Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
Now Published in ene HANDSOME SHILLING VOLUME, Post Free, Mn. GEORGE THOS. CONGREYE on CONSUMPTION AND ITS SUCCESSFUL TREATMENT. Showing that direful disease to be curable o in all its Stages; with observations on 0 ASTHMA. CHRONIC BRSNBHITIS-' AND THE NEW APPENDIX TO THE WORK ON CONSUMPTION, CONTAINING 226 MOST INTERESTING and AUTHENTIC CASES That have appeared in the Weekly Journals and Monthly Magazines from 1881 to the pre- sent time, with NOTES APPENDED TO MANY SHOWING THE OF CUBE. N.B.—The work ON CONSUMPTION,' by itself (in paper covers), may be had for SIX- PENCE (post free) from the Author, Coombe Lodge, Peckham, S.E., or from the Pub- lisher, Elliot Stock, 62, Paternoster-iow, E.G. The Thirty-second Series of Weeldy Cases is now publishing. NOTICE TO THE READERS OF THE "SEREN CYMRU Who may be personally or relatively INTERESTED IN -THIS MATTER. MR. CONGBEYE will give ONE RECENT CASE, NOT PUBLISHED in this Journal BEFORE,EVERY WEEK. CASE FOR THIS WEEK. FURTHER REFERENCE TO A CASE AT DARTMOUTH PRONOUNCED INCUR- ABLE. This was a very remarkable case. The pat- ient is a daughter of Mr. G. Jones, of 3, Union street. Her symptoms were of a very aggrav- ated nature, and she was sinking fast in con- s umption. The doctors eould give no hope. The case first came under my notice in the early part of this year. She recovered, and the joy and gratitude of all her friands was great. The patient herself expressed herself thus: You were sent into the world to cure consump- 11 p tion." This case I published in full about July last. I have been much interested to find that the complete health of this patient has been per- manently established. Mr. Jones, writing me October 17th, says: Our daughter continues perfectly well, to our delight. She gets more vigour every day. This case has cut down the prejudice of some here who were the gitost stubborn of the Consumption Incurable' school. We are deeply indebted to you for your very kind at. tention to us. TITe are very anxious that others should know of her wonderful recovery, that hope may be inspired. There are many witnesses in this town." NOTE.-Days of Consultation.—TUES- DAY, THURSDAY, and SATURDAY Mornings ONLY, at Coombe Lodge, Peckham. Patients from any long distance should choose either of the two former days. Everyone is expected to have seen the book first. vv -m. HILL HOUSE COLLEGE, HAYER- FORDWEST. THE MISSES DAVIES (Daughters of Rev. T. DAYIES, D.D.), conduct a School for day pupils and boarders at the above commodious and well-situated Residence. The course of instruction comprises all the branches of a sound English education; also Music, French, German, Drawing and Paint- ing. Prospectuses on Application. The next Term will begin on Tuesday, January 21st, 1890. COUGHS, OLD OR RECENT, BRONCHIAL OR DYSPEPTIC, ASTHMA, BRONCHITIS, WiloopiNe COUGH, COLDS, HOARSENESS, ETC., THE VIXifs'jr MIS SfclCXiSfE αo][ C 1[ iV E IN THE WORLD IS CONGIIEVES BALSAMIC ELIXIR, In Bottles, Is. I'd., 2s. 9d., 4s. Gc., etc. SOLD BY ALL MEDICINE HOUSES. 2T0TE.