Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
ABERDAR A'R FASNACH FEDDWOL.…
ABERDAR A'R FASNACH FEDDWOL. MRI GOL Cwynir yn arc! fody beichiau yn drymion ac anhawddeu dwyn. Dylasem, gan hyny, wneud pob ymdrech deg a chyfreithlon i symud beichiau afreidiol y cwynir genym o'u herwydd. Diau mai beichiau o'n gwueuthuriad ein hunam a. ddylai gael ein sylw blaenaf. Addefir gan bob meddwl diragfarn nad oes dim sydd yn twasgu mor drwm arnom &'r fasnach mewn iodydd meddwol. Yr ydych chwi y dirwestwyr o hyd yn ymyraetb â, hawliau y dynion. Onid oes gan bob dyn ryddid i wneud fel y myno mewn gwlad rydd ? Bwyta ao yfed faint a'r peth a fyno. Nid gwiw siarad, y mae y rhyddid hwn yn rhywbeth cynhenid ag sydd yn pertbyn i bob dyn sydd yn byw yn y wlad hon. Fe ganiata y darllenydd i mi nodi ychydig ffeithiau yn frysiog ag sydd yn taflu amheuaeth mawr ar y fath honiad. Wrth ryddid y deallaf, oaniatad iddo wueud a mwynhau pob peth sydd yn werth iddo ef a'i gyd-ddynion i wneud, a hyny yn y fath food na fydd yn atal na luddias mwynhad a buddiant pobl ereill. Y mae yn bosibl i un arferid neu ddilyr galwedigaeth a fyddo yn dwyn elw iddo ii hun, ond fod dygiad yn mlaen y cyfrw alwedigaeth, nid yn unig yn niweidiol i un person, ond i luaws obersonau. Nid oes gan ddyn hawl i wneud fel y myno ag ef e hun na'i feddianai. ei hun—ei blant ei hu/—°s bydd hyny yn atal rhyddid cyffred- in Cytuna pawb bellach nad yw yn iawn y naill ddyn yn eiddo ^dyn arall. Pe dyn yn dewis gwerthn ei hun yn gaeth i ddyn arall, y mae y gyfraith wladol n rhwystro y fath gytundeb Y mae y rhyddid i weithu fel hyn yn cael ei warafun, a hyny er niwyn rhyddid cyffredinol. Nid oes gan rieni bawl neu ryddid i gadweu plant mewn anwybodaeth drwy eu cadw allan o'r ysgol ddyddiol. Digon hyn ar hyn yma. Y mae y Llywodraeth wedi ymyraeth, yn neillduol felly yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf, yn y cyfeiriad hwn, ac y mae ganddi hawl i ymyraeth & galwedigaeth a gweithredoedd dynion, pan y ceir fod hyny yn niweidio eysur a ffyniant y deiliaid yn gyffredinol Daw y Factory Act yn mlaen ar unwaith i ymyraeth a rhyddid cytundebau, fel a 4 i atal gwragedd a phlant i weithio gormod o oriau y dydd, nao yn rhy ieuanc, gan y byddant i ddyoddef wrth hyny anfanteision corfforol a meddyliol gymaint o niferi, fel y gwnaent niweidio yn fawr yr holl o gym- deithas. Ni cbaniateir i deuluoedd fyw mewn tai a. gondemnir gan y sanitary inspector fel rhai eyfyng ac afiach. Gallasem nodi lluaws o ffeithiau ereill" hollol adnabyddus i'r darllenydd, ac yr wyf yn eu nodi er ei adgofio a pharotoi ei feaaw ar gyfer Local Option Syr Wilfred Lawson. Prawf y ffeithiau a nodwyd nad oes ga y Llywodraeth hawl i drwyddedu ^asnach sydd yn gollwng ei lava dinys^° debygx Vef^ius^ ynemysPg y deiliaid. ferth a rhinweddol yn & J. Hvlwa; Iry'Kacblysu'r, jw, gwnend y llwybr i'r deiliaid i wneud da mor esmwy th IL y bydda yn bosibl, a gwneud y ffordd mor anb^wdd ag y byddo yn ddichonadwy iddynt i wneud drwg. Credwn yn ddiysgog fod canlyniadau ofn. adwy yr yfed yn galw yo uchel ar bob dyngarwr a Christion i wneud rhywbeth er gwaredu ein eyd. ddynion rhag trobwll mtddwdod. Deuwn bellach i sylwi yn fwy union- gyrchol ar ein testyn, set
ABERDAR A'R Fasnach FEDDWOL
ABERDAR A'R Fasnach FEDDWOL Qyda galar, rhaid addef fod meddwdod eto yn uchel ei ben yn ein plith, er fod yr amgylchiadau yn gyfyng. Oes, y mae yma ugeiniau o deuluoedd yn ddiamheuol heb fod yn cael eu digonedd o fara. Gresyn meddwl hyn, tra. y mae cymaint o arian yn cael eu gwaiio yn ein plith ar nwydd mor ddiangenrhaid a'r ddiod feddwol. Yr ydyna am alw sylw difrifolaf y darllenydd at y ffeithiao eanlynol cysylltiedig a'r fasnach honyn ein mysg. Yr ydwyf yn ddyledus i Mr J. Hughes, assistant oveneer, am y daflen ganlynol:— Poblog. Nifer Nifer Cyfan Nifer Ward, aeth y y tai a y tai swm y taf- census di gyfan gwag. nifer arnau weddaf. eddir. y tai 1. 7894 1592 385 1977 53 2. 8265 1590 145 1735 53 8. 8338 1708 111 1819 58 4. 