Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
y E. WYTHNOS.
y E. WYTHNOS. CAWN fod mo ch ieuanc wedi colli ei hyw?d trwy 3yr; no oddiar bont y Crum- ln. Oymerou y dygwyddiad le nos .Perefc&r, ..aiJ by' m hyn nis gwyddus pa fodd. Y IAE vu ti wg genym ddeall fod gwoithfevd i he. rn Britton Ferry, yn > rl-ai ygweith. dros 1,200 o bersonau, i gae" fa hoM iu o hyn i ben pym- fcbegnoy, Y e hyn, at y drygfyd gwfithfaol sy<l\: wedi cymeryd lie yno eisio^s, yij. nc i torcalonus i'r trigol- iou. Fr.,Di'AvVK ay d lau diweddal, yu Sloau-street. Al: tawe, bu farw morwr oV euw BaiijpD'.i.i Austin, mewn can- Jyai«.d i yfed ca Jolic acid, yr hwn yr oedd ofe wed: bc: yn ei ddefnyddio. Yr ■oedd yn d& i mryw blant, y rhan fwyaf o'r rhai -v* i yn Llundain. 1: M 6.E tfrwyci "ad wedi cymeryd lie yv ngwei.tbi.iu ylor Oakland, Cali- irmift, trwy yr i-, n y lladdwyd un dyn gvk "jj, ft rhwng {7C a 60 o Chineaid. os SacX'.vtp. weddaf, yn George- ri,,iwdg wyth a naw o'r -yloch, pau oed.: y teulu wedi myned allan at eu iol negeseuau, torodd iladrcn i mown L y ddrws y cefn i'r ty, st%n iadr&ta ^uhyno bymtheg pwys o gig, yn nghyda ri vw swm o arian. Ni wytidui; iiyd yi: hyn pwy ydynt y iUvdron, DYWRT./ 'B fod werth 4,000,000p o ^yiatws wedf irei ;u yn yr Iwerddon y ifynsdd, av a ad ydyw yr ychydig a gaf- « "/d ond gwael o run ansawdd. BOBETJ t'yd'I I J,U yr wythnos ddi- v fxidaf, lladdwyd dyn ieuanc. o'r enw kYederick Charltou, 25 oed, yn y Great Westero, g< r Pontypridd. her Ar ws/ilod y p w 11 yooedd, ac heb fod ond 'f."h'Yd% w wrth y swydd. Un 's onn tViifianiB (wld wrth y gorchwyl t< m'en, ac vTed! c ^asrfpd a'i ddiwedd yr J.e, iaoda's^ j-.viau., Pan y camodd efe •j- •<* miaen i v uoud ei waith mewn cysyllt- >d i'r oaa> Geld wtdi disgyn, syrthiodd dara o 'o &r m ben oddiwrth y llwyth a esgyiiodd, gan el I add yn y man. X-K'iixwN fod y rhifyn cyntaf o'r Qe-, >Anen yTj e&sl y iath ddeibyniad yn y wiar], fel y ixiae eisioes alwad am 5rrdydd arg-c o hono, yr hwn a .UV.vn yv v anos hon. Dylai y b ddi^d ccnedlaethol gael cefn- I ofcaeili yr holl genedl. Y MA!- yv ^ua gjnym ddeall fod y i'r:rWe aicjg y.i nwynhau ei hun yn rbago'ol yn Oannea, Ffrainc, ac yn 5?vv*.v?.la yn gyflym y- awyr gynhes a di- ^•vii wlHo prydferth hwnw. rtn yr adroddiad sydd wedi ei WL sud c bar bed cr bauaf gwin Ffrainc 5: iddaf, ceir ei fodvn *7 ft gafwyd eriped yn I'i/ainc. Nid oedd y cynyroh ond ^^hvairr avoi- hfipor y cyfartaledd am yr ;:1 ayucdd ,'iiwftddaf. Y mae y cvr'-v/oiuaut. yn Ffrainc yn fwy 3»V'xrV-.g i'r wlad bono na chynyrchiacf gwen^tU ya y hon, canys y mae yno 5i auliwxi o er-vau o dir yn tyfu Bv.kr^'dd. yr tyn sN cld yn llawer mwy ftag vi v- \viad her: y i tyfu gwenith. Y ivwydd c tidd y pvii achos o'r methiant. *Y Exa-: yn ymdd&nf os fod y Pab wedi "icljlytbyr t wysig at offeiriaid Pabvudc; yr Ifverd ton, yn anog at tfca^elw<5Ji. Y mae y cylch- 5 hwr: wedi iynu allan mewn yr^>^gb:W nmth rhwng Iwerddon. Nid oe amh^aae h r.t>, :ha y cylchlytbyr tiiyianwa.o !1X v wf i.
........,.,..........-....-..-..'..,<"…
.<" AI Y "ANWYR. Byda LysbyS i ba b o beirianwyr y Ye y bydd cyfarfov cyffredinol yn cael cy .'ial y n ^Jg^3»nd^ c nos Sadwrnnesaf, rowwr'y F>- y dysgwylir i wyr Ciydrwh Sciwen, & Foxhole, i fod yn bMa<szo" g -r icd :,ryw bethau i fod o yfetvria^h. B- td y cyfarfod yn .Iwhmvtm chwecb r gloch ynypryd- Ni dd.311,y; dim arian ar ol hillncl awr wedi ci. ech, pryd y dys- i ba^b i ^.aK' >u dyledion 1 iyQy> OS qydd yn h VSQ.
