Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
o. THOMAS, Hafod, Swansea. i Gents' and Ladies j Silver Watches, 18s., 21s., 25s. ¡ English Levers! from 52s. to 105s. j Guaranteed for 3 years or exchanged (unless damaged) if not satisfactory, j Largest Stoçk of Watches in Swansea.J
Advertising
D. THOMAS ■ j Hafod, Swansea, W edding' Rings & Keepers, Gold and Silver Chains, &c., Electro Plate. Spectacles, &c. Large Assortment, various qualities, lowest prices. Any article sent car- ) riage paid. Gwertli Amrywiaeth. a Ehag-oriaefh BajEwaaBg-gBaw—n—^
JTJBILI YR ACHOS BEDYDDIEDIG…
JTJBILI YR ACHOS BEDYDDIEDIG YN BIRKENHEAD. Cafodd Birkenhead ei enwi oddiwrth Birkett. Ei ystyr, meddai rhai, yw (t The Priory of Birkett," tref ar ochr orllewinol yr afon Mersey, ar gyfer Liverpool. Cyn- nyddodd yn gyflym iawn. Yn 1818, sef y flwyddyn y daeth Daniel Jones yn wein idog i'r Bedyddwyr yn Liverpool, nid oedd ond hanner cant o drigolion, oud erbyn 1845 cynnyddodd i 14,000, ac yn awr gellir cyfrif tua 100,000. Yma y dechreuodd y Street Railway, neu Tramway, gyntafojyn Lloegr yn y flwyddyn 1860. 0 Dechreuodd y Methodistiaid Cymreig o flaen y Bedyddwyr, ac adeiladasant en I haddoidy cyntaf yn Market Street yn 1837. Dechreuodd y Wesley aid Cymreig yn 1839 ond yr Annibynwyr ar ol i'r Bed- yddwyr ddechreu, sef ar yr 28ain o Ionawr, 1842, yn nhy John Williams, joiner, Albion Street. Yn 1844 yr oedd 11 yn y gyfeillach, ac agorwyd eu capel cyntaf yn Oliver Street ar ddydd Gwener y Groglith, 1846. Rhif ei aelodau oedd 84, ond trwy y strike a'r dociau yn sefyll, daeth i lawr yn 1847 i 33. Ar yr 21ain o Ebrill, 1848, daeth Mr Morris yn weinidog trwy gym- horth y tair eglwys oedd yn Liverpool, pa rai a gyfranent 15s. yr wythnos at ei gyn naliaeth. Dyna i chwi esiampl dda. Erbyn lonawr, 1853, nid oedd ganddynt ond 27 o aelodau. Ond yn awr at y Bedyddwyr. Cynnal- iwyd cyfarfod yn addoldy Great Crosshall St. ar y 15fed o Fawrth, 1839, i ystyried y priodoldeb o godi achos yn Birkenhead, ac yn y lllis canlynol dechreuwyd (y brodyr blaenllaw oeddynt D. Williams, Woodside, a liucfl-t, Roberts, Seacombe,) yn nhy Mrs ZD Yeo (aelocl o Gt. Cross), 37, John St. Yr oedd Mrs Yeo yn ddynes fawr ac esgyrnog, 0 05 ac yn cadw stand yn y farchnad. Yr oedd ei gwr yn Eglwyswr. Y bregeth gyntaf gan Dl. Jones oedd oddiar y testyn "Pwy a gyfyd Jacob." Yn mhen ychydig amser symudodd y bobl o'r dref, a'r achos a fu farw (sef yn y flwyddyn y cafwyd y Cattle and Cheese Slioic gyntaf, a'r flwyddyn hon hefyd agorwyd capel y Bedyddwyr Seisnig yn Pembroke Place, Lerpwl), felly