Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

RWRDD Y GOLYGYDD.

HHAGOLYGQN GOBEITHIOL MASKACli;

News
Cite
Share

HHAGOLYGQN GOBEITHIOL MASKACli; DA genym ddeall fod glowyr a haiarn- weithwyr Pentyrch a Thongwynlais wedi dyfod i gyd-ddealltwriaeth a'u meistri, a'u bod wedi eu cynysgaeddu a'r doeth- ineb a'r rhagweliad hapus hwnw, a'u harweiniodd i benderfynuail-ymaflyd yn eu gorchwylion; yr hyn, pe nis cydun- asant i'w wneuthur, a fuasai yn drych- ineb cymdeithasol mawr, drwy fod yn foddion i ddinystrio masnach y lie am Mr amser, ac fe ddichon am byth, a dwyn arnynt eu hunain. a'u teuluoedd dlodi, annghysur,. ac annedwyddweh an- symudadwy. Gwyddom fod eu henillion yn ddigon prin ac annigonol er's llawer o amser bellach, oild gwyddom lawn cystal y buasai eu henillion yn rhwym o fod yn brinach wrth sefyll allan a pheidio gweithio; ond os gwna y gweithiwr ym- ostwng, a dwyn ei dynged, er mor an- nymunol ydyw dros ycliydig amser, bydd Rhagluniaeth yn sicr o gofio am dano yn ei hamser da ei huu—gall y gweithiwr ymddyried yn ffyddiog fod gan Rheolwr Mawr amgylchiadau dynion ddigon o gyfoeth o'r tu cefn, a digon o gynllun- iau i ddwyn llwyddiant a llawnder yn oruchaf yn mywyd masnachol a chym- deithasol ein gwlad eto. Y mae gan Dduw ei ddeddfau yn nglyn a phob peth -y mae ganddo ei ddeddfau i amgylch- iadau, pa rai a amlygant eu hunain mewn achosion ac effeithiau a byddai yn ddoeth ynom ni i wneuthur ein goreu i beidio dwyn ein hunain i wrthdarawiad a'r achosion hyny ag y mae eu heffeith- iau yn llwyddiant a chysur neu o'r ochr arall, i beidio cynyrchu yr achosion hyny y mae eu heffeithau yn aflwyddiant, tlodi, ac annedwyddwch. Rhai o achos- ion cynhyrfus aflwyddiant masnachol, pan, gymeront Ie, yw gorthrymder y meistri; anfoddogrwydd y gweithiwr; L streiciau; cloadau; enciliad masnach o un cwr o'r wlad i gwr arall; traws-ym- fudiaeth masnach o un wlad i wlad arall; prinder, a gor-digonedd, &c.; ac yn nghynyrchiad, cyfeiriad a chyflead yr amgylchiadau cyfnewidiol hyn dyn ei hunan yw y gweithredydd. Paham ynte y grwgnach dyn byw am gosbed- igaeth ei bechod!" Ba byd eaiff annarbodaeth, -a gwallau b Ein bywydau, drwy anwyhodaetl1- Es eulusdod-difrodaeth-diogi, 9 11 Eu galw a'u henwi yn waith Ragluniaeth ? Wele, adyn mewn tlodi,—oherwydd Rhyw hir gyfeiliorni E ga rheswm ei groesi Wrth r'oi hyny i'w herbyn hi. Ba wedd daw llwydd i'r meddw,-neu y daw I'r dyn diog elw ? Daw rhyw un arall heb drin ei erw,- Beia law I6n fod ei yd heb lanw Oferedd i neb fwrw—'r anhoraeth, A'r Ragluniaeth, a wnai drwg hwyl hwnw. Yn ei llaw gwobrwyon llwydd-a erys Mae'n caru diwydrwydd Ni fedr i blant ynfydrwydd-a chware, Ond rhoi eyfle i flinder ac aflwydd. Credwn hefyd fod math o wrthweith- iad neu wrthysgogiad yn cymeryd lie yn holl oruchwyliaethau natur a Rhaglun- iaeth, ac fod hyny yn angenrheidioj er dygiad oddiamgylch economy bresenol y byd. "There is a tide in the affairs of men," ebe bardd crafflygeidiog Afon; a chredwn ninau, gydag ef fod rhyw drai ac etrai cyson a chyfnodol yn ysgogiadau neu oruchwyliaethau Ragluniaeth. Mae rhyw ber a chwerw—a'r gyfeiliaeth, Yn nghynghedaeth y byd yn nghadw,— Rhyw droell hynod-rhyw drai a llanw Yn helynt y byd, wnawn alw—'n Ragluniaeth; Helaeth amrywiaeth, fel