-_.,---.+".,..-CEIiF A ;J…
-+" CEIiF A ;J ASNACH. Yr vdym y. c&e). id glowyr Gogledd Ovajra vn gdüogoJ dllduol i gynygiad üyncdltK:d.1:t:tjdE; lleihau y cynyrch- i&at ac aid yn.um:- y gweithwyr, ond eavm hefy 1 fod y n: ',tri yn gefnogol i'r m roth 3T mae ( gwyliad i rybudd- ioa aoJ on rhoddi < in un o'r dyddiau f!0F;f i weiti do pun niwrnod yr wyth- 4 vc lly chv. o>cb. riwN cvfarM a ;ynaliwyd gan gy. w,chloHy slbvrv Lancashire yn rwimslev, adydd n diweddaf, pen- dt tlyuwyd lleib-2»< cynyrcmaJ trwy ^aitlio pum' niv.- d yr wythnos, a bod y m.ri i gac: pi o'r penderiyn- iad. GV,"SITIIFIAI'W> L- .RN CYFABTHFA.—; X mae dwvfeiia, a ymtheg o ffwrnesi pyülo, yn y g •va.cL i. m, wedi cychwyn yr w./tb-aoa" Lou. ?' lydd hyn waith i kwet o wejfcliwyi ycbwaneg, at y i';At,i sy(1.J vuo yn br< -anol. CAKHDUI;. —Y iuae masnach y porth- Jadn. hwn am vr u;.nos a aeth heibio wtKli bod ya auarieroi o fawr mewn glo, ac ez,o. jnetbwyd ag anfon allan yn tryd'oTi vr hyn a -cchid. Y mae y pnsoedd wr, caa'yniad yn gadarn. < 'yfansswi-) y glo 1, allforiwyd oedd ^1289 o -Hxciii. CA? yi^vYDD O'r braidd y gallwyd Syftenwi y gat wad yn y porthladd hwn j'f wyfcbii>s ddi ana lo.
Y CYNLLWYNIAD TYBIEDIG YN…
Y CYNLLWYNIAD TYBIEDIG YN DUBLIN I LOFRUDDIO SWYDDOGION Y LLYWODRAETH. Y mae datguddiedigaethau rhyfedd wedi cael eu gwneud yn y prawf gohir- iedig mewn cysylltiad a'r cynllwyniad tybiedig yn Dublin i lofruddio swyddog- ion y Llywodraeth. Y mae 21 o Wyddel- od wedi eu cymeryd i fyny ar y cyhudd- iad o fod a llaw yn y cynllwyniad, tra y mae un o honynt, o'r enw Robert Farrell, wedi troi yn dyst yn eu herbyn. Yn ystod ei dystiolaeth dywedodd ei fod wedi ei dyngu i mewn yn aelod o'r frawdoliaeth Ffenaidd er ys saith mlyn- edd. Enwodd y swyddogion a'r lleoedd yr oedd y frawdoliaeth wedi bod yn ym- gyfarfod am y blynyddoedd a aethant heibio. Fod yr aelodau yn talu c. yr wythnos at y costau, tra y <&^reith. arall yn yr w^Vioddid allanar lent tuagat arfau, y SSaJSrST M aau gykh yn perthyn i'r frawdoliaeth, sef y B's a'r C's—y ddau gylch yn cyfarfod ar y Sabbothau. Tra yr oedd David Curley yn llywydd y cylch y perthynai efe iddo, ei fod wedi gofyn iddo am ddyfod yn aelod o'r cylch mewnol, y rhai a ddewisid, meddai, o'r frawdoliaeth. I Curley ddweyd wrtho hefyd mai gorchwyl y cylch mewnol oedd bradlofruddio swyddogion y LJyw- odraeth. Fod hyny wedi cymeryd lie oddeutu 18 mis yn ol. Fod Curley wedi dweyd yn mhellach nad oedd y rhai a berthynent i'r cylch hwn yn adnabod eu gilydd; dim ond y rhai a fyddai ar eu deheulaw neu eu haswy. Dywedodd mai efe oedd ar ei ddeheulaw ef, ac y rhoddid iddo yntau y rhagorfraint o ddewia ei gyfaill ar yr aswy. Ei fod yn cofio unwaith iddo fad yn nghwmni nifer o'r frawdoliaeth, y rhai oeddynt y car- charorion o'i flaen, gan enwi y personau wrth eu henwau, a'r Ellis's Quay a Pem- broke Quay, ac i Curley ddweyd wrtho yr adeg hono i atal cerbyd y Prif Ysgrif- enydd ar y bont, gan ddweyd y byddai i Kelly a Joe Brady wneud y gweddill. Iddo weled cerbyd yn myned heibio yn fuan, ond