Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

r'y%w 'Y BARDD.

News
Cite
Share

r'y%w Y BARDD. LLITH IV. Of wondrous words we own you the professors FEL yr awgrymasom o'r blaen, nid yw yn ein bwriad i feirniadu cynyrchion ein btSirdd ond gan fod barddoniaeth cenedl yn adlew- yrchu nodweddau meddwl ei bardd, gwnawn yohydig sylwadau yn ein llith hwn ar hyny. Y mae tri chyfnod yn perthyn i fardd- oniaeth y Cymry, y rhai ellir gyfenwi yn gyfnodau y brawddegol, yr odlyddol, a'r cynghaneddol. Yr oedd y cyntaf yn fwy naturiol a gwreiddiol na'r lleill; yr oedd y bardd, fel cymeriad, yn wirioneddol, o wy- bobaeth eang, ac yn feddianol ar ddoethiu'eb ymarferol, ac yn arfer gwisgo ei feddyliau ag ymadroddion syml a diffurfioldeb. Y mae hen draddodiadau y cyfryw yn 11awn gwreidd iolieb ac yn darawiadol, am eu bod bob amser mewn iaith diaddurn. Y mae y dull mympwyol o gyfranu gwybodaeth a gefnogid ganddo, sef ar gof, wedi bod yn golled an- nhraethol i'n llenyddiaeth, ac oni bai hyny y mae yn debyg y buasai genym Homer a Hesiod wedi cofnodi a bytholi yn eu cyfan- soddiadau syml arferion cyntefig ein cenedl. Yn lie hyny, gan fody dybiaeth y dianrhyd eddid gwybodaeth wrth ei thrysori mewn ysgrifeniadau wedi meddianu meddwl ein cyn-fardd, nid oes genym ond ychydig dd.)ethebau a thraddodiadau wedi eu gwaredu rhag yr ebargofiant sydd wedi ysglyfaethu holl hanesiaeth y Cymry. Nid yn unig yr oedd y cyfnod hwn yn ogoneddus am ddrych- feddyliau barddonol; ond yr oedd ynddynt hadau ac elfenau ag allasai fod yn gychwyn- iad i gyfundrefnau athronyddol a gwyddorol. Fel y mae yn hysbys i'r darllenydd hanes- yddol, y bardd gnomaidd roddodd dde- chreuad a symbyliad i'r athronwyr Groegaidd. Efe hauodd egwyddorion athroniaeth a gwladlywiaeth ei olafiaid dysglaer, ac y mae yn dra thebyg na fuasai Plato nac Aristotle, oni buasai Solon a Phocylides, yn nghyd a'u cyd-feirdd brawddegol (sententious). Yr oedd doethebau y rhai hyn yn cynwys gwirion- eddau ac egwyddorion cymdeithasol, gwleid- yddol, ac athronyddol; ac ni cheir odid ddim yn Plato ac Aristotle, a phrif athron- wyr Groeg, nad oedd wedi ymddangos, mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn eu gweithiau ym- arferol. Yn anffodus, y mae holl gynyrchion ein cyn-feirdd wedi myned ar ddifancoll, a chynifer ag sydd ar gael, nid ydynt ond llygriadau o'r gwreiddiol. Mewn gwirionedd, y mae holl lenyddiaeth y Cymry wedi ym- ddyrysu a chyfeiliorni yn lie cynydd gwy- bodaeth amrywiol, a dadblygiad athroniaeth a gwyddoniaeth allan o egwyddorion syl- faenol y cyn-fardd, y mae ein llenyddiaeth mor farddol yn ei thueddiadau, fel nad oes obaith am ffrwythau sylweddol allan o gy- maint llafur meddyliol. Y mae'r meddwl barddol Cymreig yn enwog am ei wewyr parhaus; ond gan fod ei ymdrechion yn canoli ar ffurfiau allanol barddoniaeth, heb feddu ar athroniaeth na myfyrdod sylwgar, na dyheuad o fath yn y byd am egwyddorion a dyfnion ddirgeledigaethau natur a bodolaeth, y mae yn ymfoddloni ar ymlewygu ar fym- pwy a gwag-ddychymyg. Naturiol y coffheir i ni y linell hono, fel darluniad cyflawn o'r dull y gweithreda y meddwl Cymreig :— Pangs without birth, and fruitless industry." Dyna'r cyfnod odlyddol eto, yn yr hwn y dechreuwyd defnyddio ac edmygu odl. Y mae'r dirywiad yn amlwg, gan fod mwy o eiriau segur i'w cael yn y cynyrchion hyny sydd yn odlyddol. Aeth y parch ati i eith- afion wedi iddo ddechreu. Un o'r canlyn- iadau mwyaf andwyol oedd oyfansoddi degau o linellau yn diweddu a'r un odl. Y mae yn gofyn deheurwydd arbenig i gadw yr odlau yn ddwyoedd, heb son am ddal i fyny yr un yn ddiball am amryw ddegau o enghreiffliau. Mewn gwirionedd, nid yw hyn ond cellwair Ag iaith, a gofyn ganddi gyflawni gorchest nas dichon. Nid barddoniaeth yw peth felly, ond saerniaeth geiriau. Cyfansoddid yn fynych dri-ugain neu ychwaneg o linellau yn odli yn ar, neu yf, neu ath, neu eith, ac yr ydym ni yn llawen longyfarch ein bardd am iddo lefaru can lleied o ffolineb. Cy- merer er enghraifft y gair Haw i odli arno am ugain o weithiau :—L!cnc, ffwlaw, baw, taw, rhaw, (&c. Pe caem ni ei linell olaf yn rhywbeth llai nag ynfydrwydd digymysg, byddai yn hawdd genym synu. Beth ddy- wedai awdwr y canlynol pe byddai raid iddo ddefnyddio yr un odl ddengwaith :— He was killed by a cannon splinter Quite in the middle of the winter; Perhaps it was not at that time, But I can't get no other rhyme." Ond beth feddylia ein darllenydd am Ab yr Ynad, yn "Marwnad Llewelyn" a chant a phedair o linellau yn terfynu yn aw Oes y cywreinweithiau oedd hi. Nid meddwl oedd mewn golwg, ond trin geiriau yn ol rheolau mympwy ac ynfydrwydd, heb fwr- iadu sylwi ar y coll-synwyr. Dywed Mr. Thomas Stephens am hynyna yn eithaf cywir, "mai effeithiau y cyfryw arferiadau oedd iselhau barddoniaeth, a llanw llinellau S, geiriau diystyr." Ond nid oedd hynyna ond arweiniad i lygriad pellach barddoniaeth, sef y gynghan- edd. Pan berffeithiwyd hon, cyrhaeddwyd uchafnod ffurfioldeb, cwblhawyd saerniaeth geiriau, a drygwyd holl naturiaeth iaith. Yn awr y dechreuwyd tywyllu cynghor, a chuddio deall a doethineb a, defodau a ffurf- iau. Trechodd cynghanedd ar natur, a mympwy ar naturioldeb. CATO.

[No title]

' ...r ".'Ebion o'r Ogof.

ABERDAR.

CWMBACH.

IYSTRAD RHONDDA.

PONTARGOTHI.

.LLANDYBIE.

MAESTEG."

YNYSDDU.

YSTRADFELLTET ! F 1

ABEROARN.