Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

COLEG Y GWEITHIWR.

News
Cite
Share

COLEG Y GWEITHIWR. GAN AP CORWYNT. LLYTHYR XXII. Yr ydym yn deall fod ein brodyr Eistedd- iodol yn y Gogledd, i raddau, wedi cael eu brawychu gan y ffaith o gynaliad Eisteddfod Gadeiriol Deheudir Cymru yn Nghaerdydd yr haf hwn. Y maent wedi cael run ar yr eisteddfodau trwy y blynyddoedd diweddar .ac y mae yn hen bryd i'r Deheudir ddeffroi o'i chysgadrwydd. Gwelsom grybwylliad fod lie i ofni na chynelir Eisteddfod Treffynon -eleni a mwy na thebyg mai dyna fel y bydd. Hynod mor clannish y mae gwyr y Gogledd Yn ddiweddar, anfonodd lienor nid anenwog lythyr i un o bapyrau y Gogledd, yn gwneyd -cyfeiriadau at y ddadl a ddygwyd yn mlaen yn y Drych Americanaidd o barthed pwy bia bluen gerddorol Cymru. Yr oedd y llythyr hwnw yn dangos tuhwnt i bob dadl nad Cor y Waunfawr, er i hwnw guro dau gor o'r Deheudir yn Eisteddfod Birkenhead. Gwrth- 'odwyd, fodd bynag, gohoeddi y llythyr, gan fod ynddo wirioneddau nad oeddynt, fe ddichon, yn dygymod a Northmen. Sonia rhywrai fod Cor Eryr Eryri yn dod i Gaer- dydd. Deued ef, ac ymwregysed y Deheu- .Y wyr i'w gyfarfod. Lewis Abram.—Nid oes ond un farn gyda golwg ar y rhyfel presenol, yn ngwlad y Zuluiaid, yn ngholofnau newyddiaduron Rhyddfrydig y deyrnas; hyny ydyw, nad oedd dim achos cyfiawn gan Brydain i ruthro i'r rhyfel gwaedlyd presenol yn nhiriogaeth y dyn du yn Affrica. Son am Brydain Fawr fel gwlad Efengylaidd a Christionogol, pan y mae ganddl ar ei llaw yn awr ddau ryfel-un yn Affghanistan a'r liall yn ngwlad y Zulus. Pa effaith neu ddylanwad all gwlad felly gael ar y llwythau paganaidd ac anwareiddiedig liyny, pan yn cario pylor a dur belau i'r llef- ydd anhygyrch hyny 1 Byddai danfon cen- adau Cristionogol yno ar ol y tan a'r twrw yn anomaly na fyddai yn debyg o gael un math o ddylanwad iachus ar y cenedloedd hyny. John Sebon.-Y gwir am dani, fechgyn, yw hyn. Y mae Prydain Fawr yn tybied mai hi yw brenines y byd ond y mae ganddi lawer iawn o waith dysgu egwyddorion a rheolau moesddysg cyn bodwn alluog i ddy- lanwadu fel y dylai ar wledydd daear. Dyma ein Parliament ni ar hyn o bryd-nid yw yn ddim amgen na rhyw hen beiriant di-waith a di-ddaioni. Y mae yn werth codi i sylw yma yr hyn a ddarllenais mewn wythnosolyn di- weddar, sef bafn Esgob Claughton am y rhyfel yn Neheudir Affrica. Dyma fe :— "Nid ydoedd yn rhyfel o ymosodiad; ond yn y cymeriad o fod yn heddgeidwaid y byd, gorfu i Loegr groesi dros gyffinia wlad elyn- iaethus er mwyn amddiffyn ein fir a'n, cyd- wladwyr ein hunain, ac felly y cyfarfyddasom A'r trychineb hwn." Heddgeidwaid y byd, aie ? Ha wyr bach, we are the bobbies of the universe Plismyn y llywodraeth ddwyfol Pwy a'n gosododd yn y swydd ? Pa bryd y'n hordeiniwyd iddi ? A oes dealltwriaeth ber- ffaith yn mysg cenedloedd ereill mai ixyni sydd yn y swydd, fel y byddo pob cenedl a llwyth ar eu gwyliadwriaeth i ymddwyn yn weddus pan y byddom gerllaw 1 Y mae hen Lyfr Hebraeg adnabyddus i ni yn galw brenin yr Aifft yn wybedyn, a brenin Assyria yn gaewn, a Cyrus, breiiin Persia, yn wialen ond newydd a diweddar i ni oedd clywed ein cenedl ni ein hunain yn cael ei ddynodi fel math o heddgeidwaid y byd John Ceubren.