bu farw cyn pen y flwyddyn. Ail-ddechreuwyd yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf (1840), sef y flwyddyn y priododd em Brenhines, ac lief yd yn yr hon y cynnaliwyd Eisteddfod ardderchog yn Llynlleifiacl (ai hon oedd y n cyntaf tu draw i Glawdd Offa 1), blwyddyn y dechreuwyd y Post ceiniog, a'r flwyddyn yr agorwyd y Birkenhead & Chester Rail- way hefyd. Dechreuwyd yn ngegin ty bychan Mrs Yeo yn Hamilton Terrace. Cadwyd ysgol boreu S.ul am 10, gyda rhyw chwech o ysgolheigion; oedfa yn y pryd- 0 nawn am ddau, ac hefyd yn yr hwyr am chwech. 0 ddeg i ddeuddeg oedd rhif y 0 gynuulleidfa; yr oedd cyfarfod hefyd ar nos Fawrth. Talwyd Is. 6c. yr wythnos1 am y lie a'r glanhau. Job Jones oedd yn gofalu, ac yn cael ei gynnorthwyo gan Cornelius Jones, William Jones, Mrs Yeo, a rhyw ferch ifanc. Benjamin Thomas, John Humphreys, a William Jones, Mann Street (yr oil o Lerpwl), oedd yn pregethu y rhan amlaf, ac weithiau fachgcn ieuanc tua 15 ml. oed—John Evans bach, fel y gelwid wedyn (J. D. Evans, Caio). Cangen o Gt.' Cross a ystyrid yr aelodau a aethant dros y dwr i'r eglwys i gymuno. Yn y flwyddyn 1841 bedyddiwyd John Edwards ac Edward Foulkes yn Stanhope St. (y rhai cyntaf o Birkenhead). Tua'r adeg hon bu rhyw gamddealltwriaeth, a symudodd yr aelodau 0 Gt. Cross i Stanhope St.; a phan (Idaeth Mr Roberts (Nefydd), gweinidog y 0 Stanhope, l bregethu yma, daeth rhyw ddeuddeg o Gt Cross i'w wrthwynebu ef, ac _yn bygwth ei tad-yn-nghyfraith, Dl. Jones, nes torodd i wylo. Yn y flwyddyn hon yr agorwyd y Birkenhead & Claugliton Gas Works, ond yr oedd y bobl yma yn goleuo. y lie 'a'r canwyllau ac un nos Sul ar ganol y bregeth snwffiodd un brawd y ganwyll allan, ac un ar yr ochr aral1, gan feddwl rhoddi mwy o oleu, a snwffiodd hono, ond aeth hono allan hefyd, ac felly y buont yn y tywyllwch. Buont yn Hamilton Terrace am tua blwyddyn, a symudwyd i dy Ed. Williams, Princess Terrace, allan o Ivy St., ac wedyn i dy John Edwards, 17 George St. Yr oedd y gynnulleidfa yma yn rhifo tua 40, ac yma y corffolwyd 16 yn eglwys gan Nefydd yn 1842-dywed rhai tua mis Medi, ac os felly yn y flwyddyn 1841 y ffurfiwyd yr eglwys. W. Williams (gynt tafarnwr o'r Crown -Inn, Treffynon,) a ddewiswyd yn ddiacon, a J. Edwards yn ysgrifenydd. Oddiyma symudwyd i'r hen garchardy yn Old Chester Road, lie yr oedd y meinciau wedi pydru; ac un Sul, pan oedd Benjamin Thomas yn pregethu, slip- iodd coes un fainc, lie yr oedd o 4 i 5 yn eistedd ami, a dynes fawr lysti a thrwm wrth y pen. I lawr a nhw ar ben y wraig nes gwaeddodd allan, 0 mercy on us." Nid