Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

'Rhen Domos. r

News
Cite
Share

'Rhen Domos. r IX. Do, fe aeth y son am y "Ty Mawr" fel saeth farwol i galon Betsan druan. Dych- mygai wel'd hen gerbyd du, llwm, a thlawd y plwy' yn d'od i'w nolhi a 'Rhen D-omos i'r Ty Mawr. Gwelwcdd ei hwyneb, aeth yn sal ei chalon, a deallodd erbyn hyn beth a barai i 'Rhen Domos edrych mor brudd. Bu distawrwydd mawr am enyd ar yr ael- wyd, a thrwy rhyw gyfathrach o gydym- deimLad gwyddai y naill beth oedd yn nghalon y lLall. Gwyddent mai yr un saeth oedd wedi trywanu eu calon. Yr oedd yna rhyw linell anweledig o ohebiaeth o galon i galon yn dweyd mai yr un oedd eu dolur poenus, O'r diwedd torodd 'Rhen Dom.)s oar y d-istawrwydd, ac medd.ai- Fasa fawr waeth geni beth i'w wneyd— main cerrig ar ochr y ffordd, neu rhwbath, ond i mi gael rhwbath i'w wneyd i'n cadw ni ill dau o'r Ty Mawr, Betsan on.d mae oymaini: o hen bobol a rhai gwan allan o honi rwan, fel m,a'r swydd hono yn 11a wn. 'Ro'n i yn siarad efo 'Sgrifenydd yr Undeb heddyw, ac mi ddidis wrtho fy nghwyn, ac mi ddidodd wrtha i fod yn ddrwg iawn gal- ddo drosta i, ond nad allai wneyd dim i ini, a mi ddidodd hefyd mai un camgymer'ad wnaeth y Llywodrath oedd pasio v ddeddf o iawn' i'r gweithiwrs, cyn diogelu bywol- aath 'rhen bobol; a rwan ma 'rhen bobol mewn perygl o gael i bwrw ar y doman fel ysbwriel heb drugaraad na chyfiawndar." "Wei," ebai Betsan, "hwyrach y cawn ni dipyn o'r plwy'—er na .thekniai calon Bet. san awydd i dderbyn y cardod hwnw, am fod rhyw syniad o waradwydd yn nglyn as ef. Gwyddai am y isawddeg oedd yn ddiar- eb o wawd yn y wlad, Byw ar y plwy' y xna-e nhw." la," ebai 'Rhen Domos, "hwyrach y gallwn ni gael dipyn o'r plwy', ond ma'n well ganddyn nhw fyn'd a ni i'r Ty Mawr, er i hyny gostio mwy o lawar i'r wlad. Heblaw hyny, wyddost ti, Betsan, mi lieiwn gael gweithio tra fedrai, da hyny ddim ond ychydig. Ma na swyn m'ewu gwaith i mi, rhagor claswn ni heb ddim i wneyd, ac yn methu'n lan a gwbod 'beth i wneyd efo mi fy hun, a'r oria yn pwyso yn drv/m arnai, fel y glocsan sydd yn hongian o'r tu ol i hen •wagan fawr; a mwy na hyny, Betsan, mi golla fy vote, os awn ni ar y plwy', er i mi fod yn weithiwr gonest a chynil, ond flawd, am na ches gyflog rhesymol. la, mi golla fy vote, os ai i ar y plwy'. Chai i ddim bod yn ddyn f-el rhywun arall. Mae .gwarthnod arj^n y plwy' ar y sawl a'u caffo, fel u.n na chaiff na llaw na llais yn liywod- raeth y wlad. A wyddost ti, Betsan, ma hyny yn beth go fawr i mi, ann-a yn fotar er's .tu,a, hanar can' mlynedd; ac ma Mheibii i, yn anad dim dd.arllenisi :rioed, wedi dysgu i mi fod yna rhwbath mwy pwysig na bwyd a dilLad, a dyna un o hon- ynt—hawlia dyn fel dyn, boed o dlawd neu gyfoethog." Wei, ia, Tomos, ond be wnawn tii ? Ond mi dwi yn credu y