—JTor MIXISTKES, LECTURERS, AND TEACH- ERS, and all who have to exert the voice a lump of Sugar sat1wate,l with this pleasant ELIXIR, anel sucked as a Lo miffo before speaking, will prevent HOARSENESS, comfort the chest, and strengthen the Yorc". lIIi'. G. T. Gangrene's Book on Consumption and all Chest Diseases, with Appendix, eontahis many remarkable cases. Post free for (XSE SHILLIXS from Coombe Lodge, Peckham. j JUST PUBLISHED. TALKS WITHMEN, WOMEN, AND CHILDREN, (Being the first Annual Volume of THE HOLLAND ROAD PULPIT) By Rev. DAVID DAVIES. Post Octavo, 416 and xvi.pp, cloth, red burnished edg'»s, published at 6s. London: jfilliot Stock, 62 Patarnoster Row. E.C.; Alexander & Shspheard 21, Furnival St., E.C During 1890 the Talks with Men, Women, and Children," will be published we.kly as hitherto in coloured wrapper, at one pesny. The Subjects of the Talks with Children" will be "TUII PILGBIMS PBOGBESS RsraLD FOB CHILDREN." The remaining part of each number will consist of a Sermon for older folk. London: Alexander & Shepheard, 21, Furnival Street, E.C. HYSBYSIADAU YR ENWAD. CAPEL NEWYDD Y BEDYDDWYR, DREFACH. Cynnelir cyfarfodydd agoriadol y capel uchod dyddiau Mawrth a Merc her, Ionawr 28ain a'r 29ain, 1890. Y cyfarfodydd i ddechreu prydnawn dydd Mawrth am 2.30 o'r gloch, ac yn yr hwyr am 6.30, a dydd Mercher am 10, 2, a 6 o'r gloch. Dymunir ar weinidogion ac ereill i roddi eu presenoldeb. W. E. DAVIES, gweinidog. CWRDD CHWARTER DOSPARTH UCHAF SIR GAERFYRDDIN. Cynnelir y cyfarfod nesaf ar y Mawrth a'r Mercher, Chwefror 4ydd a'r 5ed. Bydd y gynuadledd am 3 o'r gloch prydna wn dydd Mawrth. Danfoned pob gweinidog a fwriada fod yn bresenol air at y Parch W. Williams, gweinidog, cyn yr 2il o Chwefror. P. PHILLIPS, Ysg. 0 CYFARFOD CHWARTEROL BED YDDWYR MON. Cynnelir yr uchod yn Llancrchymedd, y 27ain a'r 28ain o'r mis hwn. Yn y gyn- nadledd am ddeg, y dydd cyntaf:—1. Pwyllgor y Gymmanfa, Ganu. 2. Pwyllgor yr Ysgol Sul. 3. Gweithrediadau cyffred- inol yr enwad yn y sir. Yn y gynnadledd am ddau :—1. Darllenir papyr gan y Parch D. Evans, Llangefni. 2. Cyfeillach Gref- yddol. Taor erfynir ar i gynnrychiolvvyr o bob eglwysyn y wlad fod yn bresenol am 10 y 0 boreu, er myned trwy'r gwaith mor gyflym ac effeithiol ag y gellir. RICHARD R. PARRY, YSg. pro. tem. AT EIN GOHEBWTS Danfoner pob erthyglau, gohebiaethau, 0 0 hanesion crefyddol a gwladol, &c., i REV. BENJAMIN THOMAS, Nar- berth, Pembrokeshire. Y PARCH. D. O. EDWARDS.—Bydd YN dda gan ein darllenvryr glywed fod ein gobebydd poblogaidd hwn, ar ol naw wythnos o gyfyngiad i'w dy gan afiech> d (Bronchitis) yn awr ar wellhad, ac hyd- era y bydd yn fuan yn alluog i ymaflyd yn ei waith llenyddol, pregethwrol, a darlithyddol, megys gynt, ac unwii oil i ddweyd Amen galonog. Derbynied ein cydymdeimlad a'n llongyfarchiad. YB HAUWB."—Ysgrifena Mr E. Owen, CD Caerdydd, i hysbjsu fod Mr Evans, Gad- lyp, wedi argymmeryd a bod yn ysgrif- enydd arianol y cyhoeddiad uchod. Felly gofaler o hyn allan anfon pob archelion a thaliadan yn uniongyrchol i'r cyfeiriad eanlynol :-Rev. B. Evans, Baptist Minister, Gadlys, Aterdare, Glam. CW Gan feithder ein gohebiaetaau cofnod ol,yr ydym yn rhwym o'u b.rwi i lawr i'r hanner, a rhai i ddim. Gwell fyddai i'n gohebwyr wneyd ond os De, rhaid i ni eu gosod yn y crochan ar y tan. j TALIADAU. Derbyniwyd tadiadau oddiwrtlij—R M R Brymbo, O T Camhelyg, D P Maesy- beddau, B P Caerphilly, J P Pontlliw, D T Pontypridd, E C T Treherbert, W H Llan- dilo, T W Ben Lomond, D R Solva, T R D Bedlinog, J P X, R J Talybont, II M London, W H & S Swansea, R R Morriston, J D Abercych, D J Llangennecli, D D Bedlinog, L W Ynysddu, J G Trevasser Cross, R L New Moat, J E Llysfaen, T W Tondu, D R Dafen, M D Maengwyn, J R Denbigh, W M Aberystwyth, R II Tudhoe Colliery, ~W E Afonwen, W K Caerfyrddin, J M J Llansawel, a J T Trocdrhiwgoch. ISAAC PHILLIPS. Brynteg, Burry Port, R.S.O., Carmarthenshire: CYNmoR I PAMAU.-O. yw eicb plant ya magu darnedd, cofi-irch zpdw,I Mother's Favourite Teething Powder" 'Kernick yn y ty. Nid oes yncldo ddim opiwm, ac y mae yn rhaor- flaenu pob math o bangau poenus. I'w gael am Is 2s 6c y sypyn.