hir y buont yma; aethant i Back Chester St. am 3 i 4 wythnos, ac ar ddydd yr Arglwydd, Ebrill lOfed, 1842, cafwyd cyfarfod mawr agoriadol yr ystafell newydd yn yr Albion" Hotel, cornel Market St. a Cross St. Gwasanaethwyd gan W. Jones, Morris Evans, a W. Roberts, o Stanhope St.; Renj. Thomas, o Gt. Cross; J. Evans a J. Roberts, o Gt. Howard St, (Athol St. < wedyn); Robt. Morris a Dl. Jones, Sir Thomas's Buildings (split newydd o Gt. Cross). Yr oedd y ferrage yr adeg hyn yn dair ceiniog o Lerpwl. Bu Mr Willoby perchenog Old Tranmere Ferry, yn garedig iawn wrth yr achos bach, gan roi free pass yn chwarterol am tua blwyddyn i'r pregeth- wyr. Yn y flwyddyn 1843 derbyniwyd yr eglwys hon i'r Gymmanfa. Nis gwn am ba hyd y buont yn yr Albion Hotel cyn symucl i'r Mechanics Institute neu Academy oedd yn sefyll lie mac y Town Hall pres- enoL Ystyrid y lie yma yn un braf iawn, ac yn dal tua 80 o beisonau. Yr ardrcth oedd 5s. yr wythnos. Yr oedd y pregeth- wyr yn cael Is. am eu gwasanaeth yn awr. Yn 1847 yr oedd masnach y dref yn bur isel, ac aeth llawer o'r dref, a gwelwn i rif yr aelodau fyued i lawr i 13. Tua 1848 ordeiniwyd Samuel Hughes i weinyddu yr ordinhadau. Arosodd yma am ychydig o flynyddoedd, ac yna aeth i America. Yn 1849 ymunwyd ag eglwysi Lerpwl yn 0 In Nghymmanfa Bregcthu y Pasg. Tua'r adeg hyn y dechreuwyd casglu at gael capel iddynt eu hunain, ac ar dydd Sul y Pasg, 1852, cynnaliwyd y gymmanfa yn addoldy yr Annibynwyr Cymreig yn Oliver St., ac ar ddydd Llun cafwyd cwrdd te yn y Craven Rooms, ac eisteddodd o 700 i 800 wrth y byrddau. Casglwyd yn y cyfarfod- ydd dros. 50p. Yr oedd tir wedi ei sicrhau yn Price St., a phenderfynwyd i adeiladu yn ddioed. Nid hir y buwyd wrthi-gor- phenwyd yr adeilad erbyn mis Rhagfyr, ac agorwyd yr addoldy ar ddydd Nadolig o'r un flwyddyn, sef 1852. Ei gost oedd 812p. Daethant yma o'r Academy gyda 54 o aelodau. Ni fuont yma, yn hir cyn chwilio am weinidog, ac ar gynghor David Price rhoddasant alwad i Wm. Roberts, y Rhos (fel yr adnabyddicl ef), tua mis Awst, 1853. Yr oedd W. Roberts wedi bod yn weinidog gyda'r Wesley bach yn Liverpool, ac a C, 0 argyhoeddwyd yn nghylch bedydd y Testa- ment Newydd, ac a gymmerodd ei fedyddio, ar ol araeth ganddo ar brydnawn Sul yn Gt. Cross, gan ei weinidog, Dd. Price, rhyw dri mis cyn hyny. Bu yma yn weinidog am. lp. yr wythnos, ac arosodd am 16 o fis- oedd, ac aeth oddiyno i Trosnant, ac oddi- yno i Rhos a Phenycae; a bu farw ar y 25ain o Chwefror, 1878. Yr oedd yn bre- gethwr da, fel y dengys yr englyn hwn:- 0 Roberts sydd ddiarebol—o nodau Gweinidog