Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
EISTEDDFOD ABERDULAIS.
EISTEDDFOD ABERDULAIS. Dydd Nadolig diweddaf, cynnaliwyd Eisteddfod Gerddorol, yn fwyaf neillduol, yn Nghapel y Bedyddwyr yn y lie hwn. TOechreuwyd y cyfarfod cyntaf am 10 o'r gloch y boreu, pan oedd Mr. B. Evans, y gweinidog, yn y gadair. Wedi i'r cadeirydd anerch y gynnulleidfa luosog ag oedd wedi dyfod yn Dghyd mewn araeth wir bwrpasol i'r amgylchiad, cafwyd an- erchiadau barddonol gan y cyfeillion J. Hopkins, D. Gething, J. Thomas, J. Harris, W. Llewelyn, a T. Hopkins. Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch. J. Rowlands, Cwmafon, i roddi ei feirniadaeth ar y gan i Mr. R. Rosser, am ei haelioni yn rhoddi oriadur i gapel y Bedyddwyr yn y lie hwn. Rhan- wyd y wobr, sef 10s. 6c., rhwng Rynallt, sef Gwerfyl James, Aberdar, a Diolcbwr, sef Mr. Evans, y cadeirydd. Yn neiaf, galwvd ar y cantorion i ddyfod yn mlaen i gystadlu ar y Bon- eddwr mawr o'r Bala; gwobr 6s. Cystadlwyd gan bump cwmni. Dywedodd y Beirniad, Mr. M. Llewelyn, Heolyfelin, Aberdar, fod y wobr i'w rhanu rhwng T. Isaac a'i gyf.,o Aber- dulais, a D. Williams a'i gyf., o Dreforris. Y mweliad y Bardd; gwobr 2s. Chwech o fechgvn dan 16 oed yn ym- drechu. Rhanwyd y wobr rhwng D. George a H. Davies, o Landwr. Yr Amddifad; gwobr 3s. Canodd 17 cwpl. Rhoddwyd y wobi i H. Prosser ac A. Williams. Canwyd, 4t Away, away," gan gorau o blant dan 15 oed. Rhanwyd y wobr, sef 15s., rhwng cor plant y Methodistiaid a chor plant y Bedyddwyr yn Aberdulais, "Cymru lân, gwlad y gân;" gwobr 8s. Saith dosbarth, yn cynnwys 8 o bersonau yr un, yn cystadlu. Rhoddwyd y wobri 8 o Landwr. Yn nesaf, canwyd catch, 'Twas you, sir;" gwobr 3s. Un cwmni yn cystadlu, a chawsant y wobr. Yn nesaf, y farddoniaeth oreu ar destun rhoddedig ar y pryd gwobr 2s. 6c. Dyfarnodd y Beirniad, Mr. Rowlands, y wobr i J. Thomas, Aberdulais, yr hwn a i dychwelodd i'r pwyllgor. Yn olaf, canwyd "Worthy is the Lamb gwobr £ 5 5s. Yr oedd 5 o gorau yn cystadlu am y wobr, yr hon a ranwyd rhwng cor Landwr a ch6r capel Ioraeth. Yn y cyfarfod prydnawnol am ddau, cymmerwyd y gadair gan y Parch. J. Rowlands, yr hwn, ar ol agor y cyfarfod yn fyr ac i'r pwrpas, a alwodd ar y cantorion i ddyfod yn mlaen i ganu "Undoethada." Pedwar o drioedd yn cystadlu. Gwobr 7s. 6c. yr hon a ranwvd rhwng T. Isiae a'i gyf., Aberdulais, a D. Davies, a'i gyf., Glandwr. "The minute gun at sea." 4 cwpl yn cystadlu. Rhanwyd y wobr, sef 5s., rhwng George a'i gyf., Glandwr, a Rogers a'i gyf., Treforris. Ton, yr hon a roddwyd ar y pryd gan y Beirniad. 