IMARWOLAETH "TAD" TY Y .CYFEREDIX.'
MARWOLAETH "TAD" TY Y CYFEREDIX. Yn marwolaeth Mr C. R. M. Talbot, A.S., Margam Abbey, Morgan'w-g, collodd Ty y Cyffredin ei "Dad," ac y mae mewn hiraeth dwys areiol; ond y mae ganddo un fantais—ca dad yn fuan yn ei lo, er na cha yr hen dad hwN mwyach. Disgyna yr anrhydedd o fod yn Dad i'r Ty i'r hynaf ag sydd wedi cadw ei sedd yn ddidor. Dichon fod yna rai wedi bod yn y Ty o'i then, ond collasant eu seddau trwy orchfygiad neu ryw achos arall. Aeth Mr Talbot i'r Senedd fel cynnrychiolydd Swydd Forgan- wg yn y flwyddyn 1830, a chadwodd ei sedd yn ddifwlch hyd ei farwolaeth yr wythnos ddiweddaf, yn 87 mlwydd oed. Anaml y cafodd wrthwynebiad, ac ni orch- fygwyd ef unwaith, ond ar ol pob etholiad yr oedd braidd mor sicr o ymddangos dra- chefn yn y Ty ag ydyw yr haul i godi a'r mor i dreio a llanw. Felly gwelir ei fod wedi cynnrychioli Morganwg oil, neu ran o honi, am 60 mlynedd; ac yr oedd ei oes yn y Senedd yn hirach nag oes y mwyrif yn y byd. Digonwyd ef a hir ddyddiau, a ben. dithiwyd ef a iechyd da, ac yr oedd ei synwyrau yn ei bywiogrwydd cyntefig hyd y diwedd; ac er nad oedd yn hollol rydd oddiwrth afiechyd, etto deuai o hono bob tro megys yn wyrthiol, ond yr oedd gan angeu ergyd marwol iddo ef, a chwympodd fel eraill odditano. Addysgwyd of yn Harrow a Rhydychain, a graddiodd yn y lie olaf gydag anrhydedd mewn Rhifydd- iaeth. Yr oedd yn rhifyddwr e-nwog, a medrai redeg y pedair colofn i fyny gyda chywirdeb a rhwyddineb. Yr oedd yn ysgolhaig rliagorol, yn ddyn diwyllicdig, yn meddu barn bwyllog a chywir, a galluoedd masnaehol tuhwnt i'r cyffredin; etto ni ymddysglaeriodd yn llwybrau cyhoeddus bywyd fel y gellid yn naturiol ddysgwyl f oddiwrth ei alluoedd a'i wrtaitb, ond yr oedd ei dueddfryd yn fwy at ddyledswyddau anghyhoodd a chartrefol. Cymmerodd ddyddordeb mawr yn, a bu o wasanaeth mawr er dwyn oddiamgylch reilffordd i Ddeheudir Cymru, ac yr oedd yn un o ran- feddiannwyr mwyaf ac yn un o gyfarwydd- wyr y Great Western Railway. Bu y llinnell hon yn wir ddefnyddiol iddo ef yn bersonol, o herwydd pan yr aeth gyntaf i'r Senedd rhaicl oedd iddo weithio ei ffordd yn y cerbyd o Margam i Gaerloew, ac yna gyda y gerbydres i Lundain ond er's blyn- yddau bellach medrai ddyfod o'r brif-ddinas braidd i ddrws ei gastall yn y Marganl. Yr oedd yn un o'r tirfeddiannwyr mwyaf yn Nghymru, ac yn un o'r rhai goreu. Yr oedd i'w ddeiliaid yn gyfaill a thad. Cym- merai ddyddordeb personol yn eu llesiant —y rhentydd ar ei ystad yn is na nemawr yn y wlad, a'r deiliaid mor ddyogel a phe buasent yn berchenogion, Yr oedd yn dra haelion,nus tuag at wahanol sefydliadau crefyddol a dyngarol, ond yr oedd yn dra gofalus yn ei gyfraniadau eu bod yn myned i'r iawn gyfeiriad, ac yn ateb rhyw ddyben ymarferol. Yr