trwy nad oedd efe yn ei ~A~W,WA, — 1:3.3 -t. 1 Iddo gly w«d Peter Doyle iweyo r wedi hyny fod y cwbl drosodd. Dywed. odd y tyst hefyd fod ganddo lawddryll y diwrnod hwnw, yr hwn a gafodd efe gan Curley, yr hwn a ddywedodd wrtho am fod wrth gongl John-street am bedwar neu haner awr wedi pedwar. Iddo fyned yno, ac iddo weled yr un personau ag a welodd efe yn y boreu. Yr oedd Curley yno, yr hwn a ddywedodd wrtho y byddai i gab a cheffyl gwyn ddyfod i lawr o flaen cerbyd y Prif Ysgrifenydd, y byddai i'r cab droi i John-street, ac yr ymosodid ar y Prif Ysgrifenydd ar y Quay. I'r cab a'r ceffyll gwyn ddyfod, ac ynddo ddau ddyn-un o'r enw Rankle, yr hwn a. ddywedodd fod y cerbyd yn cy- nwys y swyddog wedi myned. Iddo ef, Kelly, a Brady, fyned i'r cab mor belled a'r pare ar ol y Prif Ysgrifenydd. Iddynt weled y cerbyd yn troi i lawr tua Lodge yr Arglwydd Lieutenant,^ a tbrwy y glwvd Yna iddynt droi yn ol, gan Sel y cab ar y Quay, ac X hyny gymeryd He tua diwsdd Ma neu ddechreu Ebrill diweddaf. Yn mhen oddeutu pymthegnos wedi hy&y, iddo fyned i Brunswick-street, a gwelodd amryw o'r carcharorion yno, ac ar ddwy noson daeth y cab a'r ceffyl gwyn i fyny. Fod James Carey yn y cab, ac i Daniel Carey fyned a siarad ag ef. Ar ddiwrnod bradlofruddiaeth Phoenix Park iddo gyfarfod a Lawrence Haulon oddeutu un o'r gloch, yr hwn a ddywedodd wrtho fod Joe Brady a'r gweddill o'r bechgyn yn nhy Wreun yn Dame-street. Aeth yno, a gofynodd Joe Brady iddo pa bryd y gallai roddi heibio. Atebodd yntau, nid cyn haner awr wedi saith, pryd y dywedodd Joe y byddai hyny yn rhy ddiweddar. Iddo adael yr adeg hono, a myned at ei waith. Iddo dderbyn llythyr oddiwrth Joe Mullett ar y noson yr ymosodwyd ar Judge Lawson. Iddo gyfarfod a Dela- ney, yr hwn a ofynodd iddo a glywodd efe ddim dyeithr. Pan yr atebodd nad oedd efe, i Delaney ddweyd na fyddai efe yn hir cyn clywed. Ychwanegodd y tyst lawer o bethau pwysig ereill yn nghylch llofruddiaeth Mr Field, &c., y rhai sydd wedi taflu goleu ar y gweith- redoedd ysgeler a gyflawnwyd, ac wedi synu pawb. Y mae yr ymchwiiiadwedi ei oliirio eto am wythnos, fel y gall yr awdurdoda-u gael y tystiolaethau yn fwy cyflawn. Gomeddwyd cymeryd meich- afon dros y carcharorion am yr wythnos. Credir fod amryw o'r carcharorion wedi cynyg eu gwasanaeth fel tystion, ond llad yw y Llywodraeth wedi eu derbyn hyd yn hyn. Dywedir fod tyst- iolaethau pwysig i gael eu gwneud gan I Devine a Poole, y rhai a gymerasant law yn Uofruddiaeth Abbey-street. Y mae brawd Delaney, yr hwn a ymosod- odd ar y Barnwr Lawson, yn un or carcharorion. Y mae tystiolaethau hefyd i gael eu rhoddi mewn cysylltiad a'r cyllyll a gafwyd yn nhai rhai o'r carcharorion, y rhai, meddir, ydynt yr arfau a ddefnyddiwyd yn llofruddiaeth Phoenix Park. Y mae yn ffaith bwysig hefyd fod tri o'r carcharorion yn ateb yn gymhwys i'r desgrifiad a roddwyd o'r llofruddwyr yr adeg hono yn mhapyrau swyddogol yr heddgeidwaid, ac y mae yn obeithiol yn awr y ceir goleuni ar y weithred hono. Y mae pethau hynod i ddyfod i'r golwg.
