Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Cyfarfodydd Talaethol. FORTH, HEN GOLWYN, A BRYMBO. Adroddiadau Arbenig i'r "GWYLIEDYDD." Diolchwn i ddarllenwyr Y GWYLIEDYDD" os y byddant mor garedig a'i ddwyn i sylw ei cyfeillion. Gofaled y Dosbarthwyr am anfon eu harchebion mewn pryd. MAES LLAFUR YSGOLION SABBOTHOL Y TREFNYDDION WESLEYAIDD. 1906-7. -0- Esboniad ar yr Actau PEN. I.-XII. Gan Dr. Owsssn ThomaSm Llian, #/» "Mae y Nodiadau Ycliwanegol yn ffrwyth y gydnabyddiaeth helaethaf o'r materion yr ymdrinir a hwy. Nid oes unrhyw oleuni wedi ei dafiu arnynt gan vmchwil- iadau diweddar nad yw wedi ei ddefnyddio.. Gall y darllen- ydd mwyaf manwl ddibynu yn hollol arnynt."—Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., yn y '■ Traetlaodydd." Bywyd a Theithiau Paul, gyda Mapiau. Llian, 1/6 Daearyddiaeth Palestina, gyda Mapiau. Llian, 1/6 Am Lyfrau eraill at y pwreas, gweler ein Catalogue. n m m (OIHUBDDWTR, 5^^1551^! 1.1 LIVERPOOL. SHAFTESBUkY HOTEL Mount Pleasant. About 3 Minutes' Wialk from Central and Street Sltations, and adjoining Cen- tral Hialll (Charles Garrett Memorial), [Mount Pleasant. Cars from Landing 'Stage every few minutes: •NiIIQHT PORTER. WELSH SPOKEN. PKYNWCH DY I CHWI EICH HUNAIN! GALLWCH wneyd hyny trwy dalu ychydig, os dim, yn ychwaneg na'r rhent bresenol. I'aint ydych wedi dalu mewn rhent, a faint agosach ydych i feddiannu yr eiddo ? Anfonwch Post Card am fanylion ar unwaith, pa rai ddengys i chwi sut i arbed arian ydych yn awr yn wario. Gofynwch am bamphled yn cynwys ychydig lythyrau, allan o lawer, oddiwrth ddynion yn Ngogledd Cymru, ac sydd wedi sicrhau tai iddynt eu hunain, trwy ein cynorthwy. TELERAU RHESYMOL AC ANRHYDEDDUS. The Provincial Homes Investment Company, Ltd. TRUSTEES: Alderman Sir Chas. T. Skelton, J.P. lderman S. Edwards, J.P., Ex-Lord Mayor of Birmingham homas Dick, Esq., J.P., C.C. Henry Greaves, Esq., M.R.C.S., M.R.C.P. Head Offices: Mount Street, Manchester. CHARLES LEESE, Managing Director. Assets already over ^100,000, and steadily increasing. "Nothing but praise can be bestowed on the manage- ment."—Banking Insurance Investment. 7/5/04. The Company is supplying a widespread want. Nothing but congratulations over the past and good wishes for the future can be sent to this sturdy specimen of Lan- cashire enterprise "—The City Leader, London, 14/5/04. i Thanks to the excellent work of sound companies, and notwithstanding the few small and imitative frauds which have sprung and collapsed, the idea that every man may now easily become the possessor of the house in which ht lives is rapidly gaining ground in the country essentially sound and equitable the excellent plan of the Provincial Homes the Company commends itself principally by the simple and straightforward character of its operations, and by the solid strength of its financial position —The Insuranee Observer, 20/5/04. Has aehieved success, and is rapidly increasing in financial strength and popularity "—The Local Government Journal, 28/5/04. Proceeding on sound lines, and yet offering liberal terms, this Company has within a few years got together a a large and lucrative connection in all parts of the country" -London Argus, 25/6/04. The Provincial Homes has secured for itself an excell- ent reputation, particularly for able and honest manage- ment and liberal terms The Company is therefore in a very strong financial position a record of excellent progress "-The Finance Chronicle, 5/10/04. YN EISIAU. — CYNRYCHIOLWR.