Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

DELFRYDAU' I'W HYSTYRIED.

News
Cite
Share

DELFRYDAU I'W HYSTYRIED. Pertpivna i bob oes neu gyfnod nodweddion gwahaniaethol, tuedd- ion neu waith sydd, adyweyd ylleiaf, yn amlycach, yn fwy enddodol (con- spicuous) yn eu hanes hwy nag yn hanes oesau a chyfnodau eraill. Yn awr yn myd crefydd a moes, y mae yna heddyw dair o dueddion neu ddel- frydau sydd, hyd y gwelwn, yn fwy eu pwys na dim. Yn gyntaf oil, y mae yn amlwg ein bod wyneb.vn-wyneb íÎg ym- ddeffroad irad mewn offeiriadolaeth- a recrudescence of priestism. Gwelir hyn mewn llawer cyfeiriad yn gyn- taf, yn addoliadau yr eglwys, yn y ddefodaeth fursain sy'n difetha ys- brydolrwydd addoliad, sydd yn dwyn pethau'r synhwyrau i gynorth- wyo'r ysbryd, sydd yn gwneyd crefydd yn gyfundrefn noeth o cesthetism yn apei at y teimlad a'r synwyr allanol, yn lie bod yn apei at y rheswm a'r gydwybod. Peth perygius irad yw hyn peth peryg- lus i foesau'r wlad. Dengys hanes, hen a diweddar, gan nad pryd a chan na pa le yr a defodau i fyny, fod moesau yn myn'd i lawr. Ni cheir yn y ddaear ddigon o nodd i dyfu efrau a gwenith. Os myn neb yr efrau rhaid iddo wneyd heb y gwenith Nid oes yn naear Eglwys y Goruchaf ychwaith nodd digonol i'r naill a'r llall o'r pethau hyn. Pan y treulil yr Eglwys ei nerth ar ganwyllau cwyr, a chroesau pres, a millinery, mae yna bethau eraill y pryd hwnw o angenrheidrwydd yn gorfod myn'd yn anghof. Ond heblaw y cylch eglwysig yr ym wyneb-yn-wyneb a'r ysbryd yma ar y ceramaes gwleidyddol. Rhywbeth gyda blwyddyn neu ddwy yn ol yr oeddem yn nghanol llafur, a phryder, a chostetholiad cyffrediaol bu raid i ni aros yn bur hir am y eyfle-yn rhy hir, yn ol barn llawer ohonom ond o'r diwedd fe ddaeth-The passing of Arthur. Bu farw, fel canlyniad dogn gormodol o "Fiscalites" un o'r Lly- wodraethau mwyaf aniben a cad- bleidiol (partisan) a fu erioed, a chaf- odd gwerin Prydain, ar lan ei bedd, gyfie i ddyweyd ei barn.. Ni raid dwyn ar gof y defnydd wnaethpwyd o'r cyfle. Enillwyd un o'r buddugol- iaethau gwleidyddol mwyaf y mae son am dani; llwyr lanhawyd y llawr-dyrnu casglwyd y gwenith i'r ysgubor, a llosgwyd yr us a than, '2' gobeithiwn, aniffoddadwy. Un o gadlefau (battle cries) penaf y frwydr hon oedd cadlef Addysg, addysg a fo benbwygilydd yn rhydd oddiwrth amnaid yr offeiriad. Beth yw'r hanes ? Sarch i'r weriniaeth lunio Mesur oedd yn llawn cyfaddawd (compromise)" yn trethu amynedd ac ysbryd gildio y dinesydd a'r Anghyd- ffurfiwr i'r pen pellaf, gwrthodwyd ef. Yr y'm yn yr unfan a chyn y frwydr fawr. Yn awr addefwn fod yn mysg y rheibwyr nifer o gynllwynwyr politicaidd sy'n meddwl mwy o seliau swydd, ac o gri plaid, nag o fuddianau'r bobl; Oedd, yn ddiau. Mae'r cyfrifoldeb o ladd Mesur Mr Birrell yn gorphwys, nid ar ysgwydd- au neb ond CJch-glerigwyr yr Eglwys I Sefydledig. Llaw