiant teilwng iddo. Ai gormod apelio at y !Prifathiro Roberts, Aberystwyth—ei olynydd-i roddi cychwiyn i hyn? EDMYGYDD. M1LWYR OLiWYFEDXG CYMiREIG YN YSBYTAI iLLUNiDAIN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl 'Syr imewn cyfarfod o gynrycbiolwyr Eg- lwysi IMethodi,s,t,aidd Llundain, gynhaliwyd yn Char- ing 'Cross Road, nosi Lun diweddaf, penderfynwyd ceisio trefnu ymweliadau rheojaidd a'r milwyr clwyf- edig Cymreig ddeuant o bryd i bryd i ysbytai y Brif- ddinas. Ceisir dod i rhyw ddealltwriaeth a'r Swyddfa Rhyfel, ac a'r awdurdodau yn v .gwiahanol ysbytai, ac y mae y gwaith o gyrraedd hyn yn myn'd ym- laen yn hwylus; ond yn y cyfamicv, ffurfir pwyllgor- au "leol yn yr eglwysi, a cheisir cael pob gwybod- aietih sy'n bosibl am. symudiadau v milwyr a'r modd- ion i ddod 0 hyd iddynt. Pery Pwyflgor Cronia Ffoaduriaid 'Belgium i weithredu yn y mudiad new- ydd hwn ynghyda phium cbwaer o bob un o'r eg- lwysi Methodistaidd^ ac ychwanegwyd at v swydd- ogiou :—Mrs. Timothy Davies, vValham Green, a'r Parch. T. F. Jones, Shirland ,Road, yn Isi-Lyvvydd- ion a Mrs. T .E. EDis, Chtaring Cross Road, a Mrs. William 'Price, 'Shirland Read, yn Y sgrifenyddion. ApeLia'r Pwyllgor am gynoithwy eu cyd-genedl yn Llundain ac yng Nghymru i gyrraedd yr amcanion mewn golwig ac i sicrhau fod arhosiad ein milwyr clwyfedig yn y 'Brifddinias' mor gysurus ag sydd bosilbl dan yr amgylchiadau. Yn gyntaf oil danfon- er i'r Ysgrifenyddion enwau y bechgyn y gwyddis eu bod1 yma a pholbmanyhon yn eu cylch, anegis eu rhif milwrol, enwau'J cia,tiro,dau y iperthiynant1 iddynt, ac t enwau a chyfeiriadau yr ysbytai y maent ynddynt. Mantais hjefyd rfydd igwybod o ba le yn yr hen wlad j deuiant a'u c-ysylltiadau teuluaidd a chrefyddol gan y bydd meddiant o'r wybodaeth ihon yn help mawr i ymwelwyr wneud eu gwaith yn effeithiol. 'Bydd yn angenrheidioj hefyd ffurfioi cronfa er prynu cysuron i'r milwyr hyn, .gan na ddarperir gan, yr aw- durdodau ond y ipetihau sydd anhebgoxol angenrheid- iol, a haedda'r bechgyn hyn lawer rhagor oddiar ein dwyløw na'n darpariadau1 swyddogo! hyn. Anfoner felly bob gwjibodaeth, a chyfraniadau mewn arian neu mewn ffurfiau erailj yn, gyfeiriedig fel y c.anlyn: 1 The Secretaries,' Welsh Wounded 'Soldiers Com- mittee, 136, Shaftesbury Avenue, London, W. Yr eiddoch yn gywir, Peter Hughes Griffiths, Cadeirydd. H. Morgan OnJ Trysorydd. Annie J. Ellis. S. Price. D. IR. Hughes. G. W. Jones. Ysgrifenyddion. 136, Shaftesbury Avenue, W. D¡ydd Nadolig, 1915. AMAETHYDiDIAEillH AC YlMIHÆSŒR U. AT OLYGYDD Y CYMRO. S,yr,-Er egluro camsyniadau ac anhawsterau yng- lyn ag amaethyddiaeth ac ymrestru y mae Bwrdd Amaethyddiaeth yn ystod y pythefnos' diweddaf wedi cyfarwyddo iPwyllgorau Amaethyddol (Rhiyfel) y Sir- oedd. i. Y gellir apelio at yr Awdurdod ILeol (Local Tribunal) pa un bynnag a fydd dyn wedi attestio,,ai ipeidioi 2. Os caif dyn sydd mewn gwaith wedi ei stario rybudd i ymuno,a'r Fyddin (Army Form W 3195) y dybiaeth vw, naill ei fod heb ei stario at amcan y