Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BORE OES "SYR JOHN RHYS

News
Cite
Share

BORE OES "SYR JOHN RHYS GAN MR. WILLIAM EVANS, PONTERWYD. Nis gallaf lai nag ufuddhau i roddi ychydig o hanes y ,gwr enwog uchod ar ddalennau y CYMRO. Gofidus oedd gan lawer o drigolion ardal Ponterwyd, ddarllen yn y newydcliadur am ei farwolaeth sydyn. Gyda mesur helaeth o Ibriodaldeb y gall ardalwyr y lie hwn, edrych yn ol ar restr lied dda o feibion a fagwyd yn y fro hon, pa rai trwy ymdreoh dldlyfal a chaled, ac hefyd, Itrwy lu o anhawsterau a ddrilligasant o ddinodedd i binadau lien uchel mewn d'ysg a defnyddiolddb, a bod yn falch ohonynt; ond' yn ddiamheuol, Syr John Rhys gyrhaeddodd y pinacl uwchaf o'r oil. Gwelaf fod lliaws o lenorion disglair a gall- uog wedi ysgrifennu erthyglau lawer ar ein gwrthrych eisoes, ac nid oes gormodiaith mi grediaf yn yr un ohonynt; ond "Syr John Rhys" sydd ganddynt hwy, a John Rees bach fydd gen- nyf finnau yn Ibennaf. Y imaent hwy yn edrych arno yn anterth ei enwogrwydd, a oheisiaf fin- nau syllu arno ynhogyn (bach dinod; ond yn cychwyn ar i fyny. Credlaf mai ei thaf priodol cyn dechreu ar ihanes John fyddai rhoddi crybwylliad byr am ei rieni, oiblegid y male gan rieni lawer iawn i'w wneud gyda golwg ar ddyfodol y plant, ac fe 'gredaf y ibu rhieni John .Rees, hyd eithaf eu gallu, yn ffyddliawn i'w cenhadaeth gyda golwg ar eu plant. Enw ei dad oedd Hugh Rees, ac ilenw morwynol ei fam oedd Jane Jones. Brod- or o'r Eglwysfach oedd Hugh. Daeth i'r ar- dal hon fel igwas i Aberoeiro, a hynny pan yn 'bur ieuanc. Nid wyf yn sicr a igafodd ei ddwyn 1 fyny yn grefyddol ai peidio; ond yn Eglwys Ponterwyd y cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod, yn y flwyddyn 1826. Gwr cymharol fyr o ran corff oOOd Hugh, IOnd o adeiladaeth gad- arn; a'r frech wen wedi gadael ei hoT yn drwm ar ei wyneb. C'redaf ei fod yclhydig yn dalach nag oedd1 John ei fab. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu pan yn llanc, ac yr oedd yn ddar- llenwr mawr, er mae bychan oedd ei lyfrgell. Yr oedd ynddo d'uedd at farddoni, ac yn ei flyn- .Y yddoedd olaf cyhoeddodd lyf'r ibarddonol o'i waith ei hunan. Daeth i gryn enwogrwydd fel Isiaradwr ac areithydd yn y Cyfiarfodydd Ysgol- ion. Yr oedd yn elyn i'r tybacco a'r ddiiod feddwol. Hoffai gerddoriaeth, ac yr oedd yn deall canu yn weddol ddia,. Bu yn athraw ffyddlawn, a Iblaenor diefnyddiol yn Ponterwyd am flynyddau. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac ni feiddiai neib ameu ei ddiiwioldeib. Dynes dawel oedd Jane ei wraig. Ni hoffai siarad rhyw I'awer aim neb, ac nid oedd neb yn siarad fawr am dani bithau. Tawel gyda "i chrefydd oedd hi, ond eto yn fyfyrgar. Pan fyddai angen egluro i rywun pwy oedd Jane ReesT, fe IWneid: hynny fel rheol trwy ddweyd ei ibod yn chwaer i 'Mary Lewis,' Ty'r Capel. Yr oedd Mary yn adnalbyddus i gylch eang iawn, a hoffai Syr John RJhys ar hyd ei oes son am "Modryib Mary," a chawn ei fod wedi rhoddi ,un neu ddwy o ystoriau a. glywodd gan ei fodryb Mary yn y cyifrolau hynny a elwir yn "Folk Lore." Yr oedd John yn hoff o Mary am ei fod wedi oael llawer o garedigrwydd ar ei Haw, a chysigod: dan ei chronglwyd ar lawer noson wllyb ac ystormus pan oedd yn yr Ysigol. Y He cyntaf i Hugh a Jane fyned i fyw oedd Alberceirofach, pa un a safai tua, imill-tir 0 Bont- erwyd i gyfeiriad y Pumlluman. Buont yno iamryw flynyddau. Oddiyno symudasant i'r Henhafod, lie sydd yn lied agos i odrau y Pumlluman. Byr fu eu harosiad yn y lie hwn, a'r He diwedd'af y bu Hugh Rees ynddo yn y wlad hon oedd Gl'anrafon, yr hwn le a saif tua thair milltir o Ponterwyd i gyfeiriad Llanid- loes. Nid oedd eu hamigylchiadau ibydol ond cyfyng, Bychan oedd y cyflog y pryd bynny, ac anhawdd oedd -cael gwaith cyson. Yr oedd