11,017 2055 118 2178 24 °yfan- 35514 6945 759 7704 188 swm. Dealler fod Hirwaun a'r rhan hono yn Mountain Ash a berthyna i'r plwyf hwn yn gynwysedig yn y cyfrif uchod. Fel y gwelir oddiwrth y daflen nifer y boblogaeth yn 1880, pan y gwnaed y cyfrif- iad diweddaf ydoedd 35,514, a nifer y tai a gyfaneddirt yn 6,945; rhydd hyn tua 5 person ar gyfer bob ty. Y mae nifer y tafarnau yn 188. Y mae hyn yn rhoddi tafam ar gyfer pob 37 o dai; ac un tafarn ar gyfer 182! o'r boblogaeth Cyfrifir gwerthiant wythnosot pob tafarn yn y Deyrnas Gyfunol yn 10p., ond tybiwn fod hyn yn rhy uchel i dafarnau y plwyf hwn, felly gosodir hwynt genym yn ol 4p. 5s yr wythnos. Rhaid i bawb sydd wedi talu ond ychydig sylw i'r mater hwn addef fod y swm wythnbsol hytrach yn lsel, gan ei fod yn golygu diodydd, gwirodydd poeth- ion, gwinoedd-gwlybyroedd meddwl o bob natur ac enw. Fel y nodwyd, y mae nifer y tafarnau yn 188, a cbyfrif gwerthiant wythnosol pob un yn ol 4p 5s„ gwna y cyfanswm o 41.544p. punt yn y flwyddyn. Y mae gwerthiant blynyddol pob tafarn yn 221p, neu mewn geiriau ereill, dyma y awm a werir yn flynyddol gan bob 37 o dai, neu 182l o'r boblogaeth Wrth osod y 41,544p. ar gyfer yr 6 945 tai, rhydd hyn tua 6p. ar gyfer peb ty a gyfaneddir, neu Ip. 4s. argyfartal- edd y flwyddyn i bob gwr, gwraig, a phlentyn yn y plwyf! Hawdd i'r bechgyn a'r merched ieuainc sydd yn mynychu ein hysgolion dyddiol gael allan drostynt eu hunain a'u rbie»i a ydyw y ffigyrau a nodir genym yn gywir. Rhydd y mgyrau hyn olwg rhesymol ar ein sefyllfa, ond pan y cofiwn fod yma gan- oedd o deuluoedd nad ydynt yn cyffwrdd nac yn archwaethu y diodydd meddwol, fe welir ar unwaith fod pethau mewn llawer gwaeth sefyllfa yn ein mysg nag y gosodir hwynt allan trwy yr ystadegau uchod. Gorchwyl hawdd ydyw dweyd ac ysgrifenu 41,544p., ond nid mor hawdd wedi y cwbl ydyw ffurfio syniad priodol am y swm. Yr ydym wedi bod yn ceisio dyfalu pa beth allasai y plwyf gael mewn ffordd o gyf- newidiad am yr arian a werir ar ddiodydd meddwol yn flynyddol. Dymunwn alw sylw difrifoldeb ein cyf. eillion at yr hyn a nodir genvm isod, a meddwol fy hun, a cheisio darbwyHo ereill i wneud yr un fath ? Y mae y rhuban glas wedi bod yn offerynol i beri chwildroad yn y fasDach, ac yr ydym yn bur sicr mor fuan ag y byddo ei swyn i beidio, y ceir rhyw. beth yn ei Ie. Pe y gallem lwyddo i toddi terfyn ar yr yfed, gallasem &'r4l,544p. ddyfodifeddiant o'r petbau canlynol:— 3,000 o sacheidian o flawd. yn ol 2p. yr un, 6,000p 500 o ffircynau o ymenyn, yn ol §p. yr un, 2,500p.; 10,000 o bwysi o siwgr, yn ol 4c. y pwys, 166p. 13s. 4c.; 1,000 o bwysi o de, yn ol 3s. y pwys, 150p.; 1,000 o barau o ddiilad i feibion. yn ol 4p. y pâr, 4 OOOp.; 1,000 o wnau i ferched, yn dl 2p y par, 2 COOp.; 1,500 o blant yn cael eu dilladu, yn ol Ip. 10s. yr un, 2 250p. 5 o lyfrgelloedd, yn ol 600p yr un, 3,000; 3 o sefydliadau celfyddydol, yn ol l,000p. yr un, 3,000p 2 neuadd ddirwestol, yn ol l,500p. yr un, 3.000p.; 3 o feddygdai, yn ol 2,000p. yr un, 6,OOOp 2 o elusendai i ym- geleddu y tlodion a'r methedig, yn ol 2,OOOp yr un, 4,000p.; 5 oymolchleoedd, yn ol 500p. yx UR, 2,500p.; i'w rhanu rhwng gweddwon ac amddifaid y gweithwyr, 2 977p. ^sr ,°.G'' yn gwneud i fyny y swm anferth o 41,544p Dealler dyma y swm a deflr i r m6r marw, nid unwaith mewn oes, ondun waith bob bluyddyn yn mhlwyf Aberdar I Dylai y cysuron teuluol a chymdeithasol a gollir yn nygiad yn mlaen y fasnach mewn diodydd meddwol gael ein hystyriaeth ddwysstf. Rhaid fod dideimladrwydd barnol braidd wedi meddianu dynion, omae gwnelid ymdrech i atal y gorlif dmystriol sydd yn gwneud ein holl bethau dymunol yn anrhaith. Galluogai y swm uchod i bob teulu yn y plwyf i gymeryd pythefnos yn y flwyddyn i yroweled a. glanau y mor, y ffynonau, neu ryw leoedd cyffelyb, er ategu lechyd. Cadwai bob teulu yn y plwyf mewn Ilun. iaeth un mis o bob blwyddyn. Y mae y ffeithiau uchod yn parotoi y ffordd i ni alw sylw ein cyd ddynion, a cheisio ganddynt ddyfod allan megys un gwr o blaid mesur Syr Wilfred Lawson, sef Rheoleiddiad LIeol (Local Option). Y mae y mesur hwn wedi cael mwyafrif y Senedd o'i blaid ddwy waith yn barod, a gall pawb fod yn bur sicr ei fod yn berffaith gyd. weddol a synwyr cyffredin. Gan fod treul- iau y fasnach i gael eu dwyn gan y treth- dalwyr, dylai yn ddiamheuol fod ganddynt lais yn y mater. Yr ydym yn cymhell ein cyd-ddynion i yrowrthod a'r ddiod, ac ar yr un pryd yn galw ar y Llywodraeth i symud y ddiod otidiwrth y bobl. Y mae y naill a'r ilall yn rbedeg yn yr un cyfeiriad. Nid oes un gwirionedd yn fwy eglur na bod y fasnach hon yn difa nerth ac adnodd. au y genedl Ai nid un o brif ddybenion sefydliad Llywodraeth Wladol ar y cyntaf oedd amddiffyn personau, meddianau, a chymeriadau y deiliaid ? Edrycher ar ein Llywodraeth yn ngoleuni y fasnach feddw. ol I Onid ydyw yn myned o dan wraidd bob un o'r amcanion uchod, wrth ei gwaith yn dwyn i fodolaeth, ac yn parhau i am. ddiffyn ac ymgeleddu masnach ag sydd yn ymborthi ar waed a ohyrff, a dinystr. eneid. lau y deiliaid ? Wrth derfynu caniateir i mi ermwynein oysur personol a'n ffyniant cymdeithasol, i anog pob gradd a sefyllfa i roddi help Haw er rhoddi terfy n ar y fasnach mewn diodydd meddwol, a tbrwy hyny i symud o'r neilldu un o'r atalfeydd Qadarnaf ac effeithiolaf ar ffordd llwyddiant addysg, moesoldeb, a chrefydd. y Trecynon, J. W. »
Y JUNCTION FAWR.
