Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Hysbysir fod y Parch. B. T. Evans wedi tori ei gysylltiad ag eglwys Brynhyfryd, Rhymni. U*U Bu son am ohirio yr Eisteddfod Genedlaeth- ol sydd i'w chynal yn Mountain Ash; ond yn awr dywedir fod y corau yn parotoi mewn rhai lleoedd, a'r pwyllgor am fyned ymlaen. —*— Bu Dr. Pugh yn cynal cyfarfod cenhadol yn Six Bells wythnos yn ol, ac yn ystod ei ym- weliad bedyddiodd 106, a rhoddodd y sacra- ment o Swper yr Arglwydd am y tro cyntaf i 25. Bydd Esgob Bangor yn cymeryd ei Ie yn Nhy yr Arglwyddi ddechreu'r Senedd-dymor hwn. Bydd y cwmni o esgobion Cymru un yn brin eto, gan y bydd yn rhaid i Esgob ne- wydd Llandaf aros yn hir cyn y caiff le gyda'r Arglwyddi. 0' Yr oeddwn wedi bwriadu cyhoeddi amryw lythyrau mewn atebiad i lythyr y Parch. Peter Price, B.A., ar Mr. Evan Roberts. Ond cred- af mai goreu yw gadael i'r llythyr lithro i dir anghof cynted gellir, yn enwedig gan y cefais sicrwydd gan Mr. Price ei hun na bydd iddo eto ysgrifenu gair ar y mater. 0*0 Pleidleisiodd eglwys Racine, Wis., ar wein- idog y Sul cyn y diweddaf, ac allan o 227 o bleidleisiau cafodd y Parch. John Davies o Lundain 224. Anaml y gwelir y fath unfryd- edd. Deallaf y cydsynia Mr. Davies a'r al- wad, a bydd ei arhosiad yn America yn gaffael- iad i Gymanfa Wisconsin, ac i'r enwad yn g-yffredinol. Dyddorol i ohebwyr y GOLEuADglywed fod yr adroddiadau am y Diwygiad yn cael eu dar- llen mewn ugeiniau o eglwysi yn yr Unol Dal- aethau a rhanau eraill o'r byd. Ceir tystiol- aethau mynych yr wythnosau hyn fod effeith- iau rhyfedd yn dilyn. Codir hiraeth am Gymru a'r hen ddiwygiadau, ac yna dechreuir cynal cyfarfodydd gweddi. Yna y mae Di- wygiad yn tori allan. Mae Esgob Durham, Dr. Moule, wedi bod yn siarad ar y Diwygiad yn Nghymru. Diau, meddai, fod ar gyrion y Diwygiad rai pethau na buasai pawb yn cytuno a hwy; ond nid yw hyny yn newid y fFaith ei fod yn ei gnewyllyn yn waith Duw. Mae ei effeithiau moesol yn ddigamsyniol, ac nid yw Dr. Moule yn gweled un rheswm paham na ddylai dori drosodd i Loegr. mm Bu'r ymwelwyr yma o'r Gogledd yn nghyfar- fodydd Mr. Evan Roberts yr wythnos ddiwedd- af yn Nantymoel,-y Parchn. J. Williams, Caergybi, J. Evans, eto, Hugh Williams, W. Llewelyn Lloyd, Bethel, ac Owen Ffoulkes, Bettws. Nid oedd addewid bendant i'w gael gan Mr. Evan Roberts pa bryd y gallai ym- weled a Gogledd Cymru. Addawa fyned i Liverpool a Glasgow, yn fuan. Cafwyd cyfar- fod neillduol yn Nantymoel nos Iau. 0*0 Y Parch. W. Jenkyn Jones, y cenhadwr yn Llydaw, a ysgrifena fel y canlyn —" Nis gwn a oes cyfieithiad o Dyma gariad fel y mor- oedd' wedi ei wneyd i'r Saesneg; yr wyf newydd gyfieithu y penill i'r Llydaweg a'r Ffrancaeg, a dichon y bydd y cyfieithiad hwn