- Yr ydym yn awyddus i sicrhau gwasanaetb dynion o ymddiried ag ymdrecb rrar i wasanaethu fel AGENTS mewn gwahano1 daloedd. Gellir. sicrhau cyflog da heb lawer r afferth. Nid yw profiad blaenorol yn angenriicidiol.—Anfoner at Mr. CHARLES LEESE, Mount-st., Manchester. RHYBUDD. A wnaiff y dosbarthwyr hyny sydd eisoes heb dalu cyfrifon y chwarter diweddaf gofio os na dderbynir tal erbyn dydd Sadwrn nesaf, na fydd i ni asifon y papurau rhagilaw. Ni wneir unrhyw eithriad i'r rhsol hon. AT EIN DOSBARiTHWYR. TALIADAU. T.C., Cioeidipiofetih:; E.D., OM Coiwyn; W..S.)E., LlanidJeilo; J.'H., Wyddgmg; O.W.J., Plant; T.R.J., PeEmaenmawi; )R.E.J., Coiwyn Bay; J.J., Talsarinau; J.J., Trpjw'sifynydd; H.J. & Co., iBortli; J.J., Afoerjgiynolwyii!; W.M., Giwaenysgor AjRi., Porithidiniorwig J.R., Llys!fa-en. Athrofa Aberystwyth (Un o'r Coleigaru yn M'hrifysgol Cymru.) Llywydd—Y GiwirAnrh. ARGLWYDD RENDEL. P-rifathriaw-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), LL.D. (Vict). PAROTOIR y Myfyriwyr am raddiau Prif- I- ysgol Cymru, ac ar gylfer Arholiucau Prifysgolion eraill. Cynygir nifer o Ysgol- oriaethau yn nechreu bob. Tymhor. Dech- reua'r Arholiad am yr \'sg\>!oriaethan ar y 19eg o Fedi, 1905, a'r Tymhar nesaf ar y 3ydd o Hydreif. Am bob manylion eraili Janfoner at y Cofrestrydd, J. H. DAVIES, M.A. OAPEL MYNYDD SESOM, PRINCE'S AVENUE, LIVERPOOL. fVt puwv! CYLCMWYL FLYNYDDOL I Cynhelir Cyichwyl y Capel Uchod Nos Sadwrn a Dydd Sabboth, Mai 5 a 6, 1906. Pregechir gan y Parchn. HUGH JONES, D.D Bangor, a D. GWYNFRYN JONES, Llandudno. Ail-Agorir yr Organ ar yr Aehlysur Uchod. Trefn y Moddion:—Nos Sadwrn am 7. Sabboth am 1 10-30, 2-30 a 6. Gwneir Casgliad yn mhob moddion tuag at Drysorfa'r Capel.
Family Notices
.BU FARW. JONES EbriIl 26ain, yn T, Brook Villas, Pres- tatyn, yn 3oiin mlwydd oed, Catherine Maria (anwyl briod Mr Henry Jones, postman). Di- ameu y bydd adtoddiad mwy cyflawn yn ein rhifyn nesaf, gyda chaniatad y GoJygydd.
Sylwer
Sylwer Pris y GWYLIED YD D trwy y Post bob wythno-s am chwarter ydyw Is. 8c. Am haniaer blwyddyn, 3s. 4c. Am flwyddya, 69. 8c. Y ta/Liiad ymlaen llaw gyda'r archeb. Anfonir pedlwar trwy y Post am geiniog yr un wedi talu y draul. Anfoner pob path yn nghylcih y busnes, megis taliiadau, archebion am y GWYLIEDYDD, &c., wedi ei gyfeirio fel hyn: MR I. AMOS BROS. & JONES, RHYL. Oyfei,rier Gohebiaethau a phob Hysbys- rwydd a fwriedir ymddangos yn Y GWYLIED- YDD fel hyn- MIS FOR PRESS, CEPHAS," ElDiITOIR "Y GWYLIEDYDD," 58, SO'UTH JOHN STiRIEET, LIVERPOOL. Geliiir anifan Gohebiaertih hdb ddim o natur Hythyr gyda hi am ddimai am bob dwy wns ond giadlael yr amflen yn agored. BYDDrEiD hysbys nad ydym yn gyirifQl am synladau ein, Gobabwyr. t
Nodiadan Cyfundebol.