gneith 0 ofalu am danom, er mor drwsgwl ydan i. Mi fydda i yn credu i fod 0, Tomos, a'i lygad arnon ni. Mae gyno Fo lawar ffordd i ofalu aril i blant, wyddost, a ma Fo yn gallu tori ffordd iddo i Hun drwy oil ddrain a brys- glwyni dynion. Mae na fcerygl i ni, Tom- os, fydda i yn i feddwl—perygl .i n.i gau Duw i mewn yn y'n ffordd fechan gul ni y'n hunan, pan ma Fo yn gallu agor, fel ididodd y gethwr hwnw, Royal road iddo Ei Hun drwy y Mor Coch." Yn ddiarwybod iddynt, daeth yn amsei myn'd i orphwys, a'r llestri te heb eu clirio oddiar y bwrdd, peth na chymerodd Ie o'r -blaea yn hanes Betsan er dydd ei phriodas. Golchodd a chadwodd Betsan y llestri, ac fe arlwyodd swper o fara, ymenyn, a llaetli enwyn. Ar ol swper tynodd 'Rhen Domos y Beibl oddiar yr astell. Darllenodd yr wythfed benod o Efengyl Matthew. Yn y anan, daeth at yr ugeinfed adnod, "A'r Iesu a ddywedodd wrtho, y mae ffauau gan y I llwynogcd, a chan ehediaid y nefoedd eu nythod; ond gan Fab y Dyn nid o-es le i Toddi ei ben i lawr." I)ar11enodd hi dra- chefn. Trodd Betsan ei golwg oddiwrth y tan, ac edrychai dros ymyl ei spectol arno. Cwelai fod ei wedd wedi newid, ac yn gym- ysgfa o'r prudd a'r lIon. Ia, Betsan bach, dyma'i hanas 0 ar y ddaear yma-y tynera a'r gora o baVb heb .gartra yn unman, heb groeso gan neb, a Du w wedi drystio Fo a'i yru o'i gartra trag- I wyddol dros dro i'r ddaear yma, a doedd ma neb i roi cymaint a noson o lety clyd iddo. Wei, Betsan, dydi hi ddim mor ddrwg arnom ni a Fo. Ma'n gobeithion ni yn well na Fo dasa y gwaetha yn d'od. TTlyddosL di be, Betsan, ma 'rhen bechod yma ■wedi'ii gwneyd ni yn rhai brwnt a chalon- galad." Ar ol y ddyledswydd, ymneillduodd y ddau i orphwys. Yn y cyfamser yr oedd lielynt mawr yn Senedd y wlad. Yr oedd 'Mesur Blwydd-dal i Hen Bobl wedi ei ddwyn gerbron, a mawr y dadlu dros ac yn erbyn-y blaid wrthwynebol yn dadlu mai gwaddoli yr hen bobl yr oeddynt, a bod hyny yn beth anghyson iawn i'r blaid oedd bob amser yn condemnio gwaddoliadau; I eraill oedd yn dadleu yn erbyn. yn dywedyd y byddai blwydd-dal i hen weithwyr y wlad yn xoddion i ddadwneyd y gweithiwr, yr achosai segurdod, gwastraff, a bywyd moe. thus, ac mai angen penaf gweithwjrr y wlad oedd dysgu cynildeb a darbodaeth. Yn wir, yr oedd clywed y dosbarth yma yn .son am ddarbodaeth a chyniideb yn peri i ddyn feddwl am y dywediad oedd ar lafar gwlad, Satan yn gwel'd bai ar bechod," Ira nas gwyddent hwy yn fynych beth i'w wneyd a'u harian. Gwarient hwynt ar eu gwledd- oedd breision, eu helfilod, a'u ceffylau rasus, a phob oferwaith. Sut by nag, cariwyd y me-sur drwy Dy'r Cyffredin gyda mwyofrif mawr, a danfonwyd ef i fyny i Dy'r Ar- glwyddi ar ei hynt amheus. Wedi ym- ddadleuj a chynyg gwelliantau yn y Ty hwnw, am bythefnos, o'r diwedd daeth yn ddeddf i'r wlad. Yn y pentref, nid