—Gwerir gan Brydain arian fel y gro' i fyned i ryfel am ryw achosion dychymygol i raddau mawr. Y mae yn warth, yn w-aradwydd, ac yn gywilydd fod y fath wastraff yn cymeryd lie, a hyny mewn gwlad a chan deyrnas sydd yn proffesu ei hun yn Gristionogol. Yfodd Babilon o gwpan gwin llid ei godineb. Drachtiodd Ninifeh alwyni ei dialedd. Meddwodd Rhufain ar ei buddugoliaethau, a syrthiodd i ddirywiad gwladwriaethol. A chyn wired a bod dwy dorth dair yn chwe' cheiniog, daw Prydain, hithau, i lwcli darostyngiad a humiliation. Tomos Flanders.-WeI, gadewch wel'd, faint yw oed y GWLADGARWR 'nawr 1 Gan- wyd ef yn 1858, oni do 1 Y mae hen fechgyn glew wedi bod yn nglyn ag ef yn ystod ei yrfa Iwyddianus a defnyddiol, ac y mae Iscariot- iaid hefyd wedi bod yn ymwneyd ag ef. Y mae gwahaniaeth rhwng shibwns o ddynion a dynion o stwff a stamp. Y mffrostia rhyw bapyr ei fod o ran ei gylchrediad yn 11,000. Darfu iddo annghofio y miloedd returns wythnosol. 'Dyw rheiny ddim gwerth erbyn gwneyd y balance sheet i fyny. John Darby.-Y mae rhyw drafodaeth ryfedd yn y GWLADWR o barthed i englyn "bydenwog "Cariad." Mi glywais i yn ddi- weddar fod yr englyn hwnw wedi ymddangos yn Ceinion Essyllt." Os gwir hyn, yr oedd yn rhaid fod yr hwn a'i gyrodd i fewn i'r gystadleuaeth yn euog o len-ysbeiliad. Ef- .allai y ceir eglurhad gan Essyllt neu rywun ,arall ar y mater. Evan Bledrws:-Da chwithe, gadewch yr Tien englynion pibonw ar ol, a dowch i fyfyrio ar rwbeth mwy proffidiol i ni oil. Dewch .allan i gyfandir mawr y cread, lie y mae ys- blanderau a gogonianau y Creydd dwyfol yn ;ymddadblygu yn mhob man. Gwelweh fel y mae y Gwanwyn yn cyflym ddynesu, a hen vanadliadau gerwinol y gauaf yn ymgilio ymaith. Dyma'r pryd i awen y beirdd i ym- ,ddeffro, ac i ganu yn anfarwol i ryw destyn Ineu gilydd.. Lewis Scrabin.—Y mae yn debyg mai lie 'bendigedig i farddoni yw Kanaskatka, gwlad y rhew a'r eira tragwyddol. Tase rhai o feirdd Cymru yn myned i fyny yno, hwy gyf- ansoddent awdlau a phryddestau ysblenydd. John Pibrwyn.—Be sy wedi dod dros bobol Blaenafon deudwch ? Y ma nhw wedi bod yn ymfilamychu yn ddiweddar, ac yn dwrdio yn arw, gan drin Halliday. Mi feddyliwn i mai y gwr hwnw oedd1 Iachawdwr Cymru tua "72, '73, a '74, canys efe oedd prif gynghorydd a chyfarwyddydd y gweithwyr. Wel, y mae llawei? o dalent yn y brawd, yn ddiau ond faint o ddaioni a wnaeth efe i weithwyr glo y Deheudir, a erys yn bwnc i'w esbonio. Dyna ei araeth yn Aberdar yn ystod strike 1875. Beth ddywedai y pryd hwnw 1 Break every bridge. No retreat," ac felly yn y blaen, Gwyddsm i gyd mai cynghor dwl oedd hwnw, canys yr oedd y farchnad lo yn myned i lawr yn gyflym, ac felly pa