Y JUNCTION FAWR. Mbi GOL.Rhyfedd fel y mae pobl yn gwahaniaethu mewn barn o berthynas i'r ffordd t;ffeithiolaf i gyrhaedd enwogrwydd, a sylw cyffredmol y byd. Tybia un dos- barth mai trwy feddiann aur ac arian— gyfoeth lawer-y mae cyrhaedd y nod hwnw; tra y dywed ereill mai trwy ostyng- eiddrwydd, a dyrchafu eu cyd-ddynion, y derbyniant yr ad. adaliad goreu; ac yn mysg y gwahanol ddosbarthiadau yna, can- fyddwn ami i fodyn ymffrostgar, hirwyntog, yn estyn bys i fyny, fel pe am ddwyn ei hun i sylw, ar draul iselbau ei gyd raddol. ion, trwy ddefnyddio iaith isel a brwnt. Dyna ydyw right training ignorance- intermedium i ddangos prif nod arwydd gwendid t Onid swn fel hyn sydd gan bobl y dyddiau presenol? Ond heb rhagymad roddi cyhyd a llinin mesur teiliwr, sylwn yn fyr ar ysgribliad yr orael I Sylwedydd' yn y rhifyn diweddaf o'r Dabian. Yn awr, o bosibl fod y darllenydd wedi gollwng dros gof parth yr ysgrif hon, dyfynwn ychydig frawddegau fel enghreifftiau, a dyma un o honynt:—' Soniais yn ddiweddar am un o irregularities yr Eglwys Wladol yn y lie, (gwarchod pawb) sef cynal cyngherdd er mwyn cael elw i'r Curacy Fund, (purion) ond dyma beth fwy irregular mewn cysyllt- iad a'r Eglwys, ond mewn lie arall.' Lied dda, yn wir, Mr Sylwedydd;' ond carem gael eglurhad ar y syniadau yna, oblegid y maent yn ddigon i fwydro ymenydd yr erthyglydd dwfndreiddiol ei huh. Can.. T iataedi ni ofyn, pa irregularities ganfyddodd ei lygaid treiddgar yn hynyna ? Onid oes yr un hawl gan yr Eglwys i gynal ei chy. ngherddau ag sydd gan y gwahanol enwad- au ? Aijtybed nad ydyw em hoffeiriaia yn cyfranu yn helaethach na holl Eglwysi yr Esgoboeth tusgaty Curacy Fund ? Ydynt, xgyda rheswm am hyny. Eto, beiddia 'Sylwedydd' ymdrin ar hyn nad ydyw yn gwybod mwy oddiwrtho nag a wyr bytheuad am athroniaeth t Os ydyw yn deall rhywbeth oddiwrth etholed- igaeth, nid yw hyna yn brawf digonol fod ei amgyffred wedi gafaelyd, a phrofiad wedi dyfod a'i deimlai i'r cywair priodol i'w alluogi i analiso a phwyso yr Eglwys yn ei chysylltiaa a'r hyn a nodwyd. Dygwn yn mlaen eto frawddeg sydd wedi ei gwisgo yn ei gogoniant perSeithiaf :—'Derbynloctd y fife band wahoddiad i ddyfod i'r Eglwys un prydnawn Sul, yn nghyda'u hofferynau cerdd.' Without interruption. 'Daeth y Sabboth, ac yno lie yr oedd y band aliflittes, a chwareuasant gyda'r gynulleidfa yn y lIe cysegredig.' Yn awr, dyma'r irregular- ities a barodd i Sylwedydd, i esgyn i'w judgment stat i gyhoeddi anathena uwch ben yr hen Eglwys lân. Cyn myned yn mhellach, arweiniwn Sylwedydd i Psalm cl. i gael prawf beth ddywed yPsalmydd, 1 Molwch Ef a tbympan ac A, dawns, molwch Ef a thanau ac ag organ,' onide? Ond dyna, nid oes eisiau i ni dreulio y foment leiaf i brofi hyna, oblegyd, efallai, y bydd « Sylwedydd can garediced a rhoddi i ni eglurhad ar y Psalm hona yr wythnos nesaf. « Byddai yn burion peth gael yr esgob i ail gysegru yr adeilad, os nad ydynt am ei droi yn Salvation Army Barracks,' medd efe. Wei, But y mae i ni gysoni y frawddeg yna yn ngwyneb yr hyn a ddywedwyd uchod ? Pa un ai y Psalmydd, ai ynte Sylwedydd sydd yn anwireddus ? Rbaid fod un o honyct, gan fod y blaenaf yn cymeradwyo yr offerynau cerdd, a'r olaf yn eu hangbymeradwyo I 0 yr ydym yn y glorian I Y mae yn gyfyng iawn o'r ddau du gan fod 4 Sylwed ydd' yn ddysgawdwr yn Israel, ac heb wybod y pethau hyn (?). Wel, ynte, little more consistency y tro uef-af, Mr S.' Yn awr, eymered Sylwedydd' yr awgrym hwn yn garedig genym; ac os medr, profed irregular. ities yr offerynau cerdd yn yr Eglwys, a gadawed ei sefyllfa gysegredig yn llonydd, canys nid tebygol y gwyr efe ddim am ei chymeriad crefyddol, Diolch i chwi, Mri Gol., am gyfran fechan o'r DARlAN i'r ychydig linellau yna. Gobeithio y caniat ewch gongl i draethu yn mhellach ar hyn, a phwy bynag a osodo ei fys rhyngom a fydd yn llai o'i ben.—Ydwyf. &c., Sylldrestedd.