defnyddiol; Y gwir yw, a gwir o'i ol, Dyna bregethwr doniol. Buont am amser heb weinidog. Yr oedd masnach y lie yn bur isel tua'r adeg hon. Yn 1857 darlithiodd Dd. Price yn Great Cross ar "Hanes Llenyddiaeth y a'r elw i'r eglwys yn Birkenhead. Yr un flwyddyn daeth Benjamin Davies o Lan- santffraid-GIan-Conwy yn weinidog, a bu yma hyd 1861, ac ymadawodd trwy ryw wrthwynebiad iddo ond nid oedd dim yn erbyn ei gymmeriad. Ac yn yr un flwyddyn daeth Isaac Thomas ar yr 22ain o Ragfyr o Athrofa Pontypool. Yr oedd yn enedigol o Jezreel, ac a fedyddiwyd yno gan D. Jenkins, ac oddiyno yr aejfch i'r athrofa, ac o r athrofa i Birkenhead, fel y sylwyd o'r blaen. Cafodd ei ordeinio arSul Chwefror 16eg, 1862, gan W. Roberts, Rhos, y gwelllldog. cyntaf; W. Thomas, Gt. Cross, a D. Jenkins, Jezreel, Ceredigion a chaf- wyd cwrdd te dydd Llun yn addoldy y Bedyddwyr Seisnig yn Grange Lane, ac eisteddodd 600 wrth y byrddau. Cynnydd- odd y gynnulleidfa mor gyflym fel y gorfu- wyd i helaethu eu pabell trwy roddi darn o dir oedd wedi ei ardrcthu yn yard glo wrth gefn yr addoldy yn Brook St. Aeth y gynnulleidfa i addoli mewn ystafell yn Victoria Street o mis Gorphenaf i fis Medi tra wrth y gwaith o helaethu. Agorwyd yr addoldy helaethedig ar y 3ydd a'r 4ydcl o Fedi, gan A. J. Parry, Cefn Mawr, a Jno. Thomas, Llandudno. Maint v capel erbyn hyn oedd 62 troedfeddi o hyd a 36 o led, a'r Festri 30 o hyd ac 11 o led. Aethant i'r draul o 330p. 14s. 51-c., a rhif yr aelodau 2 ddim ond 40. Yn y flwyddyn hon cyfran- wyd y swm o 86p. 4s. 3c. at Gymdeithas Adeiladu Bedyddwyr Cymru, ac hefyd caf- wyd benthyg lOOp. o'r un gymdeithas. Ar y 19eg o Hydref, 1865, <priododd y gwein- idog a Miss Annie Colwell Hicks, Lord St., yn swyddfa y cofrestrydd, ac ar y 4ydd o Fawrth, 1866, bedyddiwyd Mrs Thomas, yr hon oedd oddiwrtli y Wesley aid Seisnig, gan E. Williams, Manchester. Yn y flwyddyn hon y cofrestrwyd yr addoldy i weinyddu priodasau, a Jno. Hughes oedd y cyntaf i briodi ynddo. Yn 1867 yr oedd y lie mor llawn, braidd cymmaint a chyn helaethu. Yr oedd yr oedfaon fel y can- lyn:—Sul, 9.30, cyfarfod gweddi; 10.30, C, Z) pregeth; 2, ysgol; 5, cyfarfod gweddi; 6, pregeth. Nos Lun, cyfarfod gweddi; nos Fercher, cyfeillach; nos Iau, cyfarfod canu nos Sadwrn, cyfarfod gweddi: ac yr oedd- ynt yn gwneyd ymdrech da i ddileu y ddyled, er iddynt dalu 77p. lis. 3c. at y Drysorfa Gofladwriaethol. Ymadawodd 1. Thomas ar y 25ain o Chwefror, 1868, i Blaenywaen, a rhoddwyd iddo desk wedi ei gwneyd gan un o'r aelodau, a phwrs o aur. Derbynipdd lythyr parchus o Gymmanfa D. Ff. a Meirion