oedd yn erbyn cyfranu at gapeli, ac yif erbyn eu hadeiladu os na fyddai y cynnulleidfaoedd yn meddu ar ragolygon teg i dalu am danynt wrth ei hagor,neu yn fuan ar ol hyny. Clywsom iddo wrthod cyfranu at gapel am y rheswm uchod; ond cynnygiodd dalu yr hanner os talai y gynnulleidfa yr hanner arall ar ddydd ei agoriad. Y mae genym gydym deimlad rhanol â'r syniad hwn o'i eiddo. Credwn fod rhai capeli wedi eu codi pan na ddylid eu codi o gwbl, ac eraill wedi eu codi arlawer gormod o draul; a chyda gofal a chynnildeb ni ddylasai ein dyled yn Nghymru fod yn agos cymmaint ag ydyw. Gyda bod yn aelod dros Morganwg yr oedd hefyd yn Arglwydd-Raglaw y Sir, a gweinyddodd ei swydd yn Rhyddfrydig ac anmhleidiol. Enwodd weithwyr droion i'r fainc ynadol, ac yr oedd yn bleidiol iawn i'r gweithwyr, ac mewn cydymdeimlad a'u hegnion i ymddyrchafu. Aeth i'r Senedd fel cynnrychiolydd y blaid Ryddfrydol, ond nid oedd Rhyddfrydwyr yr adeg hono 0 amgen Toriaid yr oes hon, ond yn unig fod eu hysbryd a'u gwynebau yn edrych i gyf eiriad gwahanol, sef i gyfeiriad cynnydd a diwygiad, ac y mae hwn yn wahaniaeth pwysig a gwreiddiol wedi y cwbl, a darfu i Mr Talbot ddal ei dir hyd y diwedd. G-wir fod ei symudiadau yn araf, ac ni ddeuai i ganlyniadau boddhaol ar unwaith, ond cyr- hacddai hwy yn y pen draw. Gwelodd lawer Demas Ryddfrydol yn gadael, ond ni ymadawodd ef. Gwir iddo wadu rai troiau, fel Pedr, ond mae mor wir a hyny. iddo, fel Pedr, odifarhau a dycliwelyd i'r fiydd; ac y mae yn ffaith hynod, ac yn glod i'w enw fel Seneddwr, iddo am y triugain mlynedd fyned yn mlaen gyda'i blaid ac er tuedd- frycl nnturiol heuaint at Geidwadaeth ac ofn diwygiadau mawrion, y rhai a ymddang- osant i'r hen yn fynych fel chwyldroadau peryglus, etto cadwodd ef yn mlaen yn 01 gysson, gorplienodd ei yrfa a chadwodd y ffydd, a bu farw a'i law yn llaw ei lien lywydd—Mr Gladstone. Y mae sedd Canolbarth Morganwg yn wag, a rhaid fydd ei llanw yn fnan. Nid oes dim wedi ei wneyd etto, wrth gwrs, ac nid oes ond sibrwd wedi siarad. Dywedir I fod y Milwriad North yn sefyll dros y blaid Geidwadol; ond ni chredwn ei fod mor feiddgar a. hyn, o herwydd nid oes ond Radical o'r Radicaliaid a fedr lanw ac ennill y sedd. Fel ymgeiswyr Rhyddfrydol y mao enwau Mr Frank Edwards, Ferndale, a Dr John Davies, Maesteg, wedi eu nodi. Da genym fyddai gweled y naill neu y llall yn cynnrychioli y rhanbarth, ond rhaid i ni gyfaddcf ein ple:dgarwch i'jolaf, o herwydd dylai anrhydedd fod yn wobr gwaith, a phwy yn y cylch sydd wedi gweithio yn galetach a mwy effeithiol na Dr John Davies ? Gwyddom ei bod yn gynar i ysgrifenu fel L hyn, ond cyn y bydd ein sylwadau o flaen y cyhoedd, bydd y mater o flaen yr etholaeth. Carem weled hen waed goreu Sir Aberteifi yn cynnrychioli Canolbarth Morganwg.