Nodiadan Cyfundebol. [GAN Y LLYFRBRYF WESLEYAIDD.) Mae'n hyfrydwch genym gofnodi fod cynydd o 251 wedi cymeryd lie yn rhif 3 aelodau ein Heglwys y flwyddyn ddi- weddaf yn Ysgotland. < Siomwyd cynulleidfa cyfarfod cenhad. ol blynyddol yr Exeter Hall, ddydd Llun diweddaf. o araeth Syr Charles A Elliott, K.C., S.I oherwydd afiechyd. Cawn mai Syr Frederic Treves, G.C.Y.O., fydd yn dosranu y gwobrwyon ar Speech Day ysgol enwog y Leys. Cymer hyn le ar Fehefin 8fed. < Gwelwn fod Miss Dorothea Price Hughes, yr hon a enillodd y fath glod am fywyd ei thad, y Parch Hugh Price Hughes, wedi gorphen ei nofel gyntaf. Gofidus genym nodi fod y typhoid fever wedi cymeryd ymaith y Parch J Braith- waite Miller yn yr otdran cynar 0 35 mlwydd Cymerodd hyny le yn Hebden Bridge. Deng mlynedd y bu yn y weinidogaeth. Mae'r Parch William Perkins, yr hwn sydd yn arolygwr y gorsafoedd Ewrop- iaidd yn y Gymdeithas Genhadol, i dalu ymweliad ag Itali ac Yspaen yn ddioed ar ol Cyfarfodydd Mai. Bernir y bydd ei ymweliad o fantais fawr. » Deallwn fod eglwys Wesleyaidd Gym- reig wedi ei ffurfio yn Bradford o dan nawdd eglwys Gymreig Leeds, a bod cais i gael ei wneyd at Gyfarfod Talaeth- ol Brymbo i apwyntio gweinidog i gym- eryd gofal ddwy eglwys. Mae'r pregethwr hynaf ar gylchdaith Burton-on-Trent wedi pasio ymaith yn marwolaeth Mr J Shotton (88), enw yr hwn fu ar y plan am 54 o flynyddau, ac am 19 o flynyddau yn flaenorol ar gylch- daith arall. t Bu farw yr wythnos ddiweddaf tad eglwys capel Poulton, yn agos i Bristol. Yr oedd Mr John Heat, dyna ei enw, yn 85 mlwydd oed. Bu yn aelod o'r eglwys yn y lie am ddeg a thriugain o flynydd- au, yn dal y swyddau o steward, blaenor ac ymddiriedolwr. Yn Nottingham y cynhelir y Gynhad- ledd y flwyddyn hon. Yn yr Albert Hall (yr hwn. a losgwyd) y trefnwyd i gynal yr holl gyfarfodydd cyhoeddus. Bwriedir yn awr ofyn am wasanaeth y Mechanic Hall i gynal y cyfryw. Yr oeddym yn falch o weled enw Miss Dora Davies, Llwyn Adda, Abbey Road, Bangor, yn mhlith y rhestr a gafodd honourable mention yn y gystadleuaeth a gerir yn mlaen gan Kitty Clive yn y "Friends in Council" yny Methodist Times. < Yr oedd y datganiad llwyddianus a gymerodd le yn nghapel Wesley, wyth- nos y Pasc, wedi cael ei godi er chwyddo y Drysorfa tuag at ddileu y ddyled sydd yn aros ar yr organ ysblenydd (yr hon a gostiodd yn agos i dair mil o bunau. Nid oedd yn aros o ddyled cyn y dat- ganiad ond 3cop. <t Yr wythnos hon cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus perthynol i gylch- wyl flynyddol y Gymdeithas Genhadol Dramor. Hysbysodd y Parch Marshall Hartley yr wythnos ddiweddaf fod diffyg hyd yn hyn ar y flwyddyn o 8,ooop, ac felly yn gwneyd cyfanswm dyled y gym- deithas yn i6,ooop. < <t Parha y Local Preachers' Magazine yn fisolyn buddiol a phwrpasol i'r urdd barchus y darperir ef ar eu cyfer. Mae gynwysiad yn sylweddol a darllenadwy. Dylai gael derbyniad gan bob pregethwr lleygol. Ar yr aehlysur o gynhaliad cylchwyl flynyddol gyntaf y Lutterworth Wycliffe Memorial Chapel, Sul a Llun y Pasc, dadorchuddiwyd tablet hardd er coffad- wriaeth am y diweddar Barch Thomas Champness. Catwyd