Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

....."...----<------.........----Masnach…

News
Cite
Share

"< Masnach Rydd a Diffyn= dolliaeth. GAN OWAIN GLYNDWR. Amcan mawr Mr Chamberlain yw gyru ofn y dadforion (imports) ary wlad. Mae yn bosibl nad yw pawb o ddarllenwyr y DAR- JAN yn deall ffordd y gwledydd o fasnachu a'u giiydd ac mae yn bosibl fod rhai dan yr argrafE fod Prydain neu y Prydeinwyr yn talu mewn arian am yr holl adforion inewn nwyddau a chynyrchion a dderbyn- ir o wledydd ereill, ac fod yr arian sydd yn mynecl allan o'r wlad i dalu am danynt yn colledu y wlad. Dro yn ol, pan oedd Mr Seddon, prif- weinidog New Zealand, yn anerch cyfar- fod yn y wlad hon, dywedai ein bod ni, y Prvdeinwyr. bob blwyddyn yn anfon dros "^160,000,000 o aur melyn i dalu am nwyddau ydym yn brynu yn y gwledydd tramor yn fwy nag y maent hwy yn brynu gyda ni, yr hyn a alwai yn 'balance of trade.' Yehydig oedd yn bresenol. yn y cwrdd hwnw yn gwybod gwell, ac i ddweyd Na, na.' Wrth gwrs, yr oedd yr ychydig hyny yn chwei thin' am ben anwybodaeth Mr Seddon, ac yn synu fod mor lleied o wybodaeth yn dal safie mor bwysig mewn unrhyw wlad wareiddiedig. Mae Mr Chamberlain yn tybio fod digon yn y wlad hon lawn mor anwybodus ag yntau, neu ni fuasai yn eeisio gyru ofn y bwgan hwn arnom. Ymae pob un sydd yn gwybod rhyw- beth, yn gwybod mai nid mewn arian, ond mewn nwyddau y mae un wlad yn talu gwlad arall, ac hefyd pan wneir taflen mantoliad, nid mewn arian y telir y gweddill. Ojganlyniad, am bob nwyddau allforol nad yw yn myned i dalu dyled fiaenonol am fenthyg arian, mae yn rhaid adforio gwerth yr un swm, Felly, mae cyfyngu adforio yn golygu hefyd cyfyngu allforio i'r un swm.; ac y mae lleihau masnach dramor yn golygu lleihau dos- raniad Hafur, a hyny yn dwyn cyfalaf a llafur o elw mwy, i elw Hai. Daw amryw ereill o anhawsderau ac anfanteision gyda chadw masnach dramor allan a chyfyngu ar drafnidiaeth rhwng gwlad a gwlad, na chaf amser i s\lwi arnynt yn bresenol. liae yn hysbys i'r rhai sydd yn talu sylw i bethau fel hyn, nad oes dim aur i'w gael yn y wlad hon gydag eithriad byehan o aur Meirionydd o ganlyniad, pe bai yn I rhaid i ni dalu am ein nwyddau mewn aur, neu hyd yn nod talu gweddill taflen mantoliad ar ben blwyddyn, buan yr elai yn ddyryswch masnachol arnom. Mae trai a llanw arian bathol yn rhy ddistadl i ivneud llawer tuag at setlo cyfrifon rhwng cenedloedd a chenedloedd. Anaml y ceir unrhyw wlad yn meddu mwy o arian Pathol na'r hyn sydd yn angenrheidiol arni at achosion eyffredin cartrefol; ac nid yw fyth yn allforio y cjfryw. Ilefyd, nid yw y gwledydd yn ystorio arian sydd ganddynt dros ben i'r cylch- rediad cyffredin. Peth peryglus iawn yw i unrhyw wlad ymyryd a chylch cyffredin arian bathol mewn atal neu gynyddu y swm. Tyner allan ychydig o aur, mae hyny yn codi yr interest a phris y nwydd- au yn gostwng, a hyny yn esgor ar amser tlawd, ac mae gormod drachefn yn tynu i lawr bris arian, a chodi pris pethau eraill allan o gyrhaedd y werin, a hyny drachefn yn esgor ar amser tlawd. Mae hyn i'w weled yn ami yn ngweithred- iadau y Bank of England. Mae swm bach yn troi 'y fantol yn ami—mor dyner a byw yw y farchnad fel y mae dwy neu dair miliwn yn ddigon i beri galanas. Ac eto, mae digon o bobl i'w cael fel Mr Seddon, mor anwybodus a chredu i Pryd- ain y flwyddyn o'r blaen anfon cant [a chwech. deg o filiwnau mewn aur melyn alian o'r wlad i dalu yr hyn oedd ddyled- ns ar allforion i adforion. Ofn adforion yw dechreuad Diffyndoll- iaeth, heb ystyried fod yn rhaid adforio cyn y gellir allforio, ac y mae yn amhosibl