defodaeth sydd wedi parhau y caethiwed. Yr y'm, gwnawn lw, wyneb-yn wyneb ag ym- ddeffroad irad o offeiriadolaeth, a gweddusi ni yn mhob man ac yn mhob modd roddi egwyl a gofod i ymdrin a'r hen bynciau-A yw'r gweinidog Cristionogol yn offeiriad ? A oes yna y fath beth ag olyniaeth ? A oes yna ail-eni yy y bedydd ? A oes yna rinwedd mewn addoli delwau a chreir- iau ? Mae angen galw sylw at yr hen wirioneddau. Ofnwn fod yna dorf o'n pobl ieuainc yn tyfu i fyny mewn an- wybodaeth, heb ddeall paham y diodd- efodd y tadau eu herlid, eu carcharu, a'u lladd. Chwedl Paul, "Yr ydym mewn cyfyng-gynghor, ond nid yn ddiobaith yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael yn cael ein bwrw i lawr, ond heb ein dfetlia." Wedi'r cwbl, nid yw'y deffroad yma y soniasom am dano ond y pangfeydd olaf-math o gonyul- sions sy'n argoelion angau. Er iddo yn awr ffyrnigo, mae'r offeiriad ar fin cael ei fwrw allan am bylh o'r cemmaes gwleidyddol, nid yn ein gwlad ni yn unig, ond mewn gwledydd mawrion eraill yn ogystal. Ni chafojd ei droed i lawr ar y cemmaes hwn ond fel dines- ydd arall yn y byd newydd—yn Affrica, Awstralia, Canada a'r Amerig ac ni bydd toe ond olion y man lie bu yn ein byd ninau-Europe. Y mae'r dydd- iau'n d'od i ben—dyddiau hyfryd." Arwydd cyntaf y wawr ydyw yr hyn sydd eisoes wedi digwydd yn Ffrainc. Fel y gvVyr llawer o'n darllenwyr, y mae Eglwys Sefydledig Ftrainc-lln o offer- ynau gormesol Napoleon, ac un sydd hefyd yn y cyfnodau diweddarach wedi jrspleinio ei hanes a dichell Jesuitaidd— eisoes wedi ei datgysylltu a chyn wired a hyny, fe'i datgysylltir toe yn Mhryd- ain. Ffrwyth naturiol, anocheladwy gwrthod Mesur cymhedrol Mr Birrell, a'r ymrwst ffol yn erbyn barn oleuedig y bobl gyda'r Deceased Wife's Sister Act, fydd rhyddid a chydraddoldeb crefyddol Datgysylltiad a Dadwaddoliad, nid yn unig yn Nghymru, ond hefyd yn Lloegr. Dywedai'r diweddar Arch. esgob C&ergaint fod yr Eglwys wrth osod ei hysgolion ar y dreth wedi eu gosod ar y lechwedd lithrig. Eithaf gwir. Pan y pryn nebei flawd ag arian y wlad, fydd y wlad byth yn esmwyth nes y trinia y dorth. Sut bynag am hyny, heblaw gosod yr ysgolion ar y llechwedd lithrig, mae'r Esgobion gyda'u doethineb diweddaf wedi gosod yr Eg- lwys ei hun ar yr osglawr peryglus. Rhaid i Ddatgysylltiad dd'od. Mae e yn natur pethau. Ni ellir ei rwystro mwy nag y gellir rhwystro y llanw. Ac wrth fyn'd heibio, goddefer air bychan rhwng cromfachau Gocheler hysterics gwleidyddol. Peidier a gwneyd dim, trwy sel anoeth tros y pwnc hwn, i luddias y Llywodraeth sydd yn nirbren un o'r brwydrau cyfansoddiadol penaf a welodd ein gwlad er, o leiaf, ddyddiau Charles a'r Werin-lywodraeth. Hefyd peidied neb a benthyca ei hunan i ddynion sy'n saethu trwy'r gwrych at un o'r bechgyn anwylaf, hynotlaf, gallu- ocaf, a ffyddlonaf a fagodd Cymru erioed—un sydd wedi myn'd a'n cenedl