Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

HWNT AC YMA.I

News
Cite
Share

HWNT AC YMA. I GAN Y BACHAN DIARTH. Ar ol bod yn dilyn mewn rhyw un cyf- eiriad am dipyn, y mae yn lied anhawdd i ymadael o'r cyfeiriad hwnw i gyfeiriad arall. Felly yr wyf yn teimlo wrth geisio ysgrifenu y tro hwn. Mae Sir Aberteifi, fel yr ydych wedi sylwi, wedi cael lie lied amlwg genyf yn ystod y chwech wythnos sydd wedi myn'd heibio, fei yr wyf yn teimlo yn anhawdd i ddechreu ar rywbeth arall yn awr. Nid wyf wedi blino, er hyny, ar yr hen sir, ac mae genyf ddigon o stoc yn fy meddwl i fyn'd yn miaen am wythnos- au eto pe buaswn yn dewis; end rhag ofn fod y darllenwyr yn blino, meddyliais ei bod yn well newid yr ymadrodd ar hyn o bryd, a gadael y wlad a chymeryd tro ar hyd y trefi a'r dinasoedd. Fellai y bydd hyny yn foddion i rai i gydmaru y wlad a'r trefl, ac i weled y fath wahaniaeth sydd yn, y dull o fyw yn y naill a'r Hall, ac i weled yn mhellach, fod yr ymdrech am fodoli yn llymach yn y dref na'r wlad. Dywedir mai Llundain yw y ddinas fwy- af yn y byd, ac mae y boblogaeth yno dros 5,000,000 o bobl. Pa fodd mae y fath dorf yn cael bywoliaeth sydd gwestiwn a gymer fwy o golofnau nag sydd yn y DARIAN i draethu; ond gwyddom fod llawer yn newynu yno yn flynyddol, ac felly maent hwy yn methu cael bywoliaeth. Yn y wlad, mae'r bob! allan yn y meusydd, yn nghanol awyr iach, yn gweithio ond yn y trefi, mae miloedd yn gorfod gweithio yn yr adeiladau mwyaf cyfyng yn nghanol yr anmhuredd mwyaf; ac os byddant allan yn yr awyr agored, nid yw hwnw o bellder ffordd mor bur ag awyr y wlad. Hyd yn ddiweddar, yr oedd canoedd o ferched a gwragedd yn cael eu cyflogi yn Llundain ar ben hen dtps lludw, i'r dyben o chwiiio yr ysgarthion bawlyd a gludir yno yn feunyddiol o'r tai gan y ceirt lludw. Ar hyn o bryd, ma? gwahanol awdurdod- au lleol Llundain yn ceisio cytuno a'u gilydd i ofyn wrth y Senedd am basio deddf i wahardd cyflogi merched a gwrag- edd wrth y fath orchwyl drewllyd a baw- lyd. Yr oedd un o Gyughorwyr Llundain yn adrodd yr wythnos ddiweddaf yr olygfa a gafodd ef a meddyg neillduol wrth dalu ymweliad a rhai o'r tipiau hyn ar Ian y Tafwys un diwrnod. Yr oedd merched a gwragedd i fyny at eu canol mewn bndr- eddi yno yn gwahanu hen garpiau a photeli toredig a tins gweigion, ac ysgarth- ion ereill, oddiwrth eu gilydd, giln gadw y llwch a'r lludw ar wahan mewn man arall. Tra wrth eu gwaith, yr oedd y liwch yn codi yn gymylau o'u hamgylch, ac yr oedd eu gwynebau mor ddued a'r gwr drwg, fel na ellid eu hadiabod. Eto i gyd, er cynddrwg yr oedd y gwaith, yr oedd y gweithwyr neu y gwneuthuresau hyn o gyrff cryf a liuniaidd, ac yn ym- ddangos yn hollol iach a chan eu bod yn ymddangos felly, bernid fod y gorchwyl yn eiteaf iachus. Yr oedd yr oil o'r gweith- wyr yn byw yn nghanol y tlodi mwyaf, ac wedi cael eu gyru at y budrwaith er mwyn eadw corffac enaid, yn nghyd ac i gadw y 1 blaidd-newyn-o'r drws. Mae dydd y fath orchwyl ar derfynu, ac nid wyf yn meddwl y bydd rhyw hiraeth neiilduol ar neb o ddarllenwyr y VARIAN pan glywant ei fod wedi myn'd yn nos arno. Dichon y bydd yn golled ar y pryd i rai