5 cwmni yn ymdrechu am wobr o 4s., yr hon a ddyfarnwyd i J. Williams a'i gyf., Aber- dulais. Yn nesaf, Delynorion, t'rewch y tant." Pump o gorau yn cystadlu. Gwobr E2, yr hon a ranwyd rhwng cor y Bed- yddwyr yn y lie, cor Landwr, a chor capel Ioraeth. Gwobr o 2s. 6c. am yr araeth roddedig ar y pryd gan y cadeirydd. Areithiodd saith, a rhoddwyd y wobr rhwng W. Williams, Glrndwr, a W. Hopkins, Aberdulais. Hen wlad fy Nhadau oedd y nesaf; 41 o ymgeiswyr am y wobr o 10s. Dymunodd y barnwr ar i'r holl ymgeiswyr gytuno i'w chanu gyda'u gilydd, a gadael y wobr i'r pwyllgor, yr hyn a wnawd yn foddhaol ar ei gais, ond yn ol cynnygiad un o'r cantorion, fod i'r barnwr ganu y solo iddynt, yr hyn a wnaeth er mawr foddlonrwydd i bawb. Yn nesaf, canu unrhyw gatch am wobr o 6s. Dy- farnwyd y wobr i D. Davies a'i gyf., Landwr. Yna terfynwyd un o'r eisteddfodau mwyaf dymunol y bum ynddi erioed. Cliriwyd X15 at glirio dyled y capel; ac erbyn hyn, mae yr eglwys wedi clirio yr holl weddill. Cynnelir cwrdd Jubilee yn fuan, er clod i Dduw am gael y fath waredigaeth. W. REIS, Y$g. O.Y.-Dylaswn ddweyd i'r pwyllgor roddi 5s. o wobr am y ddau englyn goreu i bob un o'r llywyddion. Rhoddwyd y wobr am y ddau englyn i Mr. Evans i J. Rees a rhanwyd y wobr am y ddau englyn i Mr. Rowlands, rhwng J. Harris, Scewen, ac E. Jones, Aberdulais.-W. R.
CYFARFOD LLENYDDOL ZOAR, LLAXDYFAEN.
CYFARFOD LLENYDDOL ZOAR, LLAXDYFAEN. Cynnaliwyd y cyfarfod uchod ar ddydd Nadolig diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. T. F. Williams, gweinidog y lie. Yr ydym yn hysbysu y testunau fel ag eu rhoddwyd allan i gystadleuaeth, ac nid yn y drefn yr ymdrinwyd a hwynt ar ddydd y cyfarfod. TRAETHODAU. 1. Traetbawd ar Onestrwydd. Derbyniwyd wyth cyfan- soddiad. David Thomas, Smith Arms, a Job Davies, Pentre. gwelais, yn gyd-fuddugol. 2. Traethawd ar Falchder. Derbyniwyd deuddeg cyfansodd- iad D. Thomas, Smith Arms, a D. Thomas, Cwmaman, yn gyd-fuddugol. BARDDONIAETH. 1. Pryddest ar y Gauaf. Derbyniwyd saith cyfansoddiad. D. Thomas, Cwmaman, a T. Roberts, Maes-glas, yn gyd-fudd- ugol. 2. Marwnad i Mr. Woo. Mathew, diacon yn Eglwys Zoar. Derhvniwyd saith cyfansoddiad buddugol, Job Davies. 3. Wyth o benriillion ar Amser (i rai o dan ugain oed); saith cyfansoddiad ddaeth i law. Buddugol, D. T. Richards, Cwmgrenig. 4. Englyn i Afon Cenen. Derbyniwyd pumtheg cyfansodd- iad; rhanwyd y wobr rhwng Henry Lewis a D. T. Richards. 5. Euglyn i'r Meddwyn, 15 cyfansoddiad. Heery Lewis a D. Thomas, Cwmaman, yn gyd-fuddugol. CANIADAETH. 1. "Trwv'r Nef Byrth," o Ystorm Tiberias. Yr oedd pedwar cor yn cystadlu. Barnwyd Cor y Tabernacl, Llan- dilo, vn oreu. 2, au Ashfield," o Udgorn Seion. Tri chor yn cystadlu Cor Dyfau, Cor y Mynydd, a chor Llewellyn. Rhanwyd y wobr rhyngddynt. 