ni i fyny gydag ef. Mae Mr Lloyd George eisoes wedi gwneyd mwy tros Ddatgysylltiad nag a wnaetb odid neb o'r rhai sy'n ei heclu, a phan ddaw'r awr farwol, fe darawa ond edid eto yn drymach na neb ohonynt. Ond i fyn'd yn mlaen. Delfryd arall amlwg iawn heddyw ydyw Undeb. Unification," ebai un gwr mawr, "is, and has been the note of our time. It is the goal towards which all the best energies of the hour are driving, is not local, it is universal." Edrychwn i'r cyfeiriad a fynwn, mae yna ryw ddy- heuad am undeb. Mae efrydwyr natur weJi bod ar eu gorel yn egluro i ni yr uholiaeth sydd yn y gread faterol. Mor syml, wedi'r oil, ydyw ei holl elfenau mor gynghaneddol, ac mor agos y perthynai ei holl egnion. "Monism" a Theomomsm" ydyw'r geiriau glywir ar bob llaw-ryw adsain o ddatganiad y gweledydd Hebreig, "0 Israel, g wrando ein Duw ni sydd un Ðuw." Chwed Elfed :— Un meddwl sydd, A fu, a fydd Heb wawr iddo, Heb hwyrnos arno." Troer i edrych ar gymdeithas dra- chefn. Y mae yr unwedd yma er gwaethaf yr erlyniaeth a'r hunanoldeb bar pechod y teimlad o gaste sydd wedi gwreiddio mor ddwfn er's canrif- rifoedd yr ymdrech fileinig am olud, a'r ymdrech resyngar i fyw rhyfel cenedl yn erbyn cenedl, a dosbarth yn erbyn dosbarth. Ie, er hyn i gyd, mae'n dra sicr na bu dynion erioed yn sylweddoli cyn gliried mai mewn undeb y mae nerth; fod eu bri, eu nerth, a'u dedwyddwch i godi o'u goddefgarwch, a'u cariad, a'u gwasanaeth y naill i'r llall. Mae llafur yn myn'd yn rhwym- yn undeb mae gwladgarwch yn myn'd yn A B C dyngarwch. "Da i'm garu'm gwlad fy hunan, Gwell i'm garu'r ddaear gyfan- 'Does i'r ddaear ond uo groes." Mae'r dyhead yma i'w deimlo yn maes crefydd. Er yn fore iawn, rywsut, fe ddaeth yna ryw ymraniadau i mewn, ac ni wadwn nad oedd y schism, fel y geilw rhai hwynt, ar y pryd yn fynych yn anocheladwy. Ie, mwy na hyny, yn fendithiol. Pwy fedr ddarllen hanes cyfodiad a thwf Eglwysi Rhyddion Prydain heb weled bys Duw? Beth fuasai wedi d'od o Brydain oni bae cyfodiad a thyf y rhai hyn ? Of own y buasai heddyw yn wahanol iawn ei gwedd. Diolch i Dduw am gyfodiad Ymneillduaeth. Eto, mae'n debyg fod yn rhaid i ni gydnabod ein bod wedi bod yn rhy chwerw wrth ein gilydd yn ysgar ein hunain oddiwrth y naill a'r llall a chloddiau gwelit; yn pwysleisio yn ormodol bethau yr oedd pwys yn- ddynt unwaith, ond nad ydynt heddyw o twy gwerth i ni na'r henarfau niilwrol yn Nhwr Llundain i'n byddin. Yn He cyfathrach, mae yna ddieithrwch wedi bod yn lie adnabyddiaeth, y I anwybodaeth yn lie cariad, amheuon. Byddai y diweddar Price Hughes yn son am hen frawd yn ei restr. Yr oedd yr hen frawd yn Wesleyad ;elog, ond yr oedd wedi bod am dro yn edrych am ei ferch, ac yn y gymydogaeth hono, er gofid yr henlaw, nid oedd capel Wes. leyaidd. Wedi tipyn o berswad, aeth gyda'i fab-yn-nghyfraith i gapel yr Annibynwyr, ac ar ei waethaf