TAN YN ABERTAWE-DAU BLENTYN…
TAN YN ABERTAWE-DAU BLENTYN WEDI EU LLOSGI I FARWOLAETH. Boreu dydd Sul diweddaf torodd tan dychrynllyd a dinystriol allan yn Lower Oxford-street, Abertawe, trwy yr hwn y collwyd dau fywyd, ac y difawyd llawer o eiddo. Y lie y torodd y tan allan oedd siop Mr Williams, masnachwr mewn eiddo man Birmingham a Sheffield. Y peth cyntaf a welwyd oedd coesau Mr Williams yn crogi o ffenestr yr ystafell gyntaf. Prysurodd rhai at ddrws y cefn, lie y cyfarfyddwyd a Mrs Williams a baban yn ei breichiau, ac yn gwaeddu allan, "Achubwch fy mhlant I" Yn fuan gwelwyd y bachgen henaf ar ym- daflu i'r heol, a llais bychan yn gwaeddu Mam! mam I" Cododd yr heddgeid- wad Williams yr ysgol i ffenestr ystafell, ac erbyn dringo i'w phen, gwelodd blentyn yn gorwedd ar ei gefn ar ganol yr ystafell, a'r fflamiau o'i gwmpas. Neidiodd y swyddog i ganol y tan, ym- aflodd yn y bychan, a chyrhaeddodd megys wrth groen ei ddanedd i'r ysgol drachefn a'r wobr ganddo. Codwyd ysgol yr un pryd at y ffenestri cefn. Aeth yr heddgeidwad Payne i fyny, a gwelodd ar wely yn nghanol y tan blentyn. Rhoddodd got o gwmpas ei hun, a dechreuodd ei ffordd, ond gorfu arno ddychwelyd. Estynwyd iddo sach wleb, ac wedi rhoddi hono am dano, gwnaeth ail gynyg, ond gorfu arno dra- chefn ddychwelyd heb y plentym. Ar hyny, rhedodd heddgeidwad ieuanc o'r enw Dee i fyny, ac yn ei wroldeb, aeth i'r ystafell, a daeth a'r plentyn trwy y Nanuau _at ^heddgeidwad arall oedd ar tin a aciiul>wyd gan Dee, ond a fu farw yn y clafdy. Llosgwyd bachgen arall 14 oed yn golsyn o dan y gwely. Y.mae yr heddgeidwad yn awr yn y clafdy mewn sefyllfa beryglus. Gallwyd rhoddi y tan allan erbyn pedwar o'r gloch, ond nid cyn i dy Mr Williams gael ei ddi- nystrio.
DAEARGRYN YN NEHEUDIR CYMRU.
DAEARGRYN YN NEHEUDIR CYMRU. Dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, oddeutu pump o'r gloch yn y prydnawn, cymerodd daeargryn le yn Neheudir Cymru a swydd Fynwy. Hyd y mae genym hysbysrwydd, efallai mai yn sir Fynwy, a'r rhan nesaf at sir Fynwy o sir Forganwg, y cafwyd yr amlygiadau mwyaf eglur fod y ddaeargryn wedi cy- meryd lie. Ysgydwodd lestri y rhai oeddynt yn hongian. Symudodd gad- eiriau fel pe buasent ar don fechan ar y mor. Symudodd ddrysau yn ddisymwfh. Crynodd ffenestri, pan y cymerodd swn disymwth Ie, fel pe buasai cart trwm wedi myned yn erbyn y muriau, yn mha rai yr oedd y ffenestri,y rhai a grynasant. Cymerodd y pethau hyn le yr un amser yn Rhymni, Tredegar, Abergafenm, Tref Fynwy, &c. Yn ol yr hysbysrwydd yn mhapurau newyddion Llundara, bu daeargryn yn Spain. Ymddengys felly fod y ddaeargryn wedi bod yn lied gyn- redinol, ond efallai iddo gymeryd rhyw un sianel arbenig mown amryw wledydd. Nid oes un athronydd yn gwybod beth yw achos naturiol daeargrynfaau. Y mae llawer o ddychymygu wedi bod gan athronwyr yn eu cylch, ond nid dychy- myg sydd yn setlo y ffaith fel y mae. Digon yw credu mai Creawdwr y byd sydd yn rheoli daeargrynfiiau.
LLOFRUDDIAETH YN LLUNDAIN.
LLOFRUDDIAETH YN LLUNDAIN. Oddeutu haner awr wedi pump o'r gloch prydnawn dydd Gwener diweddaf, cafwyd allan fod llofruddiaeth wedi cy- meryd lie yn No. 62, Bellhaven-street, Grove Road. Yn y boreu yr oedd Henry Hemmings wedi gadael y ty a'i wraig er myned at ei waith, a dychwelodd am ychydig wedi pump yn y prydnawn. Trwy nad allai fyned i mewn, ceisiodd fentiiyg allwedd, ac agorodd y drws, ac yno y cafodd ei wraig yn'farw mewn Ilyn o waed. Galwyd i mewn heddgeia- waid, a chafwyd allan yn fuan fod amryw fan bethau wedi eu hysbeilio o'r ty. Yn ymyl y corff yr oedd pocer trwm, ac yr oedd yn amlwg mai hwn oedd yr offeryn a pha un y cyflawnwyd weithred. Y mae llysfab y trancedig wedi cael ei gymeryd i fyny ar y dyb- iaeth o fod wedi cyflawni y weithred. Y mae tystiolaeth wedi ei chael ei fod wedi ei weled yn y gymydogaeth y prydnawn h vnw.
FFYNONAU OLEW YN SIR ,FFLINT.