y m6r hoew Drwy hyn y cedwir hwnw,rhag trwy lygredd Neu dra amhuredd-drewi a marw. Ond gofala Ragluniaeth na fydd i'w ys- gogiadau hi gymeryd gwedd eithafol; ni cha ei thrai hi fyned yn rhy bell allan fel ag i ymyryd yn ormodol a'u llwydd- iant, na'r etrai ddyfod yn rhy gryf a phell i mewn fel ag i dori dros y glanau a dinystrio ein cysuron; ond gallwn ni, drwy ein cam-ymddygiadau, fod yn fodd- ion i eangu neu gyfyngu yr argaeon sydd yn eymedroli y naill a'r Hall ohonynt; i anufudd-dod i ddeddfau llywodraeth foesol Duw sydd yn goreangu argaeon ein hannedwyddwch, a'n cydymffurfiad a'r unrhyw ddeddfau, o'r tu arall, sydd yn eu cadw yn eu lie. Y mae dyn yn weithredydd mawr a phwysig iawn yn Ilywodraeth Daw-y mae efe wedi ei gynysgaeddu a galluoedd, fel os dwg hwynt i ymarferiad doeth, y gall modifyo i gryn raddau, er ei lwyddiant neu ei aflwyddiant—ei gysur neu ei annghysur, oruchwyliaethau natur a Ragluniaeth. Onid yw yn bosibl i ddyn, drwy dalu sylw manwl i ddeddfau natur, gynal a chryf- hau iechyd—lliniaru bs nid atal yn llwyr, haint, newyn, rhyfeloedd a thrych- inebau Ragluniaethol ereill ? Onid eill efe, drwy ei wybodaeth ymarferol, leihau neu gynyddu cynyrch ei feusydd ? Onid eill efe ddarostwng awyr, daear, dwr a than, a'u gwneuthur yn ufudd weision iddo ? Yn awr, anwyl weithwyr, bydded i chwi a ninau ymgydnabyddu mwy ag athroniaeth cyfnewidioldeb amgylchiadau a masnach, a deuwn i weled fod yr achos o lawer o'u troadau aflwyddianus yn gor- wedd wrth ein drysau ni, ac fod yn bosibl i ni, drwy wybodaeth a chydymffurfiad a deddfau materol a moesol bodolaeth, allu gwella a dyrchafu ein sefyllfaoedcl an- ianyddol a moesol, yn bersonol a chym- deithasol. Ond i ni gael dweyd gair ar ragolygon ein masnach haiarn —dywed- wn fod ein gobeithion yn cyfodi o dair Bynonell.—oddiar ein hewyllys, oddiar ein barn, ac oddiar broflad; y mae y gyntaf yn dda, mae yr ail yn well a'r drydedd yn oraf; wel, oddiar y drydedd y llefarwn ni yn awr, a hyny yn ngeiriau un arall sydd yn fwy profiadol na ni ein hunan:—" Darfu i foneddwr ag oedd unwaith yn dal y cysyllciad agosaf a gweithfeydd haiarn Cymru, dalu ail-ym- weliad yn ddiweddar a'r Dywysogaeth; a gwneuthur ymchwiliad manwl i mewn i sofyllfaoedd pethau yn Plymouth a Chyfarthfa. Mae y sylwad iu a gyfran- odd efe i gyfaill, ac a gyflwynwyd i ninau, ar y fath amser a'r presenol, yn rhwym o fod o ddyddordeb neillduol. Y mae pobl, medd efe, wedi annghofio hen gymeriad y fasnach haiarn, ac yn meddwl am ei bod hi yn awr yn dawel hun ar fasnach, ei bod wedi'llwyr farw. Yr oeddem ni yn arfer dysgwyl tair blynedd o fasnach wir ddrwg, yn ystod pa rai y byddai colled amlwg yn cymeryd lie yn y llaw-weithyddiaeth. Yna, dros chwe' mlynedd arall, byddai y fasnach yn mae pobl, medd efe, wedi annghofio hen gymeriad y fasnach haiarn, ac yn meddwl am ei bod hi yn awr yn dawel hun ar fasnach, ei bod wedi'llwyr farw. Yr oeddem ni yn arfer dysgwyl tair blynedd o fasnach wir ddrwg, yn ystod pa rai y byddai colled amlwg yn cymeryd lie yn y llaw-weithyddiaeth. Yna, dros chwe' mlynedd arall, byddai y fasnach yn myned yn mlaen yn rhedegog, a'r elw •wythnosol yn cael ei gyfrif wrth y mil- oedd Ein harfer ni ar y cyfryw amser fyddai parhau yn mlaen i weithio, ac