Y DDAEARGRYN YN MERTHYR TYDFIL.
Y DDAEARGRYN YN MERTHYR TYDFIL. Na.wn dydd Mawrth, Ionawr 16eg, ychydig wedi pump o'r gloch, teimlwyd, a chlybu. wyd effeitbiau brawychus y ddaeargryn yn gyffredinol drwy y dref boblogaidd hon; ond yn fwy pwysig ac effeithiol yn ngwael- odion ein pyllau glo. Yn mhwll y Cwm, Cyfarthfa, mewn un dosVarth o'r lorfa, yr oedd effeithiau a dylanwad yr ysgydwad mor nerthol, fel y darfu i'r glowyr redeg oddiwrth eu gwaith fel yr oeddent, heb gymeryd eu dillad na dim gyda hwy, gan gredu yn sicr fod tanchwa ddycbgrynllyd wedi dygwydd yn rbyw ran bellenig o'r lofa Fel yna y dygwyddodd mewn amryw o'n glofeydd ereill yn y gymydogaeth hel- aeth hon. Nid oes hanes hyd yn hyn am un bywyd dyn ol-wedi ei golli yn nglyn a'r ddaeargryn hon. Gan hyny, molianwn yr Iôn am fyned heibio mor ysgafn ao mor dyner, a hyny yn ngherbyd brawychus y ddaeargryn. Y mae ein athronwyr yn methu cyd- weled o berchynas i achosoldeb y ddaear- gryn. Y mae rhai yn barnu mai ataliad damweiniol y dyfroedd islaw gwyneb y ddaear, y dyfroedd hyny wedi eu cydym gynull a'u cyffroi gan danau, ydynt yn allu g i ysgwyd y ddaear. Y mae ereill yn barnu mai y ddaear ei hun ydyw yr achos o'r ddaeargryn. Dywedant,' Pan y mae gwaelod rhyw barth helaeth o dir wedi ei dreulio gan rhyw hylyf islaw, yna syrthia y ddaear i fewn yn y fan hono, ac y mae ei phwysau yn ddigon i achcsi daeargryn yn y parthau cyfagos.' Dyna farn y dosbarth hwn o athronwyr sydd yn achosi daeargryn. Y mae ereill yn barnu mai yr un achosion sydd yn effeithio y daran ag sydd yn achosi y ddaeargryn, sef crynhoad o drydanau a nwyon tanllyd yn y gwagle islaw. Cyfeirir yn ami at y ddaeargryn yny Beibl. Pan groeshoeliwyd yr leau, cawn fod pob peth yn crynu, ond y Groes yn unig. Yn y ddaeargryn gwelwn fawredd 6n, I Nid yw hyn ond rhanau o'i ffyrdd ef Y mae Efe yn gwneuthur pethau mawrion nad allwn ni eu hamgyffred.' Y mae Efe yn gwisgo goleuni fel dilledyn. Gan hyny, nid yw yr haul mawr ond un o'r botymau bychain sydd ar odreu ei wisg Ef. Nid yw y fellten ond tywyniad o'i lygad Ef. Clywir ei lais yn y daran. Pan fyddo'r daran yn siarad mae'r byd yn gwrandaw— pan ddystewa y daran mae'r byd yn siarad. Clywir trwst olwynion ei gerbyd yn y ddaeargryn. Y mae genym hanes am adeg i ddyfod, pan fydd y ddaear oil, fel meddwyn serfyll, yn cael ei hysgwyd yn mhangfeydd daeargryn. Gweddiwn oil am sylfaen ar gadarn graig yr oesoedd.' Merthyr, Abeam Fabpd.