FFYNONAU OLEW YN SIR FFLINT. Mewn llythyr o Ogledd Cymru dy- wedir fod darganfyddiad pwysig wedi cael ei wneud yn nglofa Elm, Buckly, sir Fftint. Fel yr. oedd dynion yn gweithio mewn lefel o eiddo Mri Wat- kinson, tarawsant wrth darddiant olew. Cawsant ei fod yn rhoddi goleu gwell nag olew yn gyffredin. Cafwyd allan darddiant arall yn agos i'r un man ar ddiwrnod arall. Dywedir nad yw y cyfanswm yn fawr hyd yn hyn, ond y mae yn ddigon i roddi rhyw obaith am ddyfodol gwell.
DRYLLIAD AGERLONG, A CHOLLIAD…
DRYLLIAD AGERLONG, A CHOLLIAD 300 0 FYWYDAU. Daeth yr agerlong Americanaidd Cim- bria, perthynol i Hamburg, a'r hon a adawodd y lie hwnw prydnawn dydd lau diweddaf, i wrthdarawiad ddydd Gwener, yn ystod niwl tew, ar dueddau Berkum, a'r agerlong Sultan. Suddodd y flaenaf yn fuan. Yr oedd ar ei bwrdd 380 o deithwyr a 110 o ddwylaw. Yr oil oedd wedi eu hachub, mor belled ag a wyddid pan y derbyniwyd y newydd oedd 60.
. YR AWYREN Y COLLWYD MR POWELL…
YR AWYREN Y COLLWYD MR POWELL YNDDI. Y mae Cymdeithas Awyrenol Prydain Fawr wedi derbyn bryshysbysiad yn hysbysu fod yr awyren Saladin a'r car, Jiriiqi.a aollwvd eyda Mr Walter Pnwpu yddoedd Sierra. Del Piedrozia, Spain. Y mae cyfarwyddiadau wedi eu hanfon i Ffrainc i gael yr oil wedi eu dychwelyd i Lundain.
FFRWYDRIAD MEWN GWEITHFA BYLOR.
FFRWYDRIAD MEWN GWEITHFA BYLOR. Yr ydym yn cael fod ffrwydriad wedi cymeryd lie mewn gweithfa bylor yn Mniden, lie y lladdwyd un-ar-ddeg o bersonau, Yr oeddid wedi dyfod o hyd i ddeg 0 gyrff. Yr oedd tri ereill yn eisieu, tra yr oedd naw wedi eu niweidio. Yr oedd y rhan fwyaf o'r lladdedigion yn wyr priod-un yn gadael gweddw ae 11 o blant. Bu farw un dyn ieuanc 19 oed o ofn. Yr oedd y stoc o bylor yn fawr. Yr oedd 15,000 o kilogrammes yn barod i'w hallforio i Affrica. Bernir i rhwng 60,000 a 80,000 kilogrammes ffrwydro.
. NIWEIDIO AMAETHWR YN PEN-DERYN,.
NIWEIDIO AMAETHWR YN PEN- DERYN, Y mae helynt wedi cymeryd lIe yn Mhenderyn, swydd Frycheiniog, rhyw saith milldir o Aberdar, sydd wedi achosi llawer iawn o siarad yn y parth- au hyn o'r wlad. Ar y 30ain o'r mis di- weddaf, aeth hen wr o'r enw Jenkin Morgan, am aeth wr, i Bodwigiad House, ty ei feistri tir, y rhai hefyd ydynt berthynasau iddo. Ei neges oedd cyf- lwyno iddynt ddernyn o spare-rib y mocbyn cyntaf a laddodd. Tra. yno gorfodwyd yr hen wr i yfed gwirodydd' cryfion, trwy y rhai y collodd efe bob ymwybodolrwydd. Yna cyflawnodd y Mri Harris y gweithredoedd mwyaf ynfyd, cigaidd, a barbaraidd ar yr hen wr, manylion y rhai sydd ry ffiaidd i'w cyhoeddi. Nid oedd yn ddigon ganddynt i dori pob blewyn oddiar ei gorff mor fyr ag y gallent, hyd yn nod aeliau ei lygaid, ond niweidiasant ef yn gorfferol, a hyny yn ei ranau mwyaf dirgelaidd, fel o'r braidd y meddyliwyd y buasai yn cael adferiad. Y mae yr amgvlchiad wedi creu atgasrwydd mawr yn meddyl- Ian pawb at y gweithredwyr barbaraidd, a phawb am eu gweled yn cael eithaf y gyfraith yn ad-daliad. Y mae yr am- gylchiad hwn eto yn dweyd yn eglur nad aur yw pobpeth sydd yn dysgleirio. Deallwn yn awr fod gwys wedi ei chymeryd yn erbyn y gweithredwyr, a'u bod i'w dwyn o flaen yr ynadon yn Mhenderyn ddydd Gwener nesaf. Y mae yn dda genym ddeall fod Jenkin Morgan yn gwella, a bod pob gobaith am ei adferiad. Hysbysiad arall a ddywed fod y :Mri Harris wedi gadael Treferig nos Lun, ac na wyddus yn iawn i ba Ie, ac nad ydynt yn meddwl fod yn breseuol o flaen yr ynadon dydd Gwener. Dywedir yn mhellach fod perthynas yn Nghaerdydd wedi paratoijjar gyfer eu henciliad.