3. Triawd," Yna'r Gwyntoedd gydabrys," o Ystorm Tiber- ias. Dan barty yn cystadlu. Buddugol y Tri Cbyfaill, sef D. Thomas, D. Jones, a J. Williams. 4. Deuawd, "Gollyngdod," o'r Arweinydd Cerddorol. -Chwech yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng D. Evans, a Sarah Jones, Cross Inn, a D. Thomas a J. Williams, Zoar. 5. Deuawd Conference," o'r Ceinion (i fab a merch). Saith yn cystadlu; D. Evans a Sarah Jones, Cross Inn, a Watkin Morgan a Carbetta Thomas, Brynaman, yn gyd- fnddugol. 6. Deuawd, Can Hen Wr y Cwm," o Gydymaith y Cerddor I(i fab a merch). Saith yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng D. Evans, ac Owen Thomas, Cross Inn, a John Jones a Lydia Jenkins, Pen-y-groes. 7. Unawd Tenor Deffro," gan J. A. Lloyd. Deg yn cys- tadlu. Buddugol, D. Evans, Cross Inn. 8. Unawd fBassJ, "Teyrnasoeddy Ddaear. Wyth yn cystadlu. Goreu, D. Evans, Cross Inn. 9. "Clycbau Aberdyfi" (i ferched yn unig). Naw yn cystadlu. Buddugol, Carbetta Thomas. 10. Hen Wlad fy Nhadau (i fechgyn dan 20 mlwydd oed). Pump yn cystadlu. Goreu, Rees Thomas, Cross Inn. 11. Fy Nhad wrth y Llyw." Pump yn cystadlu. Ann Lewis, Gelly, yn fuddugol. ADRODDIADAU. 1. Dadl rhwng y diweddar yn dyfod i'r addoliad a'r cysg- adur vn y cwrdd (10 mynyd i bob dadl). Yr oedd pedwar cystadleuaeth ar y ddadl hon rhanwyd y wobr rhwng W. Thomas, Pistyll-gwyn, a'i fab, a W. Thomas a D. Edwards, Cwmamman. 2. Dinystr Jerusalem, o Goleg y Darllenydd. Yr oedd tri yn cystadlu, a gwobrwywyd y tri. 2. Beth yw Cariad ? o Oriau'r Hwyr. Pumtheg yn cys- tadlu. J. Rees, Llwynrhaf, a Lodwick, Tyuchaf, yn gyd- fuddugoi. 3. Y Ddanodd, o Oriau'r Boreu. Saith yn cystadlu. T. Lodwick a J. Thomas yn gyd.fuddugol. 3. Englyn i Eryri, o SEREN CYMRU. 16 yn cystadlu. J. Thomas a John Jones, yn gyd-fuddugol. 6. Heddwch o Orian'r Hwyr. Pumtheg yn cystadlu; rhanwyd y wobr rhwng J. Rees a J. Thomas. 7. Adroddiad o loan ix, 8-12 (i fechgyn o dan 15 oed). Wyth yn cystadlu. Goreu, J. Thomas a J. Davies. 8. Adrodd loan Pen. iii, 1-5 (i ferched dan 15 oed). Gwobrwywyd Elizabeth Morgan, Sarah Jones, ac Eliza Williams. 9. Araeth Ddifyfyr, testun rhoddedig ar y pryd,—Yr an- genrheidrwydd o ddiwygiad naturiol a moesol. Pedwar yn cystadlu. Buddugol Griffith Thomas, Tir-y-Goitre. BEIRNIAID. Y Traethodau a'r Farddoniaeth-Mr. W. Davies (Teilo); Caniadaeth, Mr. Richard Richards, Organist Llandilo. Ad- roddiadau, y Parchedigion D. Griffiths, Llanfynydd, a J. Lewis, gynt o Benrhiwgoch. Cynnaliwyd y cyfarfodydd am 10 y boreu, 2 y prydnawn, a 6 o'r gloch yr hwyr a chan fod yr "hin mor ffafriol cawsom ein anrhydeddu a phresenoldeb