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. Y GENINEN. PRIS SWLLT. Nis gall un darllenydd Cymreig lai na gorfoleddu ar ymddangosiad y rhifyn cyntaf o'r Cylchgrawn Chwarterol Cenedlaethol hwn. Ie, Cenedlaethol. Mae rhyw swyn a thine iachus yn y gair. Mae Sectyddiaeth a'i bys mewn pobpeth braidd y gellir meddwl am dano. Mae Cylcbgronau da iawn ar y maes er's blydyddau lawer; ond y mae arliw Sectyddiaeth ar yr holl. Nis gellir beio cefnogwyr y cyfryw am hyn, gan eu bod wrth hyny yn gwneud rhan fawr tuag at gyrhaedd amcan eu bodolaeth. Y mae ami gynyg wedi ei wneud o bryd i bryd i gael Cylchgrawn Cenedlaethol, un y gallai pob Cymro, bydded Eg,wyswr neu Annghydffurfiwr, Credadyn neu annghred- adyn, gydgyfarfod yn un Ilwyth o ran eu meddyliau. Rhywfodd neu gilydd, yr oeddem fel cenedl heb un cyfrwng o'r fath er's talm hir bellach. Ond dyma y GENINEN wedi gwnend ei hymddangosiad; a mawr fydd ein cywilydd fel cenedl, os na oha y gefnogaeth fwyaf gwresog. Mae y rhifyn cyntaf sydd ger ein bron yn un rhagorol mewn pob ystyr Y mae braidd yn rhy dda i ni allu dysgwyl i'r rhai can. lynol fod yn ogystal. Rhedwn yn frysiog dros gynwysiad y rhifyn, fel y deallo y darllenydd beth yw ansawdd y cyfryw. I ddechreu wrth gwrs, ceir y Rhag-gyf- archiad. Ar ol hyn ceir ysgrif ddyddorol iawn ar y Geninen ''—arwyddlun Cenedl. aethol y Cymru, gan Llew Llwyfo. Awdl 'Ieuenctyd' gan Ellis Wyn o Wyrfai sydd gyfansoddiad pert iawn. Ymddengys mai yr awdl hon cedd yr ail oreu yn Eisteddfod Genedlaetbol Caernarfon, 1877. Er fod hon yn awdl o deilyngdod uchel, prin y gallwn ddygymod a'r ffaith ei bod yn deilwng o un o warcheidwaid safon uchel Dinbych. Ysgrif ddarllenadwy iawn yw eiddo Kilsby Jonos ar 'Pa un ai mantais neu anfantais i Gymru fyddai tranc yr Iaith Gymraeg?' Ymddengys y ceir atebiad i'r ysgrif hon yn y rhifyn nesaf, a gellir dys. gwyl am ddadl ddyddorol. Mae Kilsby yn anterth ei nerth yn rhesymu mai mantais i Gymru fyddai tranc yr hen Iaith. Yn wir rhaid bod yn Gymro i'r earn cyn y gellir amheu ei osodiad, a rhaid cael meddyliwr glew i wrthbrofi yr hyn a ddywed. Diwrnod cladd Syr Huw Owen sydd ysgrif ddesgrifiadol a llawn o deimlad gan W. Cadwaladr Davies. Mae deuddeg Toddaid Gwilym Eryri ar Ddeuddeg Sir Cymru' yn rhai gorchestol. Chwaeth a Beirniadaeth sydd ysgrif o eiddo Cynfaen. Heb un os nac oni bai, dyma y peth goreu sydd yn y rhifyn. Ysgrif ardderchog ydyw, ac yn fwy o werth na'r hyn a ofynir am y rhifyn i gyd. 'Llyfr Genesis a Llyfr y Dadguddiad' sydd ysgrif addysgiadol iawn o eiddo H. Cerniw Williams. Ceir llawer o bethau pert yn y darn awdl: Yr Haul yn baentwr anian' gan Dewi Wyn o Essyllt. Ond y mae yn y darn rai pethau yr ystyriai yr awdwr hwynt yn ffolinebau pe buasent wedi eu difelu dros ysgrifbin rhywun arall. Ysgrif olrheingar yw eiddo Glanystwyth ar'YrAifft.' 'Mynegiant' yw testyn ysgrif o eiddo y cerddor adnabyddus Peccerdd Gwynedd. Nis gall yr ysgrif hon lai na bod yn ddy- ddorol i blant y gan. 'Molawd Cantref y Gwaelod sydd eiriau Cantawd o eiddo Hywel Tudur' Gwyndaf Eryri' sydd fyr hanes o fywyd ac athrylith y bardd hwnw, wedi ei grynhoi gan Myrddin Fardd. Mae Hanes Eifionydd' gan Bleddyn, Nodiadau Hynafiaethol ar Sir Gaernarfon' gan Glan Menai, ac Hanes y Waunfawr' gan y diweddar Owen Williams yn sier o fod yn ddyddorol iawn gan breswylwyr y lleoedd hyny. Mae I UwyIliaid Cochion Mawddwy' gan O. M. Edwards, ac Heol- ydd Rhufeinig y Deheubarth' gan Giraldus yn ysgrifau dyddorol. Mae y Gweddillion Llenyddol,'sef darnau a weithiau Golyddan, Ab Ithel, &c., yn sier o fod yn dameidiau blasus i bawb. Bellach, Did oes genym ond anog ein eydgenedl i roddi i'r GENINEN y gefnogaeth a deilynga. Gallwn sierhau ein darllenwyr y bydd y Cylchgrawn hwn yn sicr o fod yn llawn gwerth y pres i'r eybydd Pfn „yn y wlad Y mae ysgiifenwyr blaenaf y genedl yn addaw ei gefnogi. Ac os na cha y GENINEN oes hir i wasanaethu y genedl Gymreig, nid bai y cyboeddwr na'r ysgrifenwyr a fydd hyny.
LLEIHAD CYNYRCHIANT GLO.
LLEIHAD CYNYRCHIANT GLO. LLITH IV.—GAN MABON. Y mae yn dda genym ein bod erbyn byn yn Neheudir Cymru wedi dyfod mor agos at ein gilydd, a'n bod yn cytuno ar leihad y cynyrchiant o fawn terfynau cymedroldeb, fel gallwn bellach ymdrechn myned rhagom. Yngymamt a bod pwyllgor cynrychiolwyr y gweithwyr wedi pleidio naw awr o fane i fane fel terfyn eithaf cynyrehiant i Fyawy a'r Deheudir, a bod cyfarfod Aberdar wedi penderfynu mabwysiadu yr unrhyw, der. byniaf finau yr un mesur, er mai fy marn bersonol i ydyw. y byddai atal y gwaith yn hollol am un diwrnod yr wytbnos-dydd Llun neu dydd Sadwrn-y' ffordd hawddaf ao effeitbiolaf i gyrhaedd yr amcan mewn golwg. Yn 1836 cynygiwyd i'r senedd fill, yn cynyg am leibau oriau rhedegiad peirianau mewn llaw Weithfeydd i ddeg awr y dydd, ablegyd ceid, tra y caniateid i'r peirianau redeg, y byddai plant yn cael eu cyflogi allan o amser, ac os na ellid rhwyatro y peirianau i weithio, mai ofer oedd gwneud cyfreithiau ereill ar gyfer plant a bechgyn ieuainc. Methwyd pasio y bill, a methwyd cyrhaedd meddyginiaeth hefyd. Felly, y mae arnaf ofn, y bydd gyda y naw awr o fane i fano, canys y mae hon yn oes y peirianwaith, a thra y gellir cael y peirianau i weithio, yr ager i fyny, a phethau ereill mewn trefn,.mwyaf oil fydd bnddianau y meistri oddiwrthynt trwy eu cael i redeg eithaf eu gallu yn yr un