Hugh yn gweithio fel Hafurwr ar y fferm ar adegau, neu Ibryd arall fel bugail defaid, ac ar adegau eraill gweithiai yn y mwnfaoedd. Ond yr oedd ganddo yn y He olaf a nodwyd dyddyn bychan lie y cadwai ddwy neu dair 0 wartheg a cheffyl. Bu Jane Rees farw ar ol eu symudiad i Glanrafon, a hynny pan oedd John (tua 23 mlwydd oed, ac yn mynwent Capel Pont- erwyd y icladdwyd hi a dau o'r plant. Brawd' i Syr John Rhys oedd, y cyntaf a gladdwyd yn y fynwent hon. Ymhen tua dwy neu d'air (blynedd wedi marw Jane ail Ibriododd Hugh Rees, ac yn y flwyddyn 1867 hwyliodd ef a'i dleulu (ond John) i'r America, ac yno mewn henaint teg, ac yn fawr ei bardi, y claddwyd ef. Manylais ychydig fel hyn 'ar hanes y rhi- eni, am y credaf mae ychydig sydd yn gwybod rhyw lawer o'u hanes. Nid wyf yn gwybod am ddim wedi ei ysgrifennu arnynt gan neb, a de- allaf na adawodd Syr John Rhys ddim o hanes ei dad na'i fam ar ol. C'eisiaf Ibellach roddi ychydig o hanes, ac at- gofion am flynyddau boreuol John Rees. Gan- wyd ef yn Aberoeirofaoh, yn y flwyddyn 1840. Nid mewn palas cofier ond fel y dywedwyd mewn bwthyn bychan Hwydaidd, pa un na fes- urai ond tua 18 troedfedd o hyd, a thua 12 troedfedd 0 led tu fewn i'r muriau, a dim. ond un llawr i hwnnw. Sylwais fod un o'r bonedd- igion fu'n ysgrifennu yn un o'r newyddiadur- On yn dweyd fod yr adail y ganwyd ef ynddo wedi myned yn adfeilion, ond nid cywir hynny. Y imae y Ibwthyn bach i fyny, ac mewn diwyg gweddol dda, ond ei fod wedi ei droi yn ysgub- ,9 Z5 or. Pan nad oedd John ond pur ieuanc, caf- odd ei anfon i'r ysgol, ac nid oedd honno yn agos iawn i'w gartref. Nid oedd ysgol nac ysgoldy yn y pentref. Mewn ffermdy o'r enw f Brynchwyth y oedwid yr unig ysgol oedd yn yr ardal yr adeg ihonno. Yr oedd ychydig dros hanner mïlltir o'r pentref i Brynchwyth, a thua milltir a hanner, helaeth o (gartref John. Fan honno y cychwynodd ar ei ysgol. Efe, medd'ir oedd y lleiaf o'r plant oedd ynddi. Yr ysgol- feistr oedd un o'r enw Morgan James. Tebyg fod Morgan James yn ysgol feistr da yn ei oes, ond cwynai John Rees ac amryw eraill oblegid ei ddisgyblaeth leim, a'i 'geryddon eithafol. Cbfiaf yn ddaiglywed Syr John Rhys yn adrodd ei hanes yn yr ysgol hon gyda iblas, pan ddelai am dro i Bonterwyd. Dywedai fod rhyw am- rywiaeth diderfyn yn y llyfrau oedd yn ysgol Brynchwyth, fel yr oedd y wasg Saesneg ar ei beithaf yn troi allan nifer digonol iddi. Yr oedd yn rhaid cael rhyw fath o bictiwr ar bob un o'r llyfrau. Ystyrid y neb fyddai heb bic- tiwr ar ei lyfr yn wrthrych i dosturio wrtho. Yr oedd Hun adar yn addurno ambell lyfr, a llun bwvstfilod llheibus ar eraill. Yr cedd yno un llyfr, meddai ef, a llun tair gwenynen ar y clawr, a bydda.i rhai o'r plant yn bwrw cryn amser efo'r cacwn. Ar lyfr arall, yr oedd llun ei. Cbfiaf ef yn adrodd yr hanesyn a ganlyn am yr ysgol a nodwyd, a'i disgyblaeth. "Cef- ais i fy symud pan yn bur ieuanc i ddosbarth oedd yn darllen y Testament Newydd, a chef- iais achos i edifarhau am na buaswn yn aros efo'r cacwn. Un diwrnod pan yn scfyll i fyny yn rhes i ddarllen, a minnau yn y canol, rhywfodd fe igollais fy adnod, a meithais gael gafael arni cyn i ddwrn Morgan James, a'r Testamenlt mawr, ddodl i gyffyrddiad anhapus a fy mhen, fel y cefais weledigaethau o ser yn gwylbio trwy eu g'ilydd, ac yn yr ,awyr y bum i am ysbaid yn dilyn y comedau. Pan ddaeth- um yn 01 i wlad y ddaear, cefais fy hun ym mreicihiau IModryb Mary. Cbfiaf i un hen frawd o'r lie hwn ofyn idd,o-" Pam na buasai yn cym- ryd urddau eglwysig?" A'i ateib oedd-aDo, fe gefais i Jlawer o gymhellion i fynd yn offeir- iad, ond ni theimlais i fawr awydd am hynny, oblegid fe gefais i ddigon o 'arddodiad dwylaw' pan yn Brynchwyth efo Morg'an James." I (I'w barhau).

AI IAWN GWEDDIO DROS Y MEIRW?

GOFIANT WATCYN WYN.*