cyfarfodydd bendi- gedig. < < Yn yr Home Messenger am y mis hwn ceir ysgrif werthfawr ac awgrym- iadol gan y Parch Frederic W Macdonald ar y cwestiwn arnserol, Why should we support Foreign Missions ?" Ofnwn ein bod fel Eglwys yn myned yn llai ein meddwlgarwch a'n sel gyda'r Gen- hadaeth Dramor. Arwydd amheus ydyw hyny. Wele hysbysleni/a chopi o blan, enwau a lletyau cynrychiolwyr Cyfarfod Tal- aethol Ail Dalaeth Gogledd Cymru, pa un a gynhelir yn Ngholwyn, Mai 6—10. Hysbyswyd cyfran o drefn y cyfarfodydd yn y rhifyn diweddaf. Mae y ddarpar- iaeth ar gyfer y Diwrnod Mawr," ddydd lau, yn un gyfoethog acatdyniadol. Nid ydym yn cofio gweled hysbyslen mor prominent erioed o'r blaen. Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn di- weddaf fod Albert Hall, Nottingham, wedi ei lwyr ddinystrio gan dan, wythnos i'r Sul diweddaf. Yn ddiymdroi cafwyd pwyllgor foreu Llun i ymdrin ar y sef- yllfa. Penderfynwyd ar gario yn mlaen y Genhad-aeth goreu y gellid hyd nes y byddai adeilad newydd wedi ei godi. Derbyniwyd datganiadau o gydymdeim- lad a'r arolygwr, y Parch J Ernest Rattenbury, a'i gydlafurwyr, a chynyg- iadau ar ystafelloedd i gario'r achos yn ei flaen. Y oedd yn llawen genym weled mai Mr T P Sykes, M.A., a etholwyd yn Llywydd y National Union of Teachers yn Nghynadledd flynyddol yr Undeb pwysig hwn, a gynhaliwyd yn Scar- borough yr wythnos o'r blaen. Mae Mr Sykes yn Wesleyad gweithgar a selog. Yn yr un Gynadledd, etholwyd yn Llywydd yr Undeb, Wesleyad teyrngarol arall o'r enw Mr A R Pickles, B.A. Hen efrydwyr Coleg Westminster ydyw'r ddau athrawon galluog hyn. Y Parch J A Sharp, Nottingham, ydyw gwrthddrych y ceir braslinelliad o hono yn y gyfres ddyddorol sydd yn ymidangos yn y Methodist Times, dan y penawd Men of the Moment." Mae enw Mr Sharp yn bur adnabyddus i ni drwy y mynych areithiau byrion, ond i bwrpas, a wna yn y Gynadledd flynyddol. Cymer ddyddordeb mawr yn ngweith- rediadau y Cyfundeb a'r Gynhadledd. Mae'n bregethwr rhagorol, yn arolygwr medrus. Diau fod safle o bwysigrwydd o'i flaen yn y Cyfundeb. Hyderwn fod pob gweinidog a swyddog eglwysig wedi darllen yr ysgrif amserol a thra phwysig o eiddo "Hen Drefn- ydd yn y rhifyn olaf o'r GWYLIEDYDD ar y cwestiwn difrifol, Y gollyngiad yn ein heglwysi." Credwn pe byddai i bob eglwys fabwysiadu awgrymiadau ymar- ferol a gwerthfawr yr awdwr y byddai cyn pen y flwyddyn Gyfundebol returns mwy boddhaol nag sydd wedi bod. Mae yn fater pwysig, a dylai gael ei ymdrin gyda difrifoldeb a phenderfyniad. < < Credwn y byddwn tua bod yn gywir pan yn hysbysu y bydd cyfrol brydferth a thra dyddorol y Parch 0 Madoc Roberts, Conwy, yn barod i'r farchnad erbyn y bydd y nodiad hwn o'r eiddom yn cael ei ddarllen gan garedigion y GWYLIEDYDD. Teitl y gyfrol ydyw Y Tri Brawd (gwel yr hysbysiad mewn colofn arall). Cawsom y pleser o ddar- llen rai o'r lleni pan yn d'od allan o'r Wasg, a mawr y mwynhad a gawsom wrth wneyd hyny. Mae'r llyfr wedi ei ysgrifenu yn arddull dengar a hyawdl y pregethwr poblogaidd. Bydd digonedd o gopiau i'w cael yn Nghyfarfod Talaeth- ol Colwyn. Mor fuan yr el mis heibio Nid oes ond megys ddoe yr oeddym