LLITH 0 GAERDYDD.
LLITH 0 GAERDYDD. Gyda chyflymdra y fellten fforchog mron y teithiwn yn yr oes hon. Mae pawb ar eu heithaf. Beth sydd i ddyfod. o honom, nis gwn. Mae ysbryd y byd hwn yn cael lie bras a helaeth yn nghalonau meibion a merched dynion, ac ysywaeth, mae gofynion yr enaid, a hawliau byd tragwyddol yn ddi- sylw gan nifer luosog o drigolion ein hynys uchel-freintiog. Mae y ffaith hon yn alarus a llethol, or hyny diolch am yr ym- drech sydd o blaid rhinwedd, sobrwydd, a chrefydd bur y TESTAMENT NEWYDD, hyd yn oed y dyddiau hyn. Erys cannoedd o oreugwyr ein gwlad yn ffyddlon a theyrn- garol i Ddeddfwr Israel, er gwaethaf hud- olaethau afrifed y "dydd j" a chredaf y gallwn ymffrostio mewn mwy na saith mil," y byddai yn well ganddynt vyynebu y stanc a'r arteithglwyd na gwadu cu crefydd a'u Duw. Yr Arglwydd aychwanego rifedi y rhai hyn. # # # Mac gwaith Mr W. T. Stead, y golygydd enwog, yn dyfod allan a chylchgrawn new- ydd, yn dwyn yr enw Review of Reviews, wedi creu cryn siarad a dadleu yn y byd llenyddol y dyddiau hyn. Ymddengys fod y misolyn, mor belled, yn llwyddiant, er fod amryw o brif gyhoeddwyr a pherchenogion y cylchgronau oedd eisoes ar y maes wedi dangos gwrthwynebiad nerthol iddo. Mae 11 I, Mr Stead drwy y symudiad diweddaf hwn o'i eiddo yn dangos yn eglur nad ydyw yn amddifad o anturiaeth. I ennill sylw ac i gario dylanwad ar y byd, mae yn ofynol fod gan ddyn dwysged o'r nwyd gwerth- fawr hwn. Gobeithio y ca lwyddiant cyf- atebol i faintioli a phwysigrwydd ei ymgym- y meriad anturiaethus. Mab ydyw i wcin- idog Annibynol, ac y mae ganddo frawd, os cywir y cofiaf, yn y weinidogaeth yn awr. # Yn ychwanegol at y Review mae dau gy- 0 haeddiad newydd arall, un dyddiol ac un wythnosol, wedi creu tipyn o siarad y dydd- iau hyn, sef y Daily Graphic a'r Speaker, gan Mr Wemyss Reid. Dywedirfod cylch- rediad y cyntaf yn 150,000 y dydd Nid ydyw yn dyfod o fewn terfynau y papyrau hyn ac ereill i amddiffyp Cristionogaeth, a hyrwyddo yn mlaen y doyrnas nad yw o'r byd hwn, ac yn anaml iawn y ceir yn eu colofnau brawfion fod y dwylaw a'u llyw- odraethant yn hyddysg yn ac yn deall egwyddorion safonawl, pur, a dyrchafedig, C, y y Ddatguddkd Dwyfol. Yn wir, ofnwn C, y w fod y pwerau a'u Ilywyddant, nid yn unio. yn anwybodus o'r pethau a gredir yn ddi" amheu genym, ond hefyd yn coleddu syn- iadau croes a gelyniaethusj iddynt. Beth gan hyny sydd i'w wneyd. Amlwg yw nas gall eglwys Dduw fforddio hepian a chysgu. -Gadawaf y gwaith o ddangos y sut a'r pa fodd i weithredu i rhywun arall. # # # Mae Harriet Beecher Stowe yn tynu yn gyflym tua'r "glyn." Ni ryfeddem glywed ei ly ZD bod wedi croesi adref at y mwyafrif cyn y gwelo y nodiadau rhai'n oleuni dydd. Yn mysg merched enwog America fawr nid oes neb yn uwch nag awdures daientog Uncle Tom'8 Cabin. Bellach