Y TANAU MAWRION YN BWSIA'
Y TANAU MAWRION YN BWSIA' Oddiwrth y manylion sydd wedi cyr- haedd o Kiel yn nghylch y tan dychryn- llyd a gymerodd le yn y circus yno, cawn fod 280 o gyrff wedi eu cael yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, o'r rhai yr oedd 150 yn Iuddewon. Mewn can- lyniad i'r gofyn am goffiniau, cododd prisiau y rhai hyny o saith o rohbles i ddeugain, ac mewn canlyniad i hyny, gorfuwyd claddu cymaint a dau a thri o gyrff yn yr un coffin. Y mae tan dychrynllyd arall wedi cymeryd lie, a dinystr mawr wedi ei wneud ar feddianau yn Perm, prif ddinas rhanbarth o'r un enw. Torodd y tan allan nos Wener mewn gweithdy perthynol i gwmni reilffordd yno. Er gwaethaf pob ymgais, aeth y tan rhag- ddo hyd y boreu canlynol, a gwnawd dinystr mawr ar feddianau.
MORI-AH, PEN IRE YSTRAD.
MORI-AH, PEN IRE YSTRAD. Q„Vrf ffn' iSfed, traddodwyd darlith ar Dylanwad tiriondeb a charedigrwydd' gan y darhtbyddes enwog, Miss M A Williams, Blaenllechau. Gellir cael am. gyffred o burdeb chwaeth y ddarlithyddes yn ei dewisiad o destyn, ond yr oedd yn rhaid ei chlywed cyn cael golwg ar ei gallu i gyfansoddi. Yr oedd y ddarlith yn ddar- lith ar y testyn, ac nid ar bawb a phob- peth. Bu yn gymedrol a doeth yn nifer ei wits, y rhai oeddynt yn ohwaethus a phwr- pasol Traddodwyd yr oil yn hapus ac effeithiol. Trodd y ddarlith allan yn llwyddiant hollol. ac nis gallwn lai na dysgwyl iddi lwyddo hefyd i rhoddi galwad i Miss Williams i w thraddodi mewu llawer o fanau ereill.—CYFEILLES.
EISTEDDFOD CWMAFON.
EISTEDDFOD CWMAFON. Dydd Sadwrn diweddaf cynaliwyd eis- teddfod yn ysgoldy y bechgyn yn y lie hwn, dan lywyddiaeth y Parch R. Allen, Bryn- troedgam. Wedi araeth fer awd yn mlaen yn y drefn a ganlynCanu Nos Galan,' i Denor (Songs of Wales); 11 yn oystadln, a rhanwyd y wobr rhwng E. Samuel ac E. Jenkins, Cwmafon. Cerddi Cymru,' o'r Oerddor Cymreig; un parti, sef eiddo E. Samuel, ganodd, a chawsant y wobr. I Cryd gwag fy mhlentyn yw' (Alaw Ddu), i So prano. Canodd dwy, ac enillodd Miss Davies, Bryn. Canu I Daw meddylian am y nefoedd' (Emlyn); dau g6r yn cystadlu -goreu, c6r E. Samuel. Oanu I Y Morwr Lion' (J. Peters); saith yn eystadlu, a James Singleton, Taibaoh, yn oren. Nid oedd neb yn deilwng ar yr englynion i bust J. Shaw, a thebyg bust Shaw ychwaith ddim yn deilwng o englynion! Cystadleuodd lluaws ar yr adroddiad. 'Y Meddwl,' ondni chefais enw y buddugol. Y buddugol ar y gan oreu ar y I Manteision o ddyfodiad y Copper Miue Tinplate Co. i'r lie' oedd Mr B. A. Griffiths, Cwmafon. Cyfansoddi t6n ar y mesur hir; daeth 23 o dooan i law, a dy farnwyd y wobr i eiddo Neander, sef Ley. shon David, A.C., Taibach. Darllen tdn ar y pryd, i bedwar; tri parti yn cynyg, a'r goreu oedd eiddo E. T. Evans, Aberafon. Deuawd, Y Bardd a'r Afonig;' un parti ganodd, a chawsant y wobr, sef eiddo E. I Samuel. Canu y prifddarn, "Y Gwanwyn' (Gwilym Gwent); dau gor ganodd, sef un dan arweiniad Mr Thnmas, a'r llall dan ar. weiuiad Mr Joseph Richards, ond dyfarn- wyd y wobr i'r olaf. Beirniad y gerddor- iaeth oedd Mr D. L. Jones (Cynalaw), Briton Ferry; y farddoniaeth a'r adrodd, Mr D. Michael (Dewi Afan). Trodd yr eisteddfod allan yn llwyddiant perffaitli, a rhoddodd y beirniad lwyr foddlonrwydd i bawb.
-----+-----DOWLAIS.