dydd. Fel y mae yn wybyddus, yr arferiad yn bresenol ydyw, ceisio tynu oddiwrth bawb a phobpeth, o dan gyflog sefydlog, yr holl werth sydd yn bosibl o fewn yr amser penodedig; ie, ac yn bresenol, gweithiant dros ben yr amser penodedig hwnw lawn mor ami, os nad yn amlach, nag y cedwir ato. Diamheu genym y ceir mwy o wrth- wynebiad oddiwrth y meistri ar y pen hwn nag yr ydym, fe ddicbon, wedi ei feddwl am dano. A chan y teimlir yn dra chyffredinol mai ofer oynyg heb eu cydweithrediad hwy, dichon mai nid anfuddiol fyddai edrych am y ffordd o weithredu a fyddai leiaf gwrth- wynebol ganddynt hwy Ofer yw meddwl fod y gyfraith yn fwy ffafriol i un cynllun na'r llall. Yn anffodus, nid yw y gyfraith yn ymyraeth ag oriau gweithio neb dros 16 oed; ymyraeth y mae yn yr achos hyny ar yr egwyddor a amddiffyn y sawl nad all ant amddiffyn eu hunafn; oDd am ddynion mewn oed, dysgwylia fod y rhai hyny yn ddigon call i wneud cyfreith iau amddiffynol, ac i fyw wrthynt. Am y ewestiwn o leihad oriau gweithio, amddiffynasom a chefnogasom ef er ys blynyddoedd bellach Gwyddoeb nad bon yw y waith gyntaf i ni sylwi arno. Gwnaeth- om hyny am ein bod yn llwyr argyhoeddedig fod" oriau birion yn gyfeilliedig Ag huriau byrion." Fe faddeua y cyfeillion i mi am ailargraffn y gofres yn dangos maint y cynyrch am yn agos y deugain mlynedd diweddaf, a nodi allan, at yr hyn sydd wedi ei ddangos yn barod, beth y mae yn ei brofi yn wirioneddol "Fe ddengys y daflen ganlynol gynydd y cynyrchiant, yn nghyda chynydd y cynyrch. wyr yn Neheudir Cymru er y flwyddyn 1864. Cyfanswm y mwnau a godwyd yn nosbarth Deheudir Cymru yn y blynyad- oedd canlynol:— m in Nifer v Tynelli o lo B1 Yio t ° rhai a fla 7 gvflos flwyddyn ar godwyd. g^ydg gyfer pob person. 1864 6,948,000 29,076 240 1865 — — — 1866 9,376.443 29,200 321 1867 9,092,300 26,300 3)0 1868 — — — 1869 — — — 1870 — — — 1871 9.120,000 37,960 240 1872 10,131,720 38.427 263 1873 11,961,529 46,564 256 1874 11.763,643 51.513 228 1875 10,274 645 51 248 204 1876 12,002,412 46,319 260 1877 11,889,210 44812 265 1878 12,257.294 43,934 279 1879 12,622.299 47.964 263 1880 15,536 654 50,416 308 1881 16261.281 53,432 304 Fe welir oddiwrth y daflen uchod fod y cynyrch ar gyfer pob dyn yn uwch yn 1866 na chynt na chwed'yn Y flwyddyn 1867 sydd yn canlyn ac yna 1880, gyda 308 o dynelli yn flynyddol. Ond yn 1881, mae y cyfanswm ar gyfer pob dyn yn lleihau pedair tynell yr un mewn cydmariaeth i 1880." „ Fe welir, yn mhellach, oddiwith yr un daflen, ei bod yn profi yr hen osodiad, mai "po fwyaf y byddai dynion yn ei weithio, lleiaf i gyd o dai, ar gyfartaledd y gwaith, a. g&nt am eu llafur." Cofler hefyd, mai 1866 ydoedd blwyddyn y panic ofnadwy hwnw, canlyniad yr hwn ydoedd, taflu holl -< olwynion masnacn a thrafnidiaeth i'r dyrys. wch mwyaf. Dygodd ar y wlad ddirwasg- iant trwm, a'r canlyniad ydoedd, i weith. wyr am flynyddoedd orfod gweitbio yn hir a chaled am gyflogau isel. Aeth pethau mor belled yr adeg bono, fel nad oedd mewn lluaws o lofeydd gorllewinbarth y wlad un rheoleiddiaeth ar oriau gweithio o gwbl. Ond mQr fuan ag y dechreuodd sefyllfa pethau wella, ac y cawd y 10 y cant codiad yn Mai, 1880, dechreiiwyd lleihau yr oriau gweithio, a daeth y cynyrch islaw 300 o dynelli y gwr am y flwyddyn bono. Gyda'r eithriad o'r rhan flaenaf o 1871, parhaodd yr huriau a'r oriau fwyhau, a'r cynyrch leihau; yn 1874 nid oedd y cynyrch ond 228 y gwr; ac y mae lluaws yn fyw heddyw a allant ddwyn tystiolaeth o wahaniaeth eu sefyllfa yn 1874 i'r hyn ydoedd yn 1870. Yn haner olaf 1874 dechreuodd pethau droi yn ol, nes yn 1878 yr oedd y gwahaniaeth wedi myned yn amlwg a theimladwy. Wrth gynyrchu 228 y gwr yn 1874, yr oeddem yn gallu byw yn gysurus, fel y gweddai i ni allu bob amser; ond wrth gy- nyrchu 51 o dynelli yn ychwaneg yn 1878, yn haner newynu. Mewn gwirionedd, trwy gynorthwy soup kitchens a relief committees y cadwyd ein haner yn fyw Gwedd arall ar y mater yw hon:—Yn 1874 yr oedd 51,513 o ddynion yn cynyrchu 11,763,643 o dynelli, tra yn 1878 nid oedd ond 43,934 o bersonau yn cynyrchu 12,257,294; neu cynyrchwyd yn 1878 fwy o 493,651 o dynelli o lo nag yn 1874 gyda 7,914 llai o ddynion, ac mewn llawer llai o ddyddiau gwaith yn y flwydd- yn. O'r tu arall, gwelir .fod y sefyllfa yn newid unwaith eto, oblegyd nid cynt nag y dechreuwyd teimlo Iles gwirioneddol oddi. wrth y codiad pris diweddaf, nag y daeth y cynyreh i lawr bedair tynell y gwr yn 1881. I'm meddwl i, y mae y ffeithiau hyn yn profi mai ofer yw gorweithio na gorgy. nyrchu i geisio lliniara loesion cernodion deddf wedi ei thori, ond mai goreu po gyntaf y ceisir adferu y cyfartaliad rhwng y cyflenwad a'r galwad, yr hyn ydoedd prif amcan Cynadledd Leeds, a byny.er ceisio gwaredu meistri a gweithwyr rhag myned trwy gyfwng arall, pan fyddai masnach o dan yr angenrheidrwydd i wellhau ei hun. [Fe gyfeiriodd Mabon yn ei lythyr yr wythnos cyn y diweddaf at y pender- fyniad a wnawd yn Nghaerdydd ar yr an* nealldwriaeth rhyngddo a Mr D. Morgan. Mountain Ash, gan awgrymu fod D. Morgan wedi tori ar y cyfryw bender. fyniad, trwy fod Ilytbyr o'i eiddo ar yr annealldwriaeth wedi ymddangos yn y Dabian yr wythnos ganlynol i hyny. Y mae genym i dystio fod y llythyr hwnw nid yn unig yn y swyddfa, ond hefyd wedi ei gysodi, cyn i un penderfyniad gael ei basio gan eu cyd gynrychiolwyr yn Ngnaerdyda.—Gol.]