gwneud un heb y llall. Mae adforio llawer yn golygu allforio llawer hefyd. Wrth gwrs, gwirionedd cynefin i lawer yw hwn; end y mae cymaint nad ydynt erioed wedi talu sylw iddo fel y mae yn hawdd i'r diffyndolhvyr eu twyllo. Yr ydym ni yma yn byw ar ynys fechan na allwn godi fawr o'n angenrheidiau arni, ac o ganlyniad, yr ydym yn gyfoeth- ocach wrth dderbyn nwyddau i fewn, ac yn dlotach wrth eu rhoddi allan. Felly, ein dyledswydd ni fel gwlad yw adeiladu llongau lawer, a thrwy y llongau hyny masnachu gyda gwledydd tramor, a dwyn i'n porthladdoedd gymaint fyth ag a allwn ddwyn yn .onest o gyfoeth y gwledydd hyny. Ie, mewn gwirionedd, dyna ydym yn ei wneud yn bresenol a thrwy y can- rifoedd diweddaf; a'r canlyniad yw fod yn ein haneddau gynyrchion bob gwlad o dan haul; a phob bin saw dd ar wymeb y ddaear. Mae ein llongau wedi gwneud yr ynys yr ynys gyfoethocaf yn y byd, er fod cynliyrfwyr yr ynys am Ddiffyndolliaeth y dyddiau hyn wedi annghoiio hyny. Mae yn yr ynysoedd hyn ddwy filiwn a deugain o bobl, ac er ein bod yn codi llawer o'n bwydydd yma, nid ydym, ac nis gallwn godi agos digon i'n digoni. Nid yw hyny am nad ydym yn codi cym- aint ag yn y dyddiau gynt, ond am fod y boblogaeth yn cvnyddu mor lawr, ac yr ydym yn bwyta mwy o fara a chig y pen yn awr nag yn y dyddiau gynt. Mae yn wir nad oes genym ond haner y ddaear yn awr dan wenith, ag oedd dri deg o flynyddoedd yn ol; ond ar y Haw arall yr ydym yn cynyrchu llawer mwy o gig a llaeth. Pe byddai i ni heddyw roddi cymaint o ddaear dan wenith ag oedd yn 1870, pan oedd pob cae dan wenith, a allai ei gynyrchu gyda ryw gymaint o elw, ni fyddai hyny ond rhan fechan o'r hyn sydd arnom eisieu. Hefyd pe byddai i ni fyned yn ol i gynyrchu cj maint o wenith a'r blynyddoedd a nod- wyd, byddai hyny yn golygu lleihad mawr mewn cig a llaeth, ac wedyn byddem yr un mor ymddibynol ar wledydd tramor ag ydym yn bresenol. Yr wyf yn gwybod fod dosbarth o weithwyr yn cael eu camarwain gan yr ymhonwyr hyn sydd yn credu mewn Diffyndolliaeth, y byddai toll ar yd yn ddigon o orfodaeth ar y wlad hon i grdi v wlad yn hollol annibynol ar wledydd ereill parth bwyd a diod. Ni fyddai derbyn cynyrchion y Trefedigaethau yn ddi-doll yn rhoi un math o orfodaeth ar amaeth- wyr Prydain i godi mwy o wenith, pe bai yn bosibl iddynt ein diwallu gyda yr holl fwydydd ydym yn gael o wledydd ereill. Y gwir yw, y byddai Ffafr-dolliaeth i'r Trefedigaethau yr un peth yn ei effaith a tholli pobpeth ydym yn dderbyn dros y mor, oblegyd nid yw cynyrch y Trefedig- aethau ond rhan fechan o'n bwydydd, a phe bai yn cael ei dorri ymaith yn hollol, ychydig fyddai ein colled. Os eaiff y diffyndollwyr eu ffordd, bydd y Trefedigaethau yn gallu hawlio arnom grogbris am ein holl fwydydd, ac yna bydd eu holl fanion yn cynyddu ar draul haner newynu llu o weithwyr y wlad hon. Wrth hyn, gwelir yn eglur mai Masnach Rydd yw y mwyaf manteisiol i gyfalaf a llafur, ac fod Diffyndolliaeth yn dwyn cyfalaf a llafur o faes naturol a llwyddian- us, a'u gwtkio i feusydd annaturiol a cholledus, nas gellir eu gweithio gydag elw heb Ddiffyndolliaeth, yr hyn sydd yn rhoi uchelbris ar anghenion dyn, ac yn cau allan ddosraniad llafur, a chan bob gwlad yn ei hunigrwydd ei hun. Masnach Rydd sydd yn ein galluogi i ddal ya well o dan gyfnod o farweidd-dra masnachol, a hyny gyda mvvy o yni na'r gwledydd hyny lie mae Diffyndolliaeth yn teyrnasu ynddynt.

Geiriau Doeth.¡

[No title]

- PENRHIWCEIBR. I I I --I

TONMAWK PRIZE DRAWING.

CWMBACH.

,Crefyddol.

CERDDORIAETH.

ER COF

[No title]

Advertising

[No title]

URDDAS A GWERTH LLAFUR.