tyrfa luosog. Cafwyd anerch- iadau hyawdl, addysgiadol, ac yn llawntan ac ysbryd lIenyddol, yn ystod y gwahanol gyfarfodydd, gan y Llywydd, y Beirniaid, y Beirdd, ae ereill. Gallwn ddweyd yn ddibetrus, fod y Cwrdd Llenyddol hwn wedi gwneuthur lies mawr yn yr ardal; y mae wedi creu archwaeth at lenyddiaeth, ac y mae wedi bod yn foddioll i ddwyn allan dalentau a galluoedd na wyddai hyd y nod eu perchenogion eu hunain, eu bod yn feddiannol arnvnt. Gwedi gwrandaw ar bennillion byr-fyfyr Mr. John Evans, Cefn Coed, i'r cyfarfod, pa rai sydd yn haeddu canmoliaeth achymmerad- wyaeth, canwyd "Hen Wlad fy Nhadau," gan D. Thomas, Zoar, a'r holl dorf yn uno yn y cyd-gan yna ymadawsom, wedi cael gwledd i'r meddwl, a'n llwyr foddloni. Digon yw dweyd, i bawb ymddwyn fel dynion, fel Cymry, ac felCristion- ogion. REES MORRIS, Ysg.
CyffwiUtwt
CyffwiUtwt Y mae'r ddedfryd ar Morgan, yr hwn a ddyfarnwyd i farw- olaeth am ladd heddgeidwaid yn Nghaerodor, wedi cael ei newid i alltuliaeth barhaus. Mae Buckwell, y methdalwr twyllodrus, yr hwn a ddygwyd drosodd yma o Itali, wedi cael ei draddodi i garchar i sefyll ei brawf ar amryw gyhuddiadau pwysig. Mae Mrs. Longworth Yelverton wedi anfon at Mrs. Forbes Yelverton, drwy ei chyfreithiwr, i'w hysbysu y bydd iddi hi ei herlyn am y llythyr a gyhoeddwyd ganddi yn yr Examiner yn ddiweddar. Lladdwyd heddgeidwad yn Acton nos Lun wythnos i'r di- weddaf. Saethwyd ef yn farw yn ei d9 ei hun gan ddau ddyn ag oeddef wedieu dal yo lledrata ystyllen. Mae dau ddyn, o'r enwau Joseph ac Isaac Brooks, mewn gafael ar ddrwg- dybiaeth. Mae Mrs. Edwin James, gwraig y dadleuwr enwog a ffodd o'r wlad hon i America yn ddiweddar, wedi Ilwyddo i gael llythyr ysgar oddiwrth ei g&r. Mae Mr. James yn dra enwog yn America fel cyfreithiwr a dadleuwr, megys yr oedd yma, ond tybir y bydd i hyn leihau tipyn ar ei boblogaeth. Mae Cynnulleidfa Cymru Ddeheuol Newydd yn bwriadu anrhegu Mrs. Chrisholm a £ 3000, am ei gwasanaeth mawr yn cynnorthwyo menywod ieuaine i ymfudo i'r drefedigaeth hono. Ar ol y frwydr ddiweddar yn Murfreesboro', lie bu yr Un- debwyr yn fuddugoliaethus, saethwyd pob dyn du a syrthiodd i ddwylaw y Gwrthryfelwyr! Crogwyd deunaw ar hugain hefyd yn Mankato y boreu ar ol Nadolig. Y mae Archesgob Caergaint wedi galw cyfarfod cvffredinol o'r holl esgobion, i'r dyben o ystyried pa lwybr sydd i'w gymmeryd gyda golwg ar waith newydd Dr. Colenso, Esgob Natal, ar bum llyfr Moses. Ymddengys fod y burbariaid cyntaf a gyfarfu Dr. Colenso yn ei esgobaeth pan aeth iddi, wedi siglo ei ffydd gymmaint, fel y mae yn awr yn annghred- adyn. Bu farw y Parch. G. C. Smith, yr hwn a adwaenid yn Llundain