reswm oedd pleidio y fath policy? Aeth nifer o weithwyr Mr. Crawshay, Gyfarthfa, ato yr amser hwnw, a chymerasant gyda hwynt ryw estroniaid o agents o Loegr. Awgrymodd yr hen frawd ei fod ef, a'i dadau o'i fiaen, wedi arfer ymgynghori a'i weithwyr yn annibynol ar ymyriad ail neu drydydd person. Dywedai y gweithwyr y pryd hwnw, y cawsai efe anfon am danynt hwy, cyn y byddent hwy yn gyru neu yn galw arno ef. Beth fu y canlyniad? Ataliodd Crawshay ei waith haiarn, ac yn y sefyllfa hono y mae byth oddiar hyny. Gorfu i'r gweithwyr fyned ato i erfyn a deisyf am iddo ail gychwyn y gwaith ond dywedai y byddai ei waith ef yn cael ei gario yn mlaen fel gwaith Dowlais, oni bai am ymddygiad ei weithwyr. Dywedai Mr. Fothergill yr un peth, mai strike a lock out '75 yn achos i'w weithiau ef yn Abernant a Plymouth gael eu hatal, ac iddo ef a'i gwmni fyned yn feth- dalwyr. Lewis Ceubren.—Dywedwch chi fynoch chi, mae y gweithwyr wedi sael eu gwasgu yn ddi- drugaredd yn y blynyddau,diweddaf hyn. Ni fu y fath ormes a gwasgfa er dyddiau Cain, y llofrudd cynta'. Dim drams, a dim gwaith. Ond fe ddaw hi'n dro ar fyd eto, ac fe all y meistri benderfynu na phery hi ddim fel hyn o hyd. Y mae nifer fawr o'n cydweithwyr yn ymfudo y dyddiau rhain, a gellir bod yn sicr yr a rhagor eto. Y mae y wlad hon wedi myned yn bilboaidd a llymrig, ond y mae dydd y jiwbili i ddod, a hyny cyn pen hir. Sam Frbnlas.—Yr wyf fi yn penderfynu myned i astudio athroniaeth o hyn allan, gan lwyr gredu y daw hyny a mwy o elw i mi na thori glo. Athronwyr oeddynt Plato ac Aris- totle, ac y maent wedi gadael eu hoi ar y byd. Dyn rhyfedd oedd Paul, a'r athronydd mwyaf fu yn ein byd ni erioed, ac eithrio y Duw- ddyn, yr Arglwydd o'r nef. Wedi iddo ef a Silas gael eu fflangellu a'u gwialenodi yn ninas Phillipi, heb un warant na rhaith, a'u taflu i garchar, canent a mdlianent ganol nos, nes o'r diwedd daeth y ddaeargryn o'i gwael- odion dan sylfeinu y bryniau i ysgwyd y car- char. Cafoddycarchar-geidwadei ddychrynu, a thrwy hyny arweiniwyd ef at Paul a Silas i ofyn "Pa beth sydd raid i mi ei wheuthur ?" Sambo Jones.—Yr oedd Paul yn ddyn di- sebon ond y mae yna gyhoeddiad o'r enw Arweinydd yn cael ei gyhoeddi yn Nghwm Rhondda, ac yn y rhifyn diweddaf, sef am Mawrth, yr oedd yno nifer o benillion dan y penawd Dymuniad." Dymunol fyddai i'r awdwr gydnabod o ba le y cafodd y syniadau, ond ni wnaeth hyny. Ond yr wyf yn dymuno hysbysu y byd mai o waith Mr. Mackay y cafodd hwynt, a dyma y penill cyntaf:— Tell me, ye winged wings, That round my pathway roar, Do ye not know a spot Where mortals weep no more ? The wild winds dwindled to a whisper low, And sighed for pity as they answered—'No. Cofnodydd.—Rhagor ar lenyddiaeth yr wythnos nesaf.

COR Y BHONDDA.

EISTEDDFOD GADEIRIOL DEHEU-DIB…

EISTEDDFOD -DDIWEDDAR TONDU…

VERITAS A J. H. P.

[No title]

.AT VERITAS.

EIN BEIRNIAID CERDDOROL.

EISTEDDFOD CYMREIG YD DION…

Y DIWYGIAD CREFYDDOL YN NGHWM…