Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

RHYFELGYRCH ADDYSG.

News
Cite
Share

RHYFELGYRCH ADDYSG. V Yx ein rhifyn diweddaf cyfeiriasom 0 HSUr ^^yisg Y Llywodraeth, gan sod gerbron rai o'i ddarpariadau PWysicaf^ oncj heddyw gelwir sylw y ^aruenydd at yr alwad a glywir o ersyll ei elynion ar y byddinoedd i _*egysu eu harfogaeth, a dyfod allan eu holl nerthoedd i'w ddarostwng J °rchfygU rhag iddo ddyfod yn awdurdodedig y wlad. ^^una y Pabyddion, yr Eglwys- ^Yr> a'r Sosialiaid i ymosod ar y esur—y rhai cyntaf, am nad yw y ^sur yn caniatau digoa o ragor- reintiau iddynt, a'r lleill am ei fod yn ^latau gormod. Myn y Pabyddion f Eglwyswyr nad ydyw y Mesur yn ..IS00 crefyddol, tra y myn y Sos- laid ei fod yn ormod felly. Pan fydd an newydd cylchdaith yn gyfryw ag Y bydd pob eglwys yn gweled itfyg ynddo, bydd hyny, fel rheol, brawf ei fod yn un cyfiawn a theg oil. Felly, credwn, mae Mesur ddySg y Llywodraeth. Nid ydyw 3^* boddhau neb. Nid yw yn bodd- au yr EgiWyswyr, y Pabyddion, yr uddewon, na'r Eglwysi Rhyddion (er °.y fllal °laf yn gweled fod ynddo s^iliau Deddf gyfiawn a theg). Prawf Y, gwrthwynebiadau cyffredinol hyn *r Mesur ei fod, ar y cyfan, yn ymgais 1 wneyd cyfiawnder a'r oil. Fel arfer, gwelwn fod yr Eglwyswyr a'r Pabyddion yn rhwyfo yn yr un cWeh, a bod yr Archesgob a'r tad Bernard Vaughan yn cyd-rwyfo. Ac Yn y ffaith hon canfyddwn fod y rhai sydd yn cael eu cynal ag arian y wlad I ddysgu egwyddorion Protestanaidd pn gweithio i ddwylaw y Pabyddion. aflam yr amheuwn mwy fod Eglwys jTCegr ar y ffordd i Rufain ? Geilw f;r- Knox, Esgob Manceinion, ar yr Eglwyswyr a'r Pabyddion i ymuno TLu gilydd i wrthwynebu y Mesur. ae yn ddrwg iawn genym dros Eglvvys Loegr, ei bod mor ffol a gofyn am gynorthwy a nawddogaeth Eglwys y t, Rufain yn yr achos hwn. Buasai cyfathrachiad a Phiwritaniaeth Ym- tleillduol yn llawer diogelach iddi yn y pen draw. Ond, attolwg, pwy sydd gyfrifol am K sefyllfa mae yr eglwyswyr ynddi ar jtynobryd? Nid yr Ymneillduwyr, el y mynent hvvy i ni gredu, ac nid y ^'ywodraeth bresenol, yr hon a feuir Symaint ganddynt. Nid yw eu cyflwr presenol ond ffrwyth eu gweithredoedd got me sol eu hunain. Cefnogodd yr ^glwyswyrl Ddeddf Addysg 1902, yr hon ?edd yn un o'r deddfau mwyaf annghyf- laWn a chydwybod-dreisiol a basiwyd enoed. Pa drais mwy oedd yn bosibl ei arfer na gorfodi Ymneillduwyr i dalu am ddysgu Pabyddiaeth ac Uchel-Eglwys- yddiaeth yn yr ysgolion dyddiol en- ^adol ? Deddf Addysg Ormesol 1902 gynhyrfodd y wlad yn erbyn y Llywodr- aeth ddiweddaf, ac ar y cwestiwn hwn yr y^laddwyd brwydr fawr yr Etholiad ^yffredinol ddechreu y flvvyddyn hon. ^°ndemniodd y wlad Ddeddf Addysg, 1902, ac awdurdododd y Senedd bres- en°l i'w diwygio. Ac yr oedd yn ddeall ?llr yn yr etholiad fod arian y cyhoedd 1 gael eu lly wodraethu gan y cyhoedd, ac ?ad oedd o hyn allan arbrawf crefyddol 1 fod yn mhenodiad athrawon. Ceir y Qd\vy egwyddor yn Mesur Addysg y. llywodraeth, ac ni ellir eu hysgoi na'u cyfnewid. Rhaid eu cario allan. Cwyna yr Eglwyswyr oherwydd hyny. Dywed GOlygydd "Yr Haul Am yr ail, |tydd rhyddid i bob math o ddysgawdwyr e°wi y swyddi cyfrifol o gyfarwyddo y Plant a'r bobl