oedd ond rhyw dri yn cymeryd y papur newydd dyddiol-y medd- yg, y fferyliydd, a Mr Owen y Shop, gan m.ai unieithog oedd trigolion y fro, a chan y tri wyr hyn y ceid pob newydd diweddar o bwys. Y boreu ar ol y noson hono pan basiwyd y Mesur drwy Dy'r Arglwyddi, yr oedd Mr Owen yn ei faelfa yn llewys ei grys, ac yn llwch bLawrd o'i goryn i'w sawdl. Yr oedd wrthi yn brysur yn gosod pethau mewn trefn ar ol masnach y noson flaenorol-dlwrnod ar ol ffair y Nant ydoedd—a thra yr oedd wrthi yn ddyfal, dyma fachgen y papur ne- wydd i mewn, gan daro y papur ar y mael- fwrdd, a chaa fod .Mr Owen a'i galon yn mb.ob symudiad i wella y wlad, yr o.edd yn orawyddus am wybod tynged y Mesur yn Nhy'r Arglwyddi. Cipiodd ef i fyny, agor- odd ar hanes gweithrediadau y Ty, a gwelai mewn llythyrenau bras y penawda gan- lyr-, Old Age Pensions Becomes the Law of the Land. A Great Debate. Provision for all Deserving Old People. "Mary," meddai Mr Owen, gan alw .ar y wraig, "edryehwch ar ol y shop am ychydig er mwyn i mi allu picio i dy Tomos Ifans. Ma geni newydcl da iddo. Ma. Mosul Blwydd-dal i Hen Bobol wedi ei basio drwy Dy'r Arglwyddi neithiwr, Mary. Mi fydd yr hen law yn falch o glywad hyn." Tarawodd Mr Owen ei got am dano, lluch- iodd ei farclod wen o'r ueilldu, ac ymaith ag e-f, gan gamu yn fan ac yn fuan. Dros droedbont afon fach y Nant ag ef, i fyny i'r Ilwybr :s,erth a',i wyneb yn wen i gyd; sponcial dros y ffrydlif fechan yma a'r ffrydlif arall oedd yn trystio ar eu rhuthr bach i'r n.ant gerllaw; i lawr un hafn oedd yn wyneb y bryn, ac i fyny yr ochr arall; piciai dros y camfeydd, collai gam y pryd arall ar y llwybr caregog, 'ond yn mlaen yr ai, fel pe buasai yn frysLl,eg<;sydcl yn dwyn newydd da o fuddugollaeth oddiar faes y frwydr i Frenin y wlad. Gwyddai fod 'Rhen Domos gartref y dyddiau hyny heb fod yn dda Lawn ei iechyd, a. dychymyg- y 11 ai ar y ffordd wel'd ei hun yri tori y newydd da i Tomos Ifans. Dychymygai weled y .llawenydd yn tori fel heulwen dros ei wyneb, gan wasgar y cymylau du, prudd. Dychy- mygai glywed y diolch yn tori dros wefus yr hen wr. O'r diwedd daeth at y bwthyn, a phan ddaeth i olwg wyneb y bwthyn, gwelai leni gwynion wedi eu tynu i lawr dros ffenestr y shiambar a'r gegin. Aeth ei galon yn oer yn ei fynwes. "Tybed," meddai, "ydyw Tomos Ifans druan ddim wedi marw Curodd ya dawel ar ddrws y bwthyn. Daeth y ferch at y drws-yr hon a alwyd yno yn y boreu. "0, Mr Owan bach, ma nhad Meth- odd a dyweyd "wedi marw." Tagodd y geiriau yn ei gwddf, a phan ddae'th Mr;. Owen i'r ty, gwelai Betsa.i yn y gadair freichiau wrth y tan, a phwys ei phenelin ar fraich yr hen gadair, a phwys ei phen ar gledr ei llaw. Yr oedd cap du am ei phen, ac ymylon gwyn iddo, a pharclod wen fel y lili o'i blaen, a shawl bychaxx du dros ei hysgwydd, yr hwn ni