mwyn- haodd ei hun yn. hynod yno ac wrth son am hyny yn y seiat adref, trodd at Mr Hughes a dywedodd I was greatly surprised, Mr. Hughes. You know I never thought that these Congregation- alists were really a religious and regen- erated People ?" Sut bynag, mae y dyddiau hyn yn myn'd heibio. Y cri bellach ydyw Un- deb. Blaenffrwyth yr ysbryd yma yd- oedd cyduniad Presbyteriaid Lloegr, Methodistiaid Wesleyaidd Canada, a thair canghen bwysig o'r Eglwysi Wesleyaidd yn Mhrydain. Ac un o ffrwythau mawr -un o ffrwythau mwyaf—yr ysbryd hwn ydyw cyfodiad a thwf mawr Cyn- ghor yr Eglwysi Rhyddion. Y mae y mudiad yma ar ei ben ei hun. Ni wel- wyd yn y byd crefyddol erioed, credwn, ddim hafal iddo. Cododd yn dawel a distaw fel y disgyna'r gwlith, a blyga'n ddidrwst fel cerddediad buddugoliaelhus yr haul at ei feridian. "This move- ment," ebai Dr. Clifford am dano, "is a new birth of the Spirit of God, already," meddai. Eisoes mae'r cynghor o Anni- bynwyr, Bedyddwyr, Presbyteriaid a Methodistiaid Wesleyaidd, wedi sychu hen ffynhonau cynen, wedi diffodd tanau rhagfarn, a chreu brawdoliaeth sawra yn esmwyth o gatholigrwydd mwyn dydd- iau'r apostolion." Diolch i Dduw am hyn oil. Sut bynag, ofnwn fod hyn yn fwy gwir am Loegr nag am Gymru. Yn sicr, nid yw'r ddelfryd hon wedi gwr- eiddio yn Nghymru y modd y dylai. I ddal ein tir, a gwneyd i Gymru yr hyn a ddylem rhaid i ni ddod yn nes. Y mae undeb mawr yn bosibl, ac yn angen rheidiol mewn llawer o bethau. Yn gyntaf, dyna'r pwnc o xmlhau ca- pelau mewn man bentrefi ac ardaloedd gwledig. Y fath wastraff enbyd a bar hyn mewn arian ac adnoddau ? Nid oes genym nerth, oblegid hyn, i y mosod ar bechod ac anwybodaeth mewn manau eraill sydd wedi eu gadael yn ddiym- geledd. Dyma fater arall. Rhaid i ni gael cyd-ddeall gwell yn ein brwydrau ethol- iadol,-tipyn mwy o gallineb a goddef- garwch. Ofnwn fod yna ami i frwydr wedi ei cliolli oblegid tipyn o eiddigedd a thraenwant enwadol. Na hidier pwy enwad, os yw'r dyn o'r iawn ffydd, yn caru rhyddid a Daw, ac yn medru cer- dded yn ei arfogaeth-hyny yw'r gamp. Ie, a mwy na hyn. Oni ddylem gael tipyn o undeb organaidd ? Paham nad allem gael iii., liyfr emynau yn Nghymru? Yr y'm yn medru gwneyd ar un Beibl. Paham na wna un llyfr emynau y tro i ni ? Un maes llafur hefyd ? Ac un coleg ? Breuddwydion Ie, breu- ddwydion ond rhaid breuddwydio. Live to contemplate the ideal," ebai un gwr mawr. Breuddwydion ie, ond breuddwydion sydd ryw ddydd yn rhwym o dd'od i ben. Sudded y drychfeddwl o undeb yn ddyfnach i feddwl Cymru. Mae enwadgarwch, ofnwn, yn bwyta llawer o'i nerth. Delfryd arall, ac at hono y cyrchem o'r dechreu, ydyw y duedd at wneyd crefydd yn fwy ymarferol. Onid yw hyn yn wendid ar grefydd Cymru ? Aeth yr ysgrit eisoes yn faith. Dychwelwn at hwn y tro nesaf..

Ysbytai Lerpwl. '■

Y Diweddar Richard Watson.

Y Wasg Newyddiadurol.