i Gymmanfa Penfro. Agorwyd llyfrgell newydd i'r Y sgol Sul ar Gorphenaf lleg, 1869 yn mis "Medi yr oedd y ddyled ar yr addoldy yn 285p. Ar Rhagfyr 14eg, 1869, cynnaliwyd cyfarfod i groesawu Dr Price, Aberdar, a'i ferch Emily, ar eu dycjrweliad o America. Y gweinidog nesaf a ddaeth yma oedd John Thomas, o Glanwydden, yr hwn oedd wedi bod yn weinidog yn hen addoldy Thomas Rhys Davies er 18G7. Sefydlodd yma ary 15feclo Fai, 1870, a chafwyd cwrdd te i'w longyforch of. Yn fuan ar ol hyn bu tipyn o helynt yn nghylch achos Edmund Street, am fod J. Thomas yn pregethu yno. Anghymnieradwyodd Cym- manfa D. Ff. a Meirion waith J Thomas yn pregethu yn Edmund St., a'r canlyniad fu i'r eglwys yn Birkenhead yriddiswyddo o'r gymmanfa ac yn y cwrdd chwarter yn Llansantffraid gofynwyd iddynt ail ystyried cyn tori y cyssylltiad, ond aroswyd allan. Ar yr 31ain o Awst, 1871, rhoddodd J. Thomas rybudd i ymadael. Yr oedd yn byw yn Llandudno yr holl amser yr oedd yma yn weinidog, a deuai yma ar ddydd Sadwrn dros dydd Llun. Yr oedd ei wraig yn cadw shop llestri yn Llandudno. An- rhegwyd Dd. Jones, un o'r athrawon, a ■writing desk a llyfr hardd gan ddeiliaid yr Ysgol Sul ar ei ymadalviad i America ar y 12fed o Chwefror, 1873. Rhoddasant alwad i fyfyriwr o Llangollen, a aeth yno o Brynhyfryd, Ebbw Vale, yn 1872. Der byniodd yr alwad gyda chryn dipyn o bryder ar y 29ain o Awst, 1873, ond am nad oedd amser ei efrydiaeth i fyny am flwyddyn, daeth i supplio un Sul bob dau fis, ac ar yr 13eg o Fedi, 1874, dechreuodd John Williams fugeilio yr eglwys hon, ac ar y Sul canlynol ordeiniwyd ef. Ar y 3edd o Dachwedd, 1873, talwyd y rhan olaf o'r ddyled, a bu Miss Jones, Lord St., a rhan bwysig yn y gwaith. Ar yr 22ain o Ragfyr, 1874, pan oedd Cymmanfa D. Ff. a Meirion yn cynnalei cliyfarfod chwarterol yn Coedllai, ail-ymunodd yr eglwys a'r gymmanfa, a thua'r un adeg rhoddasant rybudd i eglwysi Lerpwl na fyddent yn ymuno a Cymmanfa y Pasg am fod cym- maint o waith i'r pregethwyr groesi yr afon, ac yn lie hyny cynnalient gyfarfod pregethu 0 eu hunain, Y cyntaf o honynt oedd o'r lleg i'r 14eg o Fehefln, 1875. Yn mis Rhagfyr, 1875, cymmerasant ystafell yn St. :>, Paul's Road, Tranmere, fel cangen, ond ni lwyddasant. Yn mis Tachwedd5 1877, gollyngwyd amryw i ffurfio eglwys newydd yn Seacombe, gyda rhai o St Paul's Square, Lerpwl, a chorffolwyd yr eglwys ar y 18fed o Dachwedd gan L. W. Lewis a J. Wil-1 liams, gweinidogion y ddau le. Yn 1878 gwerthasant y tai celd wrth oclir y capel am 21 Op., ond trwy y costau a'r cyfreithio i atal y rhai a'u prynasant i adeiladu shopau i fyny i'r palmant (ond ni lwyddasant), cafwyd gweddill o lOlp. 8s. 7c. yn unig. Wedi i J. W. fod yma am yn agos i chwe' blynedd, symudodd i Abeiteifi yn 1880. Tua'r adeg hyn y dechreuasant son am gael addoldy mewn man mwy canolog, am fod y dref yn cynnyddu yn gyflym tua Tranmere, ac yii 1881 prynasant ddarn helaeth 0 dir yn y Woodlands am 202p. 15s. le.