yn cael y pleser o ysgrifenu gair da am Eurgrawn Ebrill, ac wele'r eiddo Mai i law yn brydlon, fel arfer. Mae misolyn yn d'od i law yn ddiweddar, i ni, yn ei wneyd yn llai dyddorol. Nid oes genym ond llongyfarch y Golygydd galluog a diflino, a'r staff o ohebwyr a'u cynyrchion. Deil y rhifyn presenol gyrneriad uchel ei ragflaenoriaid. Ar gyfer mis Mehefin mae gan Dr Jones mewn llaw ysgrifau galluog, y naill gan y Parch O Madoc Roberts )11 ar" Ddadblygiad y Synwyr Moesol, a'r llall ar Ewyllys Rydd," gan y Parch R W Hughes, gweinidog gallu- og gyda'r corrf parchus, y Methodistiaid Calfinaidd. Cydolygwn yn hollol gyda Golygydd yr Eur gr awn ar gamgymer- iad Golygydd y Geninen yn rhoddi lie i'r ysgrif, 41 Y Diwygiad a'r Weinidog- aeth" i ddifwyno cynwys rhagorol ei rifyn am Ebrill iaf. « Mae'r Parch George R Wedgewood wedi cynyrchu Llawlyfr Coffadwriaethol er dathlu Canmlwyddiant Eglwys Wes- leyaidd Donegal Square, Belfast. Y mae'n llawn o bictiwrs o weinidogion as swyddogion, ac olrheiniad o'u hane o amser ymweliad Wesley yn mis Gor- phenaf 1756, pryd nad oedd poblogaeth Belfast ond 8,549, hyd i lawr at y dydd hwn. Mae'r benod sydd yn cynwys hanes y Gynhadledd yn Donegal Square yn cynwys cyfeiriad at weddi Dr Jabez Bunting yn 1827, ardderbyn cyhoeddus y gweinidogion ieuainc, un o ba rai a ddywedodd, "I never heard of its like before, an overwhelming torrent of elo- quence, pure, simple, sublime, devotional, Evangelical, laying hold on Christ, and bringing the blessing down." Mae'r Haw lyfr yn un prydferth a hapus fel coffadwriaeth o ddigwyddiad mawr. Mae Mr Wedgwood i'w longyfarch ar ei waith. Mae'r mater, y darluniau, a'r argraffwaith yn ysblenydd. Tybed nad y Cymro Wesleyaidd hynaf yn y Dywysogaeth ydyw'r hybarch Mr Richmond Hughes, Trantiiere, Birk- enhead ? Y mae efe yn 95am oed. Brodor o ardal Treffynnon ydyw Mr Hughes. Cofiwn ef pan yn fachgenyn yn nghapel Pendref, ac yn ddiweddarach yn nghapel y llofft." Llawenychasont pan ddeallasom ei fod eto yn fyw ac yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid yn Claughton Road. Er mor hynod mae'n ddigon sionc i gerdded ol a blaen i'r moddion deirgwaith bob Sabboth, ac yntau yn byw dri chwarter milltir da oddiwrth yr addoldy. Clywsom mai unwaith ar hyd y flwyddyn ddiweddaf y collodd yr Ysgol Sabboihol, a hyny oblegid y gwynt cryf a chwythai y diwr- nod hwnw. Mae ei fyn'd a d'od rheol- aidd i'r moddion ar y Sabboth yn gwas- anaethu cystal a chloc i eraill iau a mwy musgrell a digychwyn i wybod fod vn bryd iddynt hwythau ei ddilyn. Da genym ddeall fod ei gof yn cadw yn dda. Hawdd genym gredu fod ganddo ddigon i'w ddyweyd am gewri y pwlpud Cym reig, ac yn arbenig felly y rhai Wesley- aidd, y rhai a glywodd ar hyd y blyn- yddoedd y bu yn byw yn Nhreffynnon. Mi fyddai yn ddyddorol ei glywed yn myned dros hanes Pendref. Da genym gael ein hysbysu mai golwg dal ati hyd at y cant a mwy sydd arno heddyw, ac fod Saeson a Chymry'r dref yn fawr eu parch iddo ac o eiddigedd at wydnwch ei gyhyrau a chlirder a siriolder ei feddwl. Eiddunwn i'n hybarch frawd hir bryd- nawn-ddydd q fwynhad bendithion tymorol ac ysbrydol.
