Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TY'R CAPEL FRON OLEU.

News
Cite
Share

TY'R CAPEL FRON OLEU. Nos FAWRTH,—RHIF I. DEWC g: yn tnlaen frodyr. Hugh Morgan, eistedd yn y gadair yna. John Williams, 'machgen 1, tyr'd yn mlaen i'r ochr yma. Wmffre Dafydd, stwffa dithau i'r cornel draw dyna dy le di bob amser. WeI, nigawsom gyfar- fod gweddi hyfryd heno, frodyr," ebe William Sion. Do, hyfryd iawn, hyfryd neillduol," ebe'r brodyr. Ychwanegai Hugh Morgan Yr oedd Abraham Wil- liams yn ei hwyliau goreu heno; yr oedd pawb yn dda, ond yr oedd ef yn neillduol. Mae o yn gallu bod yn hapus iawn ar ei linia, yn yr vmadroddion ysgrythyrol mae yn fynych yn eu harfer. Oddeutu mis yn ol dywed- odd ddarn o ryw adnod; yn wir, yroeddwnl yn teimlo'n annghyffredin." Dyna lle'r oedd ei ogoniant heno hefyd," ebe John Williams. Pan y soniodd am y rhan helaeth o'r byd sydd yn blantos, yn bwhaman, ac yn cael eu cylcbarwain a phob awel dysgeidiaeth. Pan oedd ef yn dweyd fel mae awelon dysgeidiaeth cyfeiliornadau yn chwythu; awelon athrawiaethau gau, a dynion yn cael en hysgubo ymaith ganddynt, yr oeddwn I ar y pryd yn dych'mygu fy mod I yn gweled dynion yn cael eu troelli yxa a thraw gan yr awelon sydd yn y byd, yn debyg fel ag y gwelais weithiau ryw frychau, neu blu yn cael eu troelli yn yr awyr gan yr awelon naturiol." "Ond dyna'r amser y da'th hi yn hwylus/'atebaiWm- ffre Dafydd, "pan yr oedd o yn ceisio am 'r awal o Gal- faria ac 'n wirionedd I, yr ydw I'n meddwl yn 'nghalon y cafwd hi hefyd. Wyddoch, pan o'dd oyn dytnunadam dani arnom I, dechr'odd y bobol ysgwd bob y gun, fel gwilan goed 'nunion deg. Ac 'n wir, frodyr bach, rhaidi chi ada'l i fi ddwevd 'y nheimlad fy hunan, yr o'n inna yn teimlo 'i d'lynwad hi; 'ro'dd hi yn f'ysgwyd a bron a nghodi fel tasa odda'r y ddaear." Yr oeddwn inna bron yn yr un teimlad a thi," ebe William Sion. Mae eisieu mwy o weddio fel yna wir —eisieu gweddio am i'r awelon yna beidio, a'r awel o Galfaria i chwythu. Mae llawer iawn yn y dyddiau hyn yn cael eu troelli a'u harwain neu, fel y dywed y gair, eu cylcharwain. Cymmaint sydd yn awr yn ateb yn llyth'renol i'r gair cynnwysfawr yna, "cylcharwain. Mae miloedd o'r Mormoniaid yna yn ateb 'yn llyth'renol iddo wrth roundio y belen ddaearol i fyn'd tua'r Llyn halen. Ac yn wir, mae awelon gau ddysgeidiaeth ya chwythu yn gryf iawn ar y llyn hwnw mae'r gwyntoedd a'r awelon mor gryf, nes y mae miloedd bob blwyddyn yn colli eu bywyd. Priodol iawn vdyw yr enw yna arno fe, Llyn Halen mae yn hallt iawn i lawer. Mae amrvw iawn yn cael eu cylcharwain a phob awel dysgeidiaeth o Eglwys Rhufain ac mae'r awelon hyny yn cylcharwain llawer yn Nghymru yma hefyd oddiwrth y gwahanol en- wadau, yn round about." "Diolch yn fawr i chwi, William Sion," atebai Hugh Morgan, "am eich awgrymiadau. Erbyn edrych, mae eisieu gweddio am i'r awelon vna beidio; a phriodol iawn y gwnai Abraham Williams heno. Ond yr ydwyf fi o'r farn, mai nid ar yr awelon mae'r bai i gyd; mae bai. ar y dynion hefyd, i gymmeryd eu cylcharwain gan- ddynt." "Ond be' 'newch chi o blu?" ebe Wmffre Dafydd; plu o ddynion sydd yn cael eu roundio, eu troelli, a'u cylcharwain felly ac wyddoch, mae plu yn rhw'm o fyn'd gyda'r gwynt." Wedi ychydig o eiriau yn mhellach, gwasgarwyd, ac aeth pawb i'w fan, wedi cael bias ar yr ymddyddan. GWRANDAWWR.

(SolvcMactfau. :-,1(-

STOCKTON.

ATHROFEYDD Y BEDYDDWYR YN…