-tvia 4s. 6c. y Ilatlt,-ac ar y 14eg o Chwefror, 1882, penderfynoid Undeb Bedyddwyr Lerpwl i gymmeradwyo eglwys Birkenhead i adeiladu ac felly hcfyd cwrdd chwarter D. Iff. a M. ar ei eisteddiad yn Glynceiriog Mawrth 8fed, 1882, a byth wedyn y maent wedi casglu rhyw lOOp. yn flynyddol at drysorfa yr adeilad a chynnygiwyd yr hen addoldy ar werth. Cynnaliwyd cyfarfod ar y 12fed a'r 13eg Hydref, 1884, i sefydlu Joseph Davies, yr hwn a fu yn weinidog Brymbo am 11 mlynedd, yn Birkenhead ac y mae yma yn brcsenol yn ddiwyd gyda'r eglwys, yn ysgrifenydd Undeb Bed- yddwyr y cylch, ac a fu felly i Gymmanfa D. Ff. a M. Llwyddasant o'r diwedd yn mis Mawrth, 1889, i werthu yr hen addoldy yn Price St. i.Fyddin yr Iachawdwriaeth am 750p., ac erbyn hyn yr oedd ganddynt l,800p. mewn Haw ar gyfer y contract o 2,250p Gosodwyd cerrig coftadwriaetliol gan fab y diweddar a'r gweithgar Price Morris, a Miss Jones, Lord St., yr hon drwy ei rhoddion a chasglu a ychwanegodd 0 In at y drysorfa dri chan' punt. Wedi gwerthu y capel aethant i addoli yn y Waverley Rooms hyd. nes yr oedd y lie yn barocl. vVecli gorphen yr ysgoldyo dan y i capel, agorwyd hi ar ddydd yr Arglwydd, y 10fed o Dachwedd, trwy gynnal cyfarfod gweddi yn y boreu am 10.30, pryd yr anerchwyd gorsedd gras gan naw o bcrsonau, a chafwyd anerchiad pwrpasol gan y gwein- idog ysgol y prydnawn, ac oedfa y nos. 0 0 Yr oedd y cyrddau yn fendigedig. Aros 0 0 asant yn yr ysgoldy hyd nes y gorphenwyd y capel, ac ar Sul yr 22ain o Ragfyr agor- wyd yr addoldy. Cynnaliwyd y cyfarfod- ydd dros Nadolig, y Sul canlynol, &c. Gwasanaethwyd gan weinidogion Liverpool a Bootle, dau o'r cyn-weinidogion, sef Isaac Thomas, Caersalem Newydd, a John Wil- liams, Abcrteifi; hefyd, J. D. AVilliaiiisoii, Myrtle St., Lerpwl. yn Seisnig. Cafwyd cyfarfodydd lluosog a da. Ni wyddis faint yw cost yr adeilad, am na ddaeth y bill am yr extras i mewn. Mae yn glod i'r eglwys fod ganddynt can lleied 0 ddyled °wrth agar eu lIe newjJ<i. DjdJod bn..r1+h yr Arglwydd ar y ty newydd yn helaetliach nac ar yr hen. Gwelwn wrth hyn iddynL agor yr addoldy yn yr Woodlands, nirken head, hanner can' mlynedd ar ol dechreu yma, sef blwyddyn eu Jubili. E. O.
Y PARCH. J. D. EVANS, CAIO.