wrth yr enw Boatswain Smith," yn Penzance yn ddiweddar, yn 81 ced. Efe oedd sefydlydd capeli morwyr, cartrefi morwyr, a'r genadaeth ddinasaidd. Dygwyddodd marwolaeth a genedigaeth ar fwrdd y Great Eastern ar ei mordaith ddiweddaf o America. Bu farw mor-deitbydd o Sir Fynwy, ac esgorodd Mrs. Paton, gwraig y Cadben, ar fab. Llosgwyd yr Albion Hotel, Bury, boreu dydd Sul diweddaf, a chafwyd corff un o'r gweision yn yr adfeilion wedi i'r tan ddiffodd. Llosgwyd Mrs. M'Ewen, Llynlleifiad Miss Gordon, bon- eddiges ieuanc yn byw yn Nice a Sarah Hawkins, gwasan- aethferch yn Dalston, yr wythnos ddiweddaf—o effaith cylch- beisiau. Y mae Senedd Sweden newydd basic ysgrif a gyflwynwyd gan y llywodraeth i awdurdodi priodasau rhwng Cristionogion ac Iuddewon. Y mae yr olaf o hiliogaeth Calfin wedi troi yn Babydd. Derbyniwyd Monsieur Calfin yr wythnos ddiweddaf yn y Rue Notre Dame des Champs. Dywed un o bapyrau Boston, America, y bydd i filoedd o bobl dduon a gwynion newynu yn Louisiana a Mississipi yn ystoJ y gauaf, o berwydd drudaniaeth a phrinder ymbbrth. Darfu i'r naill frawd ladd y Hall wrth ymladd, ychydig ddyddiau yn ol, yn Paisley. Oed y naill oeold "5, a'r llall 77. Yr achos o'r ymryson hwn oedd ystol. Y GYMMANFA EGLWYSIG.—Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, anfonwyd gwys freninol allan o Swyddfa y Goron, wedi ei chyfeirio at y Gwir Barchedig Charles Thomas Long- ley, D.D., Archesgob Caergaint, yn gorchymyn iddo gynnull yr esgobion, deoniaid, a phroctoriaid clerigol ei esgobaeth, yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, ar ddydd lau, y lOfed o Chwefror. CHWIICH Awn YN Y CYFFION.—Dirwywyd dyn ieuanc o'r enw Thomas Coleman, llafuriwr, gan yr ynadon yn An- dover yn ddiweddar o goron, am feddwdod, a rhoddwyd pyth- efnos o amser iddo dalu. Pan ddaeth yr amser i fyny, nid oedd yr arian yn barod, gan hyny, arweiniwyd ef i'r farchnadfa ar ddydd marchnad, a rhoddwyd ef ar asgwrn ei gefn ar y ceryg oerion, a'i draed yn y cyffion, o ddeuddeg o'r gloch hyd chwech yn yr hwyr, pryd y gollyngwyd ef yn rhydd yn nghanol bloedd- iadau ei gyfeillion a lluaws o edrychwyr. HENACH NA METHUSELAH !-Mde hen wraig yn byw yn m hhfyf Edinkillie, Ysgotland, yr hon svdd mar hen fel nad yw hi ei hunati yn cofio ei hoedran, ac nid oes neb arall a ddichon ddywedyd ei hoed. Yr wythnos ddiweddaf, aeth boneddwr i mewn i'w bwthyn, ac yn mhlith pethau ereill gofynodd beth oedd ei hoedran. Ei hateb ydoedd, Yn wir, 'dwy I ddim yn gwybod, ond yr wyf yn sicr fy mod yn fil yn y man lleiaf." Mae yr hen bererines yn alluog i symud yn ol ae yn mlaen yn o lew, a dichon y bydd iddi fyw ychydig o flynyddau etto dros y fil. CYMHORTH o AMERICA.