mae ei diwrnod gwaith ar ben, a hithau yn dawel ddysgwyl yr amnaid" oddiwrth y Sanctaidd hwnw" i groesi adref. Cyssegrodd ei thalentau dysglaer i wasanaethu ei chyd- ddynion mewn materion dyddorol a thra- gywydclol bwysig, a dengys y I dydd ddaw' 02 oy y rhan flaenllaw a gymmerodd yn mrwydr Z)y rhyddid y caethion Americanaidd. Gwerthwyd tri chan' mil o gopiau o Uncle Tom's Cabin y flwyddyn gyntaf y gwelodd oleuni dydd! Mae son am y foneddiges hon yn dwyn i'm cof enwau boneddigesau eraill a fu o wasanaeth mawr i grefydd a llenyddiaeth yn y wlad hon, megys Mrs Hemans, Lady Huntington, Elizabeth Fry, Ann Griffiths, Frances Ridley Havergal, ac eraill. Mae rhywsut yn naturiol i ni deimlo yn gariadus tuao- at ö y deallus a'r talentog, ond pan fyddo y dalent loewaf yn cael ei hoffrymu ar allor defnyddioldeb, sancteiddrwydd, a chrefydd, mae genym barch dau-ddyblyg tuag at y cyfryw. Da genyf ddeall, Mr Golygydd, fod rhag- 0 olygon y SEREN yn ffafriol ar ddechreu y flwyddyn. Boed iddynt ddyfod yn fwy felly o cldydd i ddydd. Cyfoethoged ein gweinidogion penaf a'n llenorion addfetaf 0 11 ei cholofnau a ffrwyth eu meddyliau, a deued'yr enwad allan i'w chefnogi fel un gwr. Bydd hyny yn ennill i bawb. Mae yn alarus meddwl, ond dyna'r ffaith, fod yn N ghymru weinidogion ar eglwysi Cymreig yn derbyn cyflogau da, lieb fod yn dderbyn- wyr o unig newyddiadur wythnosol Cym- reig ein cyfundeb Ni ddylai y pethau hyn fod. Yr oeddwn wedi bwriadu. ysgrifenu ychwaneg, ond y mae yn rhaid i mi derfynu y fan hon heno. Caerdydd. PLINIUS. o
SARON, TRELETTERT.
SARON, TRELETTERT. CYFARFOD ADLONIADOL.-Nos lau, Ion. 16eg, am 6.30 o'r gloch yn yr hwyr, cynnal- iodd yr Ysgol Sabbothol yn y lie uchod gyfarfod i adrodd a chanu, o dan lywydd- iaeth y Parch B. Thomas, y gweinidog. Nodwedclid y rhagdrefn gan amrywiaeth gyfoethog mewn cerddoriaeth ac adroddiad- au. Cynnwysai 45 o wahanol adranau. Canwyd unawdau, deuawdau, triawdau, caniadau a chydganiadau, anthemau, a thonau gan gor y plant. Arweinydd y gan oedd y brawd gweithgar Mr W. Nicholas, Broadmoor. Adroddwyd darnau o fardd- oniaeth, rhyddiaetli, dadleuon, holiadau ac atebion rhwng athrawes a'i dosbarth. Ad- roddwyd yn fedrus a meistrolgar, a chan- wyd yn gerddgar a soniarus, ac arwyddai y gynnulleidfa fawr oedd yn gwrando ei bod yn cael ei dyddori a'i boddhau yn fawr. Pallai gofod y SEREN i ni enwi y canwyr a'r adroddwyr, ond digon yw dweyd fod pawb wedi myned trwy eu gwaith yn rhag- orol ac ardderchog. Ar y diwedd, ar gyn- nygiad y cadeirydd, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch gwresog i'r oil a gymmeras- ant ran yn y gweithrediadau, ac ymadaw- odd y dorf oedd yn wyddfodol wedi ei had- loni a'i boddloni yn fawr. Melus, moes etto; ac eiddunwn lwyddiant mawr i'r Ysgol Sabbothol yn y lie. ARSYLLYDD.
RHOSYBOL.