Y PARCH. J. D. EVANS, CAIO. Y mae enw y gweinidog parchus uchod 11 yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn ein cyfenwad yn Nghymru, ac y mae hefyd yn boblogaidd a pharchus yn mhlith cyfenwad- au gwahanol y Dywysogaeth fel pregethwr a boneddwr Ciistionogol. -N id hir y bu Mr Evans wedi ei ordeiniad yn y weinidogaeth yn Felinganol, yn y flwyddyn 1851, cyn dyfod (fel y dywedir) i'r golwg fel pregethwr dcrbyniol a phoblogaidd. Cawsai yr adeg hono alwadau mynych i gyfarfodydd mawr- ion a chymhellion ami i ymgymmeryd gofal gweinidogaetliol eglwysi pwysig Yr oedd ymddangosiad boneddigaidd, llais swynol a clialondpoiddiol, yn nghyd a phregethau blodeuog a thlysion gweinidog Felinganol, yn ei wneyd yn ffafrddyn b'le bynag yr aethai. Bu ei weinidogaeth yno, er ond arosiad byr, yn hynod lwyddiannus. Yn y flwyddyn 1855, cafodd wahoddiad gwresog ac unfrydol gan eglwys barchus 0 ZD 0 cl Elim, Penydarren, i'w bugeilio yn yr Ar- glwydd, a chydsyniodd a'i cliais. Bu yn dra phoblogaidd yn nghylchoedd pwysig Merthyr a Dowlais tra yn Elim, a gwnaeth lawer o waith sylweddol yn nychweliad cannoedd o eneidiau at y Gwaredwr. Cofus gan yr Ysgrifenydd ei glywed yn pregethu ugeiniau o weithiau yn adeg ei weinidog- aeth yn Elim. Ysgydwai gynnulleidfaoedd mawrion, a gwefreiddiai braidd bawb a'i gwrandawai. Yr oedd y tonau mawrion o'r hen wyliau a godent yn hyfryd a dymunol, ac hiraethwn yn fynych gael oedfaon cyffelyb. Yr oedd brawddegau byrion, athronyddol a thlysion y pregethwr yn disgyn fel tan ar y gynnulleidfa, a bcrwid yr amenau a'r diolchiaclan yn ngwres teim- ladau crefyddol y gwrandawyr, nes y gwreichionai eu llygaid, rhedai eu dagrau, a "I I In C) llenwid y capelau o Aleliwia a Ben- digedig" yr hen dadau a llawer iawn o frodyr ieuainc yn yr eglwysi. Y mae can- noedd heddyw yn nghylchoedd Merthyr a Dowlais yn cofio yn barchus ac yn anwyl am "Evans bach" Elim, Penydarren, ac oddiar adeg ei weinidogaeth yno wedi ac yn meithrin syhvadau uchel am dano fel dyn, Cristion, a phregethwr. Ond er mor gar- trefol y teimlai yn Elim, ac er mor anwyl oedd yn mynwes yr eglwys yno, ni chawsai lonydd gan eglwysi ereill. 0 Yn y flwyddyn 1860, rhoddwyd iddo alwad wresog gan hen eglwys barchus Llan- 0 0 gefni, Mon; ae o dan ddylanwad y taer-
Advertising
Largest Stock of Gold AND I SILVER GOODS IN WALES. SPECIALITIES: 22ct. Gold Wedding Rings. tilet. Gold Keepers. English Patent Lever Watches. Brazilian Crystal Spectacles. w. WILLIAM S, WATCHMAKER & JEWELtEE, 29, Castle Street, SWAISrSEA. Gymry hoff dewch at y Cymro, Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron, ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer; Yspectol gelfydd, hin-fynegydd. Gwres-fesurydd. Cwmpawd mor. Geir gan WILLIAMS, Heol-y-Castell, Trowch i mewn i wel'd ei stor. I
CYFARFOD CHWARTEROL SJR BENFRO.