o'r merched a'r gwragedd a gyflogir yno ond credwn y bydd yn enill iddynt^yn y pen draw, gan y bydd yn rhaid iddynt i edrych am rywbeth gwell i'w wneud. Dywedir fod y boblogaeth yn parhau i gynyddu o hyd yn Llundain; ac am hyny y mae yn rhaid cynyddu nifer yr heddgeid, waid, am fod troseddwyr yn cynyddu yno Tra yn ysgrifenu hwn, mae papur o fy mlaen yn dangos fod 16,374 o heddgeidwaid yno ar y 31ain o Ragfyr diweddaf, a bod_ gan y rhai hyny 688 o filldiroedd o ystryd J oedd i fyn'd drostynt bob dydd, a bod £ 1,427,617 wedi cael eu talu i'r cyfryw mewnM cyflogau yn unig y flwyddyn ddi- weddaf. Cymerwyd 112,205 o bersonau i'r ddalfa gan y rhai hyn yn ystod y flwydd- yn 1902, ac yr oedd hyny yn gynydd o 2,671 ar y flwyddyn flaenorol. Yr oedd y cynydd hwn mewn man droseddau, fel y j gelwir hwynt, megis meddwdod, ymladd- feydd, anlladrwydd, &c. Deliwyd 86,415 o'r achosion gan yr ynadon, tra y oafodd 3,087 eu taflu i sefyll eu prawf yn y Sessions. Dywedir fod mwy o droseddau wedi cu cyflawni yno yn ystod y flwyddyn 1902 nag sydd ar gadw mewn coflyfrau. Dedfrydwyd 443 o bersonau i wasanaeth penydiol, o ba rai yr oedd 182 i wasanaethu am bum' mlynedd ae uchod, ac yr oedd gorchymyn i ffiangellu wyth yn ychwanegol at y penyd, Nid wyf wedi gosod y tros- eddwyt yn gyflawn, ond yr wyf yn meddwl fod hynyna yn ddigon i brofi fod Llundain yn nythle i ganoedd o scoundrels, a gaUwn j fod yn sicr na chafodd yr oil o'r scoundrels hyny eu dal yn ystod y flwyddyn. Gan fy mod v edi dechreu yn nglyn a Llundain, mae yr un man i fi orphen y tro hwn yno hefyd ac felly y peth nesaf ar y plat am y tro fydd ychydig o gyfrif o beth- au a gollwyd yno yn ystod y fiwyddyn ddi- weddaf. Mae rhai pob! lied anghofus yn teithio yno, ac yn ystod y flwyddyn dyg- wyd 47,434 o bethau a gafwyd ar ol mewn cerbydau cyhoeddns i Swyddfa yr Eiddo Colledig. Mae hyn eto yn dangos cynydd 7,213. Gellir dosranu yr eiddo a gafwyd ar ol mewn cerbydau cyhoeddns, ac a drosglwyddwyd i'r heddgeidwaid gan y gyrwyr, fel y canlyn — Cydau 3,452 Gwisgoedd (ewrywod) 2,373 9t (benywod) 2,374 Tlysau 1,818 Oriaduron 231 Pyvsau 3,486 Amrywiaeth 10,636 Speinddrychau 845 Rugs 334 Fryn 977 Gwlawlem 21,608 I Cyfanswm 47,434 Yn mfoJKtfa yr eiddo yr oedd amryvr byrs- au yn cynwys dros £10; linwer o dodau arsandai, blychau tlysau, cydau gv. erthfawr; bicycles, adar byw, ednod, cwu, ac un wningen. Dychwelwyd 23,043 o'r nwyddau i'w perchenygion, a rhoddwyd yr hyn na hawliwyd (gydag ychydig eithriadau) ar ol i dri mis i fyned heibio, i'r gyrwyr a'u trosglwyddasant i'r heddgeidwaid. Rhodd- wyd £ 3,261 i'r gyrwyr am eu trafferth a'u Z, gonestrwydd gan y perchenogion. Cafodd 17 o honynt R5 yr un, 5 o honynt £ 6, tri £ 7, dau £8, dau £9, tri £10, dau E15, a thri £30. Fe welwch wrth yr uchod nad yw yr oil o'r Cockney drivers yn anonest, neu ni fuasent yn eael eu gwobrwyo fel hyn. Gan fod fy ngholofn ar ben, yr wyf yn meddwl mai y peth goreu allaf ei wneyd yw terfynu ai hynyma o Gockney- ism.

MOUNTAIN ASH.

Cyngherdd.

Eto,

. Tabernacl, Merthyr Tydfil.

NODION MIN Y FFORDD.

LLYS HEDDGEIDWAID ABERDAR.

- "Cyfarfodydd Pregethu a…

Tycroes, Pantyffynon.\