Gofrestr Genedlaethol neu fod Swyddog Ymrestru heb ddynodi y ffaith yn Nghofrestr y Fyddin. Ym- hob achos felly dylai y meistr drefnu y mater yn uniongyrchol gyda'r Awdurdodau Milwrol, neu ap- e:io yn ddiymdroi i'r Awdurdod Lleol am ddatganiad y dylid ystyried y dyn yn starred.' Gellir cael Ffurflenni RI3 ac R14 i'r p'wrpas hwn. 3. Dylai amaethwyr ag y mae yn eu gwasanaeth. ddynion wedi eu stario,' neu rai y dylid eu stario,' yn uniongyrichol ar ol galw i fyny unrhyw Gronp, wneud yn glir iddynt nad yw y wys yn gyfeiriedig at ddynion wedi eu stario.' Os caiff dyn felly wys bersono; (Army F'orm W 3195) rhodder hi i'r meistr a dychweled yntau y wys gyda -datganiad, ysgrifenedig o'r rheswm paham na ddylesid galw i fyny y dyn dan sylw. Fe gynnwys gwasanaeth ynglYR .ag amaethyddiaeth sydd wedi ei stario y dosbarthiadau a ganlyn. (Gwe'l rhoddi i :,awr y desgrifiadau swyddogol yn Saesneg, rhag ofn camgymeriad) Agricultural Engine Attendant; do. Engine Driver do Machine Attendant; do. Mechanic Farm 'Bailiff; iBeastman Byreman Cattleman Cowman Dairyman; Farm Carter; Farm Foreman; Horse- keeper iFIorseman Farm .Steward Stock Keeper Farm 'Wagoner Milker Ploughman Shepherd Stallion man Stockman; Teamsiman Thatcher Yard man; Farrier Horse Shoeing) Foreman in all departments of fruit, iHop and !Market .Gardens'; Milk Trade (Manager and Foreman.) Milk Carman (Collector from Railway Stations). Ymhob achos o amheuaeth neu anhawster ag mewn achiosion "le y gel wir i fyny ddynion wedi eu. I stario neu y dylesid eu stario dylai y meistr ,a'r gwas1 ym- weled neu ohebu a'r Swyddog Ymrestru neu y Cyn.- rychio'lydd iMilwrol dros ei ddos'barth, heb oedi. Yr eiddoch, &c., Carnarvon. EVAN R. DAVIES. Ionawr iaf, 1916.
Y PURDAN A GWEIQDIO DRIÜiS…
News
Cite
Share
Y PURDAN A GWEIQDIO DRIÜiS Y MARW. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Mae'r mater yn Icael ei drafod mor deg tuag at y ddwy ochr, mor ddidramgwydd, ac mar lednais, gan Mr. Prichard (dull cyffredin y 'Cymro' ag sydd yn ddiameu yn un o elfennau ei fawr lwyddiant) fel 1 .9 mai prin angen ychwaneg ar y pwnc. Mae poh go- hebydd ar y testun o ran hyny yn. ysgrifennu yn dra ,annhebyg i ddull y rhai gymerent ran yn hen ddad- leuon crefyddol Cymru. Yn He trin y ddadl, yn fynych trin y naill y lla'.l a wnaent hwy, ac, fel bwystfil Daniel, yn bwyta ac yn drylio ac yn sathru'r gweddill dan ei draed A son am y Purdan; (gair camarweiniol i raddau, am yr Arosfan tan Ddydd Brawd) a ddarfu i chwi sylwi, Mr. Golygydd fod y Methodistiaid Ca:,finaidd yn credu yuddo, yn ol v daliadau ag y maent (goeliaf fi) wedi dodi eu Haw a'u sel wrthynt? Dyma y geir- iau Megis ag y bu Crist farw drosom, ac y c La dd- wyd ef; felly hefyd y mae i'w gredu, iddo ddisgyn i uiiern" (ad inferno descendisse). Gwyddoch yn well na fi mai y goroxau isod" (the lower regions) yw desgrifiad cyffredin y geiriaduron o inferno." iRhoddir yr un desgrifiad i "uffern neu hell," fel yr ai:, dçleongliad o'r gair; lle'r poen- au yn gwneuthur y desgrifiad