—Dywed y Boston Post foi y Hong George Griswold," yr lion sydd i ddwyn help i weith. wyr swydd Lancaster o America, yn barod i hwylio mewn ychydig o ddiwrnodau. Y mae yn awr ar ei bwrdd un fil ar ddeg a thri chant o farilau o flawd hanner cant o farilau o gig eidion hanner cant o farilau o gig moch pedwar cant a dau o flyehau o facwn cant a thriugain a saith o sachau o yd; wyth o Jestri mawrion a dwy sach o reis cant o farilau o tara, a phedwar cant yn ychwanegol i ddyfod. Mae blawd ac ar- Iwyon ereill yu parliau i ddyfod i mewn oddiwrth bersonau unigol. Cymmer y Hong oddeutu dwy fil a phedwar cant o farilau yn ychwanegol, yr oil o ba rai sydd yn barod i'w gosod ar ei bwrdd." ARLUN RHYFEDDOL.—Dywedwyd eisoes fod pobl gytf- red in Rwsia yn gosod pwys neillduol ar eu delwau a'u har- luniau ond y mae un yn Moscow, heblaw yr un drosy Perth Santaidd sydd yn arwaiu o'r Plas-coch i'r Kremlin, r liwli y dychymmygir ei fod yn feddiannol ar rinweddau rhyfeddol. Ni welsom un o hono eithr fe'n hysbyswyd nad yw yr arlun hwn o'r Forwyn byth yn cael ei gymmeryd allan o'r capel oddieithr mewn cerbyd ac wyth o geffylau ac ar afiechyd yr Amherawdwr diweddaf, Nicholas, pan yroeddys am wybod pa effaith a gawsni er adter iechyd ei Fywrhydi, gwnaeth yr arlun awgrym mewn rhyw ffordd neu gilydd nad oedd am gymmeryd y daith; ac felly, fel yr hysbyswyd ni gan ein tywysydd, bu farw yr Amherawdwr dranoeth." MR. SPURGEON AR DEYRNGRI Y LLYWYDD LINCOLN.— Pregethodd Mr. Spurgeon y Sabboth diweddaf i gynnulleid- faoedd mawrion iawn. Yr oedd y Tabernacl anferth yn or- lawn yn yr hwyr-nis gallasai fod ynddo hi na saith mil o bersonau. Yn y boreu, yn yetod ei weddi, dywedai Mr. Spurgeon: "0 Dduw! yr ydym yn gweddio dros y genedl y tu draw i'r cefnfor; a defnyddiwri ymbiliad y tro hwn na ddefnyddiasom er ys tri mis o'r blaen. Yr oeddem yn ofnus nad oedd ein brodyr Gogleddol yn ddidwyU yn nhafliad ymaith rwymau caethwasiaeth eithr yn awr pan y maent wedi dyfod allan yn onest, yr ydym yn gweddio, Duw lwyddo r Gogledd." Atebwyd gan y gynnulleidfa ddirfawr mewn llais uebel, Amen," yr hyn oedd yn fwy hynod gan nad yw yn arferiad yn y Tabernacl i'r gynnulleidfa wneyd atebion hyglyw. Drwy rhyw fodd," ychwanegai Mr. Spurgeon, gosoder y caeth yn rhydd ond rhodder terfyn hefyd ar y rhyfel ciaidd hwn." Dylem ychwanegu fod Mr. Spurgeon wedi bod yn ystyried y rhyfel fel un brawd-laddiadol a diddyben, a'i fod wedi bod yn gweddio yn fynych ar i'r Arglwydd roddi terfyn arno. GWAHODDIAD I'R PAB I MALTA.