GLOFA Y DDINAS A'R CHECK-WEIGHER.
GLOFA Y DDINAS A'R CHECK- WEIGHER. Ymddengys fod gweithwyr y lofa uchod mewn cryn penbleth yn nghylch y check- weigher. Wedi iddynt golli yr hen un, pen- ododd pwyllgor y gwaith. prydnawn yr un dydd, ar osod un arall yn ei Ie- hyd oni chaffai y gwaith amser priodol i ail ethol dyn yn ei Ie. Gofynwyd caniatad Mr John Havard, y manager, i hyny, a chaniataodd Jntau ar unwaith. Ond mor fuan ag y aeth Mr Daniel Thomas y perchenog pre- senol, yr hwn y mae cymaint o son am dano, i wybod, anfonodd ef orchymyn i'r atal. bwyswr nad eedd i fyned yno ddim yn rhagor; felly y bu, ac mae y lofa heb yr un eto.—
BWRDD ADDYSG ABERDAR.
BWRDD ADDYSG ABERDAR. Mm. Gox.—Mewn rhifyn diweddar o'r Dabian gwelais hanes cyfarfod misol y glo. wyr, yr hwn a gynaliwyd yn Hirwaun, a sylwais fod un penderfyniad neillduol wedi ei gario yn nnfrydol gan y cyfarfod, sef ein bod yn dewis dan o'n plith fel gweithwyr I fod yn aelodau o'r Bwrdd lechyd am y tymhor dyfodol, a'r ddau ddewiswyd gau y oyfarfod oeddynt Mri D Morgan, Mountain Ash, ao Isaac Jones, Hirwaun. Yr ydym am arwyddo ein cydsyniad A'r penderfyniad trwy gyfrwng y DAMAN, ao yn credu hefyd mai cam yn yr iawn gyfeiriad ydyw, tc un ddylai fod wedi cael ei roddi genym er ya blynyddau. Credwn y dylai fod aelod neu ddau o blith y gweithwyr yn eisteda ar ein holl fyrddau, yr hyn a fyddai yn iechyd, a cheid mwy o gydymdeimlad a chydweith. rediad rhwng y gwahanol fyrddau a'r treth- dalwyr. Yr ydym wedi arfer rhoddi i fag. nachwyr a chyfoetbogion ein cymydogaeth- au yr hawl i wneud deddfau lleol, trefnu arian y trethdalwyr, rhanu tocynau i'r ty- lodion, a threfnu addysg i'n plant, nes yr ydym braidd wedi credu mai wrth gefn y counter, gyda'r pin ysgrifenu, ac mewn coffrau o aur ac arian y Mae doethineb a synwyr yn trigo, gan anghofio fod Duw wedi rhanu y pethau hyn rbwng pob dosbarth mewn cymdeithas. adawer i ninau, ynte, fel gweithwyr wneud ein rhan a'n dyled- swydd yn bresenol i sicrhau lie y ddau ym. geisydd hyn o'n plith yn Mwrdd Addysg Aberdar. Credwn yn sicr ei bod yn llawn bryd i ni ddyhuno a gwylio symudiadau y Byrddau Addysg, onide gosodir beichiau arnom nas gallwn eu dwyn. Yr ydym yn cwyno yn bresenol, ac nid heb lawer o achos, a gall Uawer o honom ddweyd mai trwm ac annheilwng iawn y bu llaw y bwrdd arnom; am hyny, gwyliwn. A. B. C.
'GWEITHIAU ALCAN CWMTAWE.'
'GWEITHIAU ALCAN CWMTAWE.' Mbi Gol.,—Yn eich rhifyn am Ionawr 18fed, ymddangosodd ypgrif dan y penawd uchod gan y I Cymro Coch.' Ar 01 i'r Cymro droi o amgylch gweithiau y Cwm, y mae fel y pryfyn yn troi o gyich y ganwyll yn neidio o'r diwedd i ganol y tan yn Ynys. meudwy. Hawdd dtall mai dyma y fan oedd yn gofidio y brawd bach diamynedd. Cwyna ei fod yn methu cael gwaith yno am nad oedd y gaffer yn 4 cyflogi neb ond dir. westwyr.' Nid yw yn ein hysbysu pa un ai gaffer y tinhouse ynte'r melinau sydd wedi pechu yn ei erbyn. Dylasai ein hysbyan mai Mr Llewelyn Michael, goruchwyliwr y melinau, oedd nod ei saethau, Nid ydwyf li o nifer y rhai hyny sydd yn arfer plygu mewn gwaseiddiwch wrth draed y gaffer, ond ar yr un pryd y mae yn ormod o beth i mi eistedd yn llonydd, a gweled un yn gwneud ymosodiad bawaidd a chelwyddog ar ddyn sydd mor barchus yn mhhth yr alcanwyr a Mr Michael. Nid oes ond ychydig o alcanwyr nad ydynt yn adnabod Mr Michael fel goruchwyliwr caredig ac unplyg, ac y mae gwaed pawb o honom yn
.'.... EISTEDDFOD ABEBAFON.