RHOSYBOL. Nos Fercher, lonawr 15fed, cynnaliwyd cyfarfod yn ysgol y Bwrdd. Llywyddwyd ar gais y llywydd pennodedig gan Mr E. Rowlands (Ynysog), Rhosgoch, yn fedrus a meistrolgar yn ol ei arfcr. Tafarnwr ydyw Mr Rowlands, ond Rhyddfrydwr selog a gweithgar mewn barn a gweithred. Cym- 11 Z5 merwyd rhan yn y eyfarfod gan ein parchus Aelod Seneddol, Mr T. P. Lewis. Yr oedd Mr Lewis yn ofni na chawn Ddadgyssyllt- iad a Dadwaddoliad yn Nghymru yn nghorff y ddau ganrif nesaf, ond bydd i ni gael Llywodraeth Dalaethol (Home Rule) oc yna ar ol cael Ilome Rule bydd yn hawdd i ni gael Dadgyssylltiad a Dadwaddoliad, yn nghyda mesur gwerthfawr Mr John Bryn Roberts, sef Mesur y Tir, &c. Gall. wn yn hawdd feio ein Haelodau Seneddol paham na ddygent allan fesurau ag yr ydym ni fel Cymry yn sychedu am danynt. Dyma ddywed Mr Lewis,—Gallent yn rhwydd gynnyg mesur, ond y pwnc mawr ydyw cael amser yn y Senedd i'w ddadleu, ac o'i ddadleu cael mwyafrif o'i blaid. Y nesaf i siarad ydoedd Mr Elias Jones, U.H., Gwredog. Trethi'r tlodion, a hawliau y Cynghor Sirol, oedd gan Mr Jones fwyaf o dan sylw. Nid ydyw y tlodion yn der byn ond dwy ran o dair o arian eu treth. Beth am yr holl longau, pa rai sydd yn werth miloedd lawer o bunnau, nid oes ceiniog yn.dyfod oddiwrthynt at gynnal y dreth dlodion. Paham na threthir hwy? Trethi trymion ar ysgwyddau ffermwyr gweiniaid. Mae Mr Jones hefyd yn credu yn ddiysgog y cawn ni lywodraeth gartrefol yn Iled fuan. Hei lwc. Nid oes neb yn Nghymru, medd Mr Jones, a wna y tro i ni yn Mon yn well Aelod Seneddol na Mr Lewis. Yr oedd ef yn ei adnabod yn dda ei's 30 mlynedd. Nid yw Rhyddfrydwyr Sir FÔll yn rhai a wna droi gyda phob awcl. Yna cynnygiodd Mr Jones ein bod yn parhau yn ein hymddiriedaeth yn Mr Lewis. Eiliwyd y cynnygiad gan Mr John Owen, Ysw., Bryntirion. Yna galwyd ar Mr Jones, o Lundain (dyna fel y galwyd ef yn mlaen). Dyma areithiwr ydyw Jones Llundain. Dawn ymadrodd yn ddifesur ganddo (felly i fy nheimlad I, beth bynag,)—taro yr hoel ar ei phen bob gafael yr oedd. Addyscr Ganol-raddol oedd prif bwnc ei araeth°. Eglurodd y lies a ddeilliai oddiwrth Addys^ Ganolraddol. Buaswn yn hoffi pe buaswn yn gallu rhoddi araeth Jones Llundain i lawr air yn air, er mwyn i ddarllenwyr y SEREN gael ei cliloriannu. Yn olaf awd at y gwaith o ethol tri swyddog i'n cynnrychioli fel Rhyddfrydwyr C, y Rhosybol. Cynnygiwyd gan Mr Jones, Gwredog, Mr John Owen, Bryntirion eil- iwyd gan Mr Hugh Parry, Morfa. Etta cynnygiodd Mr Jones Mr Robert Jone« Gorslwyd Bach; eiliwyd gan Mr W. Lewis' Ty'nybuarth. Cynnygiwyd gan Mr 6\ Owens, Tanyfawr, Mr Owen Jones, New Yoik eiliwyd gan Mr W. Davies, Plasv- ftrwyd. "Nid da lie gellir gwell." Mae y ddau gyntaf yn Fethodist, ac wedi eu cynnyg gan Fethodist, sef Mr Jones, Gwredog; ond mae yr olaf yn Fedyddiwr. Gan fod yn Rhosybol dri eyfundeb ere. fyddol, onicl gwell fuasai dewis un o bob Ull. Nid oes gan yr Annibynwyr yr un wedi ei ddewis. Rhaid tewi, fel yna y bu. Mynydd Parys. JOHN WILLIAMS.
Family Notices
PRIODWYD,— lonawr 19eg, yn Nghapel Seion, Bryn- 0 mawr, gan y Parch J. W. Moore, y gwein- idog, ac yn ngwydd y cofrestrydd, Mr ,J_ Evans, gyrwr, Co-operative Stores, Blaina a Miss E. Guttins, Garn, Nantyglo. Eidd' unwn iddynt bob llwycldiant.