fu ar ei hys- gwydd o'r blaen er diwrnod claddu ei b.ach- gen bach, llawer Llwvddyn yn ol. Wei, Betsan Ifans anwyl, dyrna ddiwr- nod du ynte ? Mae "Tomos Ifans wedi'n gadal ni yn sydyn iawn," meddai Mr Owen. "Wel, yd.i'n wir," ebai Betsan, "ond o ran hyny, daswn i wedi sylwi yn iawn, 'rodd Tomos yn tori yn arw, a dywedodd wrthyf er's peth amser yn ol ei fod yn ofni fod ei galon yn ddrwg. Dyma golled—colled fwy na'r cwbl,-colli Tomos anwyl Wei, sut y bu, Betsan Ifans bach ?" me- ddai Mr Owen. "Wel, Mr Owan bach, aethom i'n gwely ac aethom i gysgu ill dau, a thua hanar awr wedi dau, mi ddeffrodd, ac meddai, Betsan, mi rwdw i yn teimlo'n od iawn. Ma fy nghalon i fel tasa hi yn sefyll weithia.' Mi godis a mi wnes gwpanad o de cyne.s iddo, ac mi adfywiodd ychydig," ebai Betsan, "ond tua hanar awr wedi pump, mi gafodd ymosodiad arall, ac meddai, 'Betsan anwyl, ma arna i ofn—dasa geni ofn hefyd—fod yr alwad gartra wedi d'od. Ma rhwbath yn deud hyny wrtha i.' A wyddoch, Mr Owan," ebai Betsan, "mi 'rodd hi yn galad arna i a neb yn fy nghyradd i, a mina ar fy mhen fy hun. 'Betsan,' meddai drachefn, 'fasa yn reit dda geni gael myn'd, ond sut i dy adal di, dyna'r gamp. Ma'r hen gyf- amod wnes a Fo tua hanar can' mlynedd yn ol yn dal yn iawn. 0 dan yr hen glogwyn mawr y gwnes i y cyfamod, ac ma fo yn dal, 0 ydi'n wir, .ac mae llawar i ystyllen o adduned geni o flwyddyn i flwyddyn wedi cadarnhau yr adduned.' Torodd Betsan-i lawr yma. Met-hodd yn lan a myn'd yn mlaen, ond ar ol egwyl "Didodd o fawr arall Daeth y mygni drachefn, daeth y swn rhyfadd hwnw i'w wddf, a .gwyddwn i bod hi ar ben. Fe rodd un ochenaid fawr, plethodd ei ddwylaw fel pe mewn gweddi, a gwelwn fod fy anwyl Tomos wedi ngadael i!" 'Chafodd Mr Owen felly ddim tori y new- ydd da i 'Rhen Domos, er ei ddirfawr siom. Aeth 'Rhen Domos i fewn i'w bensiwn tragwyddol a bwrcaswyd iddo drwy'r lawn mawr. Gorweddai ei weddillion marwol ar y gwely. Nid oedd fawr o olion cystudd arno, na phrudd-der chwaith. Yr oedd yr olwg arno fel pe buasai bys rhyw (lngel an- weledig wedi cyffwrdd ei wyneb—golwg ha.- pus-rhyw londer yn mhoh llinell; ei dalceia llydan, braf, yn loew fel yr alabas- tar; a'i walk a'i farf can myned a'r eira, a chydyn hach oi wallt yn gorwedd yn esmwyth ar y talcen; a'r olwg ar ei am- rantau fel pe byddai ei lygaid yn gwenu odditanynt, a ffurf ei en.au a'i wefusau fel pe byddai ar fedr traethu rhyw air caredig. Aeth 'Rhen Domos ddim i'r Ty Mawr, ond fe aeth adref i Dy Tad yr Iesu," ac os na chlywodd lais 'Mr Owen yn dwyn y newydd da o Flwydd-dal i Hen Rob], mi glywodd l,ais milfwy soniarus yn galw gartref ac yn dywedyd, Da, was da a ffyddlawn buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Y DnvEDD.

: o : "-.'.-.'0 Fostyn.'

Anerchiad o'r Wylnos. ---

Briwsion o'r Brifddioas.