cyntaf. Nid i'r lie yna, 'does bosibl yr aeth Crist i bregethu i'r y.s- brydion yng ngharchar." Dyma fi etc at bwnc, neu'r arferiad, o weddio dros y carcharorion gobeithiol v pregethodd Crist iddynt. Gobjebydd mewn papur araL a ddywed mai peth new- ydd ydyw. Ond yn hytrach peth a oarhaodd trwy yr oesau hyd yn lied ddiweddar yn y Dywysogaeth. Yr hen Robert Jones, Rhoslan, yr hwn a gyhoeddodd Drych yr Amseroedd gant namyn pum mlynedd yn ol, a dystiolaetha fei y canlyn, pan yn son am gyflwr Cymru ychydig cyn ei amser ef, cyn i freint- iau yr efengyl ddyfod mor helaeth i'w mysg ag y maent yn y dyddiau hyn. Dyma ei eiriau Arferai bagad o'r cymydogion ymdyrru at eu gilydd y nos o flaen c1.addedig,aeth y marw, a byddai pawb yn myngd ar eu gliniau pan ddeLent gynxaf i'r ty. Gell- ir meddwl mai dechreuad yr arfer hwn oedd gweddio am ddedwyddol ymwaredenaid eu cyfaill imarw a11.an o'r purdan." Yna sonia am y ddiodles a roddid i ryw un draws yr arch wrth ddrws y ty: yntau a fendithiai ac a weddiai yn ddwys a difrifol gydag enaid y marw. Arferai yr holl deulu, y Sul cyntaf ar ol claddtt fyned ar eu gliniau ar v bedd, pob un i ddweyd ei bader. Ac ni choffaent am neb o'u teulu na'u perthynasau wedi eu meirw, heb ddywedyd yn ddefosiynol iawn Nefoedd iddo.' Y mae ym- hellach ymlaen yn egluro' pethau trwy ddweyd Pe buasent yn credu fod pawb yn eu mynediad trwy borth angau yn myned yn ebrwydd, naill ai i'r nef- oedd neu i uffern, ofer ac ynfyd yn eu golwg fuasai rhoddi gweddi nac offrwm drostynt byth mwy." Yr eiddoch, EGLWYSWR LLEYG.
Y GANWYLL FRWYN.
News
Cite
Share
Y GANWYLL FRWYN. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Gyfaill,—'Fel un sydd yn byw o fewn chwarter awr o gerdded i gongl y cae lie safai un- waith y bwthyn to gwellt lie llechai yr hen Elin Jones a wnai y canhwyllau brwyn i John Elias yn- ddo, mae llythyrau eich gohebwyr yn peri i mi gryn ddyddordeb. Arferai fy hen nain son yn am; am yr hen chwaer honno ac yr oedd hanes1 y box tin ( oedd gan J.'E. i gadw'r menyn i mi ac eraill mor wir ac adnod. (Hen gostwm gan ffermwrs yr amser gynt fyddai rhoddi brechden a menyn go dew arni i'r bachgen fyddai'n cludo-'r blawd .o'r felin, a'r fetel o'r edafedd o dy'r gwehydd 'Rwy'n cofio yn dda pan awn i Plasgwyn ar ddiwrnod corddi y byddai Lydia Jones (mam y tafleisydd a'r hardd enwog) yn gwneud brechdan fara ceirch i mi, ac a'i bawd y taenai yr ymenyn arni, digon i wneud dwsin o gan- wyM.au brwyn. dffeddyw ,wrth i mi alw sylw at lythyrau yn y Cymro wrth y bwrdd cinio efo'r bechgyn (mae'r 'Cymro yn o boblogaidd yma pe basa tipyn bach mwy o son am dda a diffyg y dosiharth gweini ynddo) wrth i mi ddarllen lLjrthyr "iHanesydd," hold on," meddai'r forwyn, lie mae hwna wedi bod?" "Hal- en fydd gin i yn gola tan pan aiff hi yn galed ac ar frys arna i." Ac medd,ai un o'r bechgyn, Mi a i i'r gors y .munud yma i nol brwynen, ac oscai chwarter owns o fenyn mi na i ganwyll i edrach ydi'r boysi yna yn deud y gwir." .D'ychwelodd, a chafodd y meRyn er