CYFARFOD CHWARTEROL SJR BENFRO. Cynnaliwyd yr uchod yn Glanrhyd, ger Arberth, ar ddyddian Mawrth a Mercher,. Ionawr 2lain, ar 22ain, 1890. Pre^eth- odd y brodyr D. Rees, Carmel; D. Hussey, Milford; J. S. Johns, Sandy Hill (ar y pwnc rhocldedig, sef Cyssylltiad y Weinid- ogaeth â Gwleidyddiaeth); Proff. Davies, B.A.; W. Davies, Horeb; E. Thomas, Penfro; J. Jenkins, Hill Park; D.Jones Whitland; J.Johns, Sardis; B. Thomas' Trelettert. Dechreuwyd y gwahanol oed- faon gan y brodyr D. W. Phillips, Blaeny- waun J. John, Beulah D. Jones a J Jones, Blaenconin. Yn y gynnadledd pcn- derfynwyd fel y canlyn x V ?od <Uolchgarwch y gynnadledd yn I cael ei gyflwyno i'r brawd J. S. Jolms am
Y PARCH. J. D. EVANS, CAIO.
gymhellion derbyniodd hi, a bu yn llafurio yno yn dderbyniol a llwyddiannus am saith mlynedd. Yn y flwyddyn 1867, yiusefydlodd yn weinidog yn Bethel a Salem, Caio, Swydd Gaerfyrddin, lie y gweithiodd yn galed, ac y bu yn fugail gofalus a gweinidog llwydd- iannus hyd y rhoddodd i fyny ofal gwein- idogaethol yr eglwysi hyn dydd Su!, vr Sfeel o Ragfyr diweddaf. Felly gwelir ei fod wedi llafurio yn ei faes olaf am dros ddwy flynedd ar hugain. Bu hefyd yn y weinid- ogaeth yn ddidor am ddeunaw miynedd ar hugain. Amser mait-h vn y pwlimd ■ ond er mor rami, gellir dweya Jio& Ar Avans wedi ymdreulio yn dda, ac y mae yn lied gryf a phoblogaidd etto. Er fod Mr Evans wedi rhoddi gofal gweinidogaeth sefydlog i fyny am byth, etto bwriada gyflawni hyf- oy rydwaith ei galon tra yn gallu, sef pregethu yn achlysurol mewn eglwysi geisiant ei wasanaeth o bryd i bryd. Hefyd, bydd yn agored i wasanaethu mewn cyfarfodydd mawrion fel o'r blaen lie y byddo gal wad am dano. Deallwn fod y brawdoliaethau yn Bethel a Salem yn gwneyd tysteb i'n braw-d ar ei ymryddhad o'r weinidogaeth sefydlog, er dangos eu parch a'u serch ato. C, 1-1 Diau genym y gwneir yn odidog cydao- ycliydig ymdrech. Y mae gan Mr Evan? gannoedd 0 gyfeillion twymgalon ar hyd a lied y wlad a garent, fe ddichon, gael cyfle 0 i daflu eu hatlingau i'r drysorfa; felly, gobeithiwn y gwna y cyfeillion yn Caio roddi bob cyfarwyddid parthed y dysteb. Yn awr, gan fod Mr Evans wedi rhoddi gofal yr eglwysi yn Bethel a Salem i fynv, oni ellid llwyddo gancldo i gylioeddi cyfrol 0 o bregethau. Buasai yn drueni iddynt gael eu gadael yn farw yn y M.S. Credwn (os yn cofio yn ia wn) fod Ir Evans yn eu hysgrifenu yn llawn, ac felly ni fydd llawer o waith eu cyfaddasu i'r wosg. Dichon y bydd Mr E. mor garedig a dweyd gair ar y mater yma drwy SEREN CBIHU. Credwn yn ddiysgog y caiff ddigon o gefnogaeth i gylioeddi cyfrol o'i bregethau, yr hon yn sicr fydd yn gaffaeliad mawr i bawb a'i. pryna ac a'i darllena. Dvmuiiwn i n brawd hoff brydnawnddydd bywyd teg a maclilud- 0 iad gogoneddus fel haul Mehefin, pan ollyngo ei Dad Nefol ef o'r byd hwn,'ac fel Simeon mewn tangnefedd. Estyiied ei enaid i fyd yr engyl » gwIad yi, 0,fn hwyl y Ceidwad v bu mor swynol yn ei gyhoeddi yn Waredwr pech- aduriaid am gyhyd o amser. E i) ye, i, D P. --0--