nid i ymflino llawer yn nghyleh gwelliantau. Byddai Syr I GUEST, er enghraifft, yn adeiladu melin newydd, a Mr. CRAWSHAY yn myned rhagddo gydag ystociau barau pwdledig. Buasai Mr. OHAWSHAY yn cadw yn mlaen i ystocio barau pwdledig am ei holl fywyd, a phe buasai iddo farw yn werth miliwn llai o bunoedd ni fuasai yn achosi iddo gymaint a mynud o ofid, oblegyd byddai i'r hen bobl gael eu cadw ar waith—y Biliaid, y Diciaid, a r Jim- iaid, a pha rai y byddai efe yn arfer ym- gomio. Darfu i'r ymdrechion a wnaed gan bobl y Great Western i droi allan rheiliau o eiddo eu hunain, yn Swindon, effeithio peth ar y gweithiau Cymreig, ond trodd hwnw allan yn ymbrawf af lwyddianus. Yr oedd y defnydd yn rhy dda— yr haiarn yn rhy feddal Mewn perthynas i reiliau, byddai i reiliau dur, yn ddiamheu, ddwyn lie y rhai haiarn. Yr ofn, fodd bynag, oedd y byddai i'r dur, mewncystadleuaeth am bris, i ym- waethygu. Yr oedd y gystadleuaeth mor dyn, fel yr oedd pob swllt yn gwneyd gwahaniaeth. Y mae chwech swllt y dunell wedi ei saflo drwy un o'r arbrawf- iadau diweddaf. Ond os yw rheiliau haiarn wedi myned allan o ddyddiad, nid yw haiarn ddim, a daw haiarn Cymreig i alwad mawr am dano eto Am hynyna, nid oes ynwvf yr amheuaeth lleiaf. Yr wyf yn credu mewn dyfodol i Gyfarthfa, ac y bydd yn fath o Southmoor arall, lie bydd yr haiarn a droir allan yn cael y cantuliad dymunol o sindrys ag a wna wres-dymheru yn hawdd. Yn mherth- ynas i Plymouth, pan yr adferir ymddir- iedaeth, ac i arian gael eu rhoi allan er cychwyniad a gwelliant trafodion hen a newydd, bydd i gwmni allu cychwyn gyda budd ac elw iddynt eu hunain. Cyn troedigaeth Plymouth yn fusnes o reil wneuthuriad gyfangwbl, yr oedd ganddi fasnach fawr mewn barau, ac nid oes un rheswm nad ellir adenill hono, neu o'r hyn lleiaf, gyfran ohoni, drwy droi allan yrunrhw ddosbarth o nwyddau. Mewn perthynas i lo. Bydd i'r haenau, pa rai, hyd yn hyn, sydd i raddau helaeth heb eu cyffwrdd, gael eu bod yn hynod o addas i wneuthur haiarn, drwy ddefnydd- io ffwrnais Siemen at hyny. Yn sicr, ebe wrth ddiweddu, nid oes un rheswm dros amheu dyfodol y fasnach haiarn Gymreig. Nid ydym ond yn ngheudod y don yn awr, deuwn i'w gwyneb yn y man Aroswn ychydig enyd, a bydd gwaith bywiog, eto. Bydd yn ddichonadwy i ni ddyfod yn ol hyd y nod at yr hen reilen haiarn eto. Pwy awyr? Yn y flwyddyn 1846, darfu i lawer o reiliau haiarn o'r hen stamp o Plymouth, gael eu gosod i lawr, a dywedodd Syr WILLIAM ARM- STRONG yn ddiweddar iawn, fod canoedd o filoedd o'r rheiliau Cymreig enwog hyn ar y Great Western Railway o hyd, ac yn awr gystal ag erioed. Gadawer i ddur ddadrywio. a bydd dichon 'i haiarn i ddyfod i'r blaen unwaith yn rhagor. Y mae glo wedi llenwi lie y fasnach haiarn i raddau helaeth. Mae yn gofus genyf yr amser pan nas gellid, ond drwy ddar- bwylliad cryf, gael gan Mr. HILL i werthu glo ac o barth Mr. CRAWSHAY, dywedid ar hyd a lied, unwaith, pan ofynwyd iddo am werthu glo, mai ei ateb oedd y byddai iddo eu gweled yn "rhywle" yn nghyn- taf-ni ddywedaf yn mha le. Y mae, yn awr, bob peth wedi rhoddi ffordd i'r glo.. Ond, mewn difrif, bydd i lo eto gael ei ddydd. Poed mai felly y bo, meddem ninau. l,

RHYFEL ZULU. '

[No title]

PRIODASA U.

Darllenwch, Ystyriwch, a Ohredwch…