ei ddruted. Gwnaeth y ganwyll, ac yn y man go.euwyd bJi, a beth ddylieich chwi nes i yn ei goleu hi? goleu canwyll frwynen Icafier wedi ei gwneud ag ymenyn, Mr. Gol? mynd i chwilio am adnodau o blaid gweddio dros y meirw." Mae'r pwnc yma yn blino tipyn arna, i y dyddiau yma. Yn gymaint a bod gennym filiynnau fchin,a a'r India fawr bron heb inni ddechreu gweddio drostynt eto na gweithia i'w hefengyleiddio o ddifrif calon a onid oes yno ar y spot weddiwyr wyr yr amgylchiadau yn llawer gwell na ni? iBeth yw yr ysfa .newydd hon ? Ofnwn gan- lyniad-au troi gweddio yn rhyw fursendod pabyddo". fel hyn ar feddwl ein ipobl ieuainc. Ond y ganwyll frwyn 'oedd gennym. Dywed (Hanesydd y gal-ai J.E. gael canwyll frwyn yn haws nac ymenyn." Tybed? 'Roedd yn rhaid cael saim o xywle, ac ai onid: haws ei gael yn y ffordd o ymenyn, ac os myn- wch wedi goLchi'r halen ohono, canys dyna meddir wnai'r .hen Elin Jones. Na 'rwy'n meddwl gyda phob parch i'ch gohebydd, mai tystiolaeth y rhai agosaf i'r amgylchiad hwn fel yn hanes amgylchiad- au pwysicach yw y rhai uchaf eu hawdurdod. Well' gen i goelio yr hen nain. BRWYNEN. Y FORWARD M OVEiMENT. TYRED A GWEL. Myriych ddeisyfa llawer gael cipdrem ar waith y Symudiad Ymosodol. Diau y darllenant gyda hyf- rydwch y llythyr isod anfonwyd gan Prof. W. Jenkyn Jones, M.A., Athraw Athroniaeth Coleg y Brifysgol Cymru, at y Parch). John Thomas, Ysgrifennydd Cyff- redinol y Mudiad, 29, Queen Street, Caerdydd. Bodalwyn, Aberystwyth, Nadolig, 1915. Annwyl Mr. Thomas,Bu Mr. Edw,ardi Jenkins, Y.H., imor fwyn a, oheisio gennyf ymweled ag am- ryw o Ganol-fannau y Symudiad Ymosodol1 yng Nghaerdydd i edrych eu hansawdd. Pan gych- wynasom ar ein cylchdaith nid oeddwn yn rhyw hyderus iawn. Ond cyffrowyd fi yn ddirfawr gan yr hyn a welais. Daethom ar draws y gwahanol Neuaddau heb ein disgwyl pan oeddynt ar ganol eu gwaith, a chanfuom ynddynt oil, ac yn arben- nig mewn rhai, arwyddion digamsyniol o waith diirif, diragrith. Yr oedd yr adeiladau'n lan a threfnus, a chan mwyaf y11 Hon a siriol eu golwg. Gwelem gynulleidfaoedd Iluosog, ac ymddangosi- ai'r aelodau'n effro ac ,astud, yn enwedig mewn rhai o'r Ysgolion Sabothol. Argyhoeddid ni fod yr arweinwyr a'r gweinidogion y cyfarfuom a hiwynt yn wyr anturiaethus, ilawn o ffydd ac ynni. Prin y gallwn gredu fod llawer o'r dynion, a welais' y prynhawn Saboth hwnnw yn wyr a gwragedd gonest a pharchus eu gweddi, wediarfer byw gynt mewn gwarth a phechod. Grymused y gweithiasai gras, iCrist ynddynt. Teimlwn fod ein tro o amgylch. y Neuaddau wedi ail ennyn a chad- arnhau fy ffydd yn yr Efengyl. A chof gennyf ddywedyd wrth Mr. Jenkins ar y diweddi gydia ohred fwy diysgog nag erioed,—Rhydcf pob swllt a gyfrennir at y iSymudiad Ymosodol, ergyd i gastell pechod a help i'w fwrw i lawr." Yr eiddoch yp ffyddlawn. 'W. JENKYN JONES.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Everybody's using it H Using what? Why, Fairy soap of course. The best and goes furthest. NMTUI ann" a 00. UN> HBWCABTU OH-RANS.