ieuainc! Gwneir arbrawf ar eu cyrhaeddiadau meddyliol, heb yr un sy'w o gwbl i'w cymeriad crefyddol. Nis b SaU Eglwyswyr fod yn sicr mwyach pa at" Gristionogion fydd yn llenwi y *«eoedd pwysig o athrawon yn eu ysgoldai. A gwneir hyn, ie, a gwaeth P! hyn' yn eriw rhyddid! Gwedi jp^ohau y rhagfuriau yn yr ysgolion, ^riada y Radicaliaid amddifadu y cenecH 0 weithredu yn gre- 1 vi a clielsiant fyned &g eiddo a ^dvvyd ac a fwriadwyd at amcanion ae'yddol, a'i droi at ddybenion hollol fydol. Eu hamcan ydyw clwyfo yr Eglwys i ddechreu, ac yna ei gadael i waedu i farwolaeth, cyn belled ag y bydd a wnelont hwy a'i bodolaeth." Ni bu erioed y fath gamsyniadau a'r rhai hyn. Nid oes y fath amcanion yn bed yn meddwl neb o'r Radicaliaid Ymneillduol. Sicrhau Cyfundrefn Genedlaethol o Addysg yw eu hamcan hwy, ar nis gall yr hyn sydd gyfiawnder i bawb fod yn anghyfiawnder i neb. Onid yw yn un o ddarpariadau y Mesur fod Addysg Grefyddol anenwadol i gael ei chyfranu yn yr ysgolion ? A pha addysg sydd yn grefyddol, os nad Addysg Feiblaidd ? Nid yw dysgu neillduolion athrawiaethol Eglwys Rhufain ac Eglwys Loegr, yn Addysg Grefyddol. Os am Addysg Grefyddol, paham y gwarafunir i'r plant gacleistedd wrth draed" y rhai a lefar- asant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glan," ie, wrth draed yr Athraw Mawr o Nazareth a'i Sanctaidd Apos- tolion ? Dywed Mr W C Bridgeman, A.S. :—" Y ddarpariaeth waethaf yn y Mesur yw yr hon sydd yn gwahardd yn y rhanbarthau Gwledig i'w llu enwog o Athrawon Eglwysig i roddi Addysg Eglwysig yn yxgolion yrEghvys. Bydd gwaith yr holl weinidogion ymroddedig hyn o eiddo yr Eglwys-oblegid ymaent yn weinidogion yr Eglwys, bron yn gyfartal a'r clerigwyr — gael ei fwrw ymaith, mor bell ag y mae Addysg Grefyddol benodol yn y cwestiwn." Gobeithio fod yr hyn a ddywed yr aelod anrhydeddus yn gywir. Gwir na bydd neb o'r athrawon yn rhwym o gyfranu addysg grefyddol benodol. Ond, ai onid allant, wneyd hyny yn wirfoddol ? Gwyddom am ystrywiau yr Eglwyswyr ar hyd y blynyddoedd i ysgoi deddfau. Ac onid oes berygl iddynt ddylanwadu ar yr athrawon i wneyd yn wirfoddol yr hyn nas geilir eu gorfodi i'w wneyd ? Dylai y pwynt hwn gael ei glirio pan ddaw yr adran-hono o'r Mesur i'w ddadlu yn y Senedd. Credwn y dylid trefnu nad yw yr athrawon o gwbl-yn orfodol na gwirfoddol-i gyfranu addysg grefyddol enwadol yn yr ysgolion dydd- iol. Credwn y byddai hyny yn fantais fawr i'r athrawon eu hunain. Gwelwn fod Esgcb Hereford gyd a'i bwyll a'i ddoethineb arferol, yn cynghori yr Eglwyswyr i adael i'r Mesur fyned trvvy yr ail ddarlleniad, ac yna i geisio cael hyny o welliantau a allent ac awgryma, os gvvrthwynebant y Mesur yn ddi-ildio a phenderfynol, fod yn debyg yr arweinia hyny yn y pen draw i addysg fydol hollol. Yn ol fel yr ymddengys y Mesur i ni, caiff yr Eg- lwyswyr a'r Pabyddion, nid yn unig gyfiawnder yn ol ei ddarpariaethau, ond llawer iawn o ras. Ac os na chymerant yr hyn a gynygir iddynt, bydd yn rhaid iddynt, yn ddiameu, foddloni ar lawer Dai.

Ficer Rhuddlaa.

SVNWVR CYFFREDIN.

Y Saeson yn Myned Rhagddynt.

C, "Ac ar 01 y ddaeargryn,…

A aethant yn eu hol."

Tan yn Nottingham.

Yn 01 at waith.

[No title]