i'r Saesneg yn gymorth i'r Saeson uno yn y gân, os gwnewch ei osod yn y GOLEUAD — Here is Love deep as the ocean, Mercy flowing like the sea, Lo, the Prince of Life is dying, Dying to save a worm like me! Who can e'er forget His mercy, Or with-hold from Him his praise? This is Love which e'er in glory Will unfold its living rays. (neu) Saint will sing in glowing lays. Derbyniwch fy nghofion a'm dymuniadau goreu. Pafhaed. Duw i amlygu ei ras yn Nghymru nes meddianu yr oil i'r Hwn a'i piau; ac O! na welem Ef yn marchogf drwy Lydaw hefyd yn ei nerth a'i rym." Wyth mlynedd yn ol collodd gweithiwr yn Mlaenau Ffestiniog haner sofren o'i gyflog yn Chwarel Oakeley. Yr wythnos ddiweddaf caf- odd hi yn ol oddiwrth Bechadur Edifeiriol, Bwthyn Cydwybod, Dinas Anesmwyth." Dy- wedai y pechadur fod ei gydwybod wedi ei chynhyrfu wrth glywed am ddeffroad cyd- wybod cydweithiwr iddo. Dylasai y gwalch fod wedi talu llogau, hefyd. 0*0. Faithful to Nonconformist traditions," ebai'r Gohebydd Llundeinig, priodir Mr. S. T. Evans, A.S., mewn capel Ymneillduol. Pa- ham y mae yn rhaid son am hyn gydag aelod seneddol mwy na rhywun arall? Onid Ym- neillduwr ydyw Mr. S. T. Evans, a pha le ond capel Ymneillduol y gallasai gael ei briodi? Mae paragraff fel hwn yn debyg iawn i ym- gais i nawddogi Ymneillduaeth, ac ni buasai neb ond snob yn ei ysgrifenu. Teimlid siomedigaeth chwerw yn Nghaer- dydd oherwydd i Mr. Evan Roberts wrthod ymweled a'r dref yn ol y cynllun. Pan ymwel- odd y Parch. J. Morgan Jones ag ef i ddadleu dros iddo fyned, dywedodd fod yr Ysbryd yn gomedd. Cyrhaeddasai canoedd o ddieithriaid i Gaerdydd yn gynar ar yr wythnos, ac yr oedd yr holl welyau yn y prif westai wedi eu cymeryd. Dechreuodd Mr. Evan Roberts ar ei waith yn Nantymoel ddydd Mercher. Cyrhaedda hanesion dyddorol am ymweliad y Parchn. W. S. Jones, M.A., a Maurice Gri- ffith, M.A., a'r Maes Cenhadol. Drwg genyf glywed fod Mr. Jones yn wael ac analluog i gymeryd ei ran yn y program oedd wedi ei dori allan yn Sylhet. Traddododd Mr. Griffith y darlithoedd y cyfeiriais atynt o'r blaen, a phregethodd yn yr Eglwys perthynol i Gen- hadaeth Eglwys Loegr. Hefyd gweinyddodd y sacrament dranoeth y N adolig yn y Com- pound Church i tua 120. Y Parch. H. C. Williams (Huw Mon), Nanti- coke, Penna, America, a ysgrifena fel y canlyn mewn llythyr dyddiedig Ion. 25:- Anfonodd cyfeillion i gyfaill i mi, eich GOLEUAD clodwiw, yn cynwys hanes y Diwyg- iad rhyfeddol sydd yn awr yn Nghymru. Nis gall iaith ddarlunio, ein teimladau, a'r cyn- hyrfiadau eneidiol a gynyrchai ei ddarlleniad. Nid yn unig darllenwyd ef yn y ty, ond hefyd yn y capel, a dywedir fod y dylanwad a gariai darllen hanes am donau gras a'r llanw mawr yna yn rhyfeddol yma. Mae awelon y