gallwn ganmol, y mae'n amlwg fod u- ftngen arno ymgydnabyddu a'r esiamplau goreu yn y dosbarth hwn o gyfan- soddiant. Auber, No. 1 a 2.—Gallwn feddwl fod Auber yn feddianol ar awen gerdd- orol; y inae alawon y ddwy don yn dda. Trueni na fuasem yn 'cael rhagor o am- rywiaeth yn mydr (rhythm) yn alaw No 1. Tua diwedd No. 1 hefyd cawn berth- ynas rhwng yr alto a'r tenor, n6d arwein- iol y gyweirnod yn cael ei leddfu yn y tenor: yn lie yr alto. Yn No. 2 cawn un enghraifft boenus ychwanegol o fai lied gyflredin yn y gystadleuaetb, sef dylyn; iad o gyfryngau perffaith rhwng y prt leisiau. Dr. Howard yn E Flat.—Unsein;au dichwaeth gyda'r Bass a'r Tenor yn ban 7fed. Anystwyth i'n tyb ni yw'r traws- gyweiriad i'r islywydd yn niwedd y don, ond rhaid canmol yr ymgeisydd hwn am yr ymdrech a ddangosir am nøwydd- Berlioz yn G.—Alaw a chyng^19^16^ gyffredin, ond cywir gyda'r eithriad o r gau berthynas rhwng yr Alto a r Tenor yn y frawddeg olaf. ,7 7 Boyce yn F—Ni thai defnyddio chord y 6-4 fel ei ceir yn nechreu ban y 4ydd. Y Bass yn symud yn rhy drwsgl tua di- wedd y d6n. Ymgais dda. Luther. Nid chwaethus dechreu y rhan olaf o'r don gyda'r un felodedd a'r rhan gyntaf; ac anfoddhaol i'r pen yw'r diweddeb ar chweched y cyweirnod yn y rhan gyntaf o'r don. Ewch rhagoch. ^Gibbon .—Ton wedi ei hysgrifenu 511 lied ofalus, ond pa fodd y diangodd y gau berthynas sydd rhwng yr Alto a'r alaw yn y drydedd frawddeg? Wrth derfynu fy sylwadau ar y dos- barth hwn, dymunaf ar ymgeiswyr y ddau ddosbarth wyf wedi sylwi arnynt i adfeddianu ei copiau yn ol, gan fy mod wedi marcio y gwallau. Y mae yn amlwg mai'r ddau oreu yn y*8^ 1ddos- barth ydynt Un o feib y Geraa ac Herman, y maent ar drothwy y dosbarth blaenaf. Dosbarth I.-Bla.enaf. Rossini.—Ton foddhaus iawn, ond heb ddigon o arbenigrwydd a. dyfnder teimlad. Brython.—Yr un yw Brython a Rossini gallwn feddwl. Nid yw Brython mor orphenedig a Bossini, er bod y ddwy yn hollol yr un arddull. Addolwr yn A leiaf.—AIa.w deimlad. wy, ond ychydig yn henaidd. Y mae'r gynghanedd hefyd yn ddiwall. Nid chwaethus i'n tyb ni yw'r ddau ddi- weddeb yn cael eu dwyn oddiamgylch gyda'r un moddion ar y llywydd. Y mae digon o gyfoeth mewn cynghanedd, fel,nad yw yn angenrheidiol i ailadrodd yr un ffurfiau yn barhaus. Cymered Addolwr yr awgrym yn garedig. Boyce yn F leiaf.- Alaw dda iawn, wedi ei chynghaneddu yn gryf. Nid wyf yn hoffi y disgyniad yn y Bass o'r 3ydd i'r nodyh arweiniol yn ban 6ed, er 01 fod fe ddichon yn gywir yn ol rheolau gramadegwyr, eto nis gall y Tenor a r Bass yn y ban a nodais lai na chynyrchu effaith anfoddhaol. Addolwr yn G leiaf.-Prif ddiffig y don hon yw ei bod yn rhy undonog. Cawn y ddwy brif frawddeg yn dechreu ac yn terfynu yn hollol gyda'r un gynghanedd a.melodi. Byddai yn well i'r Alto gadw ar y D na esgyn i F yn nechreu y 3ydd frawddeg hefyd. Yn sicr y mae naws grefyddol yn y don hqji. Ap Griffith.-Dechreua yr alaw yn hollol fel "Pererin" yn llyfr Ieuan Gwyllt, ond er hyny, ton rhagorol yw hon, yn fyw o ysbryd y cysegr. John Goss yn E.-Alaw rhagorol, yn llawn bywyd ac egni, a'r gynghanedd yn orphenedig. Dr. Howard yn F leiaf.—Mae'r don hon yn rhagori mewn rhagor nag un ystyr. Mae yma amrywiaeth ac unol- iaeth, ac hefyd defosiwn a theimlad rhagorol. Nid oes ynof y petrusder lleiaf i ddyfarnu y wobr i Dr. Howard yn F leiaf. Derbyniwyd eiddo West yn rhy ddi- weddar, ond perthyn hi i ddosbarth y 3ydd. Gobeithio y cymer y pwyllgor, yn nghyd a phwyllgorau, yr awgrym a rhoddir yn y gystadleuaeth hon, sef fod cymaint o ymgeiswyr am wobr mor lleied, yr hyn sydd brawf o'r awydd sydd yn y genedl am ymarfer yn y oyfeiriad hwn. Rbodder ynte fwy a waith i'r cyfansoddwyr cerddorol, o herwydd bernir pob cenedl yn yr ystyr gerddorol wrth ei chynvrchion. Hengoed, THOMAS PRICE.