5oS Y Gollyngiad yn ei Heglwysi.
5oS Y Gollyngiad yn ei Heglwysi. At Olygwyr Y GWYLIEDYDD. Foneddigion, — Darllenais ysgrif ddyddorol Hen Drefnydd" gyda boddhad neillduol. Amlwg yw "o'r diwedd" fod y mater yn cael sylw. Y gresyn mawr yw na buasai rhywun neu rywrai wedi deffro i'w bwysigrwydd flynyddoedd lawer yn ol, ac felly arbed colli, credwyf, ganoedd lawer o aelodau i'n heglwysi. Er cael syniad iawn am y golled, cymerer y blynyddoedd 1903-4-5. Gwelir oddiwrth gyfrifon y Gynhadledd, fel yr ymddangosant yn "Minutes" y Gynhaledd fod y symud i gylchdeithiau eraill yn 4,110 mewn rhif, tra nad yw y derbyniadau ond 2,61O-coJJed mewn tair blynedd o 1,510 o aelodau, neu ar gyfartaledd dros 500 y flwyddyn. Gwelir hefyd ein bod fel enwad yn colli, bob chwe blynedd, yn y symudiadau yn unig, nifer agos gyfartal i rifein haelod- au am y flwyddyn 1905. Tybed mewn difrif nad ydyw yn Ilawn bryd i'r Cyfarfod Talaethol roi o'r neilldu rhai o'r pethau cydmarol ddibwys gymer gymaint o'i amser er gwneyd ymdrech deilwng o'i anrhydedd er ymgodyma a'r dyrysbwnc hwn ? A chyda lfaw. nid hwn yw yr unig agwedd ar sefyl!fa yr achos a ddylai gael sylw. Beth am y rhestrau ? Yn Nghyfarfod Talaethol Llanfyllin darllenwyd adrodddiad y Weinidogaeth ar y Rhestrau yn y Dalaeth Gyntaf, ond oblegid ei bod wedi myned yn hynod hwyr y nos, ni chymerwyd y sylw lleiaf o hono, er fod ynddo destyn siarad a fuasai yn agor llygaid y mwyafrif o'r Frawdoliaeth, ac yn ddiddadl yn galw am welliant, yn enwedig mewn rhai cylchdeithiau. Hyderaf os bydd adroddiad o gwbl eleni y rhoddir amser iddo pan y bydd y brodyr yn, nghyd, ac nid wedi deg o'r gloch y nos, fel y Llynedd. Aeth y Parch W J Jones i drafferth fawr, ond mor bell ag yr oedd y cyfarfod yn y cwestiwn, yr oil yn ofer. Sylwais gyda phleser ar awgrymiadau "Hen Drefnydd." Maent yn rhagoroJ, hyd y maent yn myn'd, ac hyderwyf y cedwir hwynt mewn cof, ac hefyd y gwesgir hwynt ar yr Eglwysi. Y man gwan ynddynt ydyw eu bod yn rhy gyffredinol "gwaith pawb yn waith neb." Tybed nad ellir appwyntio brawd yn Nghyfarfodydd Chwarterol Rhagfyr, gwaith yr hwn fydd gofalu am bob symudiad i'r gylchdaith, yn ogystal ac o'r gylchdaith. Rhaid, wrth gwrs. cael perffaith ddealltwriaeth a chydgord- iad cydrhwng y brawd appwyntiedig a'r blaenoriaid, eu bod hwy i anfon ato pan fydd aelod yn symud, gyda'r hall fanylion a ellir eu rhoddi, fel y gall yntau anfon i'r gylchdaith y symudir iddi y manylion sydd yn ei feddiant. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn cyffwrdd o gwbl gyda gwaith y weinidogaeth yn nghyfrifiad yr aelodau- Hyderaf y ca y mater y sylw dyledus yn Nghyfarfod Talaethol Brymbo, ac y ceir allan gynllun a fydd yn effeithiol i leihau y golled ofnadwy yn y symudiad- au. HEN WYLIEDYDD. -tot- tMiaie Mr J Herbert Lewis, A-IS., wedi lliwiyir ,w)e'la oddiwrth ymosodi.ai lllym o'r anjwrydwlst.