-+- DOWLAIS. Diau y bydd yn uda gan lawer wybod am y gyngherdd sydd i'w chynal nos Ian, Chwefror y laf, yn yr Odfellows Hall, Dowlais, mewn cysylttiad a'r Dowlais Grammar School. Y mae hon i fod yn rhywbeth newydd yn y Deheudir. Bwriedir ei gynal yn ol trefn y Gogledd. Bydd Derwenog yno yn myned drwv gy^res o ganiadau domol, a phwy nad yw yn gwybod am y gwr rhagorol hwn ? A dyna Mr Owen Jones, y ventrdo- quist bydadnabyddus, 0 Gaeraarton. Bydd yn werth cerdd'ed ugain milldir i w glywed. Cymerir rhan yn y gyngberdd gan y gantores ieuanc rhagorol Miss Marian Price, Llun* dain—Dowlais gynt—yn nghyoa Miss L. Griffiths, Pwllheli, a Miss Rachel Jenkins, Dowlas. Yn sicr, gellir dysgwyl y bydd miloedd yn tyra i gael y fath wledd feddyl. iol a hon. Y mae teil\ ngdod yr achos yn gystal a'r stwff sydd i'w gynyg yn hawho hyny.—fi°Hi
Advertising
Y MAE D. Howells (Gwynalaw), U.C.W., Yn parhau yn agored i dderbyn engagements fel Tonor, i gymeryd rhan mewn Oratorios, cyngherddau, neu fel beirniad eisteddfodol. Cyfeiri*d Gwynalaw, Aberaman, Aber- dar.
Teilwng o sylw Pa,Wî" E
Teilwng o sylw Pa,Wî" E 920 Y CANT 0 LOG! AGERLONG NEWYF D. 1. Cymerwyd i fyny y shares yn ein t jfit* longau ereid mor gytlym, fel yr ydym • :UdI contractio am un arall, i fod yn baro<; Vz m6r yn Medi nesaf, 1883. Cost yr ager M- yw .825,600. 2. Bydd yr agerlong bon o'r gwneut ur- iad goreu, gan y Hong-adeiladwyr en vc-?, Messrs. Palmer and Co., J arrow on. T," 4' Y mae o bwys mawr i'r shareholders 1, yw adeiladwyr y llong, gan fod gwir werdj Hong fel gwir werth ty, yn ymddibynn ar yr adeiladaeth. Enw yr agerlong hon 'Anne Thomas." 3. Gallwn addaw gyda'r hyder mwyaf. y tal yr agerlong bon tua X20 y cant, efaUa? ychwaneg. Tra y mae llougau hwyliau I raddau mawr out of date, yn talu ond ychvi-ig neu ddim 116g, y mae agerlongau yn tali; yn well nag erioed. Hyd y Dod yn yr anj-.tr. oedd isel ar fasnach, yr oedd agerlot -a,7 Caerdydd yn talu tua £ 20 y cant v t.. flynyddol fel rhecl. Talasom i'n slit; holders yr haner blwyddyn diweddaf, yr, diweddu Rhagfyr 25ain,. 882, yn ol J624 y cant. 4. Bydd y llyfrau yn agored yn y swyddfft bob amser i'r shareholders eu harchwi'iv, a'r Policy of Insurance bob amser i'w gwt.•>,? er sicrhau na fydd yr un colled trwy h drylliad t. 5. Bydd y shares yn £100 yr un, ac .w talu fel y canlyn:— i s. d. 1 0 0 wrth anfon am share. 49 G 0 Medi laf, 1883. 12 10 0 yn mhen cbwe'mis wedi by jy, 12 10 0 yn mhen chwe' mis arall. 12 10 0 yn mhen chwe' mis arall. 12 10 0 yn mhen chwe' mis arall. Felly telir y share i fyny mewn c vf flynedd. Ond telir y lldg ar yr oU J'- amser cyntaf, sef Medi, 1883. Bydd hv-c yn el gwneud yn rhwydd i bawb sydd Sob ychydig arian ganddynt i ymuno. 6. Dealler nad ydym yn chargio Ixiu commission ar adeiladaeth y Hong, yr 1, yw yr arferiad cyffredin. Yr un fain. gostia y Hong i'r shareholders ag sydd rai ni dalu i'r adeiladwyr, sef £ 25,600. B3 hyn yn fantais fawr i'r shareholders z ddechreu. Y tal wedi hyn i ni fydd X2 1 (.tJ y cant ar yr holl enillion; holl eniU- y brokerage, &o., yn myned i'r shareholder Dymunwn alw sylw arbenig y shareholder atytelerau hyn, a'u cymharu & thelei firms ereill. 7. Bydd i'r 116g gael ei ddosranu ar pob mordaith, fel y gwybyddo y sharehold, o fis i fis pa beth yw enillion y llong. 8. Bydd a Hong ar egwyddor y Limii Liability Company, a ni ein hunain fydd shareht Iders mwyaf ynddi. Manteision pellach. H 1. Ceir pob manylion yn y prospectu H nen trwy ysgrifenn atom ni, mcgys enws H yr adeiladwyr, pris y llong, holl wneuthn ™ lad y llong, &c., &c., yr hyn ni cheir y management mor isel, tra nad ydym yn coc dim fel commission ar adeiladaeth y IlonE Gwyr pawb sydd yn hyddysg yn y pethau hyn y fantais fawr sydd yn y cysylltia4 hwn. 3. Gan y bydd y llong wedi ei insurio Y1 ei Uawn gwerth yn erbyn llongddrylliad t phob damweinian, ac hefyd unrhyw esgeu lusdra o dn y cabden, nid oes raid i nel ofni colli ei arian. Esgeuluslr weithian wnend hyny, ond fel sicrwydd i'r cyfran. dalwyr, aangosir y policy bob amser yn J swyddfa. 4. Yr ydym yn brofiadol hollol o longwr- iaeth yn ei holl gysylltiadau, ac yn adna- byddus a'r holl brif borthladdoedd. Y mae amryw o'r prif farsiandwyr yn Lloegr ac ax y Cyfandir wedi cymeryd rhanau yn ein llongan, ac yn anfon eirchion bob dydd am shares yn "Anne Thomas." 5. Y mae croesaw i bawb ymholi am ein cymeriadau yn Nghaerdydd; neu yn y National Provincial Bank of England, Caer. dydd, Pecybont, a Dolgelly. 6. Os dymuna neb am share neu shares, ysgrifenent atom ni i'r cyfeiriad isod neu llanwent y form sydd i'w gael o'r swvddfa* Y sgrifener yn fuan er sicrhau shares. Evan Thomas, Radcliffe & Co., BUTE CHAMBERS, CARDIFF.