—Mae rhyw dipyn 0 hysbysiaeth go ryfedd wedi ein cyrhaedd 0 Itali, sef fod y Pab wedi cael gwahoddiad i Malta i aros hyd nes y byddo'r storom sydd hyd yn hyn yn hofran dros Rufain wedi cael ei hysgubo ymaith. Y mae'r dyb y byddai i'r Pab ffoi oddiwrth amddi- ffyniad bidogau Ffrengig er gosod ei hunan dan ainddiffyniad llynges Brydeinig, yn rhy wrthun i neb roddi coel iddi. Mae yn wir ddarfod i'r Pab unwaith ddweyd wrth y Llysnegesydd Seisnig yn Rhufain, y dichon y gorfodid ef rhyw ddydd i dderbyn llettygarwch Lloegr. Ond paham y gwnelai hyny yn awr, nid oes neb a wyr a'r tebygolrwydd yw nad yw efe wedi breuddwydio erioed am ddilyn ei awgrymiad ei hun. MAWREDD LLUNDAIN.— Poblogaeth Llundain yn 1851 oedd 2,362,236; ei phoblogaeth yu 1861 oedd 2,803,034, yn dangos cynnydd o 440,728. Gan hyny, y mae mwy o bobl yn byw yn Llundain nag sydd yn holl Switzerland neu Denmarc; mwy na chymmaint arall rg sydd yn Norway, Hanover, neu Saxony, a bron cymmaint ag sydd yn Ysgotland. Nifer y tai preswyliedig oedd yn y brif ddinas yn 1851 oeild 305,933 eil nifer yn 1861 oedd 362,890, yr hyn a ddengys gynnydd 0 56,957. Oddiwrth yr hyn yr ymddengys fod Llundain wedi cynnyddu cymmaint yn ystod y deng mlynedd diweddaf a phe chwanegasid un Liverpool, Manchester, neu Birmingham ati pedair Nottingham, neu bedair Glasgow. COTWM.-Cyfanswm y cotwm a ddadforiwyd i borthladd Llynlleifiad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf oedd 1,253.965 0 fyrnau, yr hyn sydd yn lleihad 0 1,540,036 o fyrnau wrth eu cymharu a'r flwyddyn flaenorol, a lleihad o 1,915,704 o fyrnau wrth eu cymharu a 1860. Y cyfanswm oedd yn Llynlleiiiad dyid Mercher diweddaf oedd 392,460 0 fyrnau, yn erbyn 622,560 o fyrnau yn 1861, a 545,670 0 fyrnau yn 1860, yn dangos lleihad eleni o 230,100 o fyrnau wrth eu cymharu a'r llynedd. Nid oedd y dadfarion o'r Unol Daleithiau ond 79,029 o fyrnau yn erbyn 1,841,707 yn 1861 ae yn erbyn canolswm 0 1,970,300 o fyrnau a dderbyniwyd yn ystod y pum mlynedd diweddaf, yr hyn a briodolir i warchaeporthladdoedd y De gan longau rhyfel y Gogledd. BATHODYN.GWOBRWYOL, a roddwyd am STARCH GLEN- FIELD, gan Farnwyr Dosparth 2, Arddangosfa 1862. Y Mae y Starch enwog hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Golchdy Breiniol, ac a gyhoeddir gan Olchwraig ei Mawrhydi y goreu a ddefriyddiodd erioed. Trwswraig Ysnodenau ei Mawrhydi a'i gesyd allan- y goreu a ddefnyddiwyd ganddi; ac y mae y wobr uchod, gan rai 0 brif gelfyddydwyr yr oes, yn proti ei ragar- iaeth. Gwerthir "STARCH BKEINTIBDIG GLBNFIELD yn mhob Dinas, Tref, a Phentref, yn Mhrydain Fawr a'r Iwer- ddon, mewn sypvnau ^c., 1c., 2g., 4c. 8c. yr un, gan Grocers Canwyllwyr, Fferyllwyr, &c., ac yn gyfanwerth gan y gwneu- thurwyr WOTHERSPOON A'I GYF., GLASGOW A LLcN- DAIN.