Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYR,, &c. EIN DEHBYNIADAU.—Parch. David Lewis, Witton Park-James Jones-loan o'r Cwm-Cymro-Ab Arthur-Mab yn Aman, &c.—Un a Ymwrolodd— David Davies, Talog-Didymus- John Williams, Tonyrefail-Gwron-Ymholydd. Glandwr- Gwrgant—J. E. B. J. M.—Mae yr eiddocn chwi mewn llaw, ac yn y Swyddfa. Yr unig achos o'r oediad v w, diffyg lie. Yr ydym yn crefu am amynedd amryw o gyfeillion caredig ymdrechwn eich boddio mor fuan ag y gallom. IOAN O'R CWM. -Gwelwch fod y gofyniadau wedi eu hateb gan James Jarman. UN A YMWROI.ODO.—Daeth eich llythyr at y Parch. J. Jenkins i'n lIaw o'r Swyddfa, heb enw priodol. Ond pe buasii yn cynnwys e:ch enw priodol, ni fuasem yn ei gyhoeddi, gan na chanfyddwn nnrhyw amcan mewn golwg ond ymdrechu i ddolurio, heb nn achos, awdwr y traethawd y cyfeiriwch ato. Mae cynnyg gwneyd hyn dan ffugenw yn profi diffyg gwroldeb" ynoch chwi, beth bynag. D. DAVIES. Talog.-Cawsoch chwi dan y ffugenw" Veritas," gyfle i ddangos eich annghymnceradwyaeth i ymddvgiady Parch J. Evans, Elim, Park, trwy ofyn eich gofyniadau iddo. Cafodd' yntau gyfle i ateb ac ystyrhvn fod hyny yn Hawn ddigon, heb i ni gael ein trethu genych chwi i agor dadl, pa un a oedd yr ateb yn iawn ai peidio. Cofiwch chwi, ac ereill o'r un dosparth, pan yn gofyn gofyniadau ensyniadol, y gall yr atebion fod yn gyfryw nad ydych chwi'yn eu dysgwyl na'u hofn ond nis gallwn help am hyny. Mae yn ddiuon 3 rlreth arnom ni i dalu am argraffu a lledaeriu y gofyniadau a'r atehion, heb agor y drws i ddadt, wedi ei seilio ar yr atehion. Ffordd wael ac isel i geisio lladd cym- meriadcyhoeddus YIV, gofyn rhes o ofyniadau ensyniadol ac os atebir y cyfryw ofyniadau gyda y dinnyg a haeddant, yna rhaid trin yr atebwr am ei ddull yn ateb. 0 bob peth ag sydd wedi ein blino er pan mewn cyssylltiad a'r wasg, nid oes dim yn fwy na'r gofyniadau cyfrwys ac ensyniadol a roddir i weinidogion a chymmeriadau cyhoeddns ereill. Beth a all fod y rheswm fod hyn yn cael ei wneyd gan y Cymry yn fwy na neb ereill? Onid yw yn llawn bryd i ni vmgodi uwchlaw y fath ddull gwael o ddirmygu ein gilydd ? MARY RISES,—Trwy briodi, a'ch .gwr cyntaf yn fyw, byddwch yn agored i gosp cyfraith eichgwlad. MORGAN WILLIAMS.—Deuddeng niwrnod yw hyd y rhybydd i fod. W Crefwn sylw ein Guhebwyr at hyn:-Mae pob gohebiaeth a ddaw i law y Golygwyr yn cael eu hystyried yn gymmeradwy.os na fydd rhyw reswm yn cael ei roddi i'r gwrthwyneb, naill ai yn gyfrinachol neu yn ein sylwadau at ein Gohebwyr. Maent yn mvned i'r Swyddfa yn rheolaidd, ac yn cael ymddangos yn eu tro, yn ol fel y bernir hwy yn bwysig a dyddorol. Mae rhai o'n cyfeiilion yn ymddwyn dipyn yn gyfrwys, trwy anfon eu goheb- iaethau i'r Swyddfa heb yn wybod i'r Golygwyr. Mae hyn yn achosi dau beth,-L Trafferth a thraul i'r Cyhoeddwr i anfon y gohebiaethau i'r Golygwyr. 2. Byddantyn sier o fod wythnos yn hwy cyti ymddangos. Na fydded i neb feddwl ei fod yn ennill amser trwy fyned heibio i'r Golygwyr. fW Crefwn amynedd ein Gohebwyr; mae amryw bethau ar law cant ymddangos mor fuan ag y byddo yn ddichonadwv. Gwnawn drefniadau erbyn y Rhifyn nesaf, er cael rhagor o le i'r hanesion. 4W Maddeued ein cyfeillion caredig i ni am beidio cylioeddi enw- au y lluaws ag sydd wedi ein hanerch yr wythnos hon obarthed llwyddiant y SKREN Wythnosol—mae yn galondid mawr i ni. Bydd yn dda genych gtywed iod i'r SEREN dros FIL o dderbyn- wyr newydd yn y pythefnos diweddaf, ac o hyd y maent yn dod. TALI ADA u.-Rhodd wii gofres gyflawn o honynt yn y nesar. n oi Er mwyn arbed amser a thrafferth, bydded i'n Gohebwyr anfon eu cynnyrchion. yn ol eu gwahanol dueddiadau, f-1 y canlyn :— EW Pob hanesion-crefyddol a chymdeithasol, archebion, a thaliadau, i Mr. W. M. Evans, Seren Cymru Office, Car- marthen, RW Y ÚtAETIIODAU, GOHEBIAETHAU, &c.-Rev. T. PRICE, ROSE COTTAGE, ABERDARE. IW YR YSGRIFAU EGLWYSIG, o nodwedd yr erthyglau ap- weiniol Eglwysig, &c., — Rev. B. EVANS, PENYDREF HOUSE, NEATH. ISIF Y FARDDONIAETH -Rev. J. R. MORGAN (Lleurwg), LLANELLY, CARMARTHENSHIRE.

YR WYTHNOS

iiancsion tfartrffot.

í!byf¡ttfø4y44 í!bttfg4401.