Llhythyr Cymeradioyaeth.
Llhythyr Cymeradioyaeth. Yr wyf yn adwaen Cabden Evan Thomas a Mr Radcliffe yn dda, ac y mae genyf bob hyder yn eu medrusrwydd a'u gonestrwydd. Nid ydynt yn bobl i addaw yr hyn na allant gyflawni. Y rtae lluaws o'm cyfeillion yn shareholders ganddynt eisioes. Arwyddwyd, J. CYNDDYLAN JONBi. 2, Richmond Crescent Caerdydd.'
Advertising
«ymdrech a. lwydda.' « M6r o gan yw Cymru gyd.' Boys' Schoolroom. Cwmafon. I YNELIR EISTEDDFOD yn y lleuchod dydd bwener y Groglith, 1883. Beirniad: Mr Gwilym Thomas, Porth. Darnau Corawl. I'r cor heb fod dan 50 mewn rhif a. gano yn oreu O Father, whose Almighty Power,' gwobr £ 10. I'r cor heb fod dan 30 mewn rhif a gano yn oreu 'Mai' (John Thomas), gwobr £ '3, a Chromatic Pitchpipe i r arweinydd. Y programs yn cynwys yr oil facylion, i'w cael gan yr ysgrifenydd-Rees Morgan, Pwllygwlaw, Taibach. Berthlwyd, Quakers' Yard. 4 YNELIR EISTEDDOD yn y lie uchcd 4- dydd Llun y Pasc, 1883 Lly wydd,—■W. Beddoe, Ysw, Nelson. Arweinydd,-Parch E. Jones, Berthlwyd. Beirniad y gerddoriaeth,—MrDan Davies, A.C., Dowlais. Beirniad y farddoniaeth, &c ,—Mr Jobs Morgan, Treharris. Y oyfarfodydd i ddechreu am 2 a 6 c < gloch. Programs yn awr yn barod, 1 w cael gt41t yr ysgrifenydd am Ie yr un, trwy y post, llO. BEMJAMIN EVANS, Lewis Town, Treharris, Quakers' Yard.
DAMWAIN DDYCHRYN LLYD AR REILFFORDD-AMRYW…
DAMWAIN DDYCHRYN LLYD AR REILFFORDD-AMRYW WEDI EU LLOSGI I FARWOLAETH. Bryshysbysiad o New York a ddywed fod y gerbydres fuan o San Francisco, ar y Southern Pacific Railway, wedi cyfarfod a damwain ddychrynllyd yn agos i Los Angelos. Torodd y gadwen gysylltiol, a rhuthrodd rhan o'r gerbyd- res gyda chyflymdra dychrynllyd i lawr goriwaered am bedair milldir, ac wedi cyrhaedd y gwaelod, aeth bendramwn- wgl dros geulan uchel. Cymerodd y cerbydau drylliedig dan. Lladdwyd pymtheg o bersonau, amryw o'r rhai a losgwyd wedi hyny.
--LOGIN, GER GAERFTRDDIN.
LOGIN, GER GAERFTRDDIN. Nos lau, y 4ydd o'r mis hwn, traddodwyd darlith yn y lie uohod gan Mr G. Evans, Pensarn, ar y I Dyn Dall.' Etholwyd fleer y plwyf i'r gadair. T mae Mr Evans yn siaradwr llithrig, eglur, ac effeithiol. Byddai yn werth i bawb trwy y dywysog aeth glywed y ddarlith hon, er enyn mwy o gydymdeimlad tuag at yr anffodusion sydd wedi en hamddifada o un o brif gysuron y bywyd hwn, ac er symbylu y genedl i gyfranu at y sefydliadau daionus sydd wedi eu darparu ar gyfer plant yr anfantais sef y deillion. Sylwodd y darlithydd ar wahanol dymhorau o fywyd y dyn dall mewn dull toddedig ac effeithiol iawn. iloil li rro r* TT