ne- wyddion yn cario defnynau o'r adfywiad dros y m6r i'n plith ni yma. Mae llawer o ddy- chweledigion, yn hen ac yn ieuainc, wedi dy- chwelyd at y Gwaredwr; a chredwn nad yw y gwaith adfywiadol ond dechreu yn nyffryn y Wyoming, Nanticoke, Wilkes Barry, Kingston, i fyny i Scranton, pawb yn gwaeddi, Cerdd ymlaen nefol dan, cymer yma feddiant glan." Ac wrth ddarllen am ddylanwadau Ysbryd y peth byw, daeth teim- lad angherddol yn fy nghalon am gael bod yna yn y gorfoledd, a Ilinellais ar fyrder y llinellau amgauedig: Daw y penillion eto yn eu tro. U*U Y mae Dr. Cynddylan Jones yn feistr ar watwareg. Wrth anerch cynulleidfa yn Aber- carn aeth rhagddo i adrodd hanes y Diwygiad 59. Collai cynulleidfaoedd y Deffroad hwnw hefyd bob rheolaeth arnynt eu hunain. Atal- ient y pregethwr ar ganol ei bregeth. Haerai y beirniad oerion a doeth fod y cwbl yn wall- gof; nas gallasai yr Ysbryd Glan, o bawb, achosi peth felly Rhaid mai rhyw ysbryd arall oedd wrth y gorchwyl—rhyw ddemon, neu ddiafol newydd. Adwaenai pawb yr hen ddiafol wrth ei waith. Gyru pobl yn heidiau i'r tafarnau y byddai efe. Eu gwallgofi A than uffern. Cymeryd eu dillad oddiam dan- ynt; peri iddynt ymddwyn at eu gwragedd a'u plant yn waeth na phe buasent yn fwystfilod. Rhoddi Cymraeg a Saesneg y Trueni yn eu genau. Wrth gwrs, yr oedd yr holl wlad yn ei awdurdodi ef nis gallai wadu ei hun. Ond am y diafol newydd, myn hwn yru y bobl wrth y miloedd i'r addoldai, Gwna iddynt ffieiddio eu hen fywyd. Dyd ddillad newydd am eU cyrff, ac arian yn eu llogellau. Crea ynddynt awydd am ragori. Lleinw hwy a serch yl11- arferol at eu teuluoedd; eu prif hyfrydwch canu mawl i Dduw, a bod o wasanaeth 1 cyd-ddyn. Diafol rhagorol yw hwn. Y maC iddo groeso mawr i'n plith. Hoffem ei weled yn rheoli holl Gymru! Mae llawn cymaint o'r diolchgarwch a gyf- lwynir yn y llythyr isod yn ddyledus i'r goheb* wyr ffyddlawn ag ydyw i neb, a hyny yw f rheswm dros ei gyhoeddi yma: — Gwerth- fawrogiad Cyfarfod Misol Dwyrain Morganwg o wasanaeth y GOLEUAD i'r Diwygiad.-Mr. Gol.Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Bethania, Llwynypia, Chwef. i a 2, pasiwyd1 ein bod yn datgan ei gwerthfawrogiad a'n diolchgarwch diffuant i chwi fel Golygydd y GOLEUAD, am y gwasanaeth mawr a wna eicb papyr i'r diwygiad, yn neillduol yn Ne a Gog* ledd Cymru, ac hefyd, yn yr America a gwled- ydd ereill, lie y gwasgerir y GOLEUAD. Rhoddii* gwerth neillduol ar eich bod wedi troi newydd- ion llai pwysig o'r neilldu, a rhoddi y rhaO fwyaf o lawer i hanes gweithredoedd nerthol1 Duw yn ein plith. Wrth hyn gwasanaethwch grefydd i fesur nad oes ond tragwyddoldeb a ddatguddia y gwaith a wneir wrth hyny. Dy- munir ar i chwi dderbyn y bleidlais hon 0 ddiolchgarwch yn y teimladau da y cyflwynif hi, gan obeithio y parhewch i wasanaethtt crefydd Mab Duw yn yr wythnosau a'r mis* 1 oedd dyfodol yn yr un modd.—Yd wyf, dros 1 Cyfarfod Misol,—D. M. Phillips, Ysg., TylorS* town." --0- .'Jj Caniatewch, i mi osod yma gopi o gylch* lythyr a dderbyniais oddiwrth y Parchn. W. Talfan Daies ac R. Roberts-Davies, HenllaO) gan ei gyflwyno yn wresog i sylw eich dar- i Ilenwyr Er's hir amser bellach, y mae llawer wedi bod o'r farn, ac wedi sibrwd yn ddistaw y naill wrth y llall, y dylem fel cenedl ddangos ein hedmygedd o athrylith a'n gwerthfawrogiad o wasanaeth un o ffydd- loniaid y genedl, sef y Parch. Evan PhillipS» Emlyn. Credwn fod yna lawer calon wedi ystorio ei chariad am flynyddau at y gwr anwyl hwn, ac y bydd yn dda ganddi yn awr gael y fraint o dori ei blwch enaint gwerthfawr ar el ben, fel y caiff yntau deimlo, yn hwyr ei ddydd, ei fod yn anadlu awyrgylch wedi ei llwytho â pherarogiau cariad y saint. Cyfarfu Pwylt" gor cryf yn Nghastellnewydd Emlyn i ystyried y mater, a daethpwyd i'r penderfyniad unfryd" ol, ein bod yn dangos ein teimladau da tuag ato drwy wneyd Tysteb, ac na ddylid ei chyf" yngu i un cylch neillduol, gan fod y gwr parch^ edig yn lletach na'i Eglwys, yn lletach natl enwad, ac yn eiddo cenedl gyfan. Nid ydyif yn meddwl fod un o feibion Cymru wedi gwaS" anaethu ei genedl gyda mwy aidd na'r gwt hwn. Y mae bellach ar y maes er's dros S°. mlynedd. Fe ddadseiniai ei lais ef glod ei Geidwad yn groew yn Niwygiad '59, nes yr at' dynwyd drwyddo eneidiau lawer at draed y Brenin, ac i gyflwyno eu hanrhegion Iddo. Diameu fod lliaws heddyw, yn y nef, ac ar f ddaear, dystiolaethant iddynt ganfod: yn eglur/ ogoniant y Gwr a hoeliwyd drwy bortreadatl byw y bardd-bregethwr. Y mae wedi bod yn weinidog ffyddlawn i Iesu Grist ymhob mafl; Gwyr pawb a'i hadwaena mor ofalus yW 1 guddio 'i hun er mwyn dangos y Ceidwad' Hefyd, nis gallwn fyn'd heibio heb wneyd sylw o'i haelfrydedd ef a'i deulu, gan fod eU cartref wedi bod yn llety pererinion ar hyd X blynyddau, fel y mae ami i bererin llesg wed* cael moddion can yn nhir ei bererindod. y mae caredigrwydd y teulu hwn heb adnabod terfynau, ond yn taflu ei freichiau yn agored 1 gofleidio pawb yn ddiwahaniaeth. Yr ydy111 yn dweyd profiad degau o fechgyn ieuain0 adawsant eu cartrefi i efrydu yn Emlyn, ac 3 brofasant nodded y teulu hwn. Y mae f gwrthddrych mor adnabyddus, a'i deilyngdod mor amlwg, fel mai afraid yw nodi rhesymatj dros yr hyn a wneir. Cyflwynwn ein hape* yn ostyngedig i'ch sylw caredig, gan W gredu y gwnewch yr hyn sydd yn eich gallu er hyrwyddo yr amcan teilwng hwn. Bydd Y Drysoryddes, Mrs. Joshua Powell, Cawd°* Terrace, Newcastle Emlyn,—yn ddiolchg^ am unrhyw gyfran anfonir o hyn i'r dyd"1 cyntaf o Fai, igos, ■■M